Lleoliad: Siambr y Cyngor, Y Pafiliynau, Parc Hen Lofa'r Cambrian, Cwm Clydach, Tonypandy, CF40 2XX
Cyswllt: Julia Nicholls - Gwasanaethau Democrataidd 01443 424098
Rhif | eitem | ||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Croeso ac Ymddiheuriadau Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i'r cyfarfod a derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan Gynghorwyr y Fwrdeistref Sirol P Binning, Sera Evans, G Hopkins a S Powderhill.
|
|||||||||
DATGAN BUDDIANT Derbyn datganiadau o fuddiannau personol gan Aelodau yn unol â'r Cod Ymddygiad.
1. Mae gofyn i Aelodau ddatgan rhif a phwnc yr agendwm y mae eu buddiant yn ymwneud ag e a mynegi natur y buddiant personol hwnnw; a 2. Lle bo Aelodau'n ymneilltuo o'r cyfarfod o ganlyniad i ddatgelu buddiant sy'n rhagfarnu, rhaid iddyn nhw roi gwybod i'r Cadeirydd pan fyddan nhw'n gadael.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Yn unol â Chod Ymddygiad y Cyngor, cafodd y datganiadau o fuddiant canlynol eu gwneud yngl?n â'r agenda a chafodd datganiadau o fuddiant eu gwneud yngl?n ag eitemau 5 ac 9 a 10B ar yr agenda yn ddiweddarach yn y cyfarfod (Cofnodion 84, 89 a 90 (B)):
Eitem 8 ar yr agenda – Penderfyniad Treth y Cyngor 2023/24
Y Cynghorydd L Tomkinson – “Rydw i'n Gynghorydd Cymuned ar Gyngor Tref Pontypridd.” Y Cynghorydd M Powell – “Rydw i'n Gynghorydd Cymuned ar Gyngor Tref Pontypridd.” Y Cynghorydd S Trask – “Rydw i’n Gynghorydd Cymuned ar Gyngor Cymuned Llanilltud Faerdref”
Y Cynghorydd B Harris – “Rydw i’n Aelod o Banel Comisiynydd Heddlu a Throsedd De Cymru.”
Y Cynghorydd W Owen – “Rydw i’n Gynghorydd Cymuned ar Gyngor Cymuned Pont-y-clun”
Y Cynghorydd J Brencher – “Rydw i'n Gynghorydd Cymuned ar Gyngor Tref Pontypridd.”
Y Cynghorydd S Bradwick – “Fi yw Cadeirydd Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru”
Y Cynghorydd G Holmes – “ Rydw i'n Gynghorydd Cymuned ar Gyngor Cymuned Llantrisant ac yn aelod o Wasanaeth Tân ac Achub De Cymru”
Y Cynghorydd L Addiscott – Personol – “Rydw i'n Aelod o Banel Heddlu a Throsedd De Cymru.” Y Cynghorydd J Bonetto – “Rydw i’n Gynghorydd Cymuned ar Gyngor Cymuned Ffynnon Taf a Nantgarw” Y Cynghorydd G Stacey – “Rydw i’n Gynghorydd Cymuned ar Gyngor Cymuned Llanilltud Faerdref” Y Cynghorydd D Wood – “Rydw i'n Gynghorydd Cymuned ar Gyngor Tref Pontypridd.” Y Cynghorydd D Grehan – “Rydw i'n Gynghorydd Cymuned ar Gyngor Cymuned Tonyrefail” Y Cynghorydd K Johnson – “Rydw i’n Gynghorydd Cymuned ar Gyngor Cymuned Llanilltud Faerdref” Y Cynghorydd P Evans – “Rydw i'n Gynghorydd Cymuned ar Gyngor Cymuned Ynys-y-bwl a Choed y Cwm” Y Cynghorydd G Jones – “Mae gen i berthynas agos sy’n cael ei gyflogi gan Heddlu De Cymru” Y Cynghorydd J Turner – “Rydw i’n Gynghorydd Cymuned ar Gyngor Cymuned Llanharan” Y Cynghorydd H Gronow – “Rydw i'n Gynghorydd Cymuned ar Gyngor Tref Pontypridd.” Y Cynghorydd C Lisles – “Rydw i'n Gynghorydd Cymuned ar Gyngor Tref Pontypridd.” Y Cynghorydd A Ellis - “Rydw i'n Gynghorydd Cymuned ar Gyngor Cymuned Ynys-y-bwl a Choed y Cwm” Y Cynghorydd D Owen-Jones - “Rydw i'n Gynghorydd Cymuned ar Gyngor Cymuned Tonyrefail” Y Cynghorydd J Smith – “Mae fy mhartner yn gweithio i Wasanaeth Tân ac Achub De Cymru” Y Cynghorydd A Roberts MBE – “Rydw i’n aelod o Wasanaeth Tân ac Achub De Cymru”
Y Cynghorydd D Evans – “Rydw i’n Gynghorydd Cymuned ar Gyngor Cymuned Llanharan”
Y Cynghorydd G Warren – “Rydw i’n Gynghorydd Cymuned ar Gyngor Cymuned Llanilltud Faerdref”
Y Cynghorydd R Bevan – “Mae gen i aelod o’r teulu sy’n cael ei gyflogi gan Heddlu De Cymru”
Y Cynghorydd B Stephens – “Rydw i’n Gynghorydd Cymuned ar Gyngor Cymuned Llanharan”
Cafodd y datganiadau canlynol eu gwneud yn ddiweddarach yn y cyfarfod (cofnodion 84, 88 a 90B) Eitem 5 ar yr agenda – Cwestiynau'r Aelodau Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol J Edwards - “Cyfeirir at fy nghyflogwr, ... view the full Cofnodion text for item 81. |
|||||||||
Cadarnhau cofnodion o gyfarfodydd y Cyngor a gynhaliwyd ar 15 Rhagfyr 2022 a 18 Ionawr 2023 yn rhai cywir.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD cymeradwyo cofnodion y cyfarfodydd hybrid o'r Cyngor a gynhaliwyd ar 15 Rhagfyr 2022 ac 18 Ionawr 2023 yn rhai cywir.
|
|||||||||
Cyhoeddiadau Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cafodd y cyhoeddiadau canlynol eu gwneud:
|
|||||||||
Cwestiynau Gan y Cynghorwyr PDF 305 KB Derbyn cwestiynau'r Aelodau yn unol â Rheol 9.2 o Weithdrefn y Cyngor.
(Nodwch: Caniateir hyd at 20 munud ar gyfer cwestiynau.)
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion:
|
|||||||||
Rhaglen Waith Y Cyngor 2022-2023 Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth – Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu ddiweddariad mewn perthynas â Rhaglen Waith y Cyngor sydd wedi'i mabwysiadu a'i chyhoeddi. Nododd, yn unol â chyfarwyddyd y Cyngor, y bydd cyfarfod arbennig o'r Cyngor yn cael ei gynnal ar 29 Mawrth am 4pm er mwyn croesawu Prif Weithredwr Gwasanaeth Ambiwlans Cymru a'r Cyfarwyddwr Partneriaethau ac Ymgysylltu. Ychwanegodd y bydd cyfarfod y Cyngor Llawn ar 29 Mawrth am 5pm yn cynnwys Trafodaeth ar Sefyllfa'r Fwrdeistref Sirol (sef Dadl yr Arweinydd). Esboniodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth y bydd yr Arweinydd, yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor, yn penderfynu ar drefniadau ei ddadl. Bydd manylion y cyfarfod yn cael eu hanfon at bob Aelod maes o law.
Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth na fydd cyfarfod y Cyngor yn cael ei gynnal ym mis Ebrill cyn i Gyfarfod Cyffredinol Blynyddol y Cyngor ym mis Mai.
|
|||||||||
Pleidlais Sengl Drosglwyddadwy PDF 139 KB Derbyn adroddiad ar y cyd y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cyfreithiol a'r Cyfarwyddwr Gwasanaeth – Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth – Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu ei adroddiad ar y cyd â Chyfarwyddwr y Gwasanaethau Cyfreithiol a amlinellodd drefniadau etholiadau llywodraeth leol yn y dyfodol, a hynny mewn ymateb i'r pwerau sydd newydd ddechrau i awdurdodau lleol newid eu system bleidleisio ar gyfer etholiadau lleol i'r Bleidlais Sengl Drosglwyddadwy. Ceisiodd gyfarwyddyd y Cyngor mewn perthynas â threfniadau pleidleisio yn y dyfodol.
Nododd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth y cafodd y mecanwaith yma ei gyflwyno'n rhan o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 ('y Ddeddf') er mwyn i awdurdodau lleol newid eu system bleidleisio'n rhan o agenda diwygio democratiaeth Llywodraeth Cymru. Bydd cynghorau yng Nghymru yn parhau i ddefnyddio'r system mwyafrif syml, sef y system 'cyntaf i'r felin', oni bai eu bod nhw'n penderfynu newid eu system bleidleisio i'r Bleidlais Sengl Drosglwyddadwy.
Nododd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth os bydd Aelodau'n dymuno diwygio'r trefniadau pleidleisio yn yr Etholiadau Llywodraeth Leol ym mis Mai 2027, bydd raid dilyn proses benodol sy'n cynnwys gwaith ymgysylltu ac ymgynghori sylweddol â'r cyhoedd. Ychwanegodd fod y canllawiau wedi cael eu cyhoeddi'n ddiweddar gan Lywodraeth Cymru. Er mwyn gwneud penderfyniad terfynol, byddai gofyn am fwyafrif o ddwy ran o dair o'r Cyngor Llawn (50 neu ragor o Aelodau'r Cyngor yma). Byddai angen penderfynu mewn cyfarfod arbennig o'r Cyngor gyda rhybudd ysgrifenedig o leiaf 21 diwrnod cyn y cyfarfod, a byddai angen i'r penderfyniad gael ei basio erbyn 15 Tachwedd 2024.
Rhoddodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth wybod y byddai gofyn i Gynghorau sydd am newid i'r system Pleidlais Sengl Drosglwyddadwy ddefnyddio'r system am ddwy rownd o etholiadau cyffredin cyn penderfynu dychwelyd i'w system bleidleisio flaenorol, pe bydden nhw'n dymuno gwneud hynny. Gorffennodd trwy ddweud bod gofyniad i roi gwybod i Weinidogion Cymru a'r Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol os bydd unrhyw newidiadau i'r system bleidleisio.
Yn dilyn trafodaeth fanwl ar yr opsiwn i newid y system bleidleisio ar gyfer etholiadau lleol i'r Bleidlais Sengl Drosglwyddadwy, PENDERFYNWYD:
(Nodwch: Roedd y Cynghorwyr canlynol am gofnodi eu bod nhw wedi pleidleisio nad yw’r Cyngor yn newid ei system bleidleisio ar gyfer etholiadau lleol i'r Bleidlais Sengl Drosglwyddadwy a'i fod yn cadw ei system 'y cyntaf i'r felin' bresennol: Y Cynghorwyr C Lisles a D Williams.
Roedd y Cynghorwyr canlynol am gofnodi eu bod nhw wedi pleidleisio o blaid yr opsiwn i newid y system bleidleisio ar gyfer etholiadau lleol i'r Bleidlais Sengl Drosglwyddadwy, gydag ymgynghoriad yn unol â gofynion Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 ar gynnig i newid system bleidleisio'r Cyngor i'r Bleidlais Sengl Drosglwyddadwy: Y Cynghorwyr K Morgan, A Rogers, A Ellis, D Wood, K Johnson, D Grehan, H Gronow, P Evans, M Powell a S Trask).
|
|||||||||
STRATEGAETH CYLLIDEB REFENIW 2023/24 PDF 262 KB Derbyn adroddiad y DirprwyBrif Weithredwr a Chyfarwyddwr Cyfadran - Cyllid, Gwasanaethau Digidol a Gwasanaethau Rheng Flaen
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd Cyfarwyddwr y Gyfadran Cyllid a Gwasanaethau Digidol a Rheng Flaen y Strategaeth Gyllideb a argymhellir gan y Cabinet ar gyfer blwyddyn ariannol 2023/24.
Esboniodd y Cyfarwyddwr Cyfadran fod y strategaeth wedi bod yn destun ail gam ymgynghori a gafodd ei gynnal rhwng 24 Ionawr a 6 Chwefror. Roedd y gwaith ymgysylltu yma'n cynnwys Gr?p Cynghori Pobl H?n, Pwyllgor Trosolwg a Chraffu y Cyngor, Fforwm Cyllideb Ysgolion a'r Cydbwyllgor Ymgynghori. Mae adborth proses ymgynghori cam dau wedi'i atodi i'r adroddiad.
Rhoddodd y Cyfarwyddwr Cyfadran wybod bod y strategaeth wedi'i seilio ar bwysau blwyddyn gyfredol rhagamcanol, sef dros £21 miliwn, a bwlch yn y gyllideb, sef £38.3 miliwn, fel y nodwyd yng nghyfarfod y Cyngor ar 15 Rhagfyr 2022. Roedd y setliad llywodraeth leol terfynol a dderbyniwyd gan Lywodraeth Cymru ar 28 Chwefror 2023 yn cynnwys trosglwyddo grant pensiwn y Gwasanaeth Tân i mewn, oedd wedi'i ddisgwyl, gyda diweddariad pellach yn arwain at £10k ychwanegol o'i gymharu â'r setliad dros dro. Ychwanegodd fod y setliad terfynol wedi cadarnhau cynnydd yn y cyllid ar gyfer y Cyngor yma (6.6%) y flwyddyn nesaf, o'i gymharu â chyfartaledd Cymru (7.9%). Darparodd lefel setliad Cymru gyfan ddangosol ar gyfer blwyddyn ariannol 2024/25, sef 3.1%.
Rhoddodd y Cyfarwyddwr Cyfadran wybod am benawdau allweddol y strategaeth gyllideb:
Ø Cynnydd yn nhreth y cyngor (3.9%) fydd yn cyfrannu £1.8 miliwn at y bwlch yn y gyllideb, o'i gymharu â'r model yn y cynllun ariannol tymor canolig. Mae'r cynnydd yma'n cyfateb i gynnydd o 78c yr wythnos ar gyfer rhywun sy'n byw mewn eiddo Band A, a £1.17 ar gyfer rhywun sy'n byw mewn eiddo Band D;
Ø Cynnydd arfaethedig yng nghyllideb ysgolion, sef £13.7 miliwn neu 7.9%;
Ø Mesurau ac arbedion effeithlonrwydd lleihau'r gyllideb gwerth £16 miliwn sydd ag ychydig neu ddim effaith ar ein gwasanaethau rheng flaen;
Ø Arbedion gwerth £7.3 miliwn o ganlyniad i benderfyniadau sydd eisoes wedi'u gwneud gan y Cabinet a'r Cyngor fel y bo'n briodol, sy'n ymwneud â gwasanaethau gwastraff, prydau yn y gymuned, darpariaeth meithrinfeydd y Cyngor, cyfalafu a ffïoedd a thaliadau o ganlyniad i gyflwyno premiwm treth y cyngor a gafodd ei gymeradwyo gan y Cyngor Llawn yn mis Ionawr;
Ø Cyfraniad arfaethedig o £5 miliwn o gronfeydd wrth gefn tuag at y cynnydd yng nghostau ynni, sy'n golygu mai'r bwlch sy'n weddill yn y gyllideb yw £4.105 miliwn. Mae modd mantoli hyn trwy gyfraniad o gronfeydd cyllid pontio wrth gefn er mwyn darparu cyllideb sy'n fantoledig ac yn gadarn ar gyfer y flwyddyn nesaf.
Gorffennodd y Cyfarwyddwr Cyfadran trwy ddweud ei bod yn bwysig i'r Cyngor ganolbwyntio ar gynllunio tymor canolig gyda'r lefel setliad ddangosol mewn blynyddoedd dilynol ar 3.1%.
Yn dilyn trafodaeth a sylwadau gan Arweinwyr y Grwpiau ac Aelodau eraill, cynhaliwyd pleidlais a PHENDERFYNWYD:
|
|||||||||
PENDERFYNIAD TRETH Y CYNGOR 2023/24 PDF 222 KB Derbyn adroddiad y DirprwyBrif Weithredwr a Chyfarwyddwr Cyfadran - Cyllid, Gwasanaethau Digidol a Gwasanaethau Rheng Flaen.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Yn unol â'r strategaeth gyllideb, cyflwynodd Cyfarwyddwr y Gyfadran Cyllid a Gwasanaethau Digidol a Rheng Flaen yr adroddiad sy'n cynrychioli'r gofyniad ffurfiol a chyfreithiol i'r Cyngor gytuno ar benderfyniad treth y cyngor. Mae'n cynnwys manylion treth y cyngor sydd i'w godi ar gyfer Cynghorau Cymuned a Chomisiynydd yr Heddlu a Throseddu mewn perthynas â Chyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf.
Nododd y Cyfarwyddwr Cyfadran mai lefel y Cyngor o ran treth y Cyngor y flwyddyn nesaf ar gyfer eiddo Band D fydd £1,614.11, sef cynnydd o 3.9%. Treth y cyngor Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu fydd £324.47, sef cynnydd o 7.4%. Cadarnhaodd fod y Cynghorau Cymuned wedi rhoi gwybod i'r Cyngor am eu lefelau taliadau ar gyfer y flwyddyn nesaf sydd wedi'u nodi yn Atodiad 1 yr adroddiad.
I gloi, rhoddodd y Cyfarwyddwr Cyfadran wybod bod ganddo ddyletswydd i roi gwybod i'r Cyngor am gadernid amcangyfrifon a digonolrwydd y cronfeydd ariannol arfaethedig sydd wedi'u nodi yn adran 9 yr adroddiad.
Yn dilyn trafod yr adroddiad, ac yn unol â'r Gyllideb Refeniw y cytunwyd arni'n flaenorol, PENDERFYNWYD:
i) Nodi lefel y praesept gan Gomisiynydd yr Heddlu a Throseddu ar gyfer De Cymru;
ii) Nodi lefel Praeseptau y Cyngor Cymuned, fel sydd wedi'i nodi yn Atodiad 1;
iii) Pasio'r penderfyniadau ffurfiol Treth y Cyngor ar gyfer y flwyddyn ariannol sy'n dod i ben ar 31 Mawrth, 2024, fel sydd i'w gweld yn Atodiad 2;
Nodi sylwadau Cyfarwyddwr y Gyfadran Cyllid a Gwasanaethau Digidol a Rheng Flaen am gadernid yr amcangyfrifon a digonolrwydd cronfeydd ariannol arfaethedig sydd i'w gweld ym mharagraff 9.2. |
|||||||||
RHAGLEN GYFALAF 2023/24 – 2025/26 PDF 229 KB Derbyn adroddiad y DirprwyBrif Weithredwr a Chyfarwyddwr Cyfadran - Cyllid, Gwasanaethau Digidol a Gwasanaethau Rheng Flaen.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd Cyfarwyddwr y Gyfadran Cyllid a Gwasanaethau Digidol a Rheng Flaen yr adroddiad sy'n nodi Rhaglen Gyfalaf tair blynedd arfaethedig y Cyngor ar gyfer 2023/24 tan 2025/26 er mwyn i'r Cyngor ei thrafod, a hynny'n dilyn derbyn y setliad llywodraeth leol terfynol ar gyfer 2023/24.
Dywedodd y Cyfarwyddwr Cyfadran fod hyn yn cynrychioli rhaglen fuddsoddi gwerth £187 miliwn dros y tair blynedd nesaf sy'n cynnwys buddsoddiad ychwanegol gwerth £7.1 miliwn ar ben y rhaglen barhaus, rhaglen ar y cyd gwerth £42 miliwn, grantiau penodol gwerth £73 miliwn a chyllid y Cyngor gwerth £31 miliwn tuag at bob blaenoriaeth buddsoddi. Cyfeiriodd y Cyfarwyddwr Cyfadran at y buddsoddiad ychwanegol wedi'i dargedu gwerth £7.1 miliwn sydd wedi'i gynnig ar gyfer meysydd cynnal a chadw priffyrdd, ffyrdd heb eu mabwysiadu, strwythurau priffyrdd, draenio, strwythurau parciau, parciau a mannau gwyrdd, meysydd chwarae ac ardaloedd gemau aml-ddefnydd, fel sydd wedi'i nodi ym mharagraff 2 yr adroddiad.
Gorffennodd y Cyfarwyddwr Cyfadran trwy dynnu sylw Aelodau at y rhaglen lawn yn adran 7 yr adroddiad gyda'r manylion i'w gweld yn Atodiadau 3A-3D a'r amserlen ariannau lawn yn Atodiad 3E.
Yn dilyn trafodaeth lle atebodd y Cyfarwyddwr Cyfadran nifer o gwestiynau, PENDERFYNWYD:
· Benthyca darbodus i gefnogi Cynlluniau Cymunedau Dysgu Cynaliadwy (Ysgolion yr 21ain Ganrif yn flaenorol) a Chynlluniau Gwella Priffyrdd; · Grantiau cyfalaf ar gyfer cynlluniau penodol; · Cyfraniadau trydydd parti; · Blaenoriaethau buddsoddi sydd wedi'u nodi ym mharagraff 6.2.
(Nodwch: Cyn trafod yr eitem, datganodd y Cynghorwyr S Trask a K Johnson fuddiant personol:
Y Cynghorydd S Trask – “Rydw i'n Llywodraethwr Ysgol Gynradd Maes-y-bryn, sy'n derbyn cyllid Ysgolion yr 21ain Ganrif”
Y Cynghorydd K Johnson - “Rydw i'n Llywodraethwr Ysgol Gynradd Maes-y-bryn, sy'n derbyn cyllid Ysgolion yr 21ain Ganrif”).
|
|||||||||
Rhybudd o Gynnig 10A Trafod Rhybudd o Gynnig sydd wedi’i gyflwyno yn enwau Cynghorwyr y Fwrdeistref Sirol: J. Edwards, L. A. Tomkinson, L. Addiscott, M. D. Ashford, J. Barton, D. R. Bevan, J. Bonetto, S. Bradwick, J. Brencher, G. Caple, J. Cook, A. Crimmings, S. J. Davies, R. Davis, A. J. Dennis, V. Dunn, E. L. Dunning, J. A. Elliott, L. Ellis, S. Emanuel, R. Evans, A. S. Fox, B. Harris, S. Hickman, G. Holmes, G. Hopkins, W. Hughes, G. Jones, G. O. Jones, R. R. Lewis, W. Lewis, C. Leyshon, M. Maohoub, C. Middle, A. Morgan, N. H. Morgan, S. Morgans, M. A. Norris, D. Owen-Jones, D. Parkin, S. Powderhill, C. Preedy, S. Rees, A. Roberts, J. Smith, G. Stacey, W. Treeby, J. Turner, G. L. Warren, K. Webb, M. Webber, D. Williams, G. E. Williams, R. Williams, T. Williams, R. Yeo.
Mae'r newid yn yr hinsawdd yn parhau i gynrychioli un o'r heriau mwyaf difrifol y mae cymunedau ledled Rhondda Cynon Taf, Cymru, y DU a'r byd, yn ei hwynebu.
Dros y blynyddoedd diwethaf, rydyn ni wedi gweld digwyddiadau tywydd difrifol ac arwyddocaol yn fwy aml, gan arwain at effaith fwy dwys, fel y difrod sylweddol a achoswyd yn lleol gan Storm Dennis ym mis Chwefror 2020. Ers hynny, rydyn ni wedi gweld cynnydd yn nifer y rhybuddion tywydd melyn, ambr a choch sy'n cael eu cyhoeddi gan y Swyddfa Dywydd.
Yn wir, mae'r daroganwr tywydd wedi cadarnhau'n ddiweddar mai 2022 oedd y flwyddyn boethaf a gofnodwyd yn y DU. Am y tro cyntaf erioed, cafodd tymheredd o dros 10°C, ar gyfartaledd, ei gofnodi. Dangosodd yr astudiaeth briodoli fod tymheredd blynyddol a fyddai wedi digwydd unwaith ym mhob 500 o flynyddoedd mewn hinsawdd naturiol, a hynny heb ddylanwad pobl ar yr hinsawdd, bellach yn debygol o ddigwydd bob tair i bedair blynedd yn yr hinsawdd bresennol. Yn ogystal â hyn, mae rhagolygon y Swyddfa Dywydd yn awgrymu y bydd 2023 yn un o flynyddoedd poethaf y ddaear i gael ei chofnodi.
O ganlyniad i'r dystiolaeth yma, does dim amheuaeth o ran pa mor gyflym y mae angen newid er mwyn lleihau allyriadau carbon i amddiffyn y blaned, neu'r angen i ni i gyd weithio gyda'n gilydd yn fwy cyflym i wneud hynny.
Mae'r Cyngor yma eisoes wedi dangos ymrwymiad cadarnhaol i fodloni targedau byd-eang, cenedlaethol a lleol i leihau carbon, a chyfrannu atyn nhw.
Ym mis Mawrth 2018, penderfynodd y Cyngor fabwysiadu Rhybudd o Gynnig gan ymrwymo i gefnogi Ymrwymiad Ynni Glân UK100 er mwyn symud tuag at fod yn Awdurdod sy'n gwbl gyfrifol yn amgylcheddol erbyn 2050. Yn fuan ar ôl hynny, cafodd yr ymrwymiad yma ei ddiwygio i fod yn garbon niwtral erbyn 2030 er mwyn cydnabod yr angen dybryd i fynd i'r afael ag effaith y newid yn yr hinsawdd ar frys.
Dros y rhyw ddeng mlynedd ddiwethaf, mae'r Cyngor eisoes wedi cymryd camau sylweddol tuag at y targed yma, ac mae'r gwaith yma wedi cyflymu dros y pum mlynedd ddiwethaf. Hyd at 2019, roedd y Cyngor wedi ... view the full Agenda text for item 90. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: A. Trafod Rhybudd o Gynnig sydd wedi’i gyflwyno yn enwau Cynghorwyr y Fwrdeistref Sirol J. Edwards, L. A. Tomkinson, L. Addiscott, M. D. Ashford, J. Barton, D. R. Bevan, J. Bonetto, S. Bradwick, J. Brencher, G. Caple, J. Cook, A. Crimmings, S. J. Davies, R. Davis, A. J. Dennis, V. Dunn, E. L. Dunning, J. A. Elliott, L. Ellis, S. Emanuel, R. Evans, A. S. Fox, B. Harris, S. Hickman, G. Holmes, G. Hopkins, W. Hughes, G. Jones, G. O. Jones, R. R. Lewis, W. Lewis, C. Leyshon, M. Maohoub, C. Middle, A. Morgan OBE, N. H. Morgan, S. Morgans, M. A. Norris, D. Owen-Jones, D. Parkin, S. Powderhill, C. Preedy, S. Rees, A. Roberts MBE, J. Smith, G. Stacey, W. Treeby, J. Turner, G. L. Warren, K. Webb, M. Webber, D. Williams, G. E. Williams, R. Williams, T. Williams, R. Yeo.
Mae'r newid yn yr hinsawdd yn parhau i gynrychioli un o'r heriau mwyaf difrifol y mae cymunedau ledled Rhondda Cynon Taf, Cymru, y DU a'r byd, yn ei hwynebu.
Dros y blynyddoedd diwethaf, rydyn ni wedi gweld digwyddiadau tywydd difrifol ac arwyddocaol yn fwy aml, gan arwain at effaith fwy dwys, fel y difrod sylweddol a achoswyd yn lleol gan Storm Dennis ym mis Chwefror 2020. Ers hynny, rydyn ni wedi gweld cynnydd yn nifer y rhybuddion tywydd melyn, ambr a choch sy'n cael eu cyhoeddi gan y Swyddfa Dywydd.
Yn wir, mae'r daroganwr tywydd wedi cadarnhau'n ddiweddar mai 2022 oedd y flwyddyn boethaf a gofnodwyd yn y DU. Am y tro cyntaf erioed, cafodd tymheredd o dros 10°C, ar gyfartaledd, ei gofnodi. Dangosodd yr astudiaeth briodoli fod tymheredd blynyddol a fyddai wedi digwydd unwaith ym mhob 500 o flynyddoedd mewn hinsawdd naturiol, a hynny heb ddylanwad pobl ar yr hinsawdd, bellach yn debygol o ddigwydd bob tair i bedair blynedd yn yr hinsawdd bresennol. Yn ogystal â hyn, mae rhagolygon y Swyddfa Dywydd yn awgrymu y bydd 2023 yn un o flynyddoedd poethaf y ddaear i gael ei chofnodi.
O ganlyniad i'r dystiolaeth yma, does dim amheuaeth o ran pa mor gyflym y mae angen newid er mwyn lleihau allyriadau carbon i amddiffyn y blaned, neu'r angen i ni i gyd weithio gyda'n gilydd yn fwy cyflym i wneud hynny.
Mae'r Cyngor yma eisoes wedi dangos ymrwymiad cadarnhaol i fodloni targedau byd-eang, cenedlaethol a lleol i leihau carbon, a chyfrannu atyn nhw.
Ym mis Mawrth 2018, penderfynodd y Cyngor fabwysiadu Rhybudd o Gynnig gan ymrwymo i gefnogi Ymrwymiad Ynni Glân UK100 er mwyn symud tuag at fod yn Awdurdod sy'n gwbl gyfrifol yn amgylcheddol erbyn 2050. Yn fuan ar ôl hynny, cafodd yr ymrwymiad yma ei ddiwygio i fod yn garbon niwtral erbyn 2030 er mwyn cydnabod yr angen dybryd i fynd i'r afael ag effaith y newid yn yr hinsawdd ar frys.
Dros y rhyw ddeng mlynedd ddiwethaf, mae'r Cyngor eisoes wedi cymryd camau sylweddol tuag at y targed yma, ac mae'r gwaith yma wedi cyflymu dros y pum mlynedd ddiwethaf. Hyd at 2019, roedd y ... view the full Cofnodion text for item 90. |
|||||||||
Materion Brys Trafod unrhyw faterion sydd, yn ôl doethineb y Cadeirydd, yn faterion brys yng ngoleuni amgylchiadau arbennig.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Yn unol â Rheol Gweithdrefn 10.5, rhoddodd y Llywydd ganiatâd i’r Cyngor Llawn benderfynu a ddylai’r Cynnig Brys hwn:
• Cael ei drafod yn y cyfarfod; neu • Gohirio'r Cynnig tan y cyfarfod nesaf, i'w drafod gyda mantais cyngor ysgrifenedig gan Swyddogion; neu • Ei atgyfeirio i'r Adain Weithredol neu Bwyllgor.
PENDERFYNWYD trafod y Rhybudd o Gynnig brys yn y cyfarfod.
|
|||||||||
Rhybudd O Gynnig Brys PDF 81 KB Yn unol â Rheol Gweithdrefn 10.5, mae’r Llywydd wedi rhoi caniatâd i’r Cyngor Llawn benderfynu a ddylai’r Cynnig Brys hwn fod
• Cael ei drafod yn y cyfarfod; neu • Gohirio'r Cynnig tan y cyfarfod nesaf, i'w drafod gyda mantais cymorth cyngor ysgrifenedig gan Swyddogion; neu • Ei atgyfeirio i'r Adain Weithredol neu i Bwyllgor, i gael ei ystyried, ei drafod, a'i benderfynu.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion:
|