Agenda, Penderfyniadau a Chofnodion drafft

Lleoliad: rhithwir

Cyswllt: Emma Wilkins  07385406118

Cyfryngau

Eitemau
Rhif eitem

91.

Datganiadau o Fuddiant

Derbyn datganiadau o fuddiannau personol gan Aelodau yn unol â gofynion Cod Ymddygiad y Cyngor

 

1.     Mae gofyn i Aelodau ddatgan rhif a phwnc yr agendwm y mae eu buddiant yn ymwneud ag e a mynegi natur y buddiant personol hwnnw; a 

2.     Lle bo Aelodau'n ymneilltuo o'r cyfarfod o ganlyniad i ddatgelu buddiant sy'n rhagfarnu, rhaid iddyn nhw roi gwybod i'r Cadeirydd pan fyddan nhw'n gadael.

 

Cofnodion:

Yn unol â Chod Ymddygiad y Cyngor, cafodd y datganiadau o fuddiant canlynol eu gwneud yngl?n â'r agenda:

 

Eitem 2 ar yr Agenda – Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd

 

       i.          Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol A Morgan, OBE - Personol "Cefais fy mhenodi gan y Cyngor i fod yn rhan o Gabinet Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd."

 

      ii.          Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol R Bevan – Personol – "Cefais fy mhenodi gan y Cyngor yn Aelod o Gydbwyllgor Craffu Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd a chefais fy ethol yn Is-Gadeirydd y Pwyllgor ar gyfer Blwyddyn y Cyngor eleni".

 

    iii.          Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol J Turner – Personol – "Cefais fy mhenodi gan y Cyngor yn Aelod Wrth Gefn ar gyfer Cydbwyllgor Craffu Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd."

 

    iv.          Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol W Owen – Personol – "Rydw i'n berchen ar fusnes."

 

Eitem 7 ar yr Agenda – Rhybudd o Gynnig

 

     v.          Cynghorydd Bwrdeistref Sirol S Bradwick – Personol – "Rydw i'n darparu cymorth ariannol i deuluoedd ac i ganolfannau achub anifeiliaid yn Wcráin."

 

92.

BARGEN DDINESIG PRIFDDINAS-RANBARTH CAERDYDD

Derbyn cyflwyniad PowerPoint gan Gyfarwyddwr Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd sy'n rhoi:

 

·       Diweddariad ar waith Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, ei flaenoriaethau ehangach a'i effaith hyd yma.

·       Trosolwg o'r newid i fod yn Gydbwyllgor Corfforaethol a'r trefniadau llywodraethu ehangach  

Cofnodion:

Gyda chymorth cyflwyniad PowerPoint, rhoddodd Cyfarwyddwr Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd (CCRCD) yr wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am waith y CCRCD, ei flaenoriaethau cyffredinol a'i effaith ehangach hyd yma.   Yn rhan o'r cyflwyniad, rhoddwyd trosolwg i'r Aelodau hefyd o'r broses o drawsnewid i fod yn Gydbwyllgor Corfforedig (CJC) a'r trefniadau llywodraethu ehangach.

 

Yn rhan o'r cyflwyniad, rhoddwyd manylion i'r Aelodau am yr heriau rhanbarthol a'r cynlluniau sydd ar waith i fynd i'r afael â heriau o'r fath, rôl Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd a chyllid, yn ogystal â'r llwyddiannau hyd yma.

 

Aeth y Cyfarwyddwr ymlaen i roi manylion gwaith Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yn Rhondda Cynon Taf, gan gyfeirio at seilwaith megis 'Metro Plus', Hwb Trafnidiaeth y Porth, a Phyrth Darganfod RhCT yn ogystal â chyfleoedd i ddatblygu mewn Clwstwr. Darparwyd rhagor o fanylion am fodel llwyddiannus Zip World i'r Aelodau, cyn i'r Cyfarwyddwr fyfyrio ar y camau nesaf ar gyfer y Fwrdeistref Sirol.

 

Daeth y cyflwyniad i ben drwy amlinellu'r symudiad i fod yn Gyd-bwyllgor Corfforedig a manteision dull gweithredu rhanbarthol ar gyfer RhCT a'r camau nesaf ar gyfer dull gweithredu o'r fath.

 

Soniodd yr Arweinydd am y gwaith mawr a wnaed gan Fargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, gan fyfyrio ar bryderon blaenorol y byddai’r bartneriaeth o fudd i Gaerdydd yn unig. Manteisiodd ar y cyfle i dynnu sylw at y prosiectau niferus a gyflawnwyd ym Mwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf, gan gyfeirio at y 'Gronfa Fytholwyrdd', 'Zip World', Buddsoddi mewn Tai, yn ogystal â chronfeydd trafnidiaeth rhanbarthol a datblygu strategol. Soniodd yr Arweinydd am gyfleoedd i fuddsoddi'n hirdymor drwy Fargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd a'r cyfleoedd am cyflogaeth a fyddai'n deillio o hynny.

 

Cyfeiriodd yr Arweinydd at symud i Gyd-Bwyllgorau Corfforedig gan gadarnhau y byddai angen rhagor o gydweithio ac yn y dyfodol byddai pob Awdurdod yn cael ei gynrychioli ar y Byrddau a'r Paneli oddi mewn iddynt.

 

Ar ran Arweinydd yr Wrthblaid, siaradodd Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol D Grehan am y gobaith a amlygwyd yn y cyflwyniad a'r cyfle i wireddu a chyfiawnhau'r gobaith yma yn y dyfodol.  Gwnaeth yr Aelod sylwadau ar y derminoleg 'jargon' yn y cyflwyniad a siaradodd hefyd am bryderon mewn perthynas ag unrhyw effaith bosibl ar Gynlluniau Datblygu Lleol unigol pob un o'r Awdurdodau mewn perthynas â'r datblygiadau sy'n cael eu gweithredu gan Fargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd.

 

Ymatebodd y Cyfarwyddwr drwy roi gwybod am y cyfleoedd ariannu sy'n cael eu cynnig o fewn yr Awdurdod i helpu i adeiladu cydnerthedd a gobaith, gan sôn am gyfleoedd 'cronfa wedi'i hailgylchu'. Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr na fyddai gwaith Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yn ymyrryd nac yn tresmasu ar Gynlluniau Datblygu Lleol Awdurdodau unigol ond ei fod yn gyfle i ddod â chynlluniau lleol at ei gilydd, trwy berthynas waith agos gyda Swyddogion y Cyngor.

 

Siaradodd Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol Powell yn gadarnhaol am y cyflwyniad a'r cyfleoedd a amlygwyd ynddo.

 

Gwnaeth Aelod o Gydbwyllgor Craffu'r Cyngor, Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol R Bevan sylwadau ar y seilwaith a'r cyfleoedd cynllunio rhanbarthol ac ymatebodd y Cyfarwyddwr iddynt gan roi gwybod am  ...  view the full Cofnodion text for item 92.

93.

Cofnodion pdf icon PDF 400 KB

Cadarnhau cofnodion o gyfarfod ar-lein y Cyngor a gynhaliwyd ar 17 Ionawr 2024 yn rhai cywir.

 

Cofnodion:

PENDERFYNODD y Cyngor gymeradwyo cofnodion y cyfarfod, a gynhaliwyd ar 17 Ionawr 2024 yn rhai cywir.

 

94.

Cyhoeddiadau

Cofnodion:

Daeth dim un cyhoeddiad i law yn y cyfarfod.

 

95.

Datganiadau

Yn unol â Rheol 2 o Weithdrefn Llywodraethu Agored Cyfarfodydd y Cyngor, derbyn datganiadau gan Arweinydd y Cyngor a/neu Gynghorwyr sy'n Aelodau Portffolio o'r Cabinet:

 

 

 

Cofnodion:

Daeth dim un datganiad i law yn y cyfarfod.

 

96.

Cwestiynau gan yr Aelodau pdf icon PDF 153 KB

Derbyn cwestiynau'r Aelodau yn unol â Rheol 9.2 o Weithdrefn y Cyngor.

 

(Nodwch: Caniateir hyd at 20 munud ar gyfer cwestiynau.)

 

Cofnodion:

 

1.     Cwestiwn gan Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol Sheryl Evans i Arweinydd y Cyngor, Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol A Morgan OBE:

 

"A wnaiff yr Aelod o'r Cabinet ddatganiad am y cyllid a gafodd ei roi'n ddiweddar gan Lywodraeth Cymru o dan y Gronfa Ffyrdd Cydnerth a'r Gronfa Trafnidiaeth Leol?"

 

Ymateb y Cynghorydd A Morgan OBE:

 

Soniodd yr Arweinydd am lwyddiant y Cyngor i gaffael symiau sylweddol o arian dros y blynyddoedd diwethaf, gyda bron i £10 miliwn wedi'i sicrhau drwy'r Grant Ffyrdd Cydnerth yn unig dros y pedair blynedd diwethaf. Dywedwyd bod cyllid o'r fath wedi galluogi nifer o gynlluniau ffyrdd atal llifogydd wedi'u targedu i gael eu cyflawni i unioni rhai o'r problemau draenio sy'n effeithio ar rannau o rwydwaith y priffyrdd ar hyd prif heolydd y Sir.

 

Darparwyd manylion y cyllid a ddaeth i law a soniwyd wrth yr Aelodau bod £1 miliwn wedi'i dderbyn o'r Gronfa Ffyrdd Cydnerth ar gyfer 2023/24 er mwyn cefnogi datblygu 13 o brosiectau i liniaru effeithiau llifogydd a newid yn yr hinsawdd ar y rhwydwaith trafnidiaeth.  Yn ogystal, sicrhaodd y Cyngor £400,000 o Gronfa Trafnidiaeth Leol Llywodraeth Cymru.  Dyrannwyd £200,000 o'r cyllid yma ar gyfer gwelliannau i flaenoriaethu bysiau, gan gynnwys gwaith gwella safleoedd bysiau, arosfannau bysiau a chyrbiau uwch ar lwybrau lleol Aberdâr a Phontypridd.  Gorffennodd yr Arweinydd drwy roi gwybod am y cyllid o £200,000 a ddyrannwyd i'w ddefnyddio ar gyfer gwaith dichonoldeb pellach ar gyfer cynlluniau Porth Gogledd Cwm Cynon a Ffordd Gyswllt Llantrisant o ganlyniad i adroddiad Adolygiad Ffyrdd Llywodraeth Cymru yn 2023.

 

 

Cwestiwn atodol gan Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol Sheryl Evans:

 

"Oes modd i chi gadarnhau'r cynlluniau sydd wedi’u cyflawni yn ward Aberaman (Gogledd a De)."

 

Ymateb gan Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol A Morgan OBE:

 

Enwodd yr Arweinydd y prosiectau a gyflawnwyd yn Ward Aberaman (gan gynnwys ffiniau hanesyddol) dros y 4 blynedd diwethaf, sef cyfanswm o 6 chynllun unigol (dyma restr):

 

· Stryd Lewis – Cam Dylunio – Uwchraddio draenio'r briffordd

 

· Stryd Jones – Cam Adeiladu – Uwchraddio draenio'r briffordd

 

· Cam 3 Teras Bronallt  Cam Adeiladu – Uwchraddio cwlfer ar y briffordd

 

· Glenbói – Cam Adeiladu – Gwaith uwchraddio draenio'r briffordd

 

· Maes y Ffynnon/Heol Caerdydd – Uwchraddio cwlfer ar y briffordd

 

· A4059 – Aberdâr – Asda R/A – Cam Adeiladu – Uwchraddio draenio'r briffordd a mesurau llif dros dir.

 

2.      Dywedodd y Llywydd fod yr ail gwestiwn a restrwyd wedi'i ollwng oherwydd y cafwyd ymddiheuriad gan Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol J Edwards.

 

 

3.     Cwestiwn gan Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol S Rees i Arweinydd y Cyngor – Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol A Morgan OBE:

 

"Oes modd i'r Arweinydd roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd ar gyflawni ymrwymiadau maniffesto'r Gr?p Llafur?"

 

Ymateb gan Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol A Morgan OBE:

 

Cyfeiriodd yr Arweinydd at 20 ymrwymiad craidd y Gr?p Llafur i drigolion RhCT cyn yr etholiadau lleol yn 2022 a gwnaeth sylwadau ar y cynnydd a wnaed hyd yn hyn, gyda nifer o'r ymrwymiadau yma eisoes wedi'u cyflawni, a'r rhai nas cyflawnwyd yn parhau i fod  ...  view the full Cofnodion text for item 96.

97.

Rhaglen Waith y Cyngor 2023-2024

Cofnodion:

Dywedodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu, ar ôl ystyried Busnes y Cyngor a restrwyd ar gyfer cyfarfod y Cyngor ym mis Mawrth, fod y gwahoddiad i Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg wedi'i aildrefnu i gyfarfod mis Ebrill, er mwyn caniatáu trafodaeth briodol am yr eitem.

I gloi, cadarnhaodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu y byddai cyfle i'r holl Aelodau ddod i weld y cyfleusterau newydd yn Llys Cadwyn ym Mhontypridd. O ran cyfarfodydd hybrid, byddai'r rhain yn cael eu cyflwyno'n raddol gyda'r bwriad o gynnal cyfarfod nesaf y Cyngor ym mis Mawrth ar ffurf cyfarfod hybrid.

 

98.

Rhybudd o Gynnig pdf icon PDF 136 KB

Ystyried y Rhybuddion o Gynnig sydd wedi'u cyflwyno yn unol â Rheol Gweithdrefn y Cyngor 10.1 yn y cyfansoddiad.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Trafod Rhybudd o Gynnig sydd wedi’i gyflwyno yn enwau Cynghorwyr y Fwrdeistref Sirol: S. Emanuel, R. Williams, L. Addiscott, M. D. Ashford, J. Barton, D. R. Bevan, J. Bonetto, S. Bradwick, J. Brencher, G. Caple, J. Cook, A. Crimmings, S. J. Davies, R. Davis, A. J. Dennis, V. Dunn, E. L. Dunning, J. Edwards, J. A. Elliott, L. Ellis, R. Evans, A. S. Fox, B. Harris, S. Hickman, G. Holmes, G. Hopkins, W. Hughes, G. Jones, G. O. Jones, R. R. Lewis, W. Lewis, C. Leyshon, M. Maohoub, C. Middle, A. Morgan, N. H. Morgan, S. Morgans, M. A. Norris, D. Owen-Jones, D. Parkin, S. Powderhill, C. Preedy, S. Rees, A. Roberts, J. Smith, G. Stacey, L. A. Tomkinson, W. Treeby, J. Turner, G. L. Warren, K. Webb, M. Webber, D. Williams, G. E. Williams, T. Williams, R. Yeo.

Ar 24 Chwefror 2022, lansiodd lluoedd Rwsia, a oedd wedi ymgynnull ar hyd y ffin â Wcráin, ymosodiad ar raddfa lawn, sef yr ymosodiad mwyaf ar wlad Ewropeaidd ers yr Ail Ryfel Byd.

Mae'r ymosodiad, a gyfiawnhawyd gan Vladimir Putin ar y sail ei fod yn ymgais i "waredu Natsïaeth" o Wcráin, wedi achosi i filiynau o bobl orfod symud o'u cartrefi ac i gannoedd o filoedd gael eu hanafu neu eu lladd – naill ai wrth ymladd neu trwy'r ymosodiadau dinistriol o'r awyr ar ardaloedd sifil.

Wrth i bobl ddiniwed Wcráin gael eu gorfodi i ffoi o'u cartrefi, croesawodd Cymru a RhCT (ynghyd â llawer o wledydd eraill) y rhai oedd yn ceisio lloches â breichiau agored a'u cefnogi wrth iddynt geisio addasu i'w bywydau newydd.

Nawr, gyda'r Rhyfel yn Wcráin yn nodi ei ail ben-blwydd a’r gwrthdaro yn parhau wrth i Wcráin frwydro i gadw ei sofraniaeth, felly mae'r Cyngor yma'n:

• Condemnio ymddygiad ymosodol parhaus y goresgynwyr Rwsiaidd.

• Ailddatgan ei gefnogaeth ddiysgog i Wcráin a'i phobl.

• Canmol ymdrechion y trigolion hynny yn RhCT a groesawodd y rhai a oedd yn ffoi o'r gwrthdaro i'w cartrefi, a hefyd y rhai a roddodd gymorth i eraill sydd wedi ceisio noddfa.

 

Yn unol â Rheol Gweithdrefn 12.7 y Cyngor, cyflwynodd y cynigydd newid i'r Cynnig, i gynnwys testun ychwanegol sydd wedi'i nodi isod:

 

cynnwys y geiriau, "ar gynsail ffug" a nodi gwall teipograffyddol yn y Saesneg.

 

Dyma fyddai'r Cynnig diwygiedig yn dweud:

 

Ar 24 Chwefror 2022, lansiodd lluoedd Rwsia, a oedd wedi ymgynnull ar hyd y ffin â Wcráin, ymosodiad ar raddfa lawn, sef yr ymosodiad mwyaf ar wlad Ewropeaidd ers yr Ail Ryfel Byd.

 

Mae'r ymosodiad, a gyfiawnhawyd gan Vladimir Putin ar gynsail ffug, sef ymgais i "waredu Natsïaeth" o Wcráin, wedi achosi i filiynau o bobl orfod symud o'u cartrefi ac i gannoedd o filoedd gael eu hanafu neu eu lladd - naill ai wrth ymladd neu trwy'r ymosodiadau dinistriol o'r awyr ar ardaloedd sifil.

 

Wrth i bobl ddiniwed Wcráin gael eu gorfodi i ffoi o'u cartrefi, croesawodd Cymru a RhCT (ynghyd â llawer o wledydd eraill) y rhai oedd yn ceisio lloches â breichiau agored  ...  view the full Cofnodion text for item 98.