Lleoliad: Rhithwir
Cyswllt: Hannah Williams - Uned Busnes y Cyngor - Gwasanaethau Llywodraethol 07385401954
Rhif | eitem |
---|---|
Croeso ac Ymddiheuriadau Cofnodion: Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i'r cyfarfod a derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan Gynghorwyr y Fwrdeistref Sirol C. Leyshon, S. Evans a S. Trask.
|
|
Datgan Buddiant Derbyn datganiadau o fuddiannau personol gan Aelodau, yn unol â'r Cod Ymddygiad.
Nodwch:
1. Mae gofyn i Aelodau ddatgan rhif a phwnc yr eitem y mae eu buddiant yn ymwneud ag ef a mynegi natur y buddiant personol hwnnw; a 2. Lle bo Aelodau'n ymneilltuo o'r cyfarfod o ganlyniad i ddatgelu buddiant sy'n rhagfarnu, rhaid iddyn nhw roi gwybod i'r Cadeirydd pan fyddan nhw'n gadael.
Cofnodion: Yn unol â Chod Ymddygiad y Cyngor, datganodd Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol S Rees y buddiant personol canlynol mewn perthynas ag eitem 6 ar yr agenda - Adroddiad Blynyddol 2021 i 2022 Gwasanaeth Mabwysiadu Cydweithredol y Fro, y Cymoedd, a Chaerdydd (VCC) 'Rwy'n cynrychioli'r Adain Weithredol fel Aelod o'r Panel.'
|
|
Cadarnhau cofnodion o gyfarfod y Bwrdd Rhianta Corfforaethol ('Y Bwrdd') ar 18 Hydref 2022 yn rhai cywir.
Cofnodion: Cadarnhau cofnodion o gyfarfod y Bwrdd Rhianta Corfforaethol, ar 24 Tachwedd 2022, yn rhai cywir.
|
|
Tros Gynnal Plant (TGP) Cymru PDF 116 KB Derbyn adroddiad cynnydd chwarterol Tros Gynnal Plant Cymru.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddodd Tros Gynnal Plant ddiweddariad cynnydd i'r Bwrdd Rhianta Corfforaethol ar gyfer chwarter 2, sy'n cynnwys Gorffennaf 2022-Medi 2022.
Clywodd yr Aelodau fod 46 o bobl ifainc wedi manteisio ar Eiriolaeth yn Seiliedig ar Faterion yn ystod y chwarter, a chyfeiriwyd 21 o bobl ifainc eraill ar gyfer y Cynnig Gweithredol ledled RhCT. Rhoddodd y swyddog wybod bod 19 o bobl ifainc sydd â phrofiad o dderbyn gofal ac 1 person sydd wedi gadael gofal wedi manteisio ar Eiriolaeth yn Seiliedig ar Faterion, gan gyflwyno 21 o faterion; a chafodd 5 person ifanc â phrofiad o dderbyn gofal eu cyfeirio ar gyfer y Cynnig Gweithredol.
Cafodd Aelodau wybod bod 22 o bobl ifainc â phrofiad o dderbyn gofal yn gymwys i fanteisio ar y Cynnig Gweithredol, cafodd 4 Cynnig Gweithredol eu darparu gan eiriolwyr ac aeth 4 o'r bobl ifainc ymlaen i dderbyn y Cynnig Gweithredol cyn derbyn Eiriolaeth yn seiliedig ar Faterion. Mae hyn yn golygu bod 23% o'r bobl ifainc cymwys wedi'u cyfeirio ar gyfer y Cynnig Gweithredol.
Yn ystod y cyfnod yma, roedd 6 o bobl ifainc sydd â phrofiad o dderbyn gofal wedi gwrthod y cynnig o gyfarfod Cynnig Gweithredol. Esboniodd y Swyddog mai'r prif reswm dros wrthod y Cynnig Gweithredol oedd nad oedd y person ifanc yn teimlo fel bod angen y gwasanaeth arnyn nhw oherwydd bod modd iddyn nhw siarad â'i weithiwr cymdeithasol neu weithiwr proffesiynol arall. Ychwanegwyd bod un person arall wedi gwrthod y Cynnig Gweithredol heb nodi rheswm, ond cafodd ei gyfeirio/chyfeirio at y gwasanaeth eirioli nes ymlaen.
Cafodd Aelodau wybod mai cyswllt ar ôl derbyn lleoliad ac atgyfeiriad gan y Gwasanaethau Cymdeithasol oedd y ddwy broblem oedd wedi codi mwyaf aml o ran cymorth eiriolaeth yn chwarter dau. Y llwybr atgyfeirio mwyaf poblogaidd ar gyfer pobl ifainc sydd â phrofiad o dderbyn gofal a phobl ifainc sydd wedi gadael gofal yw'r llwybr 'hunanatgyfeirio'.
Aeth y Swyddog ymlaen i rannu ystadegau ag Aelodau yngl?n â phobl ifainc sydd â phrofiad o dderbyn gofal ac sy'n manteisio ar y Gwasanaeth Eiriolaeth yn Seiliedig ar Faterion a'r rheiny a gafodd eu hatgyfeirio ar gyfer y Cynnig Gweithredol. Roedd hyn yn cynnwys gwybodaeth am oedran, rhyw, ethnigrwydd a lleoliad.
Dymunodd y Cadeirydd ddiolch i Dros Gynnal Plant Cymru am yr adroddiad cynhwysfawr a chyfeiriodd at astudiaeth achos sy'n amlygu pwysigrwydd a llwyddiant y gwasanaeth eiriolaeth. Holodd y Cadeirydd a oedd pob person ifanc yn effro i'r gwasanaeth ac esboniwyd bod yr Awdurdod Lleol wedi gweithio'n galed i hysbysebu a hyrwyddo llwybrau i'r gwasanaeth gwerthfawr ymhlith ymarferwyr.
Yn dilyn trafodaeth am yr adroddiad PENDERFYNODD y Bwrdd Rhianta Corfforaethol: 1. Nodi cynnwys yr adroddiad.
|
|
Derbyn diweddariad mewn perthynas â'r cymorth ar faterion tai sydd wedi cael ei gynnig i bobl ifainc sy’n gadael gofal yn ystod y cyfnod rhwng 1 Ebrill 2022 a 31 Hydref 2022.
Cofnodion: Rhoddodd Pennaeth Dros Dro y Gwasanaethau Cymunedau Diogel a Thai Cymunedol ddiweddariad i'r Bwrdd Rhianta Corfforaethol mewn perthynas â materion tai a'r cymorth a gafodd ei ddarparu i bobl ifainc sy'n gadael gofal yn ystod y cyfnod rhwng 1 Ebrill 2022 a 31 Hydref 2022.
Rhoddodd y Swyddog wybod am yr opsiynau sydd ar gael i bobl ifainc sy'n gadael gofal o ran tai a chymorth: · Ceisio Cartref - Tai Cymdeithasol (Dyraniad) - Yn ystod y cyfnod yma, roedd 14 o bobl ifainc oedd yn gadael gofal wedi gwneud cais i gynllun Ceisio Cartref. Cafodd y rhain eu hasesu i nodi eu bod nhw'n barod i fyw'n annibynnol a'u cofrestru ar gyfer tai a'u gosod ym Mand A. Cafodd 8 lleoliad tai cymdeithasol eu rhoi i 8 person yn gadael gofal yn ystod y cyfnod yma, ac mae 2 berson ifanc sy'n gadael gofal yn disgwyl tenantiaeth yn rhan o brosiect newydd yn Ffynnon Taf. · Llety Rhent Preifat - Cynllun peilot sy'n ceisio gwella mynediad a chymorth i landlordiaid preifat er mwyn cynnig llety hir dymor, o safon ac sy'n fforddiadwy; · Gwasanaeth Cymorth sy'n gysylltiedig â Thai - mae RhCT ar hyn o bryd yn comisiynu darpariaeth eang a gwasanaethau cymorth holistig ar gyfer pobl sy'n gadael gofal a phobl ifainc rhwng 16 a 25. Mae hyn yn cynnwys 28 uned Llety â Chymorth ac 11 uned llety mewn argyfwng ar gyfer pobl ifainc rhwng 16 a 25. Yn ystod y cyfnod yma, roedd 45 o bobl ifainc wedi defnyddio'r 28 uned Llety â Chymorth. Roedd 9 o'r 45 yma wedi'u nodi fel pobl sy'n gadael gofal. Hyd yn hyn, mae swyddogion wedi helpu 32 o bobl ifainc i fanteisio ar wasanaethau'r unedau llety mewn argyfwng; · Cymorth fel y bo angen - Mae'r gwasanaeth yma'n helpu pobl ifainc sydd eisoes yn eu llety eu hunain ac yn cefnogi nifer o unigolion, gan gynnwys pobl ifainc, i ddatblygu eu sgiliau byw'n annibynnol i'w helpu i gadw eu tenantiaethau. Yn ystod y 7 mis diwethaf, cafwyd 12 atgyfeiriad gan bobl sy'n gadael gofal ar gyfer cymorth sy'n ymwneud â thenantiaeth a chafodd y rhain eu derbyn i'r cynllun; · Prosiect Tai yn Gyntaf - Partneriaeth rhwng CBSRhCT a Llamau sy'n darparu dull sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn neu bobl ifainc sydd ag anghenion cymorth uwch a fydd yn ei chael hi'n anodd byw mewn llety â chymorth neu llety anghenion cyffredinol heb unrhyw gymorth. Roedd y prosiect yn cefnogi 10 person ifanc gyda 4 person ifanc yn rhan o denantiaeth 6 mis neu hirach ar ddiwedd mis Hydref. · Llety â Chymorth - Rhoi cartref diogel i bobl ifainc sy'n gadael gofal a chynnig cyngor ymarferol a'u helpu i reoli'u ffordd o fyw a dod yn fwy annibynnol. Ar adeg y cyfarfod, roedd 9 person sy'n gadael gofal eisoes wedi cael lleoliad mewn Llety â Chymorth yn Rhondda Cynon Taf; a · Get Ready and Move Out (GRAMO) - Prosiect sy'n cynnig amgylchedd dysgu ymyrraeth gynnar cyn-denantiaeth ar gyfer pob unigolyn er mwyn datblygu a ... view the full Cofnodion text for item 18. |
|
Derbyn adroddiad Cyfarwyddwr Cyfadran y Gwasanaethau Cymuned a Gwasanaethau i Blant sy'n rhoi gwybodaeth ddiweddaraf i'r Bwrdd am waith Carfan Meisgyn a'r Garfan Teuluoedd Therapiwtig, a nodwyd yn adroddiadau blynyddol y gwasanaethau ar gyfer 2021 i 2022.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhannodd y Rheolwr Gwasanaeth ddiweddariad mewn perthynas â gwaith Carfanau Meisgyn, Carfan Integredig Cymorth i Deuluoedd, Carfan Teuluoedd Therapiwtig, fel sydd wedi'i nodi yn yr adroddiad blynyddol ar gyfer 2021-2022.
Rhoddodd y swyddog rhywfaint o gyd-destun i feysydd gwasanaeth Meisgyn a'r egwyddorion, gwerthoedd, a'r diben, sef atal achosion o wahanu rhieni a'u plant neu chwalu'r berthynas â'r lleoliad. Cafodd Aelodau wybod bod hyn wedi cael ei wneud trwy weithredu ymyraethau ar sail tystiolaeth sydd â therfyn amser, ac sydd wedi'u cynhyrchu gan y teulu a'r gweithiwr achos sy'n gwneud yr atgyfeiriad.
Rhoddodd yr Aelod rywfaint o adborth a gyflwynwyd gan y defnyddwyr gwasanaeth, gan esbonio bod yr holiaduron wedi'u hanfon at weithwyr sy'n gwneud atgyfeiriadau, pobl ifainc, rhieni a rhieni maeth. Roedd y gyfradd ddychwelyd o oddeutu 25% yn rhoi syniad i ni o fanteision y gwasanaeth a meysydd i'w gwella.
Rhoddodd y swyddog drosolwg o'r data cyflawniad, gan gymharu atgyfeiriadau dros y blynyddoedd ac effaith Covid-19.
Roedd y Cadeirydd wedi cyfeirio at ddyfyniadau'r defnyddwyr gwasanaeth ar dudalen 9, gan ganmol y staff am eu holl waith caled. Gan gyfeirio at gamddefnyddio sylweddau, iechyd meddwl a thrais yn y cartref, holodd y Cadeirydd p'un a oedd cynnydd wedi bod yn nifer yr atgyfeiriadau hynny ers y pandemig. Rhoddodd y swyddog wybod nad oedd unrhyw gynnydd wedi bod, gan eu bod nhw wedi bod yn eithaf cyffredin yn y rhan fwyaf o'r atgyfeiriadau. Rhoddodd wybod i'r Bwrdd mai un o'r meysydd mwyaf cyffredin yn RhCT oedd camddefnyddio alcohol ymhlith rhieni.
PENDERFYNODD y Bwrdd Rhianta Corfforaethol: 1. Nodi cynnwys yr adroddiad.
|
|
Derbyn adroddiad Cyfarwyddwr Cyfadran y Gwasanaethau Cymuned a Gwasanaethau i Blant, sy'n cyflwyno adroddiad blynyddol 2021 i 2022 Gwasanaeth Mabwysiadu Cydweithredol y Fro, y Cymoedd, a Chaerdydd i'r Bwrdd.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Rhannodd Cyfarwyddwr Gwasanaeth y Gwasanaethau i Blant fanylion Adroddiad Blynyddol y Gwasanaeth Mabwysiadu Cydweithredol Rhanbarthol â'r Bwrdd Rhianta Corfforaethol.
Cafodd yr Aelodau wybod bod Gwasanaeth Mabwysiadu Cydweithredol y Fro, y Cymoedd, a Chaerdydd wedi cymeradwyo nifer sylweddol o fabwysiadwyr yn ystod y cyfnod yma, ac o ganlyniad i hynny roedd modd i nifer o blant gael lleoliad yn y rhanbarth. Fodd bynnag, mae angen recriwtio rhagor o fabwysiadwyr ar gyfer plant sydd ag anghenion mwy cymhleth ac mae hyn yn parhau i fod yn flaenoriaeth ar gyfer Gwasanaeth Mabwysiadu Cydweithredol y Fro, y Cymoedd, a Chaerdydd. Roedd cymorth mabwysiadu yn cynrychioli nifer fawr o'r heriau y mae'r Gwasanaeth Mabwysiadu Cydweithredol y Fro, y Cymoedd, a Chaerdydd yn eu hwynebu, ac mae'r angen i leihau'r rhestr aros ar gyfer gwasanaethau a sicrhau bod y gwasanaeth wedi'i dargedu i'r rhai sydd ei angen fwyaf yn parhau i fod yn flaenoriaeth.
Nododd un Aelod fod mewnbwn gan weithiwr cymdeithasol yn werthfawr iawn iddyn nhw fel Aelod o'r Panel gan eu hannog nhw i fynychu'r cyfarfodydd, ond roedd yr Aelod yn cydnabod eu llwyth gwaith.
Diolchodd y Cadeirydd i'r swyddog am yr adroddiad manwl a PHENDERFYNODD y Bwrdd Rhianta Corfforaethol: 1. Nodi'r wybodaeth oedd wedi ei chynnwys yn yr adroddiad.
|
|
Trafod cadarnhau'r Penderfyniad isod:- “Bod y cyfarfod hwn yn cadw aelodau o'r wasg ac aelodau o'r cyhoedd allan o ystafell y cyfarfod, dan Adran 100A(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y'i diwygiwyd), yn ystod trafod yr eitem nesaf, ar y sail y byddai'n debygol o olygu datgelu gwybodaeth eithriedig yn ôl diffiniad paragraff 14 a 13 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf.”
Cofnodion: PENDERFYNWYDbod y cyfarfod hwn yn cadw aelodau o'r wasg ac aelodau o'r cyhoedd allan o ystafell y cyfarfod, dan Adran 100A(4) o'r Ddeddf Llywodraeth Leol (fel y'i diwygiwyd), yn ystod trafod yr agendwm nesaf, ar y sail y byddai'n debygol o olygu datgelu gwybodaeth eithriedig yn ôl diffiniad paragraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A o'r Ddeddf.
|
|
Maethu Cymru – Siarter/Cyflogwr sy'n Ystyriol o Faethu Derbyn adroddiad Cyfarwyddwr Cyfadran y Gwasanaethau Cymuned a Gwasanaethau i Blant, sy'n rhoi gwybodaeth i'r Bwrdd am Siarter/Cyflogwr sy'n Ystyriol o Faethu Maethu Cymru
Cofnodion: Rhoddodd Reolwr Datblygu Rhanbarthol Maethu Cymru ddiweddariad i'r Bwrdd Rhianta Corfforaethol yngl?n â'r broses recriwtio a chadw ar gyfer rhieni maeth, gan ganolbwyntio'n benodol ar y drws ffrynt rhanbarthol a'r newidiadau i gyflenwi gweithredol o ran recriwtio rhieni maeth.
Yn dilyn trafodaeth am yr adroddiad eithriedig, PENDERFYNODD y Bwrdd Rhianta Corfforaethol: 1. Nodi, er gwybodaeth, y newidiadau i'r broses recriwtio rhieni maeth a'r wybodaeth ynghylch cyflawniad.
|
|
Gwasanaethau Cymdeithasol – Cwynion a Chanmoliaethau Chwarterol Derbyn adroddiad Cyfarwyddwr Cyfadran y Gwasanaethau Cymuned a Gwasanaethau i Blant sy'n rhoi crynodeb i'r Bwrdd o'r trefnau gweithredu ac effeithiolrwydd gweithdrefn cwynion y Gwasanaethau Cymdeithasol statudol.
Cofnodion: Rhoddodd y Rheolwr Cwynion, Ymgysylltu a Gwella Gwasanaethau grynodeb i'r Bwrdd Rhianta Corfforaethol o'r trefnau gweithredu ac effeithiolrwydd gweithdrefn cwynion statudol y Gwasanaethau Cymdeithasol rhwng 1 Gorffennaf 2022 a 30 Medi 2022.
Roedd yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth am nifer y cwynion a ddaeth i law, natur y cwynion, ac unrhyw wersi a ddysgwyd, yn ogystal â manylu ar ymholiadau gan Gynghorwyr, Aelodau Cynulliad ac Aelodau Seneddol a nifer y cwynion a ddaeth i law.
Yn dilyn trafodaeth am yr adroddiad eithriedig, PENDERFYNODD Aelodau: 1. Nodi cynnwys yr adroddiad; a 2. Dylai hyfforddiant ychwanegol gael ei ddarparu i'r holl Aelodau Etholedig o ran y risg sy'n gysylltiedig â chyflwyno cwynion i'r System Rheoli Cysylltiadau Cwsmeriaid yn rhan o'i rôl fel Cynghorwyr ac ar ran aelodau o'r teulu.
|
|
Adroddiadau Rheoliad 73 Derbyn adroddiad Cyfarwyddwr Cyfadran y Gwasanaethau Cymuned a Gwasanaethau i Blant, sy'n rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Bwrdd am ymweliadau Rheoliad 73 a'r sefyllfa bresennol yng Nghartrefi Preswyl i Blant a'r Gwasanaeth Gofal Seibiant yn RhCT.
Cofnodion: Rhoddodd Rheolwr y Gwasanaethau Preswyl yr wybodaeth ddiweddaraf i'r Bwrdd am ymweliadau Rheoliad 32 sydd wedi eu cynnal yn y cartrefi i blant canlynol – Beddau, Bryndâr, Nant-gwyn a T? Brynna, a hynny rhwng Ebrill a Hydref 2022.
Amlinellodd y swyddog grynodeb o ganlyniadau'r arolygiad. PENDERFYNWYD: 1. Nodi cynnwys yr adroddiad.
|