Agenda, Penderfyniadau a Chofnodion drafft

Lleoliad: Rhithwir

Cyswllt: Tracy Watson - Uwch Swyddog Democrataidd a Craffu  07747 485567

Cyfryngau

Eitemau
Rhif eitem

39.

Datgan Buddiant

Derbyn datganiadau o fuddiannau personol gan Aelodau, yn unol â'r Cod Ymddygiad.

 

Nodwch:

1.    Mae gofyn i Aelodau ddatgan rhif a phwnc yr agendwm y mae eu buddiant yn ymwneud ag ef a mynegi natur y buddiant personol hwnnw; a

2.    Lle bo Aelodau'n ymneilltuo o'r cyfarfod o ganlyniad i ddatgelu buddiant sy'n rhagfarnu, rhaid iddyn nhw roi gwybod i'r Cadeirydd pan fyddan nhw'n gadael

 

Cofnodion:

Yn unol â Chod Ymddygiad y Cyngor, cafodd y datganiadau o fuddiant canlynol eu gwneud:

 

Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol G Caple - Rydw i'n Aelod o'r Bwrdd Ysgolion Rhithwir

 

Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol R Lewis - Rydw i'n Aelod o'r Bwrdd Ysgolion Rhithwir

 

40.

Cofnodion pdf icon PDF 157 KB

Cofnodion:

PENDERFYNODD yr Aelodau dderbyn y cofnodion o gyfarfod y Bwrdd Rhianta Corfforaethol a gynhaliwyd ar 30 Ionawr 2024 yn rhai cywir.

 

41.

Rhaglenni Cyflogaeth, Addysg a Hyfforddiant ar gyfer Plant sy'n Derbyn Gofal pdf icon PDF 146 KB

Derbyn gwybodaeth yngl?n â'r Rhaglenni Cyflogaeth, Addysg a Hyfforddiant sydd ar gael ar gyfer Plant sy'n Derbyn Gofal

 

 

Cofnodion:

Rhannodd Cydlynydd y Gwasanaeth Cyflogaeth, Addysg a Hyfforddiant ar gyfer Plant sy'n Derbyn Gofal yr wybodaeth ddiweddaraf â'r Bwrdd Rhianta Corfforaethol am raglenni penodol y Cyngor sydd ar waith i gefnogi plant sydd â phrofiad o dderbyn gofal i gyflogaeth, addysg a hyfforddiant.

 

Roedd y diweddariad yn cynnwys dadansoddiad o ddeilliannau'r Rhaglen Camu i'r Cyfeiriad Cywir a'r Rhaglen GofaliWaith rhwng Ebrill 2023 a Mawrth 2024.

 

Dymunodd y Cadeirydd ddiolch i'r Swyddog a siaradodd am y mentrau gwych sy'n cael eu datblygu er budd Plant sy'n Derbyn Gofal. 

 

Holodd Aelod am y trefniadau dilynol sydd ar waith ar gyfer y rheiny sydd ddim yn ymwneud â'r broses mwyach. Rhoddodd y Swyddogion fanylion am y trefniadau sydd ar waith i sicrhau nad yw pobl ifainc yn cael eu hanwybyddu ac esboniodd fod swyddogion yn pwysleisio i'r bobl ifainc bod modd iddyn nhw ail-gydio yn y broses unrhyw bryd.

 

Gofynnodd Aelod am ragor o wybodaeth mewn perthynas â'r prosiect ysgol rithwir a darparwyd trosolwg o'r prosiect i'r Aelodau, gan gyfeirio at y berthynas waith agos rhwng partneriaid perthnasol er budd pobl ifainc.

 

Yn dilyn trafodaethau cadarnhaol yngl?n â gwaith yr Adran Cyflogaeth, Addysg a Hyfforddiant ar ran Plant sy'n Derbyn Gofal, PENDERFYNODD y Bwrdd:

      i.         Nodi cynnwys yr adroddiad

 

42.

Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg a Chod ADY ar gyfer Plant sy'n Derbyn Gofal pdf icon PDF 200 KB

Derbyn diweddariad ar weithrediad Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg Cymru (2018) a Chod Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) 2021 ar gyfer Plant sy'n Derbyn Gofal sydd ag ADY yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf.

 

Cofnodion:

Rhoddodd Pennaeth yr Ysgol Rithwir ddiweddariad i’r Bwrdd Rhianta Corfforaethol ar oblygiadau'r Ddeddf ADY (Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg) Cymru (2018) a'r Cod Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) 2021 ar gyfer Plant sy’n Derbyn Gofal ag ADY yn ogystal â diweddariad mewn perthynas â gweithredu'r uchod yn rhan o 3edd Flwyddyn yr amserlen genedlaethol ar gyfer Gweithredu'r System ADY yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf.

 

Siaradodd y Cadeirydd am y gweithdrefnau cynhwysfawr sydd ar waith i helpu plant sy'n derbyn gofal i lwyddo a chyfeiriodd y Cadeirydd at yr effeithiau cadarnhaol ar bobl ifainc, fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad.  Croesawodd y Cadeirydd y proffil 'Amdana i' a'r negeseuon cadarnhaol yr oedd hyn yn eu rhoi i blant sy'n derbyn gofal.

 

Fe wnaeth yr Aelodau sylwadau ar uno polisïau a holwyd sut roedd llais y disgyblion yn parhau i gael ei glywed. Soniodd y Swyddog am y cyfleoedd sydd ar gael yn ystod cyfarfodydd Cynllunio sy'n Canolbwyntio ar Unigolion.  Soniodd y Swyddog am y darpariaethau amgen sydd ar waith ar gyfer y bobl ifainc hynny sy'n ddi-eiriau / sydd ag anghenion cymhleth er mwyn parhau i sicrhau bod llais y bobl ifainc yn dal i gael ei glywed.

 

Ar ôl trafod PENDERFYNWYD:

      i.         Cydnabod cynnwys yr adroddiad; a

     ii.         Ystyried a oes angen unrhyw wybodaeth bellach ar unrhyw agwedd o'r adroddiad.

 

43.

Tros Gynnal Plant Cymru pdf icon PDF 91 KB

Derbyn adroddiad cynnydd chwarterol Tros Gynnal Plant Cymru.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd Tros Gynnal Plant (TGP) Cymru ddiweddariad i’r Bwrdd Rhianta Corfforaethol ar y cynnydd a wnaed yn ystod y cyfnod rhwng Hydref a Rhagfyr 2023.

 

Clywodd yr Aelodau fod 54 o bobl ifainc wedi manteisio ar y gwasanaeth Eiriolaeth yn Seiliedig ar Faterion yn ystod y cyfnod yma, a chafodd 39 o bobl ifainc eraill eu hatgyfeirio ar gyfer y Cynnig Gweithredol. Roedd 19 o'r 54 o bobl ifainc yma wedi cael profiad o dderbyn gofal, gyda 23 o faterion yn dod i'r amlwg. O blith y 19 o bobl ifainc, roedd 9 yn defnyddio'r Gwasanaeth Eiriolaeth yn Seiliedig ar Faterion am y tro cyntaf.

 

Yn ystod y cyfnod yma, daeth 9 o’r bobl ifainc â phrofiad o dderbyn gofal yn gymwys ar gyfer y Cynnig Gweithredol yn ystod y chwarter yma neu’r chwarter blaenorol.

 

Nododd Aelodau'r Bwrdd sut y gallai'r newidiadau bach wneud gwahaniaeth mawr i'r bobl ifainc a chyfeiriodd yr Aelodau at y cymorth gofal unigol sydd ar gael. 

 

Croesawodd yr Aelodau'r cynlluniau sydd ar waith a gofynnon nhw gwestiynau am y cynigion gweithredol.

 

PENDERFYNODD y Bwrdd Rhianta Corfforaethol i wneud y canlynol:

1.    Cydnabod y gwaith a wnaed gan TGP Cymru, mae manylion y gwaith yma wedi'u cynnwys yn Atodiad 1 i'r adroddiad.

 

44.

Adroddiad Adolygiad Ansawdd Gofal - Maethu Cymru RhCT pdf icon PDF 118 KB

Derbyn adroddiad Adolygiad Ansawdd Gofal – Maethu Cymru RhCT.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Rheolwr Gwasanaeth ddiweddariad i’r Bwrdd Rhianta Corfforaethol ar y gwaith monitro a gynhaliwyd o dan Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016, Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, a Rheoliadau Gwasanaethau Maethu Awdurdodau Lleol (Cymru) 2018. Er nad oes gofyniad i ddilyn 'Canllawiau ar Gwblhau Adolygiad o Ansawdd y Gofal' AGC, cafodd y dull yma ei ddewis i helpu i gyflawni'r cyfrifoldebau statudol.

 

Dymunodd y Cadeirydd ddiolch i'r Swyddog am yr adroddiad a chroesawodd y cynnydd o ran darpariaeth gofal maeth, er y nodwyd bod diffyg mawr yn yr ardal o hyd yn enwedig o ran gofal maeth i bobl ifainc yn eu harddegau. Fe wnaeth y Cadeirydd sylw ar sgil-effaith yr angen am leoliadau preswyl a lleoliadau sy'n gweithredu heb gofrestru (OWR) o ganlyniad i'r diffyg yma. 

 

Cydnabu Aelod o'r Bwrdd canlyniadau cadarnhaol yr arolygiad a gynhaliwyd ym mis Tachwedd gan Arolygiaeth Gofal Cymru, cyn rhoi sylwadau ar y newidiadau mewn polisi a deddfwriaeth sydd wedi dod i rym ers arolygiad diwethaf y gwasanaeth.  Gofynnodd yr Aelod gwestiwn ynghylch y lleoliadau brys sydd ar waith a chytunodd y swyddog i ddarparu'r ffigurau yma i'r Aelodau.

 

PENDERFYNWYD nodi cynnwys yr adroddiad.

 

45.

Trafod cadarnhau'r Penderfyniad isod:

“Bod y cyfarfod hwn yn cadw aelodau o'r wasg ac aelodau o'r cyhoedd allan o ystafell y cyfarfod, dan Adran 100A(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y'i diwygiwyd), yn ystod trafod yr eitem nesaf, ar y sail y byddai'n debygol o olygu datgelu gwybodaeth eithriedig yn ôl diffiniad paragraff 13 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf.”

 

Cofnodion:

PENDERFYNWYDbod y cyfarfod hwn yn cadw aelodau o'r wasg ac aelodau o'r cyhoedd allan o ystafell y cyfarfod, dan Adran 100A(4) o'r Ddeddf Llywodraeth Leol (fel y'i diwygiwyd), yn ystod trafod yr eitem nesaf, ar y sail y byddai'n debygol o olygu datgelu gwybodaeth eithriedig yn ôl diffiniad paragraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A o'r Ddeddf.

 

46.

Adroddiadau Rheoliad 73

Derbyn diweddariad ynghylch ymweliadau Rheoliad 73 a sefyllfa bresennol Gwasanaeth Seibiant a Chartrefi Preswyl i Blant y Cyngor.

 

 

Cofnodion:

Rhoddodd Rheolwr y Gwasanaethau Preswyl ddiweddariad i’r Bwrdd ar y gwaith monitro a gynhaliwyd o dan Reoliad 73 o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016.

 

Roedd yr adroddiad yn amlinellu'r sefyllfa bresennol yn y cartrefi preswyl i blant a'r gwasanaethau seibiant byr (preswyl) i blant anabl.

 

Yn dilyn trafodaeth, PENDERFYNWYD

i.         Nodi cynnwys yr adroddiad.

 

47.

Y newyddion diweddaraf mewn perthynas â Phlant sy'n Derbyn Gofal: Strategaeth Gofal Preswyl 2022-2027

Derbyn y newyddion diweddaraf mewn perthynas â Phlant sy'n Derbyn Gofal: Strategaeth Gofal Preswyl 2022-2027

 

Cofnodion:

Rhannodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau i Blant wybodaeth â'r Bwrdd Rhianta Corfforaethol am blant mewn lleoliadau sy'n Gweithredu Heb Gofrestru (OWR), a chynlluniau'r Gwasanaethau i Blant ar gyfer cefnogi'r plant hynny, a dod â'r trefniadau hynny i ben.

 

Ar ôl ystyried yr adroddiad eithriedig, PENDERFYNODD y Bwrdd i wneud y canlynol:

1.    Nodi'r wybodaeth a oedd wedi ei chynnwys yn yr adroddiad;

2.    Derbyn adroddiadau dilynol tan nad oes sefyllfaoedd OWR ar gyfer pobl ifainc sy'n derbyn gofal yn Rhondda Cynon Taf.