Agenda, Penderfyniadau a Chofnodion drafft

Lleoliad: Rhithwir

Cyswllt: Hannah Jones - Uned Busnes y Cyngor  07385401954

Cyfryngau

Eitemau
Rhif eitem

28.

Croeso ac Ymddiheuriadau

Cofnodion:

Croesawodd yr Is-Gadeirydd bawb i gyfarfod y Bwrdd Rhianta Corfforaethol a nododd y derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb oddi wrth Gadeirydd y Bwrdd, sef y Cynghorydd G Caple, a Chyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol.

 

29.

Datgan Buddiant

Derbyn datganiadau o fuddiannau personol gan Aelodau, yn unol â'r Cod Ymddygiad.

 

Nodwch:

1.    Mae gofyn i Aelodau ddatgan rhif a phwnc yr agendwm mae eu buddiant yn ymwneud ag ef a mynegi natur y buddiant personol hwnnw; a

2.   Lle bo Aelodau'n ymneilltuo o'r cyfarfod o ganlyniad i ddatgelu buddiant sy'n rhagfarnu, rhaid iddyn nhw roi gwybod i'r Cadeirydd pan fyddan nhw'n gadael.

 

Cofnodion:

Yn unol â Chod Ymddygiad y Cyngor, ni wnaethpwyd unrhyw ddatganiadau mewn perthynas â'r Agenda.

 

 

30.

Cofnodion pdf icon PDF 128 KB

Cofnodion:

Cadarnhau cofnodion o gyfarfod y Bwrdd Rhianta Corfforaethol a gafodd ei gynnal ar [insert date] yn rhai cywir.

 

31.

Gwerthusiad o'r Model Clwstwr Ysgolion ar gyfer gwariant Grant Datblygu Disgyblion i Blant sy'n Derbyn Gofal yn ystod blwyddyn ariannol 2022–2023 pdf icon PDF 338 KB

Derbyn diweddariad mewn perthynas â gwerthuso'r model clwstwr ysgolion ar gyfer cyllid Grant Datblygu Disgyblion i Blant sy'n Derbyn Gofal yn ystod blwyddyn ariannol 2022/23 yn Rhondda Cynon Taf.

 

Cofnodion:

Rhoddodd yr Arweinydd ar gyfer Llesiant a Grwpiau Agored i Niwed – Consortiwm Canolbarth y De a Phennaeth yr Ysgol Rithwir yr wybodaeth ddiweddaraf i'r Bwrdd Rhianta Corfforaethol ar werthusiad y model clwstwr ysgolion at ddiben cyllid Grant Datblygu Disgyblion ar gyfer Plant sy'n Derbyn Gofal yn ystod blwyddyn ariannol 2022/23 yn Rhondda Cynon Taf.

 

Cafodd yr Aelodau wybod rhagor am gefndir y broses ddyrannu grantiau a dywedwyd bod dyraniad cyffredinol y Grant Datblygu Disgyblion i Blant sy’n Derbyn Gofal ar gyfer y consortiwm wedi’i ddyrannu fel y ganlyn ar gyfer 2022-23:

·        Cyflog Arweinydd Rhanbarthol wedi'i leoli yng Nghonsortiwm Canolbarth y De;

·        Cefnogaeth i ddisgyblion sy'n Blant sy'n Derbyn Gofal ac wedi'u lleoli y tu allan i Gymru;

·        Grant Bwrsariaeth a ddirprwyir gan Awdurdod Lleol;

·        Darparu calendr hyfforddi i staff yr ysgol;

·        Cydweithio o ysgol i ysgol gan weithio drwy'r cynlluniau clwstwr.

 

Dywedodd swyddogion wrth y Bwrdd fod cyrchfannau ôl-16 ar gyfer dysgwyr sy'n Blant sy'n Derbyn Gofal yn RhCT yn parhau i fod yn flaenoriaeth i'r Ysgol Rithwir a bod y cysylltiadau agos yn cael eu meithrin gyda'r garfan Gofal i Weithio, y Gwasanaeth Ymgysylltu a Chyfranogiad Ieuenctid, colegau a darparwyr hyfforddiant.

 

O ran y broses Cynllun Addysg Personol, hysbyswyd yr Aelodau y bu cynnydd yn nifer y disgyblion sy'n mynychu eu hadolygiadau Cynllun Addysg Personol. Eglurwyd bod y Cynllun Addysg Personol a'r broses gysylltiedig yn canolbwyntio ar yr unigolyn ac yn cynnwys yr hyn sy’n bwysig i’r plentyn/person ifanc ac ar ei gyfer, beth sy’n gweithio/ddim yn gweithio a dyheadau ar gyfer y dyfodol. Roedd angen gwneud gwaith pellach i sicrhau bod pob disgybl iau yn gwybod beth yw Cynllun Addysg Personol a bod pob disgybl yn cymryd rhan yn y broses. Ychwanegwyd mai prif anfantais y gwerthusiad oedd diffyg ymgysylltu â rhieni maeth, a bod angen gwella ar hyn yn y dyfodol.

 

Gofynnodd un Aelod am eglurhad ynghylch y diffyg ymgysylltu â rhieni maeth. Cydnabu'r swyddog y pryderon ac eglurodd fod y pandemig wedi cael effaith negyddol ond sicrhaodd y Bwrdd y bu gwell gwaith ymgysylltu â rhieni maeth yn dilyn y cyfnod sydd dan sylw yn yr adroddiad. Dywedodd y swyddog fod angen i'r ysgol rithwir ymwneud mwy â dosbarthiadau arloesol ar gyfer rhieni maeth; ac felly, clywodd yr Aelodau y byddai'r swyddogion yn rhoi cyflwyniad mewn perthynas â'r ysgol rithwir yng Nghynhadledd Flynyddol Rhaglen Maethu Lles ym mis Chwefror, gyda'r nod o gyrraedd cynulleidfa ehangach. Hysbysodd y swyddog y Bwrdd hefyd am achlysur dathlu Plant sy'n Derbyn Gofal, a gynhaliwyd ym mis Tachwedd 2023 a siaradodd yn gadarnhaol am yr ymgysylltiad â rhieni maeth a oedd wedi enwebu eu plant maeth am wobrau ac wedi dod i'w cefnogi.

 

Diolchodd y Cadeirydd i'r swyddogion am y cyflwyniad manwl ac roedd yn falch o nodi bod y Grant Amddifadedd Disgyblion ar gyfer Plant sy'n Derbyn Gofal yn cael ei ddefnyddio i gynorthwyo'r rhai mwyaf agored i niwed yn y Fwrdeistref Sirol, gyda phwyslais arbennig ar les. Croesawodd y Cadeirydd y defnydd o'r cyllid gan ysgolion i ehangu  ...  view the full Cofnodion text for item 31.

32.

Tros Gynnal Plant Cymru pdf icon PDF 91 KB

Derbyn adroddiad cynnydd chwarterol Tros Gynnal Plant Cymru.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd Tros Gynnal Plant (TGP) Cymru ddiweddariad i’r Bwrdd Rhianta Corfforaethol ar y cynnydd a wnaed yn ystod y cyfnod Gorffennaf – Medi 2023.

 

Clywodd yr Aelodau fod 61 o bobl ifainc wedi manteisio ar Eiriolaeth yn Seiliedig ar Faterion yn ystod y cyfnod; ac o blith y 61 o unigolion, cyflwynwyd 72 o faterion. Roedd 19 wedi cael profiad o dderbyn gofal, a oedd yn gynnydd enfawr o gymharu â’r chwarter blaenorol lle roedd 8 o bobl ifainc â phrofiad o dderbyn gofal. O blith y 19 o bobl ifainc, roedd 9 yn defnyddio Eiriolaeth yn Seiliedig ar Faterion am y tro cyntaf. Yn ystod y cyfnod, roedd 11 o bobl ifainc wedi’u cyfeirio ar gyfer y Cynnig Rhagweithiol, a daeth pawb ond un yn gymwys yn ystod y chwarter neu’r chwarter blaenorol.

 

Clywodd yr Aelodau fod 23 o bobl ifainc â Phrofiad o Dderbyn Gofal wedi dod yn gymwys ar gyfer y Cynnig Rhagweithiol yn ystod y cyfnod dan sylw. Cafodd 10 o’r cynigion hynny eu gwrthod, daeth 9 yn gymwys ar gyfer y gwasanaeth yn ystod y chwarter ac ni chyfeiriwyd 2 gan y teimlwyd nad oedd modd iddyn nhw gydsynio.

 

Mae hyn yn golygu bod 39% o bobl ifainc cymwys wedi'u hatgyfeirio ar gyfer y Cynnig Rhagweithiol o'i gymharu â 25% yn y chwarter blaenorol.

 

Dywedodd y swyddogion fod y materion mwyaf cyffredin yn ymwneud â lleoliadau a chyswllt, gyda'r rhan fwyaf o bobl ifainc eisiau treulio mwy o amser gydag aelodau o'r teulu neu ffrindiau; a’r math mwyaf cyffredin o atgyfeirio oedd hunan-atgyfeirio, a oedd yn aml o ganlyniad i gyfarfod llwyddiannus i fanteisio ar y cynnig gweithredol.

 

Clywodd yr Aelodau am achos enghreifftiol a oedd yn amlygu gwaith cadarnhaol y gwasanaeth eiriolaeth.

 

Cyn gorffen, rhoddodd Tros Gynnal Plant Cymru y newyddion diweddaraf i’r Bwrdd am Wasanaeth Ymwelwyr Annibynnol Cwm Taf Morgannwg ar gyfer y cyfnod Ebrill – Medi 2023. Roedd 3 o blant a phobl ifainc wedi'u hatgyfeirio i'r gwasanaeth ond nid oedd unrhyw achosion o baru yn RhCT ar hyn o bryd. Clywodd yr Aelodau mai'r bwriad oedd cronni adnoddau lle bo modd i dyfu'r maes gwasanaeth a pharhau i recriwtio gwirfoddolwyr cyn hyrwyddo'r gwasanaeth, er mwyn osgoi amseroedd aros hir i bobl ifainc.

 

Diolchodd y Cadeirydd i Tros Gynnal Plant Cymru am yr adroddiad llawn gwybodaeth a chanmolodd y defnydd o ddata hygyrch ac astudiaethau achos i gael cipolwg pellach ar waith gwerthfawr y gwasanaeth eiriolaeth. O ran tueddiadau, holodd y Cadeirydd a oedd y chwarteri blaenorol wedi dangos cynnydd tebyg yn y rhai oedd yn defnyddio’r gwasanaeth, a chadarnhaodd Tros Gynnal Plant Cymru y byddai cynnydd arall yn debygol yn chwarter 3.

 

Roedd un Aelod wedi’i galonogi gan y cynnydd yn ffigurau defnyddwyr y gwasanaeth eiriolaeth, a holodd a oedd rheswm y tu ôl i’r cynnydd yn nifer y plant iau a’r cynnydd yn nifer y merched sy’n defnyddio’r gwasanaeth. Dywedodd Tros Gynnal Plant Cymru nad oedd unrhyw esboniad am hyn, a bod y data yn tueddu i newid rhwng chwarteri.  ...  view the full Cofnodion text for item 32.

33.

Adroddiad Blynyddol Mabwysiadu Rhanbarthol y Fro, y Cymoedd, a Chaerdydd 2022–2023 pdf icon PDF 146 KB

Derbyn Adroddiad Blynyddol y Cydwasanaeth Mabwysiadu Rhanbarthol.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Darparodd Cyfarwyddwr Gwasanaeth y Gwasanaethau i Blant wybodaeth i'r Bwrdd Rhianta Corfforaethol am gyflawniad y Bwrdd Cydweithrediad Mabwysiadu Rhanbarthol.

 

Mae Cydweithrediad Mabwysiadu yn y Fro, y Cymoedd a Chaerdydd (VVC) yn darparu gwasanaeth mabwysiadu rhanbarthol i Gyngor Bro Morgannwg, Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful, Cyngor Caerdydd a Chyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf, yn rhan o’r Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol yng Nghymru (NAS). Tynnwyd sylw'r Aelodau at seithfed adroddiad blynyddol y Cydweithrediad, a oedd yn trafod y cyfnod o 1 Ebrill 2021 i 30 Medi 2022.

 

Ar y cyfan, dywedodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth fod cyflawniad y gwasanaeth wedi bod yn gadarnhaol a bod trefniadau llywodraethu da ar waith. Roedd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth yn falch o nodi bod RhCT wedi cynnig cyflenwad gwych o fabwysiadwyr a'i fod yn achub y blaen ar Gaerdydd; nodwyd hefyd bod RhCT yn arwain y maes parhad cynnar yng Nghymru. Manteisiodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth ar y cyfle i ganmol gwaith yr ymarferwyr ac yn bwysicaf oll, y mabwysiadwyr, am eu brwdfrydedd.

 

Aeth y Cyfarwyddwr Gwasanaeth ymlaen i dynnu sylw'r Bwrdd at y 72% a gafodd eu paru yn y rhanbarth; a'r cyflawniad o 90% o ran gwaith taith bywyd, gan bwysleisio pwysigrwydd cefnogi mabwysiadwyr gyda'r gwaith hanfodol a datblygu ymlyniad.

 

Siaradodd Cyfarwyddwr y Gwasanaeth yn gadarnhaol am y gostyngiad yng nghyfradd yr atgyfeiriadau gwasanaeth ar gyfer RhCT, a oedd yn gysylltiedig â'r gwaith cymorth i deuluoedd ar sail tystiolaeth.

 

Roedd un Aelod o'r Pwyllgor yma hefyd yn Aelod o’r Panel Mabwysiadu, ac roedd yn falch o nodi’r nifer o drigolion yn RhCT a oedd yn awyddus i fabwysiadu, gan ganmol ansawdd eu gofal a’u hymrwymiad i’r plant. Roedd yr Aelod hefyd yn falch o nodi na fu unrhyw darfu ar y broses fabwysiadu a adroddwyd yn ystod y cyfnod dan sylw, a soniodd pa mor annifyr y mae modd i hynny fod i’r mabwysiadwr a’r plentyn sy'n rhan o'r broses. Manteisiodd yr Aelod ar y cyfle hefyd i ganmol ansawdd y llythyrau bywyd diweddarach.

 

Adleisiodd y Cadeirydd y sylwadau cynharach ac roedd yn falch o nodi'r cynnydd yn y gronfa gymeradwy o fabwysiadwyr yn y rhanbarth. Serch hynny, aeth y Cadeirydd ati i gydnabod yr angen i leihau'r rhestr aros ar gyfer atgyfeiriadau ar gyfer y rhai mwyaf agored i niwed, a'r angen am fwy o fabwysiadwyr ar gyfer plant ag anghenion mwy cymhleth. Nododd y Cadeirydd o'r adroddiad, nad oedd y rhanbarth wedi profi gostyngiad amlwg yn yr atgyfeiriadau i fabwysiadu fel sy'n amlwg mewn ardaloedd eraill, a gofynnodd am eglurhad. Dywedodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth fod gostyngiad amlwg yn yr atgyfeiriadau i fabwysiadu wedi bod yn ystod y pandemig a bod gostyngiad parhaus wedi bod mewn rhai ardaloedd. Nododd fod hyn yn amrywio o ardal i ardal oherwydd y pellter a deithiwyd, ac o ran cynigion cymorth i deuluoedd a'r arferion sydd ar waith o ran diwylliant ym mhob ardal. Dywedodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth fod RhCT yn anelu at roi rhagor o ddewis i deuluoedd ac os bernir nad yw’n ddiogel i blentyn aros gyda’i deulu,  ...  view the full Cofnodion text for item 33.

34.

Y diweddaraf o ran cyfranogiad plant a phobl ifainc â phrofiad o fod mewn gofal pdf icon PDF 142 KB

Derbyn diweddariad ar y cynnydd sydd wedi'i wneud mewn perthynas â Strategaeth Cyfranogiad 2023-2026 a rhoi adborth ar y gweithgareddau cyfranogiad a gynhaliwyd gan y Gwasanaethau i Blant yn ystod y chwarter diwethaf.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Swyddog Cyfranogiad y newyddion diweddaraf i'r Aelodau ar y cynnydd chwarterol a gyflawnwyd wrth fwrw ymlaen â'r cynllun gweithredu, yn rhan o Strategaeth Cyfranogiad 2023-2026 a rhoddodd adborth ar y gweithgareddau cyfranogiad y mae'r Gwasanaethau i Blant wedi'u cynnal yn y chwarter diwethaf.

 

Tynnodd y swyddog sylw'r Aelodau at adran 3 yn yr adroddiad, a oedd yn manylu ar nifer o fentrau a oedd i gyd â'r nod o annog plant a phobl ifainc sydd â phrofiad o dderbyn gofal i godi eu llais. Roedd un fenter yn ymwneud â helpu'r bobl ifainc i ymgysylltu'n well â'r Bwrdd a dysgu am yr hyn y mae'n ei gynrychioli.

 

Hysbyswyd yr Aelodau hefyd fod Addewid Bwrdd Rhianta Corfforaethol drafft ar gyfer RhCT wedi'i lunio, sy'n adeiladu ar 'Siarter Rhianta Corfforaethol - Addewid Cymru' Llywodraeth Cymru. Byddai'r addewid drafft yn cael ei gyflwyno i gyfarfod Cabinet yn y dyfodol i'w gymeradwyo, cyn ei rannu gyda'r Bwrdd Rhianta Corfforaethol. Mae hyn yn adeiladu ar y llais a’r gwaith cyfranogiad yn RhCT o fis Medi 2022 hyd heddiw ar gyfer pobl ifainc sydd â phrofiad o dderbyn gofal, ac mae'n dangos sut mae’r Awdurdod Lleol yn datblygu ei flaenoriaethau allweddol i gefnogi a chydweithio â phlant a phobl ifainc sydd â phrofiad o dderbyn gofal yn RhCT.

 

Canmolodd un Aelod waith y gwasanaeth ac roedd yn llwyr gefnogi’r addewid.

 

Adleisiodd y Cadeirydd sylwadau’r Aelod o ran yr addewid. Mewn perthynas â'r strategaeth gyfranogiad, teimlai'r Cadeirydd fod unrhyw waith a wneir gyda'r nod o ehangu barn y bobl ifainc yn ffordd gadarnhaol a gwych o lunio'r gwasanaethau. Siaradodd y Cadeirydd am y cyfleoedd a amlygwyd mewn perthynas â'r Bwrdd Rhianta Corfforaethol a chroesawodd y cyfle i ymgysylltu â phobl ifainc i ddangos gwaith y Bwrdd a'i uchelgeisiau.

 

Dywedodd y Cadeirydd wrth y Bwrdd ei fod wedi bod yn ddigon ffodus i fynd i achlysur dathlu Plant sy'n Derbyn Gofal yn 2023 a dywedodd ei bod hi'n wych gallu dathlu llwyddiannau’r bobl ifainc ysbrydoledig.

 

PENDERFYNODD y Bwrdd Rhianta Corfforaethol i wneud y canlynol:

1.    Nodi'r wybodaeth a oedd wedi ei chynnwys yn yr adroddiad;

2.    Gwneud sylwadau ar yr wybodaeth a ddarparwyd.

 

 

35.

Gwasanaethau Cyfiawnder Ieuenctid Cwm Taf pdf icon PDF 93 KB

Derbyn diweddariad mewn perthynas â gwaith Gwasanaeth Troseddau'r Ifainc Cwm Taf.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd Pennaeth Gwasanaethau Cyfiawnder Ieuenctid Cwm Taf yr wybodaeth ddiweddaraf i'r Bwrdd Rhianta Corfforaethol ynghylch 'Protocol Cymru Gyfan ar gyfer Lleihau Troseddu Plant a Phobl Ifainc 2022', a rhoddodd yr wybodaeth leol ddiweddaraf am blant sydd â phrofiad o dderbyn gofal yn Rhondda Cynon Taf.

 

Gan gyfeirio at y cynnydd yn nifer y plant yn y system gyfiawnder ieuenctid, holodd un Aelod a oedd y goblygiadau iechyd meddwl yn dilyn y pandemig wedi chwarae rhan, a chytunodd y swyddog â hynny. Eglurodd, ers y pandemig, fod plant ag anghenion mwy cymhleth yn dod i mewn i'r system a bod galw am ragor o ddarpariaeth iechyd o ran CAMHS ac ymwelwyr iechyd. Roedd yr Aelodau'n falch o glywed bod gweithiwr CAMHS ychwanegol wedi'i benodi'n fewnol am un diwrnod yr wythnos, a fyddai'n cynorthwyo ymarferwyr i lywio unrhyw gynlluniau ymyrryd yn y dyfodol.

 

Aeth y Cadeirydd ati i gydnabod ôl-effeithiau'r pandemig a gofynnodd am ragor o wybodaeth mewn perthynas â'r rhai sy'n dod i mewn i'r system am y tro cyntaf. Dywedodd y Swyddog fod y sefyllfa'n debyg ledled Cymru, ac mae darn o waith a wnaed mewn perthynas â newydd ddyfodiaid yn ddiweddar wedi nodi bod difrifoldeb y troseddau yn golygu nad oedd y gwasanaeth wedi bod yn dargyfeirio unigolion cystal dros y 12 mis diwethaf. Esboniodd fod plant yn cael eu hanfon yn syth ymlaen i'r rhan statudol o'r gwasanaeth ac yn dod yn destun gorchmynion cyfeirio. Sicrhaodd y swyddog y Bwrdd y byddai rhagor o eglurder am hyn mewn cyfarfod yn y dyfodol yn dilyn dadansoddiad pellach o'r niferoedd.

 

Aeth y Cadeirydd ati i gydnabod bod gor-gynrychiolaeth o bobl ifainc â phrofiad o dderbyn gofal yn y system cyfiawnder troseddol, a phwysleisiodd bwysigrwydd herio troseddu cynnar oherwydd yr effaith andwyol y mae’n ei chael ar ragolygon yr unigolion yma yn y dyfodol. Croesawodd y Cadeirydd adroddiadau pellach a'r cyfle i wahodd asiantaethau partner i gyfarfod yn y dyfodol.

 

PENDERFYNODDy Bwrdd Rhianta Corfforaethol i wneud y canlynol:

1.    Cydnabod cyhoeddi'r adroddiad;

2.    Derbyn adroddiadau pellach maes o law er mwyn cael y diweddaraf am ddata lleol/rhanbarthol a sut mae’r cynnydd a’r gwelliannau a wneir yn cyfrannu at ganlyniadau gwell i blant sydd wedi derbyn gofal; a

3.    Gwahodd asiantaethau partner perthnasol i drafod eu defnydd o brotocol Cymru Gyfan ac unrhyw ddatblygiadau gwasanaeth sydd wedi'u cynllunio neu sydd ar waith ar hyn o bryd er mwyn hyrwyddo arfer sy'n lleihau troseddoli plant sydd â phrofiad o ofal yn ddiangen.

 

 

36.

Trafod Cadarnhau'r Penderfyniad Isod:

Cofnodion:

PENDERFYNWYDbod y cyfarfod yma'n cadw aelodau o'r wasg ac aelodau o'r cyhoedd allan o ystafell y cyfarfod, dan Adran 100A(4) o'r Ddeddf Llywodraeth Leol (fel y'i diwygiwyd), yn ystod trafod yr agendwm nesaf, ar y sail y byddai'n debygol o olygu datgelu gwybodaeth eithriedig yn unol â diffiniad paragraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A o'r Ddeddf.

 

 

37.

Y diweddaraf mewn perthynas â Strategaeth Gofal Preswyl 2022-2027: Plant sy'n derbyn Gofal

Cofnodion:

Rhannodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau i Blant wybodaeth â'r Bwrdd Rhianta Corfforaethol am blant mewn lleoliadau sy'n Gweithredu Heb Gofrestru (OWR), a chynlluniau'r Gwasanaethau i Blant ar gyfer cefnogi'r plant hynny, a dod â'r trefniadau hynny i ben.

 

Ar ôl ystyried yr adroddiad eithriedig, PENDERFYNODD y Bwrdd i wneud y canlynol:

1.    Nodi'r wybodaeth a oedd wedi ei chynnwys yn yr adroddiad;

2.    Derbyn adroddiadau dilynol tan nad oes sefyllfaoedd OWR ar gyfer pobl ifainc sy'n derbyn gofal yn Rhondda Cynon Taf.

 

 

38.

Gwasanaethau Cymdeithasol – Cwynion a Chanmoliaeth

Derbyn trosolwg o weithredu ac effeithiolrwydd trefn gwynion statudol y Gwasanaethau Cymdeithasol.

 

 

Cofnodion:

Rhoddodd Rheolwr Cwynion, Ymgysylltu a Gwella Gwasanaeth grynodeb i'r Bwrdd Rhianta Corfforaethol o'r trefnau gweithredu ac effeithiolrwydd gweithdrefn cwynion y Gwasanaethau Cymdeithasol statudol rhwng 1 Ebrill 2017 a 30 Mehefin 2017.

 

Roedd yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth am nifer y cwynion a ddaeth i law, natur y cwynion, ac unrhyw wersi a ddysgwyd, yn ogystal â manylu ar ymholiadau gan Gynghorwyr, Aelodau Cynulliad ac Aelodau Seneddol a nifer y cwynion a ddaeth i law.