Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Y Pafiliynau, Parc Hen Lofa'r Cambrian, Cwm Clydach, Tonypandy, CF40 2XX

Cyswllt: Julia Nicholls - Democratic Services  01443 424098

Cyfryngau

Eitemau
Rhif eitem

43.

Ymddiheuriadau

Cofnodion:

Cafwyd ymddiheuriad o absenoldeb gan Gynghorwyr y Fwrdeistref Sirol J R Davies, A Davies-Jones, K Jones, L Jones, K Morgan, M Tegg, M Weaver, G D Williams a C Willis.

 

44.

Cyflwyniadau

Cofnodion:

Cafodd cyflwyniadau eu gwneud gan Arweinwyr y Grwpiau a oedd yn bresennol:-

 

Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol Sir M Webber (Yn absenoldeb Arweinydd y Gr?p - Dirprwy Arweinydd y Gr?p Llafur)

Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol P. Jarman (Gr?p Plaid Cymru)

Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol M. Powell (Gr?p Annibynnol)

Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol L Hooper (Yn absenoldeb Arweinydd y Gr?p - Dirprwy Arweinydd y Gr?p Ceidwadol)

Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol S. Belzak (Aelod Annibynnol)

 

45.

Datganiadau o Fuddiant

Derbyn datganiadau o fuddiannau personol gan Aelodau, yn unol â gofynion Cod Ymddygiad y Cyngor.

 

1.    Mae gofyn i Aelodau ddatgan rhif a phwnc yr agenda y mae eu buddiant yn ymwneud ag e a mynegi natur y buddiant personol hwnnw; a 

2.    Lle bo Aelodau'n ymneilltuo o'r cyfarfod o ganlyniad i ddatgelu buddiant personol sy'n rhagfarnu, rhaid iddyn nhw roi gwybod i'r Cadeirydd pan fyddan nhw'n gadael.

 

Cofnodion:

Yn unol â Chod Ymddygiad y Cyngor, cafodd nifer o ddatganiadau o fuddiant eu gwneud yngl?n â'r agenda:

 

Eitem 6 ar yr Agenda - Diweddariad Mewn Perthynas â'r Coronafeirws yn Rhondda Cynon Taf

 

Ø  Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol R Lewis - “Mae fy mhartner yn gweithio i Garfan Brechu Iechyd Cyhoeddus Cymru”

Ø  Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol R Lewis - “Rwy'n wirfoddolwr ar gyfer Banc Bwyd Trussel Merthyr Tudful”

Ø  Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol S Powderhill - “Mae'n bosibl y bydd fy musnes yn gymwys i gael grant busnes”

Ø  Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol M Fidler Jones - “Fi oedd y swyddog arweiniol ar waith Gofal Canser Tenovus sy'n tynnu sylw at effaith y cyfyngiadau symud ar roi diagnosis o ganser”

Ø  Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol G R Davies - “Rydw i wedi derbyn grant Covid-19 ar gyfer fy musnes”

Ø  Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol G R Davies - “Rwy’n aelod o’r Clwb Tenis sydd hefyd wedi derbyn grant Covid-19”

Ø  Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol G R Davies - “Rwy'n gwirfoddoli ar gyfer Banc Bwyd Cwm Rhondda a chyflwynais i gais ar gyfer y caffi yn y Capel”

Ø  Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol A Chapman - “Rydw i wedi derbyn grant Covid-19 ar gyfer fy musnes, 'The Wonder Stuff' yn Nhreorci

Ø  Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol W Owen - “Rydw i wedi derbyn grant Covid-19 ar gyfer fy Eiddo Trwyddedig”

Ø  Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol G Jones - “Fi yw Cadeirydd y Llyfrgell”

Ø  Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol E George - “Rwy'n wirfoddolwr ar gyfer Banc Bwyd Trussel Merthyr Tudful”

 

46.

Atal Rheolau Sefydlog

Cofnodion:

Gwnaeth y Dirprwy Arweinydd ddatganiad mewn perthynas ag atal Rheol Trefniant 15.1 y Cyngor. Nododd, er mwyn ei gwneud yn haws cynnal y cyfarfod dros Zoom, fod Arweinwyr y Grwpiau wedi cytuno ymlaen llaw, lle y bydd pleidlais, bydd Arweinydd y Gr?p yn pleidleisio ar ran holl aelodau'r gr?p ar yr eitem.

 

Er mwyn rhoi'r gweithdrefnau diwygiedig ar waith, cynigiodd y Dirprwy Arweinydd atal Rheol Gweithdrefn 15.1 y Cyngor, sy'n nodi y bydd mater yn cael ei benderfynu os bydd mwyafrif ymhlith yr Aelodau sy'n pleidleisio ac sy'n bresennol yn yr ystafell adeg y bleidlais.

 

Yn dilyn trafodaeth PENDERFYNWYD atal Rheol Gweithdrefn 15.1 y Cyngor

 

47.

Cofnodion pdf icon PDF 200 KB

Cadarnhau cofnodion o gyfarfod y Cyngor, a gynhaliwyd ar 23 Medi 2020, yn rhai cywir.

 

Cofnodion:

PENDERFYNODD y Cyngor gymeradwyo cofnodion y cyfarfod, a gynhaliwyd ar 23 Medi, 2020, yn rhai cywir.

 

48.

Cwestiynau gan yr Aelodau pdf icon PDF 338 KB

Derbyn cwestiynau'r Aelodau yn unol â Rheol 9.2 o Weithdrefn y Cyngor.

 

(Nodwch: Caniateir hyd at 20 munud ar gyfer cwestiynau.)

 

Cofnodion:

Cwestiwn gan Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol G Hughes i'r Cynghorydd Powell, Cadeirydd y Pwyllgor Craffu - Cyllid a Chyflawniad:

 

“Pa ystyriaethau ydy'r Pwyllgor Craffu ar faterion Cyllid a Chyflawniad yn eu rhoi i ganlyniadau ariannol tebygol Brexit Heb Gytundeb nes ymlaen eleni?”

 

Ymateb gan y Cynghorydd M Powell:

 

Dywedodd y Cynghorydd Powell ei bod hi'n anodd rhagweld y goblygiadau ariannol posibl yn gywir oherwydd yr holl ansicrwydd mewn perthynas â Brexit, ac mae'n bosibl na fydd effaith Brexit yn cael ei theimlo ar unwaith, er enghraifft, mae'n bosibl y bydd cost nwyddau yn cynyddu os ydyn ni'n wynebu tariffau Sefydliad Masnach y Byd. Mae hi hefyd yn anodd asesu'r effaith ar y Cyngor yma gan ei bod hi'n bosibl na fydd rhai cyflenwyr yn trosglwyddo cost unrhyw dariffau i'r Cyngor a chwsmeriaid. Mae'n bosibl y bydd rhywfaint o newid da a drwg o ran gwerth punt sterling, ac mae'n bosibl y bydd hi'n rhy anodd rhagweld hyn. Mae'n bosibl y bydd un gost yn gwrthbwyso'r llall neu y bydd effaith ddwbl wrth gyflwyno'r tariffau a gwerth sterling yn gostwng. O ganlyniad, mae modd i hyn arwain at gynnydd dau ddigid o ran cost nwyddau wedi'u mewnforio o'r UE a gallai hyn gael effaith ar weithwyr neu deuluoedd incwm isel sy'n gwario'r rhan fwyaf o'u hincwm ar fwyd a nwyddau.

 

Mae'r Cyngor yn cadw llygad ar yr holl faterion sy'n ymwneud â Brexit ac yn aelod o Weithgor Brexit CLlLC. O ran y goblygiadau ehangach, mae'r Cyngor yn cyfathrebu â chynifer o fusnesau ag sy'n bosibl er mwyn rhannu cyfarwyddyd clir gan LC ac yn diweddaru gwefan y Cyngor.

 

Dywedodd y Cynghorydd Powell y byddai'n rhannu manylion ei ddatganiad a'i hyperddolenni perthnasol. Bydd ymgyrch cyfryngau cymdeithasol hefyd yn cael ei lansio'r wythnos yma. Bydd yr ymgyrch yn canolbwyntio ar godi ymwybyddiaeth ar gyfer busnesau a Chynllun Preswylydd Sefydlog i Ddinasyddion yr UE. Bydd y Cabinet hefyd yn trafod yr adroddiad yn ystod ei gyfarfod ar 17 Tachwedd 2020 ac yn rhoi'r newyddion diweddaraf ar y gwaith sy'n cael ei gyflawni ar draws y Cyngor er mwyn paratoi ar gyfer Brexit"

 

Cwestiwn atodol gan y Cynghorydd G Hughes:

 

“Mae'n amlwg eich bod chi, yn rhan o'ch rôl fel Cadeirydd y Pwyllgor Craffu ar faterion Cyllid a Chyflawniad, yn gweld y bydd Brexit Heb Gytundeb yn cael effaith negyddol sylweddol ar RCT. Rwy'n rhannu'ch pryderon ynghylch yr effaith niweidiol posibl y bydd Brexit heb Gytundeb yn ei chael ar ein heconomi. Tybed sut y bydd modd i chi, a chithau'n Gadeirydd y Pwyllgor Craffu ar faterion Cyllid a Chyflawniad gysoni eich barn â'ch rôl fel Arweinydd Gr?p Annibynnol RhCT sy'n cynnwys aelod cofrestredig o'r Blaid Brexit ac un arall sydd o blaid Brexit

 

Ymateb gan y Cynghorydd Powell:

 

Dywedodd y Cynghorydd Powell fod unigolion yn unigolion ac na fyddai’n pennu barn ei aelodau ac mae ystod eang o safbwyntiau o fewn y Gr?p. Mae gan y Gr?p ddealltwriaeth dda o'r effeithiau y bydd penderfyniadau yn eu  ...  view the full Cofnodion text for item 48.

49.

Rhaglen Waith Y Cyngor 2020/21

Cofnodion:

Rhannodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth - Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu'r newyddion diweddaraf mewn perthynas â Rhaglen Waith y Cyngor ar gyfer 2020/21. Rhoddodd wybod fod y Cyngor yn cynnig cynnal Dadl yr Arweinydd yn gynnar yn y Flwyddyn Newydd er mwyn trafod nifer o faterion pwysig eraill yn ystod y cyfarfod ar 25 Tachwedd. Mae manylion ynghylch y sesiwn Paratoi ar gyfer y Gaeaf wedi cael eu rhannu ymlaen llaw. I gloi, cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth y byddai'r Bwrdd Iechyd yn mynychu cyfarfod y Cyngor ar 16 Rhagfyr.

 

50.

Diweddariad mewn perthynas â'r Coronafeirws yn Rhondda Cynon Taf

Derbyn datganiad sefyllfa mewn perthynas â'r Coronafeirws yn y Fwrdeistref Sirol.

 

Cofnodion:

Dywedodd yr Arweinydd fod diweddariad mewn perthynas â Covid wedi'i ddarparu ym mhob cyfarfod o'r Cyngor dros y ddau fis a hanner diwethaf. Bydd diweddariad pellach yn cael ei ddarparu ar 25 Tachwedd. Cadarnhaodd fod trafodaethau yn parhau gyda LlC ynghylch posibiliadau cynllun profi torfol i benderfynu ai hwn yw'r ffordd ymlaen. Mae'r awdurdod lleol yn cynnal trafodaethau gyda Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg ynghylch rhaglen frechu a hefyd gyda chynllunwyr y fyddin. Cadarnhaodd yr Arweinydd y byddai'r awdurdod lleol yn darparu pa bynnag adnoddau sydd eu hangen i sefydlu canolfannau brechu a byddai gwasanaethau'n cael eu newid neu eu cau i alluogi rhaglen frechu pe byddai'r penderfyniad yn cael ei wneud mai dyna oedd y ffordd orau ymlaen. Byddai cefnogi'r Fyddin a'r Bwrdd Iechyd yn flaenoriaeth ar gyfer yr Awdurdod Lleol.

 

Pwysleisiodd yr Arweinydd y neges iechyd cyhoeddus y mae angen ei dilyn o hyd yn dilyn y cyfnod atal byr o bythefnos, gwisgo gorchuddion wyneb, golchi dwylo a chadw pellter cymdeithasol ac anogodd yr Aelodau i fanteisio ar y dylanwad sydd gyda nhw ar y cyfryngau cymdeithasol i atgoffa trigolion i beidio â chysylltu ag eraill yn ormodol, lleihau nifer y teithiau maen nhw'n eu gwneud ac aros yn lleol. Cafodd y cyfnod atal byr effaith sylweddol ar nifer yr achosion positif, ond mae'n bosibl y bydd nifer yr achosion yn cynyddu eto.

 

Rhoddodd yr Arweinydd wybod am farwolaeth drist aelod o staff arall o ganlyniad i covid-19 ac roedd yn dymuno estyn ei gydymdeimlad i'r teulu ar ran pob Aelod.

 

Cadarnhaodd yr Arweinydd fod adran gyllid y Cyngor yn parhau i dalu grantiau cymorth i fusnesau, mae'r adran wedi bod yn prosesu'r grantiau cyn gynted ag sy'n bosibl. Mae £3miliwn wedi cael ei dalu hyd yn hyn, er bod rhywfaint o ddryswch wedi bod ynghylch pa grantiau y mae modd gwneud cais amdanyn nhw'n ddiweddar. Anogodd fusnesau lleol i ddilyn y canllawiau sydd ar wefan y Cyngor er mwyn dod o hyd i'r wybodaeth berthnasol mewn perthynas â'r gwahaniaethau rhwng y grantiau sy'n berthnasol iddyn nhw. Mae cymorth ychwanegol hyd at £15,000 wedi bod ar gael i'r Banciau Bwyd yn ystod y cyfnod atal byr, ac mae'r Cyngor wedi comisiynu cymorth iechyd meddwl gwerth £10,000.

 

Yn rhan o gyflwyniad power point, dangosodd y Cyfarwyddwr Iechyd a Diogelwch y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymuned yr Ardaloedd Cynnyrch Ehangach Haen Is sydd hefyd yn dangos yr ardaloedd hynny lle mae'r nifer uchaf o achosion coronafeirws a hefyd yn dangos lleoliad y canolfannau profi teithiol, sydd wedi'u lleoli'n agos at yr ardaloedd hynny sydd â'r cyfraddau uchaf er mwyn gwella hygyrchedd i'r canolfannau ac annog trigolion i gael prawf os ydyn nhw'n sâl. Mae'r safleoedd yn cael eu hadolygu a'u hadleoli'n rheolaidd ble'n addas.

 

Roedd rhan arall o'r cyflwyniad yn dangos nifer yr achosion positif sydd wedi'u cadarnhau bob dydd dros y 2 wythnos ddiwethaf yn ardal Cwm Taf Morgannwg, ac mae'r rhain wedi'u dadansoddi i ddangos nifer yr achosion ym mhob Awdurdod Lleol. Roedd y sleid nesaf yn dangos bod  ...  view the full Cofnodion text for item 50.

51.

Newid i Aelodaeth pdf icon PDF 201 KB

Derbyn adroddiad y Cyfarwyddwr Gwasanaeth – Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu ei adroddiad i roi gwybod i Aelodau am y newid i gynrychiolaeth Gr?p Annibynnol RhCT ar y Pwyllgor Craffu – Plant a Phobl Ifainc. Gofynnodd i Aelodau nodi bod Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol L Walker yn cymryd lle Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol W Jones ar y Pwyllgor Craffu – Plant a Phobl Ifainc ar unwaith.

 

Ar ôl trafod yr adroddiad, PENDERFYNWYD nodi'r newid i gynrychiolaeth Gr?p Annibynnol RhCT ar y Pwyllgor Craffu – Plant a Phobl Ifainc fel y nodwyd eisoes.