Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Y Pafiliynau, Parc Hen Lofa'r Cambrian, Cwm Clydach, Tonypandy, CF40 2XX

Cyswllt: Julia Nicholls -Gwasanaethau Democrataidd  01443 424098

Cyfryngau

Eitemau
Rhif eitem

34.

Croeso ac ymddiheuriadau am fod yn absennol

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

 Croesawodd y Cadeirydd y rheiny a oedd yn bresennol i gyfarfod hybrid y Cyngor a daeth ymddiheuriadau am absenoldeb i law oddi wrth Gynghorwyr y Fwrdeistref Sirol J Barton, H Gronow, G Hopkins, K Morgan, D Owen-Jones, S Powderhill, W Treeby a D Williams.

 

 

35.

Datgan Buddiant

Derbyn datganiadau o fuddiannau personol gan Aelodau yn unol â'r Cod Ymddygiad.

 

1.     Mae gofyn i Aelodau ddatgan rhif a phwnc yr agendwm y mae eu buddiant yn ymwneud ag e a mynegi natur y buddiant personol hwnnw; a 

2.     Lle bo Aelodau'n ymneilltuo o'r cyfarfod o ganlyniad i ddatgelu buddiant sy'n rhagfarnu, rhaid iddyn nhw roi gwybod i'r Cadeirydd pan fyddan nhw'n gadael.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Yn unol â Chod Ymddygiad y Cyngor, ni wnaethpwyd unrhyw ddatganiadau mewn perthynas â'r agenda.

 

36.

Cofnodion pdf icon PDF 247 KB

Cadarnhau cofnodion o gyfarfod y Cyngor, a gynhaliwyd ar 28 Medi 2022, yn rhai cywir.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNODD y Cyngor gymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 28 Medi  2022 yn rhai cywir.

 

37.

Cyhoeddiadau

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y cyhoeddiadau canlynol eu gwneud:

 

Cyhoeddodd y Llywydd fod Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol M Rees-Jones wedi ymddiswyddo o'i rôl yn Gynghorydd Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf ers y cyfarfod diwethaf, a hynny am resymau personol. Croesawodd hefyd yr Aelod newydd dros Ynys-y-bwl, Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol Paula Evans i'w chyfarfod Cyngor Llawn cyntaf.

 

Gyda thristwch mawr, cyhoeddodd y Cynghorydd A Crimmings fod y cyn-Gynghorydd John Evans wedi marw ac roedd hi wedi bod i'w angladd yn gynharach yn y dydd. Ychwanegodd mai fe oedd yr Aelod Lleol dros Orllewin Aberdâr gynt, ac yn aelod o Gyngor Bwrdeistref Cwm Cynon.

 

Cyhoeddodd y Cynghorydd A Morgan fod y cyn-Gynghorydd Edward Hopkins hefyd wedi marw. Fe oedd yr Aelod Lleol dros Lwynypia gynt, a chyn-Faer Bwrdeistref Cwm Rhondda. Aeth Arweinydd y Cyngor ati i gynnal munud o dawelwch yn y cyfarfod er cof am y ddau gyn-Gynghorydd.

 

Cafwyd teyrngedau gan Arweinydd y Cyngor i Mr Chris Bradshaw a oedd ar fin ymddeol o'i swydd yn Brif Weithredwr. Hwn oedd cyfarfod olaf y Cyngor Llawn i Mr Bradshaw, a chafodd ei ganmol am ei 21 mlynedd o wasanaeth i’r Cyngor. Cafwyd negeseuon o ddiolch iddo oddi wrth Arweinwyr yr holl Grwpiau, a hynny am ei ymroddiad, ei ymrwymiad a'i agwedd gadarnhaol at waith yn ystod ei gyfnod gyda'r Cyngor. Croesawodd yr Arweinydd hefyd Mr Paul Mee yn Brif Weithredwr newydd.

 

Cyhoeddodd y Cynghorydd S Bradwick fod Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol Gareth Jones wedi'i benodi'n Is-Gadeirydd y Gynghrair a dymunodd yn dda iddo yn ei rôl newydd.

 

Talodd y Cynghorydd S Bradwick deyrnged hefyd i un o'i drigolion, Mr Roger Davies, sydd wedi bod yn codi sbwriel yn Eglwys Sant Ioan ers dros 30 mlynedd a dim ond nawr, oherwydd afiechyd, y mae'n rhoi'r gorau i hyn. Gofynnodd y Cynghorydd Bradwick a fyddai modd anfon llythyr oddi wrth y Maer at Mr Davies i anrhydeddu ei waith caled a'i ymrwymiad i'r gymuned.

 

Aeth y Llywydd ati i gynnal munud o dawelwch yn y cyfarfod er cof am y 116 o blant a 28 o oedolion a fu farw yn nhrychineb Aber-fan 56 mlynedd yn ôl. Arweiniodd Arweinydd y Cyngor y teyrngedau i'r rheiny a fu farw, a nododd Dirprwy Arweinydd yr wrthblaid ac Arweinwyr y Grwpiau eraill eu cydymdeimlad hefyd i nodi'r pen-blwydd.

 

38.

Datganiadau

Yn unol â Rheol 2 o Weithdrefn Llywodraethu Agored Cyfarfodydd y Cyngor, derbyn datganiadau gan Arweinydd y Cyngor a/neu Gynghorwyr sy'n Aelodau Portffolio o'r Cabinet:

 

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ø  Gwnaeth y Dirprwy Arweinydd ddatganiad mewn perthynas â llwyddiant a chydnabyddiaeth i Gyngor Rhondda Cynon Taf wrth gadw ei wobr 'Cyflogwr Aur' Cyfamod y Lluoedd Arfog, a hynny am ei gefnogaeth barhaus i gymuned y Lluoedd Arfog a’u teuluoedd. Dywedodd y Dirprwy Arweinydd fod Gwobr Aur Cynllun Cydnabod Cyflogwyr y Weinyddiaeth Amddiffyn wedi’i hail-ddilysu wrth i’r awdurdod lleol barhau i annog cyflogwyr a gweithwyr i gefnogi’r Lluoedd Arfog a’u cymuned ac ysbrydoli eraill i wneud yr un peth. Roedd hi wedi cydnabod gwaith Jamie Island, Swyddog Cyswllt y Lluoedd Arfog, sydd hefyd yn gweithio ar y cyd ag awdurdodau lleol eraill.

 

Ø  Gwnaeth yr Arweinydd ddatganiad mewn perthynas â sefyllfa ariannol y Cyngor a'r gwaith sy'n mynd rhagddo ar gyfer y flwyddyn yma a'r flwyddyn nesaf. Cyfeiriodd at gyfarfod a gynhaliodd yn gynharach gydag Arweinwyr y Grwpiau, y Cyfarwyddwr Cyllid a'r Dirprwy Arweinydd i drafod gwybodaeth yr oedd yn bwriadu ei rhannu â'r holl Aelodau heddiw. Fel yr amlinellwyd yn adroddiad y Cynllun Ariannol Tymor Canolig diweddar i'r Cyngor Llawn, dywedodd fod yr awdurdod lleol yn wynebu gorwariant posibl o £21 miliwn eleni oherwydd pwysau cyflogau, dyfarniadau cyflog, pwysau chwyddiant a'r cynnydd o ran costau ynni. Mae hyn yn unol ag awdurdodau lleol eraill o faint tebyg. Gallai llywodraeth leol yng Nghymru wynebu gorwariant o £257 miliwn.

 

Dywedodd yr Arweinydd y gallai’r flwyddyn nesaf fod yn gyfnod anodd iawn i’r awdurdod lleol a’i bod yn debygol y byddai’r diffyg ariannol o £36 miliwn a amlinellwyd yn adroddiad y Cynllun Ariannol Tymor Canolig i’r Cyngor Llawn rhwng £45 miliwn a £47 miliwn. Dyma ffigwr digynsail, hyd yn oed o'i gymharu â'r blynyddoedd o galedi a brofwyd yn flaenorol. Roedd yr Arweinydd yn ofni y byddai'r cynllun cyllidol tymor canolig i'w gyhoeddi ar 31 Hydref yn golygu toriadau o ran gwariant ac y byddai'r Grant Cynnal Refeniw, a ystyriwyd yn wreiddiol yn seiliedig ar y setliad dros dro i lywodraeth leol, yn debygol o ostwng. Bydd gostyngiad o 2% yn y Grant Cynnal Refeniw (codiad o 1½%) yn ychwanegu tua £9 miliwn at y diffyg ariannol.

 

Dywedodd yr Arweinydd fod tua 80% o gyllideb y Cyngor yn cael ei wario ar staff, ac felly mae'n anochel y byddai raid gostwng lefelau staffio ym mhob rhan o'r awdurdod lleol. Ychwanegodd fod gyda'r Cyngor berthynas waith dda â'r undebau llafur sy'n rhan o drafodaethau yngl?n ag unrhyw newidiadau i wasanaethau. Dywedodd y byddai cyfarfodydd gyda chynrychiolydd y gangen leol yn cael eu cynnal i drafod y sefyllfa bresennol. Dywedodd yr Arweinydd nad yw'r sefyllfa yma'n unigryw i Gyngor RhCT nac i awdurdodau lleol eraill gan y bydd cyrff cyhoeddus eraill hefyd yn wynebu'r un anawsterau a phwysau.

 

Aeth yr Arweinydd ati i atgoffa'r Cyngor fod cyfrifoldeb statudol arno i osod cyllideb gytbwys yn gyfreithiol, ac mewn cytundeb â'i Gabinet, y bwriad yw parhau i rannu'r wybodaeth ddiweddaraf yn rheolaidd â grwpiau trawsbleidiol, y Cabinet a'r Cyngor Llawn.

 

I gloi, priodolodd yr Arweinydd yr heriau diweddar i lywodraeth y DU, gan ddweud bod  ...  view the full Cofnodion text for item 38.

39.

Cwestiynau gan yr Aelodau pdf icon PDF 250 KB

Derbyn cwestiynau'r Aelodau yn unol â Rheol 9.2 o Weithdrefn y Cyngor.

 

(Nodwch: Caniateir hyd at 20 munud ar gyfer cwestiynau.)

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

1) Cwestiwn gan Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol D Parkin i Arweinydd y Cyngor – Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol A Morgan:

 

“A all Arweinydd y Cyngor rannu'r wybodaeth ddiweddaraf â ni am roi'r Cyflog Byw Gwirioneddol ar waith yn y sector gofal cymdeithasol yn RhCT?”

 

Ymateb Arweinydd y Cyngor, A Morgan:

Dywedodd yr Arweinydd fod y broses o gytuno ar brisiau contractau ym maes contractau gofal cymdeithasol Gwasanaethau i Oedolion yn mynd rhagddi'n dda. Mae cyfraddau wedi’u hadolygu a’u cynyddu ar gyfer darparwyr annibynnol i’w galluogi i dalu’r Cyflog Byw Gwirioneddol i staff a chyfradd RhCT o £10 yr awr fel y cytunwyd arni gan y Cabinet.

Ychwanegodd yr Arweinydd mai dim ond pum darparwr allanol o'r 40 darparwr sy'n gweithredu yn RhCT sy'n talu'r gyfradd Cyflog Byw Gwirioneddol o £9.90, yn hytrach na'r ymrwymiad y mae'r Cyngor wedi gofyn amdano, sef £10 yr awr. Ar y cyfan, mae'r darparwyr yma'n sefydliadau cenedlaethol lle caiff strwythurau cyflogau mewnol eu pennu. Mae'r Cyngor yn trafod â nhw ac mae o'r farn y dylai'r holl ddarparwyr allanol dalu'r Cyflog Byw Gwirioneddol.

Mewn perthynas â'r Gwasanaethau i Blant, dywedodd yr Arweinydd fod y Cyngor yn ymgysylltu â darparwyr gofal preswyl allanol ar hyn o bryd i asesu effaith costau gwasanaethau a'r wybodaeth gyfredol am gyflogau a graddfeydd. Pwysleisiodd fod unrhyw un sy'n gweithio yn yr awdurdod lleol eisoes yn derbyn y Cyflog Byw Gwirioneddol, ynghyd â 10c yr awr yn fwy, sy'n cyfateb i hanner miliwn o bunnoedd yn ychwanegol. Dydy'r Cyngor ddim wedi'i achredu'n gyflogwr Cyflog Byw Gwirioneddol eto, er bod camau ar waith i gyflawni'r achrediad yma yn y dyfodol.

Nid oedd unrhyw gwestiwn ategol.

 

2) Cwestiwn gan Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol V Dunn i Arweinydd y Cyngor – Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol A Morgan:

 

“Mae llywodraeth y DU yn parhau i ddarparu’r cymorth lleiaf posibl wrth i filiynau ddechrau teimlo gwir effeithiau’r argyfwng costau byw. Mae'r rhagolygon yn nodi cynnydd pellach o ran costau ynni ar gyfer yr hydref. A all yr Arweinydd amlinellu pa drafodaethau sy'n cael eu cynnal neu ba fesurau y mae’r Cyngor yn eu cymryd i helpu i ddiogelu trigolion?”

Ymateb Arweinydd y Cyngor, A Morgan:

Dywedodd yr Arweinydd fod y Cyngor yn gwneud popeth o fewn ei allu i fynd i'r afael â'r argyfwng costau byw, er iddo gyfeirio at yr angen i lywodraeth y DU ddarparu ymyriadau ariannol angenrheidiol. Roedd hefyd yn falch o glywed bod y clo triphlyg ar bensiynau wedi'i gadarnhau yn ddiweddar.

 

Mynegodd yr Arweinydd ei bryder am deuluoedd ar Gredyd Cynhwysol. Ychwanegodd fod y Cyngor wedi cyhoeddi cynllun cymorth â chostau byw atodol lleol gwerth £2.89 miliwn yn ddiweddar i roi cymorth pellach i deuluoedd a thrigolion sy'n debygol o gael eu heffeithio gan yr argyfwng. Amlinellodd yr Arweinydd 4 maes cymorth penodol, megis taliad o £75 i deuluoedd ag un plentyn neu fwy o oedran ysgol gorfodol (fesul teulu), pecyn cymorth gwerth £50,000 wedi'i ddarparu i fanciau bwyd lleol ac ar gyfer cynlluniau cymorth bwyd, taliad o £125 i  ...  view the full Cofnodion text for item 39.

40.

Rhaglen Waith y Cyngor 2022/23 - er gwybodaeth i Aelodau

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth - Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu Raglen Waith y Cyngor ar gyfer 2022/23, gan  ddweud y byddai adroddiad Cyflawniad Corfforaethol drafft 2022/23 yn cael ei rannu â'r Cyngor Llawn yn y flwyddyn newydd. Dywedodd hefyd y mae'n bosibl y bydd angen gofyn am gyfarfod arbennig o'r Cyngor ym mis Rhagfyr unwaith y bydd manylion y setliad llywodraeth leol yn hysbys, fel yr amlinellwyd yn flaenorol gan Arweinydd y Cyngor.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth y byddai cyfarfod arbennig o'r Cyngor am 3.30pm y mis nesaf lle bydd cynrychiolwyr o Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg yn bresennol. I gloi, adroddwyd bod angen yr ymatebion i'r ymgynghoriad ar Arolwg Ffiniau Cymru erbyn 15 Tachwedd. Oherwydd hyn felly, bydd ymateb terfynol y Cyngor yn cael ei lunio yn ystod cyfarfod y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu. Mae gwahoddiad i holl Aelodau'r Cyngor fod yn bresennol.

 

41.

Gostyngiadau Treth y Cyngor pdf icon PDF 125 KB

Derbyn adroddiad y Cyfarwyddwr Cyllid a Gwasanaethau Digidol.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cyllid a Digidol ei adroddiad mewn perthynas â gostyngiadau Treth y Cyngor – Dosbarth Penodedig o Anheddau. Dywedodd fod yr adroddiad yn bodloni'r gofyniad i'r Cyngor gadarnhau'n flynyddol y defnydd o ostyngiadau ar gyfer dosbarthiadau o anheddau, sef ail gartrefi ac eiddo gwag hirdymor. Dywedodd y Cyfarwyddwr nad yw'r Cyngor ar hyn o bryd yn dyfarnu gostyngiadau i swm llawn Treth y Cyngor sy'n daladwy mewn perthynas ag ail gartrefi. Nid yw ychwaith yn dyfarnu unrhyw ostyngiad mewn perthynas ag eiddo gwag y tu hwnt i'r cyfnod eithrio statudol, sef 6 mis.

 

Cynigiodd y Cyfarwyddwr bod y Cyngor yn parhau â'r trefniadau presennol ar gyfer Blwyddyn y Cyngor 2022 i 2023.

 

Ar ôl trafod yr adroddiad, PENDERFYNWYD cytuno i barhau â pheidio â rhoi unrhyw ostyngiad Treth y Cyngor mewn perthynas ag eiddo Dosbarth A, B ac C.

 

42.

Penderfyniadau Gweithredol Brys pdf icon PDF 106 KB

Derbyn adroddiad y Cyfarwyddwr Gwasanaeth – Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Yn unol â Rheolau Gweithdrefn Trosolwg a Chraffu 17.2(a), cyflwynodd Cyfarwyddwr Gwasanaeth y Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu drosolwg o'r Penderfyniadau Brys a gyflwynwyd gan Bwyllgor y Cabinet a Phenderfyniadau Dirprwyedig Swyddog Allweddol Brys a gyflwynwyd y tu allan i Bwyllgor y Cabinet yn ystod y cyfnod Mehefin – Medi 2022.

 

PENDERFYNWYD nodi'r wybodaeth yn yr adroddiad.

 

43.

Newid Aelodaeth Pwyllgorau pdf icon PDF 155 KB

Derbynadroddiad y Cyfarwyddwr Gwasanaeth, Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Newid Aelodaeth Pwyllgorau

 

Cytunwyd i ystyried yr adroddiadau aelodaeth wedi'u nodi yn eitem 8 ar yr agenda a'r adroddiad brys wedi'i nodi yn eitem 11 ar yr agenda ar y pwynt yma. Rhoddodd Cyfarwyddwr Gwasanaeth – Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu wybod am y newidiadau i gynrychiolaeth y Gr?p Llafur ar Bwyllgor y Gronfa Bensiwn a'r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu, gan ofyn am enwebiadau ar gyfer Is-gadeirydd y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu ar gyfer Blwyddyn y Cyngor 2022 i 2023. Dywedodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth hefyd am y newid i gynrychiolaeth Gr?p Plaid Cymru ar y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio a'r Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd.

 

Ar ôl trafod yr adroddiad, PENDERFYNWYD nodi y bydd:

 

1. Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol Gareth Jones yn cael ei enwebu yn lle Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol R Evans ar Bwyllgor y Gronfa Bensiwn

 

2. Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol Martin Ashford yn cael ei enwebu yn lle cyn-Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol Marcia Rees-Jones ar y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu

 

3. Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol J Brencher yn cael ei phenodi'n Is-gadeirydd y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu ar gyfer Blwyddyn y Cyngor 2022 i 2023

 

4. Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol Paula Evans yn cael ei henwebu i'w phenodi i'r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio, a bydd

 

5. Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol Paula Evans yn cael ei henwebu i'w phenodi i'r Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd.

 

 

 

 

44.

Pwyllgor Safonau – Penodi Aelodau Annibynnol ac Aelodau o'r Cyngor Cymuned pdf icon PDF 138 KB

Derbyn adroddiad Swyddog Monitro y Cyngor.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cyfreithiol ei adroddiad mewn perthynas â deilliannau'r broses a gynhaliwyd i lenwi lleoedd gwag ar Bwyllgor Safonau'r Cyngor, yn benodol Aelod Annibynnol (lleyg) ac aelod sy'n cynrychioli'r Cyngor Cymuned (ynghyd ag Aelod wrth gefn).

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr fod  y Panel Penodiadau wedi cwrdd ar 30 Medi 2022i gyfweld ar gyfer penodi Aelod Annibynnol o'r Pwyllgor Safonau am gyfnod o chwe blynedd ac Aelod o'r Cyngor Cymuned (ac Aelod wrth gefn hefyd) am dymor tan yr etholiadau cyffredin nesaf (yn 2027).

 

Yn dilyn cadarnhad gan Gadeirydd y Panel Penodiadau, PENDERFYNWYD :

 

1.        Cymeradwyo argymhelliad y Panel Penodiadau i benodi Mrs Helen John yn Aelod Annibynnol o'r Pwyllgor Safonau am gyfnod o chwe blynedd gan gychwyn ar 20  Hydref 2022.

 

2.         Cymeradwyo argymhelliad y Panel Penodiadau i benodi'r Cynghorydd Cymuned Lynwen Law (Cyngor Cymuned Hirwaun a Phenderyn) yn Aelod Cyngor Cymuned o'r Pwyllgor Safonau am dymor tan yr etholiadau llywodraeth leol arferol nesaf.

 

3.         Cymeradwyo argymhelliad y Panel Penodiadau i benodi’r Cynghorydd Cymuned Carl Thomas (Cyngor Tref Pontypridd) yn Aelod Cyngor Cymuned wrth gefn o’r Pwyllgor Safonau am dymor tan yr etholiadau llywodraeth leol arferol nesaf.