Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Y Pafiliynau, Parc Hen Lofa'r Cambrian, Cwm Clydach, Tonypandy, CF40 2XX

Cyswllt: Julia Nicholls - Democratic Services  01443 424098

Cyfryngau

Eitemau
Rhif eitem

52.

Ymddiheuriadau

Cofnodion:

Cafwyd ymddiheuriad o absenoldeb gan Gynghorwyr y Fwrdeistref Sirol S Belzak, A Davies-Jones, M Fidler Jones, D Grehan, J Harries, L Hooper, M Tegg, R K Turner, G Williams a C Willis.

 

53.

Croeso a Chyflwyniadau

Cofnodion:

Cafodd cyflwyniadau eu gwneud gan Arweinwyr y Grwpiau a oedd yn bresennol:-

 

Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol A. Morgan (Gr?p Llafur)

Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol P. Jarman (Gr?p Plaid Cymru)

Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol M. Powell (Gr?p Annibynnol)

Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol J. James (Gr?p Ceidwadol)

 

54.

Datganiadau o Fuddiant

Derbyn datganiadau o fuddiannau personol gan Aelodau, yn unol â gofynion Cod Ymddygiad y Cyngor.

 

1.    Mae gofyn i Aelodau ddatgan rhif a phwnc yr agenda y mae eu buddiant yn ymwneud ag e a mynegi natur y buddiant personol hwnnw; a 

2.    Lle bo Aelodau'n ymneilltuo o'r cyfarfod o ganlyniad i ddatgelu buddiant personol sy'n rhagfarnu, rhaid iddyn nhw roi gwybod i'r Cadeirydd pan fyddan nhw'n gadael.

 

Cofnodion:

 Yn unol â Chod Ymddygiad y Cyngor, cafodd y datganiadau o fuddiant canlynol eu gwneud yngl?n â'r agenda:

 

Eitem 8 - Ariannu Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif Trwy Ddefnyddio Amodau Benthyca Darbodus (Prudential Borrowing)

 

Ø  Cyfeiriodd Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol P. Jarman at y gollyngiad a roddwyd gan y Pwyllgor Safonau ar 29 Tachwedd 2019 gan ddarparu “gollyngiad i'r aelod siarad a phleidleisio ar bob mater trwy gydol y broses pennu Cyllideb 2020-21, a'i mabwysiadu, yn rhinwedd ei swydd yn Arweinydd yr Wrthblaid.”

 

Ø  Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol S Rees - Buddiant personol - “Rwy'n Llywodraethwr ar gyfer Ysgol Gynradd Gymraeg Aberdâr”

 

Eitem 6 ar yr Agenda - Diweddariad Mewn Perthynas â'r Coronafeirws yn Rhondda Cynon Taf

 

Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol R Lewis - Buddiant Personol - “Mae gen i berthynas agos sy'n gweithio'n rhan o Garfan Brechu Iechyd Cyhoeddus Cymru"

 

55.

Cyhoeddiadau

Cofnodion:

  • Talodd Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol P Jarman deyrnged i Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol A Hobson a oedd wedi cynrychioli ardal Ffynnon Taf yn ei rôl fel Cynghorydd. Roedd y Cynghorydd Hobson yn Aelod ymroddgar o'r Cyngor ac hefyd wedi gwasanaethu'n Aelod o'r Cabinet ar faterion Gwella'r Amgylchedd o 1999, ac roedd yn rhan allweddol o'r gwaith i gau Tomen Nantygwyddon. Cafodd y trefniadau ar gyfer angladd y Cynghorydd Hobson eu rhannu ag Aelodau.

 

  • Roedd Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol T Leyshon wedi atgoffa Aelodau y bydd Apêl Siôn Corn RhCT yn cau am 4pm, 27 Rhagfyr, gan annog Aelodau i gymryd rhan ar wefan RhCT neu drwy ffonio a chafodd y manylion eu rhannu ag Aelodau.

 

Cyhoeddodd Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol D R Bevan fod y Cyngor wedi cael ei gydnabod yn rhan o seremoni ar-lein y wobr rhagoriaeth cynllunio am ei waith mewn perthynas â datblygiad Llys Cadwyn ym Mhontypridd, roedd hyn yn newyddion da iawn i'r Awdurdod Lleol.

56.

Atal Rheolau Gweithdrefn y Cyngor 15.1

Cofnodion:

Gwnaeth y Dirprwy Arweinydd ddatganiad mewn perthynas ag atal Rheol Gweithdrefn 15.1 y Cyngor. Nododd, er mwyn ei gwneud yn haws cynnal y cyfarfod dros Zoom, fod Arweinwyr y Grwpiau wedi cytuno ymlaen llaw, lle y bydd pleidlais, bydd Arweinydd y Gr?p yn pleidleisio ar ran holl aelodau'r gr?p ar yr eitem.

 

Er mwyn rhoi'r gweithdrefnau diwygiedig ar waith, cynigiodd y Dirprwy Arweinydd atal Rheol Gweithdrefn 15.1 y Cyngor, sy'n nodi y bydd mater yn cael ei benderfynu os bydd mwyafrif ymhlith yr Aelodau sy'n pleidleisio ac sy'n bresennol yn yr ystafell adeg y bleidlais.

 

Yn dilyn trafodaeth PENDERFYNWYD atal Rheol Gweithdrefn 15.1 y Cyngor

57.

Presenoldeb y Grwpiau Gwleidyddol

Cofnodion:

Rhannodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu manylion yngl?n â niferoedd a oedd yn bresennol ar gyfer pob un o'r Grwpiau Gwleidyddol fel a ganlyn: -

 

Gr?p Llafur - 42 aelod

Gr?p Plaid Cymru - 16 aelod

Gr?p Ceidwadol - 1 aelod

Gr?p Annibynnol RhCT - 7 aelod

 

58.

Cofnodion pdf icon PDF 193 KB

Cadarnhau cofnodion o gyfarfod y Cyngor, a gynhaliwyd ar 7 Hydref 2020, yn rhai cywir.

 

Cofnodion:

PENDERFYNODD y Cyngor gymeradwyo cofnodion y cyfarfod, a gynhaliwyd ar 7 Hydref 2020, yn rhai cywir.

 

59.

Cwestiynau gan yr Aelodau pdf icon PDF 146 KB

Derbyn cwestiynau'r Aelodau yn unol â Rheol 9.2 o Weithdrefn y Cyngor.

 

(Nodwch: Caniateir hyd at 20 munud ar gyfer cwestiynau.)

 

Cofnodion:

Cwestiwn gan Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol S. Rees i Arweinydd y Cyngor, Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol A. Morgan:

 

A wnaiff Arweinydd y Cyngor ddatganiad mewn perthynas â'r gwasanaeth Profi, Olrhain, Diogelu rhanbarthol?

 

Ymateb yr Arweinydd:

 

Dywedodd yr Arweinydd fod y Gwasanaeth Profi, Olrhain, Diogelu Rhanbarthol yn fenter ranbarthol lwyddiannus rhwng Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, Cyngor Bwrdeistref Sirol RhCT, Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful, Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ac yn adrodd yn ôl i Lywodraeth Cymru. Cyfarwyddwr Cyfadran y Gwasanaethau Cymuned a Gwasanaethau i Blant y Cyngor yw Is-gadeirydd y Bwrdd. Ychwanegodd yr Arweinydd fod proses recriwtio ychwanegol wedi cael ei chynnal i sicrhau bod y gwasanaeth yn cyflawni'i dargedau fel sydd wedi digwydd trwy gydol y Pandemig. Dyma'r gwasanaeth gorau yng Nghymru o ran y canran o bobl y mae'r gwasanaeth yn cysylltu â nhw.

 

Dywedodd yr Arweinydd fod y gwasanaeth yn hollbwysig wrth gasglu gwybodaeth am ddigwyddiadau penodol, mae hyn yn llywio gwaith y carfanau gorfodi. Talodd yr Arweinydd deyrnged i waith caled staff y cyngor sydd wedi'u hadleoli a'r staff ychwanegol newydd eu recriwtio sy'n gweithio oriau hir i gynnal safonau uchel y gwasanaeth.

 

Cwestiwn Ategol gan Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol S. Rees:

 

A wnaiff yr Arweinydd rannu manylion yngl?n â pha mor llwyddiannus yw'r gwasanaeth yng Nghymru o'i gymharu â'r gwasanaeth sydd ar gael yn Lloegr?

 

Ymateb gan yr Arweinydd:

 

Cadarnhaodd yr Arweinydd fod ffigurau Cymru gyfan yn llawer gwell na ffigurau Lloegr ar y cyfan. Mae'r ffigurau fel a ganlyn: -

·         Cwm Taf -98% o achosion wedi'u cadarnhau, cysylltwyd ag 87% o gysylltiadau'r unigolyn

·         Cymru gyfan -92% o achosion wedi'u cadarnhau, cysylltwyd ag 82% o gysylltiadau'r unigolyn

Ychwanegodd yr Arweinydd, er bod y lefelau cyflawni wedi gwella yn ddiweddar yn Lloegr, mae gwahaniaeth amlwg o hyd rhwng lefelau cyflawni Cymru a Lloegr. Roedd yr Arweinydd wedi nodi bod llwyddiant y gwaith yng Nghwm Taf wedi deillio o wybodaeth leol a'r cydweithio rhwng y sector cyhoeddus a'r bwrdd iechyd lleol, mae gan y sector cyhoeddus brofiad o sefydlu gwaith tebyg, er bod hynny ar raddfa lai.

 

Cwestiwn gan Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol S. Pickering i Arweinydd y Cyngor, Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol A. Morgan:

 

All yr Arweinydd roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd sydd wedi'i wneud mewn perthynas â gwaith atgyweirio ledled y Sir yn dilyn Storm Dennis?

 

Ymateb yr Arweinydd:

 

Cadarnhaodd yr Arweinydd y byddai adroddiad yn cael ei gyflwyno i'r Cabinet yn ystod yr wythnosau nesaf a fydd yn rhoi diweddariad ar gynnydd y gwaith atgyweirio yn dilyn Storm Dennis. Ychwanegodd yr Arweinydd ei fod yn falch o gadarnhau bod y mwyafrif o gynlluniau bellach ar y safle yn cyflawni gwaith neu wedi cyrraedd y cam dylunio, er bod Covid wedi rhwystro rhywfaint o waith trwsio ac wedi atal mynediad a gan fod rhai cwmnïau wedi gorfod cynnwys rhai staff yn y cynllun ffyrlo. Daeth yr Arweinydd i ben drwy nodi bod nifer sylweddol o geisiadau eisoes wedi'u cymeradwyo gan Lywodraeth Cymru a bydd yr Awdurdod  ...  view the full Cofnodion text for item 59.

60.

Rhaglen Waith Y Cyngor 2020-21

Cofnodion:

Rhoddodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu wybod i'r Cyngor y bydd Cadeirydd a Phrif Weithredwr y Bwrdd Iechyd yn dod i gyfarfod nesaf y Cyngor ar 16 Rhagfyr 2020 a bydd manylion yngl?n â'r Setliad Llywodraeth Leol, yr oedd disgwyl iddyn nhw gael eu cyflwyno yn y cyfarfod nesaf yn cael eu rhannu ag Aelodau yn ystod cyfarfodydd y pwyllgorau gwahanol nes ymlaen, ar ôl i'r wybodaeth gael ei chyhoeddi.

 

Roedd Cyfarwyddwr Gwasanaeth wedi atgoffa'r Cyngor y bydd angen trafod argymhellion y Pwyllgor Penodiadau a bydd angen i'r Cyngor gymeradwyo'r penderfyniadau hynny yn ystod y cyfarfod ar 20 Tachwedd 2020.

 

61.

DIWEDDARIAD MEWN PERTHYNAS Â'R CORONAFEIRWS YN RHONDDA CYNON TAF

Derbyn datganiad sefyllfa mewn perthynas â'r Coronafeirws yn y Fwrdeistref Sirol.

 

Cofnodion:

Dywedodd yr Arweinydd fod nifer yr achosion positif o'r Coronafeirws wedi gostwng ers y Cyfnod Atal Byr. Mae'r ffigurau wedi bod yn uwch na 250-300 achos bob dydd, ond mae'r niferoedd wedi gostwng i oddeutu 100 achos bob dydd, mae'r gyfradd o achosion positif wedi gostwng o 30% i 15%. Roedd yr Arweinydd wedi rhybuddio na ddylen ni fod yn hunanfodlon ac er bod y Cyfnod Atal Byr wedi arwain at rywfaint o welliant, mae trafodaethau gyda'r Bwrdd Iechyd a Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau bod y gostyngiad yma wedi dechrau arafu. Cyfeiriodd yr Arweinydd at gyhoeddiad diweddar y pedair gwlad mewn perthynas â llacio'r cyfyngiadau sydd ar waith dros gyfnod y Nadolig, ond gyda rhagor gyfyngiadau yn ystod y cyfnod sy'n arwain at gyfnod y Nadolig.

 

Dywedodd yr Arweinydd y byddai dull cydweithio yn cael ei fabwysiadu er mwyn sefydlu canolfannau brechu a bydd Gwasanaeth Eiddo'r Cyngor yn cefnogi'r trefniadau yma. Cafodd ardal Cwm Cynon ei nodi fel ardal ar gyfer y cynllun profi torfol, ond byddai rhagor o fanylion yn cael eu rhannu yn y diweddariad nesaf gan y Cyngor ymhen pythefnos.

 

Rhoddwyd cyfle i'r Arweinwyr Gr?p ofyn cwestiynau

 

Y Cynghorydd P Jarman - Arweinydd Gr?p Plaid Cymru

 

Roedd y Cynghorydd Jarman yn cefnogi'r gwaith profi torfol gan ystyried y nifer fawr o achosion positif dydd ar ôl dydd yn ardal Cwm Cynon, gofynnodd a oes modd dal Covid ail dro?

 

Cododd y Cynghorydd Jarman ymholiad mewn perthynas ag a oes modd i deuluoedd y preswylwyr fynd i'r cartref gofal gan ddefnyddio podiau i ymwelwyr?

 

Cadarnhaodd yr Arweinydd fod ymweliadau diwedd oes wedi cael eu cynnal trwy gydol y pandemig ac mae Swyddogion Gofal Cymdeithasol yn cynnal trafodaethau gyda'r Cartrefi Gofal Preifat ynghylch caniatáu cyfleoedd i gynnal ymweliadau ac amser i'r teulu ond ni ellir llacio mesurau yn rhy gyflym rhag ofn y bydd achos positif yn y cartrefi gofal.

 

Y Cynghorydd M Powell - Arweinydd Gr?p, Gr?p Annibynnol RhCT

 

Dywedodd y Cynghorydd Powell fod y brechlyn yn allweddol er mwyn gwneud cynnydd a gwella'r sefyllfa bresennol ond mae sut mae'r brechlyn yn cael ei gyflwyno yn hollbwysig. Ychwanegodd nad oes unrhyw adroddiadau ar gael mewn perthynas â Chartrefi Gofal ond mae wedi cael gwybod am achosion lle mae cleifion wedi cael eu rhyddhau o'r ysbyty yn ôl i'r cartrefi gofal heb gael prawf Covid-19. Roedd hyn wedi gwneud i staff a phreswylwyr eraill deimlo'n bryderus.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Powell beth fyddai'r canlyniad pe bai'r gyfradd R yn uwch na 1 yn enwedig gyda dathliadau'r Nadolig o'n blaenau a pha gynlluniau sydd ar waith er mwyn ymdopi os ydyn ni'n cael ein gorlethu eto?

 

Tynnodd yr Arweinydd sylw at yr oedi o 10-14 diwrnod wrth adrodd am y ffigurau, ond rhoddodd sicrwydd i Aelodau y bydd modd gweld effaith y cyfnod atal byr o hyd wrth i'r data ddangos bod y gyfradd R yn is nag 1 gan fod nifer yr achosion positif wedi gostwng o 30% i 15%. Bydd diweddariad pellach yn cael ei  ...  view the full Cofnodion text for item 61.

62.

Adroddiad Archwiliad o Ddatganiadau Ariannol – CBS Rhondda Cynon Taf a Chronfa Bensiwn Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf. pdf icon PDF 4 MB

·         Derbyn yr Archwiliad o Ddatganiadau Ariannol – Swyddfa Archwilio Cymru

·         Derbyn Cyflwyniad o Ddatganiadau Ariannol – Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cyllid a Digidol

 

Cofnodion:

Cyflwynodd Mr M Jones, Swyddfa Archwilio Cymru ei gydweithiwr Mr Rees ac

aeth ati i gyflwyno Archwiliad o ddatganiadau ariannol 2019-20 ar gyfer Cronfa Bensiwn RCT ac ar gyfer CBSRhCT, gan nodi bod y broses ar gyfer archwilio cyfrifon wedi cael ei gohirio oherwydd y pandemig Covid -19 . Talodd Mr Jones deyrnged i staff Adran Gyllid RhCT am eu cefnogaeth yn ystod y broses.

 

Cafodd yr Aelodau eu hatgoffa fod Swyddfa Archwilio Cymru yn cynnig barn ddiamod gan yr Archwilydd Cyffredinol. Rhoddodd Mr Jones sicrwydd i'r aelodau

nad yw sylwadau'r prisiwr mewn perthynas ag ansicrwydd materol a nodwyd

yn natganiad RhCT ar ddiwedd y flwyddyn yn effeithio ar y farn gyffredinol. Er gwybodaeth, tynnodd Mr Jones sylw hefyd at y manylion yn Atodiad 3 ynghylch y

camfynegiannau wedi'u cywiro.

 

O ran Cronfa Bensiwn RCT, cadarnhaodd Mr Jones nad yw unrhyw gamfynegiannau wedi'u cywiro yn dangos ansawdd uchel y cyfrifon drafft.

 

CYTUNWYD y byddai'r Aelodau'n nodi cynnwys yr adroddiad.

 

***

 

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Cyllid a Gwasanaethau Digidol y Datganiad o Gyfrifon wedi'i ddiweddaru a therfynol i'r Cyngor ynghyd â llythyrau o gynrychiolaeth ar gyfer y flwyddyn ariannol a ddaeth i ben 31 Mawrth 2020. Nododd y Cyfarwyddwr fod yr amserlenni ar gyfer paratoi ac archwilio'r datganiadau wedi cael eu diwygio yn rhan o drafodaethau agos ag Archwilio Cymru o ganlyniad i'r pandemig ac ychwanegodd ei fod yn dyst i waith y garfan a staff ehangach y cyngor bod y gweithdrefnau rheolaeth ariannol a threfniadau rheoli sydd ar waith wedi'u cynnal.

 

Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr fod y Pwyllgor Archwilio wedi trafod y cyfrifon (drafft) ym mis Gorffennaf a'u diweddaru ym mis Hydref 2020 yn unol â gofynion y

Mesur Llywodraeth Leol (paragraffau 11.1 ac 11.2).

 

Yn dilyn trafodaeth ac ar ôl cael ymateb i ymholiadau mewn perthynas â'r

ansicrwydd materol, ffioedd ac asedau seilwaith, 

PENDERFYNWYD -

 

1. Cymeradwyo a nodi Datganiad o Gyfrifon CBS Rhondda Cynon

Taf (Atodiad 1), a'r Llythyr o Gynrychiolaeth cysylltiedig

(Atodiad 2).

 

     2. Cymeradwyo a nodi Datganiad o Gyfrifon Cronfa Bensiwn Rhondda Cynon Taf (Atodiad 3), a'r Llythyr o Gynrychiolaeth cysylltiedig (Atodiad 4).

 

3. Cymeradwyo a nodi safle alldro terfynol y Cyngor, sydd wedi'i archwilio, ar gyfer blwyddyn ariannol 2019/2020 a  balansau'r Cronfeydd Cyffredinol (paragraff 8.4); ac

 

4. Nodi trafodaethau a sylwadau cyfarfodydd y Pwyllgor Archwilio ar 12 Gorffennaf 2020 a 5 Hydref 2020, yn unol â gofynion y Mesur Llywodraeth Leol (paragraffau 11.1 ac 11.2).

 

 

63.

Ariannu Rhaglen Gyfalaf Ysgolion yr 21ain Ganrif gan ddefnyddio amodau Benthyca Darbodus pdf icon PDF 244 KB

Derbyn adroddiad Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cyllid a Digidol

 

Cofnodion:

Gan gyfeirio at ei adroddiad, ceisiodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cyllid a Digidol gymeradwyaeth gan yr Aelodau ar gyfer buddsoddiad cyfalaf gwerth £4.500miliwn ar gyfer estyniad yn Ysgol Gynradd Gymraeg Aberdâr, sy'n cynnwys 4 ystafell ddosbarth a dosbarth Meithrin newydd ac i ddefnyddio grant Band B Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif; Grant Gofal Plant Llywodraeth Cymru i ariannu'r prosiect ac i ddefnyddio pwerau'r Cyngor o dan y Cod Darbodus er mwyn ariannu cyfraniad y Cyngor.

 

 

Yn dilyn trafodaethau, PENDERFYNWYD:

 

1.    Cytuno i gynnwys yr estyniad newydd yn Ysgol Gynradd Gymraeg Aberdâr yn y rhaglen gyfalaf, cyfanswm o £4.500miliwn.

 

2.    Cytuno y caiff cost cyfalaf net y Cyngor o £3.410 miliwn ei ariannu trwy fenthyca, gan ddefnyddio pwerau'r Cyngor o dan y Cod Darbodus, gyda'r gost refeniw flynyddol o £0.052miliwn yn cael ei thalu o arbedion sy'n deillio o hyn a chynlluniau ad-drefnu ysgolion blaenorol eraill.

 

 

64.

Adroddiad Canol Blwyddyn Cylch Rheoli’r Trysorlys 2020/21 pdf icon PDF 453 KB

 

Trafod adroddiad Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cyllid a Digidol.

 

Cofnodion:

Yn unol â gofynion Cod Ymarfer Sefydliad Siartredig Cyllid Cyhoeddus a Chyfrifyddiaeth (CIPFA) ar gyfer Rheoli'r Trysorlys a Chod Darbodus CIPFA ar gyfer Cyllid Cyfalaf mewn Awdurdodau Lleol, roedd y Cyfarwyddwr Cyllid a Gwasanaethau Digidol wedi rhannu gwybodaeth ag Aelodau yngl?n â'r materion canlynol: -

 

·      Gweithgaredd Rheoli'r Trysorlys y Cyngor yn ystod 6 mis cyntaf 2020/21; a

·      Gwir Ddangosyddion Darbodus a Thrysorlys ar gyfer yr un cyfnod

 

Ar ôl trafod y mater, PENDERFYNWYD cymeradwyo cynnwys yr adroddiad.

 

65.

Llifogydd yn RhCT yn 2020 pdf icon PDF 889 KB

Derbyn adroddiad ar y cyd gan y Cyfarwyddwr Cyfadran, Ffyniant, Datblygu, a Gwasanaethau Rheng-flaen a'r Cyfarwyddwr Gwasanaeth, Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu

 

Cofnodion:

Cyflwynodd Cyfarwyddwr Gwasanaeth y Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu ei adroddiad ar y cyd â'r Cyfarwyddwr Cyfadran - Ffyniant, Datblygu, a Gwasanaethau Rheng-flaen, sy'n rhoi'r cyfle i aelodau drafod gwybodaeth mewn perthynas â'r llifogydd a ddigwyddodd ledled y Fwrdeistref Sirol yn ystod 2020, yn ogystal â rhannu'r newyddion diweddaraf ag Aelodau mewn perthynas â'r gwaith y mae'r Cyngor wedi'i gyflawni wrth ymateb i'r llifogydd. Dywedodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth fod y broses graffu yn sefyll ar wahân i'r prosesau sydd wedi'u nodi yn adran 5 a 6 yr adroddiad gan y bydd y Pwyllgor Craffu yn trafod cynnwys y sylwadau a'r wybodaeth sydd wedi'u cyflwyno gan bartneriaid ac aelodau lleol yn ystod sesiwn casglu tystiolaeth yn ei gyfarfod nesaf, cyn penderfynu ar sylwadau neu argymhellion annibynnol y bydd gofyn i'r Cabinet eu trafod.

 

Yn rhan o'i gyflwyniad Power Point, dangosodd y Rheolwr Materion Perygl Llifogydd, D?r a Thomenni ar gyfer Cyngor Rhondda Cynon Taf effaith Storm Dennis yn Chwefror 2020 ledled y Fwrdeistref Sirol yn ogystal ag ymateb a gwaith adfer dilynol y Cyngor. Roedd y cyflwyniad hefyd yn cynghori Aelodau ar waith cynnal a chadw mewn perthynas â thomenni, yn enwedig o ran tirlithriad Tylorstown yn Chwefror 2020.

 

Roedd y cyflwyniad yn nodi gwybodaeth am y materion allweddol canlynol;

 

  • Storm Dennis;
  • Paratoi ar gyfer Digwyddiadau;
  • Stormydd mis Chwefror; 
  • Ymateb ac Adfer - tymor byr, tymor canolig a hir dymor
  • Gwrthsefyll Llifogydd - Eiddo
  • Cynnal a Chadw Tommenni

 

Yn dilyn y cyflwyniad, cododd Arweinwyr Gr?p ac Aelodau eraill nifer o ymholiadau mewn perthynas â'r adroddiad, y broses graffu a'r camau nesaf. Dywedodd yr Arweinydd y bydd adroddiad pellach yn cael ei gyflwyno i'r pwyllgor craffu fis nesaf (mae hyn yn ar ben y Sesiwn Ymchwiliad Craffu), gan roi cyfle i drafod adroddiadau statudol Adran 19 y Cyngor a dod â'r ymchwiliadau i ben. Cadarnhaodd yr Arweinydd fod gan bob Aelod gyfle i gyflwyno sylwadau ysgrifenedig tu hwnt i'r terfyn amser, er mwyn nodi manylion yngl?n â'u profiad unigol. I gloi, cadarnhaodd yr Arweinydd y byddai adolygiad yr Uwch Garfan Rheoli yn cael ei gyflwyno i'r Cabinet ym mis Rhagfyr, lle bydd nifer o argymhellion yn cael eu trafod.

 

Yn dilyn trafodaeth, PENDERFYNWYD:

 

1.         Nodi'r wybodaeth sydd wedi'i chynnwys yn y cyflwyniad gan Swyddogion a'r wybodaeth sydd yn yr adroddiad; a

 

2.        Derbyn adroddiadau statudol Adran 19 mewn perthynas â'r ymchwiliadau y mae'r Cyngor yn eu cynnal mewn perthynas â llifogydd mis Chwefror, yn rhan o'i rôl fel yr Awdurdod Llifogydd Lleol Arweiniol yn unol â Deddf Rheoli Llifogydd a D?r 2010 (FWMA) yn ystod cyfarfod o'r Cyngor yn y dyfodol;

 

3.        Nodwch: ym mis Rhagfyr, bydd y Cabinet yn trafod adroddiad sy'n nodi nifer o gamau gweithredu allweddol yn dilyn y gwersi a ddysgwyd o ganlyniad i'r gwaith a gafodd ei gyflawni, gan gynnwys adolygiadau'r swyddog mewnol a gwaith y pwyllgor craffu; a

4.        Nodi gwaith craffu parhaus y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu mewn perthynas â'r mater yma.

 

 

 

 

 

66.

Rhybuddion o Gynigion pdf icon PDF 336 KB

A. Trafod y Rhybudd o Gynnig isod sydd wedi’i gyflwyno yn enwau:  Cynghorwyr y Fwrdeistref Sirol H.Fychan, E.Griffiths, P.Jarman, K.Morgan, D.Grehan, S.Rees Owen, M.Weaver, E.Webster, S.Evans, A, Chapman,G.Davies, J.Williams, A. Cox, J.Cullwick, J. Davies, E.Stephens, L. Jones

Digynsail. Dinistriol. Ysgytwol. Dyna'r tri gair a ddefnyddir amlaf mewn perthynas â'r llifogydd a darodd cynifer o gymunedau ledled RhCT eleni. Nid ni oedd yr unig gymunedau a gafodd eu heffeithio gan hyn, gyda golygfeydd tebyg i'w gweld ar hyd a lled Cymru.

Mae'r Cyngor yn nodi'r costau sylweddol sy'n gysylltiedig â'r gwaith adfer, ac amcangyfrifir bod angen o leiaf £500 miliwn arall yn ystod y degawd nesaf os yw Cymru am osgoi llifogydd sylweddol. Mae'r Cyngor hefyd yn nodi, o ganlyniad i newid yn yr hinsawdd, bod llifogydd yn llawer mwy tebygol o ddigwydd yn y dyfodol. 

Mae'r Cyngor yn cydnabod bod llawer o gwestiynau sydd gan ein preswylwyr yngl?n â'r llifogydd dal ddim wedi'u hateb naw mis yn ddiweddarach, gyda rhai wedi goddef llifogydd pellach mor ddiweddar â mis Awst. Mae pobl, yn naturiol iawn, bellach yn bryderus bob amser mae achos o law trwm. 

Er bod nifer o adroddiadau naill ai wedi'u cyhoeddi neu yn yr arfaeth, mae'r Cyngor o'r farn ei bod hi'n amlwg eu bod yn gyfyngedig o ran eu cwmpas, a'u bod yn cael eu cynnal gan y sefydliadau dan sylw yn hytrach na chan asiantaethau annibynnol, allanol. Nid ydynt ychwaith yn mynd i'r afael â'r effaith ar iechyd meddwl a chorfforol preswylwyr, na'r effaith economaidd a chymdeithasol barhaol.

Mae'r Cyngor yn cefnogi'r miloedd o breswylwyr a lofnododd ddeiseb ddiweddar gan y Senedd yn galw am gynnal ymchwiliad annibynnol i'r llifogydd, a hynny er mwyn dod â'r holl adroddiadau at ei gilydd a chraffu arnyn nhw, yn ogystal â dwyn ynghyd unrhyw dystiolaeth a phrofiadau preswylwyr a busnesau. Dyma'r unig ffordd y mae modd i ni sicrhau atebion a chyfiawnder ar gyfer y preswylwyr a'r busnesau sydd wedi'u heffeithio. 

Felly, mae'r Cyngor yn gofyn i Arweinydd y Cyngor ysgrifennu at Brif Weinidog Cymru i alw am ymchwiliad annibynnol, gan nodi y bydd y Cyngor yn cymryd rhan yn agored ac yn dryloyw mewn proses o'r fath fel bod modd dysgu gwersi ar gyfer y dyfodol a sicrhau buddsoddiad ar gyfer  mesurau atal llifogydd.

 

 

B. Trafod y Rhybudd o Gynnig isod sydd wedi’i gyflwyno yn enwau:  Cynghorwyr y Fwrdeistref Sirol G. Hughes, L. M. Adams, G. Caple, D. R. Bevan, H Boggis, J. Bonetto, S. Bradwick, J Brencher, A Calvert, A. Crimmings, A. Davies-Jones,  L De- Vet, J. Edwards, J Elliott, S. Evans, M Fidler Jones, M. Forey, A. Fox, E. George, M. Griffiths, J. Harries G. Holmes, G. Hopkins, G. Jones, R. Lewis, W Lewis, C. Leyshon, A. Morgan, S. Morgans, M. A. Norris, D. Owen-Jones, S Pickering, S. Powell, S. Powderhill, S. Rees, A. Roberts, J. Rosser, G Stacey, M Tegg, G Thomas, W Treeby, R K Turner, M. Webber, D. Williams, T. Williams, C. J. Willis a  R. Yeo.

 

Ar 1 Mai  ...  view the full Agenda text for item 66.

Cofnodion:

Trafod y Rhybudd o Gynnig isod sydd wedi’i gyflwyno yn enwau:

Cynghorwyr y Fwrdeistref Sirol H.Fychan, E,Griffiths, P.Jarman, K.Morgan, D.Grehan, S.Rees Owen, M.Weaver, E.Webster, S.Evans, A, Chapman,G.Davies, J.Williams, A. Cox, J.Cullwick, J. Davies, E.Stephens, L. Jones

Digynsail. Dinistriol. Ysgytwol. Dyna'r tri gair a ddefnyddir amlaf mewn perthynas â'r llifogydd a darodd cynifer o gymunedau ledled RhCT eleni. Nid ni oedd yr unig gymunedau a gafodd eu heffeithio gan hyn, gyda golygfeydd tebyg i'w gweld ar hyd a lled Cymru.

Mae'r Cyngor yn nodi'r costau sylweddol sy'n gysylltiedig â'r gwaith adfer, ac amcangyfrifir bod angen o leiaf £500 miliwn arall yn ystod y degawd nesaf os yw Cymru am osgoi llifogydd sylweddol. Mae'r Cyngor hefyd yn nodi, o ganlyniad i newid yn yr hinsawdd, bod llifogydd yn llawer mwy tebygol o ddigwydd yn y dyfodol. 

Mae'r Cyngor yn cydnabod bod llawer o gwestiynau sydd gan ein preswylwyr yngl?n â'r llifogydd dal ddim wedi'u hateb naw mis yn ddiweddarach, gyda rhai wedi goddef llifogydd pellach mor ddiweddar â mis Awst. Mae pobl, yn naturiol iawn, bellach yn bryderus bob amser mae achos o law trwm. 

Er bod nifer o adroddiadau naill ai wedi'u cyhoeddi neu yn yr arfaeth, mae'r Cyngor o'r farn ei bod hi'n amlwg eu bod yn gyfyngedig o ran eu cwmpas, a'u bod yn cael eu cynnal gan y sefydliadau dan sylw yn hytrach na chan asiantaethau annibynnol, allanol. Nid ydynt ychwaith yn mynd i'r afael â'r effaith ar iechyd meddwl a chorfforol preswylwyr, na'r effaith economaidd a chymdeithasol barhaol.

Mae'r Cyngor yn cefnogi'r miloedd o breswylwyr a lofnododd ddeiseb ddiweddar gan y Senedd yn galw am gynnal ymchwiliad annibynnol i'r llifogydd, a hynny er mwyn dod â'r holl adroddiadau at ei gilydd a chraffu arnyn nhw, yn ogystal â dwyn ynghyd unrhyw dystiolaeth a phrofiadau preswylwyr a busnesau. Dyma'r unig ffordd y mae modd i ni sicrhau atebion a chyfiawnder ar gyfer y preswylwyr a'r busnesau sydd wedi'u heffeithio. 

Felly, mae'r Cyngor yn gofyn i Arweinydd y Cyngor ysgrifennu at Brif Weinidog Cymru i alw am ymchwiliad annibynnol, gan nodi y bydd y Cyngor yn cymryd rhan yn agored ac yn dryloyw mewn proses o'r fath fel bod modd dysgu gwersi ar gyfer y dyfodol a sicrhau buddsoddiad ar gyfer  mesurau atal llifogydd. 

Cyhoeddodd y Cadeirydd fod y diwygiad canlynol i'r Rhybudd o Gynnig wedi'i dderbyn yn unol â Rheol 10.4.1 Gweithdrefn y Cyngor yn enwau Cynghorwyr y Fwrdeistref Sirol: L. M. Adams, D. R. Bevan, H Boggis, J. Bonetto, S. Bradwick, J Brencher, A Calvert, G. Caple, A. Crimmings, A. Davies-Jones,  L De- Vet, J. Edwards, J Elliott, S. Evans, M Fidler Jones, M. Forey, A. Fox, E. George, M. Griffiths, J. Harries G. Holmes, G. Hopkins, G. Hughes, G. Jones, R. Lewis, W Lewis, C. Leyshon, A. Morgan, S. Morgans, M. A. Norris, D. Owen-Jones, S Pickering, S. Powell, S. Powderhill, S. Rees, A. Roberts, J. Rosser, G Stacey, M Tegg, G Thomas,  ...  view the full Cofnodion text for item 66.