Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Y Pafiliynau, Parc Hen Lofa'r Cambrian, Cwm Clydach, Tonypandy, CF40 2XX

Cyswllt: Julia Nicholls -Gwasanaethau Democrataidd  01443 424098

Cyfryngau

Eitemau
Rhif eitem

96.

Croeso

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod a derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan Gynghorwyr y Fwrdeistref Sirol J Barton, S Hickman, W Hughes, S Powderhill a D Williams.

 

97.

Datgan Buddiant

Derbyn datganiadau o fuddiannau personol gan Aelodau yn unol â'r Cod Ymddygiad.

 

1.     Mae gofyn i Aelodau ddatgan rhif a phwnc yr agendwm y mae eu buddiant yn ymwneud ag e a mynegi natur y buddiant personol hwnnw; a  

2.     Lle bo Aelodau'n ymneilltuo o'r cyfarfod o ganlyniad i ddatgelu buddiant sy'n rhagfarnu, rhaid iddyn nhw roi gwybod i'r Cadeirydd pan fyddan nhw'n gadael.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Yn unol â Chod Ymddygiad y Cyngor, cafodd y datganiadau o fuddiant canlynol eu gwneud yngl?n â'r agenda:

 

 

Mr A Wilkins – Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cyfreithiol ar ran pob Swyddog y Cyngor oedd yn bresennol mewn perthynas ag Eitem 9 ar yr Agenda – Datganiad 2023/24 y Cyngor ar Bolisi Cyflogau “Nid yw datganiad y Cyngor ar Bolisi Cyflogau yn cael unrhyw effaith ar delerau ac amodau presennol sy'n berthnasol i weithwyr unigol. Yn syml mae'n nodi dull y Cyngor tuag at bolisïau a fabwysiadwyd yn flaenorol, felly bydd Swyddogion yn aros yn y cyfarfod tra bydd yr eitem yn cael ei chyflwyno gan y Cyfarwyddwr Materion Adnoddau Dynol ac yn ystod y drafodaeth ddilynol."

 

(Nodwch: Cafodd y datganiadau canlynol eu gwneud yn ddiweddarach yn y cyfarfod (cofnodion 103, 104 a 106)

 

Y Cynghorydd K Johnson mewn perthynas ag eitem 7 ar yr agenda – Strategaeth Rheoli'r Trysorlys – “Rydw i'n gweithio i Drafnidiaeth Cymru”

 

Y Cynghorydd J Brencher mewn perthynas ag eitem 8 ar yr agenda – Adroddiad Strategaeth Gyfalaf 2023/24 – “Mae fy mab yn Gyfarwyddwr Trafnidiaeth Cymru”

 

Y Cynghorydd K Morgan mewn perthynas ag eitem 10 ar yr agenda –Cynllun Llesiant Cwm Taf 2023-2028 - “Rydw i'n gweithio i Fwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg”

 

 

98.

Cofnodion pdf icon PDF 365 KB

Cadarnhau cofnodion o gyfarfod y Cyngor, a gynhaliwyd ar 8 Mawrth 2023, yn rhai cywir.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNODD y Cyngor gymeradwyo cofnodion cyfarfod y Cyngor a gynhaliwyd ar 8

Mawrth 2023 yn rhai cywir yn amodol ar nodi bod y Cynghorydd H Gronow yn bresennol ar-lein.

 

 

99.

Cyhoeddiadau

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y cyhoeddiadau canlynol eu gwneud:

 

Rhoddodd Arweinydd y Cyngor, Y Cynghorydd A Morgan OBE, siec gwerth £2,107.17 i'r Lleng Brydeinig Frenhinol. Dyma'r arian a gafodd ei godi yn y Gyngerdd Goffa. Roedd Mr Richards, Cadeirydd Lleng Brydeinig Frenhinol Pontypridd, yn bresennol i dderbyn y siec a diolch i'r Cyngor am ei gefnogaeth.

 

Aeth y Cynghorydd A Roberts MBE ati i longyfarch dwy chwaer o ward Gilfach-goch, Esme Walters a enillodd gwpan y byd mewn cystadleuaeth ddawnsio i bobl yn eu harddegau, a Verity Walters a enillodd gwpan y byd mewn cystadleuaeth dawnsio mewn pâr. Cyhoeddodd y Cynghorydd Roberts fod Tyler Williams wedi ennill dwy Bencampwriaeth y Byd mewn cicfocsio.

 

Talodd Arweinydd yr Wrthblaid, Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol K Morgan, deyrnged i'r diweddar gyn-Gynghorydd Rita Moses. Roedd yn Gynghorydd Cyngor Dosbarth Cwm Cynon rhwng 1987 a 1991 ac yn Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol ar gyfer Cyngor RhCT rhwng 1995 a 2004 ac eto rhwng 2008-2012. Roedd hi wrth wraidd nifer o grwpiau cymunedol ac yn llywodraethwr ar gyfer yr ysgolion lleol. Yn 2000 roedd hi'n Gadeirydd / Maer Cyngor RhCT gyda'i g?r wrth ei hochr ac roedd hi'n falch iawn o gael ei phenodi. Siaradodd y Cynghorydd Morgan am ei brwdfrydedd am ei chymuned ac anfonodd ei chydymdeimlad at deulu a ffrindiau Rita yn ystod y cyfnod anodd yma.

 

100.

Cwestiynau gan yr Aelodau pdf icon PDF 269 KB

Derbyn cwestiynau'r Aelodau yn unol â Rheol 9.2 o Weithdrefn y Cyngor.

 

(Nodwch: Caniateir hyd at 20 munud ar gyfer cwestiynau.)

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nododd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth – Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu y byddai cwestiynau 8 a 9 yn cael eu hepgor o ganlyniad i absenoldeb yr Aelodau sy'n gofyn y cwestiynau:

 

1)  Cwestiwn gan Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol T Williams i Arweinydd y Cyngor, Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol A Morgan OBE:

Fydd Arweinydd y Cyngor yn rhoi diweddariad ar gynlluniau atal llifogydd yng Nghwmaman?

Ymateb y Cynghorydd A Morgan OBE:

Ymatebodd yr Arweinydd drwy gadarnhau bod Cam 2 y gwaith Lliniaru Llifogydd (Gosod waliau llifogydd i'r cwrs d?r i fyny'r afon o'r bont ar y briffordd) yng Nghwmaman wedi mynd rhagddo'n dda yn 2022/23 trwy'r cam dylunio a datblygu manwl sydd bellach wedi'i gwblhau.  Ychwanegodd fod y Cyngor wedi cyflwyno cais am gymeradwyaeth mewn egwyddor gan Lywodraeth Cymru (Rhagfyr 2022) ar gyfer y cam adeiladu, gyda chyllideb gwerth £415k ar eu llif prosiectau mawr ar gyfer 2023/24. 

Rhoddodd yr Arweinydd wybod os bydd yn cael ei gymeradwyo mewn egwyddor gan Lywodraeth Cymru, sydd i'w ddisgwyl ym mis Ebrill, bydd gweithredu'r grant yma'n amodol ar gais grant manwl pellach yn seiliedig ar ddiweddariad o achos busnes cyfredol y prosiect unwaith y bydd y costau gwirioneddol yn cael eu nodi yn sgil proses dendro.  Rhagwelir y bydd gwaith yn dechrau ar y safle yn yr haf, 2023/24, yn amodol ar lwyddiant y cais grant manwl ar gyfer y cam adeiladu.

 

Cwestiwn ategol gan Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol T Williams:

 

“Beth mae'r Cyngor yn ei wneud i godi ymwybyddiaeth o'r mesurau perygl llifogydd?”

Ymateb y Cynghorydd A Morgan OBE:

Nododd yr Arweinydd fod adroddiad i'r Cabinet wedi amlinellu a chytuno ar gyllid ar gyfer aelod ychwanegol o staff yn y garfan rheoli perygl llifogydd, fydd yn gyfrifol am ymgysylltu â thrigolion a chodi ymwybyddiaeth ledled cymunedau RhCT. Ychwanegodd fod gan ardal RhCT y gyfran uchaf o ran perygl llifogydd d?r wyneb, sef 25% o gyfanswm perygl Cymru, felly'r bwriad yw ymgysylltu â'r holl ardaloedd sydd wedi'u nodi i dderbyn cynlluniau perygl llifogydd, a chodi ymwybyddiaeth ymhlith eu trigolion a busnesau lleol.

 

2)      Cwestiwn gan Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol G Hopkins i'r Aelod o'r Cabinet ar faterion yr Amgylchedd a Hamdden, Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol B Harris:

Allai'r Aelod o'r Cabinet roi diweddariad ar gynllun Grantiau'r Gronfa Ffyniant Gyffredin ar gyfer y trydydd sector?”

Ymateb y Cynghorydd B Harris:

Rhoddodd y Cynghorydd B Harris wybod bod y cyfnod cyflwyno cais wedi agor (1 Chwefror 2023) a'i fod wedi dod i ben yn gynnar ar 24 Chwefror 2023, yn lle 28 Chwefror yn ôl y bwriad, gan fod y cynllun yn llawn. Rhoddodd y Cynghorydd Harris y diweddariadau canlynol mewn perthynas â'r cynllun grant:

 

Grant Cymunedol Cyngor RhCT Cronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU – Data Terfynol Rownd 1:

 

  • 133 o geisiadau wedi'u hasesu
  • 91 o geisiadau wedi'u cymeradwyo gyda'r swm cyfan, sef £675,000, wedi'i ddyrannu
  • 42 o geisiadau wedi'u gwrthod

 

Nododd y Cynghorydd Harris fod y 91 o anfonebau a ddaeth i law wedi cael eu prosesu  ...  view the full Cofnodion text for item 100.

101.

Rhaglen Waith y Cyngor 2022/2023

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth – Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu wybod y bydd Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol y Cyngor, a gafodd ei drefnu ar gyfer 24 Mai 2023, bellach yn cael ei gynnal ar 10 Mai 2023 am 4pm. Ychwanegodd fod modd i fusnes y Cyngor ddechrau mor gyflym â phosibl o ganlyniad i gynnal y cyfarfod yma'n gynharach. Nododd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth y bydd manylion y cyfarfod cyffredinol blynyddol yn cael eu rhannu gydag Arweinwyr y Grwpiau yn dilyn trafodaeth gyda'r Llywydd.

102.

TRAFODAETH AR SEFYLLFA'R FWRDEISTREF SIROL

Yn unol â Rheol 13 o Reolau Gweithdrefn y Cyngor

(Rhan 4 o Gyfansoddiad y Cyngor), cynnal 

dadl yr Arweinydd.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

 

Yn unol â Rheol Gweithdrefn 13.2 y Cyngor, nododd y Llywydd ei fod wedi neilltuo 45 munud ar gyfer yr eitem yma, ac yr hoffai wahodd yr Arweinydd i gyfarch y Cyngor ac ymateb i sylwadau Aelodau ar ei Adroddiad Blynyddol.

 

Rhoddodd yr Arweinydd wybod bod ei grynodeb blynyddol yn cael ei roi i'r Cyngor llawn bob blwyddyn a'i fod yn amlinellu'r hyn y mae'r Cyngor wedi'i gyflawni dros y flwyddyn diwethaf ac yn nodi'r hyn y mae eisiau ei gyflawni yn y dyfodol.

 

Siaradodd Arweinydd y Cyngor am drafodaeth y llynedd a oedd yn seiliedig ar gyd-destun adfer yn dilyn y pandemig. Mae'r Cyngor bellach yn wynebu cyni eto gyda'r argyfwng costau byw a'i heriau ar gyfer trigolion a chymunedau, a'r sector cyhoeddus. Cyfeiriodd at y pwysau ar y gyllideb, yn benodol ar ofal cymdeithasol, costau ynni, chwyddiant a phwysau cyflogau.

Cyfeiriodd yr Arweinydd at flaenoriaeth barhaus y Cyngor, sef y newid yn yr hinsawdd, wrth iddo barhau i gymryd camau gweithredu i gyflawni'r nod o fod yn Gyngor Niwtral o ran Carbon erbyn 2030.  Nododd fod y Cyngor yn gwneud cynnydd da a'i fod yn parhau i brynu 100% o'i gyflenwad ynni trydanol trwy ffynonellau adnewyddadwy yn y DU. Ychwanegodd, er gwaethaf heriau, fod y Cyngor yn dal i weld lefelau sylweddol o fuddsoddiad wrth iddo gyflawni ymrwymiadau'r maniffesto.

Rhoddodd yr Arweinydd ddiolch i holl staff y Cyngor sy'n parhau i gyflawni gwasanaethau bob dydd.

COSTAU BYW

Rhoddodd yr Arweinydd wybod bod y Cyngor yn parhau i roi cymorth i drigolion mewn angen yn y saith Canolfan Cydnerthedd y Gymuned, a gafodd eu sefydlu ar ddechrau'r pandemig gyda chymorth partneriaid. Mae dros 500 o drigolion wedi cael cymorth rhwng 31 Ionawr 2022 a 1 Chwefror 2023. Hefyd, mae cynnydd sylweddol o 62% wedi bod yn nifer yr atgyfeiriadau mewn perthynas â chymorth siopa a bwyd brys a rhoi gwybodaeth am arian a budd-daliadau. Ychwanegodd fod y Cyngor wedi rhoi talebau bwyd gwerth miloedd o bunnoedd i deuluoedd sy'n ei chael hi'n anodd. Mae'r Cyngor yn parhau i gefnogi banciau bwyd a chynlluniau bwyd lleol gyda grantiau gwerth rhwng £500 a £1,500 ar gael, ac mae 35 o brosiectau wedi cael eu hariannu ers mis Ebrill 2022. Aeth yr Arweinydd ati i gydnabod bod pedwar prif fanc bwyd Trussell ledled y Fwrdeistref Sirol wedi cael cyllid gwerth £70k a nwyddau gwerth £10k trwy broses gaffael y Cyngor ers mis Ebrill 2022.

Rhoddodd yr Arweinydd wybod bod gan y Cyngor 80 o Ganolfannau Croeso wedi'u gwirio, yn ogystal â llyfrgelloedd, sydd wedi'u sefydlu fel 'canolfannau clyd' i gefnogi unigolion. Hyd yn hyn, mae 56 o geisiadau am Gronfa Caledi y Gaeaf wedi cael eu cymeradwyo ac mae £82,688 wedi cael ei dalu.

GOFAL CYMDEITHASOL I OEDOLION

Nododd yr Arweinydd fod 2022 wedi bod yn flwyddyn heriol arall, gyda gofal cymdeithasol o dan bwysau mawr yn gyffredinol. Er gwaethaf hyn, mae'r Cyngor a'i staff rheng flaen wedi parhau i ofalu a chefnogi'r miloedd o bobl i'r safon orau bosibl. Mae Cyngor  ...  view the full Cofnodion text for item 102.

103.

STRATEGAETH RHEOLI'R TRYSORLYS pdf icon PDF 341 KB

Derbyn adroddiad y DirprwyBrif Weithredwr a Chyfarwyddwr Cyfadran - Cyllid, Gwasanaethau Digidol a Gwasanaethau Rheng Flaen

 

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y  Cyfarwyddwr Cyfadran Gwasanaethau Cyllid, Digidol a Rheng Flaen yr adroddiad blynyddol yn hysbysu bod gweithgareddau benthyca a buddsoddi Rheolaeth y Trysorlys yn cael eu rheoleiddio'n fanwl, a'u bod yn cael eu cynnal yn unol â'r Codau Ymarfer proffesiynol perthnasol. Ychwanegodd fod cynnal adolygiad ymlaen llaw o'r strategaeth Rheoli'r Trysorlys cyn dechrau'r flwyddyn ariannol newydd yn ofyniad penodol, yn yr un modd â'r adolygiad canol blwyddyn ffurfiol ac adolygiad diwedd blwyddyn.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr, fel y nodir yn yr adroddiad, fod gan y Cyngor £297.6 miliwn o fenthyca ar gyfradd llog gyfartalog o 3.07% gyda gofyniad benthyca ar gyfer y flwyddyn nesaf o £19.6 miliwn. Bydd hyn yn ariannu'r rhaglen gyfalaf y cytunwyd arni bellach, a bydd yn ategu hyn trwy bennu dyled tymor hwy os yw’r amgylchedd economaidd a rhagamcanion cyfraddau llog yn mynnu, ac yn unol â chyngor gan gynghorwyr Rheoli’r Trysorlys y Cyngor. Bydd hyn yn unol â sefyllfa tanfenthyca’r Cyngor, y mae’r Cyngor wedi parhau i’w dal ers nifer o flynyddoedd, ac mae'r Cyngor yn parhau i gael ei wobrwyo gyda chost cyllid cyfalaf net is.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Cyfadran, o ran strategaeth fuddsoddi'r Cyngor, fod y Cyngor yn parhau i fenthyg arian i sefydliadau yn y sector cyhoeddus a sefydliadau a gefnogir gan y Llywodraeth gan gydnabod blaenoriaeth diogelwch a hylifedd yn hytrach nag elw.

 

Cyfeiriodd y Cyfarwyddwr Cyfadran yr Aelodau at baragraff 16 ar gyfer dangosyddion a therfynau Rheoli Trysorlys y Cyngor a'r Polisi MRP a nodir yn adran 17 sy'n parhau i ddileu benthyca â chymorth y Cyngor ar sail llinell syth dros 40 o flynyddoedd.

 

Yn dilyn trafodaeth ar Strategaeth Rheoli Trysorlys y Cyngor,  PENDERFYNWYD:

 

 

 

 

1.     Cymeradwyo'r Strategaeth Rheoli'r Trysorlys, Strategaeth Fuddsoddi, Dangosyddion y Trysorlys, a Datganiad Polisi Darpariaeth Isafswm Refeniw fel y nodir yn yr adroddiad;

 

2.     Cymeradwyo'r Datganiad Polisi Rheoli'r Trysorlys wedi'i ddiweddaru (Atodiad 1) a'r Cymalau Rheoli'r Trysorlys (Atodiad 2).

 

(Nodyn: Datganodd y Cynghorydd K Johnson fuddiant (gweler Cofnod Rhif 97) – “Rwy’n un o gyflogeion Trafnidiaeth Cymru”)

 

 

 

 

104.

ADRODDIAD STRATEGAETH GYFALAF 2023/24 pdf icon PDF 381 KB

Derbyn adroddiad y DirprwyBrif Weithredwr a Chyfarwyddwr Cyfadran - Cyllid, Gwasanaethau Digidol a Gwasanaethau Rheng Flaen

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Cyfadran Cyllid, Gwasanaethau Digidol a Rheng Flaen yr Adroddiad Strategaeth Gyfalaf statudol blynyddol 2023/24 sy'n nodi trosolwg lefel uchel o sut mae gwariant cyfalaf, fel y cytunwyd yng nghyfarfod diwethaf y Cyngor, yn cael ei ariannu, fel y nodir yn yr adran 6 o'r adroddiad. Ychwanegodd y Cyfarwyddwr Cyfadran ei fod yn cynnwys gofynion cyllido cyfalaf y Cyngor (CFR) sef yr angen sylfaenol i fenthyca i ariannu cynlluniau gwariant hanesyddol a chyfredol y Cyngor. Fel y cyfeiriwyd yn flaenorol, dywedodd y Cyfarwyddwr Cyfadran fod hyn yn dangos sefyllfa o dan fenthyca sylweddol yn unol â chyngor ymgynghorwyr y Trysorlys.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Cyfadran y byddai'r Strategaeth Rheoli'r Trysorlys a'r datganiad Strategaeth Gyfalaf yn cael eu cyflwyno i'r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio at ddibenion adolygu a chraffu'n benodol yn unol â'r codau ymarfer perthnasol.

 

Yn dilyn trafodaeth, PENDERFYNWYD cymeradwyo'r adroddiad Strategaeth Gyfalaf sy'n ymgorffori'r Dangosyddion Darbodus.

 

(Nodyn: Datganodd y Cynghorydd J Brencher fuddiant personol (gweler Cofnod Rhif 97) – “Mae fy mab yn gyfarwyddwr Trafnidiaeth Cymru’')

 

105.

DATGANIAD 2023/24 Y CYNGOR AR BOLISI CYFLOGAU pdf icon PDF 288 KB

Derbyn Adroddiad ar y Cyd Cyfarwyddwr Materion Adnoddau Dynol a Chyfarwyddwr y Gwasanaethau Cyfreithiol.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Yn unol ag Adran 38(1) o Ddeddf Lleoliaeth 2011, rhoddodd y Cyfarwyddwr Materion Adnoddau Dynol wybodaeth i'r Aelodau am Ddatganiad Polisi Cyflogau 2023/24 y Cyngor. Cyfeiriodd y Cyfarwyddwr yr Aelodau at baragraffau 3.1 i 3.2 a oedd yn nodi'r cyd-destun cyfreithiol ar gyfer yr angen am y polisi tâl a pharagraffau 4.1-4.9 sy'n cyfeirio at y cefndir i'r polisi tâl, yr angen am gymeradwyaeth y Cyngor Llawn ac yn cyfeirio at y Datganiad Polisi Cyflogau yn Atodiad A i'r adroddiad.

 

 

Yn dilyn trafodaeth, PENDERFYNODD yr Aelodau gymeradwyo'r Datganiad ar Bolisi Cyflogau, sef Atodiad A yr adroddiad.

106.

CYNLLUN LLESIANT CWM TAF 2023-2028 pdf icon PDF 174 KB

Derbyn adroddiad y Prif Weithredwr

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr ei adroddiad a oedd yn gofyn am gymeradwyaeth y Cyngor i Gynllun Llesiant drafft 2023-2028 ar gyfer rhanbarth Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Cwm Taf Morgannwg. Mae’n ofynnol i’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus lunio a chyhoeddi cynllun llesiant lleol sy’n nodi’r amcanion llesiant ar gyfer y rhanbarth a’r camau y bydd yn eu cymryd i gyflawni’r amcanion hynny. Mae hyn yn ofynnol bob pum mlynedd ac mae’r cynllun yn seiliedig ar y dystiolaeth a gasglwyd drwy asesiad llesiant cynhwysfawr a ddisgrifir yn adran 6 o’r adroddiad.

 

Darparodd y Prif Weithredwr fanylion am ddatblygiad y cynllun a oedd yn cynnwys proses ymgynghori gynhwysfawr gyda rhanddeiliaid a chymunedau ac a oedd yn cynnwys ystyriaeth o'r cynllun drafft gan y Cydbwyllgor Trosolwg a Chraffu ar 20 Ionawr 2023, yn rhan o'r ymarfer ymgynghori, cafodd drafft terfynol ei ystyried gan y Cabinet ar 27 Mawrth 2023.

 

Dywedodd y Prif Weithredwr fod gan y cynllun ddau brif amcan, sy'n deillio o'r asesiad lles, mae'r cyntaf yn ymwneud â chymdogaethau lleol iach a'r ail amcan yw cymdogaethau lleol cynaliadwy a gwydn. Ychwanegodd fod y cynllun llawn, sydd ynghlwm yn Atodiad A, yn gynllun strategol lefel uchel gyda chynlluniau cyflawni manwl a fydd yn cael eu datblygu dros y misoedd nesaf wrth i ddau Fwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus y rhanbarth gael eu huno yn un Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Cwm Taf Morgannwg, gyda strwythur cyflawni diwygiedig.

 

Dywedodd y Prif Weithredwr y bydd y Cyngor yn myfyrio ar yr amcanion hyn wrth iddo ddatblygu ei Gynllun Corfforaethol newydd ar gyfer 2024 ymlaen a dywedodd, yn amodol ar y Cyngor yn cymeradwyo’r cynllun, y byddai’r camau nesaf yn cynnwys gweithredu’r trefniadau llywodraethu newydd ar gyfer ardal ranbarthol newydd  Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus CTM, buddsoddi yn natblygiad y Bwrdd gyda’i aelodaeth newydd, datblygu cynllun cyflawni manylach, trefniadau ynghylch gwerthuso a mesurau canlyniadau a sicrhau bod ymgysylltu a chynnwys parhaus gyda rhanddeiliaid a chymunedau drwy gydol y broses.

 

Yn dilyn trafodaeth, roedd PENDERFYNWYD cymeradwyo Cynllun Llesiant Cwm Taf Morgannwg fel yr amlinellwyd yn Atodiad A yr adroddiad.

 

(Nodyn: Datganodd y Cynghorydd K Morgan fuddiant (gweler Cofnod Rhif 97) – “Rydw i’n gweithio i Fwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg”)

 

107.

Rhybudd o Gynnig pdf icon PDF 150 KB

11A Trafod Rhybudd o Gynnig sydd wedi’i gyflwyno yn enwau Cynghorwyr y Fwrdeistref SirolD Grehan, A Rogers, K Morgan, S Evans, A Ellis, H Gronow, D Wood, P Evans:

 

Mae’r Cyngor yma'n gwerthfawrogi'r materion sy'n cael eu codi mewn Rhybuddion o Gynnig pan fo'r prif ddiben yn ymwneud â dylanwadu ar ganlyniadau cadarnhaol er budd cyhoeddus ehangach ein trigolion, ond sy’n gyfrifoldeb ar sefydliadau eraill.

Er bod gan y Cyngor fecanwaith ar gyfer adrodd ar ganlyniadau Rhybuddion o Gynnig sy’n cyfeirio’r mater at bwyllgor neu swyddogion eraill, does dim mecanwaith i roi gwybod i'r Aelodau am gynnydd unrhyw gynigion sy'n gofyn am gyfleu negeseuon ar ran y Cyngor ar hyn o bryd.

Mae llawer o enghreifftiau o’r Cyngor yma'n penderfynu, yn drawsbleidiol, bod Arweinydd y Cyngor yn ysgrifennu at Weinidogion ar lefel Cymru a’r DU i leisio ein pryderon ar faterion sy’n effeithio ar ein hetholwyr,ond does dim mecanwaith ffurfiol ar waith i adrodd ar gynnydd neu ganlyniadau camau gweithredu o'r fath ar gyfer y cofnod cyhoeddus.

Enghraifft arall yw ein cais y byddai rhagor o deuluoedd sy’n byw mewn tlodi tanwydd ar eu hennill pe byddai’r Gweinidog perthnasol yng Nghymru yn ehangu meini prawf cymhwysedd rhaglen NYTH. Ym mis Mawrth 2022 penderfynwyd bod Arweinydd y Cyngor yn ysgrifennu at y Darparwyr Tai Cymdeithasol yn y sir i ofyn iddyn nhw roi o leiaf pythefnos o amser ychwanegol yn dilyn angladd anwyliaid er mwyn galluogi perthnasau i symud eu heiddo o'u cartrefi.  Mae llawer o enghreifftiau eraill, fel y bydd y cofnod yn ei ddangos. Dydyn ni yn Gyngor Llawn ddim wedi derbyn adborth ar unrhyw un o'r materion yma er mwyn asesu pa mor effeithiol oedden nhw o ran cyflawni'r canlyniadau dymunol.

Mae'r Cyngor yma, felly, yn penderfynu:

Gofyn i'r Swyddog Priodol gyflwyno adroddiad i'w drafod gan Bwyllgor Cyfansoddiad y Cyngor cyn Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol y Cyngor, sy'n ystyried opsiynau a mecanwaith ar gyfer adrodd yn ffurfiol ar ganlyniad ac effaith negeseuon ar ran y Cyngor a wnaed gan Aelodau yn dilyn mabwysiadu Rhybuddion o Gynnig.

 

 

 

11B Trafod Rhybudd o Gynnig sydd wedi’i gyflwyno yn enwau Cynghorwyr y Fwrdeistref SirolD Grehan, S Evans, K Morgan, A Rogers, A Ellis, H Gronow, D Wood, P Evans:

 

Mae'r Cyngor yma'n cydnabod bod lefelau tlodi plant yn Rhondda Cynon Taf yn parhau i gynyddu, a'u bod nhw'n debygol o waethygu o ganlyniad i'r argyfwng costau byw.

Mae'r Cyngor hefyd yn cydnabod y cysylltiad rhwng tlodi plant a chyrhaeddiad addysgol.

Mae'r Cyngor yn credu bod setliadau cyllideb Llywodraeth Leol sydd o dan wasgfa yn bryder, a bod perygl y byddan nhw’n effeithio ar ymyraethau wedi'u targedu i fynd i'r afael â thlodi plant a chyrhaeddiad addysgol.

Er gwaethaf targedau blaenorol wedi’u gosod gan Lywodraeth Cymru i ddileu tlodi plant erbyn 2020, mae tlodi plant yn Rhondda Cynon Taf yn parhau i gynyddu, gyda rhai adrannau etholiadol yn parhau i fod ymhlith y gwaethaf yn y DU. Er gwaethaf ymdrechion gorau staff addysgu yn RhCT, mae cysylltiad amlwg rhwng y tlodi  ...  view the full Agenda text for item 107.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

 

11A Trafod Rhybudd o Gynnig sydd wedi’i gyflwyno yn enwau Cynghorwyr y Fwrdeistref Sirol D Grehan, A Rogers, K Morgan, S Evans, A Ellis, H Gronow, D Wood, P Evans:

 

Mae’r Cyngor yma'n gwerthfawrogi'r materion sy'n cael eu codi mewn Rhybuddion o Gynnig pan fo'r prif ddiben yn ymwneud â dylanwadu ar ganlyniadau cadarnhaol er budd cyhoeddus ehangach ein trigolion, ond sy’n gyfrifoldeb ar sefydliadau eraill.

Er bod gan y Cyngor fecanwaith ar gyfer adrodd ar ganlyniadau Rhybuddion o Gynnig sy’n cyfeirio’r mater at bwyllgor neu swyddogion eraill, does dim mecanwaith i roi gwybod i'r Aelodau am gynnydd unrhyw gynigion sy'n gofyn am gyfleu negeseuon ar ran y Cyngor ar hyn o bryd.

Mae llawer o enghreifftiau o’r Cyngor yma'n penderfynu, yn drawsbleidiol, bod Arweinydd y Cyngor yn ysgrifennu at Weinidogion ar lefel Cymru a’r DU i leisio ein pryderon ar faterion sy’n effeithio ar ein hetholwyr, ond does dim mecanwaith ffurfiol ar waith i adrodd ar gynnydd neu ganlyniadau camau gweithredu o'r fath ar gyfer y cofnod cyhoeddus. 

Enghraifft arall yw ein cais y byddai rhagor o deuluoedd sy’n byw mewn tlodi tanwydd ar eu hennill pe byddai’r Gweinidog  perthnasol yng Nghymru yn ehangu meini prawf cymhwysedd rhaglen NYTH.  Ym mis Mawrth 2022 penderfynwyd bod Arweinydd y Cyngor yn ysgrifennu at y Darparwyr Tai Cymdeithasol yn y sir i ofyn iddyn nhw roi o leiaf pythefnos o amser ychwanegol yn dilyn angladd anwyliaid er mwyn galluogi perthnasau i symud eu heiddo o'u cartrefi. Mae llawer o enghreifftiau eraill, fel y bydd y cofnod yn ei ddangos.  Dydyn ni yn Gyngor Llawn ddim wedi derbyn adborth ar unrhyw un o'r materion yma er mwyn asesu pa mor effeithiol oedden nhw o ran cyflawni'r canlyniadau dymunol.

Mae'r Cyngor yma, felly, yn penderfynu:

Gofyn i'r Swyddog Priodol gyflwyno adroddiad i'w drafod gan Bwyllgor Cyfansoddiad y Cyngor cyn Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol y Cyngor, sy'n ystyried opsiynau a mecanwaith ar gyfer adrodd yn ffurfiol ar ganlyniad ac effaith negeseuon ar ran y Cyngor a wnaed gan Aelodau yn dilyn mabwysiadu Rhybuddion o Gynnig.

Yn dilyn trafodaeth, PENDERFYNWYD mabwysiadu'r Rhybudd o Gynnig.

 

 

 

11B Trafod Rhybudd o Gynnig sydd wedi’i gyflwyno yn enwau Cynghorwyr y Fwrdeistref SirolD Grehan, S Evans, K Morgan, A Rogers, A Ellis, H Gronow, D Wood, P Evans

 

Mae'r Cyngor yma'n cydnabod bod lefelau tlodi plant yn Rhondda Cynon Taf yn parhau i gynyddu, a'u bod nhw'n debygol o waethygu o ganlyniad i'r argyfwng costau byw.

Mae'r Cyngor hefyd yn cydnabod y cysylltiad rhwng tlodi plant a chyrhaeddiad addysgol.

Mae'r Cyngor yn credu bod setliadau cyllideb Llywodraeth Leol sydd o dan wasgfa yn bryder, a bod perygl y byddan nhw'n effeithio ar ymyraethau wedi'u targedu i fynd i'r afael â thlodi plant a chyrhaeddiad addysgol.

Er gwaethaf targedau blaenorol wedi'u gosod gan Lywodraeth Cymru i ddileu tlodi plant erbyn 2020, mae tlodi plant yn Rhondda Cynon Taf yn parhau i gynyddu, gyda rhai adrannau etholiadol yn parhau i fod ymhlith y gwaethaf yn y DU.  Er gwaethaf ymdrechion gorau staff addysgu  ...  view the full Cofnodion text for item 107.