Agenda, Penderfyniadau a Chofnodion drafft

Lleoliad: Hybrid

Cyswllt: Julia Nicholls - Democratic Services  01443 424098

Cyfryngau

Eitemau
Rhif eitem

99.

Croeso

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Croesawodd y Llywydd yr Aelodau i gyfarfod hybrid cyntaf y Cyngor i’w gynnal ym Mhencadlys newydd y Cyngor yn Llys Cadwyn, Pontypridd.

 

100.

Datgan Buddiant

Derbyn datganiadau o fuddiannau personol gan Aelodau yn unol â'r Cod Ymddygiad.

 

1.     Mae gofyn i Aelodau ddatgan rhif a phwnc yr agendwm y mae eu buddiant yn ymwneud ag e a mynegi natur y buddiant personol hwnnw; a 

2.     Lle bo Aelodau'n ymneilltuo o'r cyfarfod o ganlyniad i ddatgelu buddiant sy'n rhagfarnu, rhaid iddyn nhw roi gwybod i'r Cadeirydd pan fyddan nhw'n gadael.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Yn unol â Chod Ymddygiad y Cyngor, cafodd y datganiadau o fuddiant canlynol eu gwneud yngl?n â'r agenda:

 

Eitem 5 ar yr agenda – Cwestiynau'r Aelodau

 

Y Cynghorydd K Johnson – Personol – “Rydw i'n cael fy ngyflogi gan gwmni Trafnidiaeth Cymru”

 

Eitem 6 ar yr agenda – Strategaeth Cyllideb Refeniw 2024/2025

 

Eglurodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd y byddai datganiad personol cyffredinol ar gyfer y rhai sy'n aelodau o Gyngor Tref neu Gymuned yn cael ei ddatgan mewn perthynas ag Eitemau 6 a 7 ar yr Agenda sy'n cyfeirio at y Praeseptau Cynghorau Cymuned/Tref.

Cynghorydd Sera Evans – Personol - “Crybwyllir ysgol fy mab yn yr adroddiad”

 

(Datganwyd yn ddiweddarach yn y cyfarfod Cyfeiriwch at Gofnod Rhif 105) Y Cynghorydd R Lewis – Personol - “Rwy’n Is-Gadeirydd Gwasanaeth Addysg ar y Cyd Consortiwm Canolbarth y De”

 

Eitem 7 ar yr agenda – Penderfyniad Treth y Cyngor 2024/25

 

Y Cynghorydd C Lisles – Personol - “Rydw i'n Gynghorydd Cymuned ar Gyngor Tref Pontypridd.”

 

Y Cynghorydd J Bonetto – Personol - “Rydw i’n Gynghorydd Cymuned ar Gyngor Cymuned Ffynnon Taf a Nantgarw”

 

Y Cynghorydd A Rogers – Personol - “Rwy’n aelod o Gyngor Cymuned Hirwaun a Phenderyn”

 

Y Cynghorydd B Harris – Personol – “Rydw i'n Aelod o Banel Heddlu a Throsedd De Cymru.”

Y Cynghorydd L Addiscott – Personol – “Rydw i'n Aelod o Banel Heddlu a Throsedd De Cymru.”

 

Eitem 8 ar yr agenda – Rhaglen Gyfalaf 2024-2025-2026-27

 

Y Cynghorydd W. Owen – Personol – “Rwy’n eistedd ar Fwrdd Llywodraethwyr Ysgol Gynradd Pont-y-clun”

 

Y Cynghorydd G Holmes – Personol - “Rwy’n Llywodraethwr ar gyfer Ysgol Gynradd Pen-y-gawsi”

 

Y Cynghorydd S Morgans – Personol - “Rwy’n Llywodraethwr ar gyfer Ysgol Llyn Y Forwyn”

 

Cynghorydd J Smith – Personol – “Rwy’n Llywodraethwr ar gyfer Ysgol Llyn Y Forwyn”

 

Y Cynghorydd M Webber – Personol- “Rwy’n eistedd ar y Corff Llywodraethu dros dro ar gyfer Ysgol newydd Awel Taf"

 

Y Cynghorydd L Tomkinson – Personol - “Rwy’n Llywodraethwr dros dro ar gyfer Ysgol Afon Taf”

 

Y Cynghorydd S Trask - Personol - “Mae fy merch yn mynychu Ysgol Gyfun Bryncelynnog”

 

Y Cynghorydd C Lisles – Personol - “Rwy’n Gadeirydd y llywodraethwyr yn Ysgol Gynradd y Ddraenen Wen”

 

Y Cynghorydd C Lisles – Personol - “Rwy’n aelod o Gorff Llywodraethu Ysgol Uwchradd y Ddraenen Wen a fydd yn ffurfio Ysgol Afon Wen”

 

Y Cynghorydd C Preedy - Personol - “Mae gen i aelod o’r teulu sy’n athro yn Ysgol Gyfun Bryncelynnog”

 

Y Cynghorydd A Roberts – Personol - “Rwy’n Llywodraethwr ar gyfer Ysgol Uwchradd y Ddraenen Wen” 

 

Y Cynghorydd J Bonetto - Personol - “Rwy'n Llywodraethwr yn Ysgol Uwchradd y Ddraenen Wen”

 

Cynghorydd J Bonetto – Personol - “Rwy’n eistedd ar y Corff Llywodraethu dros dro ar gyfer Ysgol newydd Afon Wen”

 

Eitem Agenda 11 – Datganiad 2024/25 y Cyngor ar Bolisi Cyflogau

 

Roedd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd yn dymuno gwneud datganiad ar ran holl Swyddogion y Cyngor a oedd yn bresennol mewn perthynas ag Eitem 11 ar yr  ...  view the full Cofnodion text for item 100.

101.

Cofnodion pdf icon PDF 203 KB

Cadarnhau cofnodion o gyfarfod y Cyngor a gynhaliwyd ar 7 Chwefror 2024 yn rhai cywir.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNODD y Cyngor gymeradwyo cofnodion y cyfarfod ar-lein blaenorol o'r Cyngor, a gynhaliwyd ar 7 Chwefror 2024, yn rhai cywir.

 

102.

Cyhoeddiadau

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y cyhoeddiadau canlynol eu gwneud:

 

Ø    Roedd y Cynghorydd Sera Evans yn dymuno estyn ei chydymdeimlad i Arweinydd Gr?p Plaid Cymru, y Cynghorydd Karen Morgan, a’i theulu yn dilyn marwolaeth drist ei g?r, Gareth, o ganlyniad i salwch difrifol a hirfaith. Roedd y Cynghorydd Evans yn dymuno estyn ei chydymdeimlad dwysaf â’r Cynghorydd Morgan, ei theulu a’i phlant ar yr adeg hynod drist ac anodd yma.

 

Ø   Talodd y Cynghorydd Sheryl Evans deyrnged i’r cyn-Gynghorydd diweddar Linda De Vet, a fu farw ar 7 Chwefror 2024. Roedd y cyn-Gynghorydd De Vet yn cynrychioli ward Gogledd Aberaman ar y pryd ac fe’i hetholwyd yn Faeres ar gyfer Blwyddyn y Cyngor 2019-2020. Safodd i lawr fel Cynghorydd yn Etholiadau 2022 ond siaradodd y Cynghorydd Evans yn annwyl am ei chyfeillgarwch gyda’i ffrind Linda De Vet.

 

Ø    Roedd y Cynghorydd A Morgan OBE hefyd yn dymuno talu teyrnged i'r cyn-Gynghorydd Simon Lloyd a fu farw'n ddiweddar. Cafodd ei ethol i gynrychioli ward Gorllewin Aberpennar mewn is-etholiad yn 2005 a safodd eto yn Etholiadau Lleol 2008 a 2012, cyn sefyll i lawr yn 2017. Gwasanaethodd fel Maer y Cyngor yn 2010/2011, gan fwynhau'r gwaith yn fawr, ac roedd hefyd yn gyn aelod o Gyngor Sir Morgannwg Ganol. Cydymdeimlodd yr Arweinydd â theulu Simon ar yr adeg drist yma.

 

Arweiniodd y Llywydd y Cyngor mewn munud o dawelwch er cof am y tri unigolyn yma.

 

103.

Cwestiynau gan yr Aelodau pdf icon PDF 218 KB

Derbyn cwestiynau'r Aelodau yn unol â Rheol 9.2 o Weithdrefn y Cyngor.

 

(Nodwch: Caniateir hyd at 20 munud ar gyfer cwestiynau.)

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

1)  Cwestiwn gan Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol R Evans i Arweinydd y Cyngor, Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol A Morgan OBE:

 

“A wnaiff yr Aelod o'r Cabinet roi’r wybodaeth ddiweddaraf am y cynllun i uwchraddio’r cwlfert ar ystad ddiwydiannol y Porth?”

Ymateb gan Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol A. Morgan OBE:

 

Dywedodd yr Arweinydd fod y gwaith bellach wedi'i gwblhau ar y cwlfert yn Ystâd Ddiwydiannol Llwyncelyn, y Porth, a ariannwyd drwy Gronfa Ffyrdd Cydnerth Llywodraeth Cymru.  Ychwanegodd fod y gwaith wedi cynnwys uwchraddio'r cwlfert yn llwyr, gyda dyfeisiau gorlif wedi'u hadeiladu i mewn, ac mae trefniadau Monitro TCC 24/7 eisoes ar waith ar y safle, sy'n gysylltiedig ag ystafell reoli argyfwng y Cyngor. Bydd unrhyw stormydd sydd â rhybudd melyn neu ambr yn y dyfodol yn golygu y bydd yr ystafell reoli yn cael ei staffio a'i monitro.

 

Soniodd yr Arweinydd am y buddsoddiad sydd wedi dod i gyfanswm o £150,000 a sut mae'r ymatebion gan fusnesau lleol i'r buddsoddiad a'r gwaith eisoes wedi bod yn gadarnhaol.

 

Nid oedd unrhyw gwestiwn ategol.

 

 

2)  Cwestiwn gan Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol D Williams i Arweinydd y Cyngor - Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol A. Morgan OBE:

“A oes modd i'r Arweinydd roi diweddariad ar y paratoadau sydd ar y gweill cyn i RhCT groesawu’r Eisteddfod yn yr haf?”

Ymateb gan Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol A. Morgan OBE:

 

Dywedodd yr Arweinydd fod gwaith ar gwblhau'r Cynllun Gofodol wedi gwneud cynnydd da, a bod lleoliadau arfaethedig ar gyfer cyfleusterau parcio a theithio, maes carafanau a chyfleusterau gwersylla eraill yn cael eu hystyried gan Bwyllgor Eisteddfod y Cyngor yr wythnos nesaf. Ychwanegodd yr Arweinydd y byddai cyhoeddiad yn cael ei wneud yn y dyddiau nesaf gyda newyddion cadarnhaol pellach yn ymwneud â'r Eisteddfod.

Dywedodd yr Arweinydd fod cyfarfod cadarnhaol wedi'i gynnal yn ddiweddar gyda'r holl Aelodau lleol yng nghyffiniau Pontypridd, gan nodi dechrau ymgysylltiad a chyswllt rhagweithiol, parhaus ag Aelodau ar drefniadau isadeiledd yr Eisteddfod. Ychwanegodd fod disgwyl y bydd mwy na 160,000 o ymwelwyr yn dod i'r dref dros y cyfnod o wyth diwrnod. Dywedodd yr Arweinydd na fydd unrhyw reswm i yrru drwy Bontypridd yn ystod yr Eisteddfod wrth i Swyddogion barhau i weithio'n agos gyda Phwyllgor yr Eisteddfod a Thrafnidiaeth Cymru i ddatblygu cynllun Rheoli Traffig gyda gwell darpariaeth trenau a fflydoedd o fysiau yn cludo pobl a thrigolion yn rhan o'r trefniadau parcio a theithio.

Eglurodd yr Arweinydd y bu codi arian sylweddol hyd yn hyn, gyda chefnogaeth barhaus i bwyllgorau apêl lleol sy'n codi arian i'r Eisteddfod Genedlaethol. Roedd yr Arweinydd yn awyddus i bwysleisio bod yr Eisteddfod yn agored i’r holl drigolion, ac mae ymgysylltu â’r holl bobl ifainc ledled y fwrdeistref sirol yn hollbwysig.

Dywedodd yr Arweinydd y bydd buddion yr Eisteddfod i’w gweld ym mhob rhan o'r fwrdeistref sirol ac nid yn nhref Pontypridd yn unig, ac felly mae'r garfan ar gyfer Canol Trefi yn parhau i weithio, nid yn unig ag AGB Pontypridd ond hefyd AGB Aberdâr a Threorci i hyrwyddo’r Eisteddfod ymhell ac yn agos, a hynny  ...  view the full Cofnodion text for item 103.

104.

Rhaglen Waith y Cyngor 2023/2024

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu Raglen Waith y Cyngor ar gyfer Blwyddyn y Cyngor 2023/24 ac fel y cynghorwyd yn flaenorol, bydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf yn mynychu cyfarfod nesaf y Cyngor. Hefyd, bydd Dadl Flynyddol yr Arweinydd, a drefnwyd yn wreiddiol ar gyfer mis Chwefror, bellach yn rhan o gyfarfod y Cyngor ym mis Ebrill, sef cyfarfod rheolaidd olaf y flwyddyn ddinesig yma.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth hefyd y byddai Aelodau yn derbyn Cynllun Corfforaethol y Cyngor, yr Adolygiad o Ffiniau Cymunedol ac adroddiad ar Gydbwysedd Gwleidyddol y Cyngor yn ystod y cyfarfod nesaf. I gloi, ychwanegodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth y byddai diweddariad yn cael ei ddarparu ar ofynion busnes y Cyngor rhwng nawr a'r Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol (CCB), a hynny trwy law'r Arweinwyr Grwpiau, cyn cyhoeddi'r rhaglen waith wedi'i diweddaru.

 

105.

Strategaeth Cyllideb Refeniw 2024/25 pdf icon PDF 287 KB

Derbyn adroddiad y Dirprwy Brif Weithredwr a Chyfarwyddwr Cyfadran y Gwasanaethau Cyllid, Digidol a Rheng Flaen.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Cyfarwyddwr y Gyfadran Cyllid a Gwasanaethau Digidol a Rheng Flaen y Strategaeth Gyllideb a argymhellir gan y Cabinet ar gyfer blwyddyn ariannol 2024/25. Mae'r strategaeth bellach yn cael ei hargymell i'r Cyngor Llawn.

 

Esboniodd y Cyfarwyddwr Cyfadran fod y strategaeth ddrafft wreiddiol wedi'i chymeradwyo gan y Cabinet ar 24 Ionawr, a'i bod wedi bod yn destun ail gam ymgynghori a gafodd ei gynnal rhwng 24 Ionawr a 9 Chwefror. Mae'r holl adborth o ail gam yr ymgynghoriad wedi'i ystyried gan y Cabinet ac mae ynghlwm wrth yr adroddiad. Ychwanegodd y Cyfarwyddwr Cyfadran fod yr adborth yn cynnwys yr adroddiad ymgynghori, cofnodion cyfarfodydd Pwyllgor Trosolwg a Chraffu'r Cyngor, y Fforwm Cyllideb Ysgolion a'r Cydbwyllgor Ymgynghorol. Dywedodd y Cyfarwyddwr Cyfadran fod y strategaeth, y cytunwyd arni wedyn gan y Cabinet ar 21 Chwefror, wedi ei nodi yn yr adroddiad.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Cyfadran y rhagwelir y byddai bwlch cychwynnol y Cyngor yn y gyllideb, fel y'i nodwyd yn y Cynllun Ariannol Tymor Canolig diwethaf, yn £36 miliwn ar gyfer y flwyddyn nesaf. Yn erbyn y sefyllfa yma, mae nifer o fesurau lleihau cyllideb cynnar, yr adroddwyd arnynt yn flaenorol ac y penderfynwyd arnynt yn flaenorol, wedi'u gwrthbwyso, gan adael bwlch o £25.9 miliwn yn weddill. Dyma'r sefyllfa y lluniwyd strategaeth y gyllideb yn ei herbyn. Ychwanegodd fod y Cyngor bellach wedi derbyn y setliad llywodraeth leol terfynol sydd hefyd yn cael ei adlewyrchu. Ychwanegodd fod y setliad terfynol yn cadarnhau cynnydd mewn cyllid ar lefel Cymru gyfan o 3.3% a 3% ar gyfer y Cyngor hwn. Mae lefelau setliadau ledled Cymru yn amrywio o 2.3% i 5% gyda chyllid gwaelodol yn ei le ar lefel is y setliad. Ychwanegodd fod tri throsglwyddiad i'r grant cynnal refeniw yn y setliad terfynol, fodd bynnag, nid yw'r rhain yn cael effaith net ar sefyllfa'r gyllideb.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Cyfadran am elfennau allweddol strategaeth y gyllideb a nodir yn adran 7 yr adroddiad, sy’n ymdrin â’r bwlch cyllidebol o £25.9 miliwn sy’n weddill:

 

Ø   Y cynnydd arfaethedig yn nhreth y cyngor ar gyfer y flwyddyn nesaf yw 4.99% a fydd yn darparu incwm ychwanegol o £1.122 miliwn, yn ychwanegol at y 3.9% a fodelwyd yn wreiddiol. Mae hyn yn cyfateb i gynnydd o £1.03 yr wythnos ar gyfer eiddo Band A neu £1.55 ar gyfer eiddo Band D. Mae elfen o’r cynnydd yn nhreth y cyngor wedi’i neilltuo i gefnogi darpariaeth trafnidiaeth gyhoeddus ledled y fwrdeistref sirol;

 

Ø     Mae ysgolion y Cyngor wedi'u diogelu ers blynyddoedd lawer, gyda'u cyllidebau wedi cynyddu gan 34% dros y deng mlynedd diwethaf, pan mae gwasanaethau eraill y Cyngor wedi gweld cynnydd sy'n gyfystyr â dim ond hanner y lefel honno. Roedd cronfeydd wrth gefn ysgolion yn £15 miliwn ar ddiwedd y flwyddyn ariannol ddiwethaf, sydd ar lefel hanesyddol o uchel, o’i gymharu â 31Mawrth 2020 pan oedd cronfeydd wrth gefn yr ysgol yn £2.4 miliwn. Cynigir bod y Cyngor yn ariannu ysgolion yn llawn ar gyfer yr holl bwysau cyflog y flwyddyn nesaf ynghyd â rhoi £1 miliwn  ...  view the full Cofnodion text for item 105.

106.

PENDERFYNIAD TRETH Y CYNGOR 2024/25 pdf icon PDF 150 KB

Derbyn adroddiad y Dirprwy Brif Weithredwr a Chyfarwyddwr Cyfadran y Gwasanaethau Cyllid, Digidol a Rheng Flaen.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cyfarwyddwr Cyfadran Cyllid, Gwasanaethau Digidol a Rheng Flaen fod yr adroddiad hwn, yn unol â'r Strategaeth Gyllidebol y cytunwyd arni, yn cynrychioli'r gofyniad ffurfiol a chyfreithiol i'r Cyngor gytuno ar benderfyniad o ran treth y Cyngor, gan gynnwys manylion treth y cyngor sydd i'w chodi mewn perthynas â  Chynghorau Cymuned a Chomisiynydd yr Heddlu a Throseddu.

 

Dywedodd mai lefel treth y cyngor ar gyfer y flwyddyn nesaf, yn unol â phenderfyniad a wnaed yn strategaeth y Gyllideb, fydd £1694.65. Mae’r Comisiynydd Heddlu a Throsedd wedi hysbysu’r Cyngor am gynnydd yn y praesept ar gyfer y flwyddyn nesaf, gyda chynnydd canlyniadol yn lefel ei dreth y cyngor o 8.69%, gan fynd â lefel ei dreth y cyngor i £352.67 a fydd yn dod ag effaith gyfunol y cynnydd ar gyfer y Cyngor a'r Heddlu i gynnydd cyfanredol o 5.61% ar gyfer yr eiddo Band D hynny nad oes rhaid iddynt hefyd dalu tâl cyngor cymuned. Ychwanegodd y Cyfarwyddwr Cyfadran fod lefel taliadau praesept Cynghorau Cymuned a Thref wedi'u hysbysu a'u bod hefyd wedi'u nodi yn Atodiad 1 yr adroddiad.

 

I gloi, rhoddodd y Cyfarwyddwr Cyfadran wybod bod ganddo ddyletswydd i roi gwybod i'r Cyngor am gadernid amcangyfrifon a digonolrwydd y cronfeydd ariannol arfaethedig sydd wedi'u nodi yn adran 9 yr adroddiad.

 

Ar ôl trafod yr adroddiad, PENDERFYNWYD:

 

i)       Nodi lefel y praesept gan Gomisiynydd yr Heddlu a Throseddu ar gyfer De Cymru;

 

ii)          Nodi lefel Praeseptau y Cyngor Cymuned/Tref, fel sydd wedi'i nodi yn Atodiad 1;

 

iii)        Pasio'r penderfyniadau ffurfiol Treth y Cyngor ar gyfer y flwyddyn ariannol sy'n dod i ben ar 31 Mawrth, 2025, fel sydd i'w gweld yn Atodiad 2;

 

iv)        Nodi'r sylwadau am gadernid yr amcangyfrifon a digonolrwydd cronfeydd ariannol arfaethedig a nodir ym mharagraff 9.2.

 

107.

RHAGLEN GYFALAF 2024/25 – 2026/27 pdf icon PDF 191 KB

Derbyn adroddiad y Dirprwy Brif Weithredwr a Chyfarwyddwr Cyfadran y Gwasanaethau Cyllid, Digidol a Rheng Flaen.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Cyfadran Cyllid, Gwasanaethau Digidol a Rheng Flaen yr adroddiad a oedd yn nodi Rhaglen Gyfalaf tair blynedd arfaethedig y Cyngor ar gyfer 2024/25 i 2026/27 i'w hystyried gan y Cyngor, sef cyfanswm o £165.6 miliwn dros y tair blynedd nesaf.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Cyfadran fod hyn yn cynrychioli rhaglen graidd o £42.5 miliwn, grantiau penodol o £42 miliwn o fenthyca i gefnogi'r rhaglen buddsoddi mewn ysgolion o £13 miliwn, dros £33 miliwn o adnoddau ychwanegol eisoes wedi'u neilltuo i ariannu meysydd buddsoddi â blaenoriaeth ac arian ychwanegol a  buddsoddiad newydd pellach a nodwyd o dros £19 miliwn (a nodir yn adran 6 yr adroddiad) a gynigir ar draws meysydd cynnal a chadw priffyrdd, ffyrdd heb eu mabwysiadu, strwythurau priffyrdd, rhwydi cerrig Ffordd Mynydd y Rhigos, gwaith lliniaru llifogydd, biniau Gofal Strydoedd, strwythurau mewn parciau, parciau a mannau gwyrdd, buddsoddiad mewn parciau gwledig, mannau chwarae, ardaloedd gemau amlddefnydd, Fferm Solar Coed Elái, cae hoci’r Ddraenen Wen ac offer ffitrwydd Hamdden, cyfanswm o £19.292M o fuddsoddiad ychwanegol. Ychwanegodd y Cyfarwyddwr Cyfadran fod y rhaglen newydd hefyd yn cynnwys dyraniadau ar gyfer y flwyddyn nesaf o £15.9 miliwn ar gyfer gweithgareddau adfywio, £11.5 miliwn ar gyfer tai sector preifat, £42 miliwn ar gyfer gwasanaethau rheng flaen, gan gynnwys priffyrdd, prosiectau strategol, gwaith adfer Storm Dennis, parciau, gwastraff a fflyd, £39 miliwn o fuddsoddiad ar draws y Gwasanaethau Addysg a Chynhwysiant a £13 miliwn mewn Gwasanaethau Cymuned a Gwasanaethau i Blant.

 

Gorffennodd y Cyfarwyddwr Cyfadran drwy ychwanegu, er gwaethaf yr heriau ariannu parhaus y mae'r Cyngor yn parhau i'w hwynebu gyda'i gyllideb refeniw, y gall y Cyngor gynnig rhaglen buddsoddi cyfalaf sylweddol ac uchelgeisiol sy'n adeiladu ar fuddsoddiad y flwyddyn gyfredol, rhagwelir y bydd y ffigur yma yn £220 miliwn yn chwarter dau.

 

Yn dilyn trafodaeth lle atebodd y Cyfarwyddwr Cyfadran nifer o gwestiynau, PENDERFYNWYD:

 

1.     Sylwi ar fanylion setliad llywodraeth leol terfynol 2024/25 ar gyfer gwariant cyfalaf, yn Atodiad 1;

 

2.     Cytuno ar y broses ailddyrannu arfaethedig o adnoddau presennol, a dyrannu adnoddau newydd, fel y nodir ym mharagraff 5;

 

3.     Cytuno i ddyrannu'r cyllid wedi'i nodi yn yr adroddiad ar gyfer y blaenoriaethau buddsoddi fel y nodir ym mharagraff 6.2;

 

4.     Cytuno ar y rhaglen tair blynedd ‘graidd’ arfaethedig, yn Atodiad 2;

 

5.     Cytuno ar y Rhaglen Gyfalaf tair blynedd arfaethedig gyfan, yn Atodiad 3 (a) i (e), sy'n cynnwys y cyllid nad yw'n gyllid craidd:

 

·    Benthyca darbodus i gefnogi Cynlluniau Cymunedau Dysgu Cynaliadwy (Ysgolion yr 21ain Ganrif yn flaenorol);

·    Grantiau cyfalaf ar gyfer cynlluniau penodol;

·       Cyfraniadau trydydd parti;

·       Blaenoriaethau buddsoddi sydd wedi'u nodi ym mharagraff 6.2. 

 

108.

STRATEGAETH RHEOLI'R TRYSORLYS 2024/2025 pdf icon PDF 234 KB

Derbyn adroddiad y Dirprwy Brif Weithredwr a Chyfarwyddwr Cyfadran y Gwasanaethau Cyllid, Digidol a Rheng Flaen.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Cyfadran - Gwasanaethau Cyllid, Digidol a Rheng Flaen yr adroddiad blynyddol yn hysbysu bod gweithgareddau benthyca a buddsoddi Rheolaeth y Trysorlys yn cael eu rheoleiddio'n drylwyr, a'u bod yn cael eu cynnal yn unol â'r Codau Ymarfer proffesiynol perthnasol. Ychwanegodd fod cytuno i adolygiad o'r strategaeth Rheoli'r Trysorlys cyn dechrau'r flwyddyn ariannol newydd yn ofyniad penodol, yn yr un modd â'r adolygiad canol blwyddyn ffurfiol ac adolygiad diwedd blwyddyn.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Cyfadran, fel y nodir yn yr adroddiad, fod gan y Cyngor £287.2 miliwn o fenthyca ar gyfradd llog gyfartalog o 3.15%, gyda gofyniad benthyca  £19 miliwn ar gyfer y flwyddyn nesaf er mwyn ariannu'r rhaglen gyfalaf y cytunwyd arni. Bydd yn ategu hyn drwy bennu dyled tymor hwy os yw’r amgylchedd economaidd a rhagamcanion cyfraddau llog yn galw am hynny. Mae hyn yn cyd-fynd â sefyllfa tanfenthyca’r Cyngor. Mae’r Cyngor wedi parhau i gynnal y sefyllfa ers nifer o flynyddoedd ac mae’r Cyngor yn parhau i gael ei wobrwyo â chost ariannu cyfalaf net is.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Cyfadran, o ran strategaeth fuddsoddi'r Cyngor, fod y Cyngor yn parhau i roi benthyg i'r sector cyhoeddus a sefydliadau a gefnogir gan y Llywodraeth, gan gydnabod blaenoriaeth diogelwch a hylifedd yn hytrach nag elw.

 

Cyfeiriodd y Cyfarwyddwr Cyfadran yr Aelodau at baragraff 16 ar gyfer dangosyddion a therfynau Rheoli Trysorlys y Cyngor a'r Polisi Darpariaeth Isafswm Refeniw (MRP) a nodir yn adran 17, sy'n parhau i ddileu benthyca â chymorth y Cyngor ar sail llinell syth dros 40 mlynedd. Yn ystod y flwyddyn, derbyniwyd hysbysiad gan Lywodraeth Cymru ei fod yn dymuno adalw'r benthyciad di-log mewn perthynas ag Isadeiledd Trafnidiaeth.

 

Yn dilyn trafodaeth ar Strategaeth Rheoli Trysorlys y Cyngor, PENDERFYNWYD

cymeradwyo Strategaeth Rheoli'r Trysorlys, y Strategaeth Fuddsoddi, Dangosyddion

Trysorlys, a'r Datganiad Polisi Darpariaeth Isafswm Refeniw (MRP) fel y nodir yn yr adroddiad. 

 

 

109.

ADRODDIAD STRATEGAETH GYFALAF 2024/25 pdf icon PDF 267 KB

Derbyn adroddiad y Dirprwy Brif Weithredwr a Chyfarwyddwr Cyfadran y Gwasanaethau Cyllid, Digidol a Rheng Flaen.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Dirprwy Brif Weithredwr a'r Cyfarwyddwr Cyfadran Cyllid, Gwasanaethau Digidol a Rheng Flaen yr Adroddiad Strategaeth Gyfalaf statudol blynyddol 2024/25, sy'n ymgorffori dangosyddion darbodus y Cyngor. Mae ein gwariant cyfalaf y cytunwyd arno a sut y caiff ei ariannu wedi'i nodi yn adran 6 o'r adroddiad, sy'n cynnwys gofynion cyllido cyfalaf y Cyngor (CFR) sef yr angen sylfaenol i fenthyca er mwyn ariannu cynlluniau gwariant cyfalaf hanesyddol a chyfredol y Cyngor. Fel y cyfeiriwyd yn flaenorol, dywedodd y Cyfarwyddwr Cyfadran fod hyn yn dangos sefyllfa o dan fenthyca sylweddol, strategaeth y mae'r Cyngor wedi'i mabwysiadu dros nifer o flynyddoedd. Mae dangosydd pedwar yn amlygu hyn.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Cyfadran fod terfynau'r Cyngor i weithgareddau benthyca, gan gynnwys terfyn awdurdodedig y Cyngor o £588 miliwn hefyd wedi'u nodi, ynghyd â'r dull cyffredinol o fasnacheiddio, rheoli asedau a’u gwaredu.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Cyfadran y byddai'r Strategaeth Rheoli'r Trysorlys a'r datganiad Strategaeth Gyfalaf yn cael eu cyflwyno i'r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio ar gyfer gwaith adolygu a chraffu penodol yn unol â'r codau ymarfer perthnasol.

 

Yn dilyn trafodaeth, PENDERFYNWYD cymeradwyo'r adroddiad Strategaeth Gyfalaf sy'n ymgorffori'r Dangosyddion Darbodus. 

 

110.

DATGANIAD 2024/25 Y CYNGOR AR BOLISI CYFLOGAU pdf icon PDF 279 KB

Derbyn Adroddiad ar y Cyd Cyfarwyddwr Materion Adnoddau Dynol a Chyfarwyddwr y Gwasanaethau Cyfreithiol.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Yn unol ag Adran 38(1) o Ddeddf Lleoliaeth 2011, rhoddodd y Cyfarwyddwr Materion Adnoddau Dynol wybodaeth i'r Aelodau am Ddatganiad Polisi Cyflogau 2024/25 y Cyngor. Cyfeiriodd y Cyfarwyddwr yr Aelodau at baragraffau 3.1 i 3.2 a oedd yn nodi'r cyd-destun cyfreithiol ar gyfer yr angen am y polisi tâl a pharagraffau 4.1-4.10 sy'n cyfeirio at y cefndir i'r polisi tâl, yr angen am gymeradwyaeth y Cyngor Llawn ac yn cyfeirio at y Datganiad Polisi Tâl yn Atodiad A i'r adroddiad.

 

Ar ôl ystyried yr adroddiad ymatebodd y Cyfarwyddwr Adnoddau Dynol i ymholiad ynghylch camau gweithredu'r Cyngor i fynd i'r afael â'r bwlch cyflog rhwng y rhywiau. Dywedodd fod y Cyngor wedi cyflwyno nifer o fesurau yn ystod y blynyddoedd diwethaf megis cyflwyno'r Cyflog Byw Gwirioneddol ac, o fis Ebrill 2022, cynyddodd y Cyngor werth y graddau is (Graddau 1-5) drwy gyflwyno isafswm taliad o £10 yr awr yn ychwanegol at gyfradd gyflog gyfredol y Cyflog Byw Gwirioneddol. Ychwanegodd fod y ddau ddyfarniad cyflog diwethaf yn benodol wedi cefnogi'r gweithwyr hynny ar raddau is.

 

PENDERFYNODD yr Aelodau gymeradwyo'r Datganiad ar Bolisi Cyflogau, sef Atodiad A yr adroddiad.