Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Hybrid

Cyswllt: Julia Nicholls -Gwasanaethau Democrataidd  01443 424098

Cyfryngau

Eitemau
Rhif eitem

26.

Croeso

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Roedd y Llywydd wedi croesawu'r Aelodau i gyfarfod hybrid y Cyngor - a oedd wedi dechrau am 5.15pm.

 

27.

Datgan Buddiant

Derbyn datganiadau o fuddiannau personol gan Aelodau yn unol â'r Cod Ymddygiad.

 

1.     Mae gofyn i Aelodau ddatgan rhif a phwnc yr agendwm y mae eu buddiant yn ymwneud ag e a mynegi natur y buddiant personol hwnnw; a 

 

2.     Lle bo Aelodau'n ymneilltuo o'r cyfarfod o ganlyniad i ddatgelu buddiant sy'n rhagfarnu, rhaid iddyn nhw roi gwybod i'r Cadeirydd pan fyddan nhw'n gadael.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Yn unol â Chod Ymddygiad y Cyngor, cafodd y datganiadau o fuddiant canlynol eu gwneud yngl?n â'r agenda a chafodd datganiad o fuddiant pellach ei wneud yngl?n ag eitem 5 ar yr agenda yn ddiweddarach yn y cyfarfod (gweler Cofnod 31):

 

Eitem 7 ar yr Agenda - Y Diweddaraf Am Faterion Cynllunio Cenedlaethol a Rhanbarthol a Chymeradwyaeth ar gyfer Cytundeb Cyflawni a Diwygiad i'r Amserlen ar gyfer Gwaith Paratoi Parhaus Y Cynllun Datblygu Lleol Diwygiedig.

 

Roedd Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol W Lewis wedi datgan buddiant personol - "Mae fy nghyflogwr, Cymdeithas Tai Hafod, wedi'i nodi yn yr adroddiad, rydw i hefyd yn aelod o Gymdeithas y Sgowtiaid”.

 

Eitem 10 ar yr Agenda – Rhybudd o Gynnig Brys

 

Roedd Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol W Hughes wedi datgan buddiant personol a buddiant sy'n rhagfarnu (Bydda i'n gadael y cyfarfod yn ystod y drafodaeth am yr eitem yma) - "Mae fy ngwraig yn rheoli'r gwasanaeth gofal yn y cartref".

 

Roedd Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol G Hughes wedi datgan buddiant personol a buddiant sy'n rhagfarnu (Bydda i'n gadael y cyfarfod yn ystod y drafodaeth am yr eitem a bydd Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol B Stephens, y Dirprwy Lywydd, yn camu i rôl y Cadeirydd ar gyfer yr eitem yma) - "Mae fy mam yn gweithio i'r gwasanaeth gofal yn y cartref."

 

28.

Cofnodion pdf icon PDF 298 KB

Cadarnhau cofnodion o gyfarfod hybrid y Cyngor, a gynhaliwyd ar 14 Mehefin 2023, yn rhai cywir.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD cymeradwyo cofnodion cyfarfod hybrid y Cyngor a gynhaliwyd ar 14 Mehefin 2023 yn rhai cywir.

 

29.

Cyhoeddiadau

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y cyhoeddiadau canlynol eu gwneud:

 

Ø  Roedd yr Arweinydd wedi cyhoeddi marwolaeth y Cyfarwyddwr Cyfadran, Mr George Jones. Disgrifiodd yr Arweinydd Mr Jones fel swyddog gwych, cwrtais a chyfeillgar. Yn anffodus, roedd Mr Jones wedi ymddeol yn gynnar o ganlyniad i iechyd gwael.  Roedd yr Arweinydd wedi cyfleu ei dristwch am y mater yma gan estyn cydymdeimlad i deulu Mr George Jones ar ran y Cyngor.

 

Ø  Ar ran y Cynghorydd S Morgans, roedd Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol J Smith yn dymuno llongyfarch disgyblion Blwyddyn 1 a Blwyddyn 2 Ysgol Gynradd Gymuned y Maerdy am ennill cystadleuaeth cyfnod sylfaen Menter Ysgolion y Dreftadaeth Gymreig 2023. Roedd 6,000 o geisiadau ac roedd disgyblion Blwyddyn 1 a 2 wedi ennill cystadleuaeth prosiect treftadaeth gyda'u cyflwyniad nhw 'Made and Moulded in Maerdy'.

 

30.

DATGANIADAU

Yn unol â Rheol 2 o Weithdrefn Llywodraethu Agored Cyfarfodydd y Cyngor, derbyn datganiadau gan Arweinydd y Cyngor a/neu Gynghorwyr sy'n Aelodau Portffolio o'r Cabinet:

 

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Roedd Arweinydd y Cyngor, Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol A Morgan OBE wedi rhoi gwybod ei fod e wedi gofyn i'r Cyfarwyddwr Cyfadran - Cyllid, Gwasanaethau Digidol a Gwasanaethau Rheng Flaen i gyflwyno unrhyw becynnau cyllid sydd ar gael i gefnogi trigolion a'r 3ydd sector cyn y gaeaf, a hynny'n rhan o'i adolygiad canol blwyddyn o sefyllfa'r Cyngor o ran tanwariant a chronfeydd wrth gefn.  Ychwanegodd y byddai'n hoffi gweld y Cyngor yn defnyddio pecyn cyllid gwerth miliynau o bunnoedd i gefnogi trigolion a'u teuluoedd gyda'r argyfwng costau byw a'r effaith ddilynol ar dlodi plant lle bynnag y bo modd, pe byddai'r pecyn cyllid yma ar gael. 

 

31.

Cwestiynau gan yr Aelodau pdf icon PDF 194 KB

Derbyn cwestiynau'r Aelodau yn unol â Rheol 9.2 o Weithdrefn y Cyngor.

 

(Nodwch: Caniateir hyd at 20 munud ar gyfer cwestiynau.)

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

 

1)  Cwestiwn gan Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol J Brencher i Arweinydd y Cyngor - Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol A Morgan OBE:

 

"A wnaiff yr Arweinydd roi diweddariad ar yr ymrwymiad i gyllido 10 Swyddog Cymorth Cymunedol yr Heddlu a darparu trosolwg o sut mae'r gwasanaeth Wardeiniaid Cymunedol yn cael effaith gadarnhaol ar ein cymunedau?"

Ymateb gan Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol A. Morgan OBE:

 

Rhoddodd yr Arweinydd wybod bod 10 Swyddog Cymorth Cymunedol yr Heddlu bellach yn gweithio'n dda gyda'r 14 Warden Cymunedol i gefnogi Heddlu De Cymru. Ychwanegodd na fyddan nhw'n cymryd lle'r Heddlu, gan eu bod nhw'n darparu presenoldeb gweladwy sy'n tawelu meddwl ein trigolion mewn ardaloedd allweddol yn ein cymunedau, megis canol trefi a pharciau. Mae adborth y cyhoedd wedi bod yn gadarnhaol iawn hyd yn hyn ac mae busnesau a thrigolion lleol wedi nodi bod eu presenoldeb nhw yn cael effaith gadarnhaol ar ganfyddiadau o ddiogelwch y gymuned.

 

Nododd yr Arweinydd eu bod nhw'n helpu i sicrhau cydymffurfiaeth â Gorchmynion Diogelu Mannau Cyhoeddus y Cyngor, o ran cadw c?n oddi ar gaeau chwaraeon a'r Gorchmynion Diogelu Mannau Cyhoeddus sy'n gysylltiedig ag alcohol yng nghanol trefi Pontypridd ac Aberdâr. Ar hyn o bryd mae 14 Warden yn rhan o'r garfan, gan gynnwys 2 Uwch Warden, maen nhw'n gweithio hyd at 7 diwrnod yr wythnos yn rhan o batrwm sifftiau. Mae'r gwasanaeth yn gweithredu 14/15 awr y dydd.

 

Roedd yr Arweinydd wedi annog Aelodau i roi gwybod am unrhyw achosion o ymddygiad gwrthgymdeithasol gan ddefnyddio'r dulliau arferol, sef mewnflwch y Gwasanaethau i Aelodau, Diogelwch y Cyhoedd neu'r Heddlu. I gloi, roedd yr Arweinydd wedi nodi bod y gwasanaeth yma'n un o'r ymrwymiadau craidd oedd wedi'u nodi yn rhan o faniffesto Gr?p Llafur RhCT, ac sydd bellach wedi cael ei weithredu.

 

Nid oedd unrhyw gwestiwn ategol.

 

2. Cwestiwn gan Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol D Parkin i'r Aelod o'r Cabinet ar faterion yr Amgylchedd a Hamdden, Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol A. Crimmings:

 

"A wnaiff yr Aelod o'r Cabinet roi diweddariad ar welliannau i'r mannau chwarae ledled y Fwrdeistref Sirol?"

Ymateb gan Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol A. Crimmings:

Roedd y Cynghorydd Crimmings yn falch o gadarnhau bod rhaglen adnewyddu a gwella mannau chwarae'r Cyngor wedi parhau yn ystod y cyfnod ers dechrau tymor newydd y Cyngor. Esboniodd fod y Cyngor wedi cyflawni rhaglenni buddsoddi sylweddol yn y maes yma bob blwyddyn ers 2015 - a hynny er mwyn cydnabod sut y mae pobl ifainc yn cael budd o chwarae yn yr awyr agored, gan annog eu datblygiad a'u dychymyg.

 

Roedd y Cynghorydd Crimmings wedi rhoi gwybod bod 166 o'r 217 o fannau chwarae wedi derbyn buddsoddiad yn ystod y cyfnod yma, sef 76.5% o'r holl fannau chwarae. Mae dros 3/4 o'r cyfleusterau chwarae wedi derbyn gwelliannau'n rhan o raglen fuddsoddi gwerth £6miliwn. Mae rhai o'r cyfleusterau yma wedi gweld gwaith "cam 2" o ganlyniad i fuddsoddiadau rhannol neu'r angen i adnewyddu offer, felly mae cyfanswm o 186 o brosiectau wedi'u cyflawni.

 

I gloi, rhoddodd y Cynghorydd Crimmings wybod bod  ...  view the full Cofnodion text for item 31.

32.

Rhaglen Waith Y Cyngor 2023/24

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Roedd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth - Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu wedi cadarnhau mai dyma yw cyfarfod olaf y Cyngor cyn toriad yr haf, a bydd cyfarfod nesaf y Cyngor Llawn yn cael ei gynnal am 5pm ar 20 Medi 2023. Ychwanegodd y bydd angen trafod nifer fawr o faterion yn ystod y cyfarfod yma, felly mae'n bosibl y bydd angen edrych unwaith eto ar drefn y materion y mae angen eu trafod yn ystod cyfarfodydd y Cyngor yn yr Hydref. Bydd hyn yn cael ei wneud yn rhan o drafodaethau gydag Arweinwyr y Grwpiau ble'n addas.

 

Rhoddodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth wybod y bydd y sesiynau hyfforddiant a'r sesiynau datblygu ar gyfer Aelodau sydd wedi cael eu cyhoeddi yn ddiweddar yn cael eu cynnal am amser cyfleus yn dilyn adborth yr Aelodau.

 

33.

Adolygiad Blynyddol Cylch Rheoli’r Trysorlys 2022/23 pdf icon PDF 228 KB

Derbyn adroddiad y Dirprwy Brif Weithredwr a'r Cyfarwyddwr Cyfadran - Gwasanaethau Cyllid, Digidol a Rheng Flaen;

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

 

 

Yn unol â gofynion Cod Ymarfer y Sefydliad Siartredig Cyllid Cyhoeddus a Chyfrifyddiaeth ar gyfer Rheoli'r Trysorlys a Chod Darbodus y Sefydliad Siartredig Cyllid Cyhoeddus a Chyfrifyddiaeth ar gyfer Cyllid Cyfalaf

mewn Awdurdodau Lleol, rhoddodd y Dirprwy Brif Weithredwr a Chyfarwyddwr Cyfadran, Cyllid, Gwasanaethau Rheng Flaen a Gwasanaethau Digidol wybodaeth i'r Aelodau yngl?n â:

 

 

 

·     Gweithgarwch Rheoli'r Trysorlys y Cyngor yn ystod 2022/23; a

·     Gwir Ddangosyddion Darbodus a Dangosyddion y Trysorlys ar gyfer 2022/23.

 

Cyn mynd ati i bennu'r meysydd allweddol sydd wedi'u nodi yn yr adroddiad, rhoddodd y Cyfarwyddwr Cyfadran wybod bod gweithgarwch Rheoli'r Trysorlys y Cyngor yn cael ei reoleiddio a'i lywodraethu gan godau ymarfer ac mae'r Cyngor yn parhau i gydymffurfio â'r holl ofynion perthnasol. Mae'r cynghorwyr Trysorlys yn rhoi gwybodaeth a chyngor i'r Cyngor, ond yn nodi bod pob penderfyniad sy'n cael ei wneud yn benderfyniad gan y Cyngor.

 

Rhoddodd y Cyfarwyddwr Cyfadran wybod bod y Cyngor yn parhau i weithredu ei strategaeth risg-isel, a hynny mewn cyd-destun economaidd heriol, gan fanteisio i'r eithaf ar falans arian parod y Cyngor. Ychwanegodd fod costau cyfalaf net y Cyngor ar gyfer y flwyddyn wedi'u cyflawni o fewn y gyllideb a doedd dim cyfleoedd i leihau costau benthyca drwy wneud newidiadau i'r amserlen yn ystod y flwyddyn, caiff hyn ei adolygu'n gyson.

 

Rhoddodd y Cyfarwyddwr Cyfadran drosolwg o weithgarwch benthyca'r Cyngor - y gyfradd llog gyfartalog gymhwysol ar gyfer y flwyddyn oedd 2.86% ac mae'r Cyngor yn parhau i gadw cyllid ad-daladwy Llywodraeth Cymru ar gyfer seilwaith trafnidiaeth. £135miliwn oedd cyfanswm y gwariant cyfalaf yn ystod y flwyddyn ariannol ddiweddaf, a £503miliwn oedd y Gofyniad Gwariant Cyfalaf, sy'n cynrychioli'r angen sylfaenol i fenthyca. Mae'r cyfanswm benthyca ar ddiwedd y flwyddyn (sef £294miliwn) yn dangos bod sefyllfa'r Cyngor o ran benthyca yn parhau i fod yn gadarnhaol.

 

I gloi, nododd y Cyfarwyddwr Cyfadran fod y Cyngor wedi gweithredu o fewn ei

derfynau ar gyfer benthyca darbodus ac o ganlyniad i hynny, mae ei amlen

gyfalafwedi cynyddu gan £40.5miliwn i adlewyrchu'r cynnydd yng nghostau'r

prosiect. Roedd y Cyfarwyddwr Cyfadran wedi cadarnhau y bydd yr adroddiad

yn cael ei adolygu gan y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio.

 

Yn dilyn trafodaeth, roedd y Cyfarwyddwr Cyfadran wedi ymateb i sawl ymholiad am yr adroddiad, cadarnhawyd y bydd diweddariad a chyflwyniad am Gynllun Ariannol Tymor Canolig y Cyngor yn cael ei roi i'r Aelodau cyn cyfarfod y Cyngor ym mis Medi (bydd modd cyflwyno cais am hyfforddiant unigol yn rhan o'r broses Adolygu Datblygiad Personol i Aelodau).

 

PENDERFYNWYD:

 

1. Nodi cynnwys yr adroddiad; a

 

2. Nodi'r trefniadau cyllido ar gyfer y Rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy, fel sydd wedi'u nodi yn adran 12.

 

 

34.

Cynllun Datblygu Lleol Diwygiedig 2022-2037. Y Diweddaraf Am Faterion Cynllunio Cenedlaethol a Rhanbarthol a Chymeradwyaeth Ar Gyfer Cytundeb Cyflawni a Diwygiad I'r Amserlen Ar Gyfer Gwaith Paratoi Parhaus Y Cynllun Datblygu Lleol Diwygiedig. pdf icon PDF 225 KB

Trafod adroddiad y Cyfarwyddwr Materion Ffyniant a Datblygu.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cynllun Datblygu Lleol Diwygiedig 2022-2037 - Y Diweddaraf am Faterion

Cynllunio Cenedlaethol a Rhanbarthol a Chymeradwyaeth ar gyfer Cytundeb

Cyflawni a Diwygiad i'r Amserlen ar gyfer Gwaith Paratoi Parhaus Y Cynllun

Datblygu Lleol Diwygiedig.

 

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Materion Ffyniant a Datblygu yr adroddiad sy'n

pennu materion cynllunio rhanbarthol a chenedlaethol parhaus sy'n dylanwadu

ar waith paratoi’r Cynllun Datblygu Lleol Diwygiedig 2022-2037.

 

Tynnodd y Cyfarwyddwr sylw'r Aelodau at adran 5 yn yr adroddiad, sy'n nodi'r

wybodaeth am y cynnydd cadarnhaol sydd wedi'i wneud hyd yn hyn o ran llunio

Cynllun Datblygu Lleol Diwygiedig. Mae'r adroddiad hefyd yn esbonio'rffactorau

sydd wedi cyfrannu at y cynnig i ymestyn yr amserlen sydd wedi'i phennu er

mwyn llunio'r Cynllun Datblygu Lleol Diwygiedig. Roedd y Cyfarwyddwr wedi

cynnig bod y strategaeth yn cael ei chyflwyno i'rCyngor ym mis Tachwedd 2023,

a hynny cyn y cyfnod ymgynghori 6 wythnos ar gyfer y Strategaeth a ffafrir.

 

Wrth gyfeirio at faterion sy'n effeithio ar gynnydd y Cynllun Datblygu Lleol

Diwygiedig, cyfeiriodd y Cyfarwyddwr Materion Ffyniant a Datblygu  at y fersiwn

newydd o ddogfen Nodyn Cyngor Technegol 15 (NCT 15) ar gyfer Perygl

Llifogydd sy'n creu rheolau penodol ar gyfer dyrannu tir yn y Cynllun Datblygu

Lleol Diwygiedig a'r ceisiadau cynllunio dilynol. Cyfeirioddat yr anawsterau sy'n

codi wrth bennu opsiynau ar gyfer twf hyd yn hyn a'r angen am eglurder o'r

fersiwn newydd o'r NCT y mae disgwyl iddo gael ei gyhoeddi yn y flwyddyn

newydd, yn dilyn trafodaethau rhwng Swyddogion Cynllunio a Llywodraeth

Cymru.

 

I gloi, tynnodd y Cyfarwyddwr Materion Ffyniant a Datblygu sylw'r Aelodau at

adran 5 o'r adroddiad, sy'n cynnwys y newidiadau arfaethedig i'r amserlen. Mae'r

dyddiadau blaenorol a gafodd eu cytuno wedi'u dangos yn glir,ynghyd a'r

dyddiadau newydd arfaethedig.

 

Roedd Cadeirydd Gr?p Llywio'r Cynllun Datblygu Lleol Diwygiedig, y

Cynghorydd L Tomkinson, wedi sôn am gyfraniad y Gr?p Llywio trawsbleidiol

hyd yn hyn o ran camau a chynnwys y cynllun i sicrhau bod pob mater yn cael ei

ystyried yn briodol. Roedd y Cynghorydd wedi diolch i'r Aelodau am eu

cyfraniadau cadarnhaoli'r Gr?p pwysig yma.

 

Ar ôl trafod yr adroddiad, PENDERFYNWYD:

 

1.                Nodi'r materion sydd wedi'u nodi ac sy'n effeithio ar waith llunio'r Cynllun Datblygu

Lleol Diwygiedig yn unol â'r amserlen gymeradwy.

 

2.               Cymeradwyo'r diwygiad i amserlen y Cytundeb Cyflawni ar gyfer y Cynllun Datblygu

Lleol Diwygiedig er mwyn ymestyn y cyfnod ar gyfer llunio'r cynllun. Mae hyn wedi'i nodi

yn adran 5 o'r adroddiad ac yn y Cytundeb Cyflawni newydd sydd wedi'i atodi yn Atodiad 1.

 

3.         Ceisio cydsyniad Llywodraeth Cymru i weithredu'r newidiadau i'r Cytundeb Cyflawni.

 

4.               Awdurdodi'r Cyfarwyddwr Materion Ffyniant a Datblygu i wneud newidiadau bach i'r

amserlen, gan ymgynghori â'r Aelod o'r Cabinet ar faterion Ffyniant a Datblygu.

Gofyn bod Gr?p Llywio'r Cynllun Datblygu Lleol Diwygiedig yn cael gweld unrhyw ddiwygiadau sy'n cael eu gwneud gan y Cyfarwyddwr Materion Ffyniant a Datblygu.

 

 

 

35.

Newid Aelodaeth pdf icon PDF 112 KB

Derbyn adroddiad y Cyfarwyddwr Gwasanaeth – Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth - Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu wybod am y newidiadau i aelodaeth y Gr?p Llafur yn rhan o'r Gynghrair ar gyfer Blwyddyn y Cyngor 2023/24.

 

Ar ôl trafod yr adroddiad, PENDERFYNWYD nodi y bydd:

 

  1. Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol J Smith yn cynrychioli'r Awdurdod Lleol yn rhan o'r Gynghrair o hyn ymlaen; a

 

  1. Bydd gohebiaeth yn cael ei hanfon i'r Gynghrair er mwyn rhoi gwybod am y newid i gynrychiolydd yr Awdurdod.

 

36.

Materion Brys

Trafod unrhyw faterion sydd, yn ôl doethineb y Cadeirydd, yn faterion brys yng ngoleuni amgylchiadau arbennig.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth - Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu wybod bod y Llywydd, yn unol â Rheol Gweithdrefn 10.5, wedi rhoi caniatâd i’r Cyngor Llawn benderfynu a ddylai’r Cynnig Brys hwn:

 

• Cael ei drafod yn y cyfarfod; neu

• Gohirio'r Cynnig tan y cyfarfod nesaf, i'w drafod gyda mantais cyngor ysgrifenedig gan Swyddogion;

neu

• Ei atgyfeirio i'r Adain Weithredol neu Bwyllgor.

 

PENDERFYNWYD trafod y Rhybudd o Gynnig brys yn y cyfarfod.

 

(Nodwch: Roedd y Llywydd, Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol G Hughes, a Chynghorydd y Fwrdeistref Sirol W Hughes wedi gadael y cyfarfod ar gyfer y drafodaeth yma, a hynny ar ôl iddyn nhw ddatgan buddiant personol a buddiant sy'n rhagfarnu (gweler cofnod 27).

 

Yn absenoldeb y Llywydd, camodd Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol B Stephens, y Dirprwy Lywydd, i rôl y Cadeirydd ar gyfer eitem 10.

 

37.

Rhybudd O Gynnig Brys pdf icon PDF 113 KB

Yn unol â Rheol Gweithdrefn 10.5, mae’r Llywydd wedi rhoi caniatâd i’r Cyngor Llawn benderfynu a ddylai’r Cynnig Brys hwn fod:

 

• Cael ei drafod yn y cyfarfod; neu

• Gohirio'r Cynnig tan y cyfarfod nesaf, i'w drafod gyda mantais cymorth cyngor ysgrifenedig gan Swyddogion; neu

• Ei atgyfeirio i'r Adain Weithredol neu i Bwyllgor, i gael ei ystyried, ei drafod, a'i benderfynu.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Trafod Rhybudd o Gynnig sydd wedi’i gyflwyno yn enwau Cynghorwyr y Fwrdeistref Sirol A O Rogers; D Wood, K Morgan, S Evans, D Grehan, H Gronow, P Evans ac A Ellis:

 

Er gwaethaf yr e-bost gan y Prif Weithredwr a anfonwyd at yr Aelodau am 13:26 o'r gloch ddoe, mae'r Cyngor yma'n gresynu nad oedd ganddo unrhyw wybodaeth flaenorol am gynlluniau i derfynu darpariaeth fewnol y gwasanaeth gofal yn y cartref symudol gyda'r nos . Rhoddwyd gwybod i’r holl Aelodau am y cynnig yma drwy e-bost a anfonwyd ddeuddydd yn ôl gan staff sy’n gweithio yn y gwasanaeth. Cawson nhw eu galw i gyfarfod gyda swyddogion ac undebau yr wythnos ddiwethaf i gael gwybod am y bwriad i roi’r gwasanaeth ar gontract allanol i ddarparwyr eraill yn y sector preifat/annibynnol.

 

Mae hyn yn mynd yn groes i ymrwymiad y Cyngor i warchod gwasanaethau a ddarperir yn uniongyrchol lle mae'r staff yn cael eu talu ar Delerau ac Amodau Cenedlaethol. Mae’n anfaddeuol bod newid o’r fath i wasanaeth gwerthfawr ac angenrheidiol iawn wedi cael ei ystyried gan reolwyr o dan benderfyniad dirprwyedig gweithredol nas cyhoeddwyd tan ddoe.

 

Roedd Rhaglen Waith y Cabinet hefyd wedi’i diwygio, gydag Adroddiad Blynyddol Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Strategaeth Gwasanaethau i Oedolion ddrafft, yr oedd disgwyl iddyn nhw gael eu trafod ym mis Gorffennaf, bellach wedi'u symud i fis Hydref 2023. Pe byddai'r adroddiadau yma wedi cael eu trafod ym mis Gorffennaf yn ôl y cynllun gwreiddiol, byddai o leiaf rhywfaint o wybodaeth gan yr Aelodau am y cynnig i derfynu'r gwasanaeth gyda'r nos.

 

Mae'r Penderfyniad Dirprwyedig Gweithredol sydd wrthi'n cael ei gyhoeddi yn mynd i'r afael â rhywfaint o bryderon yr Aelodau am y broses briodol. Serch hynny, nid yw'n awdurdodi penderfyniad y swyddog ym mis Mawrth i beidio â derbyn atgyfeiriadau, gan fynd ati'n fwriadol i gwtogi'r gwasanaeth a pheri i'r Prif Weithredwr ddatgan bod y "trefniant presennol ddim yn cyflwyno'r dull mwyaf effeithiol o ddarparu'r gofal a chymorth yma mwyach" yn ei e-bost.

 

O dan yr amgylchiadau yma, mae'n bwysig sicrhau dealltwriaeth o ran sut mae modd i swyddogion ddefnyddio awdurdod gweithredol i gwtogi ar wasanaeth, gyda'r nod o gael gwared arno yn y pen draw, heb yn wybod i'r Aelodau a heb eu caniatâd.

 

Mae’r Cyngor yma felly’n gofyn i’r Prif Weithredwr wneud datganiad heddiw, cyn y toriad, ynghylch:

-          Pam fod y gwasanaeth wedi'i gwtogi'n fwriadol ym mis Mawrth a pham na chyhoeddwyd hysbysiad o benderfyniad dirprwyedig yngl?n â'r newid hwnnw?

-          Sut mae modd i ddileu gwasanaeth gael ei ystyried yn benderfyniad gweithredol yn hytrach na phenderfyniad i'r Cabinet/Cyngor Llawn.

 

Yn dilyn trafodaeth, PENDERFYNWYD mabwysiadu'r Rhybudd o Gynnig Brys a darparodd y Prif Weithredwr y datganiad canlynol:

 

"Bydd Aelodau'n cofio strategaeth y gyllideb a gafodd ei chymeradwyo gan y Cyngor ar 8 Mawrth 2023, pan gytunodd y Cyngor i strategaeth y gyllideb a oedd yn cau'r bwlch digynsail gwerth £38miliwn yn y gyllideb. Roedd strategaeth y gyllideb yn destun ymgynghoriad cynhwysfawr, ac roedd y Cyngor eisoes wedi dechrau ymgynghoriad  ...  view the full Cofnodion text for item 37.