Lleoliad: Hybrid
Cyswllt: Julia Nicholls - Democratic Services 01443 424098
Rhif | eitem | |||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Ymddiheuriad Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Daeth ymddiheuriad am absenoldeb gan Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol G. Hopkins |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Datganiadau o Fuddiant Derbyn datganiadau o fuddiannau personol gan Aelodau yn unol â gofynion Cod Ymddygiad y Cyngor
1. Mae gofyn i Aelodau ddatgan rhif a phwnc yr agenda y mae eu buddiant yn ymwneud ag e a mynegi natur y buddiant personol hwnnw; a 2. Lle bo Aelodau'n ymneilltuo o'r cyfarfod o ganlyniad i ddatgelu buddiant personol sy'n rhagfarnu, rhaid iddyn nhw roi gwybod i'r Cadeirydd pan fyddan nhw'n gadael.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Yn unol â Chod Ymddygiad y Cyngor, doedd dim datganiadau o fuddiant yngl?n â'r agenda.
|
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Ethol Llywydd y Cyngor Ethol Llywydd y Cyngor.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD – ethol Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol G Hughes i fod yn Llywydd ar gyfer Blwyddyn y Cyngor 2022/23.
Yn dilyn hyn, cymerodd Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol G Hughes y Gadair ac anerchodd y Cyngor yn ei rôl fel Llywydd.
|
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Ethol Dirprwy Lywydd y Cyngor PDF 131 KB Derbyn adroddiad y Cyfarwyddwr Gwasanaeth – Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth, Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu ei adroddiad a oedd yn cynnig penodi dau Ddirprwy Lywydd yn rhan o strwythur democrataidd y Cyngor, a hynny i gyflawni swyddogaethau'r Llywydd yn ei absenoldeb fel Cadeirydd y Cyngor.
Dywedodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth y byddai'r trefniant yn sicrhau, o dan y rhan fwyaf o amgylchiadau, y byddai un o blith y tri Aelod ar gael i gadeirio cyfarfod hybrid yn y siambr. Mae hyn yn hanfodol er mwyn sicrhau bod cyfarfodydd a ddarlledir yn fyw yn mynd rhagddynt yn ddidrafferth. Pe bai’r Cyngor yn cytuno i’r cynnig, argymhellwyd y dylid penodi Llywydd a dau Dirprwy Lywydd newydd yn flynyddol yng Nghyfarfod Cyffredinol Blynyddol y Cyngor, ac y dylai Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cyfreithiol (yn rhinwedd ei rôl yn Swyddog Monitro) dderbyn awdurdod dirprwyedig i wneud unrhyw newidiadau i Gyfansoddiad y Cyngor yn sgil hynny.
Ar ôl trafod, PENDERFYNWYD:
1. Penodi dau Ddirprwy Lywydd i strwythur y Cyngor i gyflawni swyddogaethau gweinyddol Cadeirydd y Cyngor yn absenoldeb y Llywydd;
2. Penodi dau Ddirprwy Lywydd ar gyfer Blwyddyn y Cyngor 2022-2023 (yn eitem 4 ar yr agenda 'Etholiadau a Phenodiadau') ac yn flynyddol yn y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol wedi hynny; a
3. Y bydd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cyfreithiol (yn rhinwedd ei rôl yn Swyddog Monitro) yn diwygio Cyfansoddiad y Cyngor i adlewyrchu'r newidiadau yn yr argymhellion uchod ac yn gwneud unrhyw newidiadau angenrheidiol yn sgil hynny.
|
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Etholiadau a Phenodiadau b) Ethol Dirprwy Lywydd(ion) y Cyngor (yn amodol ar ganlyniad yr adroddiad sydd wedi'i nodi yn eitem 3 ar yr Agenda)
c) Derbyn anerchiad gan Faer y Cyngor ar gyfer 2021-22. d) Ethol Maer Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf ar gyfer Blwyddyn y Cyngor 2022-23. (Er mwyn i'r Maer gyhoeddi ei gymar/ei chymar ar gyfer Blwyddyn y Cyngor 2022-2023)
e) Penodi Dirprwy Faer Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf ar gyfer Blwyddyn y Cyngor 2022-23. (Er mwyn i'r Dirprwy Faer gyhoeddi ei gymar/ei chymar ar gyfer Blwyddyn y Cyngor 2022-2023).
f) Penodi Arweinydd y Cyngor. g) Cadarnhau bod Arweinydd yr Wrthblaid fwyaf yn cael ei benodi'n/ei phenodi'n Arweinydd yr Wrthblaid.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ethol Dau Ddirprwy Lywydd y Cyngor
PENDERFYNWYD – ethol Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol Sheryl Evans i fod yn Ddirprwy Lywydd cyntaf ar gyfer Blwyddyn y Cyngor 2022/23.
PENDERFYNWYD – ethol Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol Barry Stephens yn ail Ddirprwy Lywydd ar gyfer Blwyddyn y Cyngor 2022/23.
Derbyn anerchiad gan ddwy Faer y Cyngor ar gyfer 2021-2022.
Manteisiodd Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol J Bonetto ar y cyfle i fyfyrio ar ei chyfnod yn Faer Rhondda Cynon Taf am ran gyntaf Blwyddyn y Cyngor 2021/22, cyn iddi hi ymddiswyddo yn dilyn cael ei phenodi'n Aelod o'r Cabinet ar faterion Addysg a Gwasanaethau Cynhwysiant. Diolchodd i bawb a oedd wedi ei helpu i godi swm sylweddol, mwy na £30,000 i’w helusennau, sef Help for Heroes, AP Cymru a 2 Wish, sy’n gwneud gwaith rhagorol yn y gymuned.
Diolchodd Maer diweddaraf y Fwrdeistref Sirol, y Cynghorydd W Treeby i'w rhagflaenydd, y Cynghorydd Jill Bonetto, a’i llongyfarch ar godi arian sylweddol yn ystod cyfnod anodd. Dywedodd y Cynghorydd Treeby ei bod hi wedi bod yn fraint cael bod yn Faer Rhondda Cynon Taf dros y misoedd diwethaf. Diolchodd i'r trigolion, y cymunedau a'r swyddogion oedd wedi ei chefnogi hi a'i helusennau.
Wrth ymateb i hyn, talodd Aelodau deyrnged i'r ddwy Faer, gan gymeradwyo a chanmol eu holl waith ac ymdrechion caled yn ystod eu cyfnod yn y swydd.
Ethol Maer Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf ar gyfer Blwyddyn y Cyngor 2022-2023.
PENDERFYNWYD - ethol Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol W Treeby yn Faer Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf ar gyfer Blwyddyn y Cyngor 2022-2023.
Dywedodd y Cynghorydd Treeby ei bod hi'n anrhydedd enfawr gwasanaethu'n Faer Rhondda Cynon Taf yn ystod blwyddyn hanesyddol i'r fwrdeistref sirol wrth ddathlu Jiwbilî Platinwm y Frenhines, yn ogystal â chroesawu Baton y Frenhines sy'n dod i Rondda Cynon Taf unwaith yn rhagor cyn Gemau'r Gymanwlad. Cyfeiriodd at Ryddid y Fwrdeistref Sirol, a fydd yn cael ei gyflwyno i arwr rygbi Cymru, Neil Jenkins MBE, a hefyd i bob gweithiwr hanfodol yn y fwrdeistref sirol er mwyn cydnabod eu hymrwymiad drwy gydol y pandemig byd-eang.
Yn ystod ei chyfnod yn Faer RhCT, cyhoeddodd y Cynghorydd Treeby mai Ambiwlans Awyr Cymru, y Gymdeithas Strôc a Green Meadow Riding for the Disabled, fydd yr elusennau y bydd hi'n eu cefnogi. Bydd hi hefyd yn dal ati i gefnogi’r Lluoedd Arfog.
Dymunodd yr Aelodau’n dda i'r Maer newydd ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod.
Penodi Dirprwy Faer Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf ar gyfer Blwyddyn y Cyngor 2023 - 2023.
PENDERFYNWYD - ethol Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol W Lewis yn Ddirprwy Faer Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf ar gyfer Blwyddyn y Cyngor 2022-2023.
Llongyfarchodd y Dirprwy Faer y Maer newydd, yn ogystal â diolch am yr anrhydedd o gael ei hethol yn Ddirprwy Faer ar gyfer 2022-23.
Penodi Arweinydd y Cyngor
PENDERFYNWYD – penodi Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol A Morgan yn Arweinydd y Cyngor ar gyfer Blwyddyn y Cyngor 2022-23.
Diolchodd Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol A ... view the full Cofnodion text for item 157. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Swyddogaethau Gweithredol Nodi Cynllun yr Arweinydd parthed Dirprwyo Swyddogaethau Gweithredol, gan gynnwys penodi Dirprwy Arweinydd ac Aelodau’r Cabinet, i’w cyflwyno gan yr Arweinydd yn ystod cyfarfod y Cyngor.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD nodi'r Cabinet a'u swyddogaethau unigol, fel y ganlyn: -
· Y Cyng. C Leyshon - Aelod o'r Cabinet ar faterion yr Hinsawdd a Gwasanaethau Corfforaethol Infrastructure & Investment
|
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Adolygiad - Trefniadau Trosolowg a Chraffu 2022-2027 PDF 311 KB Derbyn adroddiad y Cyfarwyddwr Gwasanaeth – Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth, Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu ei adroddiad, a oedd yn egluro'r trefniadau hanfodol ar gyfer tymor nesaf y Cyngor (2022-2027) ac yn amodol ar gytundeb yr Aelodau, gofynnodd am gymeradwyaeth i ddiwygio'r Cyfansoddiad i adlewyrchu'r cynigion yn yr adroddiad.
Cyfeiriodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth yr Aelodau at y modelau craffu arfaethedig fel y’u nodir yn adran 6 o’r adroddiad, a fyddai’n cefnogi ac yn ymateb i ofynion a chyfarwyddyd Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021. Dywedodd y byddai'r gostyngiad yn nifer y pwyllgorau craffu yn arwain at gynnydd yn amlder y cyfarfodydd o'r cylch chwe wythnos presennol.
I gynorthwyo'r Aelodau, adroddodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth ar gylch gorchwyl arfaethedig pob un o'r pedwar pwyllgor craffu thematig, gan nodi unrhyw newidiadau i'r model presennol yn ôl yr angen.
I gloi, amlygodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth y rhesymau dros y newidiadau arfaethedig i'r strwythur craffu megis cydbwyso Rhaglenni Gwaith y Pwyllgorau Craffu a chaniatáu rhagor o waith rhag-graffu ar benderfyniadau allweddol y Cabinet a fydd yn cefnogi Cynllun Corfforaethol y Cyngor ymhellach.
Ar ôl trafod yr adroddiad, PENDERFYNWYD:
1. Cefnogi argymhellion 'Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd' mewn perthynas â threfniadau craffu arfaethedig y Cyngor yn y dyfodol, fel y manylir arnynt yn yr adroddiad yma;
2. Cytuno y byddai Cylch Gorchwyl pob Pwyllgor Craffu yn cael ei adolygu, ei fireinio a'i gytuno gan y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu yn ei gyfarfod cyntaf yn dilyn y CCB, yn dilyn cytundeb ymlaen llaw gan y Cadeiryddion ac Is-gadeiryddion Craffu.
3. Cytuno i roi awdurdod i Gyfarwyddwr y Gwasanaethau Cyfreithiol (yn rhinwedd ei rôl yn Swyddog Monitro) i ddiweddaru Cyfansoddiad y Cyngor yn briodol i adlewyrchu'r newidiadau i Gylchoedd Gorchwyl y Pwyllgorau, unwaith y byddan nhw wedi'u cytuno.
|
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cydbwysedd Gwleidyddol y Cyngor PDF 179 KB Trafod adroddiad ar y cyd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cyfreithiol a Chyfarwyddwr Gwasanaeth, Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Yn ei adroddiad ar y cyd â Chyfarwyddwr y Gwasanaethau Cyfreithiol, dywedodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth, Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu, wrth yr Aelodau am ganlyniad yr adolygiad o Gydbwysedd Gwleidyddol yr Awdurdod yn dilyn yr etholiadau Llywodraeth Leol ar 5 Mai 2022.
Amlygodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth ganlyniadau'r adolygiad a gynhaliwyd a'r seddi sydd ar gael sydd angen eu llenwi gan y grwpiau gwleidyddol priodol fel y nodir yn nhablau A a B yr atodiad i'r adroddiad. Cyfeiriodd hefyd at y dyraniad o Gadeiryddion pwyllgorau craffu yn amodol ar gytuno ar y trefniadau craffu diwygiedig a gynhigiwyd gan Bennaeth y Gwasanaethau Democrataidd.
Dywedodd fod Adran 5 yn gofyn i'r Cyngor benderfynu ar ddyraniad yr hysbysiadau cynnig ar gyfer blwyddyn newydd y Cyngor, ac y gofynnir am awdurdod hefyd ar gyfer y penodiadau i'r Pwyllgorau unwaith y derbynnir yr enwebiadau gan y grwpiau gwleidyddol.
PENDERFYNWYD-
1. Mabwysiadu'r cynllun ar gyfer dyrannu seddi i'r gwahanol gyrff a grwpiau gwleidyddol y mae Adran 15 o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 yn gymwys iddo, fel y manylir yn yr Atodiad i'r adroddiad yma.
2. Awdurdodi'r Cyfarwyddwr Gwasanaeth, Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu, i benodi i gyrff gwleidyddol cytbwys, pan fydd yn derbyn hysbysiad o ddymuniadau'r gr?p gwleidyddol, yn amodol ar dderbyn unrhyw geisiadau dilynol i newid aelodaeth y Pwyllgorau sydd wedi'u cyfeirio at y Cyngor.
3. Bod y dyraniad o ran cyflwyno Rhybuddion o Gynnig ar gyfer Blwyddyn y Cyngor 2022-2023 fel y ganlyn:
Llafur - 12 Plaid Cymru - 5 Gr?p Annibynnol RhCT - 2 Y Blaid Geidwadol - 1
(Nodyn: Cafodd cynnig a gollwyd i newid dyraniad y Rhybuddion o Gynnig o’r hyn a nodir i Llafur - 12, Plaid Cymru - 4, Gr?p Annibynnol RhCT - 3 a'r Blaid Geidwadol - 1, ei gynnig gan y Cynghorydd M Powell a'i eilio gan y Cynghorydd C Lisles).
|
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cyfansoddiad y Cyngor – Newidiadau Arfaethedig PDF 216 KB Trafod adroddiad ar y cyd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cyfreithiol a'r Cyfarwyddwr Gwasanaeth – Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Amlinellodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cyfreithiol y diwygiadau arfaethedig i Gyfansoddiad y Cyngor, fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad ar y cyd sy'n ceisio cymeradwyaeth y Cyngor i'r diwygiadau arfaethedig i'r Cyfansoddiad fel y'u hamlinellir yn Atodiadau A, B, C a D i'r adroddiad. Dywedodd y Cyfarwyddwr fod y cynigion yn adlewyrchu newidiadau deddfwriaethol gan gynnwys newidiadau canlyniadol sydd eu hangen yn sgil darpariaethau perthnasol yn Neddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021. Daeth y mwyafrif o'r rhain i rym ar 5 Mai 2022.
Cyfeiriodd y Cyfarwyddwr at y crynodeb o ddarpariaethau Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 a nodir yn adran 5.1 o’r adroddiad a ddaeth i rym ar 5 Mai 2022.
Yn dilyn trafodaethau PENDERFYNWYD cytuno ar y diwygiadau arfaethedig sy'n ymwneud â Chyfansoddiad y Cyngor fel y'u nodwyd yn atodiadau A, B, C a D, ac yn yr adroddiad fel y ganlyn:
Atodiad A (Rhan 1 – Canllaw Cryno ac Eglurhad); Atodiad B (Rhan 2 – Erthyglau'r Cyfansoddiad); Atodiad C (Rhan 3 – Cyfrifoldeb am Swyddogaethau - dyfyniad); a Atodiad D (Rhan 4 - Rheolau Gweithdrefn - dyfyniad)
|
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Penodi Aelodau Pwyllgorau 2022-2023 PDF 141 KB Trafod adroddiad y Cyfarwyddwr Gwasanaeth, Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu sy'n rhannu argymhellion mewn perthynas â phenodi Aelodau i'r Pwyllgorau canlynol ar gyfer Blwyddyn y Cyngor 2022-2023.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu ei adroddiad, a oedd yn gofyn am benodi Pwyllgorau canlynol y Cyngor ar gyfer Blwyddyn y Cyngor 2022-2023:
PENDERFYNWYD Penodi'r Pwyllgorau sydd wedi'u nodi isod ar gyfer Blwyddyn y Cyngor 2022-2023:-
a) Pwyllgor Cynllunio a Datblygu (11 Aelod) b) Pwyllgor Trwyddedu (11 Aelod) c) Pwyllgor Penodi (5 Aelod) ch) Pwyllgor Apeliadau / Apeliadau Gweithwyr / Apeliadau Prif Swyddogion (5 Aelod) d) Pwyllgor Trosolwg a Chraffu (14 Aelod) dd)Pwyllgor Craffu - Addysg a Chynhwysiant (14 Aelod) e)Pwyllgor Craffu - Gwasanaethau Cymuned (14 Aelod) f) Pwyllgor Craffu - Materion yr Hinsawdd, Gwasanaethau Rheng Flaen a Ffyniant (14 Aelod) ff)Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio (6 Aelod) g) Pwyllgor y Gwasanaethau Democrataidd (17 Members) ng) Y Pwyllgor Safonau (2 Aelod) h) Pwyllgor y Cyfansoddiad (8 Aelod) i)Pwyllgor y Gronfa Bensiwn (5 Aelod) j)Cydbwyllgor Trosolwg a Chraffu Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Cwm Taf (5 Aelod)
|
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Penodi Cadeiryddion ac Is-gadeiryddion 2022-2023 PDF 202 KB Trafod adroddiad y Cyfarwyddwr Gwasanaeth – Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Yn ei adroddiad gofynnodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth, Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu, am ystyriaeth i benodi Cadeiryddion ac Is-Gadeiryddion i Bwyllgorau'r Cyngor ar gyfer Blwyddyn y Cyngor 2022-2023, a chadarnhau pa rolau Cadeiryddion Pwyllgorau a fydd yn gymwys ar gyfer uwch gyflog yn unol â'r gofynion. gyda phenderfyniadau'r IRP. PENDERFYNWYD:
1. Penodi'r Aelodau canlynol i swyddi Cadeiryddion ac Is-gadeiryddion:
2. Penodi Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol W Jones yn Gadeirydd Pwyllgor y Gwasanaethau Democrataidd a Chynghorydd y Fwrdeistref Sirol M.Webber yn Is-gadeirydd ar y pwyllgor hwnnw, yn unol â'r amodau a bennwyd ym Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011 (y 'Mesur');
3. Nodi, yn unol â gofynion Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021, ac yng nghyfarfod y Cyngor a gynhaliwyd ar y 20 Hydref 2021, cytunwyd i ymestyn tymor swydd yr Aelod Lleyg presennol a benodwyd i'r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio, Mr. Christopher Jones, tan yr Etholiadau Llywodraeth Leol arferol ym mis Mai 2027 (sydd wedi'u hamserlennu ar hyn o bryd ar gyfer Mai 2027).
4. Cytuno y dylai'r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio fod yn gyfrifol am benodi'r Is-gadeirydd ar gyfer y pwyllgor hwnnw;
5. Bod penodiad Cadeirydd y Pwyllgor Craffu - Addysg a Chynhwysiant yn cael ei ddyrannu i Gr?p Plaid Cymru;
6. Yn unol â'r enwebiadau a dderbyniwyd gan y Grwpiau Gwleidyddol priodol, bod yr Aelodau canlynol yn cael eu penodi'n Gadeiryddion ac Is-gadeiryddion y Pwyllgorau Craffu sydd wedi'u nodi isod:--
7. Nodi penodiad y Llywydd a'r Dirprwy Lywydd - y Cynghorwyr G. Hughes a Sheryl Evans - yn Gadeirydd ac Is-gadeirydd y Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol a Materion Cyfansoddiadol, yn y drefn honno;
8. Nodi, ar gyfer Blwyddyn y Cyngor 2022-2023, y bydd Cadeirydd ac Is-gadeirydd Cydbwyllgor Trosolwg a Chraffu Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Cwm Taf (JOSC) yn cael eu penodi gan y Cydbwyllgor hwnnw; a
9. Bod y 19 swydd a ganlyn, sy’n bodloni’r meini prawf cymhwyso ac a fyddai’n denu Cyflogau Uwch Swyddogion, i’w talu gan y Cyngor yma ar gyfer Blwyddyn y Cyngor 2022/23 yn y modd canlynol:
|
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cyrff Lled Farnwrol/Pwyllgorau Ad Hoc 2022-2023 PDF 35 KB Trafod adroddiad y Cyfarwyddwr Gwasanaeth – Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth Gwasanaethau Democrataidd ei adroddiad mewn perthynas â phenodi Aelodau i'r Pwyllgorau Lled-Farnwrol/Pwyllgorau Ad Hoc ar gyfer Blwyddyn y Cyngor 2022 - 2023 yn amodol ar gydbwysedd gwleidyddol y Cyngor fel y nodir isod:
PENDERFYNWYD penodi'r canlynol:
1. Pwyllgor Penodi Llywodraethwyr yr Awdurdod Addysg Lleol (5 Aelod). (4 Llafur, 1 Plaid Cymru): Cynghorwyr y Fwrdeistref Sirol R Lewis, G Stacey, J Brencher, S Hickman a Sera Evans
2. Panel Ymddeol yn Gynnar o Wirfodd / Ymddiswyddo (5 Aelod – 4 Llafur, 1 Plaid Cymru): Cynghorwyr y Fwrdeistref Sirol M Webber, L Tomkinson, J Bonetto, G Jones a D Grehan.
3. Cydbwyllgor Ymgynghori (4 Aelod): Cynghorwyr y Fwrdeistref Sirol A Crimmings, R Lewis, M Webber ac A Morgan
|
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Derbyn adroddiad y Cyfarwyddwr Gwasanaeth, Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu sy'n nodi bod angen penodi cynrychiolwyr i'r cyrff allanol.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ar ôl ystyried adroddiad y Cyfarwyddwr Gwasanaeth, Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu PENDERFYNWYD - y byddai'r Aelodau isod yn cael eu penodi i'r Cydbwyllgorau Anweithredol a'r Cyrff Allanol canlynol ar gyfer Blwyddyn y Cyngor 2022-2023: -
· AgeConcern Cymru (1 cynrychiolydd) y Cynghorydd G Caple · Consortiwm Awdurdodau Lleol Cymru (C.L.A.W.) (1 cynrychiolydd) y Cynghorydd C Leyshon · Pwyllgor Bowls Dan Do Cwm Cynon (1 cynrychiolydd) Y Cynghorydd Andrew Morgan · Elusen Edward Thomas (4 cynrychiolydd) y Cynghorwyr R Lewis, R Williams, A Fox, M Rees Jones · Cyngor Cyswllt Cymru (2 gynrychiolydd) y Cynghorwyr M Webber a C Leyshon · Y Gynghrair (3 chynrychiolydd) y Cynghorwyr S Powderhill, G Jones, E Dunning · Pwyllgor Cyswllt Safle'r T?r (3 chynrychiolydd) y Cynghorwyr K Morgan, L Addiscott a Scott Emanuel · Tribiwnlys Prisio Cymru - Panel Penodi (1 cynrychiolydd) y Cynghorydd C Leyshon · Bwrdd Canolfan Cydweithredol Cymru (1 cynrychiolydd) y Cynghorydd M Norris · Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (5 cynrychiolydd) Y Cynghorwyr A Morgan, M Webber, M Norris, R Lewis a C Leyshon · Bwrdd Gweithredol Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (1 cynrychiolydd / 1 is-gynrychiolydd) y Cynghorydd A Morgan a'r Cynghorydd M Webber yn y drefn honno · Bwrdd Llywodraethwyr Coleg y Cymoedd (1 cynrychiolydd) Mrs G Davies · Ymddiriedolaeth Judges Hall (1 cynrychiolydd) y Cynghorydd G Hughes) · Cist Gymunedol RhCT (1 cynrychiolydd) y Cynghorydd A Crimmings · Cymdeithas y Lluoedd Wrth Gefn a'r Cadetiaid (1 cynrychiolydd) y Cynghorydd C Preedy · Trivallis (1 cynrychiolydd) y Cynghorydd B Stephens
· Awdurdod Tân ac Achub De Cymru (4 cynrychiolydd) y Cynghorwyr S Bradwick, A Roberts, G Holmes a D Parkin
· Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog (APC)(1 cynrychiolydd) y Cynghorydd S Emmanuel
(Noder: Roedd yr Aelodau a ganlyn yn dymuno i’w henwau gael eu cofnodi fel rhai a bleidleisiodd o blaid penodi’r Cynghorydd Adam Owain Rogers yn gynrychiolydd ar gyfer APC Bannau Brycheiniog: Y Cynghorwyr K Morgan, Sera Evans, D Evans, C Lisles, A Ellis, D Grehan aC M Powell)
· Panel Troseddau Heddlu De Cymru (2 gynrychiolydd) y Cynghorwyr B Harris a L Addiscott
· Cyngor Iechyd Cymuned Cwm Taf (3 chynrychiolydd) y Cynghorwyr Martin Ashford, Emma Dunning ac Amanda Ellis
|
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Calendr o Gyfarfodydd ar gyfer 2022-2023 PDF 320 KB Trafod adroddiad y Cyfarwyddwr Gwasanaeth – Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu mewn perthynas â'r calendr o gyfarfodydd arfaethedig ar gyfer blwyddyn y Cyngor 2022-2023.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion:
|