Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Y Pafiliynau, Parc Hen Lofa'r Cambrian, Cwm Clydach, Tonypandy, CF40 2XX

Cyswllt: Emma Wilkins - Uned Busnes Rheoleiddiol a Gweithredol  E-bost: emma.wilkins@rctcbc.gov.uk

Cyfryngau

Eitemau
Rhif eitem

4.

Datgan Buddiant

Derbyn datganiadau o fuddiannau personol gan Aelodau, yn unol â gofynion y Cod Ymddygiad.

 

Nodwch:

 

1.     Mae gofyn i Aelodau ddatgan rhif a phwnc yr agendwm mae eu buddiant yn ymwneud ag ef a mynegi natur y buddiant personol hwnnw; a

2.   Lle bo Aelodau'n ymneilltuo o'r cyfarfod o ganlyniad i fuddiant personol sy'n rhagfarnu, rhaid iddyn nhw roi gwybod i'r Cadeirydd pan fyddan nhw'n gadael.

 

Cofnodion:

Yn unol â Chod Ymddygiad y Cyngor, datganodd Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol K Johnson, nad yw'n Aelod o'r Pwyllgor, y buddiant personol canlynol: 'Rydw i'n Gyfarwyddwr Achlysur Parkrun Pontypridd'.

 

5.

Cofnodion pdf icon PDF 139 KB

Derbyn a chymeradwyo cofnodion y cyfarfod blaenorol a gafodd ei gynnal ar 15th Mawrth 2023.

Cofnodion:

PENDERFYNODD yr Aelodau gymeradwyo cofnodion y cyfarfod, a gynhaliwyd ar 15 Mawrth 2023, yn rhai cywir.

 

6.

CYFLEOEDD POSIBL I GREU MAN CYNNAL ACHLYSURON YCHWANEGOL YM MHARC COFFA YNYSANGHARAD pdf icon PDF 270 KB

Derbyn adroddiad y Cyfarwyddwr Materion Ffyniant a Datblygu yn gofyn am gymeradwyaeth Ymddiriedolwyr i gymryd camau pellach o ran y cyfle ailddatblygu posibl i greu man cynnal achlysuron ym Mharc Coffa Ynysangharad, cyn i'r Cabinet ei drafod.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd Cyfarwyddwr Materion Ffyniant a Datblygu yr adroddiad, a oedd yn gofyn am sylwadau a chymeradwyaeth ymddiriedolwyr ar gymryd camau pellach o ran cyfle ailddatblygu posibl i greu man cynnal achlysuron ym Mharc Coffa Ynysangharad fyddai'n cefnogi gwaith cynnal achlysuron mawr, cyn i'r Cabinet ei drafod.

 

Tynnodd y Cyfarwyddwr sylw'r Aelodau at Adran 5 yr adroddiad, lle'r oedd manylion y cynnig wedi'u hamlinellu.Rhoddodd y Cyfarwyddwr wybod i Aelodau y byddai'r adroddiad yn cael ei gyflwyno i'r Cabinet yn y cyfarfod ar 15 Mai 2023 pe bydden nhw'n cytuno â'r argymhellion yn adran 2 yr adroddiad.

 

Gyda chaniatâd y Cadeirydd, anerchodd Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol K Johnson y Pwyllgor mewn perthynas â'r cynnig.

 

Gofynnodd ymddiriedolwyr am sicrwydd a chadarnhad gan Gyfarwyddwr Materion Ffyniant a Datblygu nad oes unrhyw fwriad i greu maes parcio ychwanegol na man troi cerbydau ar y tir yn rhan o'r cynnig. Cydnabuwyd bod y cynnig yn ddatrysiad tirlunio meddal sy'n ceisio gwneud y man gwyrdd yn fwy defnyddiadwy.

 

Pwysleisiodd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion yr Amgylchedd a Hamdden bwysigrwydd rhaglen plannu coed gadarn y Cyngor a nododd fod dros 400 o goed, gwrychoedd a llwyni wedi cael eu plannu mewn parciau yn ystod y tymor plannu coed diwethaf. Rhoddwyd sicrwydd i'r Ymddiriedolwyr y byddai gwaith yn cael ei gynnal er mwyn sicrhau bod cyn lleied o goed â phosibl yn cael eu torri.

 

Siaradodd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion yr Hinsawdd a Gwasanaethau Corfforaethol am yr ystod eang o ddefnyddwyr a grwpiau sy'n defnyddio mannau gwyrdd y parc a nododd y byddai sefydlu'r man yn gwella'r hyn sydd gan y parc i'w gynnig ymhellach.

 

Roedd y Cadeirydd o blaid y cynigion a phwysleisiodd y byddai unrhyw benderfyniadau sy'n cael eu gwneud gan y Cabinet er lles gorau'r parc, trigolion a'r Fwrdeistref Sirol ehangach.

 

PENDERFYNODD yr Is-bwyllgor:

1.      Yn dilyn trafod cynnig dyluniad y cysyniad, cefnogi'r cynnig a'r penderfyniad i gyflwyno cais ffurfiol am gyllid; a

2.      Rhoi adborth am benderfyniad y Pwyllgor i'r Cabinet yn  y cyfarfod ar 15 Mai 2023.