Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Hybrid

Cyswllt: Julia Nicholls -Gwasanaethau Democrataidd  01443 424098

Cyfryngau

Eitemau
Rhif eitem

45.

Ymddiheuriadau

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb oddi wrth Gynghorwyr y Fwrdeistref Sirol P Binning, S J Davies, A Dennis, J Elliott, D Evans, Sera Evans, D Grehan, H Gronow, K Morgan, M Norris, D Owen-Jones, D Parkin, S Powderhill, M Powell, W Treeby, J Turner, D Williams, T Williams ac R Yeo.

 

46.

Datgan Buddiant

Derbyn datganiadau o fuddiannau personol gan Aelodau yn unol â'r Cod Ymddygiad.

 

1.     Mae gofyn i Aelodau ddatgan rhif a phwnc yr agendwm y mae eu buddiant yn ymwneud ag e a mynegi natur y buddiant personol hwnnw; a 

2.     Lle bo Aelodau'n ymneilltuo o'r cyfarfod o ganlyniad i ddatgelu buddiant sy'n rhagfarnu, rhaid iddyn nhw roi gwybod i'r Cadeirydd pan fyddan nhw'n gadael.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Yn unol â Chod Ymddygiad y Cyngor, cafodd y datganiadau o fuddiant canlynol eu gwneud yngl?n â'r agenda:

 

Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol S Morgans “Mae fy merch yn nyrs yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg”

 

Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol G Caple – “Mae fy mab yn feddyg ac yn cael ei gyflogi gan y Bwrdd Iechyd Lleol”

 

Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol S. Evans – “Rwy'n gweithio i Fwrdd Iechyd Cwm Taf”.

 

Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol K Johnson – “Mae fy ngwraig yn nyrs o fewn Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg”

 

Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol S Trask - “Mae fy ngwraig wedi'i chyflogi gan GIG Cymru"

 

Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol M Ashford – “Mae fy ngwraig yn gweithio yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg”

 

Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol R Lewis - “Mae gen i aelod agos o’r teulu sydd

yn gweithio i'r GIG."

 

Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol C Middle – “Mae fy chwaer yn gweithio i Fwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg”

 

Noder: Cafodd y buddiant canlynol ei ddatgan yn ddiweddarach yn ystod y cyfarfod:

 

Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol R Yeo – “Mae fy ngwraig yn gweithio i'r GIG”

 

 

47.

BWRDD IECHYD PRIFYSGOL CWM TAF MORGANNWG

Derbyn cynrychiolwyr gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, gan roi cyfle i'r Aelodau drafod yr wybodaeth ddiweddaraf o ran pwysau'r Gaeaf a materion strategol eraill.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Llywydd gynrychiolwyr o Fwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg, a dywedodd wrth yr Aelodau mai dim ond yr eitemau ar yr agenda a fyddai'n cael eu trafod. Fe aeth ati i gydnabod pryderon yr Aelodau ynghylch y newidiadau gyda cherbydau ymateb cyflym ond nododd mai materion i Ymddiriedolaeth Ambiwlans Cymru yw’r rhain. Dywedodd y Llywydd y dylid cyfeirio unrhyw gwestiynau pellach at Wasanaethau Democrataidd y Cyngor, a fyddai wedyn yn cysylltu â Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf i gael ymateb.

Cyflwynodd Cadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, Mr Emrys Elias ei hun a phum aelod o’r Garfan Weithredol, Mr P Mears, Prif Weithredwr, Suzanne Hardacre, Cyfarwyddwr Bydwreigiaeth, Gynaecoleg ac Iechyd Rhywiol Integredig, Sarah Bradley a David Miller, Arweinydd Gweithrediadau ac Arweinydd Meddygol ar gyfer Gofal Sylfaenol a Chymunedol, a Mr Gethin Hughes, Prif Swyddog Gweithredu.

 

Trwy gymorth sleidiau Powerpoint cyflwynodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf, drosolwg o faterion allweddol o dan y penawdau canlynol:

 

  • Y Newyddion Diweddaraf am Wasanaethau Mamolaeth a Newyddenedigol
  • Y Newyddion Diweddaraf am Ofal Sylfaenol
  • Pwysau'r Gaeaf

 

Diolchodd Arweinydd y Cyngor i aelodau Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg am eu cyflwyniad a'u presenoldeb rhithwir yng nghyfarfod y Cyngor.

Cyfeiriodd yr Arweinydd at y Newyddion Diweddaraf am Wasanaethau Mamolaeth a Newyddenedigol ac ychwanegodd ei fod wedi gwerthfawrogi ei drafodaethau niferus a’i sesiynau briffio rheolaidd gyda Mick Giannassi, Cadeirydd y Panel Annibynnol ar gyfer Goruchwylio Mamolaeth, ar yr argymhellion, y cynnydd a wnaed ac adborth cleifion. Holodd a oedd y gostyngiadau blaenorol mewn lefelau staffio bellach wedi gwella? Cyfeiriodd hefyd at y tri adroddiad gan Swyddfa Archwilio Cymru ar y methiannau i gyflawni targedau ymateb y Bwrdd Iechyd o fewn yr amserlenni gofynnol ac ansawdd yr ymatebion, a gofynnodd yr Arweinydd am ddiweddariad ar y mater yma. Gofynnodd hefyd am ddiweddariad pellach gan Fwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg ar y gwasanaethau Newyddenedigol yn dilyn yr adolygiad Bydwreigiaeth.

Cododd yr Arweinydd ymholiad ynghylch Gwasanaethau Meddygon Teulu ac yn enwedig yr hyn sy'n ymddangos yn loteri cod post ledled y Fwrdeistref Sirol mewn perthynas ag apwyntiadau meddygon teulu. Gofynnodd yr Arweinydd am eglurhad ynghylch sut mae'r Bwrdd Iechyd yn cefnogi meddygfeydd teulu gyda chostau Meddygon locwm. Aeth ati i atgoffa'r Aelodau fod y Cyngor wedi parhau i gefnogi'r Bwrdd Iechyd i hyrwyddo ei raglen brechlyn ffliw a Covid tra'n cefnogi ei staff ei hun gyda'r brechlyn ffliw. Ychwanegodd fod y berthynas waith agos rhwng Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg a'r Cyngor wedi parhau, gyda chyfarfodydd rheolaidd a fydd yn helpu'r naill gorff a'r llall i fynd i'r afael â phwysau'r gaeaf gyda'i gilydd.

Roedd yr Arweinydd yn falch o weld bod yr Uned Mân Anafiadau yn Ysbyty Cwm Cynon wedi ailagor. Aeth ati i gydnabod y gwaith cadarnhaol y mae’r Bwrdd Iechyd yn ei wneud i fynd i’r afael â’r ôl-groniad o lawdriniaethau dewisol a chanmolodd ei ymdrechion i fynd i’r afael â’r broblem yma.

Ymatebodd Mr Paul Mears i'r ymholiadau a godwyd gan yr Arweinydd megis y lefelau staffio diogel yn y Gwasanaethau Mamolaeth, gan  ...  view the full Cofnodion text for item 47.