Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Rhithwir

Cyswllt: Tracy Watson - Uwch Swyddog Democrataidd a Craffu  07747 485567

Cyfryngau

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan yr Is-gadeirydd, y Cynghorydd R Lewis, Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol J Bonetto, Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol S Trask, Ms J Evans, Gwasanaethau i Blant a Rheolwr Cwynion a Sicrhau Ansawdd, Ms J Thomas.

 

2.

DATGAN BUDDIANT

Derbyn datganiadau o fuddiannau personol gan Aelodau, yn unol â'r Cod Ymddygiad.

 

Nodwch:

 

1.     Mae gofyn i Aelodau ddatgan rhif a phwnc yr eitem y mae eu buddiant yn ymwneud ag ef a mynegi natur y buddiant personol hwnnw; a

 

2.     Lle bo Aelodau'n ymneilltuo o'r cyfarfod o ganlyniad i ddatgelu buddiant sy'n rhagfarnu, rhaid iddyn nhw roi gwybod i'r Cadeirydd pan fyddan nhw'n gadael.

Cofnodion:

Yn unol â Chod Ymddygiad y Cyngor, ni wnaethpwyd unrhyw ddatganiadau mewn perthynas â'r agenda.

 

3.

COFNODION pdf icon PDF 193 KB

Cadarnhau cofnodion o gyfarfod y Bwrdd Rhianta Corfforaethol ar 30 Mawrth 2023 yn rhai cywir.

Cofnodion:

Cadarnhau cofnodion o gyfarfod y Bwrdd Rhianta Corfforaethol a gafodd ei gynnal ar 30 Mawrth 2023 yn rhai cywir.

 

Manteisiodd y Cadeirydd ar y cyfle, ar ran y Bwrdd Rhianta Corfforaethol, i longyfarch yr Is-gadeirydd, y Cynghorydd R Lewis, ar enedigaeth ei blentyn cyntaf.

 

4.

RHAGLEN WAITH Y BWRDD RHIANTA CORFFORAETHOL 2023/24 pdf icon PDF 95 KB

Derbyn adroddiad y Cyfarwyddwr Gwasanaeth, Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu, sy'n rhoi manylion i'r Aelodau am Raglen Waith y Bwrdd Rhianta Corfforaethol ar gyfer Blwyddyn y Cyngor 2023/24.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd yr Uwch Swyddog Materion Democrataidd a Chraffu grynodeb i'r Bwrdd Rhianta Corfforaethol o'r rhaglen waith ddrafft ar gyfer Blwyddyn 2023-2024 y Cyngor. Yn ogystal â'r diweddariadau blynyddol rheolaidd, roedd nifer o'r pynciau i'w trafod yn rhan o'r Rhaglen wedi cael eu nodi gan Aelodau mewn cyfarfodydd blaenorol.

 

Esboniodd y Swyddog fod y rhaglen waith yn ddogfen hyblyg a byddai modd ei diwygio i adlewyrchu unrhyw newidiadau i anghenion busnes yn ystod y flwyddyn.

 

PENDERFYNODDy Bwrdd Rhianta Corfforaethol:

 

1.    Rhoi sylwadau, fel y bo'n briodol, ar y rhaglen waith ddrafft;

2.    Cymeradwyo'r rhaglen waith ddrafft, a bydd modd ei diwygio i adlewyrchu unrhyw flaenoriaethau sy'n newid yn ystod y flwyddyn.

 

5.

STRATEGAETH ATAL AR GYFER PLANT SY'N DERBYN GOFAL pdf icon PDF 248 KB

Derbyn gwybodaeth am gynnydd y Gwasanaethau i Blant gyda'r Strategaeth Atal ar gyfer Plant sy'n Derbyn Gofal.

Cofnodion:

Rhoddodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau i Blant wybodaeth i'r Bwrdd Rhianta Corfforaethol am gynnydd y Gwasanaethau i Blant o ran y Strategaeth Atal ar gyfer Plant sy'n Derbyn Gofal. Nododd mai dyma'r ail ddiweddariad, gan y cafodd adroddiad blaenorol ei gymeradwyo gan y Cabinet ym mis Chwefror 2022, a'i dderbyn gan y Bwrdd Rhianta Corfforaethol ym mis Gorffennaf 2022.

 

Darparodd y Cyfarwyddwr y fethodoleg yn adran 4, gan nodi bod hyn yn rhan o daith. Er y gallai gyfeirio at ychydig o gynnydd, byddai'n parhau i gynnal ac adolygu'r deilliannau a phriodoldeb ymyraethau. Roedd siart ddata i'w gweld yn adran 4.4, a oedd yn cynnwys sut roedd cynnydd wedi cael ei olrhain o ran lleihau nifer y plant yr oedd angen iddyn nhw dderbyn gofal neu blant sydd ag anghenion gofal a chymorth cynyddol.  Cafodd Aelodau eu hatgoffa bod pedwar maes gwella a datblygu wedi'u nodi yn yr adroddiad (adran 4.5), a chawson nhw ddiweddariad ar y cynnydd a'r camau nesaf.

 

Rhoddodd y Cadeirydd ddiolch i'r Cyfarwyddwr am y diweddariad a chyfeiriodd at y model ymarfer i weithwyr cymdeithasol ar dudalen 19. Gofynnodd a oedd angen adnoddau a hyfforddiant ychwanegol ac esboniwyd, pan gafodd y strategaeth ei chyflwyno i'r Cabinet, ei bod yn cynnwys achos busnes a dynnodd sylw at yr angen am adnoddau ychwanegol o dan y strategaeth, gyda buddsoddiadau mewn 3 maes.

 

Roedd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion yr Hinsawdd a Gwasanaethau Corfforaethol yn falch o weld yn yr adroddiad fod modd i ragor o blant aros gyda theuluoedd, gyda chymorth i wneud hynny, a dyna'r hyn oedd ei eisiau. Roedd hefyd yn falch o weld bod cynhalwyr sy'n berthynas a gwarcheidwaid arbennig mewn sefyllfa gyfartal â rhieni maeth.

 

PENDERFYNODDy Bwrdd Rhianta Corfforaethol:

 

1. Nodi'r wybodaeth yn yr adroddiad.

 

6.

AROLYGIAD AMLINELLIAD CYFRAITH GYHOEDDUS AROLYGIAETH GOFAL CYMRU – CHWEFROR 2023 pdf icon PDF 236 KB

Derbyn gwybodaeth am Adolygiad Cenedlaethol Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) o ran cynllunio gofal ar gyfer plant a phobl ifainc.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Rheolwr Gwasanaeth – Carfan Ymyrraeth Ddwys (Dwyrain) wybodaeth i'r Bwrdd Rhianta Corfforaethol mewn perthynas ag Adolygiad Cenedlaethol Arolygiaeth Gofal Cymru o drefniadau cynllunio gofal ar gyfer plant a phobl ifainc sy'n destun cyfarfod cyn-achos Amlinelliad Cyfraith Gyhoeddus (PLO). Nododd y swyddog fod yr adolygiad o broses y PLO wedi cael ei groesawu, a bod yr adroddiad a gafodd ei ddarparu yn amlinellu cyfnod peilot gweithdrefnau'r PLO. Roedd y rhain wedi bod ar waith am oddeutu blwyddyn, hyd at yr adolygiad.

 

Nododd y swyddog fod y gwasanaeth yn falch iawn o ganlyniad yr adroddiad a nododd sawl cryfder o ran yr hyn yr oedd RhCT eisoes yn ei wneud. Yna rhoddodd ddiweddariad cynhwysfawr ar lafar i Aelodau mewn perthynas â chryfderau a meysydd datblygu, fel sydd wedi'u hamlinellu yn adran 4 yr adroddiad.

 

Gorffennodd y swyddog trwy ddweud bod y gwasanaeth wedi gweld gostyngiad sylweddol yn nifer y ceisiadau llys ar y cyfan. Hefyd, defnyddiwyd dulliau meddwl mewn ffordd arloesol er mwyn rhoi cymorth i deuluoedd, plant a phobl ifainc aros gyda'i gilydd yn rhan o drefniadau diogel a oedd yn gweddu'n well i'w sefyllfaoedd teuluol. Roedd y gwasanaeth eisoes yn gweld budd o'r cyfnod peilot a'r gobaith oedd y byddai modd gweld rhagor o fuddion dros y 12 mis nesaf.

 

Rhoddodd y Cadeirydd ddiolch i'r swyddog am y diweddariad, gan gydnabod bod yr adroddiad yn ardderchog a bod gwaith y Cyngor i'w ganmol.

 

Llongyfarchodd Aelod y swyddog ar yr adroddiad gan nodi bod diddordeb gyda nhw mewn gweld yr animeiddiad byr a taflen wybodaeth sy'n esbonio proses y PLO pan fyddan nhw ar gael. Roedd hefyd gan yr Aelod ddiddordeb mewn clywed rhai o'r rhesymau pam roedd plant yn dewis peidio â manteisio ar wasanaethau eirioli. Roedd o'r farn y byddai'n ddefnyddiol cael gwybodaeth am y canfyddiadau mewn perthynas ag eiriolaeth i rieni.

 

Rhoddodd y swyddog wybod bod nifer o resymau pam roedd plant wedi penderfynu gwrthod y cynnig o eiriolwr, gan gynnwys teimlo'n gyfforddus yn siarad â'u gweithiwr cymdeithasol felly doedd dim angen eiriolwr arnyn nhw. Yn achos rhai plant iau, lle roedd eu rhieni yn amheus neu ddim yn si?r am yr hyn roedd gwasanaethau eirioli yn mynd i'w gynnig, byddai modd i hyn ddylanwadu ar benderfyniadau'r plant. Serch hynny, roedd wedi bod yn brofiad cadarnhaol ar y cyfan. O ran eiriolaeth i rieni, roedd rhieni wedi ymgysylltu â'r gwasanaeth eirioli. Serch hynny, pan gafodd penderfyniad ei wneud i beidio â rhoi plentyn ar y gofrestr, roedden nhw'n tueddu i dynnu'n ôl o'r cyfnod peilot ond roedd modd iddyn nhw barhau â'r daith honno trwy ddull arall e.e. roedd gan eu plentyn gynllun cymorth a gofal o hyd.  O ran eiriolaeth i blant, roedd gweld eu rhieni'n cael profiad cadarnhaol yn annog plant i gymryd rhan yn y gwasanaethau eirioli eu hunain. 

 

Cytunodd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion yr Hinsawdd a Gwasanaethau Corfforaethol fod yr adroddiad a'r diweddariad ar lafar yn ardderchog.

 

Cyfeiriodd y Cadeirydd at dudalen 36, eitem 2.7, mewn perthynas â Gweithwyr  ...  view the full Cofnodion text for item 6.

7.

CYNNIG I GYNNAL SESIWN WYBODAETH (INFORM) pdf icon PDF 198 KB

Derbyn cynnig am sesiwn 'Inform' benodol.

Cofnodion:

Rhoddodd Pennaeth Cymorth Cynnar wybodaeth i'r Bwrdd Rhianta Corfforaethol am gynnig i gynnal sesiwn wybodaeth benodol gyda'r Bwrdd Rhianta Corfforaethol. Bydd y sesiwn yn cynnwys cyflwyniadau gan ymarferwyr a rheolwyr am eu gwaith gyda phlant a theuluoedd.

 

Rhoddodd y swyddog wybod bod llawer o wybodaeth yn cael ei chyflwyno i'r Bwrdd Rhianta Corfforaethol, a hynny ar lefel uchel yn aml, felly roedd sesiwn yn gyfle da i bobl siarad am yr hyn mae hynny'n ei olygu'n ymarferol, sef yr heriau a wynebir, y mathau o risg sy'n cael eu rheoli, y penderfyniadau y mae rhaid i'r Gwasanaethau i Blant eu gwneud ar y cyd â phartneriaid.

 

Cafodd Aelodau wybod y byddai'r sesiwn yn tawelu meddyliau Aelodau'r Bwrdd Rhianta Corfforaethol ac yn sicrhau eu bod nhw'n gwybod sut y cafodd anghenion plant eu diwallu a sut y cafodd risg ei rheoli. Byddai'r sesiwn yn cynnwys trafod achosion yn ddienw, darparu gwybodaeth am gyflawniad y gwasanaethau i blant a rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y cynllun gweithredu mewn perthynas â'r 2 adolygiad ymarfer plant. Bwriad arfaethedig y sesiwn fyddai diweddaru dealltwriaeth y Bwrdd Rhianta Corfforaethol o brosesau gwneud penderfyniadau a rheoli risg, a thaflu goleuni ar nifer yr achosion a'r galw am y Gwasanaethau i Blant, yn ogystal â'r 2 adolygiad ymarfer.

 

Rhoddodd y Cadeirydd ddiolch i'r swyddog am yr adroddiad ac esboniodd ei bod yn braf clywed gan ymarferwyr, gan gynnwys y risgiau yr oedd rhaid iddyn nhw eu rheoli, nifer yr achosion a'r galw am y gwasanaethau, yn ogystal â'r adolygiadau ymarfer plant, a oedd yn bwysig iawn. Roedd y Cadeirydd yn hapus i fwrw ymlaen â'r cynnig yma ac roedd o'r farn y byddai'r sesiwn o fudd mawr i bawb dan sylw.  

 

PENDERFYNODDy Bwrdd Rhianta Corfforaethol:

 

1.    Nodi'r wybodaeth yn yr adroddiad;

2.    Cymeradwyo'r cynnig i'r Gwasanaethau i Blant ddarparu rhagor o wybodaeth am eu gwaith yng nghyfarfod y Bwrdd Rhianta Corfforaethol ym mis Medi.

 

8.

TRAFOD CADARNHAU'R CYNNIG ISOD YN BENDERFYNIAD:

“Bod y cyfarfod hwn yn cadw aelodau o'r wasg ac aelodau o'r cyhoedd allan o ystafell y cyfarfod, dan Adran 100A(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y'i diwygiwyd), yn ystod trafod yr eitem nesaf, ar y sail y byddai'n debygol o olygu datgelu gwybodaeth eithriedig yn ôl diffiniad paragraff 13 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf.”

Cofnodion:

PENDERFYNWYDbod y cyfarfod hwn yn cadw aelodau o'r wasg ac aelodau o'r cyhoedd allan o ystafell y cyfarfod, dan Adran 100A(4) o'r Ddeddf Llywodraeth Leol (fel y'i diwygiwyd), yn ystod trafod yr agendwm nesaf, ar y sail y byddai'n debygol o olygu datgelu gwybodaeth eithriedig yn ôl diffiniad paragraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A o'r Ddeddf.

 

9.

Y DIWEDDARAF MEWN PERTHYNAS Â STRATEGAETH TRAWSNEWID GOFAL PRESWYL 2022 I 2027: PLANT SY'N DERBYN GOFAL

Derbyn adroddiad eithriedig Cyfarwyddwr y Gwasanaethau i Blant.

Cofnodion:

Rhannodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau i Blant wybodaeth â'r Bwrdd Rhianta Corfforaethol am blant mewn lleoliadau sy'n Gweithredu Heb Gofrestru (OWR), a chynlluniau'r Gwasanaethau i Blant ar gyfer cefnogi'r plant hynny, a dod â'r trefniadau hynny i ben.

 

Yn dilyn trafodaeth ynghylch materion cynllunio posibl, cytunodd Aelodau mai ymgysylltu cynnar gyda chynllunio fyddai orau.

 

Ar ôl ystyried yr adroddiad eithriedig, PENDERFYNODD y Bwrdd Rhianta Corfforaethol:

 

1.    Nodi'r wybodaeth a oedd wedi ei chynnwys yn yr adroddiad;

2.    Derbyn adroddiadau dilynol tan nad oes sefyllfaoedd OWR ar gyfer pobl ifainc sy'n derbyn gofal yn Rhondda Cynon Taf.

 

10.

MATERION BRYS

Trafod unrhyw faterion brys y mae'r Cadeirydd yn eu gweld yn briodol.

Cofnodion:

Dim.