Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Rhithwir

Cyswllt: Hannah Williams - Uned Busnes y Cyngor - Gwasanaethau Llywodraethol  07385401954

Cyfryngau

Eitemau
Rhif eitem

25.

Datgan Buddiant

Derbyn datganiadau o fuddiannau personol gan Aelodau, yn unol â'r Cod Ymddygiad.

 

Nodwch:

1.    Mae gofyn i aelodau ddatgan rhif a phwnc yr agendwm mae eu buddiant yn ymwneud ag ef a mynegi natur y buddiant personol hwnnw; a

2.   Lle bo Aelodau'n ymneilltuo o'r cyfarfod o ganlyniad i ddatgelu buddiant sy'n rhagfarnu, rhaid iddyn nhw roi gwybod i'r Cadeirydd pan fyddan nhw'n gadael.

 

 

Cofnodion:

Yn unol â Chod Ymddygiad y Cyngor, ni wnaethpwyd unrhyw ddatganiadau mewn perthynas â'r Agenda.

 

 

26.

Cofnodion pdf icon PDF 201 KB

Cadarnhau cofnodion o gyfarfod y Bwrdd Rhianta Corfforaethol ar 24 Tachwedd 2022 yn rhai cywir.

 

 

Cofnodion:

Cadarnhau cofnodion o gyfarfod y Bwrdd Rhianta Corfforaethol, ar 24 Tachwedd 2022, yn rhai cywir.

 

27.

Gweithredu Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (ALNET) a'r Cod ADY ar gyfer Plant sy'n Derbyn Gofal pdf icon PDF 285 KB

Derbyn adroddiad y Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Cynhwysiant, sy'n rhoi trosolwg i'r Bwrdd Rhianta Corfforaethol o oblygiadau Deddf ALNET a'r Cod ADY ar gyfer Plant sy'n Derbyn Gofal, a rhoi'r diweddaraf i Aelodau am Flwyddyn 2 yr amserlen weithredu ADY genedlaethol ar gyfer Plant sy'n Derbyn Gofal sydd ag ADY yn RhCT.

 

Cofnodion:

Rhoddodd Bennaeth yr Ysgol Rithwir ddiweddariad i'r Bwrdd Rhianta Corfforaethol am oblygiadau Deddf Tribiwnlys Addysg ac Anghenion Dysgu Ychwanegol Cymru (2018) a Chod Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) 2021 ar gyfer Plant sy'n Derbyn Gofal ag ADY ac i ddiweddaru'r Bwrdd ar waith cyflwyno'r uchod yn rhan o Ail Flwyddyn o'r Amserlen Genedlaethol ar gyfer Gweithredu ADY yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf.

 

Roedd y Cadeirydd wedi diolch i'r swyddog am yr adroddiad cynhwysfawr cyn rhoi'r cyfle i Aelodau holi cwestiynau.


Roedd Aelod wedi cydnabod bod y cyfnod pontio yn aml iawn yn gyfnod heriol i bobl ifainc a holodd p'un a yw'r elfen addysgol o'r Cynllun Addysg, Iechyd a Gofal yn cael yr un sylw a'r elfen iechyd, o ran pontio. Rhoddodd y Swyddog wybod bod tua 80% o'r Cynllun Datblygu Unigol yn seiliedig ar addysg gan esbonio bod pedwar maes angen yn cael eu hystyried yn ystod cyfarfod cynllunio sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn (Gwybyddiaeth a Dysgu; Materion Cymdeithasol, Emosiynol ac Ymddygiad; Cyfathrebu a Rhyngweithio a Materion sy’n ymwneud â’r Synhwyrau). Cafodd Aelodau wybod bod y deilliannau a fwriedir yn cael eu nodi ar ôl pennu'r anghenion penodol, ac yna caiff yr ysgol ei chefnogi i gynnig darpariaeth ddysgu ychwanegol. 

 

Nododd Aelod fod rhai rhieni yn gwrthwynebu'r term 'ysgol arbennig' gan holi a oedd unrhyw fwriad i newid y term yma.  Rhoddodd y swyddog wybod y byddai'n mynd ati i gael ateb i'r cwestiwn yna a'i rannu yn ystod cyfarfod yn y dyfodol.

 

Siaradodd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion Addysg, Cyfranogiad Ieuenctid a'r Gymraeg yn gadarnhaol am yr achlysur Ysgol Rithwir, roedd ef o'r farn bod yr achlysur wedi tynnu sylw at y ffordd ymlaen a'r heriau. Roedd yr Aelod o'r Cabinet wedi cydnabod yr ystod eang o gyfrifoldebau statudol ar gyfer yr Awdurdod Lleol, gan bwysleisio bod y Cabinet yn cydnabod bod hyn yn faes sydd dan bwysau yn yr Adran Addysg, ac sydd hefyd angen cyllid ac adnoddau ychwanegol.  Siaradodd yr Aelod o'r Cabinet am ddau adroddiad a gafodd eu trafod gan y Cabinet yn 2022 mewn perthynas ag ysgol arbennig ychwanegol yn y Fwrdeistref Sirol a chyllid ychwanegol ar gyfer ADY.

 

PENDERFYNODDy Bwrdd Rhianta Corfforaethol:

    1.         Nodi cynnwys yr adroddiad; a

    2.         Derbyn adroddiad pellach mewn perthynas â Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 a gweithredu'r Cod ADY ar gyfer Plant sy'n Derbyn Gofal yn y dyfodol os oes angen.

 

 

28.

Adroddiad Monitro Lleoliadau'r Sector Annibynnol pdf icon PDF 158 KB

Derbyn adroddiad Cyfarwyddwr Dros Dro'r Gwasanaethau Cymdeithasol, adroddiad sy'n rhoi diweddariad a throsolwg i'r Bwrdd Rhianta Corfforaethol o wasanaethau i blant RhCT o ran comisiynu a monitro lleoliadau allanol ar gyfer Plant sy'n Derbyn Gofal.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd Pennaeth y Gwasanaeth Cymorth i Deuluoedd a Llety a'r Rheolwr Comisiynu Rhanbarthol ar gyfer Consortiwm Comisiynu Plant Cymru drosolwg a diweddariad i'r Aelodau ynghylch sut mae Gwasanaethau i Blant RhCT yn comisiynu ac yn monitro plant sy'n derbyn gofal ac sydd wedi'u lleoli y tu allan i'r sir.

 

Gan gyfeirio at ddigwyddiad mewn Awdurdod Lleol yn Lloegr, lle'r oedd adroddiadau Ofsted yn gadarnhaol iawn, nododd Aelod fod y Bwrdd Rhianta Corfforaethol yn canolbwyntio ar faterion llesiant y plant sydd wedi'u lleoli y tu allan i'r sir a cheisiodd sicrwydd bod y broses adolygu lleoliadau a'r trefniadau eiriolaeth yn gadarn yn RhCT.  Roedd y Rheolwr Comisiynu Rhanbarthol wedi cydnabod pryderon yr Aelod, gan esbonio bod dull haenog yn cael ei weithredu mewn perthynas â materion diogelu a monitro safonau.  Rhoddodd y Swyddog wybod mai AGC yw'r corff rheoleiddio yng Nghymru ac mae ganddyn nhw fframwaith o ran cofrestru, rhoi gwybod am unrhyw faterion sy'n codi, ac adroddiadau archwilio cyson. Esboniodd y Swyddog fod mecanweithiau cadarn ar waith yng Nghymru o ran cyfathrebu ag AGC, rhoddodd wybod fod Consortiwm Comisiynu Plant Cymru yn cwrdd ag AGC bob mis er mwyn rhannu adborth ynghylch archwiliad, yn ogystal â gwybodaeth a phryderon eraill. Soniodd y Swyddog am ddarparwyr y fframwaith, Consortiwm Comisiynu Plant Cymru a'r ymweliadau monitro amrywiol (ffurfiol ac annisgwyl) sy'n cael eu cynnal gyda darparwyr. Daeth y Swyddog i ben drwy roi sicrwydd i Aelodau bod y carfanau'n gweithio'n agos gyda Charfan Lleoliadau RhCT a bod hyfforddiant ychwanegol wedi'i gynnal gyda'r Swyddog Monitro Contractau.

 

PENDERFYNODDy Bwrdd Rhianta Corfforaethol:

1.    Nodi cynnwys yr adroddiad a'r camau gweithredu sy'n cael eu cymryd i sicrhau bod RhCT yn caffael lleoliadau allanol o safon ar gyfer ein plant.

 

29.

Y diweddaraf o ran cyfranogiad plant a phobl ifainc sydd â phrofiad o fod mewn gofal pdf icon PDF 205 KB

Derbyn adroddiad Cyfarwyddwr Dros Dro'r Gwasanaethau Cymdeithasol, sy'n rhoi diweddariad mewn perthynas â gwaith ymgysylltu y Gwasanaethau i Blant RhCT a'r Strategaeth Gyfranogi ar gyfer 2023. 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Swyddog Graddedig ar faterion Cyfranogiad ddiweddariad i'r Aelodau mewn perthynas â gweithgareddau ymgysylltu y Gwasanaethau i Blant RhCT a'r Strategaeth Cyfranogiad ar gyfer 2023.  Cafodd Aelodau wybod y bydd diweddariad pellach ar y Cynllun Gweithredu a'r Strategaeth yn cael ei ddarparu yn ystod cyfarfod yn y dyfodol.

 

Yn rhan o'r diweddariad yma, roedd person ifanc o Voices From Care Cymru yn bresennol i roi trosolwg o'r gwaith sydd wedi'i gynnal i gefnogi pobl ifainc sydd â phrofiad o dderbyn gofal yn Rhondda Cynon Taf.

 

Pwysleisiodd y swyddog pa mor bwysig yw hi i ymgysylltu â phobl ifainc sydd wedi defnyddio'r gwasanaeth, i helpu i ddatblygu'r Strategaeth. Esboniodd fod swyddogion wrthi'n gweithio tuag at gynyddu nifer y bobl sy'n ymateb i'r arolwg 'Dod yn rhan o bethau'. Hyd yn hyn dim ond 7% sydd wedi ymateb. 

 

Cafodd yr Aelodau eu gwahodd i ymuno â gr?p tasg, i drafod a fyddai modd diwygio aelodaeth y Bwrdd Rhianta Corfforaethol fel bod modd cynnwys pobl ifainc sydd â phrofiad o dderbyn gofal, a hynny er mwyn cynnwys pobl ifainc yn rhan o'r trefniadau llywodraethu. Pe byddai'r Aelodau'n cytuno i ymuno â'r gr?p, rhoddodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth wybod y byddai'r cynigion yn cael eu cyflwyno i'r Bwrdd Rhianta Corfforaethol er mwyn eu trafod. Gofynnodd y Cadeirydd fod y Cyfarwyddwr Gwasanaeth yn rhannu'r manylion gydag Uned Busnes y Cyngor.

 

PENDERFYNODDy Bwrdd Rhianta Corfforaethol:

1.    Nodi'r wybodaeth yn yr adroddiad a gwneud sylwadau amdani.

 

30.

Gwasanaeth Troseddau'r Ifainc Cwm Taf pdf icon PDF 134 KB

Derbyn adroddiad Cyfarwyddwr Dros Dro'r Gwasanaethau Cymdeithasol, sy'n rhannu manylion y gwaith y mae Gwasanaeth Troseddau'r Ifainc wedi'i gynnal â'r Bwrdd Rhianta Corfforaethol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Darparodd Pennaeth Gwasanaeth Troseddau'r Ifainc Cwm Taf  ddiweddariad o waith Gwasanaeth Troseddau'r Ifainc Cwm Taf ar gyfer 2022/23 i'r Bwrdd Rhianta Corfforaethol. Mae hyn yn cynnwys diweddariad ar faterion darparu gwasanaeth yn dilyn ailstrwythuro'r gwasanaeth yn Awst 2021, a hynny er mwyn rhoi amlinelliad o'r blaenoriaethau cyfredol a rhoi gwybod i'r Aelodau am flaenoriaethau'r gwasanaeth ar gyfer y dyfodol yn ogystal â'r heriau/risgiau cysylltiedig.

 

Gofynnodd Aelod am wybodaeth bellach mewn perthynas â'r gwaith sydd wedi'i gynnal gydag Ysgolion Cynradd, gan nodi bod y gwaith yma'n allweddol o ran osgoi materion yn gwaethygu. Rhoddodd y swyddog wybod bod y Swyddog Dychwelyd i Ddysgu wedi cynnal gwaith gyda phlant mewn ysgolion uwchradd sydd naill ai wedi bod yn rhan o ymddygiad troseddol neu'n agos at droseddu. Roedd y rôl yn cynnwys siarad gyda'r person ifanc yngl?n â'r peryglon a'r canlyniadau posibl sy'n gysylltiedig ag ymddygiad gwrthgymdeithasol. Er bod y dull yma yn y camau cynnar, mae'r dull hefyd yn cael ei ddefnyddio gan ysgolion cynradd hefyd er mwyn mynd i'r afael â materion sy'n effeithio ar blant cynradd, megis y cyfryngau cymdeithasol, yn hytrach na throseddau cyllyll. Cytunodd yr Aelodau y byddai'n fuddiol derbyn diweddariad pellach yn y dyfodol mewn perthynas â'r cynnydd sydd wedi'i wneud o ran cyflwyno'r dull i bob ysgol gynradd. 

 

Diolchodd y Cadeirydd i'r swyddog am yr adroddiad manwl a PHENDERFYNODDy Bwrdd Rhianta Corfforaethol:

1.    Nodi'r newidiadau sydd wedi'u gwneud yn y Gwasanaeth Troseddau'r Ifainc, a'r heriau sydd o'n blaenau o ganlyniad i'r newidiadau i'r gwasanaeth yn dilyn ailstrwythuro a newidiadau strategol mewn perthynas â mesurau cyflawniad y Gwasanaeth Troseddau'r Ifainc; a

2.    Derbyn diweddariadau pellach maes o law i sicrhau bod Aelodau'n fodlon gyda'r cynnydd a'r gwelliannau sydd wedi'u gwneud a sut mae hyn yn cyfrannu at ddeilliannau gwell ar gyfer plant a'u teuluoedd.

 

31.

Gwasanaeth Troseddau'r Ifainc Cwm Taf - Lleihau troseddoli o ran plant mewn gofal a'r rhai sy'n gadael gofal: protocol Cymru gyfan pdf icon PDF 170 KB

Derbyn adroddiad Cyfarwyddwr Dros Dro'r Gwasanaethau Cymdeithasol, sy'n rhoi gwybodaeth i'r Bwrdd Rhianta Corfforaethol am y protocol Cymru gyfan ar gyfer Lleihau troseddoli o ran plant mewn gofal a'r rhai sy'n gadael gofal.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd Pennaeth Gwasanaeth Troseddau'r Ifainc Cwm Taf wybod i'r Bwrdd Rhianta Corfforaethol am y 'Protocol Cymru Gyfan: Lleihau nifer y plant ac oedolion ifanc â phrofiad o fod mewn gofal sy’n cael eu troseddoli 2022'.

 

Bwriad y protocol yma yw helpu gweithwyr proffesiynol sy'n gweithio gyda phlant a phobl ifainc sydd â phrofiad o fod mewn gofal, a rhannu fframwaith o egwyddorion a disgwyliadau cyffredin wedi'u llywio gan ddull sy'n rhagweithiol wrth hyrwyddo hawliau plant ac sy'n diogelu ac yn hyrwyddo'u llesiant.

 

Roedd y Cadeirydd wedi diolch i'r Swyddog am y diweddariad yn holi a yw camfanteisio ar blant a phobl ifainc yn broblem yn RhCT. Rhoddodd y swyddog wybod bod cynnydd wedi bod yn nifer yr achosion o ymddygiad gwrthgymdeithasol a defnyddio cyffuriau, ynghyd â phlant sy'n cael eu camfanteisio er mwyn cludo cyffuriau ar gyfer pobl h?n. Cafodd Aelodau wybod bod Strategaeth yn cael ei lunio ledled rhanbarth Cwm Taf Morgannwg a bod yr heriau sy'n gysylltiedig â hyn yn cynnwys rhannu dealltwriaeth o beth mae hyn yn ei olygu a hynny gan ei bod hi'n bosibl y bydd gan asiantaethau gwahanol safbwyntiau gwahanol.

 

PENDERFYNODDy Bwrdd Rhianta Corfforaethol:

1.    Nodi cynnwys yr adroddiad; a

2.    Derbyn adroddiadau pellach maes o law er mwyn clywed y diweddaraf am ddata lleol/rhanbarthol a pha gynnydd a gwelliannau sydd wedi'u gwneud a sut mae hyn yn cyfrannu at ddeilliannau gwell ar gyfer plant sydd â phrofiad o fod mewn gofal.

 

 

32.

Adroddiad Blynyddol Ansawdd Gofal y Gwasanaeth Maethu pdf icon PDF 92 KB

Derbyn adroddiad Cyfarwyddwr Dros Dro'r Gwasanaethau Cymdeithasol, sy'n rhannu Adroddiad Blynyddol Ansawdd Gofal y Gwasanaeth Maethu â'r Bwrdd Rhianta Corfforaethol.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Diolchodd Rheolwr y Gwasanaeth i Aelodau'r Bwrdd Rhianta Corfforaethol am y cyfle i gyflwyno Adroddiad Blynyddol Ansawdd Gofal y Gwasanaeth Maethu.

 

Cafodd yr adroddiad yma'i lunio yn unol â Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016. Mae Rheoliad 52 o Reoliadau Gwasanaethau Maethu Awdurdodau Lleol (Cymru) 2018 yn gofyn bod y Rheolwr yr awdurdod lleol yn rhoi trefniadau addas ar waith i sefydlu a chynnal system ar gyfer monitro, adolygu a gwella ansawdd y gwasanaeth.

 

Siaradodd Aelod yn gadarnhaol am drefniadau recriwtio rhieni maeth ar gyfer mamau a'u babanod, gan ofyn sut y byddai hyn yn gweithio. Rhoddodd y swyddog wybod bod angen y dull yma, ond roedd hefyd wedi cydnabod y bydd hyn yn heriol wrth symud ymlaen. Roedd un opsiwn yn cynnwys gweithio gyda Maethu Cymru i dargedu pobl cymwys, megis Ymwelwyr Iechyd, opsiwn arall yw cael rhieni maeth sydd eisoes wedi'u sefydlu i droi at y rôl; ac opsiwn arall yw gwneud y rôl yn rôl gymunedol.

 

PENDERFYNODDy Bwrdd Rhianta Corfforaethol:

1.    Nodi'r wybodaeth oedd wedi ei chynnwys yn yr adroddiad

 

33.

Trafod cadarnhau'r Penderfyniad isod:

“Bod y cyfarfod hwn yn cadw aelodau o'r wasg ac aelodau o'r cyhoedd allan o ystafell y cyfarfod, dan Adran 100A(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y'i diwygiwyd), yn ystod trafod yr eitem nesaf, ar y sail y byddai'n debygol o olygu datgelu gwybodaeth eithriedig yn ôl diffiniad paragraff 13 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf.”

 

Cofnodion:

PENDERFYNWYDbod y cyfarfod hwn yn cadw aelodau o'r wasg ac aelodau o'r cyhoedd allan o ystafell y cyfarfod, dan Adran 100A(4) o'r Ddeddf Llywodraeth Leol (fel y'i diwygiwyd), yn ystod trafod yr agendwm nesaf, ar y sail y byddai'n debygol o olygu datgelu gwybodaeth eithriedig yn ôl diffiniad paragraff 13 ac 14 o Ran 4 o Atodlen 12A o'r Ddeddf.

 

 

34.

Ymchwiliad i gŵyn - Cartref i Blant Carn Ingli

Derbyn adroddiad Cyfarwyddwr Dros Dro'r Gwasanaethau Cymdeithasol, sy'n rhoi manylion cwyn a gafodd ei gwneud mewn perthynas â Chartref i Blant Carn Ingli, a'r broses ymchwilio ddilynol.

 

Cofnodion:

Rhannodd Pennaeth y Gwasanaeth Cymorth i Deuluoedd a Llety yr adroddiad sy'n cynnwys yr wybodaeth eithriedig â'r Bwrdd Rhianta Corfforaethol.

 

Yn dilyn trafodaeth, PENDERFYNWYD:

1.    Gwella cyfathrebu rhwng Swyddogion ac Aelodau o ran y Gwasanaethau Preswyl.

·       Cynnal cyfarfod blynyddol gydag Aelodau'r Ward i'w diweddaru ar y ddarpariaeth gyfredol yn eu Wardiau unigol, cyfrifoldebau rhianta corfforaethol a sut i roi gwybod am bryderon.