Lleoliad: Rhithwir
Cyswllt: Hannah Williams - Uned Busnes y Cyngor - Gwasanaethau Llywodraethol 07385401954
Rhif | eitem |
---|---|
Datgan Buddiant Derbyn datganiadau o fuddiannau personol gan Aelodau, yn unol â'r Cod Ymddygiad.
Nodwch:
1. Mae gofyn i Aelodau ddatgan rhif a phwnc yr eitem y mae eu buddiant yn ymwneud ag ef a mynegi natur y buddiant personol hwnnw; a 2. Lle bo Aelodau'n ymneilltuo o'r cyfarfod o ganlyniad i ddatgelu buddiant sy'n rhagfarnu, rhaid iddyn nhw roi gwybod i'r Cadeirydd pan fyddan nhw'n gadael.
Cofnodion: Yn unol â Chod Ymddygiad y Cyngor, ni wnaethpwyd unrhyw ddatganiadau mewn perthynas â'r Agenda.
|
|
Cadarnhau cofnodion o gyfarfod y Bwrdd Rhianta Corfforaethol ar 26 Ionawr 2023 yn rhai cywir.
Cofnodion: PENDERFYNODD yr Aelodau gymeradwyo'r cofnodion o gyfarfod y Bwrdd Rhianta Corfforaethol ar 26 Ionawr 2023 yn rhai cywir.
|
|
Rhaglenni Cyflogaeth, Addysg a Hyfforddiant ar gyfer Plant sy'n Derbyn Gofal PDF 136 KB Derbyn gwybodaeth yngl?n â'r Rhaglenni Cyflogaeth, Addysg a Hyfforddiant sydd ar gael ar gyfer Plant sy'n Derbyn Gofal.
Cofnodion: Rhannodd Uwch Gydlynydd y Gwasanaeth Cyflogaeth, Addysg a Hyfforddiant yr wybodaeth ddiweddaraf â'r Bwrdd Rhianta Corfforaethol am raglenni penodol y Cyngor i gefnogi plant sy'n derbyn gofal, y rheiny sy'n gadael gofal a'r rheiny ag anghenion gofal a chymorth, i gyflogaeth, addysg a hyfforddiant.
Cafodd y Bwrdd ddadansoddiad o’r deilliannau rhwng mis Ebrill 2022 a mis Mawrth 2023 mewn perthynas â rhaglenni Camu i’r Cyfeiriad Cywir a GofaliWaith.
Dywedodd y Swyddog wrth yr Aelodau fod y gwasanaeth yn torri tir newydd wrth iddo gysylltu â Phrifysgol De Cymru a Phrifysgol Caerdydd mewn perthynas â chwrs i baratoi pobl ifainc ar gyfer y brifysgol. Dywedodd y Swyddog y byddai'r bobl ifainc yn cael y cyfle i ymweld â'r prifysgolion ac aros yn y neuaddau preswyl.
Cafodd yr Aelodau wybod hefyd am raglen gyflogi'r haf i blant sy'n derbyn gofal sy'n rhoi cyfleoedd cyflogaeth a hyfforddiant gyda nifer o fusnesau yn Nhreorci. Mae hyn yn sgil llwyddiant y cynllun yn Nhreorci. Bydd cynlluniau tebyg yn cael eu cynnal yn Aberdâr a Phontypridd yn ystod yr haf.
Roedd y Cadeirydd yn canmol rhaglen gyflogi'r haf. Dywedodd ei bod yn wych gweld y cynnydd yn hunan-barch y bobl ifainc yn dilyn eu cyfleoedd cyflogaeth.
Gan gyfeirio at y rhaglen GofaliWaith, nododd un Aelod fod 15 o bobl ifainc ddim wedi ymgysylltu â hi, gan holi a oedd unrhyw resymau dros hyn. Dywedodd y Swyddog ei bod yn bosibl bod gyda'r bobl ifainc flaenoriaethau eraill adeg eu hatgyfeirio, megis symud o leoliad maeth i fyw'n annibynnol ac nad yw'r amseru'n iawn. Serch hynny, cafwyd esboniad bod y rhaglen GofaliWaith ddim yn gaeth i amser 'penodol', ac felly mae'r garfan yn ymgysylltu â phob person ifanc ac yn sicrhau ei bod yno iddyn nhw pan fo'r amser yn iawn.
Diolchodd y Cadeirydd i'r swyddog am yr adroddiad manwl a PHENDERFYNODD y Bwrdd: 1. Nodi cynnwys yr adroddiad.
|
|
Derbyn trosolwg o Fodel Ysgol Rithwir Cymru, a'r newyddion diweddaraf ynghylch cynnydd cynllun peilot yr Ysgol Rithwir ar gyfer Plant sy'n Derbyn Gofal yng Nghymru yn ei flwyddyn gyntaf, gan gynnwys y camau nesaf.
Cofnodion: Rhannodd Pennaeth yr Ysgol Rithwir yr wybodaeth ddiweddaraf â'r Bwrdd am y cynnydd yn ystod blwyddyn gyntaf y cynllun peilot hwn ar gyfer plant sy'n derbyn gofal. Edrychodd yn benodol ar y camau a gymerwyd i fynd i'r afael â'r camau gweithredu sy'n rhan o Gynllun Gweithredu'r Ysgol Rithwir, a'u cwblhau. Aeth y Swyddog ati i atgoffa'r Aelodau fod y Cabinet wedi cytuno i gynnig i symud ymlaen â strategaeth i dreialu Model yr Ysgol Rithwir i wella deilliannau addysgol plant sy'n derbyn gofal, a hynny ym mis Gorffennaf 2021. Roedd Model yr Ysgol Rithwir wedi’i hen sefydlu yn Lloegr ac, o dan Ddeddf Plant a Theuluoedd 2014, mae gydag awdurdodau lleol ddyletswydd statudol i benodi Pennaeth ar gyfer yr Ysgol Rithwir. Ei rôl allweddol yw hyrwyddo cyflawniad addysgol plant sy'n derbyn gofal.
Cafodd yr Aelodau eu cyfeirio at Adran 5 o'r adroddiad lle mae rhestr manylion Gweithgareddau'r Cynllun Gweithredu ar gyfer 2022 i 2023.
Aeth y Cadeirydd ati i longyfarch y Swyddog ar y rôl, gan ddweud bod y cynllun peilot yn gyfle gwych i blant sy'n derbyn gofal ac yn ddysgwyr yn y fwrdeistref sirol. Gofynnodd a oedd y 210 o ddysgwyr oedran ysgol y tu allan i'r sir yn profi'n fwy heriol. Dywedodd y Swyddog nad oedd unrhyw heriau sylweddol a bod nifer yr ymatebion i holiadur a ddaeth i law yn llwyddiannus iawn. Cafodd yr holiadur ei anfon i'r holl ysgolion y tu allan i'r sir ym mis Rhagfyr 2022. Roedd yn gofyn cwestiynau megis 'a oedd gyda nhw berson arweiniol, polisi ar gyfer plant sy'n derbyn gofal, niferoedd a oedd yn mynychu, cyfathrebu â rhieni maeth', ac ati. Ychwanegodd y Swyddog ei bod hi wedi mynychu adolygiadau ar gyfer plant Rhondda Cynon Taf yn Nyfnaint a Gwlad yr Haf a bod y carfannau yno wedi bod yn rhagweithiol iawn ac yn agored i fod eisiau dilyn ein protocolau ni.
PENDERFYNODD y Bwrdd: 1. Cydnabod cynnwys yr adroddiad; a 2. Derbyn adroddiad cynnydd pellach ar y cynllun peilot yn y dyfodol.
|
|
Adroddiad Blynyddol Cynhalwyr Ifainc PDF 151 KB Derbyn y newyddion diweddaraf ynghylch y gwaith gyda chynhalwyr ifanc yn Rhondda Cynon Taf yn ystod Blynyddoedd y Cyngor 2021 i 2022 a 2022 i 2023.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Rhannodd y Rheolwr Gwasanaeth Dros Dro ar gyfer Cynhalwyr, Taliadau Uniongyrchol ac Ymgysylltu â Defnyddwyr y Gwasanaeth yr wybodaeth ddiweddaraf â'r Bwrdd Rhianta Corfforaethol am y gwaith gyda chynhalwyr ifanc yn Rhondda Cynon Taf rhwng 2022 a 2023.
Tynnodd y Swyddog sylw’r Aelodau at Adroddiad Blynyddol y Cynhalwyr Ifainc, a oedd ynghlwm wrth yr adroddiad, gan fanteisio ar y cyfle i grynhoi ei themâu allweddol: · Mae'r contract ar gyfer yr elfen cymorth i gynhalwyr ifainc wedi'i ail-dendro'n llwyddiannus. Enillodd yr elusen Action For Children y contract ac maen nhw'n parhau i gynnig cymorth i gynhalwyr ifainc leded y fwrdeistref sirol; · Mae lefel ddarpariaeth y gwasanaeth yn ôl i'w harfer yn dilyn y pandemig; · Mae nifer yr atgyfeiriadau asesiadau ar gyfer cynhalwyr ifainc wedi dyblu'n gyson o'i chymharu â'r cyfnod adrodd blaenorol; · O ganlyniad i hyn, bu cynnydd yn y galw am wasanaethau i gynhalwyr ifainc; · Oherwydd llwyddiant cynllun peilot Brodyr a Chwiorydd, mae'r angen am gymorth i frodyr a chwiorydd ar wahân bellach wedi'i gydnabod. Mae capasiti ychwanegol i ddarparu'r cymorth hwn wedi'i sicrhau yn rhan o gontract newydd y cynhalwyr ifainc; · Mae'r Gwasanaethau Cynhalwyr sy'n Oedolion Ifainc wedi newid ac mae bellach yn darparu model cymorth ychydig yn wahanol, sy'n canolbwyntio ar ddeilliannau ac ar yr unigolyn; · Mae’r cyllid grant ar gyfer y swydd Gweithiwr Datblygu i Gynhalwyr sy'n Oedolion Ifainc a ddyfarnwyd ar gyfer 2023 i 2024 yn amodol ar ddiffyg o ran dod o hyd i gostau'r cyflog, (ni ddarparwyd unrhyw gynnydd); ac · Er gwaethaf llwyddiant cynllun Cerdyn Adnabod Cynhalwyr Ifainc, ni fydd Llywodraeth Cymru yn darparu rhagor o gyllid. Serch hynny, bydd Rhondda Cynon Taf yn parhau i gyflwyno cynllun cardiau ar gyfer cynhalwyr ifainc.
Diolchodd y Cadeirydd i'r Swyddog am y diweddariad, gan gydnabod y byddai'r gwasanaeth, sydd bellach yn ôl fel yr oedd, yn gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i'r cynhalwyr ifainc a'r staff. Roedd y Cadeirydd yn falch o nodi gwaith Action For Children a llwyddiant cynllun peilot Brodyr a Chwiorydd. Gofynnodd am ragor o wybodaeth am y nifer sy'n manteisio ar y cynllun Cerdyn Adnabod i Gynhalwyr Ifainc. Dywedodd y Swyddog fod y cynllun yn llwyddiannus ac yn boblogaidd ymhlith cynhalwyr ifainc a'i fod yn siomedig nodi na fyddai cyllid ar gael mwyach gan Lywodraeth Cymru. Serch hynny, rhoddodd y Swyddog sicrwydd i'r Aelodau fod y garfan yn angerddol am y cynllun ac y byddai'n parhau i ddarparu'r cynllun cardiau ar gyfer cynhalwyr ifanc.
Siaradodd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion Addysg, cyfranogiad Pobl Ifainc a’r Iaith Gymraeg yn gadarnhaol am yr adroddiad a’r llu o gefnogaeth sydd ar gael i gynhalwyr ifainc. Siaradodd yr Aelod o'r Cabinet am y cynnydd o tua 50% yn nifer yr atgyfeiriadau i'r rheiny dan 18, gan holi a oedd hynny oherwydd cynnydd yn y galw ar ôl y pandemig, gwell ymwybyddiaeth o'r gwasanaeth neu arfer gwell gan yr awdurdod lleol. Dywedodd y Swyddog fod y cynnydd yn cael ei adlewyrchu ar draws yr holl atgyfeiriadau a bod modd ei briodoli i gyfuniad o'r holl resymau a grybwyllwyd ... view the full Cofnodion text for item 39. |
|
Tros Gynnal Plant (TGP) Cymru PDF 127 KB Derbyn adroddiad cynnydd chwarterol Tros Gynnal Plant Cymru.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhannodd Tros Gynnal Plant yr wybodaeth ddiweddaraf â’r Bwrdd Rhianta Corfforaethol am gynnydd ar gyfer cyfnod chwarter 2, a oedd yn cwmpasu mis Hydref 2022 hyd at fis Rhagfyr 2022.
Clywodd yr Aelodau fod 35 o bobl ifainc wedi manteisio ar y gwasanaeth Eiriolaeth yn Seiliedig ar Faterion yn ystod y cyfnod, a chafodd 20 o bobl ifainc eraill eu hatgyfeirio ar gyfer y Cynnig Gweithredol ledled Rhondda Cynon Taf. Dywedodd y Swyddog fod 19 o bobl ifainc â phrofiad o dderbyn gofal wedi manteisio ar y gwasanaeth Eiriolaeth yn Seiliedig ar Faterion, a oedd yn cwmpasu gyda 22 o faterion, a chafodd 5 person ifanc â phrofiad o dderbyn gofal eu hatgyfeirio ar gyfer y Cynnig Rhagweithiol.
Clywodd yr Aelodau fod 14 o bobl ifainc â phrofiad o dderbyn gofal wedi dod yn gymwys ar gyfer y Cynnig Rhagweithiol yn ystod y cyfnod, bod 5 Cynnig Rhagweithiol wedi’u cyflwyno gan eiriolwyr a bod 5 person ifanc wedi derbyn y Cynnig Rhagweithiol ac wedi mynd ymlaen i gael y gwasanaeth Eiriolaeth yn Seiliedig ar Faterion. Mae hyn yn golygu bod 21% o bobl ifainc cymwys wedi’u hatgyfeirio ar gyfer y Cynnig Rhagweithiol o'i gymharu â 23% yn y chwarter blaenorol.
Cafodd ei egluro bod 5 o’r rhai a ddaeth yn gymwys drwy’r llwybr plant sy'n derbyn gofal yn chwarter 3 wedi’u hatgyfeirio ar gyfer y Cynnig Rhagweithiol drwy'r llwybr Rhianta Corfforaethol yn chwarter 4. Roedd 3 person ifanc eisoes yn ymwneud â'r gwasanaeth eiriolaeth ar ôl cael y Cynnig Rhagweithiol drwy'r llwybr Rhianta Corfforaethol yn y chwarteri blaenorol. Roedd hyn yn golygu, ar 22 Chwefror 2023, bod 79% o bobl ifainc â phrofiad o dderbyn gofal a ddaeth yn gymwys drwy’r llwybr plant sy'n derbyn gofal yn chwarter 3 naill ai wedi’u hatgyfeirio ar gyfer y Cynnig Rhagweithiol yn chwarter 3, wedi’u hatgyfeirio ar gyfer Cynnig Rhagweithiol yn ddiweddarach drwy'r llwybr Rhianta Corfforaethol, neu eu bod nhw eisoes yn ymwneud â gwasanaethau eiriolaeth pan ddaethon nhw'n gymwys. Chafodd dau berson ifanc ddim cynnig cyfarfod ar gyfer y Cynnig Rhagweithiol gan eu gweithiwr cymdeithasol oherwydd doedd eu rhieni ddim am iddyn nhw wybod bod y Gwasanaethau i Blant yn ymwneud â nhw. Cynigiwyd y cyfle i’r person ifanc arall gwrdd ag eiriolwr, ond gwrthododd gan ei fod o'r farn bod gyda fe ddigon o bobl yn ei fywyd yr oedd yn gallu siarad â nhw.
Aeth y Swyddog ymlaen i ddarparu'r ystadegau i'r Aelodau ar gyfer pobl ifainc â phrofiad o dderbyn gofal sy'n defnyddio'r gwasanaeth Eiriolaeth yn Seiliedig ar Faterion a'r rhai a gafodd eu hatgyfeirio ar gyfer y Cynnig Rhagweithiol. Roedd hyn yn cynnwys gwybodaeth am oedran, rhyw, ethnigrwydd a lleoliad.
Diolchodd y Cadeirydd i Tros Gynnal Plant Cymru am yr adroddiad manwl a PHENDERFYNODD y Bwrdd: 1. Nodi cynnwys yr adroddiad
|
|
Trafod cadarnhau'r Penderfyniad isod: “Bod y cyfarfod hwn yn cadw aelodau o'r wasg ac aelodau o'r cyhoedd allan o ystafell y cyfarfod, dan Adran 100A(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y'i diwygiwyd), yn ystod trafod yr eitem nesaf, ar y sail y byddai'n debygol o olygu datgelu gwybodaeth eithriedig yn ôl diffiniad paragraff 13 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf.”
Cofnodion: PENDERFYNWYDbod y cyfarfod hwn yn cadw aelodau o'r wasg ac aelodau o'r cyhoedd allan o ystafell y cyfarfod, dan Adran 100A(4) o'r Ddeddf Llywodraeth Leol (fel y'i diwygiwyd), yn ystod trafod yr eitem nesaf, ar y sail y byddai'n debygol o olygu datgelu gwybodaeth eithriedig yn ôl diffiniad paragraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A o'r Ddeddf.
|
|
Strategaeth Trawsnewid Gofal Preswyl: Plant Mewn Lleoliadau Sy'n Gweithredu Heb Gofrestru Derbyn adroddiad eithriedig Cyfarwyddwr y Gwasanaethau i Blant . Cofnodion: Rhannodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau i Blant wybodaeth â'r Bwrdd Rhianta Corfforaethol am blant mewn lleoliadau sy'n Gweithredu Heb Gofrestru (OWR), a chynlluniau'r Gwasanaethau i Blant ar gyfer cefnogi'r plant hynny, a dod â'r trefniadau hynny i ben.
Ar ôl ystyried yr adroddiad eithriedig, PENDERFYNODD y Bwrdd: 1. Nodi'r wybodaeth a oedd wedi ei chynnwys yn yr adroddiad, a 2. Derbyn adroddiadau dilynol tan nad oes sefyllfaoedd OWR ar gyfer pobl ifainc sy'n derbyn gofal yn Rhondda Cynon Taf.
|
|
Gwasanaethau Cymdeithasol – Cwynion a Chanmoliaethau Chwarterol Derbyn trosolwg o weithredu ac effeithiolrwydd trefn gwynion statudol y Gwasanaethau Cymdeithasol.
Cofnodion: Rhannodd y Rheolwr Cwynion, Ymgysylltu a Gwella Gwasanaeth grynodeb â'r Bwrdd Rhianta Corfforaethol o'r trefnau gweithredu ac effeithiolrwydd gweithdrefn cwynion y Gwasanaethau Cymdeithasol statudol rhwng 1 Hydref 2022 a 31 Rhagfyr 2022.
Roedd yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth am nifer y cwynion a ddaeth i law, natur y cwynion, ac unrhyw wersi a ddysgwyd, yn ogystal â manylu ar ymholiadau gan Gynghorwyr, Aelodau Cynulliad ac Aelodau Seneddol a nifer y cwynion a ddaeth i law.
Ar ôl ystyried yr adroddiad eithriedig, PENDERFYNODD y Bwrdd: 1. Nodi cynnwys yr adroddiad a'r gwaith wedi ei gyflawni gan yr Uned Gwynion.
|