Agenda a Chofnodion

Cyswllt: Julia Nicholls - Democratic Services  01443 424098

Cyfryngau

Eitemau
Rhif eitem

121.

Croeso ac Ymddiheuriadau

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd y rhai a oedd yn bresennol i gyfarfod hybrid y Cyngor a derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb oddi wrth Gynghorwyr y Fwrdeistref Sirol A Chapman, J Davies, A-Davies Jones, J Edwards, J Elliott, S Evans, M Fidler Jones, M Griffiths, G Holmes , G Hopkins, S Pickering ac S Powderhill.

 

Roedd y Cynghorwyr a’r swyddogion canlynol yn bresennol yn Siambr y Cyngor:

Cynghorwyr y Fwrdeistref Sirol A Morgan, R Bevan, A Crimmings, G Caple, W Lewis, C Leyshon, M Norris, S Rees, R Williams, M Powell, L Walker, E Stephens, S Trask ac L Hooper.

 

Mr C Bradshaw, Prif Weithredwr, Mr B Davies, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cyllid a Digidol, Mr A Wilkins, Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cyfreithiol a Mr C Hanagan, Cyfarwyddwr Gwasanaeth, Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu.

 

122.

Datgan Buddiant

Derbyn datganiadau o fuddiannau personol gan Aelodau yn unol â'r Cod Ymddygiad.

 

1.     Mae gofyn i Aelodau ddatgan rhif a phwnc yr agendwm y mae eu buddiant yn ymwneud ag ef a mynegi natur y buddiant personol hwnnw; a 

2.     Lle bo Aelodau'n ymneilltuo o'r cyfarfod o ganlyniad i ddatgelu buddiant personol sy'n rhagfarnu, rhaid iddyn nhw roi gwybod i'r Cadeirydd pan fyddan nhw'n gadael.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Yn unol â Chod Ymddygiad y Cyngor, cafodd nifer o ddatganiadau o fuddiant eu gwneud yngl?n â'r agenda yn ddiweddarach yn y cyfarfod (Cofnodion 128 a 129):

 

 

Eitem 6 - TRAFODAETH AR SEFYLLFA'R FWRDEISTREF SIROL

 

Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol S Trask - Buddiant Personol - “Mae fy ngwraig wedi'i chyflogi gan GIG Cymru".

 

Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol J Barton - Buddiant Personol – “Rwy'n Gadeirydd ar Gyrff Llywodraethu dwy ysgol yn y Fwrdeistref Sirol”.

 

 

EITEM 7 - MEMORANDWM CYD-DDEALLTWRIAETH YR AELODAU

 

Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol A Morgan – Buddiant Personol – “Rwyf wedi bod yn arwain rhai o’r trafodaethau fel Arweinydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru”.

 

123.

Cyhoeddiadau

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Munud o ddistawrwydd

   

Arweiniodd y Dirprwy Lywydd y cofnod o dawelwch er cof am gyn Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol John Watts a’r cyn Ddirprwy Brif Weithredwr Mr Steve Merritt, a fu farw'n ddiweddar.

 

Er cof am Mr Steve Merritt:

 

Ø  Talodd yr Arweinydd deyrnged i Mr Steve Merritt, a fu'n helpu i lunio a llywio'r Cyngor trwy gyfnod anodd ac yn ei waith fel Swyddog Cyllid a chyn Brif Weithredwr. Dywedodd yr Arweinydd fod Steve yn ?r bonheddig a oedd wedi aros yn gyfaill da yn dilyn ei ymddeoliad o'r Cyngor. Ar ran y Gr?p Llafur, estynnodd ei gydymdeimlad â theulu a chydweithwyr Steve am eu colled.

Ø    Soniodd Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol P Jarman am ei hatgofion o weithio gyda Steve Merritt, a oedd wedi gweithio ei ffordd i fyny’r strwythur rheoli er mwyn dod yn Gyfarwyddwr Gwasanaethau Corfforaethol tan 2014 ac wedyn yn Brif Weithredwr tan 2015. Ar ran Gr?p Plaid Cymru, roedd y Cynghorydd Jarman yn dymuno anfon ei chydymdeimlad diffuant at deulu a ffrindiau Steve.

Ø    Talodd Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol M Powell deyrnged i Steve Merritt ac anfonodd ei gydymdeimlad at deulu a ffrindiau Steve.

 

 

Er cof am gyn Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol John Watts

 

 

Ø     Cyfeiriodd Arweinydd y Cyngor at angerdd John Watts dros y Rhondda a'i gymuned leol, gan nodi ei fod e'n gyn Gynghorydd Bwrdeistref Sirol a weithiodd yn galed dros y trigolion lleol. Talodd yr Arweinydd deyrnged hefyd i ffrind a chydweithiwr da, a chydymdeimlodd â theulu a ffrindiau John.

Ø     Cofiodd Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol P Jarman gyfnod John fel Maer y Cyngor, yn cadeirio cyfarfodydd y Cyngor. Ar ran Gr?p Plaid Cymru, roedd y Cynghorydd Jarman yn dymuno anfon ei chydymdeimlad diffuant at deulu a ffrindiau John.

Ø     Cydnabu Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol M Powell broffesiynoldeb John fel cynghorydd ac ar ran Gr?p Annibynnol RhCT estynnodd ei gydymdeimlad â theulu John ar yr adeg drist hon.

 

Ymddiswyddiad Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol M Tegg:

 

Ø  Cyhoeddodd y Dirprwy Lywydd ymddiswyddiad Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol Margaret Tegg oherwydd salwch. Arweiniodd y teyrngedau iddi ac yna talodd Arweinwyr y Grwpiau deyrnged i'r Cynghorydd Tegg fesul un. Roedd y Cynghorydd Tegg wedi gwasanaethu fel Aelod o’r awdurdod ers 2008 yn cynrychioli ward Cymera bu hi hefyd yn Faer, yn cynrychioli’r Fwrdeistref Sirol ar gyfer Blwyddyn y Cyngor 2017 – 2018. Ar ran yr holl grwpiau gwleidyddol, anfonodd Arweinwyr y Grwpiau eu dymuniadau gorau at y Cynghorydd Margaret Tegg ar ei hymddeoliad.

Talodd y Cynghorydd W Treeby, Maer Rhondda Cynon Taf hefyd deyrnged i'r Cynghorydd Tegg, yn enwedig yn ei rôl fel cyn Faer. Dymunodd y Cynghorydd Treeby ymddeoliad hapus iawn i'r Cynghorydd Tegg.

 

Ø  Cyhoeddodd Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol L Walker fod Ysgol T? Coch, Tonteg wedi dod yn enillwyr cyffredinol ar gyfer Cystadleuaeth Ffilm Diwrnod Defnyddio’r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel 2022 ar gyfer Ysgolion Uwchradd, a gynhelir gan Lywodraeth Cymru. Wrth wneud eu dewis, dywedodd y beirniaid “Roedd y ffilm yn llawn hwyl  ...  view the full Cofnodion text for item 123.

124.

Cofnodion pdf icon PDF 809 KB

Cadarnhau cofnodion o gyfarfod y Cyngor a gynhaliwyd ar 19 Ionawr 2022 yn rhai cywir.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNODD y Cyngor gymeradwyo cofnodion y cyfarfod, a gynhaliwyd ar 19 Ionawr 2022 yn rhai cywir.

 

125.

Datganiadau

Yn unol â Rheol 2 o Weithdrefn Llywodraethu Agored Cyfarfodydd y Cyngor, derbyn datganiadau gan Arweinydd y Cyngor a/neu Gynghorwyr sy'n Aelodau Portffolio o'r Cabinet:

 

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyhoeddodd y Dirprwy Arweinydd, Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol M Webber fod y Cyngor wedi sicrhau swydd ar gyfer Swyddog Treftadaeth a Chofebau gyda chyfweliadau'n cael eu cynnal yr wythnos nesaf. Cyfeiriodd y Cynghorydd Webber at lyfr a ysgrifennwyd gan blant Ysgol y Ddraenen Wen yn dilyn darganfod plac yn Eglwys y Santes Fair yn cynnwys enwau’r rhai a gollodd eu bywydau yn y Rhyfel Byd Cyntaf, 1914-18. Roedd yn dangos pwysigrwydd cofnodi'r wybodaeth, a allai fod wedi'i cholli fel arall.

 

Dywedodd y Cynghorydd Webber fod y Cyngor yn cefnogi gosod darllenfa wybodaeth newydd yng Ngerddi Coffa Cynon a pholion fflag newydd ym Mharc Coffa Ynysyngharad gyda'r bwriad o wneud rhagor o waith yno gydag Arian Treftadaeth y Loteri. Mae cynlluniau i wneud gwaith glanhau pellach ar Gofeb Ryfel Abercynon a chyhoeddodd y Dirprwy Arweinydd fod cwmni arbenigol o Derby wedi adfer y cloc coffa yng Nghofeb Ryfel Penrhiwceibr.

 

Gwnaeth y Cynghorydd Webber sylw ar bwysigrwydd y penodiad newydd a fydd yn helpu i sicrhau bod y safleoedd treftadaeth, y cofebion a'r placiau yn cael eu gwerthfawrogi gan gymunedau ledled RhCT.

 

126.

Cwestiynau gan yr Aelodau pdf icon PDF 439 KB

Derbyn cwestiynau'r Aelodau yn unol â Rheol 9.2 o Weithdrefn y Cyngor.

 

(Nodwch: Caniateir hyd at 20 munud ar gyfer cwestiynau.)

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedwyd wrth yr Aelodau, oherwydd absenoldeb Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol S Rees-Owen, Cadeirydd y Pwyllgor Craffu Plant a Phobl Ifainc, na fyddai Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol G P Thomas yn gofyn cwestiwn 4.

 

 

 

Cwestiwn gan Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol L. Walker i'r Aelod o'r Cabinet ar faterion Addysg a Gwasanaethau Cynhwysiant, Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol J. Bonetto:

 

“Yn wyneb y ffaith fod ysgolion Uwchradd Cymraeg 25% o dan gapasiti, a fyddai’r adran addysg yn ystyried defnyddio’r lleoedd sy'n weddill ar gyfer plant ag anghenion addysgol arbennig er mwyn lleddfu’r gorlenwi mewn ysgolion arbennig, gan fod awdurdodau lleol eraill yng Nghymru yn cynnal dosbarthiadau lloeren mewn ysgolion prif ffrwd”.

 

Ymateb gan y Cynghorydd J Bonetto:

 

Ymatebodd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion Addysg a Gwasanaethau Cynhwysiant, y Cynghorydd Bonetto, yn unol â’r system AAA sydd bron â dod i ben a’r ddeddfwriaeth ADY newydd, fod yr awdurdod lleol yn adolygu digonolrwydd ei ddarpariaeth AAA/ADY yn barhaus fel bod modd i ddisgyblion gael mynediad i leoliadau arbenigol sy’n briodol i’w hanghenion heb oedi. Ychwanegodd fod 44 o Ddosbarthiadau Cynnal Dysgu ar waith ledled y Fwrdeistref Sirol ar hyn o bryd, o'r Cyfnod Sylfaen hyd at ddiwedd Cyfnod Allweddol 4, yn ogystal â 4 ysgol arbennig a 2 uned cyfeirio disgyblion. Caiff yr holl ddarpariaethau eu hadolygu'n rheolaidd yn seiliedig ar ddadansoddiad o anghenion presennol a rhagamcanol y disgyblion.

Dywedodd y Cynghorydd Bonetto fod y Cyngor yn ymateb yn rhagweithiol i unrhyw newid yn y galw am leoliadau dosbarthiadau cynnal dysgu trwy edrych ar y ddarpariaeth yn rheolaidd a cheisio cymeradwyaeth y Cabinet i wella'r cynnig yn ôl yr angen. O fewn yr ychydig fisoedd diwethaf, mae’r Cabinet wedi cymeradwyo cynnig i ymgynghori ar agor Dosbarth Cynnal Dysgu ychwanegol yn Ysgol Garth Olwg ym mis Medi 2022, ar gyfer disgyblion cyfrwng Cymraeg sydd ag ADY sylweddol.

Dywedodd y Cynghorydd Bonetto fod gwaith dadansoddi data trylwyr yn cael ei gyflawni mewn perthynas â thueddiadau yn y galw am leoedd mewn ysgolion arbennig er mwyn sicrhau bod cyflenwad digonol. Mae datblygiadau diweddar i wella capasiti a gwella’r amgylcheddau dysgu yn ein hysgolion arbennig yn cynnwys:

Ø  Mae Ysgol T? Cochwedi elwa o fwy na £350k er mwyn ailfodelu ac ymestyn ardaloedd yn yr ysgol i ddarparu 2 ystafell ddosbarth ychwanegol,yn ogystal â hynny, bu buddsoddiad o £550k ar gyfer creu dosbarth mawr arall.  Mae caniatâd cynllunio wedi’i roi’n ddiweddar i greu dwy ardal addysgu fodiwlaidd ychwanegol ar safle lloeren Ysgol T? Coch ym Muarth y Capel a disgwylir i’r gwaith ar y safle ddechrau’n fuan.

 

Ø  Mae Maesgwyn wedi derbyn buddsoddiad o £600k yn ddiweddar i gyflawni gwelliannau mewnol ac allanol.

 

Ø  Mae Ysgol Lôn y Parc wedi derbyn mwy na £500k ar gyfer gwaith adnewyddu a chynnal a chadw, yn ogystal â chreu ardal addysgu fwy a gwblhawyd yr haf diwethaf. 

 

Ø  Mae Hen Felin hefyd wedi elwa o £200k ar gyfer estyniad ystafell ddosbarth – a gwblhawyd fis diwethaf – tra bod gwaith mewnol yn parhau i ddarparu ardaloedd dysgu ychwanegol.  ...  view the full Cofnodion text for item 126.

127.

Rhaglen Waith Y Cyngor

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth, Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu, mai cyfarfod dilynol y Cyngor fyddai'r cyfarfod olaf a drefnwyd cyn Etholiadau Llywodraeth Leol 2022. Bydd y materion a drafodir yn cynnwys Strategaeth y Gyllideb a gosod Treth y Cyngor, y CDLl Diwygiedig, Polisi Tâl y Cyngor a bydd cyfle i Aelodau gofnodi eu diolch i’r Aelodau hynny nad ydynt yn ceisio cael eu hail-ethol ym mis Mai 2022.

128.

TRAFODAETH AR SEFYLLFA'R FWRDEISTREF SIROL

Yn unol â Rheol 13 o Reolau Gweithdrefn y Cyngor (Rhan 4 o Gyfansoddiad y Cyngor) i fod yn rhan o drafodaeth yr Arweinydd.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Yn unol â Rheol Gweithdrefn 13.2 y Cyngor, nododd y Dirprwy Lywydd ei fod wedi neilltuo 45 munud ar gyfer yr eitem yma, ac yr hoffai wahodd yr Arweinydd i gyfarch y Cyngor ac ymateb i sylwadau Aelodau ar ei Adroddiad Blynyddol.

 

Dywedodd yr Arweinydd fod ei grynodeb blynyddol yn cael ei gyflwyno i'r Cyngor llawn bob blwyddyn yn amlinellu'r hyn y mae'r Cyngor wedi'i gyflawni dros y flwyddyn ddiwethaf ac yn nodi'r hyn y mae am ei gyflawni wrth symud ymlaen.

 

Dywedodd yr Arweinydd fod diweddariad eleni unwaith eto yn cael ei siapio gan effeithiau a chyfyngiadau'r pandemig COVID-19, fel y soniwyd eisoes yn y cyfarfod, a gwasanaethau sydd wedi gorfod addasu ac sydd wedi mynd y tu hwnt i'w rolau fel Gwasanaethau Hamdden a Staff cyllid, sydd wedi talu degau o filiynau mewn grantiau cymorth busnes a chefnogi teuluoedd. Ychwanegodd, fel y bydd yr Aelodau'n ymwybodol, fod y mwyafrif helaeth o wasanaethau'r Cyngor wedi parhau i weithredu, er mewn ffurf wahanol, a bod y Buddsoddiad Cyfalaf wedi parhau lle mae buddsoddiad yn amlwg ar draws y fwrdeistref sirol.

GOFAL CYMDEITHASOL - OEDOLION

 

Dywedodd yr Arweinydd mai dyma'r un maes lle mae galw cynyddol. Mae'r gwasanaeth yn gofyn am symiau sylweddol o fuddsoddiad gan yr awdurdod lleol, yn ystod y flwyddyn ac yn y gyllideb sydd i ddod, ond mae hefyd wedi'i gefnogi'n dda gan Lywodraeth Cymru. Cyfeiriodd yr Arweinydd at gyllid o £50 miliwn gan Lywodraeth Cymru yn ystod y flwyddyn i gefnogi'r pwysau ym maes Gofal Cymdeithasol. Dywedodd yr Arweinydd fod bron i 7,000 o achosion newydd wedi'u hagor dros y 12 mis diwethaf, a hynny gan drigolion yn gofyn am gymorth. Mynegodd yr Arweinydd ei ddiolch i’r holl staff yn y sector hwn a’r sector annibynnol, a chydnabu’r ymdrech ar y cyd o fewn y sector hwn i sicrhau bod y gofal priodol wrth law bob amser, gyda staff o bob sector yn cefnogi cydweithwyr sy’n ynysu gyda covid- 19. Ychwanegodd ei bod wedi bod yn anodd ar adegau i staff reoli’r pwysau o fewn y sector gofal cymdeithasol bob amser, a bod rhywfaint o angen heb ei ddiwallu, fel gyda phob awdurdod lleol. Serch hynny, rhoddodd sicrwydd i’r holl Aelodau bod y carfanau wedi gweithio’n eithriadol o galed am gyfnod hir ac yn gwneud eu gorau glas i ddiwallu anghenion preswylwyr.

 

Cyfeiriodd yr Arweinydd at y gefnogaeth sydd ar gael i alluogi preswylwyr i aros yn eu cartrefi eu hunain trwy wasanaethau megis Gofal a Thrwsio a Grantiau Cyfleusterau i'r Anabl, sydd wedi parhau i gael eu darparu drwy weithio gyda busnesau sector preifat ac adeiladwyr i sicrhau bod modd parhau i gael mynediad i gartrefi mewn modd diogel. 

 

Mewn perthynas â Gofal Ychwanegol/Llety â Chymorth, dywedodd yr Arweinydd fod y Cyngor yn parhau i wneud cynnydd da o ran moderneiddio'r system ofal a ddarperir ar gyfer trigolion h?n y sir. Mae cynllun Tai Gofal Ychwanegol Cwrt yr Orsaf ym Mhontypridd wedi’i gwblhau ac mae’r cynllun Tai Gofal Ychwanegol newydd yn y Porth  ...  view the full Cofnodion text for item 128.

129.

Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth Yr Aelod pdf icon PDF 226 KB

Derbyn adroddiad ar y cyd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cyfreithiol a'r Cyfarwyddwr Gwasanaeth – Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu.

 

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth, Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu ei adroddiad a oedd yn ceisio darparu Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth Aelodau drafft i'r Cyngor, a ddatblygwyd gan y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd, i'w gymeradwyo a'i fabwysiadu. Mae'r Memorandwm yn ceisio cefnogi uchelgeisiau'r Cyngor i hyrwyddo amrywiaeth mewn democratiaeth, a hyrwyddo safonau uchel o ymddygiad a pharch rhwng Aelodau.

 

Bu Pwyllgor Safonau'r Cyngor yn ystyried ac yn cefnogi'r Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth drafft yn ei gyfarfod ym mis Tachwedd ac roedd yn cefnogi'r egwyddorion a gynhwyswyd a'i fanteision arfaethedig. Ystyrir y byddai ei fabwysiadu yn cryfhau safonau a threfniadau moesegol o fewn y Cyngor ac y byddai'n cefnogi ac yn cyd-fynd â Chod Ymddygiad y Cyngor i Aelodau, y Safonau Ymddygiad a Ddisgwylir gan y Polisi Datrysiad Lleol Aelodau a'r Protocol Aelod-Swyddogion.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth y byddai'r Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth, yn amodol ar gytundeb y Cyngor, yn sail i weithgareddau a digwyddiadau 'Dod yn Gynghorydd' i'w cynnal ar 2 a 3 Mawrth 2022.

 

Mewn perthynas ag Adduned Ymgyrch Etholiad Teg a Pharchus, dywedodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth y gofynnir i bob Aelod gefnogi datganiad o egwyddor gyda chynnwys addewid penodol RhCT i'w gytuno gan y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd yn ei gyfarfod dilynol (gyda gwahoddiad i gael ei ymestyn i Arweinwyr Grwpiau neu eu cynrychiolwyr enwebedig). Cynigir y byddai'r adduned wedyn yn rhan o ddeunydd a ddarperir i ymgeiswyr a enwebwyd yn llwyddiannus gan adran Gwasanaethau Etholiadol y Cyngor a hefyd yn cael ei hyrwyddo gan y Cyngor.

 

Yn ystod y drafodaeth, cadarnhaodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cyfreithiol, yn amodol ar y Cyngor yn cytuno â'r argymhellion, y byddai adduned ymgyrch etholiadol deg a pharchus benodol RhCT yn cael ei roi i bob Cynghorydd ar y cyd â'u Cod Ymddygiad ar ôl llofnodi eu datganiad derbyn Swydd.

 

Yn dilyn trafodaeth, PENDERFYNWYD:

 

(i)             Mabwysiadu’r ‘Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth’ drafft, a ddatblygwyd gan y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd ac sydd wedi’i atodi yn Atodiad A, yn dilyn cymeradwyaeth gan Bwyllgor Safonau’r Cyngor er mwyn annog parch pellach at ei gilydd a dangosiad o gydweithio gan Aelodau ar gyfer budd eu cymunedau; a

 

(ii) Fel rhan o fabwysiadu'r Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth hwn, bod y Cyngor yn ymrwymo i gefnogi Adduned Ymgyrch Etholiad Teg a Pharchus, ac yn dirprwyo cyfrifoldeb i'r Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd i gytuno ar ei gynnwys.