Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Hybrid

Cyswllt: Julia Nicholls -Gwasanaethau Democrataidd  01443 424098

Nodyn: Extraordinary Council Meeting 

Cyfryngau

Eitemau
Rhif eitem

60.

Croeso ac Ymddiheuriadau

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Croesawodd y Llywydd bawb i gyfarfod arbennig y Cyngor a chafwyd ymddiheuriad am absenoldeb gan Gynghorwyr y Fwrdeistref Sirol J Cook, J Elliott, R Evans, A S Fox, S Hickman, G Hopkins, G O Jones, M Maohoub, S Powderhill, A Roberts, L Tomkinson, J Turner, M Webber, G Williams, Sera Evans, D Wood, M Powell, W Owen a P Binning.

 

61.

Datgan Buddiant

Derbyn datganiadau o fuddiannau personol gan Aelodau yn unol â'r Cod Ymddygiad.

 

1.     Mae gofyn i Aelodau ddatgan rhif a phwnc yr agendwm y mae eu buddiant yn ymwneud ag e a mynegi natur y buddiant personol hwnnw; a 

2.     Lle bo Aelodau'n ymneilltuo o'r cyfarfod o ganlyniad i ddatgelu buddiant sy'n rhagfarnu, rhaid iddyn nhw roi gwybod i'r Cadeirydd pan fyddan nhw'n gadael.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Yn unol â Chod Ymddygiad y Cyngor, ni wnaethpwyd unrhyw ddatganiadau mewn perthynas â'r Agenda.

 

62.

SETLIAD LLYWODRAETH LEOL DROS DRO 2023/24

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

 

Derbyn diweddariad llafar gan y Cyfarwyddwr Cyllid a Gwasanaethau Digidol mewn perthynas â Setliad Llywodraeth Leol dros dro 2023/24 (ar ôl iddo gael ei gyhoeddi gan Lywodraeth Cymru ar 14 Rhagfyr 2022), gan ddefnyddio cyflwyniad Powerpoint sy'n cynnwys y penawdau canlynol:

 

Ø  Cynllun Ariannol Tymor Canolig ac Adolygiad o'r Gofynion Cyllidebol

Ø  Setliad Llywodraeth Leol Dros Dro 2023/24

Ø  Adnoddau sydd ar gael yn y Setliad Dros Dro

Ø  Bwlch yn y Gyllideb yn y Setliad Dros Dro

Ø  Ystyriaethau/ Strategaeth y Gyllideb

Ø  Amserlen Amlinellol (Drafft)

Ø  Casgliad

 

Roedd y Cyfarwyddwr wedi atgoffa Aelodau bod y bwlch yn y gyllideb wedi'i gadarnhau fel £36.475miliwn yn rhan o gyflwyniad am y Cynllun Ariannol Tymor Canolig yn ystod cyfarfod y Cyngor Llawn a gafodd ei gynnal ar 28 Medi 2022.  Ar y pryd, nododd y Cyfarwyddwr fod y Cyngor yn rhagdybio setliad o 3.5% gan Lywodraeth Cymru, roedd hyn yn cyd-fynd â'r gyllideb ddangosol a ddarparodd Llywodraeth Cymru i'r Cyngor ochr yn ochr â'r setliad ar gyfer y gyllideb eleni.

Rhoddodd y Cyfarwyddwr wybod bod gofynion y gyllideb wedi cael eu hadolygu'n barhaus ond roedd nifer o ddiweddariadau pellach wedi arwain at gynnydd net o ran goblygiadau’r Cyngor o ran y gyllideb. Mae'r diweddariad yn cynnwys hysbysiad dros dro y bydd ardoll Gwasanaeth Tân De Cymru yn cynyddu gan 8.07% ar gyfer RhCT (gofyniad cyllidebol ychwanegol gwerth £530,000), ailasesiad o'r gofynion cyllideb sylfaenol ar gyfer niferoedd ysgolion arbennig, costau cyfalaf a chyllid Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY), gofal cymdeithasol yn seiliedig ar alw a gofynion yswiriant amcangyfrifedig diwygiedig a gofynion cyllidebol ychwanegol gwerth £1.454miliwn.

 

Rhoddodd y Cyfarwyddwr wybod bod y Cyngor hefyd wedi cynnwys y cynnydd o ran cost y cyflog byw gwirioneddol (£10.90), yn dilyn cyhoeddiad Real Living Wage Foundation, gan ymrwymo i ddarparu'r cyflog byw gwirioneddol i'r sector gofal, gyda chost o £3.6miliwn i'r Cyngor. Mae'r Cyngor hefyd wedi adlewyrchu ar ei ragdybiaethau o ran y dyfarniad cyflog ac wedi’u diweddaru i adlewyrchu’r ailbrisiad o bensiynau (cynnydd net o £6.76miliwn). Bydd costau ynni'r Cyngor yn cynyddu'n sylweddol hefyd, o £6miliwn i oddeutu £20miliwn ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf (sef gofyniad cyllidebol ychwanegol gwerth £7miliwn). Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr y bydd effaith net y newidiadau yma i'w ofynion cyllidebol yn cynyddu'r bwlch yn y gyllideb o £36miliwn i £52miliwn.

 

Rhannodd y Cyfarwyddwr y penawdau o’r Setliad Llywodraeth Leol dros dro, sef -

       Cynnydd cyfartalog gwerth 7.9% ledled Cymru

       Cynnydd gwerth 6.6% ar gyfer RhCT (o’i gymharu â’r cynnydd dangosol gwerth 3.5% a ddarparwyd yn y setliad ar gyfer y flwyddyn gyfredol)

       Lefelau setliad yn amrywio o 6.5% i 9.3%

       Cynnydd dangosol gwerth 3.1% ar gyfer 2024/25 (Cymru gyfan)

       Cyllid Cyfalaf – Cynnydd gwerth £30miliwn ar gyfer Cymru, yn unol â’r hyn a gafodd ei gyhoeddi y flwyddyn ddiwethaf (+£2.287miliwn ar gyfer RhCT yn dilyn gostyngiad o £2.165miliwn y flwyddyn yma)

       Grantiau penodol gwerth £1.3biliwn ar gyfer cyllid refeniw a chyllid cyfalaf gwerth £925miliwn (ar lefel Cymru gyfan yn unig)

       Mae cyllid ychwanegol gwerth £13.89miliwn  ...  view the full Cofnodion text for item 62.