Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Y Pafiliynau, Parc Hen Lofa'r Cambrian, Cwm Clydach, Tonypandy, CF40 2XX

Cyswllt: Julia Nicholls -Gwasanaethau Democrataidd  01443 424098

Cyfryngau

Eitemau
Rhif eitem

48.

Croeso ac Ymddiheuriadau

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Croesawodd y Llywydd bawb i gyfarfod hybrid y Cyngor a derbyniwyd ymddiheuriad am absenoldeb gan Gynghorwyr y Fwrdeistref Sirol D Evans, G Hopkins, W Owen, S Powderhill, M Powell, J Turner, D Williams a T Williams.

 

49.

Datgan Buddiant

Derbyn datganiadau o fuddiannau personol gan Aelodau yn unol â'r Cod Ymddygiad.

 

1.     Mae gofyn i Aelodau ddatgan rhif a phwnc yr eitem y mae eu buddiant yn ymwneud ag e a mynegi natur y buddiant personol hwnnw; a 

2.     Lle bo Aelodau'n ymneilltuo o'r cyfarfod o ganlyniad i ddatgelu buddiant sy'n rhagfarnu, rhaid iddyn nhw roi gwybod i'r Cadeirydd pan fyddan nhw'n gadael.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Yn unol â Chod Ymddygiad y Cyngor, cafodd y datganiadau o fuddiant canlynol eu gwneud yngl?n â'r agenda:

 

Eitem 8 ar yr Agenda – Rhybudd o Gynnig

 

Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol D R Bevan - "Rydw i'n Aelod o Unite the Union"

 

Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol S Emmanuel - "Rydw i'n Aelod o Unite the Union"

 

Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol W Hughes - "Rydw i'n Aelod o Unite the Union"

 

Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol K Johnson - "Rydw i'n Aelod o Unite the Union ac yn Aelod o'r Pwyllgor Trwyddedu"

 

Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol D O Jones - "Rydw i'n Aelod o Unite the Union"

 

Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol G Jones – "Rydw i'n Aelod o Unite the Union"

 

Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol M Maohoub - "Rydw i'n Aelod o Unite the Union"

 

Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol C Middle - "Rydw i'n Aelod o Unite the Union"

 

Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol C Preedy - "Rydw i'n Aelod o Unite the Union"

 

Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol S Trask - "Rydw i'n Aelod o Unite the Union,

 

Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol R Williams - "Rydw i'n aelod o Unite the Union ac yn Stiward siop"

 

50.

Cofnodion pdf icon PDF 292 KB

Cadarnhau cofnodion o gyfarfod y Cyngor, a gynhaliwyd ar 19 Hydref 2022, yn rhai cywir.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNODD y Cyngor gymeradwyo cofnodion y cyfarfod, a gynhaliwyd ar 19 Hydref 2022 yn rhai cywir.

 

51.

Cyhoeddiadau

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

 

Cafodd y cyhoeddiadau canlynol eu gwneud:

 

Ø  Croesawodd y Llywydd Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol A Dennis i'w gyfarfod Cyngor

cyntaf, ar ôl iddo gael ei ethol yn yr isetholiad diweddar.

 

Ø  Dymunodd y Llywydd longyfarch trigolyn o Donypandy, Mr Mason Harris, sydd wedi

cystadlu ym Mhencampwriaeth Cicfosio WCKA y Byd yng Nghaerdydd yn ddiweddar. Ychwanegodd fod Mason eisoes wedi ennill Pencampwriaeth Cymru, ond enillodd medal

aur, arian a dwy fedal efydd er mwyn ennill Pencampwriaeth y Byd. Mae Mason wedi bod

yn cystadlu ers iddo fod yn 4 oed ac mae ei ymrwymiad i'r gamp, trwy fynychu sesiynau hyfforddi bob dydd, wedi ysbrydoli aelodau ifainc o'r tîm. Gofynnodd y Llywydd a fyddai

modd i'r Maer anfon llythyr at Mason i'w longyfarch. 

 

Ø  Croesawodd y Llywydd Mr Paul Mee i'w gyfarfod Cyngor cyntaf fel Prif Weithredwr.

Roedd Arweinydd y Cyngor hefyd wedi rhoi gwybod bod Mr Chris Bradshaw wedi gorffen gweithio i'r Cyngor. Siaradodd yr Arweinydd am arweinyddiaeth gref a synhwyrol y Cyngor,

gan ddymuno pob dymuniad da i'r Prif Weithredwr newydd. Roedd Mr Mee yn ddiolchgar

iawn am y sylwadau gan nodi bod camu i rôl Prif Weithredwr y Cyngor yn frain fawr.

 

Ø  Roedd Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol A Lewis wedi llongyfarch Mr Dane Blacker ar gael

ei ddewis i fod yn rhan o garfan Undeb Rygbi Cymru. Ychwanegodd ei bod hi'n gobeithio

y bydd Dane yn dilyn olion traed Garin Jenkins a Steff Jones, sydd hefyd o Ynys-y-bwl. Nododd y Cynghorydd Ellis fod Ynys-y-bwl yn falch iawn o lwyddiant Dane, a bod holl

drigolion yr ardal yn dymuno pob llwyddiant iddo yn y dyfodol

 

Ø  Roedd Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol A O Rogers wedi cydnabod llwyddiannau trigolion

o ward Hirwaun, Penderyn a Rhigos:

·       Enillodd Mr David James Gwobr Cyflawniad Oes Scouts Cymru gan nodi ei fod

e wedi gwneud cyfraniad mawr i Gr?p Hirwaun;

·       Mae Ms Amy Williams wedi ennill Pencampwriaeth Bowls i Fenywod Ynysoedd

Prydain yn ogystal â'r fedal efydd a enillodd hi ym mis Ebrill;

·       Enillodd Mr Tyler Lee-Jones sawl gwobr ym Mhencampwriaeth Cicfocsio'r Byd a

gafodd ei chynnal yng Nghaerdydd yn ddiweddar, roedd hynny'n cynnwys medal

Aur; 

·       Enillodd Mr Alistair Cope Wobr Rhagoriaeth ym maes Maethu 2022 am ei

Gyfraniad  i'r gymuned faethu.

 

Ø  Cyfeiriodd Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol W Jones at yr achlysur a gynhaliwyd i agor y

caeau 3G newydd yn Nhreherbert a Threorci gan ddiolch i'r Arweinydd, Aelodau'r Cabinet

a'r Cyngor am y cyfleusterau arbennig yma. Roedd y Cynghorydd wedi cydnabod bod Aelodau'r Cabinet, Y Cynghorydd A Crimmings a’r Cynghorydd R Lewis, ynghyd ag Ysgrifennydd Gwladol Cymru wedi mynychu'r achlysur. Dymunodd y Cynghorydd Jones ddiolch i Mr Keith Nicholls, Pennaeth Hamdden, Chwaraeon a Pharciau, a'i staff, yn ogystal

â phlant yr ysgolion cynradd a ddaeth i'r achlysur.

 

 

52.

Datganiadau

Yn unol â Rheol 2 o Weithdrefn Llywodraethu Agored Cyfarfodydd y Cyngor, derbyn datganiadau gan Arweinydd y Cyngor a/neu Gynghorwyr sy'n Aelodau Portffolio o'r Cabinet:

 

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd yr Arweinydd ddiweddariad mewn perthynas â Chyllideb y Cyngor. Er bod y ffigurau diweddaraf o Gyllideb y DU yn darparu rhai adnoddau ychwanegol i Gymru, nododd fod y Cyngor yn aros i weld a fydd unrhyw gyllid canlyniadol ar gyfer Addysg a Gofal Cymdeithasol yn rhan o Setliad Llywodraeth Cymru a fydd yn cael ei gyhoeddi cyn y Nadolig. Pwysleisiodd na fyddai cynnydd yn y Grant Cynnal Ardrethi yn cael effaith ar y diffyg yn y gyllideb gwerth £47miliwn. Rhoddodd yr Arweinydd wybod bod Canghellor y DU wedi cynghori bod angen i Awdurdodau Lleol weithredu o fewn eu cyllidebau a bod hyn yn cyflwyno heriau enfawr, gan ystyried cynnydd mewn costau ynni a chostau bwyd.

 

Nododd yr Arweinydd y bydd y Cyngor yn rheoli pwysau costau drwy addasu gwasanaethau a gweithredu dulliau cyflawni gwahanol.  Ychwanegodd fod y Cyngor wedi gwneud ymrwymiad i'r Undebau Llafur drwy nodi y bydd y Cyngor yn gweithio'n galed er mwyn osgoi diswyddiadau gorfodol, trwy droi at ddiswyddiadau gwirfoddol a dileu swyddi gwag ble y bo'n addas. Rhoddodd wybod i'r Aelodau y bydd y Cyngor yn parhau i weithio gyda chydweithwyr o'r Undebau Llafur er mwyn mynd i'r afael â'r materion yma. Daeth i ben drwy nodi nad oedd y Gyllideb yr wythnos ddiwethaf yn cynnig digon o gymorth er mwyn osgoi bwlch sylweddol yn y gyllideb y flwyddyn nesaf.

 

53.

Cwestiynau gan yr Aelodau pdf icon PDF 276 KB

Derbyn cwestiynau'r Aelodau yn unol â Rheol 9.2 o Weithdrefn y Cyngor.

 

(Nodwch: Caniateir hyd at 20 munud ar gyfer cwestiynau.)

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

1. Cwestiwn gan Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol L Addiscott i Arweinydd y Cyngor, Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol A Morgan:

 

"Pa effaith ydy cynlluniau economaidd Llywodraeth y DU yn ei chael ar brisiau ynni, yn enwedig ar gyfer Awdurdodau Lleol?"

 

Ymateb Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd A Morgan:

O ran ynni annomestig, roedd y Cynghorydd Morgan wedi ymateb trwy ddweud nad oedd unrhyw eglurder mewn perthynas â sut bydd y cynllun yn gweithio ar ôl mis Mawrth. Mae hyn yn golygu nad oes gan fusnesau, sefydliadau'r sector gwirfoddol ac awdurdodau lleol unrhyw sicrwydd o ran beth fyddan nhw'n talu'r flwyddyn nesaf.

Ar gyfer aelwydydd, bydd y cap yn cynyddu ym mis Ebrill y flwyddyn nesaf, o £2,500 i £3,000, sy'n gynnydd sylweddol. Rhoddodd yr Arweinydd wybod nad oes cap cyfwerth ar gael i Awdurdodau Lleol, felly os yw'r Cyngor yn edrych ar opsiynau ynni amgen, megis tyrbinau gwynt, ynni d?r, ffermydd solar ac os yw'n cynhyrchu ei ynni ei hun, bydd hi'n hanfodol defnyddio'r holl ynni (gan ei fod e'n fwy gwerthfawr na gwerthu'r ynni yn ôl i'r Grid Cenedlaethol).

 

Cyfeiriodd yr Arweinydd at y pwysau mawr fydd ar yr Awdurdod Lleol dros y 12 mis nesaf.

 

 

Cwestiwn Ategol:

"Pa ddatrysiadau hir-dymor y mae modd i ni eu hystyried er mwyn osgoi sefyllfaoedd tebyg yn y dyfodol?"

 

Ymateb Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd A Morgan:

Cyfeiriodd yr Arweinydd at yr angen i newid Llywodraeth er mwyn osgoi'r sefyllfaoedd yma gydag economi sy'n tyfu ynghyd â buddsoddi parhaus. Byddai hyn yn effeithio ar bris cyffredinol uned o ynni. Roedd yr Arweinydd hefyd wedi sôn mai dod yn fwy cynaliadwy ar lefel leol a chenedlaethol yw'r ffordd ymlaen a bod Swyddogion y Cyngor yn adolygu ystyriaethau blaenorol mewn perthynas ag opsiynau ynni gwahanol, sydd bellach yn fwy economaidd. Rhoddodd wybod y bydd gofyn i'r Cabinet a'r Cyngor fuddsoddi cyllid sylweddol mewn datrysiadau ynni amgen megis solar ac ynni d?r, fel bod modd i'r Cyngor fod yn fwy hunangynhaliol.

Cyfeiriodd yr Arweinydd at y p?er sydd gan Rwsia dros y cyflenwad nwy yn Ewrop a'r effaith mae hynny'n ei chael ar yr argyfwng ynni. Byddai modd osgoi hyn os oedd modd sicrhau ein bod ni'n hunangynhaliol a chynaliadwy.

2. Cwestiwn gan Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol D Parkin i Arweinydd y Cyngor – Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol A Morgan:

 

"Pa sylwadau sy'n cael eu cyflwyno i Lywodraeth San Steffan mewn perthynas â'r argyfwng cyllid y mae'r Awdurdodau Lleol yn ei wynebu yn y flwyddyn ariannol nesaf?

 

Ymateb Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd A Morgan:

Roedd yr Arweinydd wedi ymateb trwy ddweud ei fod e wedi ysgrifennu at y Prif Weinidog a Changhellor Llywodraeth y DU, yn rhan o'i rôl fel Arweinydd Cyngor RhCT ac Arweinydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, mewn perthynas â'r pwysau y mae Awdurdodau Lleol yn eu hwynebu'r flwyddyn nesaf gan nodi ei fod wedi lobïo Llywodraeth y DU am gyllid ychwanegol.

Ychwanegodd fod rhan helaeth o gronfeydd wrth gefn y Cyngor wedi cael ei neilltuo ar gyfer gwasanaethau penodol,  ...  view the full Cofnodion text for item 53.

54.

Rhaglen Waith y Cyngor 2022/23 - er gwybodaeth

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Cyfarwyddwr Gwasanaeth y Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu Raglen Waith y Cyngor ar gyfer Blwyddyn y Cyngor 2022/23, gan roi gwybod y bydd manylion y cyfarfod Cyngor arbennig ym mis Rhagfyr yn cael eu rhannu maes o law. Ychwanegodd y bydd y cyfarfod Cyngor yn cael ei gynnal ar 18 Ionawr 2023. Byddai hyn yn cynnwys busnes y Cyngor fel sydd wedi'i bennu yn y rhaglen waith a bydd manylion am Strategaeth Cyfranogiad y Cyhoedd a'r Cyfansoddiad yn cael eu rhannu cyhyd â bod y materion yma'n cael eu trafod gan Bwyllgor y Cyfansoddiad a'r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu.

 

 

55.

CRONFA BENSIWN RHONDDA CYNON TAF 2021/22 – DATGANIAD O GYFRIFON AC ADRODDIAD ARCHWILIO ALLANOL pdf icon PDF 801 KB

Derbyn adroddiad y Cyfarwyddwr Cyllid a Gwasanaethau Digidol.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Cyfarwyddwr Cyllid a Gwasanaethau Digidol wybod bod fersiwn terfynol o gyfrifon wedi'u harchwilio'r gronfa ar gyfer y flwyddyn sy'n dod i ben ar 31 Mawrth, 2022, yn cael eu cyflwyno i'r Cyngor, ac yntau'n Awdurdod Gweinyddu ar gyfer Cronfa Bensiwn RhCT. Ychwanegodd fod y broses archwilio allanol bellach wedi'i chwblhau, a chyflwynodd Mr Mike Jones, o Archwilio Cymru, er mwyn iddo ddarparu crynodeb o'r adroddiad archwilio diwedd blwyddyn.

 

Cyflwynodd Mr M Jones, Archwilio Cymru, Adroddiad Archwilio Cyfrifon Cronfa Bensiwn RhCT gan Archwilio Cymru, gan gyfeirio Aelodau'n benodol at baragraff 4 a 5 sy'n pennu lefelau perthnasedd eleni gwerth £45miliwn. Roedd Mr Jones yn dymuno cydnabod bod yr adroddiad byr a chadarnhaol yn adlewyrchu camddatganiadau argraffyddol a fformatio (fel sydd wedi'i nodi ym mharagraff 11,12 a 13 o'r adroddiad). Aeth ati i roi clod i Wasanaeth Cyllid Cyngor RhCT. Rhoddodd Mr Jones wybod bod oedi wrth gymeradwyo cyfrifon RhCT o ganlyniad i broblemau sy'n ymwneud â seilwaith a sut mae hyn yn cael ei chyfrif. Ychwanegodd fod yr oedi yma'n digwydd ar lefel genedlaethol gyda Llywodraeth Cymru yn ystyried trechu statudol ar hyn o bryd.

 

Rhoddodd y Cyfarwyddwr Cyllid a Gwasanaethau Digidol wybod nad oedd unrhyw broblemau sy'n peri pryder, ychwanegodd fod cyfrifon y gronfa wedi'u hatodi ynghyd â'r llythyr o gynrychiolaeth. Nododd y Cyfarwyddwr fod trefniadau llywodraethu cynhwysfawr y gronfa wedi bod yn effeithiol trwy gydol y flwyddyn a bod y cyfrifon wedi cael eu hadolygu gan y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio ar 7 Medi 2022. Ni chafodd unrhyw bryderon a fyddai'n atal y Cyngor rhag cymeradwyo'r cyfrifon yma eu codi yn ystod y cyfarfod.

 

Dymunodd yr Arweinydd ddiolch i Archwilio Cymru gan gydnabod y gwaith ymgysylltu a'r cydweithio llwyddiannus. Dymunodd hefyd ddiolch i Gyfarwyddwr Cyllid a Gwasanaethau Digidol a'i garfanau am reoli cyfrifon y Cyngor gan ystyried nifer y grantiau sydd wedi'u prosesu yn ystod y blynyddoedd diwethaf.

 

Ar ôl trafod yr adroddiad, PENDERFYNWYD:

 

1.  Cymeradwyo a nodi Datganiad o Gyfrifon Cronfa Bensiwn Rhondda Cynon Taf (Atodiad 1), a'r Llythyr o Gynrychiolaeth cysylltiedig (Atodiad 2); a

 

2. Nodi deilliant cyfarfod y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio a gynhaliwyd ar 7 Medi 2022 yn unol â gofynion y Mesur Llywodraeth Leol (paragraff 8.2).

 

 

56.

Adroddiad Canol Blwyddyn Cylch Rheoli’r Trysorlys 2022-23 pdf icon PDF 290 KB

Derbyn adroddiad y Cyfarwyddwr Cyllid a Gwasanaethau Digidol.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Yn unol â gofynion Cod Ymarfer Sefydliad Siartredig Cyllid Cyhoeddus a Chyfrifyddiaeth mewn perthynas â Rheoli'r Trysorlys, rhoddodd y Cyfarwyddwr Cyllid a Gwasanaethau Digidol wybod i'r Aelodau am weithgarwch Rheoli'r Trysorlys y Cyngor yn ystod 6 mis cyntaf 2022/23 a'r Dangosyddion Darbodus a Thrysorlys yn ystod y cyfnod yma.

 

Rhoddodd y Cyfarwyddwr wybod bod modd i'r Cyngor barhau i gynnal ei strategaeth fuddsoddi risg isel er gwaetha'r sefyllfa economaidd. Mae'r strategaeth yn cyflawni'n dda gyda chyfradd uwch o log sy'n gysylltiedig â risg o'i chymharu ag eraill. Ychwanegodd nad oedd unrhyw ofynion benthyca yn y tymor agos yn debygol o fod yn ofynion sylweddol na hir dymor a bydd benthyca byr dymor yn mynd i'r afael â hyn.

 

Rhoddodd y Cyfarwyddwr wybod bod yna un risg sy'n gysylltiedig â dod â dyled LOBO y Cyngor i ben, cyfanswm y ddyled LOBO yn 2022/23 yw £31miliwn, gyda chyfradd llog o 4.5%.  Nododd y Cyfarwyddwr y bydd y Cyngor yn defnyddio cymysgedd o ddulliau benthyca er mwyn sicrhau'r gwerth gorau am arian.

 

Ar ôl trafod y mater, PENDERFYNWYD cymeradwyo cynnwys yr adroddiad.

 

57.

Rhybudd o Gynnig pdf icon PDF 281 KB

Trafod y Rhybudd o Gynnig isod sydd wedi’i gyflwyno yn enwau:

 

A. Morgan, M. Webber, L. Addiscott, M. D. Ashford, J. Barton, D. R. Bevan, J. Bonetto, S. Bradwick, J. Brencher, G. Caple, J. Cook, A. Crimmings, S. J. Davies, R. Davis, V. Dunn, E. L. Dunning, J. Edwards, J. A. Elliott, L. Ellis, S. Emanuel, R. Evans, A. S. Fox, R. Harris, S. Hickman, G. Holmes, G. Hopkins, W. Hughes, G. Jones, G. O. Jones, R. R. Lewis, W. Lewis, C. Leyshon, M. Maohoub, C. Middle, N. H. Morgan, S. Morgans, M. A. Norris, D. Owen-Jones, D. Parkin, S. Powderhill, C. Preedy, S. Rees, A. Roberts, J. Smith, G. Stacey, L. A. Tomkinson, W. Treeby, J. Turner, G. L. Warren, K. Webb, D. Williams, G. E. Williams, R. Williams, T. Williams, R. Yeo:

 

 

Mae Unite yn cynnal yr ymgyrch 'Get Me Home Safely' i sicrhau bod trafnidiaeth ar gael i weithwyr yr economi nos a gweithwyr sifftiau er mwyn iddyn nhw gyrraedd adref yn ddiogel. Mae'r gweithwyr yma'n aml yn ei chael hi'n anodd dod o hyd i drafnidiaeth ar ôl canol nos, a thalu amdani.  Mae modd darllen rhagor am yr ymgyrch Get ME Home Safely | Make Our Communities & Workplaces Safer (unitetheunion.org) 

Mae gan Gynghorau rôl allweddol i'w chwarae wrth weithio gyda busnesau a phartneriaid cymunedau diogel er mwyn sicrhau bod modd i bobl sy'n gweithio ac yn byw yn eu cymuned leol gyrraedd adref yn ddiogel.

Mae'r Cyngor yma'n nodi:

  • Bod gweithwyr mewn amrywiaeth o ddiwydiannau'n gweithio sifftiau, yn enwedig lletygarwch, iechyd a gofal, manwerthu, glanhau, diogelwch a phorthorion. Mae hyn yn aml yn cynnwys gweithio gyda'r nos.
  • Bod nifer o weithwyr, yn enwedig menywod, yn dod yn fwy pryderus am eu diogelwch wrth deithio i'r gwaith ac yn ôl gyda'r nos.
  • Er ei bod hi'n bosibl bod cyflogwyr yn teimlo bod eu dyletswydd gofal o ran staff yn dod i ben wrth i weithiwr orffen sifft, mae angen iddyn nhw hefyd ystyried teithio adref, yn enwedig yn ystod oriau anghymdeithasol.
  • Bod gwybodaeth gan Unite yn dangos bod y gwendid o ran gorfodi'r gyfraith mewn perthynas ag ymosodiadau rhywiol ar drafnidiaeth gyhoeddus, gan gynnwys tynnu llun o dan ddilledyn rhywun arall, yn ofnadwy. Deallir mai dim ond 2% o ddioddefwyr yn rhoi gwybod am achosion o aflonyddu rhywiol ar drafnidiaeth gyhoeddus.
  • Bod ymgyrch Unite the Union, Get Me Home Safely, sy'n galw ar bob cyflogwr i gymryd pob cam rhesymol i sicrhau bod modd i weithwyr gyrraedd adref yn ddiogel gyda'r nos ar ôl gweithio, yn un sydd ei hangen yn fawr a dylid ei chefnogi.
  • Bod angen i ragor o staff trafnidiaeth gyhoeddus dderbyn hyfforddiant ar sut i nodi a rhoi gwybod am achosion o aflonyddu rhywiol a bod angen cymryd camau pellach er mwyn gorfodi'r gyfraith o ran ymosodiadau ac aflonyddwch rhywiol ar drafnidiaeth gyhoeddus.

 

Bydd y Cyngor yma yn:

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniwyd y Rhybudd o Gynnig canlynol yn enwau:

 

A. Morgan, M. Webber, L. Addiscott, M. D. Ashford, J. Barton. D. R. Bevan, J. Bonetto, S. Bradwick, J. Brencher, G. Caple, J. Cook, A. Crimmings, S. J. Davies, R. Davis, V. Dunn, E. L. Dunning, J. Edwards, J. A. Elliott, L. Ellis, S. Emanuel, R. Evans, A. S. Fox, R. Harris, S. Hickman, G. Holmes, G. Hopkins, W. Hughes, G. Jones, G. O. Jones, R. R. Lewis, W. Lewis, C. Leyshon, M. Maohoub, C. Middle, N. H. Morgan, S. Morgans, M. A. Norris, D. Owen-Jones, D. Parkin, S. Powderhill, C. Preedy, S. Rees, A. Roberts, J. Smith, G. Stacey, L. A. Tomkinson, W. Treeby, J. Turner, G. L. Warren, K. Webb, D. Williams, G. E. Williams, R. Williams, T. Williams, R. Yeo:

 

 

Mae Unite yn cynnal yr ymgyrch 'Get Me Home Safely' i sicrhau bod trafnidiaeth ar gael i weithwyr yr economi nos a gweithwyr sifftiau er mwyn iddyn nhw gyrraedd adref yn ddiogel. Mae'r gweithwyr yma'n aml yn ei chael hi'n anodd dod o hyd i drafnidiaeth ar ôl canol nos, a thalu amdani.  Mae modd darllen rhagor am yr ymgyrch Get ME Home Safely | Make Our Communities & Workplaces Safer (unitetheunion.org) 

Mae gan Gynghorau rôl allweddol i'w chwarae wrth weithio gyda busnesau a phartneriaid cymunedau diogel er mwyn sicrhau bod modd i bobl sy'n gweithio ac yn byw yn eu cymuned leol gyrraedd adref yn ddiogel.

Mae'r Cyngor yma'n nodi:

  • Bod gweithwyr mewn amrywiaeth o ddiwydiannau'n gweithio sifftiau, yn enwedig lletygarwch, iechyd a gofal, manwerthu, glanhau, diogelwch a phorthorion. Mae hyn yn aml yn cynnwys gweithio gyda'r nos.
  • Bod nifer o weithwyr, yn enwedig menywod, yn dod yn fwy pryderus am eu diogelwch wrth deithio i'r gwaith ac yn ôl gyda'r nos.
  • Er ei bod hi'n bosibl bod cyflogwyr yn teimlo bod eu dyletswydd gofal o ran staff yn dod i ben wrth i weithiwr orffen sifft, mae angen iddyn nhw hefyd ystyried teithio adref, yn enwedig yn ystod oriau anghymdeithasol.
  • Bod gwybodaeth gan Unite yn dangos bod y gwendid o ran gorfodi'r gyfraith mewn perthynas ag ymosodiadau rhywiol ar drafnidiaeth gyhoeddus, gan gynnwys tynnu llun o dan ddilledyn rhywun arall, yn ofnadwy. Deallir mai dim ond 2% o ddioddefwyr yn rhoi gwybod am achosion o aflonyddu rhywiol ar drafnidiaeth gyhoeddus.
  • Bod ymgyrch Unite the Union, Get Me Home Safely, sy'n galw ar bob cyflogwr i gymryd pob cam rhesymol i sicrhau bod modd i weithwyr gyrraedd adref yn ddiogel gyda'r nos ar ôl gweithio, yn un sydd ei hangen yn fawr a dylid ei chefnogi.
  • Bod angen i ragor o staff trafnidiaeth gyhoeddus dderbyn hyfforddiant ar sut i nodi a rhoi gwybod am achosion o aflonyddu rhywiol a bod angen cymryd camau pellach er mwyn gorfodi'r gyfraith o ran ymosodiadau ac aflonyddwch rhywiol ar drafnidiaeth gyhoeddus.

 

Bydd y Cyngor yn:

  • Cefnogi ymgyrch 'Get Me Home Safely' Unite the Union. 
  • Ailddatgan ei ymrwymiad i gymryd camau cadarnhaol i atal trais yn erbyn menywod a merched a sicrhau bod  ...  view the full Cofnodion text for item 57.

58.

Materion Brys

Trafod unrhyw faterion sydd, yn ôl doethineb y Cadeirydd, yn faterion brys yng ngoleuni amgylchiadau arbennig.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Llywydd wybod y bydd adroddiad y Cyfarwyddwr Gwasanaeth, Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu mewn perthynas â 'Newid Aelodaeth Pwyllgorau' yn cael ei drafod nawr, fel mater brys.

 

59.

NEWID AELODAETH PWYLLGORAU pdf icon PDF 152 KB

 

Derbynadroddiad y Cyfarwyddwr Gwasanaeth, Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd Cyfarwyddwr Gwasanaeth - Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu wybod am y newidiadau i gynrychiolaeth y Gr?p Llafur ar Bwyllgor y Gronfa Bensiwn ac Elusen Edward Thomas yn lle cyn-Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol Marcia Rees-Jones.

 

Ar ôl trafod yr adroddiad, PENDERFYNWYD nodi y bydd:

 

1. Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol N Morgan yn cael ei enwebu yn lle cyn-Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol M Rees-Jones yn rhan o Bwyllgor y Gronfa Bensiwn;

 

2. Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol A Dennis yn cael ei enwebu yn lle cyn-Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol Marcia Rees-Jones ar Fwrdd Elusen Edward Thomas.