Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Rhithwir

Cyswllt: Tracy Watson - Uwch Swyddog Democrataidd a Craffu  07747 485567

Cyfryngau

Eitemau
Rhif eitem

11.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb oddi wrth yr Is-Gadeirydd, y Cynghorydd R Lewis, a Chynghorwyr y Fwrdeistref Sirol J Bonetto, P Evans, S Trask, a K Webb.

12.

DATGAN BUDDIANT

Derbyn datganiadau o fuddiannau personol gan Aelodau, yn unol â'r Cod Ymddygiad.

 

Nodwch:

 

1.    Mae gofyn i Aelodau ddatgan rhif a phwnc yr agendwm mae eu buddiant yn ymwneud ag ef a mynegi natur y buddiant personol hwnnw; a

 

2.  Lle bo Aelodau'n ymneilltuo o'r cyfarfod o ganlyniad i ddatgelu buddiant sy'n rhagfarnu, rhaid iddyn nhw roi gwybod i'r Cadeirydd pan fyddan nhw'n gadael.

Cofnodion:

Yn unol â Chod Ymddygiad y Cyngor, doedd dim datganiadau o fuddiant yngl?n â'r agenda.

13.

YMWELIADAU AELODAU'R BWRDD RHIANTA CORFFORAETHOL Â CHARFANAU RHENG FLAEN YN YSTOD BLWYDDYN Y CYNGOR 2022-2023. pdf icon PDF 80 KB

Derbyn adroddiad y Cadeirydd sy'n rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am ymweliadau Aelodau'r Bwrdd Rhianta Corfforaethol â charfanau rheng flaen yn ystod Blwyddyn 2022-23 y Cyngor.

Cofnodion:

Darparodd y Cadeirydd drosolwg i'r Bwrdd Rhianta Corfforaethol o ymweliadau Aelodau'r Bwrdd Rhianta Corfforaethol â Charfanau Rheng Flaen yn ystod Blwyddyn y Cyngor 2022-23.

 

Dywedodd y Cadeirydd mai dyma ei ymweliad cyntaf ef a’r Is-Gadeirydd, gan nodi bod morâl y staff yn uchel, tra’n cydnabod bod popeth wedi newid ar ôl Covid, ond bod staff wir yn addasu i’r ffordd hybrid newydd o weithio. Roedd hyn yn gweithio'n dda felly does dim disgwyl i'r drefn newid.

 

Aeth y Cadeirydd ati i gydnabod fod problemau gyda diffyg staffio o ran gweithwyr cymdeithasol, ond yn gyffredinol roedd y carfanau'n gweithio'n dda. Roedd y llwythi achosion wedi dod yn fwy cymhleth ac wedi cynyddu ers Covid, ond roedd hi'n braf cyfarfod â’r carfanau a dweud diolch. Nododd y Cadeirydd fod yr ymweliadau yn ddefnyddiol iawn ac roedd ef a'r Is-Gadeirydd wedi dysgu cryn dipyn. Bu'n bleser mynd o gwmpas a diolch i'r carfanau am y gwaith sy'n cael ei wneud i ddiogelu plant.

 

PENDERFYNODD y Bwrdd Rhianta Corfforaethol nodi cynnwys yr adroddiad.

 

14.

ADRODDIAD BLYNYDDOL Y BWRDD RHIANTA CORFFORAETHOL 2022-2023 pdf icon PDF 121 KB

Derbyn adroddiad y Cyfarwyddwr Gwasanaeth, Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu, sy'n cyflwyno Adroddiad Blynyddol y Bwrdd Rhianta Corfforaethol ar gyfer Blwyddyn y Cyngor 2022-23 i'r Aelodau.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd yr Uwch Swyddog Busnes Rheoleiddiol a Gweithredol Adroddiad Blynyddol y Bwrdd Rhianta Corfforaethol i'r Aelodau ar gyfer Blwyddyn y Cyngor 2022-23. Roedd yr adroddiad yn ymdrin â chwmpas y gwaith a drafodwyd gan y Bwrdd yn ystod y flwyddyn ac yn cyflwyno'r eitemau a nodwyd i'w hystyried yn y dyfodol. Atgoffodd y swyddog yr Aelodau y byddai'r adroddiad cael ei gyflwyno i'r Pwyllgor Craffu a'r Cabinet pe bydden nhw'n ei gymeradwyo.

 

Dywedodd y Cadeirydd ei bod hi'n bleser dilyn ei ragflaenydd, y Cynghorydd Leyshon, a diolchodd iddi am y gwaith a wnaeth. Roedd manylder yr adroddiadau dros y flwyddyn ddiwethaf yn aruthrol, a llongyfarchodd y Cadeirydd y Swyddogion am eu hymdrechion i lunio'r adroddiadau yma.

 

Diolchodd y Cadeirydd i'r swyddog am yr adroddiad manwl a PHENDERFYNODD y Bwrdd Rhianta Corfforaethol:

 

  1. .Cynnig sylwadau fel y bo'n briodol ar yr Adroddiad Blynyddol drafft cyn ei gyflwyno i'r Cabinet.
  2. Yn amodol ar 1, anfon fersiwn terfynol yr adroddiad i AGC er gwybodaeth.

 

15.

Y DIWEDDARAF O RAN CYFRANOGIAD PLANT A PHOBL IFAINC Â PHROFIAD O FOD MEWN GOFAL YN 2022-2023 pdf icon PDF 157 KB

Derbyn diweddariad mewn perthynas â'r cynnydd sydd wedi'i gyflawni wrth weithredu Strategaeth Gyfranogi 2023-2026 a rhoi adborth mewn perthynas â'r gweithgareddau cyfranogi sydd wedi'u cynnal gan y Gwasanaethau i Blant yn 2022-2023.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Swyddog Graddedig - Cyfranogiad yr wybodaeth ddiweddaraf i'r Bwrdd Rhianta Corfforaethol am y cynnydd a gyflawnwyd wrth symud Strategaeth Cyfranogiad 2023-2026 yn ei blaen, gan roi adborth ar y gweithgareddau cyfranogiad a gynhaliwyd gan y Gwasanaethau i Blant yn ystod 2022-2023. Darperir y rhan fwyaf o'r wybodaeth yn yr Atodiadau.  Trafododd y Swyddog Graddedig – Cyfranogiad y cefndir a’r cynnydd hyd yma o ran Adran 3, gan amlygu nifer o bwyntiau allweddol, cyn rhoi manylion i’r Aelodau am y cyswllt â’r Blaenoriaethau Corfforaethol a Chenedlaethol a Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol. Wedyn, aeth ati i amlinellu'r Camau Nesaf ac Adran 9 yr adroddiad. Daeth y Swyddog Graddedig - Cyfranogiad i ben trwy nodi'r atodiadau ynghlwm i'r Aelodau eu hystyried.

 

Diolchodd y Cadeirydd i'r Swyddog am yr adroddiad a dywedodd ei bod yn wych gweld sylwadau gan Blant, a oedd am i'w lleisiau gael eu clywed, a bod y datganiad yn gywir a phriodol.

 

Nododd y Cadeirydd fod tudalen 45 o'r adroddiad yn gofyn beth allai fod yn well, a gofynnodd a oedd y cynllun yn mynd i'r afael â'r materion a amlygwyd yn yr ymatebion?

 

Eglurodd y Swyddog Graddedig – Cyfranogiad fod hyn yn rhan o gynllun gweithredu'r prosiect i ddatblygu'r wybodaeth i'r cyhoedd gan gymryd i ystyriaeth yr hyn yr oedd pobl ifainc wedi'i ddweud, ond y byddai hefyd yn gweithio gyda phobl ifainc hefyd i ddatblygu'r wybodaeth honno ar gyfer y dyfodol.

 

Holodd un aelod am y gweithdy hydref, gan holi sut beth fyddai hwn?

 

Dywedodd y Swyddog Graddedig – Cyfranogiad y byddai'n datblygu fforwm un llais fel bod Plant sy'n Derbyn Gofal yn cael eu cefnogi drwy staff a'r Bwrdd Rhianta Corfforaethol i gyflwyno eu barn er mwyn cydweithio'n well. Nododd y byddai LlC yn egluro sut olwg fyddai ar y weledigaeth honno, a sut y gellid ei datblygu ar lefel leol, cyn bo hir.

 

Gofynnodd Aelod a fyddai’r gweithdy ar-lein neu’n un hybrid.

 

Eglurodd Cyfarwyddwr Gwasanaeth y Gwasanaethau i Blant mai'r uchelgais ar gyfer y gweithdy arfaethedig oedd darparu cyfarfod wyneb yn wyneb i Aelodau ymgysylltu â phobl ifainc â phrofiad o ofal. Y gobaith oedd mai un o’r canlyniadau fyddai gweithio tuag at sut y gallai pobl ifainc â phrofiad o ofal, ac sydd â phrofiad cyfredol o’r system, gefnogi gwaith y Bwrdd Rhianta Corfforaethol, gan drafod opsiynau i bobl ifainc â phrofiad o ofal fod yn Aelodau o’r Bwrdd e.e. sut i lunio adroddiadau sy’n gyfeillgar i bobl ifainc, penderfyniadau, ac ati. Roedd Cyfarwyddwr Gwasanaeth y Gwasanaethau i Blant yn ymwybodol bod Byrddau Rhianta Corfforaethol yn cael eu cyd-gadeirio gan Aelod Cabinet a pherson ifanc mewn rhai ardaloedd, a oedd yn fodel cryf iawn o gydweithio. Y gobaith fydd anelu at symud i'r cyfeiriad hwnnw.

 

Cytunodd y Cadeirydd fod pobl ifainc eisiau llais ar y lefel uchaf, a'i bod hi'n briodol gwrando ar yr hyn oedd ganddynt i'w ddweud.

 

PENDERFYNODDy Bwrdd Rhianta Corfforaethol:

 

  1. Nodi'r wybodaeth oedd wedi ei chynnwys yn yr adroddiad.

 

16.

DIWYGIADAU RADICAL: OS NAD NAWR, PRYD? pdf icon PDF 177 KB

Derbyn gwybodaeth am adroddiad Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg Senedd Cymru yn dilyn ymchwiliad mewn perthynas ag ymrwymiad Llywodraeth Cymru i ystyried cyfleoedd radical i ddiwygio'r gwasanaethau presennol ar gyfer plant sy'n derbyn gofal ac yn gadael gofal yn rhan o'r Rhaglen Lywodraethu.

Cofnodion:

Darparodd y Cyfarwyddwr Gwasanaethau i Blant, Gwasanaethau i Blant, wybodaeth am adroddiad Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg Senedd Cymru yn dilyn ymchwiliad mewn perthynas ag ymrwymiad Llywodraeth Cymru i ystyried cyfleoedd radical i ddiwygio'r gwasanaethau presennol ar gyfer plant sy'n derbyn gofal ac yn gadael gofal yn rhan o'r Rhaglen Lywodraethu.  Yr uchelgais oedd gwneud yn si?r bod Aelodau'n teimlo eu bod yn cael eu hysbysu am y gwaith o dan ddiwygio radical, mewn perthynas â gwasanaethau i blant, gan ddeall bod ganddo gysylltiad cryf â gwaith y Bwrdd. Roedd llawer iawn o wybodaeth yn yr adroddiad a chlywodd Pwyllgor Plant, Pobl Ifainc ac Addysg Senedd Cymru dystiolaeth o amrywiaeth o ffynonellau, gan gynnwys Gwasanaethau i Blant RhCT, a oedd wedi darparu tystiolaeth ar ffurf fideo ac yn ysgrifenedig. Roedd yr adroddiad yn amlinellu’r dystiolaeth a glywyd, gyda nifer o argymhellion wedi’u nodi yn y tabl crynhoi lefel uchel ar dudalennau 109 – 116 yr adroddiad. Dywedodd Cyfarwyddwr Gwasanaeth y Gwasanaethau i Blant mai'r hyn a'i trawodd oedd yr anghydbwysedd cryf â chyfeiriad meysydd strategaeth gwasanaethau i Blant, yn enwedig o ran strategaeth y gweithlu mewn perthynas â chyfranogiad a lleisiau pobl ifainc, rhieni a gofalwyr/cynhalwyr o ran llunio a dylanwadu ar yr agenda ar bob lefel a gwneud yn si?r bod gwasanaethau sy'n gysylltiedig â gwella lles ac iechyd meddwl pobl ifainc yn cael eu datblygu.

 

Nododd Cyfarwyddwr Gwasanaeth y Gwasanaethau i Blant y byddai ymateb y Llywodraeth i’r argymhellion yn cael ei ddosbarthu yn dilyn y cyfarfod, gan gydnabod nad oedd yr holl argymhellion wedi’u derbyn, gyda rhai yn rhannol yn unig, er iddi nodi hynny mewn perthynas â’r meysydd sy’n cael eu datblygu gan y Cyngor ochr yn ochr â staff, teuluoedd a gofalwyr, roedd y rhain yn feysydd a dderbyniwyd i raddau helaeth.

 

Diolchodd y Cadeirydd i'r Cyfarwyddwr am ei chrynodeb o'r adroddiad a chydnabu fod sylwadau diddorol ar dudalennau 113 a 114 o'r adroddiad, mewn perthynas â lleoliadau heb eu cofrestru a heb eu rheoleiddio, materion o ran rhedeg i ffwrdd a diwygiadau i'r cymorth parhaus mae pobl ifainc yn ei dderbyn wrth adael gofal. Cydnabu’r Cadeirydd bod dyletswydd gofal yn fater parhaus, oherwydd bod y plant hynny mor agored i niwed, ac roedd yn wych gweld bod y materion hynny’n cael eu trafod ar y lefel uchaf bellach, gan lywio'r polisi wrth symud ymlaen.

 

PENDERFYNODDy Bwrdd Rhianta Corfforaethol:

 

  1. Nodi'r wybodaeth oedd wedi ei chynnwys yn yr adroddiad;
  2. Derbyn adroddiad wedi’i ddiweddaru pan fydd penderfyniadau’r Llywodraeth ynghylch yr argymhellion yn hysbys.

 

17.

TRAFOD CADARNHAU'R CYNNIG ISOD YN BENDERFYNIAD:-

“Bod y cyfarfod hwn yn cadw aelodau o'r wasg ac aelodau o'r cyhoedd allan o ystafell y cyfarfod, dan Adran 100A(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y'i diwygiwyd), yn ystod trafod yr eitem nesaf, ar y sail y byddai'n debygol o olygu datgelu gwybodaeth eithriedig yn ôl diffiniad paragraff 13 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf.”

Cofnodion:

PENDERFYNWYDbod y cyfarfod hwn yn cadw aelodau o'r wasg ac aelodau o'r cyhoedd allan o ystafell y cyfarfod, dan Adran 100A(4) o'r Ddeddf Llywodraeth Leol (fel y'i diwygiwyd), yn ystod trafod yr agendwm nesaf, ar y sail y byddai'n debygol o olygu datgelu gwybodaeth eithriedig yn ôl diffiniad paragraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A o'r Ddeddf.

18.

Y DIWEDDARAF MEWN PERTHYNAS Â STRATEGAETH TRAWSNEWID GOFAL PRESWYL 2022 I 2027: PLANT SY'N DERBYN GOFAL

Derbyn adroddiad eithriedig Cyfarwyddwr y Gwasanaethau i Blant.

Cofnodion:

Rhannodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau i Blant wybodaeth â'r Bwrdd Rhianta Corfforaethol am blant mewn lleoliadau sy'n Gweithredu Heb Gofrestru (OWR), a chynlluniau'r Gwasanaethau i Blant ar gyfer cefnogi'r plant hynny, a dod â'r trefniadau hynny i ben.

 

Ar ôl ystyried yr adroddiad eithriedig, PENDERFYNODD y Bwrdd Rhianta Corfforaethol:

 

 

  1. Nodi'r wybodaeth a oedd wedi ei chynnwys yn yr adroddiad, a
  2. Derbyn adroddiadau dilynol tan nad oes sefyllfaoedd OWR ar gyfer pobl ifainc sy'n derbyn gofal yn Rhondda Cynon Taf.