Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Y Pafiliynau, Parc Hen Lofa'r Cambrian, Cwm Clydach, Tonypandy, CF40 2XX

Cyswllt: Julia Nicholls - Democratic Services  01443 424098

Cyfryngau

Eitemau
Rhif eitem

25.

Ymddiheuriadau

Cofnodion:

Cafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan Gynghorwyr y Fwrdeistref Sirol S Belzak, A Davies-Jones, Sera Evans, E George, M Griffiths, K Jones, M Tegg, RK Turner, M Weaver, L Walker, D Williams, G Williams a C Willis.

26.

Datganiadau o Fuddiant

Derbyn datganiadau o fuddiannau personol gan Aelodau, yn unol â gofynion Cod Ymddygiad y Cyngor.

 

1.    Mae gofyn i Aelodau ddatgan rhif a phwnc yr agenda y mae eu buddiant yn ymwneud ag e a mynegi natur y buddiant personol hwnnw; a 

2.    Lle bo Aelodau'n ymneilltuo o'r cyfarfod o ganlyniad i ddatgelu buddiant personol sy'n rhagfarnu, rhaid iddyn nhw roi gwybod i'r Cadeirydd pan fyddan nhw'n gadael.

 

Cofnodion:

Yn unol â Chod Ymddygiad y Cyngor, cafodd y datganiadau o fuddiant canlynol eu gwneud:-

 

Eitem 2 ar yr Agenda - Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg

 

  • Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol J Davies - “Rydw i'n gweithio i Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg”

 

  • Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol K Morgan - “Rwy'n gweithio i Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, fydda i ddim yn cymryd rhan yn y drafodaeth”

 

  • Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol G. Caple – “Mae fy mab yn feddyg ac yn gweithio ym Mhen-y-bont ar Ogwr ac i Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg”

 

  • Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol G. Caple – “Rwy'n aelod o'r Cyngor Iechyd Cymuned”

 

  • Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol S. Evans – “Rwy'n gweithio i'r GIG”

 

  • Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol M. Forey – “Rwy'n gyn-gynrychiolydd Aelodau Etholedig ar gyfer y Bwrdd Iechyd”

 

  • Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol P. Jarman – “Rwy'n gyn-aelod o Fwrdd Iechyd Lleol Cwm Taf”

 

  • Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol R Yeo - “Mae fy ngwraig yn cael ei chyflogi gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg”

 

  • Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol G. Caple – “Rwy'n aelod o'r Cyngor Iechyd Cymuned”

 

Eitem 8 ar yr Agenda - Y Cynllun Ariannol Tymor Canolig – y Newyddion Diweddaraf

 

  • Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol P Jarman - "Yr hawl i siarad a phleidleisio ar bob mater tra bod proses pennu Cyllideb 2020-2021 yn mynd rhagddi ac yn cael ei mabwysiadu, a hynny fel Arweinydd yr Wrthblaid".

 

 

(Nodwch: Cafodd datganiad o fuddiant pellach ei wneud yn hwyrach yn y cyfarfod (gweler cofnod 36)

 

  • Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol E Griffiths - “Rwy'n ymddiriedolwr ar Gylch Meithrin Evan James ym Mhontypridd

 

27.

Munud o Dawelwch

Cofnodion:

Cyhoeddodd Arweinydd y Cyngor, Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol A Morgan fod 54 o flynyddoedd wedi mynd heibio ers Trychineb Aberfan a gofynnwyd i'r Aelodau fyfyrio ar y digwyddiad trwy gynnal munud o dawelwch.

 

28.

Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg

Derbyn cyflwyniad gan Gadeirydd y Panel Trosolwg Annibynnol ar Wasanaethau Mamolaeth

 

Cofnodion:

Croesawodd y Cyngor Mr Mick Giannasi, Cadeirydd y Panel Trosolwg Annibynnol ar Wasanaethau Mamolaeth, a rannodd cyflwyniad Power Point sy'n mynd i'r afael â'r meysydd canlynol:

 

  • Pwrpas y sesiwn gwybodaeth
  • Llinell amser cynnydd - Y Prif Bwyntiau
  • Adroddiad Cynnydd - Medi 2020
  • Tystiolaeth o Gynnydd Pellach mewn perthynas â'r Cynllun Gwella Gwasanaethau Mamolaeth
  • Cynnal Gwelliannau Tymor Hir - Datblygiadau Eraill
  • Asesiad o Gynnydd yn erbyn y Fframwaith Integredig ar gyfer Asesu Perfformiad a Sicrwydd
  • Blaenoriaethau Allweddol ar gyfer y cyfnod nesaf
  • Canlyniadau Covid-19
  • Rhaglen Adolygiadau Clinigol Annibynnol
  • Adborth yr Adolygiad Clinigol - Risgiau a Chyfleoedd
  • Crynodeb o'r negeseuon allweddol

 

Diolchodd Arweinydd y Cyngor i Gadeirydd y Panel Trosolwg Annibynnol ar Wasanaethau Mamolaeth am ei gyflwyniad a oedd wedi rhannu'r diweddaraf mewn perthynas â materion penodol ac wedi dangos y cynnydd sylweddol sydd wedi'i wneud. Roedd yr Arweinydd hefyd wedi cydnabod gonestrwydd y Bwrdd Iechyd yn ystod y trafodaethau a'r cyflwyniadau a'r cynnydd a ddangoswyd trwy'r panel annibynnol.

 

O ran pryderon blaenorol ynghylch recriwtio, morâl staff, gofynnodd yr Arweinydd a yw'r pryderon mewn perthynas â materion staffio'n cael eu rheoli mewn modd priodol. Roedd yr Arweinydd hefyd wedi cydnabod pwysigrwydd sicrhau bod gan staff yr amser i roi sylw a gofal i'r teuluoedd.

 

Dywedodd Mr Giannasi fod angen mynd i'r afael â dau fater eang, y cyntaf yw diwylliant y sefydliad, sy'n newid yn araf deg a sut mae'r sefydliad yn ymateb i drallod. Ychwanegodd y bu diffyg gofal a thosturi ond mae yna dystiolaeth o welliannau sylweddol ac mae'r adolygiadau annibynnol, megis y rhai sydd wedi'u cyflawni gan Gyngor Iechyd Cymuned ac Arolygiaeth Gofal Cymru, yn cefnogi'r dystiolaeth yma. Ar wahân i ymddygiad staff, ychwanegodd Mr Giannasi fod ymddygiad y garfan rheoli hefyd wedi newid o achosion o fwlio a diwylliant o roi'r bai ar eraill, ond byddai'r newid yma'n cymryd amser. Yn ddiweddar, lansiodd y Bwrdd Iechyd ei Raglen Gwerthoedd ac Ymddygiad ac mae rhaglenni newid arweinyddiaeth ar waith. Mae cwynion ac adborth sy'n cael eu cyflwyno gan fenywod a theuluoedd yn parhau i gael eu monitro'n ofalus.

 

Cododd Mr Giannasi bryder yngl?n â sut mae'r sefyllfaoedd hynny lle mae unigolion a theuluoedd wedi wynebu colled yn cael eu datrys, a sefyllfaoedd lle mae effaith sylweddol ar unigolion ac ar enw da'r Bwrdd Iechyd. Er bod nifer fach o achosion fel hyn, mae mesurau ar waith i annog y Bwrdd Iechyd i symud tu hwnt i gyfreitha a thuag at ddull cyfryngu, gan ystyried dulliau newydd o helpu unigolion.

 

Cafodd y Cyngor wybod bod rhaglen Birth Rate Plus yn cael ei defnyddio er mwyn i'r Byrddau Iechyd gyflawni asesiadau o ran lefelau staffio.  Cafodd yr adroddiad ei gyhoeddi ym mis Hydref 2019, sy'n golygu bod y Bwrdd Iechyd wedi cyflawni’r gwaith yn gynt na’r disgwyl.  

 

Cadarnhaodd Mr Giannasi fod gan y Bwrdd Iechyd weithdrefnau ar gyfer monitro lefelau staffio bob dydd, yn wythnosol a misol ac mae'n cael ei ddwyn i gyfrif ar y materion yma gan Lywodraeth Cymru. Gofynnwyd i'r Bwrdd Iechyd gynhyrchu strategaeth gynllunio'r gweithlu hir  ...  view the full Cofnodion text for item 28.

29.

Atal Rheolau Sefydlog

Cofnodion:

Gwnaeth y Dirprwy Arweinydd ddatganiad mewn perthynas ag atal Rheol Trefniant 15.1 y Cyngor. Nododd, er mwyn ei gwneud yn haws cynnal y cyfarfod dros Zoom, fod Arweinwyr y Grwpiau wedi cytuno ymlaen llaw, lle y bydd pleidlais, bydd Arweinydd y Gr?p yn pleidleisio ar ran holl aelodau'r gr?p ar yr eitem.

 

Er mwyn rhoi'r gweithdrefnau diwygiedig ar waith, cynigiodd y Dirprwy Arweinydd atal Rheol Gweithdrefn 15.1 y Cyngor, sy'n nodi y bydd mater yn cael ei benderfynu os bydd mwyafrif ymhlith yr Aelodau sy'n pleidleisio ac sy'n bresennol yn yr ystafell adeg y bleidlais.

 

Yn dilyn trafodaeth PENDERFYNWYD atal Rheol Gweithdrefn 15.1 y Cyngor

 

Yn seiliedig ar nifer yr Aelodau oedd wedi mewngofnodi i gyfarfod rhithwir y Cyngor, rhannodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu fanylion am nifer yr Aelodau Etholedig oedd yn bresennol fesul Gr?p: -

 

Llafur - 38

Plaid Cymru - 15

Y Blaid Geidwadol - 1

Gr?p Annibynnol RhCT - 5

 

30.

Cyhoeddiadau

Cofnodion:

  • Rhoddodd y Llywydd wybod ei fod e wedi derbyn deiseb gan Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol D Owen-Jones ar ran preswylwyr Coed-elái sy'n gwrthwynebu Cynnig T2020/191/1 - Cyfyngiadau Dim aros ar unrhyw adeg rhwng Heol Cwm Elái a Theras Tylcha Fach.

 

  • Dymunodd yr Arweinydd longyfarch Mr Nigel Wheeler, Cyfarwyddwr Cyfadran - Ffyniant, Datblygu a Gwasanaethau Rheng-flaen ar ennill Medal yr Ymerodraeth Brydeinig (BEM) ar Restr Anrhydeddau'r Frenhines. Cyfeiriodd at hanes hir Mr Wheeler o weithio i'r Cyngor a'i waith caled wrth hyrwyddo mentrau ailgylchu'r Cyngor megis Bryn Pica a'r EnviroPark

 

  • Dymunodd Arweinydd yr Wrthblaid ganmol arwyr di-glod a gwirfoddolwyr RhCT yn dilyn y llifogydd a covid-19. Roedd hi'n gobeithio y byddai'r Cyngor yn cydnabod eu gwaith yn rhan o 'Wobr Dinasyddion Da' y Maer. Dymunodd y Cynghorydd Jarman longyfarch pob un a dderbyniodd Medal yr Ymerodraeth Brydeinig, gan gynnwys Mr Wheeler a Julie Cook, sy'n hyrwyddwr y gymuned a weithiodd yn galed i gefnogi'r grwpiau hynny sy'n agored i niwed.

 

  • Dymunodd y Cynghorydd G Hughes longyfarch Elizabeth Buffy Williams o Bentre a enillodd Medal yr Ymerodraeth Brydeinig, roedd hi wedi gwneud ei gorau glas i helpu'r gymuned yn ystod pandemig Covid-19.

 

  • Dymunodd y Cynghorydd T Williams longyfarch James a Dylan Piper o Aberdâr ar gyrraedd rownd derfynol Britain's Got Talent gan gynrychioli RhCT.

 

31.

Cofnodion pdf icon PDF 311 KB

Cadarnhau cofnodion o gyfarfodydd y Cyngor a gynhaliwyd ar y dyddiadau canlynol yn rhai cywir.

 

1. 10 Medi 2020

2. 16 Medi 2020

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNODD y Cyngor gymeradwyo cofnodion y cyfarfod, a gynhaliwyd ar 10 ac 16  Medi, 2020, yn rhai cywir.

 

Rhoddodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu ddiweddariad ar y camau gweithredu y gofynnodd Aelodau amdanyn nhw yn dilyn y Rhybudd o Gynnig yng nghyfarfod y Cyngor ar 7 Hydref 2020. Dywedodd fod ei gydweithwyr yn yr Uwch Garfan Rheoli yn dod â chynnwys y nodyn gwybodaeth at ei gilydd. Bydd hyn yn cael ei rannu ag Aelodau yn ystod yr wythnosau nesaf er mwyn adlewyrchu'r cyfyngiadau newydd sydd ar waith.

 

32.

Cwestiynau gan yr Aelodau

Derbyn cwestiynau'r Aelodau yn unol â Rheol 9.2 o Weithdrefn y Cyngor.

 

(Nodwch: Caniateir hyd at 20 munud ar gyfer cwestiynau.)

 

Cofnodion:

 Cwestiwn gan Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol, y Cynghorydd Jarman i Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol y Cynghorydd M. Diamond, Cadeirydd y Gwasanaethau Democrataidd.

 

“A allwch chi egluro pa rôl rydych chi a’r Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd yn ei chwarae wrth hyrwyddo llywodraethu da?”

 

Ymateb y Cynghorydd M Diamond

 

“Dywedodd y Cynghorydd Diamond fod y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd yn chwarae rhan bwysig yng ngwaith llywodraethu'r awdurdod yma, fel y’i diffinnir gan Fesur Llywodraeth Leol 2011. Mae hyn yn cynnwys sicrhau bod y lefel briodol o gymorth a mesurau ar waith i alluogi Aelodau Etholedig i gyflawni'u rolau mewn modd effeithlon a hyrwyddo pwysigrwydd y broses ddemocrataidd a'i rôl wrth wneud penderfyniadau ”.

 

Cwestiwn Atodol gan y Cynghorydd Jarman:

 

“Dywedodd y Cynghorydd Jarman fod Cynghorwyr yn derbyn ystod eang o gymorth, ond prin ydy'r cyngor yn cydnabod aelodau y tu allan i'r Adain Weithredol ac maen nhw'n cael eu trin fel nad oes ots ganddynt amdanyn nhw, mae methu â chymryd rhan mewn sesiwn holi ac ateb mewn perthynas â'r gwasanaethau mamolaeth yn enghraifft o hyn. Yn achos cymorth gweinyddol a chymorth o ran technoleg, mae'r gwaith yn aml yn canolbwyntio ar yr Adain Weithredol.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Jarman a fyddai Cadeirydd y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd yn cefnogi adolygiad gan gymheiriaid i weld a yw'r trefniadau sydd ar waith yn y Cyngor yma'n parchu a darpariaeth gyfartal fel nad oes unrhyw Aelod yn teimlo ei fod yn cael ei anwybyddu ”.

 

Ymateb gan y Cynghorydd Diamond

 

“Dywedodd y Cynghorydd Diamond y byddai’n hapus i gefnogi adolygiad gan gymheiriaid er bod llawer o gefnogaeth i Aelodau Etholedig fel y Porth Aelodau sy’n cael ei ddatblygu ar hyn o bryd. Dywedodd fod y cyngor yn barod i wneud beth bynnag y gallai wneud i gefnogi Aelodau".

 

Cwestiwn gan Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol J. Cullwick i Arweinydd y Cyngor - Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol A. Morgan:

 

“Yng nghynhadledd y Blaid Geidwadol ddydd Mawrth y 6ed o Hydref, dywedodd Mr Boris Johnson ei fod am wneud y DU yr hyn a ddisgrifiodd fel "Saudi Arabia o wynt", a dywedodd y byddai'r sector yn darparu “cannoedd o filoedd, os nad miliynau, o swyddi.” Beth yw eich barn am y cyhoeddiad hwn a sut y gall Rhondda Cynon Taf fanteisio i'r eithaf ar gyfleoedd ac osgoi ‘grab’ arall o’r ardal fel glo yn yr 2 ganrif diwethaf?”

 

“At the Conservative Party conference on Tuesday, 6th October, Mr Boris Johnson said he wanted to make the UK what he described as “the Saudi Arabia of wind”, and said the sector would providehundreds of thousands, if not millions, of jobs”. What are your thoughts about this announcement and how can RCT maximise opportunities and avoid another asset grab like coal in the last couple of centuries?”

 

Ymateb gan y Cynghorydd Morgan

 

“Esboniodd y Cynghorydd Morgan fod RhCT wedi cyflawni llawer o waith i gynhyrchu ei ynni ei hun a bod mor effeithlon â phosibl, megis gosod paneli solar ar holl adeiladau'r Cyngor  ...  view the full Cofnodion text for item 32.

33.

Rhaglen Waith Y Cyngor

Cofnodion:

Yn dilyn gwaith diweddar y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu mewn perthynas â llifogydd yn RhCT yn ystod 2020, dywedodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth, Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu y byddai'r Sesiwn Ymchwiliad Craffu yn cael ei chynnal ar ôl Hanner Tymor ac y bydd hefyd yn cael ei thrafod yn ystod cyfarfod y Cyngor ar 25 Tachwedd 2020.

 

34.

DIWEDDARIAD MEWN PERTHYNAS Â'R CORONAFEIRWS YN RHONDDA CYNON TAF

Derbyn datganiad mewn perthynas â'r Coronafeirws yn y Fwrdeistref Sirol

Cofnodion:

Rhannodd Arweinydd y Cyngor ddiweddariad mewn perthynas â'r Coronafeirws yn Rhondda Cynon Taf gan gynnwys y cyfnod atal byr a fydd yn dod i rym o 6pm ddydd Gwener, 23 Hydref.

 

Cadarnhaodd yr Arweinydd fod nifer sylweddol o achosion yn dal i gael eu nodi'n rhan o'r broses Olrhain Cysylltiadau, mae oddeutu 150-200 o achosion yn cael eu nodi bob dydd a thalodd deyrnged i waith caled parhaus y carfanau sydd ar y rheng flaen ac sy'n olrhain y cysylltiadau yma. Dywedodd fod y cyfyngiadau symud lleol diweddar yn sicr wedi arafu'r cynnydd yn nifer yr achosion, ac roedd gostyngiad am dri neu bedwar diwrnod. Nid oedd y mesurau lleol yn ddigon i roi diwedd ar ledaeniad y feirws.

 

Roedd yr Arweinydd yn gefnogol o'r mesurau a fydd yn dod i rym ond roedd yn cydnabod pa mor anodd yw hi i'r holl breswylwyr hynny sy'n rhan o'r cynlluniau cadw swyddi /ffyrlo oherwydd eu bod nhw ond yn mynd i dderbyn 67% o'u cyflog yn rhan o'r cynllun newydd o 1 Rhagfyr 2020. Dywedodd fod y Cyngor wedi lobïo Llywodraeth Cymru i ychwanegu cyfran o'r cynllun ffyrlo presennol ond mae hynny wedi bod yn aflwyddiannus.

Dywedodd yr Arweinydd fod 1,000 o achosion newydd y dydd yng Nghymru ar hyn o bryd, mae'n bosibl y bydd y nifer yma'n cynyddu hyd at y Nadolig felly mae'n bosibl y bydd y twf sy'n cael ei gyfeirio ati nawr fod llawer yn llai na'r twf ym mis Ionawr a Chwefror yn dilyn cyfnod y Nadolig. Mae angen gweithredu nawr.

 

Bydd llywodraeth leol yn gweinyddu'r pecynnau cymorth i fusnesau gwerth £300miliwn, mae £280miliwn wedi'i seilio ar y pecyn cymorth diwethaf a gynigiwyd. Bydd modd i fusnesau a oedd yn derbyn grantiau gwerth rhwng £10,000 a £25,000 yn seiliedig ar eu gwerth ardrethol hawlio cymorth os oes gofyn iddyn nhw gau.

Uchafswm y grant yw £5,000, gyda thaliad sylfaenol o £1,000. Mae taliadau o £500 ar gael i'r rheini sy'n derbyn budd-daliadau neu sydd ar incwm isel os oes gofyn iddyn nhw hunanynysu. Mae dros £11miliwn wedi cael ei sicrhau i dalu am Brydau Ysgol am Ddim. Bydd y taliadau'n parhau i gael eu darparu yn ystod hanner tymor ac yn ystod gwyliau'r Nadolig a chynlluniau ar gyfer y flwyddyn nesaf . Bydd y taliad gwerth £19.50 yr wythnos o fudd mawr i lawer o deuluoedd yn ystod y cyfnod anodd yma. Derbyniwyd dros 1,000 o geisiadau ychwanegol am brydau Ysgol Am Ddim yn ystod y pandemig gan bobl cymwys.

 

Dywedodd yr Arweinydd y bydd canolfannau ailgylchu yn y gymuned a llyfrgelloedd yn cau yn ystod y cyfnod atal byr, bydd oriau agor toiledau cyhoeddus yn lleihau i 10-4pm er mwyn denu preswylwyr i ganol y trefi i gefnogi busnesau canol y dref. Bydd canolfannau cymunedol yn cau a fydd dim modd i grwpiau o bobl gwrdd, ond gall unigolion sengl ymuno ag aelwyd arall i ffurfio swigen. Mae'r neges yn glir, arhoswch gartref o 6pm ddydd Gwener am bythefnos.

 

Cadarnhaodd yr Arweinydd y bydd  ...  view the full Cofnodion text for item 34.

35.

Y Cynllun Ariannol Tymor Canolig – y Newyddion Diweddaraf pdf icon PDF 413 KB

Rhoi'r newyddion diweddaraf i'r Aelodau am y Cynllun Ariannol Tymor Canolig ar gyfer 2020/21 – 2023/24

 

 

Cofnodion:

Derbyn adroddiad y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cyllid a Digidol, sy'n rhoi diweddariad i'r Aelodau am y Cynllun Ariannol Tymor Canolig ar gyfer 2020/21 tan 2023/24, yn seiliedig ar y rhagdybiaethau modelu presennol, cyn pennu'r cynigion manwl ar gyfer strategaeth cyllideb 2021/22 yn ystod misoedd yr hydref.

 

Cafodd Aelodau wybod bod y sefyllfa economaidd genedlaethol yn parhau i fod yn ansicr gan fod y gyllideb sydd ar ddod bellach wedi'i gohirio ac mae'r adolygiad cynhwysfawr o wariant bellach yn debygol o fod am flwyddyn yn unig ac nid am y tair blynedd fel y cynlluniwyd yn wreiddiol. Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i gefnogi'r goblygiadau cost ychwanegol sy'n codi o ganlyniad i'r pandemig gan gynnwys incwm a gollwyd a chostau ychwanegol y mae'r Cyngor yn parhau i'w hwynebu y tu allan i'w gyllideb graidd.

 

Esboniodd y Cyfarwyddwr fod rhai o'r rhagdybiaethau allweddol sydd wedi'u cynnwys yn y cynllun ariannol yn cynnwys lefelau setliad sydd wedi'u modelu ar ystod o sefyllfaoedd cynllunio ac sydd wedi'u llunio yn seiliedig ar gyllid Llywodraeth Cymru yn cyrraedd lefel o + 2%, + 3% a + 4% y flwyddyn ar gyfer blynyddoedd ariannol 2021/22, 2022/23 a 2023/24. Mae amrywiaeth bosibl y lefelau setliad gan Lywodraeth Cymru yn cael effaith sylweddol ar y diffyg yn y gyllideb, sef £3.6M fesul 1% fel y dangosir yn yr ystod o ragdybiaethau sy'n cael eu gweithredu ar hyn o bryd.

 

I gloi, dywedodd y Cyfarwyddwr y byddai'r Cyngor yn nodi opsiynau a fydd yn helpu i fynd i'r afael â'r ystod o fylchau posibl yn y gyllideb ond wrth wneud hynny bydd y Cyngor yn sicrhau ei fod yn cynnal ei wasanaethau hanfodol. Bydd yr adroddiad ar gael i Aelodau'r Pwyllgor Cyllid a Chyflawniad, yn rhan o'u rôl fel ymgynghorwyr ar gyllideb y Cyngor ar gyfer y flwyddyn nesaf.

 

Ymatebodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cyllid a Digidol i'r cwestiwn mewn perthynas â chyllideb Ysgolion sydd wedi'i lunio i dalu am chwyddiant mewn cyflogau ac mewn costau eraill yng nghyd-destun yr ystod o lefelau setliad llywodraeth leol sydd wedi'u rhagweld ac mewn perthynas â dyrannu cyllid mewn perthynas â'r grant tlodi misglwyf.

 

Yn dilyn trafodaeth am yr adroddiad, PENDERFYNWYD nodi'r sefyllfa bresennol mewn perthynas â'r 'Cynllun Ariannol Tymor Canolig 2020/21 tan 2023/24' a chael y newyddion diweddaraf yn nhymor yr Hydref yn rhan o'r broses pennu cyllideb flynyddol.

 

36.

Adroddiad Cyflawniad Corfforaethol y Cyngor ar gyfer 2020/21 pdf icon PDF 2 MB

Cyflwyno Adroddiad Cyflawniad Corfforaethol y Cyngor i'r Aelodau.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth - Cyflawni a Gwella adroddiad y Prif Weithredwr sy'n amlinellu Adroddiad Cyflawniad Corfforaethol (drafft) Rhondda Cynon Taf, sy'n nodi'r cynnydd sydd wedi'i wneud yn 2019/20 a'r cynlluniau ar gyfer 2020/21 mewn perthynas â blaenoriaethau strategol y Cyngor. Mae hefyd yn nodi sut mae'r Adroddiad Cyflawniad Corfforaethol yn galluogi'r Cyngor i fodloni ei ofynion adrodd statudol.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth fod y ddogfen wedi cael ei hadolygu gan uwch swyddogion i sicrhau ei bod yn seiliedig ar dystiolaeth ac yn gytbwys o ran yr asesiad. Cafodd y ddogfen ei chyflwyno i'r Cabinet ar 13 Hydref 2020 a'i chymeradwyo gydag argymhelliad i'w chymeradwyo i'r Cyngor.

 

Mae'r adroddiad wedi'i lunio gan ystyried cyd-destun digwyddiadau digynsail Storm Dennis a phandemig y Coronafeirws ond nodir bod y cyflawniad a'r cynnydd wedi'i wneud yn ystod 2019/20 wedi bod yn gadarnhaol.

 

Mae'r cynlluniau gweithredu arfaethedig ar gyfer y blaenoriaethau wedi'u hadnewyddu sef Pobl, Lleoedd a Ffyniant yn canolbwyntio ar feysydd allweddol ar gyfer y flwyddyn gyfredol a byddan nhw'n rhan o'r Adroddiadau Cyflawniad Chwarterol a fydd yn cael eu trafod gan y Cabinet a'r Pwyllgor Craffu ar faterion Cyllid a Chyflawniad eleni. Mae gan Archwilio Cymru ddyletswydd statudol i archwilio'r adroddiadau cyflawniad corfforaethol a fydd yn cael eu hadrodd i'r Cyngor maes o law.

 

Cafodd nifer o ymholiadau eu codi mewn perthynas â'r Adroddiad Cyflawniad Corfforaethol (drafft). Roedd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth - Cyflawni a Gwella wedi mynd i’r afael â’r rhain, mae rhai ohonyn nhw wedi'u nodi isod:-

 

Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth mai'r adroddiad cyflawniad corfforaethol (drafft) gerbron yr Aelodau oedd y fersiwn derfynol i'w hystyried a'i chymeradwyo. Cadarnhaodd hefyd bod yr adroddiad yn gynhwysfawr ac y bydd gwasanaethau'r Cyngor yn trafod yr wybodaeth ac yn rhoi'r camau gweithredu angenrheidiol ar waith gan obeithio mynd i'r afael â'r meysydd y mae'r Cyngor angen eu gwella.

 

O ran cyfrannu at y Cynllun Datblygu Lleol (CDLl), does gan yr Adroddiad Cyflawniad Corfforaethol ddim hawl i wneud sylw o safbwynt technegol, ond byddai'n cyfeirio ato o safbwynt asesu ffeithiol.

 

Codwyd ymholiad penodol mewn perthynas â beth yn union yw 'cynnydd da' mewn perthynas â darpariaeth cyfrwng Cymraeg, bydd y maes gwasanaeth yn ymateb i'r ymholiad yma yn dilyn y cyfarfod.

 

Eglurodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth bod yr wybodaeth a gafodd ei chyflwyno i'r Pwyllgor Craffu ar faterion Cyllid a Chyflawniad yn cynnig trosolwg mwy holistig o ran cyflawniad ym mhob un o'r Pwyllgorau Craffu. Fodd bynnag mae yna gyfle i geisio gwybodaeth fanwl bellach ac ychwanegu eitemau at y rhaglenni gwaith, cyn belled â bod rhesymeg a deilliant eglur yn gysylltiedig â'r eitem.

 

Ar ôl trafod yr adroddiad PENDERFYNWYD cymeradwyo'r Adroddiad Cyflawniad Corfforaethol (drafft) (fel y nodir yn Atodiad 1) gan ystyried adborth y Cabinet yn ei gyfarfod ar 13 Hydref 2020.

 

37.

Llywydd

Cofnodion:

Ar y pwynt yma yn y cyfarfod, camodd y Dirpwy Lywydd i rôl y Cadeirydd am weddill y cyfarfod.

 

38.

Gostyngiad Treth y Cyngor pdf icon PDF 216 KB

Derbyn adroddiad y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cyllid a Digidol.

 

Cofnodion:

Trwy ei adroddiad rhoddodd y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cyllid a Digidol gyfle i'r Aelodau adolygu lefel y gostyngiad Treth y Cyngor ar gyfer dosbarthiadau rhagnodedig o anheddau yn y Fwrdeistref Sirol ac adolygu, diwygio neu ailddatgan y lefel a ragnodwyd. 

 

Cyfeiriwyd yr aelodau at adran 3 o'r adroddiad a oedd yn amlinellu gofynion y Cyngor mewn perthynas â darpariaeth gostyngiad Treth y Cyngor, gyda'r Cyfarwyddwr yn dweud bod gan y Cyngor ddisgresiwn i ddyfarnu gostyngiad o hyd at 50% mewn perthynas â dau ddosbarth o anheddau rhagnodedig (a ddisgrifir fel arfer fel ail gartrefi a chartrefi gwyliau). Hynny yw, Dosbarth A a Dosbarth B. Cafodd yr Aelodau gyngor pellach am anheddau Dosbarth C a chadarnhaodd y Cyfarwyddwr fod y Cyngor wedi penderfynu o'r blaen i beidio â chaniatáu gostyngiad mewn perthynas ag eiddo Dosbarth A, B ac C. .

 

Yn dilyn trafodaethau, cwestiynau ac ymatebion y Cyfarwyddwr Cyllid a Gwasanaethau Digidol, PENDERFYNWYD:

 

1.Cytuno i barhau â dim gostyngiad Treth y Cyngor mewn perthynas ag eiddo Dosbarth A, B ac C.

 

 

39.

Ymateb i'r Rhybudd o Gynnig - Tân Gwyllt pdf icon PDF 130 KB

Derbyn adroddiad y Cyfarwyddwr Gwasanaeth - Iechyd a Diogelwch y Cyhoedd, a'r Gymuned, sy'n cefnogi'r Rhybudd o Gynnig a wnaed i'r Cyngor ar 27 Tachwedd 2019.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth, Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu ddiweddariad i'r Aelodau mewn perthynas â'r Rhybudd o Gynnig a gafodd ei drafod gan y Cyngor yn ei gyfarfod ar 27 Tachwedd 2019 ac ymgyrch yr RSPCA yn galw am ragor o fesurau rheoli. Cyfeiriodd at ganlyniad y penderfyniad a gafodd ei wneud gan y Cabinet yn ei gyfarfod ar 13 Hydref, ar ôl ystyried yr argymhellion a'r Hysbysiad o benderfyniad y Cabinet sydd wedi'i atodi.

 

Yn dilyn trafodaeth a gwelliant i'r cynnig bod y Cyngor yn ysgrifennu at gynrychiolwyr Seneddol Rhondda Cynon Taf er mwyn gofyn am gymorth wrth annog Llywodraeth y DU i ymateb i argymhellion adroddiad y Pwyllgor Dethol ar y mater hwn,  PENDERFYNWYD:

 

1.   Nodi argymhellion Cyfarwyddwr Iechyd a Diogelwch y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymuned ar y cyd â deiliad y portffolio perthnasol, fel sydd wedi'i nodi yn yr adroddiad Cabinet sydd wedi'i atodi (Atodiad 1);

 

2.         Nodi deilliant penderfyniad y Cabinet yn ei gyfarfod ar y 13 Hydref, ar ôl ystyried yr argymhellion; a

 

3.        Bod y Cyngor yn ysgrifennu at gynrychiolwyr Seneddol Rhondda Cynon Taf er mwyn gofyn am gymorth wrth annog Llywodraeth y DU i ymateb i argymhellion adroddiad y Pwyllgor Dethol ar y mater hwn. 

 

40.

Penderfyniadau Brys o dan Swyddogaethau Gweithredol pdf icon PDF 124 KB

Derbyn adroddiad y Cyfarwyddwr Gwasanaeth – Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu.

 

Cofnodion:

Yn unol â Rheolau Gweithdrefn Trosolwg a Chraffu 17.2(a), rhoddodd Cyfarwyddwr Gwasanaeth, Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu wybod am y penderfyniadau brys a ddygwyd ymlaen trwy benderfyniad dirprwyedig allweddol yn ystod y cyfnod Gorffennaf - Medi 2020 a PHENDERFYNWYD nodi'r wybodaeth sy wedi'i chynnwys yn yr adroddiad.

 

41.

Newid Aelodaeth pdf icon PDF 202 KB

Derbyn adroddiad Cyfarwyddwr Materion Cyfathrebu a Phennaeth Dros Dro'r Gwasanaethau Llywodraethol

Cofnodion:

Yn unol â'r penderfyniad a gafodd ei wneud yn ystod cyfarfod y Cyngor a gynhaliwyd ar 16 Medi 2020, dywedodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth – Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu ei fod wedi derbyn hysbysiad gan y Gr?p Plaid Cymru o newidiadau i'w aelodaeth ar y Pwyllgorau canlynol:

 

·         Bydd Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol A Cox yn cael ei enwebu i gymryd lle Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol E Webster yn rhan o newid i Aelodaeth y Pwyllgor Trwyddedu; a

·         Bydd Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol E Webster yn cael ei enwebu i gymryd lle Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol A Cox yn rhan o newid i Aelodaeth y Pwyllgor Archwilio.

 

PENDERFYNWYD:

 

1. ByddCynghorydd y Fwrdeistref Sirol A Cox yn cymryd lle Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol E Webster yn rhan o'r Pwyllgor Trwyddedu; a

 

2. Bydd Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol E Webster yn cymryd lle Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol A Cox yn rhan o’r Pwyllgor Archwilio.

 

42.

Materion Brys

Trafod unrhyw faterion sydd, yn ôl doethineb y Cadeirydd, yn faterion brys yng ngoleuni amgylchiadau arbennig.