Cyswllt: Julia Nicholls - Democratic Services 01443 424098
Rhif | eitem | ||
---|---|---|---|
Ymddiheuriadau Cofnodion: Cafodd ymddiheuriad am absenoldeb ei dderbyn gan Gynghorwyr y Fwrdeistref Sirol M Fidler Jones, K Jones, A Davies-Jones, M Tegg, W Owen a J Williams.
|
|||
Datganiadau o Fuddiant Derbyn datganiadau o fuddiannau personol gan Aelodau yn unol â'r Cod Ymddygiad.
1. Mae gofyn i Aelodau ddatgan rhif a phwnc yr agenda y mae eu buddiant yn ymwneud ag e a mynegi natur y buddiant personol hwnnw; a 2. Lle bo Aelodau'n ymneilltuo o'r cyfarfod o ganlyniad i ddatgelu buddiant personol sy'n rhagfarnu, rhaid iddyn nhw roi gwybod i'r Cadeirydd pan fyddan nhw'n gadael.
Cofnodion: Yn unol â Chod Ymddygiad y Cyngor, cafodd y datganiadau o fuddiant canlynol eu gwneud yngl?n â'r agenda:
Cyhoeddodd Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol P Jarman fod ganddi "Yr hawl i siarad a phleidleisio ar bob mater tra bod proses pennu Cyllideb 2020-2021 yn mynd rhagddi ac yn cael ei mabwysiadu, a hynny fel Arweinydd yr Wrthblaid".
Eitem 11b ar yr Agenda (Rhybudd o Gynnig):
Cyhoeddodd Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol G Jones y buddiant personol a'r buddiant sy'n rhagfarnu canlynol a gadawodd y cyfarfod pan gynhaliwyd pleidlais mewn perthynas â'r eitem - “Rwy'n derbyn Pensiwn y Glowyr”
Cyhoeddodd Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol E George y buddiant personol a'r buddiant sy'n rhagfarnu canlynol a gadawodd y cyfarfod pan gynhaliwyd pleidlais mewn perthynas â'r eitem - “Mae fy ng?r yn derbyn Pensiwn y Glowyr”
Cyhoeddodd Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol R D Bevan y buddiant personol a'r buddiant sy'n rhagfarnu canlynol a gadawodd y cyfarfod pan gynhaliwyd pleidlais mewn perthynas â'r eitem - “Rwy'n derbyn Pensiwn y Glowyr”
Cyhoeddodd Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol R Williams y buddiant personol a'r buddiant sy'n rhagfarnu canlynol a gadawodd y cyfarfod pan gynhaliwyd pleidlais mewn perthynas â'r eitem - “Mae fy nhad yn derbyn Pensiwn y Glowyr”
Cyhoeddodd Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol G Hughes y buddiant personol a'r buddiant sy'n rhagfarnu canlynol a gadawodd y cyfarfod pan gynhaliwyd pleidlais mewn perthynas â'r eitem - “Mae fy Nhad-cu yn derbyn Pensiwn y Glowyr”
Cyhoeddodd Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol J Harries y buddiant personol a'r buddiant sy'n rhagfarnu canlynol a gadawodd y cyfarfod pan gynhaliwyd pleidlais mewn perthynas â'r eitem - “Mae fy Nhad-cu yn derbyn Pensiwn y Glowyr”
Cyhoeddodd Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol R Yeo y buddiant personol a'r buddiant sy'n rhagfarnu canlynol a gadawodd y cyfarfod pan gynhaliwyd pleidlais mewn perthynas â'r eitem - “Mae fy Llys-dad yn derbyn Pensiwn y Glowyr”
Cyhoeddodd Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol J Edwards y buddiant personol a'r buddiant sy'n rhagfarnu canlynol a gadawodd y cyfarfod pan gynhaliwyd pleidlais mewn perthynas â'r eitem - “Mae fy Nhaid yn derbyn Pensiwn y Glowyr”
Yn ei absenoldeb, mynegodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth, Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu fod Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol M Fidler Jones yn dymuno tynnu'n ôl ei gefnogaeth ar gyfer y Rhybudd o Gynnig a nodwyd yn eitem 11B ar yr agenda.
|
|||
Teyrngedau i'r Cynghorydd Clayton Willis Rhoi cyfle i Aelodau dalu teyrnged i'r diweddar Gynghorydd Clayton Willis.
Cofnodion: Talodd yr Aelodau canlynol deyrngedau i'r diweddar Gynghorydd Clayton Willis:
|
|||
Cyhoeddiadau Cofnodion: · Dymunodd Arweinydd yr Wrthblaid, Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol P Jarman, a hithau'n Gadeirydd y Corff Llywodraethu yn Ysgol Gyfun Aberpennar, longyfarch cyn-ddisgybl yr ysgol o'r enw Brad Williams. Mae Brad wedi derbyn Gwobr Diana, gwobr sy'n enwog ledled y byd, am ei gyfraniad at newyddiaduraeth ym maes gweithgarwch cymdeithasol. Cafodd ei enwebu gan Mr David Church, Pennaeth Astudiaethau Crefyddol. Mae Brad Williams wedi gwirfoddoli gyda GTFM, ac yn ddiweddar cynigwyd lle iddo astudio ar gyfer ei radd meistr yn Ysgol Newyddiaduraeth Prifysgol Caerdydd. Roedd y Cynghorydd Jarman wedi galw ar Faer RhCT i anfon llythyr ato i gydnabod yr hyn y mae ef wedi'i gyflawni.
· Roedd Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol A Crimmings, Aelod o'r Cabinet ar faterion yr Amgylchedd, Hamdden, a Gwasanaethau Treftadaeth wedi cydnabod llwyddiant Tîm Pêl-droed Cymru yn yr Ewros gan roi sylw arbennig i Reolwr y Garfan, Mr Rob Page, o Gwm Rhondda.
· Talodd Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol L Hooper deyrnged i staff Ysgol Gynradd Gwauncelyn, Ton-teg, y gymuned a'r rhieni am godi £ 3,000 i brynu offer newydd yn lle'r offer a gafodd eu dwyn o'r Ysgol. Roedd y Cynghorydd wedi cydnabod eu hymdrechion ac ysbryd y gymuned i godi'r arian o fewn 72 awr ar ôl y digwyddiad.
· Cyflwynodd Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol J James (ar y cyd â'i gyd-gynghorydd S Trask) ddeiseb ar ran trigolion Llanilltud Faerdref i osod croesfan i gerddwyr ar Fryn y Goron, Llanilltud Faerdref.
· Dymunodd Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol S Bradwick longyfarch ferch ifanc yn ei ward, Sofia Barnes sy'n 8 oed. Roedd Sofia wedi troi hen gartonau llaeth yn ddosbarthwyr ar gyfer bagiau baw c?n ac wedi'u gosod o gwmpas yr ardal i fynd i'r afael â phroblemau baw c?n yn yr ardal. Gofynnodd y Cynghorydd S Bradwick bod Maer RhCT yn anfon llythyr ati i gydnabod ei brwdfrydedd a'i llwyddiant a hefyd bod Sofia yn cael ei gwahodd i Barlwr y Maer, pan fo hynny'n briodol.
|
|||
Rheol 15.1 - Dull Gweithredu'r Cyngor Cofnodion: Cynigiodd y Dirprwy Arweinydd atal Rheol Gweithdrefn 15.1 y Cyngor, sy'n nodi y bydd mater yn cael ei benderfynu os bydd mwyafrif ymhlith yr Aelodau sy'n pleidleisio ac sy'n bresennol yn yr ystafell adeg y bleidlais - a hynny fel bod modd cynnal y cyfarfod ar-lein mewn modd didrafferth.
Yn dilyn trafodaeth PENDERFYNWYD atal Rheol Gweithdrefn 15.1 y Cyngor
Rhannodd Cyfarwyddwr Gwasanaeth y Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu gwybodaeth ynghylch nifer yr Aelodau Etholedig a oedd yn bresennol yn y cyfarfod rhithwir ar y pryd, fesul Gr?p:-
Llafur - 42 Plaid - 13 Y Blaid Geidwadol - 3 Gr?p Annibynnol RhCT - 4 Aelodau heb eu Neilltuo - 1
|
|||
Cadarnhau cofnodion o gyfarfod y Cyngor a gynhaliwyd ar y dyddiadau canlynol yn rhai cywir:
1. 10 Mawrth 2021 2. 26 Mai 2021 (Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol y Cyngor) 3. 26 Mai 2021 (Cyfarfod arbennig o'r Cyngor)
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNODD y Cyngor gymeradwyo cofnodion y cyfarfodydd Cyngor canlynol yn rhai cywir:
1. 10 Mawrth 2021 2. 26 Mai 2021 (Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol y Cyngor) 3. 26 Mai 2021 (Cyfarfod arbennig o'r Cyngor)
(Mae hyn yn amodol ar nodi na fydd unrhyw fanylion Cynghorwyr sy'n atal pleidlais yn cael eu nodi, oni bai bod y Gr?p Ceidwadol yn gofyn fel arall).
|
|||
Datganiadau Yn unol â Rheol 2 o Weithdrefn Llywodraethu Agored Cyfarfodydd y Cyngor, derbyn datganiadau gan Arweinydd y Cyngor a/neu Gynghorwyr sy'n Aelodau Portffolio o'r Cabinet:
Cofnodion: · Cyhoeddodd y Dirprwy Arweinydd fod y Cyngor unwaith eto wedi dathlu llwyddiant yng Ngwobrau Prentisiaethau Cymru 2021 yn rhan o seremoni rithwir ar-lein a gynhaliwyd ar 17 Mehefin 2021. Roedd tri o brentisiaid y Cyngor ar y rhestr fer ar gyfer gwobrau: cafodd Brittany Mason ei henwebu ar gyfer Prentis Sylfaen y Flwyddyn a llwyddodd hi i gipio'r wobr. Cyrhaeddodd Owen Lloyd rownd derfynol Prentis y Flwyddyn. Roedd Sophie Williams wedi ennill categori Doniau'r Dyfodol.
Enillodd y Cyngor wobr Macro-gyflogwr y Flwyddyn, am yr eildro. Cafodd y Cyngor ei ganmol am sut yr aeth ati i gefnogi ei brentisiaid yn ystod y Pandemig wrth iddynt barhau â'u hastudiaethau yn ogystal â chael eu hadleoli i gefnogi gwasanaethau cymuned hanfodol, gan gynnwys gweithio ochr yn ochr â'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG) a dosbarthu pecynnau bwyd. Dymunodd y Dirprwy Arweinydd ddiolch i'r garfan brentisiaethau ac i staff Adnoddau Dynol y Cyngor am eu cefnogaeth barhaus i'r prentisiaid.
Daeth y Dirprwy Arweinydd i ben drwy roi gwybod bod CLlLC wedi nodi yr hoffai weithio gyda'r Cyngor ar ei gynllun prentisiaeth llwyddiannus.
· Dywedodd y Cynghorydd D R Bevan fod Lloyds Bank wedi cyhoeddi y bydd ei gangen ym Mhentre'r Eglwys yn cau, a hynny heb ymgynghori gyda'i gwsmeriaid ymlaen llaw. Mae'r Banc wedi nodi nifer o resymau dros gau'r gangen, megis bancio ar-lein, y nifer fach o gwsmeriaid sy'n defnyddio cyfleusterau'r Banc gan egluro y bydd y ddarpariaeth yn cael ei drosglwyddo i Gangen Pontypridd neu'r Swyddfa Bost leol. Cadarnhaodd y Cynghorydd Bevan fod y Cyngor wedi erfyn ar Lloyds Bank i ailystyried gan ystyried y bydd cwsmeriaid h?n yn cael trafferth yn cyrraedd y Banciau sydd bellach i ffwrdd. Dywedodd y Cynghorydd Bevan y byddai diweddariad yn cael ei ddarparu maes o law.
|
|||
Cwestiynau gan yr Aelodau PDF 125 KB Derbyn cwestiynau'r Aelodau yn unol â Rheol 9.2 o Weithdrefn y Cyngor.
(Nodwch: Caniateir hyd at 20 munud ar gyfer cwestiynau.)
Cofnodion: Cwestiwn gan Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol G. Caple i Arweinydd y Cyngor, Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol A. Morgan:
“All Arweinydd y Cyngor roi diweddariad ar gynnydd cynllun Cyfnewidfa'r Porth?”
Ymatebodd yr Arweinydd drwy nodi fod Carfan Prosiectau'r Cyngor wedi parhau i wneud cynnydd o ran Hwb Trafnidiaeth Porth. Bydd cyfnewidfa bysiau a rheilffyrdd yn cael ei chreu ar safle'r orsaf bresennol a bydd y datblygiad hefyd yn cynnwys pwyntiau gwefru cerbydau trydan a gwelliannau pellach ar gyfer y rhwydwaith teithio Llesol.
Mae'r safle datblygu eisoes wedi'i glirio a'i baratoi'n ar gyfer y gwaith adeiladu ac yn ddiweddar derbyniodd y Cyngor ganiatâd cynllunio. Mae dyluniad manwl ar gyfer yr Hwb Trafnidiaeth wedi'i gwblhau hefyd. Mae hyn wedi cael ei adolygu a'i gymeradwyo gan gwmni Trafnidiaeth Cymru, sef partner darparu gwasanaethau allweddol y Cyngor, ac mae'r cyfnod tendro ar gyfer adeiladu'r datblygiad wedi dod i ben yn ddiweddar.
Dywedodd yr Arweinydd fod y Cyngor bellach yn cynnal trafodaethau gyda'r contractwr sydd wedi'i ddewis i ddyfarnu'r contract cyn dechrau ar y gwaith adeiladu. Mae dros £5.3miliwn wedi'i ddyrannu ar gyfer y cynllun yn rhan o Gronfa Buddsoddi Ehangach Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd. Er mwyn cefnogi trefniadau cyllido yn y dyfodol, mae cais wedi'i gyflwyno i Gronfa Codi'r Gwastad Llywodraeth y DU; gan nodi Hwb Trafnidiaeth Porth fel prosiect allweddol ar gyfer cyllid.
I gloi, nododd yr Arweinydd ei fod wedi cwrdd â Robert Jenrick, yr Ysgrifennydd Gwladol dros faterion Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol, yn ddiweddar yn ystod ymweliad â Threorci. Roedd y cyfarfod yn gadarnhaol iawn ac roedd ganddo ddiddordeb yn y cynigion.
Cwestiwn ategol gan Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol G.Caple: “All yr Arweinydd ddweud rhagor am y buddsoddiad ar gyfer ardal Porth yn rhan o’r Strategaeth Canol Tref?” Dywedodd yr Arweinydd fod yr Hwb Trafnidiaeth yn rhan allweddol o Strategaeth Canol Tref Porth, gan gydnabod y rôl strategol allweddol y mae'r ardal yn ei chwarae fel cyffordd rhwng ardal Cwm Rhondda Fach ac ardal Rhondda Fawr, gan ddarparu profiad gwell o ran trafnidiaeth i ddefnyddwyr y bysiau a'r rheilffyrdd. Tynnodd yr Arweinydd sylw at gyfres o brosiectau buddsoddi eraill sy'n cael eu gweithredu ar hyn o bryd yn ardal Porth, fel y cynlluniwyd yn Strategaeth Canol Tref Porth:
|
|||
RHAGLEN WAITH Y CYNGOR: BLWYDDYN Y CYNGOR 2021–2022 PDF 119 KB Derbyn adroddiad gan y Cyfarwyddwr Gwasanaeth – Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu mewn perthynas â drafft o raglen waith y Cyngor ar gyfer Blwyddyn y Cyngor 2021/22.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth, Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu ddiweddariad ynghylch Rhaglen Waith y Cyngor gan roi gwybod y byddai unrhyw welliannau a diweddariadau yn cael eu cyflwyno i'r Cyngor yn rheolaidd. Dywedodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth y byddai'r adroddiad Ariannol Tymor Canolig yn cael ei gyflwyno i'r Cyngor Llawn maes o law a hynny'n dilyn ymgynghori ag Arweinydd y Cyngor ac Arweinwyr yr Wrthblaid.
PENDERFYNWYD:
1.Nodi'r Rhaglen Waith ddrafft sydd wedi'i nodi yn Atodiad 1 i'r adroddiad;
2.Cymeradwyo'r Rhaglen Waith ar gyfer Blwyddyn y Cyngor 2021-2022 (gyda'r newidiadau priodol lle bo angen) a derbyn diweddariadau pellach gan y Cyfarwyddwr Gwasanaeth, Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu fel sy'n briodol.
|
|||
Rhoi cyfle i Aelodau drafod penderfyniad Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol mewn perthynas ag argymhellion Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru, fel sydd wedi'u nodi yn y datganiad ysgrifenedig a gafodd ei gyflwyno yn y Senedd ar 24 Mehefin 2021.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Aeth yr aelodau ati i drafod argymhellion terfynol yr adroddiad a oedd yn cynnwys pob un o argymhellion Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru ar gyfer Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf. Roedd hyn yn cynnwys unrhyw newidiadau i'r trefniadau presennol, disgrifiad o'r newid, y sylwadau a gafodd eu cyflwyno, y rhesymau dros unrhyw newid a map o'r cynigion.
Yn dilyn trafodaeth, PENDERFYNWYD nodi'r argymhellion terfynol fel y nodir yn yr adroddiad |
|||
GWELLIANNAU O RAN MYNEDIAD AC YMGYSYLLTU MEWN PERTHYNAS Â DEMOCRATAETH PDF 291 KB Derbyn adroddiad y Cyfarwyddwr Gwasanaeth – Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu.
Cofnodion: Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth, Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu, ddatganiad sefyllfa mewn perthynas â'r trefniadau i alluogi darlledu cyfarfodydd pwyllgor a'r gallu i weithredu trwy ddull hybrid. Dywedodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth fod y trefniadau, fel yr adroddwyd yn flaenorol, yn cydymffurfio â gofynion Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) sy'n gosod dyletswydd ar brif gynghorau i roi trefniadau ar waith ar gyfer darlledu cyfarfodydd y cyngor.
Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth bod y Cyngor wedi cymeradwyo'r cyfarpar gweddarlledu ar 15 Ebrill 2021, gyda'r bwriad o fabwysiadu'r un dull cam wrth gam a gafodd ei ddefnyddio ar gyfer cyflwyno cyfarfodydd rhithwir yn ystod haf 2020.
Roedd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth wedi cydnabod sylwadau adeiladol yr Arweinwyr Gr?p ac Aelodau’r Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd. Mae pob un ohonynt yn cefnogi’r dull cam wrth gam a gan ddefnyddio'r dull yma bydd yr holl Aelodau’n dysgu'r prosesau ac yn eu mireinio wrth i amser fynd yn ei flaen.
Cadarnhawyd y bydd profion llif unffordd ar gael ar gyfer hyd at chwech ar hugain o Aelodau a Swyddogion sy'n dymuno mynd i Siambr y Cyngor. Bydd y dull yma'n atgyfnerthu'r neges ynghylch iechyd y cyhoedd.
Ar ôl trafod yr adroddiad ac ar ôl i'r Arweinwyr Gr?p bwysleisio'u cefnogaeth o blaid bod yn atebol a mabwysiadu'r ddarpariaeth gweddarlledu gan weithredu dull cam wrth gam, PENDERFYNWYD:
|
|||
PENDERFYNIADAU GWEITHREDOL BRYS PDF 199 KB Derbyn adroddiad y Cyfarwyddwr Gwasanaeth – Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu.
Cofnodion: Yn unol â Rheolau Gweithdrefn Trosolwg a Chraffu 17.2(a), cyflwynodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth, Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu drosolwg o'r Penderfyniadau Brys a ddygwyd ymlaen gan Bwyllgor y Cabinet a phenderfyniadau dirprwyedig brys gan swyddogion, a gafodd eu gweithredu y tu allan i Bwyllgor y Cabinet, yn ystod y cyfnod Ionawr - Mai 2021.
Ar ôl ystyried yr adroddiad a'r drafodaeth mewn perthynas â chaffael tir i'r Gogledd Orllewin o Stryd Harriet, Trecynon, sef hen Ffatri 'Mayhew Chicken Factory', Trecynon, Aberdâr, RhCT PENDERFYNWYD nodi'r wybodaeth sydd wedi ei chynnwys yn yr adroddiad.
|
|||
Rhybuddion o Gynigion
"Mae'r Cyngor yma'n cydnabod:
• bod achosion parhaus o ollwng sbwriel yn cael effaith niweidiol ar gymunedau yn Rhondda Cynon Taf. Mae'n gwneud yr ardal yn anneniadol i ymwelwyr ac nid yw'n ennyn unrhyw falchder ymhlith y bobl sy'n byw yn yr ardal.
• yr angen i addysgu pobl er mwyn newid eu harferion os ydyn ni am lwyddo i lanhau ein hardaloedd lleol ac er mwyn gwneud hynny mae angen slogan ymgyrchu arnom ni i ddal sylw pobl.
Mae'r Cyngor yma'n nodi:
• llwyddiant ymgyrchoedd fel yr ymgyrch 'Check Your Balls' i hyrwyddo ymwybyddiaeth o ganser y ceilliau.
• ymgyrchoedd ardaloedd eraill, e.e. Abertawe https://www.abertawe.gov.uk/article/59212/Peidiwch-a-thaflu-sbwriel-dros-benwythnos-gwyl-y-banc
• y bu nifer o ymgyrchoedd yn cynnwys 'Don't be a Tosser' ledled y DU i annog pobl i beidio â thaflu sbwriel ers i'r Cyngor yma glywed y syniad a'i wrthod yn 2009.
• bod pethau wedi newid cryn dipyn yn ystod y 12 mlynedd ddiwethaf, ac mae geiriau a fu unwaith yn annerbyniol bellach yn cael eu hystyried yn wahanol.
Mae'r Cyngor hwn, felly, yn penderfynu:
• gofyn i'r Cabinet a swyddogion perthnasol roi ystyriaeth lawn i gyflwyno ymgyrch 'Don't Be a Tosser' er mwyn annog pobl i beidio â thaflu sbwriel.
B. Rhybudd o Gynnig sydd wedi'i gyflwyno yn enwau Cynghorwyr y Fwrdeistref Sirol: G. Caple, R. Williams, L. M. Adams, D. R. Bevan, H. Boggis, J. Bonetto, S. Bradwick, J. Brencher, A. Calvert, A. Crimmings, A. Davies-Jones, L. De- Vet, J. Elliott, S. Evans, G. Jones, M. Fidler Jones, M. Forey, A. Fox, E. George, M. Griffiths, J. Harries, G. Holmes, G. Hopkins, R. Lewis, W. Lewis, C. Leyshon, A. Morgan, S. Morgans, M. A. Norris, D. Owen-Jones, S. Pickering, S. Powell, S. Rees, A. Roberts, J. Rosser, G. Stacey, M. Tegg, G. Thomas, W. Treeby, R. K. Turner, M. Webber, D. Williams, T. Williams a R. Yeo
Ar Ebrill 29 2021, cyhoeddodd y Pwyllgor Dethol Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol (BEIS) ei adroddiad ar Gynllun Pensiwn y Glowyr. Roedd yr adroddiad yn archwilio anghyfiawnder hanesyddol glowyr yn cael eu hamddifadu o'u hawliau pensiwn haeddiannol. Fel y bydd yr Aelodau’n cofio, cefnogodd y Cyngor yma Rybudd o Gynnig yn cefnogi Ymgyrch Cyfiawnder a Chwarae Teg Cymdeithas Bensiwn y Glowyr y DU yn 2017, gan alw i aildrafod y trefniant i rannu unrhyw arian dros ben 50:50 rhwng y cyn-lowyr a Llywodraeth y DU. Er gwaethaf galw am Ddadl Seneddol, cafodd y mater ei wneud yn destun ymchwiliad Pwyllgor Dethol. Nawr, mae'r adroddiad BEIS a gyhoeddwyd yn ddiweddar wedi nodi y dylid adolygu’r trefniant yma i rannu'r arian dros ben a sefydlu system decach yn ei le sy’n gweld y rhai sy'n derbyn y pensiwn yn cael “canran fwy realistig o unrhyw arian dros ben.” Mae'r adroddiad yn cydnabod nifer o broblemau arwyddocaol gyda chanlyniad trafodaethau 1994, gan gynnwys methiant y Llywodraeth i gyflawni diwydrwydd ... view the full Agenda text for item 37. Cofnodion:
|