Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Rhithwir

Cyswllt: Hannah Williams - Uned Busnes Y Cyngor  07385401954

Cyfryngau

Eitemau
Rhif eitem

1.

Datgan Buddiant

Derbyn datganiadau o fuddiannau personol gan Aelodau, yn unol â gofynion y Cod Ymddygiad.

 

Nodwch:

1.       Mae gofyn i Aelodau ddatgan rhif a phwnc yr agendwm mae eu buddiant yn ymwneud ag ef a mynegi natur y buddiant personol hwnnw; a

2.       Lle bo Aelodau'n ymneilltuo o'r cyfarfod o ganlyniad i fuddiant personol sy'n rhagfarnu, rhaid iddyn nhw roi gwybod i'r Cadeirydd pan fyddan nhw'n gadael.

Cofnodion:

Doedd dim datganiadau o fuddiant yngl?n â'r agenda.

 

2.

Cofnodion pdf icon PDF 118 KB

Derbyn a chymeradwyo cofnodion y cyfarfod blaenorol a gafodd ei gynnal ar 1 Mai 2019.

Cofnodion:

PENDERFYNWYD cymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 1 Mai 2019.

 

3.

Cyfleoedd Posibl I Greu Man Cynnal Achlysuron Ychwanegol Ym Mharc Coffa Ynysangharad pdf icon PDF 124 KB

Derbyn adroddiad y Cyfarwyddwr Materion Ffyniant a Datblygu yn gofyn am farn yr Aelodau ar gymryd camau pellach o ran cyfleoedd ailddatblygu posibl i greu man cynnal achlysuron ym Mharc Coffa Ynysangharad.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Materion Ffyniant a Datblygu'r adroddiad, gan ddefnyddio cyflwyniad PowerPoint. Roedd yr adroddiad yn ceisio cymeradwyaeth Pwyllgor y Cabinet i fwrw ymlaen â chyfle i ailddatblygu man cynnal achlysuron ym Mharc Coffa Ynysangharad, a fydd yn cefnogi gwaith darparu achlysuron mawr a chyflwyno cais am gyllid yn rhan o Raglen Y Pethau Pwysig Croeso Cymru.

 

Cafodd Aelodau wybod bod y Cyngor wedi penodi ymgynghorwyr i lunio adroddiad dichonoldeb sy'n trafod y posibilrwydd o gyflwyno Man Achlysuron yn yr ardal werdd fawr cyferbyn â'r bont ger datblygiad Llys Cadwyn, a hynny er mwyn manteisio i'r eithaf ar yr ardal y mae modd ei defnyddio i gynnal achlysuron ym Mharc Coffa Ynysangharad. Rhoddodd y Cyfarwyddwr wybod nad yw'r ardal wedi cael ei defnyddio ers peth

amser ac roedd gwerth amwynder yr ardal yn isel oherwydd y dopograffeg sydd wedi'i dylunio ar gyfer golff. Esboniwyd bod ardal werdd sydd eisoes yn bodoli, ond sydd ddim yn cael ei defnyddio’n aml, yn cynrychioli rhan fawr o'r gornel gyferbyn â'r bont droed. Mae gan yr ardal yma'r potensial i hwyluso man achlysuron a gweithgareddau i'r gymuned y bydd modd i bawb eu mwynhau.

 

Tynnodd y Cyfarwyddwr sylw'r Aelodau at Adran 5 o'r adroddiad, sy'n amlinellu cynigion ar gyfer achlysuron, gan gynnwys cost a manylion dylunio.

 

Rhoddodd y Cyfarwyddwr wybod bod Cronfa Y Pethau Pwysig Croeso Cymru’n cynrychioli ffynhonnell ariannu bosibl er mwyn cefnogi gwaith cyflawni'r prosiect. Pwrpas Cronfa Y Pethau Pwysig yw cyflawni gwelliannau seilwaith twristiaeth ar raddfa fach ledled Cymru i sicrhau bod ymwelwyr yn mwynhau profiad cadarnhaol a chofiadwy.

 

Eglurodd y Cyfarwyddwr fod yr adroddiad yn cael ei gyflwyno i Aelodau er mwyn ceisio'u barn nhw mewn perthynas â Mynegiant o Ddiddordeb. Pe byddai'r Cyngor yn llwyddiannus, byddai adroddiadau pellach yn cael eu cyflwyno i'r Cabinet er mwyn eu trafod.

 

Roedd y Cadeirydd wedi diolch i'r swyddog am y cyflwyniad manwl gan nodi mai dyletswydd yr Ymddiriedolwyr oedd sicrhau'r deilliannau ymarferol gorau posibl ar gyfer Parc Coffa Ynysangharad a'r trigolion. Croesawodd y Cadeirydd y cynnig ac roedd cyflwyniad y Cyfarwyddwr wedi rhoi'r sicrwydd angenrheidiol iddo y byddai'r swyddogion yn ymdrechu i sicrhau bod y nifer lleiaf posibl o goed yn cael eu heffeithio pe byddai'r cynnig yn cael ei gymeradwyo. Roedd y Cadeirydd wedi sôn am uchelgais y Cyngor i gynnal achlysuron mawr ym Mhontypridd ac roedden nhw o'r farn y byddai'r ardal yma o fudd mawr.

 

Roedd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion yr Amgylchedd a Hamdden o blaid addasu'r tir ac o blaid cais y swyddogion am gyllid. Nododd yr Aelod o'r Cabinet y byddai'r ardal yn denu achlysuron allanol i'r ardal gan hefyd gynnig lleoliad y byddai modd i grwpiau ac ysgolion lleol ei ddefnyddio ar gyfer achlysuron llai.

 

Roedd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion yr Hinsawdd a Gwasanaethau Corfforaethol hefyd o blaid y cynnig gan ailadrodd y sylwadau blaenorol. Nododd yr Aelod o'r Cabinet faint yr ardal gan bwysleisio nad yw’r ardal yn cael ei defnyddio digon ar hyn o bryd.

 

Roedd y Cadeirydd wedi diolch  ...  view the full Cofnodion text for item 3.