Lleoliad: Hybrid
Cyswllt: Julia Nicholls - Democratic Services 01443 424098
Rhif | eitem |
---|---|
Ymddiheuriad Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cafodd ymddiheuriad dros absenoldeb ei dderbyn gan Gynghorwyr y Fwrdeistref Sirol D Owen-Jones, C Lisles, G Hopkins, a T Williams.
|
|
Hysbysiad Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Gwnaeth Arweinydd yr Wrthblaid, y Cynghorydd K Morgan, gyhoeddiad am farwolaeth drasig Paul Wigley, Llyfrgellydd Cangen Llyfrgell Hirwaun, a thalodd deyrnged iddo a’i flynyddoedd lawer o wasanaeth i’w gymuned. Darllenodd y Cynghorydd K Morgan deyrnged i Paul, a ysgrifennwyd gan ei gyd-weithwyr, gan nodi ei angerdd am y gwasanaeth llyfrgell a’i synnwyr o dosturi, yn ogystal â disgrifio'r golled enfawr a deimlwyd gan drigolion Hirwaun.
Yn dilyn y deyrnged, cymerodd yr Aelodau ran mewn munud o dawelwch er cof am Paul.
|
|
Datganiadau o Fuddiant Derbyn datganiadau o fuddiannau personol gan Aelodau yn unol â gofynion Cod Ymddygiad y Cyngor
1. Mae gofyn i Aelodau ddatgan rhif a phwnc yr agenda y mae eu buddiant yn ymwneud ag e a mynegi natur y buddiant personol hwnnw; a 2. Lle bo Aelodau'n ymneilltuo o'r cyfarfod o ganlyniad i ddatgelu buddiant personol sy'n rhagfarnu, rhaid iddyn nhw roi gwybod i'r Cadeirydd pan fyddan nhw'n gadael.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Yn unol â Chod Ymddygiad y Cyngor, doedd dim datganiadau o fuddiant yngl?n â'r agenda.
|
|
Penodi Prif Weithredwr PDF 132 KB Trafod Adroddiad y Cyfarwyddwr Materion Adnoddau Dynol.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Yn yr adroddiad, gofynnodd y Cyfarwyddwr, Adnoddau Dynol i'r Cyngor gytuno'n ffurfiol i hysbysebu swydd y Prif Weithredwr parhaol yn dilyn hysbysiad ffurfiol gan y Prif Weithredwr presennol, Mr Chris Bradshaw, o'i fwriad i ymddeol ar 30 Tachwedd 2022.
Dywedodd y Cyfarwyddwr y byddai hysbyseb ar gyfer swydd y Prif Weithredwr yn cael ei llunio cyn gynted ag y bo hynny'n ymarferol pe byddai'r Cyngor yn cytuno ar benodiad parhaol. Y Pwyllgor Penodiadau fyddai'n llunio'r rhestr fer ac yn cynnal y broses asesu yn unol â rheolau gweithdrefn y Cyngor.
Roedd Arweinydd a Dirprwy Arweinydd y Cyngor yn dymuno cofnodi eu diolch i Mr Bradshaw am ei arweiniad dros y saith mlynedd diwethaf a dymunon nhw'n dda iddo ar ei ymddeoliad. Aeth Arweinydd yr Wrthblaid hefyd ati i gydnabod arweinyddiaeth Mr Bradshaw o Gyngor RhCT hyd yma.
Yn dilyn ystyried a thrafod y mater, gan hynny, PENDERFYNWYD –
1. Cyfarwyddo'r Cyfarwyddwr Adnoddau Dynol i osod hysbyseb ar gyfer swydd y Prif Weithredwr cyn gynted ag y bo'n ymarferol; a
2. Nodi na fyddai’r sawl a benodwyd yn llwyddiannus yn cymryd y swydd tan 1 Rhagfyr 2022.
|