Agenda a Chofnodion

Cyswllt: Hannah Williams - Uned Busnes y Cyngor - Gwasanaethau Llywodraethol  01443 424062

Eitemau
Rhif eitem

1.

Croeso ac Ymddiheuriadau

Croesawu Aelodau a Swyddogion i gyfarfod y Bwrdd Rhianta Corfforaethol. Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am y cyfarfod.

 

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau a'r Swyddogion i Gyfarfod cyntaf y Bwrdd Rhianta Corfforaethol ar gyfer Blwyddyn y Cyngor 2021/2022.

 

Daeth ymddiheuriadau am absenoldeb oddi wrth Gynghorwyr y Fwrdeistref Sirol J Rosser, L Hooper a S Rees- Owen.

 

2.

Datganiadau o Fuddiant

Derbyn datganiadau o fuddiannau personol gan Aelodau, yn unol â gofynion y Cod Ymddygiad.

 

Nodwch:

 

1.    Mae gofyn i Aelodau ddatgan rhif a phwnc yr agendwm mae eu buddiant yn ymwneud ag ef a mynegi natur y buddiant personol hwnnw; a

2.   Lle bo Aelodau'n ymneilltuo o'r cyfarfod o ganlyniad i ddatgelu buddiant sy'n rhagfarnu, rhaid iddyn nhw roi gwybod i'r Cadeirydd pan fyddan nhw'n gadael.

 

 

Cofnodion:

Yn unol â Chod Ymddygiad y Cyngor, doedd dim datganiadau o fuddiant yngl?n â'r agenda.

 

3.

Cofnodion pdf icon PDF 97 KB

Cadarnhau cofnodion o gyfarfod y Bwrdd Rhianta Corfforaethol a gafodd ei gynnal ar 22 Mawrth 2021 yn rhai cywir.

 

 

Cofnodion:

Cadarnhau cofnodion o gyfarfod y Bwrdd Rhianta Corfforaethol a gafodd ei gynnal ar 22 Mawrth 2021 yn rhai cywir.

 

4.

Rhaglen Waith Ddrafft y Bwrdd Rhianta Corfforaethol ar gyfer Blwyddyn y Cyngor 2021-2022 pdf icon PDF 135 KB

Trafod Rhaglen Waith Ddrafft y Bwrdd Rhianta Corfforaethol ar gyfer Blwyddyn y Cyngor 2021/2022.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd yr Aelodau wybodaeth am Raglen Waith Ddrafft y Bwrdd Rhianta Corfforaethol ar gyfer Blwyddyn y Cyngor 2021-2022. Esboniodd y swyddog fod y rhaglen yn gweithredu'n ddull defnyddiol o reoli llwyth gwaith y Bwrdd, ac mae'r adroddiad yn ddogfen newidiol mae modd ei diwygio trwy gydol y flwyddyn i adlewyrchu unrhyw flaenoriaethau sydd gan y Bwrdd.

 

PENDERFYNWYD cydnabod y pwnc i'w drafod a chytuno â'r pynciau a awgrymir ar gyfer cyfarfodydd yn y dyfodol.

 

5.

Adroddiad Blynyddol y Bwrdd Rhianta Corfforaethol 2020/21 pdf icon PDF 196 KB

Derbyn Adroddiad Blynyddol 2020/2021 y Bwrdd Rhianta Corfforaethol.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cadeirydd Adroddiad Blynyddol y Bwrdd Rhianta Corfforaethol i'r Aelodau ar gyfer blwyddyn y Cyngor 2020/21. Amlygodd yr Adroddiad Blynyddol y swm enfawr o waith a drafodwyd gan y Bwrdd Rhianta Corfforaethol dros yr hyn a fu'n flwyddyn eithriadol o heriol o ganlyniad i bandemig Covid 19.

 

Manteisiodd y Cadeirydd ar y cyfle i ddiolch i'r staff ym mhob rhan o'r gwasanaeth am eu holl waith caled gan addasu i'r sefyllfa newidiol gyflym yr oedd y pandemig wedi'i hachosi a'u canmol i gyd am eu holl waith caled i gadw ein defnyddwyr gwasanaeth yn ddiogel.

 

Esboniodd y swyddog pe bai Aelodau yn derbyn yr adroddiad drafft, y byddai'n cael ei gyflwyno i'r Pwyllgor Craffu ac wedyn i'r Cabinet er mwyn iddo gael ei drafod.

 

Adleisiodd aelodau’r Bwrdd gydnabyddiaeth y Cadeirydd o’r gwaith a wnaed, gan ofyn bod eu diolch yn cael ei gofnodi.

 

Amlygodd y Cyfarwyddwr Gwasanaethau i Blant fod y gwaith a gyflawnwyd dros y flwyddyn yn rhyfeddol ac addasodd y gwasanaeth yn gyflym i'r sefyllfa newidiol a achoswyd gan Covid -19. Parhaodd y Cyfarwyddwr ac egluro bod angen i ni adeiladu ar y gwaith sydd wedi'i wneud.

 

Parhaodd y Cyfarwyddwr ac egluro i'r Bwrdd fod deddfwriaeth newydd gan Lywodraeth Cymru sy'n nodi y bydd angen i Fyrddau Rhianta Corfforaethol roi rhagod o gydnabyddiaeth i lais y person ifanc ac efallai y bydd angen cynnwys hyn yn y Cylch Gorchwyl yn y dyfodol.

 

Ar ôl trafodaeth bellach PENDERFYNWYD:

·       Adroddiad am yr Adroddiad Rhianta Corfforaethol Blynyddol

·       Diolch i Staff ym mhob rhan o'r Gwasanaeth am eu holl waith caled yn ystod pandemig y Covid 19. 

 

6.

Cynhalwyr Ifainc - Adroddiad Blynyddol 2020 / 2021 pdf icon PDF 262 KB

Derbyn Adroddiad Blynyddol - Cynhalwyr Ifainc 2020/2021.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Croesawodd y Rheolwr Gwasanaeth - Cynhalwyr, Ymgysylltu a Thaliadau Uniongyrchol y cyfle i gyflwyno diweddariad i'r Bwrdd ar y gwaith a oedd wedi'i wneud gyda chynhalwyr ifainc yn Rhondda Cynon Taf. Tynnodd y Rheolwr Gwasanaeth sylw hefyd at y gwaith helaeth a wnaed yn ystod y pandemig.

 

Atgoffwyd aelodau’r Bwrdd o’r adolygiadau a gynhaliwyd ers 2018 mewn perthynas â’r gwasanaethau cymorth gofal yn RhCT a thynnodd y Rheolwr Gwasanaeth sylw at bwyntiau allweddol y gofynnwyd i’r Bwrdd eu cydnabod isod:

·       Newidiodd y gwasanaeth cymorth cynhalwyr ifainc eu dull cefnogi yn ystod y pandemig i ddarparu rhagor o sesiynau un i un yn lle cefnogaeth gr?p. Cafodd y rhai mwyaf agored i niwed eu blaenoriaethu. Ar adegau pan leddfwyd cyfyngiadau, roedd modd dod â chynhalwyr ifainc ynghyd mewn grwpiau llai. Mae cefnogaeth ar-lein wedi gweithio'n dda i'r cynhalwyr ifainc h?n (11+ oed) ond nid yw'n cymryd lle cymorth wyneb yn wyneb.

 

·       Gostyngodd y cyfraddau atgyfeirio ar gyfer asesu cynhalwyr ifainc yn ystod y cyfnod cloi ac roedd cysylltiad agos rhwng hyn a ph'un a oedd yr ysgolion ar agor ai peidio. Yn ystod Ch1 2021/2022 roedd y gyfradd atgyfeirio yn uwch na'r cyfartaledd.

 

·       Roedd sicrhau mynediad ar-lein i gynhalwyr ifainc yn flaenoriaeth yn ystod y pandemig ac fe'i cyflawnwyd mewn sawl ffordd, gan gynnwys cysylltu ag ysgolion, darparu Chromebooks gyda Wi-Fi symudol a hwyluso cynlluniau grant ar gyfer prynu offer digidol.

 

·       Gwneir ymdrechion i sicrhau cyllid ac adnoddau parhaus i ddarparu cefnogaeth benodol i'r sawl sy'n gynhalwyr i'w brodyr a chwiorydd, sydd yn aml ag anghenion gwahanol i gynhalwyr ifainc. Yn ystod 2021/2022 bydd prosiect peilot yn cael ei ariannu i ddarparu cefnogaeth sy'n canolbwyntio ar ganlyniadau dros gyfnod dwys o 6 wythnos. Bydd y cwrs yn canolbwyntio ar les emosiynol.

 

·       Lansiodd RCT y Cerdyn Cynhalwr Ifanc ym mis Mawrth 2021. Mae'r cerdyn yn fenter ledled Cymru dan arweiniad Llywodraeth Cymru ac roedd RhCT yn un o fabwysiadwyr cynnar y cynllun. Lansiwyd fideo hyrwyddo yn ystod Wythnos Cynhwlayr 2021. Mae'r cerdyn yn caniatáu i gynhalwyr ifainc dynnu sylw at eu rôl i weithwyr addysg a gweithwyr iechyd proffesiynol heb fod angen adrodd eu stori lawn, ac ymhen amser rhagwelir y gallai'r cerdyn gael ei ddefnyddio i dderbyn gostyngiadau a buddion eraill.  

 

 

Gorffennodd y Rheolwr Gwasanaeth ei hadroddiad trwy egluro bod cynhalwyr ifainc wedi cael eu heffeithio'n sylweddol gan y pandemig a bydd angen i'r gwasanaethau cymorth ganolbwyntio ar ddelio â chanlyniadau parhaus wrth edrych i'r dyfodol. Bydd y gwasanaeth yn anelu at fabwysiadu dull gwasanaeth cydlynol, bob oed, ar gyfer cynhalwyr di-dâl. Amlygodd y Rheolwr Gwasanaeth y gwasanaeth cynhalwyr ifainc a gomisiynwyr er mwyn cyd-fynd â Chynllun Cynnal y Cynhalwyr o fis Medi, ynghyd â'r Cynllun Cenedlaethol newydd ar gyfer cynhalwyr di-dâl a fydd yn llywio strategaethau a blaenoriaethau rhanbarthol a lleol o ran cynhalwyr.

Diolchodd y Cadeirydd i'r swyddog am ei hadroddiad ac agorodd y cyfarfod ar gyfer cwestiynau ac arsylwadau gan yr Aelodau.

 

Gofynnodd yr aelodau am eglurder ynghylch nifer yr atgyfeiriadau yn ystod cam cyntaf  ...  view the full Cofnodion text for item 6.

7.

Darpariaeth Gofal Plant Gofrestredig - Diweddariad Adroddiad Ansawdd pdf icon PDF 326 KB

Derbyn adroddiad Cyfarwyddwr Cyfadran y Gwasanaethau Cymuned a Gwasanaethau i Blant, sy'n rhoi diweddariad blynyddol mewn perthynas â'r Ddarpariaeth Gofal Plant Gofrestredig 2020/2021 i'r Bwrdd Rhianta Corfforaethol.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd yr adroddiad i'r aelodau gan y Rheolwr Carfan Darparu Gofal Plant, Gwasanaethau Plant a Phobl Ifainc. Esboniodd y swyddog mai pwrpas yr adroddiad yw diweddaru Aelodau'r Bwrdd ar leoliadau gofal plant cofrestredig Arolygiaeth Gofal Cymru (CIW) a oruchwylir gan y Gwwasanaeth Cymunedau, Lles a Chydnerthedd (CWRS).

 

Esboniodd y Rheolwr fod pandemig Covid 19 wedi cael effaith sylweddol ar ddarparu gofal plant er mwyn sicrhau bod gan y rhai sydd fwyaf angen gofal plant fynediad iddo. Isod mae rhai o'r newidiadau a wnaed yn ystod yr amser hwn:

·       Plant 0-5 oed (yn hytrach na 2 i 3 oed o dan amgylchiadau arferol);

·       Diwrnodau llawn rhwng 07:30 - 18:00 (yn hytrach na gofal sesiynol o 2.5 awr bob dydd);

·       Ar gael i blant gweithwyr hanfodol a phlant y teuluoedd mwyaf agored i niwed (nid yn unig y rheiny sy'n gymwys o ran Dechrau'n Deg)

 

Esboniodd y newidiadau allweddol ers i'r adroddiad gael ei gyflwyno i'r Bwrdd Rhianta Corfforaethol ym mis Mai 2019. Amlygwyd bod datblygiadau gwasanaeth sylweddol wedi digwydd mewn perthynas â darpariaeth gofal plant ledled RhCT, ac, yn ystod y cyfnod hwn cafodd lleoliad gofal plant pwrpasol Dechrau'n Deg ei sefydlu ar gampws Llwynypia yng Ngholeg y Cymoedd. Mae hyn wedi disodli'r ddarpariaeth Dechrau'n Deg yn Safle blaenorol Ysgol Gynradd Ynyscynon. Nodwyd hefyd bod Dechrau'n Deg Tonyrefail wedi'i drosglwyddo i ddarparwr allanol i ddarparu'r gwasanaeth.

 

Aeth y y Swyddog ymlaen i ddweud wrth yr Aelodau y cynhaliwyd ymarfer ymgynghori yn 2019 gyda staff lleoliad mewnol, staff lleoliad a gomisiynwyd a Theuluoedd Dechrau'n Deg, ynghylch y cynnig 42 wythnos a ph'un a oedd yn ffafriol lleihau hyn i 39 wythnos a chynnig 15 diwrnod o weithgarwch llawn hwyl i'r teulu yn ystod gwyliau'r ysgol. Esboniodd y Swyddog mai'r ymateb ysgubol oedd lleihau i 39 ac ar ôl trafodaeth bellach â Phwyllgorau Craffu, Cabinet ac undebau llafur, cyflwynwyd y cynnig 39 wythnos ym mis Medi 2019.

 

Derbyniodd aelodau’r Bwrdd drosolwg hefyd o’r adroddiadau ansawdd ar gyfer Lleoliadau Gofal Plant yr Awdurdod Lleol a’r gwaith a wnaed yn erbyn y Cynllun Gweithredu, ynghyd â meysydd cryfder a meysydd i’w datblygu.

 

Ar ôl hyn, agorodd Rheolwr y Garfan y cyfarfod ar gyfer cwestiynau'r Aelodau

 

Diolchodd y Cadeirydd i'r Swyddog a chanmolodd y staff hefyd am eu holl waith caled yn ystod y pandemig ac wrth addasu i newid mewn sefyllfa a oedd yn newid yn gyflym.

 

Adleisiodd yr aelodau ddiolch y Cadeirydd ac roedd Aelodau'r Bwrdd yn falch o weld bod gwaith yn cael ei wneud ar strategaeth llesiant i gefnogi Plant a Phobl Ifainc y Fwrdeistref Sirol o ganlyniad i'r pandemig.

 

Ar ôl trafodaeth bellach Aelodau PENDERFYNWYD nodi'r adroddiad a chytuno i dderbyn diweddariadau pellach pan fo hynny'n briodol.

8.

Grant Datblygu Disgyblion - Gwerthuso'r Model Clwstwr. pdf icon PDF 431 KB

Trafod yr adroddiad mewn perthynas â'r Grant Datblygu Disgyblion - Gwerthuso'r Model Clwstwr.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd Arweinydd Rhanbarthol Grant Datblygu Disgyblion - Disgyblion sy’n Derbyn Gofal, Consortiwm Canolbarth y De yr wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am werthuso model clwstwr ysgolion ar gyfer y Grant Datblygu Disgyblion ar gyfer plant sy'n derbyn gofal yn ystod y flwyddyn ariannol 2019/20 yn Rhondda Cynon Taf.

 

Atgoffodd y Swyddog yr Aelodau bod y Garfan Plant sy'n Derbyn Gofal yn gweithio ar y cyd â Chonsortiwm Canolbarth y De (CSC) i sicrhau bod dull cyson, yn seiliedig ar arfer da, i gefnogi plant sy'n derbyn gofal yn ein hysgolion. 

 

Atgoffwyd aelodau'r Bwrdd hefyd bod y grant yn parhau i gael ei reoli gan Gonsortiwm Canolbarth y De. Mae Cyfarwyddwyr Addysg pob awdurdod lleol wedi cytuno ar flaenoriaethau allweddol i wella'r cyfleoedd addysg i Blant sy'n Derbyn Gofal;

 

·       Gwella cyflawniad/cyrhaeddiad;

·       Gwella presenoldeb;

·       Lleihau achosion o wahardd disgyblion;

·       Gwella capasiti'r ysgolion i sicrhau deilliannau gwell ar gyfer disgyblion drwy ddarparu hyfforddiant a chymorth, gwaith rhwng ysgolion a rhannu arfer da (o fewn y clwstwr) a;

·       Sicrhau bod partneriaethau ledled y rhanbarth yn parhau i ddatblygu o fewn Consortiwm Canolbarth y De, ysgolion, Gofal Cymdeithasol ac asiantaethau eraill.

 

Esboniodd y Swyddog y sefyllfa bresennol mewn perthynas â dyrannu cyllid. Dyraniad grant y cynllun clwstwr ar gyfer RhCT yn 2018/19 oedd £366,686, £357,893 yn 2019/20 a £395.026 ar gyfer 2020/21 ac amlygodd hyn fod ysgolion wedi parhau i wneud cais am gyllid ar sail clwstwr yn unol â disgwyliadau Llywodraeth Cymru. i ranbartholi cyllid y Grant Datblygu Disgyblion - Disgyblion sy’n Derbyn Gofal trwy'r pedwar consortia addysg.

 

Roedd yr aelodau'n falch o weld bod gan y Consortiwm, yn rhan o'r Grant Datblygu Disgyblion - Disgyblion sy’n Derbyn Gofal, gronfa fwrsariaeth i sicrhau bod carfanau Plant mewn Addysg yr Awdurdod Lleol yn gallu ymateb i anghenion ychwanegol sy'n codi oherwydd symudiadau mewn lleoliad ac ysgol ac anawsterau emosiynol/cymdeithasol cymhleth. Mae'r aelodau hefyd yn cydnabod y dull y mae RhCT wedi canolbwyntio arno.

 

Trafododd y Bwrdd y gwerthusiad o Ddull Model clwstwr Grant Datblygu Disgyblion - Disgyblion sy’n Derbyn Gofal a chroesawodd y cynnydd yn nifer yr ysgolion RhCT sy'n ymgymryd â'r hyfforddiant Ysgolion Cyfeillgar i Blant sy'n derbyn gofal. Roedd y Bwrdd yn falch o glywed bod clystyrau ysgolion fod yn rhagweithiol iawn gyda'u cynllunio clwstwr ar gyfer blwyddyn ariannol 2019/20 a chydnabuwyd y bydd angen sefydlu proses werthuso fwy trylwyr a chynhwysfawr er mwyn gwerthuso effeithiolrwydd llawn dull clwstwr o ddyrannu Grant Datblygu Disgyblion - Disgyblion sy’n Derbyn Gofal i'n hysgolion yng ngoleuni'r pandemig Coivd -19 ac o ganlyniad i'r ehangach effaith ar bob dysgwr mewn ysgolion RhCT. 

 

Diolchodd yr aelodau i'r Swyddog am yr adroddiad a chyflwyno llawer o arsylwadau, nododd yr Aelodau fod llawer wedi'i gynnwys yn yr adroddiad ond byddent yn gofyn bod adroddiadau yn y dyfodol yn canolbwyntio mwy ar ganlyniadau. Byddai hyn yn ei dro yn dangos effaith dulliau a gymerir gan ysgolion i ddiwallu anghenion cymhleth Dysgwyr sy'n Derbyn Gofal.

 

Cafwyd trafodaeth a PHENDERFYNWYD

 

9.

Gwasanaeth Eiriolaeth Ieuenctid Cenedlaethol pdf icon PDF 142 KB

Trafod yr adroddiad gan y Gwasanaeth Eiriolaeth Ieuenctid Cenedlaethol sy'n rhoi'r wybodaeth chwarterol ddiweddaraf i'r Aelodau am gwynion.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Gyda Chytundeb y Cadeirydd a'r Bwrdd bydd yr eitem hon yn symud i gyfarfod yn y dyfodol

10.

Trafod cadarnhau'r Penderfyniad isod:-

“Bod y cyfarfod hwn yn cadw aelodau o'r wasg ac aelodau o'r cyhoedd allan o ystafell y cyfarfod, dan Adran 100A(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y'i diwygiwyd), yn ystod trafod yr agendwm nesaf, ar y sail y byddai'n debygol o olygu datgelu gwybodaeth eithriedig yn ôl diffiniad paragraff 13 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf.”

 

Cofnodion:

PENDERFYNWYDbod y cyfarfod hwn yn cadw aelodau o'r wasg ac aelodau o'r cyhoedd allan o ystafell y cyfarfod, dan Adran 100A(4) o'r Ddeddf Llywodraeth Leol (fel y'i diwygiwyd), yn ystod trafod yr agendwm nesaf, ar y sail y byddai'n debygol o olygu datgelu gwybodaeth eithriedig yn ôl diffiniad paragraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A o'r Ddeddf.

 

11.

Gwasanaethau Cymdeithasol – Cwynion a Chanmoliaethau Chwarterol

Derbyn adroddiad Cyfarwyddwr Cyfadran y Gwasanaethau Cymuned a Gwasanaethau i Blant sy'n rhoi crynodeb i'r Bwrdd Rhianta Corfforaethol o'r trefnau gweithredu ac effeithiolrwydd gweithdrefn cwynion y Gwasanaethau Cymdeithasol statudol.

 

Cofnodion:

Rhoddodd Rheolwr Cwynion, Ymgysylltu a Gwella Gwasanaeth grynodeb i'r Bwrdd Rhianta Corfforaethol o'r trefnau gweithredu ac effeithiolrwydd gweithdrefn cwynion y Gwasanaethau Cymdeithasol statudol rhwng 1 Ionawr 2021 a 31 Mawrth 2021.

 

Roedd yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth am nifer y cwynion a ddaeth i law, natur y cwynion, ac unrhyw wersi a ddysgwyd, yn ogystal â manylu ar ymholiadau gan Gynghorwyr, Aelodau Cynulliad ac Aelodau Seneddol a nifer y cwynion a ddaeth i law.

 

12.

Adroddiadau Rheoliad 73

Derbyn adroddiad Cyfarwyddwr Cyfadran y Gwasanaethau Cymuned a Gwasanaethau i Blant sy'n cynnwys gwybodaeth eithriedig.

 

Cofnodion:

Rhoddodd Rheolwr y Gwasanaethau Preswyl yr wybodaeth ddiweddaraf i'r Bwrdd am ymweliadau o dan Reoliad 32 wedi eu cynnal yn y tri chartref i blant – Y Beddau, Bryndâr, a Nant-gwyn.

 

Amlinellodd y swyddog grynodeb o ganlyniadau'r arolygiad. PENDERFYNWYD:

 

a)    Nodi cynnwys yr adroddiad.

 

13.

Unrhyw Busnes Arall

Cofnodion:

Manteisiodd y Bwrdd ar y cyfle i ddiolch i Ms Anne-Marie Browning am ei holl waith caled trwy gydol ei gwasanaeth i'r Awdurdod a dymuno'n dda iddi yn ei hantur waith newydd.