Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Hybrid

Cyswllt: Julia Nicholls -Gwasanaethau Democrataidd  01443 424098

Cyfryngau

Eitemau
Rhif eitem

63.

Croeso ac Ymddiheuriadau

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i'r cyfarfod a derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan Gynghorwyr y Fwrdeistref Sirol R Evans, A S Fox, C Preedy, S Powderhill, L Tomkinson, J Turner a D Williams.

 

64.

DATGAN BUDDIANT

Derbyn datganiadau o fuddiannau personol gan Aelodau yn unol â'r Côd Ymddygiad.

 

1.     Mae gofyn i Aelodau ddatgan rhif a phwnc yr agendwm y mae eu buddiant yn ymwneud ag e a mynegi natur y buddiant personol hwnnw; a 

2.     Lle bo Aelodau'n ymneilltuo o'r cyfarfod o ganlyniad i ddatgelu buddiant sy'n rhagfarnu, rhaid iddyn nhw roi gwybod i'r Cadeirydd pan fyddan nhw'n gadael.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Yn unol â Chod Ymddygiad y Cyngor, cafodd y datganiadau o fuddiant canlynol eu gwneud yngl?n â'r agenda:

 

Item 7.    ADRODDIAD BLYNYDDOL CRONFA DEDDF EGLWYS CYMRU 2021/22

 

Y Cynghorydd W. Treeby – “Rydw i’n eistedd ar ddau bwyllgor sy’n derbyn arian gan Gronfa Deddf Eglwys Cymru”

 

Y Cynghorydd M. Maohoub – “Rydw i'n aelod o un o’r pwyllgorau sy’n derbyn cyllid gan Gronfa Deddf Eglwys Cymru”

 

Y Cynghorydd D. Grehan – “Rydw i'n eistedd ar bwyllgor sydd wedi derbyn arian gan Gronfa Deddf Eglwys Cymru eleni."

 

Y Cynghorydd A. Morgan – “Rydw i'n ymwneud yn uniongyrchol â dau bwyllgor sy’n derbyn cyllid ac rydw i wedi helpu gr?p arall gyda’r cais am arian”

 

Y Cynghorydd G. Jones – “Fi yw Cadeirydd Llyfrgell Rydd a Sefydliad Trecynon, sy’n derbyn cyllid”

 

Y Cynghorydd D. Owen-Jones – “Mae Parc Sglefrio Tonyrefail yn derbyn cyllid gan Gronfa Deddf Eglwys Cymru"

 

Item 15.ADOLYGIAD O STRWYTHUR UWCH ARWEINWYR Y CYNGOR

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr, Gwasanaethau Cyfreithiol, y byddai'r Prif Swyddogion a oedd yn bresennol yn y cyfarfod yn datgan buddiant personol o ran Eitem 15 ar yr Agenda, 'Strwythur Uwch Arweinwyr y Cyngor'. Bydd y Prif Swyddogion yn gadael y cyfarfod pan fydd y Cyngor yn trafod yr eitem, ac eithrio'r Prif Weithredwr, sef awdur yr adroddiad a'r Cyfarwyddwr Adnoddau Dynol, a fydd yn cyflwyno'r adroddiad ac yn ateb unrhyw gwestiynau am y weithdrefn.

 

65.

COFNODION pdf icon PDF 222 KB

Cadarnhau cofnodion o gyfarfodydd y Cyngor a gynhaliwyd ar y dyddiadau canlynol yn rhai cywir:

 

Ø  Cyfarfod Arbennig o’r Cyngor ar 23 Tachwedd 2022 am 3.30pm

Ø  Cyfarfod o’r Cyngor ar 23 Tachwedd 2022 am 5.00pm

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD cymeradwyo cofnodion cyfarfodydd y Cyngor a gynhaliwyd ar 23 Tachwedd 2022 am 3.30pm a 5.00pm yn rhai cywir yn amodol ar nodi bod y Cynghorydd H. Gronow yn bresennol am 3.30pm a bod y Cynghorydd Amanda Ellis yn bresennol ar-lein.

 

Materion yn Codi – Fel y codwyd gan y Cynghorydd P. Evans ac a gadarnhawyd gan Arweinydd y Cyngor yn y cyfarfod a gynhaliwyd ar 23 Tachwedd 2022 am 3.30pm, dywedodd Cyfarwyddwr y Gwasanaeth, Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu y byddai gwahoddiad yn cael ei anfon at Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru i fynychu cyfarfod o'r Cyngor llawn yn y dyfodol. Byddai'r dyddiad yn cael ei ystyried yn unol ag anghenion busnes y Cyngor ac mewn ymgynghoriad â'r Llywydd ond mae'n debygol y byddai'n cael ei gynnal fel cyfarfod arbennig o'r Cyngor.

 

66.

Cyhoeddiadau

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y cyhoeddiadau canlynol eu gwneud:

 

 

  • Cyhoeddodd y Cynghorydd M Webber fod Mr Chris Bryant, Aelod Seneddol y Rhondda a Chadeirydd Pwyllgor Safonau T?’r Cyffredin, wedi cael ei urddo'n farchog am ei Wasanaeth i Wleidyddiaeth a Bywyd Cyhoeddus, a bod y Cynghorydd A. Roberts - sy'n cynrychioli Gilfach-goch - hefyd wedi derbyn MBE am ei gwasanaeth.
  • Roedd y Cynghorydd S. Bradwick yn dymuno llongyfarch Dr Mike Thomas a gafodd MBE am ei wasanaethau i Gorau Meibion Cymreig Cwm Pelenna a Chwm Cynon yn rhestr Anrhydeddau'r Brenin. Canmolodd waith Dr Mike Thomas yn y gymuned yn gweithio gyda llawer o gantorion yng nghorau Pelenna, Cwmdâr a Chwm-bach, a chodi arian i lawer o elusennau hefyd.
  • Fe wnaeth y Cynghorydd S. Bradwick hefyd gyhoeddiad am farwolaeth drist Mrs Margaret Blainey, cyn-swyddog gyda Chartrefi Gladlys a Tegfan yng Nghwm Cynon. Dywedodd ei bod hi'n Swyddog rhagorol.
  • Cyflwynodd y Cynghorydd D. Owen-Jones ddeiseb ar ran trigolion Tonyrefail yn nodi pryderon amgylcheddol ynghylch datblygiad lleol.

 

67.

Datganiadau

Yn unol â Rheol 2 o Weithdrefn Llywodraethu Agored Cyfarfodydd y Cyngor, derbyn datganiadau gan Arweinydd y Cyngor a/neu Gynghorwyr sy'n Aelodau Portffolio o'r Cabinet:

 

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Datganiad gan Arweinydd y Cyngor:

 

Diolchodd Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd A. Morgan, i staff y Cyngor am eu gwaith caled yn ystod y cyfnod o dywydd garw a llifogydd yn ddiweddar. Er nad oedd y sefyllfa mor ddifrifol â Storm Dennis, cofnodwyd 104mm o law dros gyfnod o 24 awr yng Nghwmdâr a Maerdy, gyda chyfanswm o 60 eiddo, gan gynnwys eiddo masnachol, yn profi llifogydd. Cafodd nifer o eiddo yn Stryd y Taf, Pontypridd, lifogydd islawr oherwydd bod draeniau'n gorlifo, a chafodd eiddo eraill mewn ardaloedd anghysbell lifogydd hefyd. Cadarnhaodd yr Arweinydd fod y diweddariadau yma wedi’u trosglwyddo i Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn rhinwedd ei swydd fel yr awdurdod rheoli llifogydd.

 

Dywedodd yr Arweinydd fod y Cyngor wedi buddsoddi'n sylweddol mewn uwchraddio cwlfertau ers Storm Dennis (a hynny ar wahân i'r £20 miliwn o atgyweiriadau a wnaed o ganlyniad i gyllid gan fuddsoddiad Llywodraeth Cymru). Llwyddodd cwlfert a gafodd ei uwchraddio i wrthsefyll y lllifogydd diweddar. Ychwanegodd fod y Cyngor yn ddiweddar wedi cyflwyno ceisiadau ar gyfer prosiectau rheoli perygl llifogydd i Lywodraeth Cymru. Mae'r ceisiadau yn gofyn am gyfanswm o £8 miliwn, a fydd yn cael arian cyfatebol pe bai'r ceisiadau'n cael eu cymeradwyo.

 

Diolchodd yr Arweinydd i'r staff am eu hymroddiad a dywedodd fod staff ar sawl achlysur wedi bod yn gweithio drwy'r nos/bore yn graeanu'r ffyrdd oherwydd tymheredd isel. Dywedodd hefyd fod nifer o gontractwyr wedi bod yn cefnogi staff y Cyngor gyda'r dyletswyddau yma i sicrhau eu bod nhw'n cymryd y seibiannau gofynnol. Dywedodd yr Arweinydd fod gwaith hefyd wedi'i wneud ar yr A4048 yn Nhonypandy, lle mae staff yn aml wedi bod yn gweithio drwy'r nos i oresgyn y problemau ar y ffordd ac wedyn yn ailafael yn eu dyletswyddau yn graeanu'r ffyrdd.

 

Yn wyneb rhywfaint o feirniadaeth o ran y gwaith graeanu a'r achosion o gau'r ffyrdd mynyddig o bryd i'w gilydd, roedd yr Arweinydd yn dymuno diolch i'r staff am eu gwaith caled yn graeanu ffyrdd ac arwynebau yn ystod tywydd rhewllyd a thymheredd isel, a hynny mewn amodau gyrru a oedd yn aml yn beryglus.

 

 

 

 

 

 

68.

Cwestiynau Gan y Cynghorwyr pdf icon PDF 220 KB

Derbyn cwestiynau'r Aelodau yn unol â Rheol 9.2 o Weithdrefn y Cyngor.

 

(Nodwch: Caniateir hyd at 20 munud ar gyfer cwestiynau.)

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nododd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth – Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu y bydd cwestiwn 7 yn cael ei hepgor o ganlyniad i absenoldeb Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol S. Powderhill.

 

1. Cwestiwn gan Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol K. Johnson i’r Aelod o'r Cabinet ar faterion yr Hinsawdd a Gwasanaethau Corfforaethol, Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol T. Leyshon:

 

“Oes modd i chi gyhoeddi pryd fydd y pwyntiau gwefru cerbydau trydan sy wedi'u gosod ledled y fwrdeistref sirol, gyda chymorth ariannol Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, yn weithredol? Mae’r asedau yma wedi bod yn segur am gyfnod sylweddol ar ôl iddyn nhw gael eu gosod, ac mae'r ddarpariaeth ledled RhCT yn gyfyngedig iawn.”

Ymateb gan Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol T. Leyshon:

Cytunodd y Cynghorydd Leyshon fod y sefyllfa’n rhwystredig ond ychwanegodd fod y Cyngor wedi sicrhau cyllid gan Lywodraeth Cymru ac yn ddiweddar wedi sicrhau rownd ychwanegol o gyllid gan Lywodraeth y DU. Serch hynny, nid yw'r Grid Cenedlaethol (Western Power Distribution gynt) wedi paratoi'r cysylltiadau, er i wasanaeth Eiddo'r Cyngor archebu'r cyfleusterau mewn da bryd.

 

Dywedodd y Cynghorydd Leyshon, o ran y rhaglen ei hun, fod y Cyngor yn parhau i ganolbwyntio ei ymdrechion ar ddarparu cyfleusterau sydd ar gael i'r cyhoedd ym meysydd parcio'r Cyngor trwy bartneriaeth Prifddinas-Ranbarth Caerdydd. Hyd yn hyn, mae dros 70 o bwyntiau gwefru cerbydau trydan wedi’u gosod mewn 31 o feysydd parcio’r Cyngor ym mhob rhan o'r Fwrdeistref Sirol. Ailadroddodd y Cynghorydd Leyshon fod y Cyngor yn aros i'r Grid Cenedlaethol bweru'r mannau gwefru, a bod Swyddogion yn gweithio gyda'r cwmni i geisio sicrhau bod y broses osod yn cael ei chwblhau'n gyflym cyn diwedd y flwyddyn ariannol.

 

Yn ogystal â hynny, dywedodd y Cynghorydd Leyshon fod y cyllid gan Swyddfa Cerbydau Allyriadau Sero (OZEV) Llywodraeth y DU wedi'i ddyfarnu i hwyluso cam pellach o osodiad cyfleusterau gwefru mewn 28 o feysydd parcio ychwanegol sy'n eiddo i'r Cyngor ledled y sir. Gan ragweld cyfleoedd am gyllid pellach yn y dyfodol, mae'r Cyngor wedi cynnig rhestr ychwanegol o safleoedd posibl ar gyfer gosod pwyntiau gwefru, yn bennaf yng ngweithleoedd y Cyngor.

 

I gloi, dywedodd y Cynghorydd Leyshon fod amrywiaeth o gynlluniau cyllid grant ar gael gan Lywodraeth Cymru ac OZEV, ac mae'r Cyngor yn awyddus i'w defnyddio i wneud cais am arian i'w roi tuag at gost gosod pwyntiau gwefru cerbydau trydan a gwaith cysylltiedig.

 

Nid oedd unrhyw gwestiwn ategol.

 

2. Cwestiwn gan Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol M.D. Ashford i'r Aelod o'r Cabinet ar faterion Addysg, Cyfranogiad Pobl Ifainc a'r Gymraeg, Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol R. Lewis:

 

“Gyda Llywodraeth Cymru yn ddiweddar wedi cyhoeddi cyllid o dan y Model Buddsoddi Cydfuddiannol ar gyfer yr ysgol newydd ym Mhont-y-clun, a oes modd i'r Aelod o'r Cabinet amlinellu amserlen ar gyfer y gwaith a phryd mae modd i ddisgyblion a thrigolion ddisgwyl i’r cyfleuster newydd agor?”

Ymateb gan Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol R. Lewis:

Dywedodd y Cynghorydd Lewis fod cyllid gan Lywodraeth Cymru wedi arwain at gymeradwyaeth ariannol ar gyfer tri phrosiect ysgol newydd, gan gynnwys y cyfleuster newydd sbon ar gyfer Ysgol Gynradd Pont-y-clun.  ...  view the full Cofnodion text for item 68.

69.

Rhaglen Waith y Cyngor 2022/23 - er gwybodaeth

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Cyfarwyddwr Gwasanaeth y Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu Raglen Waith y Cyngor ar gyfer Blwyddyn 2022/23, a dywedodd y byddai Dadl Flynyddol yr Arweinydd a oedd wedi'i threfnu ar gyfer cyfarfod y Cyngor ym mis Chwefror bellach yn ffurfio rhan o gyfarfod arbennig y Cyngor cyn diwedd y flwyddyn ddinesig. Dywedodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth hefyd y byddai Cynllun Lles BGC Cwm Taf yn cael ei ychwanegu at raglen waith y Cyngor yn dilyn ystyriaeth gan y BGC a gwaith rhag-graffu ar yr adroddiad hwnnw gan Gydbwyllgor Trosolwg a Chraffu Cwm Taf. Bydd diweddariad ar ofynion busnes y Cyngor yn cael ei ddarparu drwy law Arweinwyr y Grwpiau rhwng nawr a'r Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol (CCB), cyn i'r cyhoeddi'r rhaglen waith ddiwygiedig gael ei chyhoeddi.

 

70.

DATGANIAD O GYFRIFON RHONDDA CYNON TAF AC ADRODDIAD ARCHWILIO ALLANOL pdf icon PDF 1 MB

Trafod adroddiad y Cyfarwyddwr Cyllid a Gwasanaethau Digidol.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cyllid a Digidol ei adroddiad sy'n nodi'rDatganiad Cyfrifon Blynyddol ar gyfer blwyddyn ariannol 2021/2022. Mae'r rhain wedi’u harchwilio ac mae angen i’r Cyngor Llawn eu nodi a’u cymeradwyo ynghyd â barn Archwilio Cymru ar y cyfrifon.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr fod y broses gymeradwyo cyfrifon wedi'i gohirio

eleni oherwydd mater cenedlaethol sy'n effeithio ar bob llywodraeth leol yn ymwneud â chyfrifo ar gyfer asedau seilwaith a'r gofyniad am reoleiddio na chafodd ei basio tan 2 Rhagfyr 2022. Dywedodd y Cyfarwyddwr nad oedd modd i Archwilio Cymru ddod i'r cyfarfod heno ac mae'r swyddogion wedi

ymddiheuro. Serch hynny, maen nhw wedi darparu eu hadroddiad ar y cyfrifon sy'n nodi barn lân a diamod o ran archwilio. Ychwanegodd fod nifer fach o

ddiwygiadau wedi'u gwneud sydd wedi'u cynnwys yn y cyfrifon fel

maen nhw wedi'u cyflwyno.

 

I gloi, dywedodd y Cyfarwyddwr fod y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio wedi 

adolygu'r cyfrifon a dod i'r casgliad na chodwyd unrhyw faterion i atal y Cyngor rhag cymeradwyo'r cyfrifon ger ei fron.

 

Ar ôl trafod yr adroddiad, PENDERFYNWYD:

 

(a)   Cymeradwyo a nodi Datganiad o Gyfrifon Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf (Atodiad 1), a'r Llythyr Cynrychiolaeth cysylltiedig (Atodiad 2).

 

(b)   Cymeradwyo a nodi safle alldro terfynol y Cyngor, sydd wedi'i archwilio, ar gyfer blwyddyn ariannol 2021/22 a lefel y Balansau Cyllid Cyffredinol (paragraff 8.4 o'r adroddiad); ac

 

(c)   Nodi ystyriaethau a sylwadau'r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio yn ei gyfarfod ar 7 Medi 2022, fel sy'n ofynnol yn y Mesur Llywodraeth Leol (paragraffau 11.1 ac 11.2).

 

71.

ADRODDIAD BLYNYDDOL CRONFA DEDDF EGLWYS CYMRU 2021/22 pdf icon PDF 81 KB

Trafod adroddiad y Cyfarwyddwr Cyllid a Gwasanaethau Digidol.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Yn ei adroddiad, gofynnodd y Cyfarwyddwr Cyllid a Gwasanaethau Digidol am gymeradwyaeth y Cyngor mewn perthynas ag adroddiad blynyddol a datganiad o gyfrifon ariannol Cronfa Deddf Eglwys Cymru ar gyfer y flwyddyn ariannol a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2022; yn dilyn cwblhau proses archwilio a barn archwilio ddiamod; a PHENDERFYNWYD:

 

(a)        Trafod adroddiad yr Archwiliwr Allanol – “Cynllun Archwilio 2021- 22” (Atodiad 1);

 

(b)        Trafod adroddiad yr Archwiliwr Allanol – “Adroddiad Archwilio Cyfrifon” (Atodiad 2);

 

(c)            Cymeradwyo a nodi Adroddiad Blynyddol a Datganiadau Ariannol Cronfa Deddf Eglwys Cymru ar gyfer y flwyddyn ariannol 2021/2022 (Atodiad 3);

 

(ch)      Cymeradwyo a nodi'r Llythyr o Gynrychiolaeth mewn perthynas â Chronfa Deddf Eglwys Cymru (Atodiad 4).

 

72.

CYNLLUN GOSTYNGIADAU TRETH Y CYNGOR pdf icon PDF 247 KB

Trafod adroddiad y Cyfarwyddwr Cyllid a Gwasanaethau Digidol.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Cyfarwyddwr Cyllid a Gwasanaethau Digidol wybod bod yr adroddiad yn cynrychioli'r gofyniad blynyddol i'r Cyngor fabwysiadu Cynllun Gostyngiadau Treth y Cyngor erbyn 31 Ionawr 2023. Ychwanegodd ei fod yn gynllun Llywodraeth Cymru cenedlaethol gyda nifer fach o ostyngiadau lleol fel sydd wedi'i nodi yn yr adroddiad. Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr fod y Cyngor wedi ymgynghori ar y gostyngiadau lleol yn rhan o broses ymgynghori gyffredinol y Cyngor ar y gyllideb.

 

I grynhoi, rhoddodd y Cyfarwyddwr wybod bod y cynllun arfaethedig yn unol â'r hyn sydd wedi'i fabwysiadu ar gyfer y flwyddyn ariannol bresennol gyda diweddariadau priodol sydd yn unol â chyfraddau uwchraddio cenedlaethol.

 

Yn dilyn trafodaeth, PENDERFYNWYD:

 

a)  Nodi a mabwysiadu darpariaethau'r Rheoliadau Gofynion Rhagnodedig ac unrhyw newidiadau sydd i'w gwneud i'r rheoliadau hynny oherwydd y Rheoliadau Diwygio fel Cynllun Gostyngiadau Treth y Cyngor lleol y Cyngor ar gyfer 2023/24, yn amodol ar y gostyngiadau lleol y gall y Cyngor eu gweithredu;

b)  Nodi canlyniad y broses ymgynghori a gynhaliwyd gan y Cyngor ar y gostyngiadau lleol sy'n berthnasol i'r Cynllun Gostyngiadau Treth y Cyngor ar gyfer 2023/24; a

c)   Cadarnhau'r gostyngiadau sy'n berthnasol i Gynllun Gostyngiadau Treth y Cyngor lleol y Cyngor ar gyfer 2023/24, fel sydd wedi'i nodi ym mharagraff 5.3 (Tabl 2) yr adroddiad yma.

 

73.

Premiwm Treth y Cyngor pdf icon PDF 126 KB

Trafod adroddiad y Cyfarwyddwr Cyllid a Gwasanaethau Digidol.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Cyllid a Gwasanaethau Digidol ei adroddiad a roddodd gyfle i'r Cyngor drafod argymhelliad y Cabinet mewn perthynas â'r cynnig i gyflwyno Premiwm Treth y Cyngor ar gyfer Eiddo Gwag Tymor Hir ac Ail Gartrefi.

 

Rhoddodd y Cyfarwyddwr wybod bod y cynnig wedi bod yn destun ymgynghoriad yn barod, a bod adborth yr ymgynghoriad wedi'i atodi i'r adroddiad. Ychwanegodd mai'r prif amcan, fel sydd wedi'i nodi yn yr adroddiad, yw gwneud yn fawr o argaeledd cartrefi fforddiadwy ledled y Fwrdeistref Sirol, yn unol â'r Strategaeth Cartrefi Gwag sydd wedi'i diweddaru ac yng ngoleuni'r asesiad o'r farchnad dai leol.

 

Aeth y Cyfarwyddwr ati i grynhoi'r cynigion: cyflwyno premiwm treth y cyngor ar gyfer eiddo gwag tymor hir, sef 50% ar gyfer eiddo sydd wedi bod yn wag rhwng 1 a 2 flynedd. Byddai'r premiwm yma'n cynyddu i 100% ar gyfer eiddo sydd wedi bod yn wag am fwy na 2 flynedd. Byddai hyn yn dod i rym o 1 Ebrill 2023. Ychwanegodd fod tua 1,700 o eiddo o'r fath ac mae 1,300 ohonyn nhw wedi bod yn wag ers dros 2 flynedd. Ar gyfer ail gartrefi (tua 350 ohonyn nhw), cynigir premiwm o 100%, a hynny i ddod i rym o 1 Ebrill 2024.

 

I grynhoi, nododd y Cyfarwyddwr fod y Cabinet wedi trafod premiwm o'r fath, ac wedi'i argymell i'r Cyngor, fel sydd wedi'i nodi yn yr adroddiad.

 

Croesawodd yr Aelodau y cynigion i gyflwyno Premiwm Treth y Cyngor ar gyfer Eiddo Gwag Tymor Hir ac Ail Gartrefi, fel sydd wedi'i argymell gan y Cabinet ac yn dilyn trafodaeth, atebodd y Cyfarwyddwr nifer o gwestiynau. Pe byddai'r Cyngor yn cymeradwyo'r cynigion, cadarnhaodd y bydden nhw'n cael eu hadolygu yn rhan o'r Strategaeth Cartrefi Gwag. Eglurodd y Cyfarwyddwr fod eithriadau premiymau Treth y Cyngor, fel sydd wedi'i nodi yn nhabl 1 ar atodiad 2, yn cael eu llunio gan Lywodraeth Cymru sydd hefyd wedi darparu canllawiau mewn perthynas â helpu Cynghorau i roi'r eithriadau ar waith.

 

O ran yr eithriadau ac yn rhan o'r broses ymgynghori, cadarnhaodd y Cyfarwyddwr fod y Cyngor wedi cysylltu'n uniongyrchol â pherchennog pob eiddo gwag gan roi gwybod lle mae modd gweld yr wybodaeth berthnasol.

 

PENDERFYNWYD bod y Cyngor yn cytuno â'r cynnig i gyflwyno Premiwm Treth y Cyngor ar gyfer Eiddo Gwag Tymor Hir ac Ail Gartrefi, fel sydd wedi'i argymell gan y Cabinet yn y cyfarfod a gynhaliwyd ar 12 Rhagfyr 2022.

 

 

74.

Hunanasesiad Blynyddol 2021/22 (Cynnwys Adroddiad Cyflawniad Corfforaethol y Cyngor) pdf icon PDF 254 KB

Derbyn adroddiad y Prif Weithredwr.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr ei adroddiad sy'n nodi hunanasesiad blynyddol y Cyngor ar gyfer 2021/22, a hynny ar ôl i'r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio ei drafod yn y cyfarfod a gynhaliwyd ar 7 Rhagfyr 2022.  Mae Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 yn ei gwneud hi'n ofynnol bod drafft o'r hunanasesiad ar gael i'r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio ei adolygu cyn i'r Cyngor ei drafod. Ar ôl i'r Cyngor ei gymeradwyo, rhaid ei gyhoeddi cyn pen 4 wythnos o lunio'r fersiwn derfynol.

 

Cyfeiriodd y Prif Weithredwr at baragraff 3.2 yr adroddiad sy'n nodi'r ddyletswydd berthnasol yn y Ddeddf sy'n cael ei bodloni trwy hunanasesiad ac sy'n ei gwneud hi'n ofynnol i bob Cyngor yng Nghymru adolygu i ba raddau y mae'n bodloni gofynion cyflawniad y Ddeddf, hynny yw i ba raddau y mae'n cyflawni ei swyddogaethau'n effeithiol, yn defnyddio ei adnoddau mewn modd economaidd, effeithlon ac effeithiol ac yn sicrhau bod ei faterion llywodraethu'n effeithiol.

 

Ychwanegodd y Prif Weithredwr, fel y mae Aelodau'n gwybod, fod gan y Cyngor yma hanes cryf o hunanymwybyddiaeth a hunanfyfyrdod ac felly mewn sefyllfa dda i ymateb i ofynion y Ddeddfwriaeth. Gan mai dyma'r hunanasesiad statudol cyntaf o dan y ddeddfwriaeth heb fodel rhagnodedig ar waith, nododd fod yr adroddiad gerbron yr Aelodau yn cynnwys llawer o wybodaeth am gyflawniad sy'n cael ei rhoi i Aelodau'n rheolaidd mewn nifer o ffyrdd gwahanol. Mae hyn yn cael ei wneud trwy adroddiadau cyflawniad chwarterol, yn ogystal â nifer o adroddiadau eraill i'r Cyngor a'r Cabinet mewn perthynas â pholisïau ac adborth rhanddeiliaid.

 

Gan fod y cyfnod asesu'n cynnwys y pandemig, nododd y Prif Weithredwr ei fod yn adlewyrchu'r newid i drefniadau cyflawniad y Cyngor yn ystod y cyfnod yma. Mae hefyd yn cynnwys manylion am ei ganolbwynt uniongyrchol ar wasanaethau a'i ymateb a mesurau adfer wrth fynd ati mewn ffordd gadarn i fonitro gwaith cyflawni ei flaenoriaethau. Mae hyn i'w weld yn yr adroddiad. Cyfeiriodd at ofynion y Cyngor i fod yn gyfrifol am wella, i fyfyrio ar gyflawniad a chymryd camau er mwyn gwella'r system. Ychwanegodd fod y Cyngor yma mewn sefyllfa dda i fodloni'r gofyniad hwnnw o ganlyniad i'w drefniadau cyflawniad hunanwerthuso cryf sydd wedi bod ar waith ers 2016.

 

Mae hunanasesiad 2021/22 yn cynrychioli'r cyfle i ystyried gwasanaethau a swyddogaethau corfforaethol y Cyngor, yn ogystal â chadernid y trefniadau rheoli a monitro sydd ar waith. Mae hefyd yn rhoi sicrwydd i Aelodau fod y Cyngor yn bodloni ei ofynion statudol i fyfyrio ar gyflawniad a chymryd camau gweithredu er mwyn gwella lle bo angen.

 

Cyfeiriodd y Prif Weithredwr at sylwadau'r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio yn dilyn trafod hunanasesiad y Cyngor a phenderfynu peidio â gwneud newidiadau sylweddol i'r asesiad. Roedd y pwyllgor wedi gofyn am sicrwydd bod modd i'r Cyngor fynd i'r afael â'r heriau sydd wedi'u nodi yn y naw thema allweddol yn yr hunanasesiad a'r bartneriaeth drawsbynciol sydd ei hangen er mwyn i'r Cyngor ymateb i'r themâu.

 

I grynhoi, yn unol â'r dystiolaeth sydd wedi'i darparu, nododd y Prif Weithredwr fod  ...  view the full Cofnodion text for item 74.

75.

PECYNNAU YMDDEOL YN GYNNAR O WIRFODD A DISWYDDO AR GYFER PRIF SWYDDOGION pdf icon PDF 87 KB

Trafod adroddiad ar y cyd y Prif Weithredwr a'r Cyfarwyddwr Materion Adnoddau Dynol.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Yn dilyn argymhelliad gan Banel Ymddeol yn Gynnar o Wirfodd y Cyngor, nododd y Cyfarwyddwr Materion Adnoddau Dynol y gofynnir am gymeradwyaeth y Cyngor ar gyfer pecyn diswyddo ar gyfer Prif Swyddogion (fel sydd wedi'i nodi yn yr adroddiad) yn unol â datganiad Polisi Cyflogau'r Cyngor ar gyfer 2022/23 sydd wedi'i gymeradwyo.

 

Yn dilyn trafod yr adroddiad, PENDERFYNWYD cymeradwyo pecyn diswyddo ar gyfer Prif Swyddogion (fel sydd wedi'i nodi yn Atodiad 1 yr adroddiad) yn unol â datganiad Polisi Cyflogau'r Cyngor ar gyfer 2022/23, sydd wedi'i gymeradwyo.

 

76.

Newid Aelodaeth Pwyllgorau pdf icon PDF 153 KB

Derbyn adroddiad y Cyfarwyddwr Gwasanaeth, Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth - Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu wybod am y newidiadau i gynrychiolaeth Gr?p Annibynnol RhCT ar y Pwyllgor Cynllunio a Datblygu a'r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu ar gyfer Blwyddyn y Cyngor 2022/23.

 

Ar ôl trafod yr adroddiad, PENDERFYNWYD nodi bod:

 

1. Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol M. Powell yn cael ei enwebu yn lle Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol W. Owen ar y Pwyllgor Cynllunio a Datblygu;

 

2. Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol W. Owen yn cael ei enwebu yn lle Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol M. Powell ar y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu.

 

77.

Rhybudd O Gynnig pdf icon PDF 95 KB

Trafod Rhybudd o Gynnig sydd wedi’i gyflwyno yn enwau Cynghorwyr y Fwrdeistref Sirol: R. Williams, S. Emanuel, L. Addiscott, M. D. Ashford, J. Barton, D. R. Bevan, J. Bonetto, S. Bradwick, J. Brencher, G. Caple, J. Cook, A. Crimmings, S. J. Davies, R. Davis, A. J. Dennis, V. Dunn, E. L. Dunning, J. Edwards, J. A. Elliott, L. Ellis, R. Evans, A. S. Fox, B. Harris, S. Hickman, G. Holmes, G. Hopkins, W. Hughes, G. Jones, G. O. Jones, R. R. Lewis, W. Lewis, C. Leyshon, M. Maohoub, C. Middle, A. Morgan, N. H. Morgan, S. Morgans, M. A. Norris, D. Owen-Jones, D. Parkin, S. Powderhill, C. Preedy, S. Rees, A. Roberts, J. Smith, G. Stacey, L. A. Tomkinson, W. Treeby, J. Turner, G. L. Warren, K. Webb, M. Webber, D. Williams, G. E. Williams, T. Williams, R. Yeo.

 

Er nad yw'n glir o ddarllen Datganiad yr Hydref y Canghellor yn ddiweddar, mae Llywodraeth y DU wedi cadarnhau na fydd ei hadolygiad o'r Cynllun Rhyddhad ar Filiau Ynni ar gyfer busnesau a chwsmeriaid annomestig yn parhau y tu hwnt i fis Mawrth 2023.

 

Hyd yma, nid yw Llywodraeth San Steffan wedi cyhoeddi p'un a fydd unrhyw gynllun arall yn cael ei roi ar waith ac nid yw'r Llywodraeth wedi rhannu pa fath o gymorth byddai cynllun o'r fath yn ei gynnwys. Wrth gwrs, mae hyn yn broblemus i fusnesau a sefydliadau cyhoeddus.

 

Bydd dod â'r cymorth ynni yma i ben yn golygu y bydd angen defnyddio rhan helaeth o’r cyllid sy'n cael ei ddarparu ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus er mwyn talu'r cynnydd sylweddol mewn biliau ynni ar gyfer canolfannau hamdden, canolfannau cymuned ac efallai adeiladau cyhoeddus eraill.  Mae'r Cyngor yma yn Rhondda Cynon Taf yn wynebu cynnydd gwerth 355% mewn costau ynni. Ni fydd gan sefydliadau cyhoeddus unrhyw eglurder hyd nes y bydd cyhoeddiad yn cael ei wneud, a fydd dim modd iddyn nhw gynllunio ar gyfer pwysau ar gyllidebau.

 

Mae Llywodraeth y DU wedi ymrwymo i gynyddu budd-daliadau (yr eithriad nodedig yw'r Lwfans Tai Lleol).  Fodd bynnag, trwy beidio â rhoi'r cyllid sydd ei angen ar y cymunedau yma er mwyn iddyn nhw gadw'r goleuadau ymlaen mewn adeiladau i'r gymuned hollbwysig, mae hyn fel talu'r hen a dwyn y newydd.

 

Rydyn ni'n annog Llywodraeth y DU i ailystyried ei pholisi aneglur ynghylch cymorth ynni ar gyfer y sector cyhoeddus tu hwnt i fis Mawrth 2023.

 

Yn ogystal â hyn, mae'r Llywodraeth wedi cyhoeddi y bydd toriadau o ran y cymorth sydd ar gael i aelwydydd mewn tlodi tanwydd y gaeaf nesaf.

Er bydd y Cynllun Gwarant Pris Ynni yn parhau i roi cap ar gost uned o ynni, bydd pob bil ynni yn cynyddu o 1 Ebrill 2023 - bydd y Cynllun Cymorth Biliau Ynni'n dod i ben ar yr un pryd.

Mae'r Cyngor yma'n nodi:

  • Bydd eithrio Cynghorau a sefydliadau'r sector cyhoeddus o'r Cynllun Rhyddhad ar Filiau Ynni yn achosi caledi ariannol sylweddol ar adeg pan fydd sawl ffactor arall yn cyfrannu at heriau digynsail mewn perthynas â'r  ...  view the full Agenda text for item 77.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Trafod Rhybudd o Gynnig sydd wedi’i gyflwyno yn enwau Cynghorwyr y Fwrdeistref Sirol: R. Williams, S. Emanuel, L. Addiscott, M. D. Ashford, J. Barton, D. R. Bevan, J. Bonetto, S. Bradwick, J. Brencher, G. Caple, J. Cook, A. Crimmings, S. J. Davies, R. Davis, A. J. Dennis, V. Dunn, E. L. Dunning, J. Edwards, J. A. Elliott, L. Ellis, R. Evans, A. S. Fox, B. Harris, S. Hickman, G. Holmes, G. Hopkins, W. Hughes, G. Jones, G. O. Jones, R. R. Lewis, W. Lewis, C. Leyshon, M. Maohoub, C. Middle, A. Morgan, N. H. Morgan, S. Morgans, M. A. Norris, D. Owen-Jones, D. Parkin, S. Powderhill, C. Preedy, S. Rees, A. Roberts, J. Smith, G. Stacey, L. A. Tomkinson, W. Treeby, J. Turner, G. L. Warren, K. Webb, M. Webber, D. Williams, G. E. Williams, T. Williams, R. Yeo.

 

Er nad yw'n glir o ddarllen Datganiad yr Hydref y Canghellor yn ddiweddar, mae Llywodraeth y DU wedi cadarnhau na fydd ei hadolygiad o'r Cynllun Rhyddhad ar Filiau Ynni ar gyfer busnesau a chwsmeriaid annomestig yn parhau y tu hwnt i fis Mawrth 2023.

 

Hyd yma, nid yw Llywodraeth San Steffan wedi cyhoeddi p'un a fydd unrhyw gynllun arall yn cael ei roi ar waith ac nid yw'r Llywodraeth wedi rhannu pa fath o gymorth byddai cynllun o'r fath yn ei gynnwys. Wrth gwrs, mae hyn yn broblemus i fusnesau a sefydliadau cyhoeddus.

 

Bydd dod â'r cymorth ynni yma i ben yn golygu y bydd angen defnyddio rhan helaeth o’r cyllid sy'n cael ei ddarparu ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus er mwyn talu'r cynnydd sylweddol mewn biliau ynni ar gyfer canolfannau hamdden, canolfannau cymuned ac efallai adeiladau cyhoeddus eraill. Mae'r Cyngor yma yn Rhondda Cynon Taf yn wynebu cynnydd gwerth 355% mewn costau ynni. Ni fydd gan sefydliadau cyhoeddus unrhyw eglurder hyd nes y bydd cyhoeddiad yn cael ei wneud, a fydd dim modd iddyn nhw gynllunio ar gyfer pwysau ar gyllidebau.

 

Mae Llywodraeth y DU wedi ymrwymo i gynyddu budd-daliadau (yr eithriad nodedig yw'r Lwfans Tai Lleol). Fodd bynnag, trwy beidio â rhoi'r cyllid sydd ei angen ar y cymunedau yma er mwyn iddyn nhw gadw'r goleuadau ymlaen mewn adeiladau i'r gymuned hollbwysig, mae hyn fel talu'r hen a dwyn y newydd.

 

Rydyn ni'n annog Llywodraeth y DU i ailystyried ei pholisi aneglur ynghylch cymorth ynni ar gyfer y sector cyhoeddus tu hwnt i fis Mawrth 2023.

 

Yn ogystal â hyn, mae'r Llywodraeth wedi cyhoeddi y bydd toriadau o ran y cymorth sydd ar gael i aelwydydd mewn tlodi tanwydd y gaeaf nesaf.

Er bydd y Cynllun Gwarant Pris Ynni yn parhau i roi cap ar gost uned o ynni, bydd pob bil ynni yn cynyddu o 1 Ebrill 2023 - bydd y Cynllun Cymorth Biliau Ynni'n dod i ben ar yr un pryd.

Mae'r Cyngor yma'n nodi:

  • Bydd eithrio Cynghorau a sefydliadau'r sector cyhoeddus o'r Cynllun Rhyddhad ar Filiau Ynni yn achosi caledi ariannol sylweddol ar adeg pan fydd sawl ffactor arall yn cyfrannu at heriau digynsail mewn perthynas â'r  ...  view the full Cofnodion text for item 77.

78.

TRAFOD CADARNHAU'R CYNNIG ISOD YN BENDERFYNIAD

“Bod y cyfarfod hwn yn cadw aelodau o'r wasg ac aelodau o'r cyhoedd allan o ystafell y cyfarfod, dan Adran 100A(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol (fel y'i diwygiwyd), yn ystod trafod yr eitem nesaf, ar y sail y byddai'n debygol o olygu datgelu gwybodaeth eithriedig yn ôl diffiniad paragraff 12 a 13 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf.”

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD bod y cyfarfod yma'n cadw aelodau o'r wasg ac aelodau o'r cyhoedd allan o ystafell y cyfarfod, dan Adran 100A(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol (fel y'i diwygiwyd), yn ystod trafod yr agendwm nesaf, ar y sail y byddai'n debygol o olygu datgelu gwybodaeth eithriedig yn ôl diffiniad paragraff 12 a 13 o Ran 4 o Atodlen 12A o'r Ddeddf.

 

79.

STRWYTHUR UWCH ARWEINWYR Y CYNGOR

Derbyn adroddiad ar y cyd y Prif Weithredwr a'r Cyfarwyddwr Materion Adnoddau Dynol.

 

 

Cofnodion:

 

Rhoddodd y Cyfarwyddwr Materion Adnoddau Dynol drosolwg o'i adroddiad i'r Aelodau a oedd yn cynnwys gwybodaeth eithriedig.

 

Ar ôl trafod yr adroddiad, PENDERFYNWYD:

 

1.        Nodi:

 

1.1.1         Bod y Cabinet wedi cymeradwyo'r strwythurau cyfarwyddiaeth diwygiedig a ddangosir yn Atodiadau 2(i), 2(ii) a 2(iii) fydd yn cael eu gweithredu o 19 Ionawr 2023 a'r strwythur yn Atodiad 3(i) yn cael ei weithredu o 1 Medi 2023. Er cyflawnrwydd, nodwch fod Atodiad 2 (iv) hefyd wedi'i restru ond does dim newidiadau i'r strwythur presennol yma.

 

1.1.2         Bydd gweithredu'r strwythurau diwygiedig yma'n rhoi gostyngiad amcangyfrifedig o £78,000 mewn costau rheoli blynyddol ar lefel Uwch Reolwyr (sy'n cynnwys argostau);

 

1.1.3         Bod y Cabinet wedi awdurdodi'r diwygiad i'r swyddi canlynol, yn sgil y strwythurau cyfarwyddiaeth diwygiedig sydd wedi'u hamlinellu yn 1.1.1:

 

                        i.         diwygio swydd y Cyfarwyddwr – Ffyniant a Datblygu (Cyfarwyddwr Lefel 2) i Gyfarwyddwr – Ffyniant a Datblygu (Cyfarwyddwr Lefel 1);

 

                       ii.         diwygio swydd Cyfarwyddwr – Iechyd a Diogelwch y Cyhoedd, a Gwasanaethau Cymuned (Cyfarwyddwr Lefel 2) i Gyfarwyddwr – Iechyd a Diogelwch y Cyhoedd, a Gwasanaethau Cymuned (Cyfarwyddwr Lefel 1);

 

                      iii.         diwygio swydd Cyfarwyddwr – Gwasanaethau Cyfreithiol (Cyfarwyddwr Lefel 2) i Gyfarwyddwr – Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd (Cyfarwyddwr Lefel 1);

 

                      iv.         creu swydd Dirprwy Brif Weithredwr a Chyfarwyddwr Cyfadran – Cyllid a Gwasanaethau Digidol a Rheng Flaen (gradd Cyfarwyddwr Cyfadran);      

 

                       v.         creu swydd Cyfarwyddwr – Gwasanaethau Cymdeithasol (Cyfarwyddwr Lefel 1);

 

                      vi.         creu swydd Cyfarwyddwr – Priffyrdd, Gofal y Strydoedd a Gwasanaethau Trafnidiaeth (Cyfarwyddwr Lefel 2);

 

                    vii.         newid teitl swydd yn unig o Bennaeth Diogelu a Safonau (Pennaeth Gwasanaeth Lefel 1) i Bennaeth Gwasanaeth – Partneriaethau (Pennaeth Gwasanaeth Lefel 1).

 

1.2           Gofynnir i'r Cyngor ystyried yn ffurfiol yr argymhellion canlynol a gafodd eu gwneud gan y Pwyllgor Penodiadau yn y cyfarfod a gynhaliwyd ar 10 Ionawr 2023:

 

1.2.1         Ystyried yn ffurfiol yr argymhelliad wedi'i wneud gan y Pwyllgor Penodiadau ar 10 Ionawr 2023 i'r Cyngor, fod swydd Cyfarwyddwr – Ffyniant a Datblygu (Cyfarwyddwr Lefel 1) yn cael ei neilltuo i Mr Simon Gale yn unol â phroses rheoli newid y Cyngor, a hynny o 19 Ionawr 2023;

 

1.2.2         Ystyried yn ffurfiol yr argymhelliad wedi'i wneud gan y Pwyllgor Penodiadau ar 10 Ionawr 2023 i'r Cyngor, fod swydd Cyfarwyddwr – Iechyd a Diogelwch y Cyhoedd, a Gwasanaethau Cymuned (Cyfarwyddwr Lefel 1) yn cael ei neilltuo i Mrs Louise Davies yn unol â phroses rheoli newid y Cyngor, a hynny o 19 Ionawr 2023;

 

1.2.3         Ystyried yn ffurfiol yr argymhelliad wedi'i wneud gan y Pwyllgor Penodiadau ar 10 Ionawr 2023 i'r Cyngor, fod swydd Cyfarwyddwr – Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd (Cyfarwyddwr Lefel 1) yn cael ei neilltuo i Mr Andrew Wilkins yn unol â phroses rheoli newid y Cyngor, a hynny o 19 Ionawr 2023;

 

1.2.4         Ystyried yn ffurfiol yr argymhelliad wedi'i wneud gan y Pwyllgor Penodiadau ar 10 Ionawr 2023 i'r Cyngor, fod Mr Barrie Davies yn cael ei benodi i swydd Dirprwy Brif Weithredwr a Chyfarwyddwr Cyfadran – Cyllid a Gwasanaethau Digidol a Rheng Flaen (gradd Cyfarwyddwr Cyfadran) yn  ...  view the full Cofnodion text for item 79.