Lleoliad: Siambr y Cyngor, Y Pafiliynau, Parc Hen Lofa'r Cambrian, Cwm Clydach, Tonypandy, CF40 2XX
Cyswllt: Julia Nicholls -Gwasanaethau Democrataidd 01443 424098
Rhif | eitem | |||
---|---|---|---|---|
Croeso ac Ymddiheuriadau Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i'r cyfarfod a derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan Gynghorwyr y Fwrdeistref Sirol P Evans, R Evans, K Morgan, M Powell, K Webb a D Williams.
|
||||
Datganiadau o Fuddiant Derbyn datganiadau o fuddiannau personol gan Aelodau yn unol â gofynion Cod Ymddygiad y Cyngor
1. Mae gofyn i Aelodau ddatgan rhif a phwnc yr agendwm y mae eu buddiant yn ymwneud ag e a mynegi natur y buddiant personol hwnnw; a 2. Lle bo Aelodau'n ymneilltuo o'r cyfarfod o ganlyniad i ddatgelu buddiant sy'n rhagfarnu, rhaid iddyn nhw roi gwybod i'r Cadeirydd pan fyddan nhw'n gadael.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Yn unol â Chod Ymddygiad y Cyngor, cafodd y datganiadau o fuddiant canlynol eu gwneud yngl?n â'r agenda:
Eitem 9 ar yr agenda - SEFYDLU BWRDD GWASANAETHAU CYHOEDDUS AR GYFER CWM TAF MORGANNWG - TREFNIADAU TROSOLWG A CHRAFFU AR Y CYD
Ø Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol S Bradwick – “Fi yw Cadeirydd Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru”
Ø Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol D R Bevan – “Rydw i'n aelod o’r Cydbwyllgor Trosolwg a Chraffu”
Ø Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol A Crimmings – “Rydw i'n aelod o’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus”
Ø Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol B Stephens – “Rydw i'n aelod o’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus”
|
||||
Cadarnhau cofnodion o gyfarfod y Cyngor a gynhaliwyd ar 29 Mawrth 2023 (4pm a 5pm) a 10 Mai 2023 yn rhai cywir.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
|
||||
Cyhoeddiadau Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cafodd y cyhoeddiadau canlynol eu gwneud:
Ø Talodd Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd A Morgan OBE, y deyrnged ganlynol i'r diweddar Tyrone O'Sullivan OBE a fu farw ar 27 Mai, yn 77 mlwydd oed. Ganed Tyrone i deulu glofaol yn Abercwmboi, ac roedd yn ymwybodol iawn o beryglon y pyllau, gan iddo golli'i hen dad-cu yn y Maerdy, a'i dad yng nglofa'r T?r pan oedd Tyrone ddim ond yn 17 oed. Er gwaethaf hyn, cafodd Tyrone swydd trydanwr dan hyfforddiant yn y pwll glo, a chyn bo hir daeth yn ffigur blaenllaw yn y mudiad Undebau. Daeth yn enwog am beidio â cholli'r un bleidlais dros weithredu diwydiannol mewn 22 mlynedd pan oedd yn Ysgrifennydd Cangen tanddaearol mudiad NUM. Chwaraeodd ran flaenllaw yn streic 1984-85, gan drefnu protestiadau yng Nghymru, de Lloegr, Essex, a de Swydd Efrog. Ei gamp fwyaf adnabyddus oedd perswadio'i gydweithwyr yng nglofa'r T?r i ymrwymo £8,000 yr un o’u harian diswyddo er mwyn casglu blaendal gwerth £1 miliwn i gymryd y safle drosodd. Ychwanegodd yr Arweinydd fod llawer yn cofio gweld y 239 o lowyr yn gorymdeithio yn ôl i'r gwaith ym mis Ionawr 1995 – flwyddyn ar ôl i'r pwll glo gau - yn dilyn y pryniant llwyddiannus. Arhosodd y T?r ar agor am 13 mlynedd arall, a heddiw mae atyniad Zip World poblogaidd ar y safle. Soniodd yr Arweinydd am ei atgofion gyda Tyrone yn ystod taith i Ogledd Cymru ac, ar ran yr Awdurdod Lleol, dymunodd gydymdeimlo ag Elaine, gwraig Tyrone, a'r teulu. ØYchwanegodd y Cynghorydd A O Rogers, y mae ei ward yn cynnwys safle Glofa’r T?r, deyrnged i’r diweddar Tyrone O’Sullivan OBE hefyd. Cyfeiriodd at y teyrngedau a'r sylwadau caredig niferus sydd wedi dod i law yn ystod yr wythnosau diwethaf. Ychwanegodd y byddai llawer yn cytuno y byddai'n cael ei gofio am ei arweiniad a'i waith o ran brwydro i gadw glofa'r T?r ar agor a helpu'r glowyr i brynu'r pwll yn llwyddiannus. Siaradodd y Cynghorydd Rogers am weledigaeth Tyrone o ran rhoi cyfleoedd i bobl ifainc ar gyfer y dyfodol a'u helpu i adeiladu a datblygu'r cymunedau glofaol drwy brosiectau megis Zip World, sy'n cyflogi nifer o drigolion lleol.
Ø Roedd y Cynghorydd R Lewis yn dymuno llongyfarch Clwb Rygbi Abercynon ar dymor llwyddiannus o rygbi ar ôl i'r tîm yn gael ei goroni'n bencampwr Adran 2 Canolbarth y Dwyrain a sicrhau dyrchafiad. Mae'r holl dîm, ei staff a gwirfoddolwyr yn destun balchder i'r gymuned gyfan. Ar ran y Cynghorydd Dennis, dymunodd y Cynghorydd Lewis yn dda i'r tîm ar gyfer y tymor nesaf.
Ø Ar ran y Cynghorydd W Jones, llongyfarchodd y Cynghorydd S Emanuel Maggie Davies o Flaenrhondda a redodd marathon Llundain er cof am ei diweddar ?r Paul. Mae hi wedi codi dros £4000 i elusen dementia Brain Bank.
Ø Fe wnaeth y Cynghorydd Ros Davislongyfarch Mr David Ferns, sy'n byw yn y Porth. Cwblhaodd Farathon Llundain ar 23 Ebrill, mewn 3 awr a 40 ... view the full Cofnodion text for item 15. |
||||
Cwestiynau gan yr Aelodau PDF 257 KB Derbyn cwestiynau'r Aelodau yn unol â Rheol 9.2 o Weithdrefn y Cyngor.
(Nodwch: Caniateir hyd at 20 munud ar gyfer cwestiynau.)
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: 1. Cwestiwn gan Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol G. E. Williams i Arweinydd y Cyngor - Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol A. Morgan OBE:
“Cyn y gaeaf a’r paratoadau ar gyfer tywydd garw, a fydd cyfle i Aelodau ymgysylltu â swyddogion a dod i sesiynau briffio yngl?n â'r paratoadau?” Ymateb gan Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol A. Morgan OBE:
Ymatebodd y Cynghorydd A. Morgan fod y Cyngor yn cynnal sesiwn briffio ar gyfer Aelodau Etholedig cyn cyfnod y gaeaf bob blwyddyn. Cynhaliwyd sesiwn y llynedd ym mis Tachwedd a bydd y sesiwn eleni yn cael ei chynnal yn gynharach, o bosibl ym mis Hydref. Dywedodd yr Arweinydd mai prif ffocws y sesiynau yma yw cyflwyno Cynllun Cynnal a Chadw'r Cyngor ar gyfer y Gaeaf. Mae hwn yn amlinellu manylion o ran pa gamau y mae’r Cyngor yn eu cymryd i baratoi ar gyfer tywydd garw dros fisoedd y gaeaf, rolau a chyfrifoldebau'r Aelodau a Swyddogion, sut i rannu gwybodaeth, y rhif cyswllt y tu allan i oriau, sut i gofnodi materion trwy'r ganolfan gyswllt a pha gymorth sydd ar gael i gymunedau, gwasanaethau'r Cyngor a staff. Pwysleisiodd yr Arweinydd bwysigrwydd sicrhau cymaint o ymgysylltu a chyfranogiad gan Aelodau â phosibl – eglurodd fod y sesiwn yn un gwerth chweil ac anogodd yr holl Aelodau i gymryd rhan. Daeth yr Arweinydd i'r casgliad y byddai dyddiad yn cael ei gadarnhau a'i ddosbarthu drwy'r Gwasanaethau Democrataidd maes o law. Cwestiwn Ategol gan Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol G. Williams:
“Ni allwn warantu na fydd Pentre’n gorlifo eto ond mae’r gwaith a wnaed i’r cwlfer a’r systemau draenio yn rhoi tawelwch meddwl y mae mawr ei angen i drigolion Pentre. Oes modd i'r Arweinydd roi rhagor o fanylion am yr opsiwn gwaith a ffafrir gan y Cyngor?”
Ymateb gan Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol A. Morgan OBE:
Dywedodd yr Arweinydd fod Pentre yn amlwg yn un o’r cymunedau a gafodd ei tharo galetaf yn ystod Storm Dennis, ac digwyddiadau tywydd garw dilynol, ac mae dros £1 miliwn wedi’i wario ar ddiogelu'r ardal hyd yma. Cadarnhaodd mai’r opsiwn a ffafrir yw agor chwlfer newydd drwy’r strydoedd. Er y byddai hynny’n tarfu ar drigolion (mater a gafodd ei gyfleu yn yr wybodaeth ymgynghori a ddosbarthwyd), byddai'r Cyngor hefyd yn lleddfu eu pryderon trwy sesiynau wyneb yn wyneb ac ar-lein gyda Swyddogion.
Dywedodd yr Arweinydd fod y cynllun yn fuddsoddiad gwerth miliynau o bunnoedd mewn seilwaith lleol, a gyflwynir fesul cam. Mae'r Cyngor wedi sicrhau cyllid sylweddol ar gyfer y cynllun eleni. Bydd y cynllun yn angenrheidiol yn wyneb newid hinsawdd ac yn diwallu'r angen i ddiogelu cartrefi a thrigolion. Dywedodd yr Arweinydd fod gwaith paratoi yn rhan allweddol o'r cynllun, a dyna pam fod hyfforddiant yn fater hanfodol i Aelodau.
“Pa gymorth sydd ar gael i fanciau bwyd a chynlluniau lleol tebyg yn ystod y flwyddyn i ddod?” Ymateb gan Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol A. Morgan OBE: ... view the full Cofnodion text for item 16. |
||||
Gwrthsefyll Llifogydd PDF 444 KB Derbyn adroddiad a chyflwyniad gan Gyfarwyddwr y Gwasanaethau Rheng Flaen.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Rheng Flaen yr adroddiad (a ategwyd gan gyflwyniad Power Point) gyda'r diben o roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gamau gweithredu'r Cyngor i liniaru'r perygl o lifogydd ers Storm Dennis, ynghyd â throsolwg o'r gwaith a wnaed i adnewyddu ac uwchraddio'r isadeiledd cyhoeddus yr effeithiwyd arno gan lifogydd. Dywedodd y Cyfarwyddwr fod yr adroddiad yn croesgyfeirio adroddiadau ac ymrwymiadau blaenorol yn dilyn y storm ac yn nodi rhaglen waith, sydd wedi'i chynnwys yn yr atodiadau i'r adroddiad, yn dilyn y stormydd ym mis Chwefror 2020 a adawodd dros 1,500 eiddo dan dd?r.
Dywedodd y Cyfarwyddwr fod y Cyngor wedi ymchwilio i'r llifogydd ac wedi llunio cyfanswm o bedwar ar bymtheg o Adroddiadau Adran 19. Cyfeiriodd at y gwaith sydd wedi'i wneud mewn ymateb i'r dinistr a achoswyd gan Storm Dennis yn 2020 a'r meysydd gwariant cyfalaf gyda grantiau ac ymrwymiadau gan Lywodraeth Cymru, ynghyd â bron i £3 miliwn o gyllid y Cyngor ei hun.
Eglurodd y Cyfarwyddwr fod y rhaglen gyfalaf pedair blynedd, a fydd yn dod i ben yn y flwyddyn ariannol hon, yn cynnwys cyfanswm o tua £84 miliwn, sy'n cynnwys £42 miliwn ar gyfer gwaith uwchraddio ac atgyweirio uniongyrchol, £20 miliwn ar gyfer gwaith diogelwch tomennydd glo, £14 miliwn yn ymwneud â rheoli perygl llifogydd a £4.75 miliwn ar gyfer priffyrdd a heolydd.
Cyfeiriodd y Cyfarwyddwr at Atodiad A sy’n rhoi trosolwg o’r camau gweithredu a adroddwyd i’r Cabinet ym mis Rhagfyr 2020, yn benodol y rheiny sy'n ymwneud â Gwasanaethau Rheng Flaen, megis cynyddu ei gapasiti mewnol ar lefel weithredol a rheoli a chynnal y rhwydwaith o asedau draenio, gan ddatblygu, codi ymwybyddiaeth o ran llifogydd, a chamau gorfodi yn ogystal â datblygu strategaeth perygl llifogydd trwy gyfres o ymgynghoriadau, a fydd yn cael eu hystyried gan Bwyllgor Trosolwg a Chraffu'r Cyngor a'r Cabinet.
Parhaodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Rheng Flaen â’i ddiweddariad ar yr isadeiledd a pheryglon llifogydd drwy gyfres o ddelweddau ar nifer o sleidiau Power Point o dan y penawdau canlynol, a oedd yn dangos faint o gynlluniau sydd ar y gweill ar draws y fwrdeistref sirol:
Ø Digwyddiadau Storm Chwefror 2020 Ø Safleoedd derbyn Ø Cam 3A Draenio a Chlirio Ø FAS - Lôn y Parc – Cyn-adeiladu/Ar ôl adeiladu Ø FAS Teras Bronallt Ø Treorci Rhan 1a – Heol Tyle Du Ø FAS Teras y Waun Ø Heol Cefnpennar – Leinin Cwlfer Mewnol Ø Leinin a Chwlfer Newydd - Pentre Ø Cilfach Heol Pentre Ø Uwchraddiad Cwlfer Teras Tynycoed Ø A4059 – Trawsgludiad Newtown Ø Cwlfer newydd ar Ffordd y Rhigos Ø Nant y Frwd – Stryd Allen, Aberpennar, Atgyweirio ac Uwchraddio Argyfwng Ø Arllwysfa Teras Granville Ø Basn malurion Teras Granville Ø Teras Campbell - Cilfach Ø Cwm-bach – Cilfach Heol y Gamlas Ø Bryn Ifor - cilfach cwlfer Ø Stryd Kingcraft - Cilfach Ø Rhes Painter – Gwelliannau Cilfach Ø Cwlfer y Dramffordd Ø Gorsaf Bwmpio Glenboi Ø Gwaith Strwythurol – Pont Castle Inn Ø Trin Ymyl yr Afon - Castle Inn Ø Heol Berw – ... view the full Cofnodion text for item 17. |
||||
Rhaglen Waith y Cyngor 2023/24 PDF 189 KB Trafod adroddiad y Cyfarwyddwr Gwasanaeth – Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth – Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu Raglen Waith ddrafft ar y rhestr arfaethedig o faterion sydd angen eu hystyried gan y Cyngor ar gyfer Blwyddyn y Cyngor 2023-2024. Ychwanegodd fod dyddiadau ychwanegol ar ben yr hyn a gyhoeddwyd yn y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol bellach wedi eu hychwanegu at y rhaglen waith.
Yn ystod y cyfnod a amlinellwyd, dywedodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth y gallai'r rhaglen waith newid i adlewyrchu gofynion adrodd ychwanegol neu unrhyw newidiadau deddfwriaethol neu fusnes arall a allai ddeillio o ystyriaethau pwyllgorau, megis argymhellion Craffu neu'r Pwyllgor Penodiadau. Ychwanegodd y caiff unrhyw newidiadau i fusnes yn cael ei gytuno gan y Swyddog Priodol gyda chytundeb terfynol gan y Llywydd. Lle bo modd, bydd Arweinwyr Grwpiau hefyd yn cael gwybod am unrhyw newidiadau yn ystod Blwyddyn y Cyngor.
I gloi, ac ar ôl trafod yr adroddiad, dywedodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth y byddai'r eitemau yn yr adran 'Amrywiol' ar raglen waith y Cyngor yn cael eu dyrannu yn ystod y flwyddyn (yn amodol ar gytundeb). Bydd yr Aelodau cael eu hysbysu am hyn gan ddiweddariadau rheolaidd ym mhob cyfarfod o'r Cyngor.
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r Rhaglen Waith ar gyfer Blwyddyn y Cyngor 2023-2024 ac unrhyw ddiweddariadau priodol pellach gan y Cyfarwyddwr Gwasanaeth, Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu.
|
||||
MECANWAITH RHOI GWYBOD AM RYBUDD O GYNNIG PDF 169 KB Derbyn adroddiad y Cyfarwyddwr Gwasanaeth – Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth, Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu adroddiad a oedd yn gofyn i'r Cyngor ystyried y cynigion ffurfiol ar gyfer cofnodi ac adrodd ar ganlyniad ac effaith mabwysiadu a/neu gyfeirio Rhybudd o Gynnig, yn dilyn pleidlais gan y Cyngor.
Yng nghyfarfod y Cyngor a gynhaliwyd ar 29 Mawrth 2023, cefnogodd yr Aelodau'r cynnig a gyflwynwyd gan y Cynghorwyr D Grehan ac A Rogers mewn perthynas ag ymestyn y mecanwaith adrodd presennol. Cyfeiriodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth at y trefniadau presennol sydd ar waith i gofnodi canlyniadau cynigion a fabwysiadwyd gan y Cyngor a lle bo'n briodol, y rheini a gyfeiriwyd at bwyllgor arall. Yn achos atgyfeiriad i bwyllgor Craffu, mae'r canlyniad ar hyn o bryd yn cael ei gyfeirio'n ôl i'r Cyngor mewn adroddiad sylweddol i hysbysu'r Aelodau o ganlyniad y cynnig gwreiddiol.
Amlinellodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth y cynigion ar gyfer y materion hynny sydd angen gohebiaeth allanol, a chynigir eu bod yn dilyn yr un trefniadau â'r materion mewnol hynny, a byddai'r canlyniadau'n cael eu cofnodi a'u cyhoeddi ar dudalennau gwe'r Cyngor. Ychwanegodd fod y mater hwn wedi'i drafod yn ddiweddar gan y Pwyllgor Cyfansoddiad a phenderfynodd yr Aelodau gytuno ar y cynigion.
Ar ôl trafod yr adroddiad PENDERFYNWYD i nodi'r gefnogaeth a darperir gan Bwyllgor Cyfansoddiad y Cyngor o ran ytrefniadau adolygu.
|
||||
Derbyn adroddiad y Cyfarwyddwr Gwasanaeth – Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth, Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu yr adroddiad a oedd yn gofyn i'r Cyngor gymeradwyo'r trefniadau newydd ar gyfer Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Cwm Taf Morgannwg, yn dilyn y newid i un Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus (BGC) ar gyfer Cwm Taf Morgannwg sydd bellach yn cynnwys Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn ogystal â Chynghorau Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf a Merthyr Tudful.
Rhoddodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth wybod am y trefniadau cyfredol ar gyfer y Cydbwyllgor Trosolwg a Chraffu rhwng Cynghorau RhCT a Merthyr Tudful, sy'n craffu ar waith y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus a’i bartneriaid, yn unol â'r gofyniad statudol a nodir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru), 2015 a chanllawiau statudol cysylltiedig. Ychwanegodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth, yn dilyn nifer o drafodaethau rhwng y tair unedol awdurdodau, fod y cylch gorchwyl arfaethedig a chyfansoddiad y pwyllgor wedi'u cytuno a'u hystyried, ac wedi'u nodi yn yr adroddiad. Bwriad hyn yw adeiladu ar y trefniadau cyfredol o ran craffu ar y cyd.
Dywedodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth y byddai'r Cydbwyllgor Trosolwg a Chraffu newydd yn cynnwys pum Aelod o bob Awdurdod Lleol yn ogystal â'r aelodau cyfetholedig lle bo’n briodol. Bydd y rhain yn cynnwys cynrychiolwyr sy'n ddinasyddion, cynrychiolwyr o Cyfoeth Naturiol Cymru, y Bwrdd Iechyd a Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru. Ychwanegodd y gofynnir hefyd i awdurdodau lleol enwebu cynrychiolydd dirprwyol, a fydd yn adlewyrchu cydbwysedd gwleidyddol y Cynghorau. Yn unol â'r trefniadau blaenorol ar y cyd, bydd y Cadeirydd yn cael ei benodi gan y Pwyllgor gydag Is-Gadeirydd yn cael ei enwebu o Awdurdod Lleol arall.
Soniodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth mai'r cynnig yw y bydd Rhondda Cynon Taf yn parhau i roi cymorth i'r Cydbwyllgor Trosolwg a Chraffu ar gyfer y ddwy flynedd nesaf, gyda chyfle i'r awdurdodau lleol eraill i adolygu'r trefniant hwn ar ddiwedd y cyfnod o ddwy flynedd.
I gloi, dywedodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth fod y cynigion wedi'u hystyried gan y BGC, ac roedd y Bwrdd yn fodlon i'r Cynghorau fabwysiadu hyn. Bydd Cynghorau Merthyr a Phen-y-bont ar Ogwr hefyd yn ystyried adroddiadau tebyg.
Ar ôl trafod yr adroddiad, PENDERFYNWYD:
|
||||
Adroddiad Blynyddol 2022/2023 PDF 118 KB Derbyn adroddiad y Cyfarwyddwr Gwasanaeth – Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth, Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu ei adroddiad a oedd yn cyflwyno Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd ar gyfer Blwyddyn y Cyngor 2022/23, gyda chyfle i'r Cadeirydd a'r Is-Gadeirydd gyfrannu at fusnes y pwyllgor. Ychwanegodd fod meysydd allweddol i'w hystyried yn yr adroddiad yn cynnwys datblygiad Aelodau, Gwasanaethau Aelodau a chefnogaeth i swyddogaethau democrataidd anweithredol y Cyngor ar gyfer y flwyddyn.
Yn ei rôl fel Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd roedd yn dymuno cofnodi ei ddiolch i Bwyllgor y Gwasanaethau Democrataidd am y gefnogaeth barhaus yr oedd ef a’r garfan Gwasanaethau Democrataidd wedi’i dderbyn.
Derbyniodd yr aelodau anerchiad gan Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol W. Jones a Chynghorydd y Fwrdeistref Sirol M. Webber, Cadeirydd ac Is-Gadeirydd y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd, i gyflwyno'r adroddiad blynyddol ar gyfer Blwyddyn y Cyngor 2022/2023.
Yn dilyn trafodaeth, PENDERFYNWYD nodi cynnwys Adroddiad Blynyddol Pwyllgor y Gwasanaethau Democrataidd ar gyfer Blwyddyn y Cyngor 2022/23.
|
||||
Rhybudd o Gynnig Trafod Rhybudd o Gynnig sydd wedi’i gyflwyno yn enwau Cynghorwyr y Fwrdeistref Sirol S Trask a K Johnson:
Mae unigrwydd ac ynysigrwydd cymdeithasol yn cael effaith fawr ar iechyd meddwl pobl o bob oed, dyma broblem sy'n dod i'r amlwg yn fwy aml ers pandemig coronafeirws. Mae Llywodraeth Cymru wedi sefydlu cronfa tair blynedd gwerth £500,000 bob blwyddyn er mwyn helpu i fynd i'r afael â'r broblem yma ym mhob rhan o Gymru. Hyd yn hyn, dim ond £22,727 sydd wedi cael ei ddyrannu i ardal Rhondda Cynon Taf yn ystod y 2 flynedd ddiwethaf, mae hyn yn cyfateb i 9c fesul person yn RhCT. Mae CBSRhCT wedi dyrannu'r swm bach yma i grwpiau lleol yn rhan o'i Gronfa Rhwydweithiau Cymdogaeth. Rydyn ni'n canmol gwaith y grwpiau cymunedol bach yma ond rydyn ni o'r farn nad yw'r lefel cyllid presennol gan Lywodraeth Cymru'n ddigonol er mwyn cael effaith eang ar drigolion.
Bydd y pecyn cyllid 3 blynedd gwreiddiol yn dod i ben yn dilyn blwyddyn ariannol 2023/2024.
Felly, rydyn ni'n cynnig bod:
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion:
|