Lleoliad: Rhithwir
Cyswllt: Tracy Watson - Uwch Swyddog Democrataidd a Craffu 07747 485567
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB Cofnodion: Croesawodd y Cadeirydd Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol S Hickman i'w chyfarfod cyntaf o'r Bwrdd Rhianta Corfforaethol. Doedd dim ymddiheuriadau am absenoldeb.
|
|
DATGAN BUDDIANT Derbyn datganiadau o fuddiannau personol gan Aelodau, yn unol â'r Cod Ymddygiad.
Nodwch:
1. Mae gofyn i Aelodau ddatgan rhif a phwnc yr agendwm mae eu buddiant yn ymwneud ag ef a mynegi natur y buddiant personol hwnnw; a
2. Lle bo Aelodau'n ymneilltuo o'r cyfarfod o ganlyniad i ddatgelu buddiant sy'n rhagfarnu, rhaid iddyn nhw roi gwybod i'r Cadeirydd pan fyddan nhw'n gadael. Cofnodion: Yn unol â Chod Ymddygiad y Cyngor, ni wnaethpwyd unrhyw ddatganiadau mewn perthynas â'r agenda.
|
|
Cadarnhau cofnodion o gyfarfod y Bwrdd Rhianta Corfforaethol ar 27 Mehefin 2023 a 18 Gorffennaf 2023 yn rhai cywir. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cadarnhau cofnodion o gyfarfod y Bwrdd Rhianta Corfforaethol a gafodd ei gynnal ar [insert date] yn rhai cywir.
|
|
CYMORTH IECHYD MEDDWL PDF 173 KB Derbyn gwybodaeth am y gwasanaethau sydd ar gael i wella lles emosiynol a diwallu anghenion iechyd meddwl pobl ifainc ag anghenion gofal a chymorth. Cofnodion: Rhoddodd Gyfarwyddwr y Gwasanaethau i Blant wybodaeth i'r Bwrdd Rhianta Corfforaethol am y gwasanaethau sydd ar gael i wella lles emosiynol a diwallu anghenion iechyd meddwl pobl ifainc ag anghenion gofal a chymorth.
Cafodd sylw'r aelodau ei dynnu at adran 4 yr adroddiad, a oedd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf ar y meysydd canlynol o ddarpariaeth y gwasanaeth: · Strategaeth y Blynyddoedd Cynnar; · Datblygu'r Dull Ysgol Gyfan o'r enw Shine; · Ymsefydlu'r Un Pwynt Mynediad ar gyfer Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a'r Glasoed (‘CAMHS’); · Lansio'r Rhaglen Gwella Gwasanaethau Niwrowahaniaeth; · Datblygu Dull Therapiwtig ar gyfer Plant sy'n Derbyn Gofal; · Carfan Teuluoedd Therapiwtig.
Er y cafodd ei gydnabod bod pwysau cynyddol ar y Bwrdd Iechyd, mynegodd sawl Aelod bryderon ynghylch hygyrchedd y Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a'r Glasoed a'r gallu i ymateb i anghenion pobl ifainc. Wrth ei holi am natur y berthynas waith gyda chydweithwyr yn y Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a'r Glasoed, dywedodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth wrth yr Aelodau fod gwaith integreiddio cadarnhaol yn cael ei wneud ond bod anhawster i gael mynediad at ymgynghori.
Siaradodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth am yr Asesiad Iechyd i Blant sy'n Derbyn Gofal a ddarparwyd gan y Bwrdd Iechyd, a chynigiodd y byddai'n fuddiol defnyddio dull sy'n llai seiliedig ar glinigau ac yn fwy integredig, o hyn ymlaen.
Nododd y Cadeirydd fod Plant sy'n Derbyn Gofal, mewn rhai achosion, yn aros am tua thair blynedd i gael mynediad at y gwasanaeth Niwroamrywiaeth a chynigiodd y dylid estyn gwahoddiad i un o gyfarfodydd y Bwrdd yn y dyfodol i Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg a chynrychiolwyr o'r Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a'r Glasoed (‘CAMHS’) a'r Rhaglen Gwella Gwasanaethau Niwrowahaniaeth.
PENDERFYNODDy Bwrdd Rhianta Corfforaethol i wneud y canlynol: 1. Nodi cynnwys yr adroddiad; ac 2. Estyn gwahoddiad i Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg fynychu cyfarfod o'r Bwrdd Rhianta Corfforaethol yn y dyfodol i drafod yr Addewid, y Gwasanaeth Iechyd Meddwl Plant a'r Glasoed, a'r Rhaglen Gwella Gwasanaethau Niwrowahaniaeth.
Nodwch – doedd Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol S Hickman ddim yn bresennol ar gyfer yr eitem yma.
|
|
NEWYDDION DIWEDDARAF Y GWASANAETH MAGU PDF 150 KB Derbyngwybodaeth am gynnydd y gwasanaeth Magu ers ei lansio ym mis Mai 2023. Cofnodion: Darparodd Pennaeth y Gwasanaeth Ymyrraeth Ddwys a Rheolwr Arfer a Chyflawniad Carfan Magu wybodaeth i'r Bwrdd Rhianta Corfforaethol am gynnydd y gwasanaeth Magu ers ei lansio ym mis Mai 2023.
Amcan prosiect Magu yw darparu llwybr cymorth integredig i fenywod beichiog a darpar dadau trwy wasanaethau ymyrraeth gynnar a ffiniau gofal, gan ganolbwyntio ar feithrin sgiliau a chydnerthedd a lleihau risg. Mae'r dull ymyrraeth gynnar yn darparu cymorth wedi'i dargedu i deuluoedd er mwyn atal rhagor o ymyrraeth statudol gan leihau nifer y plant sydd angen mynd i gartrefi gofal yn syth ar ôl eu geni neu yn eu blwyddyn gyntaf yn y pen draw.
Tynnodd y Pennaeth Gwasanaeth sylw'r Aelodau at adran 4 o'r adroddiad, sy'n nodi amcanion Prosiect Magu a'i gynnydd hyd yma'n glir. Er mai dim ond ers mis Mai 2023 y mae'r prosiect wedi bod ar waith, roedd y swyddog yn falch o roi gwybod i'r Bwrdd am y 51 o atgyfeiriadau sydd wedi'u gwneud hyd yma a bod yr adborth gan ddefnyddwyr y gwasanaeth wedi bod yn gadarnhaol.
Roedd un Aelod yn falch o nodi'r cynnydd sydd wedi'i wneud ac yn edrych ymlaen at dderbyn data cymharol yn y blynyddoedd i ddod. Siaradodd yr Aelod am ei rôl hi ar y Panel Mabwysiadu a chyfeiriodd at achosion o rieni'n colli plant ar ôl iddyn nhw gael eu rhoi mewn gofal yn syth ar ôl eu geni. Dywedodd yr Aelod ei bod hi wedi'i chalonogi o glywed bod modd i Brosiect Magu atal canlyniadau torcalonnus o'r fath.
Gofynnodd Pennaeth yr Ysgol Rithwir a fyddai swyddogion yn gweithio gyda phob teulu hyd nes bod y plentyn yn flwydd oed. Eglurwyd mai'r nod oedd gweithio gyda phob teulu nes bod y plentyn yn flwydd oed, ond mai'r disgwyl oedd y byddai lefel yr ymyrraeth yn lleihau wrth i amser fynd heibio.
Diolchodd y Cadeirydd i'r swyddogion am yr adroddiad cynhwysfawr a phwysleisiodd bwysigrwydd ymyrraeth gynnar.
PENDERFYNODDy Bwrdd: 1. Nodi cynnwys yr adroddiad.
Nodwch – doedd Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol S Hickman ddim yn bresennol ar gyfer yr eitem yma.
|
|
Derbyngwybodaeth am gyflawni swyddogaethau'r Swyddog Adolygu Annibynnol ar gyfer plant sy'n derbyn gofal (PDG). Cofnodion: Rhoddodd y Pennaeth Partneriaethau wybodaeth i'r Bwrdd Rhianta Corfforaethol am gyflawni swyddogaethau'r Swyddog Adolygu Annibynnol ar gyfer plant sy'n derbyn gofal (PDG) yn ystod y cyfnod rhwng 30 Mehefin 2022 a 30 Mehefin 2023.
Cafodd yr aelodau drosolwg o'r gweithgaredd adolygu o'r cyfnod ynghyd â data cyflawniad cymharol manwl.
Diolchodd y Cadeirydd i'r swyddog am yr adroddiad cynhwysfawr a siaradodd am werth cymryd golwg annibynnol ar sicrhau bod anghenion Plant sy'n Derbyn Gofal yn cael eu diwallu gan yr Awdurdod Lleol.
Siaradodd y Cadeirydd am leoliadau y tu allan i'r sir a holodd os oedd modd rhoi bai ar ddiffyg lleoliadau am y ffigurau. Dywedodd y swyddog fod argaeledd lleoliadau yn fater cenedlaethol a bod dod o hyd i leoliad addas ar gyfer anghenion mor gymhleth yn aml yn anodd. Nododd y swyddog, pan mae pobl ifainc yn dymuno cael eu lleoli nôl yn y sir, mae'r garfan yn gweithio gyda nhw i ddod o hyd i leoliadau addas ond roedd yn cydnabod bod llawer gyda theulu neu mewn lleoliadau hirdymor ac doedden nhw ddim yn dymuno cael eu lleoli nôl yn y sir.
Gan gyfeirio at y gostyngiad sylweddol mewn gorchmynion mabwysiadu, gofynnodd y Cadeirydd a oedd unrhyw bryderon. Siaradodd y swyddog am ddiwygio'r Amlinelliad Cyfraith Gyhoeddus ac roedd yn gobeithio bod y gwaith gyda theuluoedd cyn gwneud cais yn y llys, ynghyd â Phrosiect Magu yn cael effaith ar y gostyngiad yn nifer y plant sydd angen eu mabwysiadu.
PENDERFYNODDy Bwrdd: 1. Nodi cynnwys yr adroddiad.
|
|
TROS GYNNAL PLANT (TGP) CYMRU PDF 91 KB Derbyn adroddiad cynnydd chwarterol Tros Gynnal Plant Cymru. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhannodd Tros Gynnal Plant yr wybodaeth ddiweddaraf â’r Bwrdd Rhianta Corfforaethol am gynnydd ar gyfer cyfnod chwarter 1, a oedd yn cwmpasu mis Ebrill 2023 hyd at fis Mehefin 2023.
Clywodd yr Aelodau fod 49 o bobl ifainc wedi manteisio ar y gwasanaeth Eiriolaeth yn Seiliedig ar Faterion yn ystod y cyfnod, a chafodd 29 o bobl ifainc eraill eu hatgyfeirio ar gyfer y Cynnig Gweithredol ledled Rhondda Cynon Taf. Dywedodd y Swyddog fod 11 o bobl ifainc â phrofiad o dderbyn gofal ac 1 person sy'n gadael gofal wedi manteisio ar y gwasanaeth Eiriolaeth yn Seiliedig ar Faterion, a oedd yn cwmpasu gyda 14 o faterion, a chafodd 6 pherson ifanc â phrofiad o dderbyn gofal eu hatgyfeirio ar gyfer y Cynnig Rhagweithiol.
Clywodd yr aelodau bod 24 o bobl ifanc â Phrofiad Gofal wedi dod yn gymwys ar gyfer y Cynnig Rhagweithiol yn ystod y cyfnod. Cafodd 7 o'r cynigion hynny eu gwrthod ac o’r 6 o bobl ifanc â phrofiad o dderbyn gofal a gafodd eu hatgyfeirio ar gyfer y Cynnig Rhagweithiol, daeth 4 yn gymwys ar gyfer y gwasanaeth yn ystod y chwarter a daeth y 2 arall yn gymwys yn y chwarter blaenorol.
Mae hyn yn golygu bod 25% o bobl ifainc cymwys wedi'u hatgyfeirio ar gyfer y Cynnig Rhagweithiol o'i gymharu â 18% yn y chwarter blaenorol.
Diolchodd y Cadeirydd i Tros Gynnal Plant Cymru am yr adroddiad llawn gwybodaeth a dywedodd fod yr astudiaethau achos yn enghreifftiau gwych o bwysigrwydd gwaith eiriolaeth.
PENDERFYNODD y Bwrdd Rhianta Corfforaethol ar y canlynol: 1. Cydnabod y gwaith a wnaed gan TGP Cymru.
|
|
TRAFOD CADARNHAU'R PENDERFYNIAD ISOD: “Bod y cyfarfod hwn yn cadw aelodau o'r wasg ac aelodau o'r cyhoedd allan o ystafell y cyfarfod, dan Adran 100A(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y'i diwygiwyd), yn ystod trafod yr eitem nesaf, ar y sail y byddai'n debygol o olygu datgelu gwybodaeth eithriedig yn ôl diffiniad paragraff 13 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf.” Cofnodion: PENDERFYNWYDbod y cyfarfod yma'n cadw aelodau o'r wasg ac aelodau o'r cyhoedd allan o ystafell y cyfarfod, dan Adran 100A(4) o'r Ddeddf Llywodraeth Leol (fel y'i diwygiwyd), yn ystod trafod yr agendwm nesaf, ar y sail y byddai'n debygol o olygu datgelu gwybodaeth eithriedig yn unol â diffiniad paragraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A o'r Ddeddf.
|
|
Y DIWEDDARAF MEWN PERTHYNAS Â STRATEGAETH GOFAL PRESWYL 2022 I 2027: PLANT SY'N DERBYN GOFAL Derbyn adroddiad eithriedig Cyfarwyddwr y Gwasanaethau i Blant. Cofnodion: Rhannodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau i Blant wybodaeth â'r Bwrdd Rhianta Corfforaethol am blant mewn lleoliadau sy'n Gweithredu Heb Gofrestru (OWR), a chynlluniau'r Gwasanaethau i Blant ar gyfer cefnogi'r plant hynny, a dod â'r trefniadau hynny i ben.
Ar ôl ystyried yr adroddiad eithriedig, PENDERFYNODD y Bwrdd: 1. Nodi'r wybodaeth a oedd wedi ei chynnwys yn yr adroddiad; 2. Derbyn adroddiadau dilynol tan nad oes sefyllfaoedd OWR ar gyfer pobl ifainc sy'n derbyn gofal yn Rhondda Cynon Taf.
|