Agenda a Chofnodion drafft

Lleoliad: Rhithwir

Cyswllt: Hannah Jones - Uned Busnes y Cyngor 

Cyfryngau

Eitemau
Rhif eitem

7.

Datgan Buddiant

Derbyn datganiadau o fuddiannau personol gan Gynghorwyr, yn unol â gofynion Cod Ymddygiad y Cyngor.

 

Nodwch:

 

1.     Mae gofyn i Aelodau ddatgan rhif a phwnc yr agendwm y mae eu buddiant yn ymwneud ag ef a mynegi natur y buddiant personol hwnnw; a

2.   Lle bo Aelodau'n ymneilltuo o'r cyfarfod o ganlyniad i fuddiant sy'n rhagfarnu, rhaid iddyn nhw roi gwybod i'r Cadeirydd pan fyddan nhw'n gadael.

 

Cofnodion:

Yn unol â Chod Ymddygiad y Cyngor, ni wnaethpwyd unrhyw ddatganiadau mewn perthynas â'r Agenda.

 

8.

Cofnodion pdf icon PDF 101 KB

Derbyn cofnodion y cyfarfod blaenorol a gafodd ei gynnal ar 11 Mai 2023.

 

Cofnodion:

PENDERFYNWYDcymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 11 Mai 2023 yn rhai cywir.

 

9.

Parc Coffa Ynysangharad - Rhaglen Cynnal a Chadw Coed: Gaeaf 2023/24 pdf icon PDF 10 MB

Derbyn adroddiad Cyfarwyddwr y Priffyrdd, Gofal y Strydoedd a Gwasanaethau Trafnidiaeth, sy'n ceisio sylwadau a chymeradwyaeth yr Ymddiriedolwyr mewn perthynas â'r gwaith cynnal a chadw coed a fydd yn cael ei gyflawni ym Mharc Coffa Ynysangharad yn ystod misoedd y Gaeaf (2023-24).

 

Cofnodion:

Rhoddodd Pennaeth Dros Dro Gwasanaethau Gofal y Strydoedd drosolwg o'i adroddiad i Aelodau, gan roi gwybod iddyn nhw am y gwaith sydd wedi'i gynllunio i gynnal a chadw coed ym Mharc Coffa Ynysangharad dros fisoedd y gaeaf.

 

Rhoddwyd gwybod i Aelodau y byddai'r gwaith yma'n sicrhau bod coed ym Mharc Coffa Ynysangharad yn cael eu rheoli mewn modd effeithiol, a bod risg materion diogelwch coed i'r cyhoedd mor isel â phosibl, a hynny wrth gynnal a chadw nifer o goed iach a chynaliadwy i gadw gwerth yr amwynder. 

 

Nodwyd bod y coed yn nodwedd bwysig yn y parc a rhoddwyd sicrwydd i Aelodau nad yw unrhyw waith diangen yn cael ei gynnal. Felly, dim ond coed peryglus, coed â chlefyd a choed sydd eisoes wedi marw sy'n cael eu torri.

 

Tynnwyd sylw Aelodau at yr atodiad i'r adroddiad a oedd yn cynnwys manylion y coed sydd i'w torri a'r rhesymau pam.

 

Rhoddwyd gwybod i Aelodau bod coed ychwanegol yn cael eu plannu ledled RhCT bob blwyddyn, a hynny ar ben y gwaith cynnal a chadw arfaethedig. Mae hyn er budd pawb ac mae'n rhan o fenter newid yn yr hinsawdd y Cyngor i wella, ailblannu a chynyddu nifer y coed fel asedau ar gyfer atafaelu carbon a datblygiad cynaliadwy.

 

Cyn dod â'i adroddiad i ben, rhoddodd y Swyddog wybod i Aelodau y byddai coeden newydd yn cael ei phlannu yn rhan o'r rhaglen cynnal a chadw coed flynyddol o ganlyniad i golli coeden yn rhan o gynlluniau'r Eisteddfod. Cadarnhawyd y byddai barn ymddiriedolwyr yn cael ei chasglu o ran lleoliad y goeden yn y parc cyn ei phlannu.

 

Rhoddodd y Cadeirydd ddiolch i'r swyddog am yr adroddiad a siaradodd am bwysigrwydd y coed er budd pawb sy'n defnyddio'r parc a chytunodd fod angen sicrhau bod y coed yn cael eu cynnal a'u cadw. Croesawodd y Cadeirydd y gwaith ailblannu coed a nodwyd a'r cyfle i blannu coeden mewn perthynas â'r Eisteddfod. Gofynnodd am sicrwydd y byddai barn yr ymddiriedolwyr yn cael ei chasglu o ran lleoliad y goeden ac awgrymodd osod plac wrth ei hochr i gydnabod cynnal yr Eisteddfod yn RhCT yn 2024.

 

Siaradodd Aelod o'r Pwyllgor am bwysigrwydd y cynllun cynnal a chadw a rhannu gwaith o'r fath gyda'r cyhoedd er mwyn atal unrhyw gamgyfleu.  Siaradodd Aelodau am ddefnyddio'r cyfryngau cymdeithasol i rannu'r negeseuon pwysig yma. Siaradodd y Cyfarwyddwr am bwysigrwydd cyfathrebu ac am y gwaith heb ei gynllunio sydd ei angen yn dilyn tywydd garw, ac eto am bwysigrwydd rhannu gwybodaeth am waith o'r fath.

 

Cafodd cwestiwn ei ofyn o ran Coedlan y Leimwydden a rhoddodd y swyddog wybod am yr amser doeth i ddatgloddio a symud y coed i sicrhau eu bod nhw'n cael eu hailblannu a'u bod nhw'n aildyfu.

 

Ar ôl trafod, PENDERFYNWYD:

                           i.          Nodi cynnwys yr adroddiad a chymeradwyo'r rhaglen o waith cynnal a chadw coed sydd wedi'i hargymell a'i threfnu ar gyfer y cyfnod rhwng mis Tachwedd 2023 a Chwefror 2024.