Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Rhithwir

Cyswllt: Hannah Williams - Uned Busnes y Cyngor - Gwasanaethau Llywodraethol  07385401954

Cyfryngau

Eitemau
Rhif eitem

1.

Croeso ac Ymddiheuriadau

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau a'r Swyddogion i gyfarfod y Bwrdd Rhianta Corfforaethol a manteisiodd ar y cyfle i dalu teyrnged i'r diweddar Gynghorydd Burnell.

 

Daeth ymddiheuriadau am absenoldeb oddi wrth Gynghorwyr y Fwrdeistref Sirol J. Bonetto, S. Evans a S. Trask.

 

2.

Datgan Buddiant

Derbyn datganiadau o fuddiannau personol gan Aelodau, yn unol â'r Cod Ymddygiad.

 

Nodwch:

1.     Mae gofyn i Aelodau ddatgan rhif a phwnc yr agendwm mae eu buddiant yn ymwneud ag ef a mynegi natur y buddiant personol hwnnw; a

2.   Lle bo Aelodau'n ymneilltuo o'r cyfarfod o ganlyniad i ddatgelu buddiant sy'n rhagfarnu, rhaid iddyn nhw roi gwybod i'r Cadeirydd pan fyddan nhw'n gadael.

 

 

Cofnodion:

Yn unol â Chod Ymddygiad y Cyngor, ni wnaethpwyd unrhyw ddatganiadau mewn perthynas â'r Agenda.

 

 

3.

Cofnodion pdf icon PDF 179 KB

Cadarnhau cofnodion o gyfarfod y Bwrdd Rhianta Corfforaethol a gynhaliwyd ar 14 Mawrth 2022 yn rhai cywir.

 

 

Cofnodion:

Cadarnhau cofnodion o gyfarfod y Bwrdd Rhianta Corfforaethol a gafodd ei gynnal ar 14 Mawrth 2022 yn rhai cywir.

 

4.

Y diweddaraf o ran cyfranogiad plant a phobl ifainc â phrofiad o fod mewn gofal a'r diweddaraf gan Voices from Care Cymru pdf icon PDF 192 KB

Derbyn adroddiad Cyfarwyddwr Cyfadran y Gwasanaethau Cymuned a Gwasanaethau i Blant sy'n rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am weithgareddau ymgysylltu Gwasanaethau i Blant RhCT a'r diweddaraf gan Voices from Care Cymru.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Swyddog Graddedig ar faterion Cyfranogiad ddiweddariad i'r Bwrdd Rhianta Corfforaethol mewn perthynas â gwaith ymgysylltu sy'n cael ei gynnal gan y Gwasanaethau i Blant yn RhCT.

 

Roedd yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth mewn perthynas ag: -

·       achlysur cyfranogiad a gynhaliwyd yn Amgueddfa Pontypridd ar 1 Medi 2022 gyda phlant sy'n derbyn gofal;

·       arolwg y Gwasanaethau i Blant mewn perthynas â phlant a phobl ifainc sydd wedi derbyn gofal sy'n cael ei gynnal hyd at ganol mis Hydref 2022; ac

·       uwchgynhadledd i bobl sydd wedi derbyn gofal sy'n cael ei chynnal ar ddydd Sadwrn 10 Medi gyda Gweinidogion Cymru. Bwriad yr uwchgynhadledd yw gweithio gyda phlant a phobl ifainc ledled awdurdodau lleol yng Nghymru i ddatblygu diwygiadau mawr ar gyfer plant sy’n derbyn gofal.

 

Yn ogystal â'r diweddariad, roedd swyddog a pherson ifanc o Voices from Care Cymru yn bresennol a rhannodd yr wybodaeth ddiweddaraf â'r Aelodau am y gwaith sy'n cael ei wneud i gefnogi pobl ifainc sydd â phrofiad o fod mewn gofal yn Rhondda Cynon Taf. Rhoddodd y person ifanc fanylion i'r Bwrdd am brosiectau diweddar a gynhaliwyd gyda VFCC, a oedd yn cynnwys menter iechyd meddwl a lles, diwrnod chwaraeon a chyfarfod ymgynghori mewn perthynas â'r uchelgeisiau ar gyfer pobl sy'n 16 oed neu'n h?n. Rhoddodd y Person Ifanc wybod i'r Aelodau am uwchgynhadledd Cymru Gyfan sydd ar y gweill, byddai'r achlysur yma'n caniatáu i bobl ifanc â phrofiad o fod mewn gofal gael sgyrsiau â Gweinidogion am welliannau i wasanaethau.

 

Siaradodd un Aelod yn gadarnhaol am yr achlysur Ymgysylltu a dywedodd fod y sleidiau a ddefnyddiwyd yn lliwgar ac yn ddeniadol i’r bobl ifanc. Dymunodd yr Aelod ddiolch i’r person ifanc am rannu ei phrofiadau a phwysleisiodd bwysigrwydd ceisio barn pobl ifainc wrth lywio penderfyniadau sy’n dylanwadu arnyn nhw.

 

Ategodd Aelod arall y sylwadau blaenorol a manteisiodd ar y cyfle i ddiolch i’r person ifanc am fynychu’r cyfarfod ac estynnodd ei diolch i’r swyddog 16+ am gefnogi’r bobl ifainc.

 

Diolchodd y Cadeirydd i'r cyfranogwyr am eu cyflwyniad a chanmolodd y person ifanc am ei chyfraniad. Ychwanegodd y Cadeirydd ei bod hi'n falch o nodi sut y mae modd i wasanaethau o'r fath wella hyder pobl ifanc.

 

PENDERFYNODD y Bwrdd Rhianta Corfforaethol:

1.    Nodi'r wybodaeth oedd wedi ei chynnwys yn yr adroddiad; a

2.    Dylai Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf lofnodi'r Siarter ar gyfer Rhieni sy'n Derbyn Gofal ac sy'n Gadael Gofal.

 

5.

Rhaglen Waith y Bwrdd Rhianta Corfforaethol pdf icon PDF 95 KB

Derbyn adroddiad y Cyfarwyddwr Gwasanaeth, Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu, sy'n rhoi manylion i'r Aelodau am Raglen Waith y Bwrdd Rhianta Corfforaethol ar gyfer Blwyddyn y Cyngor 2022/23.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Uwch Swyddog Busnes Rheoleiddiol a Gweithredol adroddiad i'r Bwrdd Rhianta Corfforaethol sy'n amlinellu'r rhaglen waith (ddrafft) ar gyfer blwyddyn y Cyngor 2022-2023.Ochr yn ochr â'r diweddariadau blynyddol rheolaidd, roedd llawer o'r pynciau i'w trafod yn y Rhaglen wedi cael eu nodi gan Aelodau yn ystod cyfarfodydd blaenorol.

 

Eglurodd y swyddog fod y Rhaglen Waith yn ddogfen newidiol y mae modd ei diwygio i adlewyrchu unrhyw newidiadau i anghenion busnes trwy gydol y flwyddyn.

 

PENDERFYNODDy Bwrdd Rhianta Corfforaethol:

1.    Cynnig sylwadau mewn perthynas â'r Rhaglen Waith ddrafft ble'n addas; 

2.    Cymeradwyo'r rhaglen waith ddrafft, a bydd modd ei diwygio i adlewyrchu unrhyw flaenoriaethau sy'n newid yn ystod y flwyddyn.

 

6.

Adroddiad Blynyddol y Bwrdd Rhianta Corfforaethol 2021-22 pdf icon PDF 163 KB

Derbyn adroddiad y Cyfarwyddwr Gwasanaeth, Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu, sy'n cyflwyno Adroddiad Blynyddol y Bwrdd Rhianta Corfforaethol ar gyfer Blwyddyn y Cyngor 2021/22 i'r Aelodau.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd yr Uwch Swyddog Busnes Rheoleiddiol a Gweithredol Adroddiad Blynyddol y Bwrdd Rhianta Corfforaethol i'r Aelodau ar gyfer blwyddyn y Cyngor 2021-2022. Roedd yr adroddiad yn cynnwys y gwaith sydd yn cael ei drafod gan y Bwrdd yn ystod y flwyddyn; ac yn cynnig eitemau sydd wedi'u nodi fel eitemau i'w trafod yn y dyfodol.

 

Roedd y swyddog wedi atgoffa'r Aelodau y byddai'r adroddiad yn cael ei gyflwyno i'r Cabinet pe bai'n cael ei gymeradwyo.

 

Diolchodd y Cadeirydd i'r swyddog am yr adroddiad manwl a PHENDERFYNODD y Bwrdd Rhianta Corfforaethol:

1.    Cynnig sylwadau mewn perthynas â'r Adroddiad Blynyddol drafft cyn ei gyflwyno i'r Cabinet, ble'n addas.

 

7.

Strategaeth Plant sy'n Derbyn Gofal pdf icon PDF 194 KB

Derbyn adroddiad Cyfarwyddwr Cyfadran y Gwasanaethau Cymuned a Gwasanaethau i Blant, sy'n rhoi diweddariad i Aelodau'r Bwrdd am y Strategaeth Plant sy'n Derbyn Gofal.

 

 

Cofnodion:

Darparodd Cyfarwyddwr Gwasanaeth y Gwasanaethau i Blant wybodaeth i'r Bwrdd Rhianta Corfforaethol mewn perthynas â'r cynnydd y mae'r Gwasanaethau i Blant wedi'i wneud o ran y Strategaeth Atal ar gyfer Plant sy'n Derbyn Gofal; adroddiad a gafodd ei drafod gan y Pwyllgor Craffu a’i gymeradwyo gan y Cabinet ym mis Ionawr 2022.

 

Darparodd y Cyfarwyddwr wybodaeth am y pedwar maes gwella sylweddol a nodwyd yn yr adroddiad a phwysleisiodd bod swyddogion eisoes yn gweithio tuag at weithredu'r meysydd yma. Soniodd y Cyfarwyddwr am yr uchelgais i gynyddu'r cymorth sy'n seiliedig ar dystiolaeth sydd ar gael i deuluoedd ac i weithio tuag at gadw teuluoedd yn ddiogel gyda'i gilydd, ble'n addas.

 

PENDERFYNODDy Bwrdd Rhianta Corfforaethol:

1.    Nodi'r wybodaeth oedd wedi ei chynnwys yn yr adroddiad.

 

8.

Siarter ar gyfer Rhieni sy'n Derbyn Gofal ac yn Gadael Gofal pdf icon PDF 200 KB

Derbyn adroddiad Cyfarwyddwr Cyfadran y Gwasanaethau Cymuned a Gwasanaethau i Blant, sy'n rhoi gwybodaeth i Aelodau'r Bwrdd am y Siarter ar gyfer Rhieni sy'n Derbyn Gofal ac yn Gadael Gofal.

 

 

Cofnodion:

Derbyn adroddiad Cyfarwyddwr y Gwasanaethau i Blant, sy'n rhoi gwybodaeth i Aelodau'r Bwrdd am y Siarter ar gyfer Rhieni sy'n Derbyn Gofal ac yn Gadael Gofal.

 

Siaradodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth am y sail resymegol dros y Siarter a’r gr?p ffocws, a gynhaliwyd gyda gweithwyr proffesiynol a phobl ifanc â phrofiad o fod mewn gofal ym mis Gorffennaf 2022  Manteisiodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth ar y cyfle i ddiolch i Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol S. Rees am ei chyfraniad hi.

 

Darparodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth wybodaeth am bedwar maes y Siarter ac mae'r camau nesaf er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth yn mynd y tu hwnt i gofrestru ac yn cael effaith ystyrlon ar bobl ifainc sy’n agored i niwed.

 

Roedd un Aelod yn falch o nodi bod y Siarter yn rhagweithiol o ran targedu pobl ifanc sy'n ddarpar-rieni, yn ogystal ag ymgysylltu â phobl ifainc sy'n rhieni.

 

Siaradodd Aelod arall yn gadarnhaol am y gr?p ffocws a gynhaliwyd ym mis Mehefin a holodd sut mae swyddogion yn bwriadu mesur effeithiolrwydd y Siarter wrth symud ymlaen. Dywedodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth fod data eisoes yn dangos gwelliannau bach ac o ganlyniad i hynny, bu gwelliant yng nghyfradd y plant dan tair oed neu un oed sy'n derbyn gofal. Soniodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth hefyd am y cynnydd cadarnhaol y mae'r Garfan Magu wedi'i wneud, dyma wasanaeth sy’n ceisio cefnogi’r rhieni mwyaf agored i niwed a'r rhieni hynny sydd fwyaf mewn perygl o'u plant yn dod o dan adain gofal y Cyngor. Dywedodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth, yn amodol ar farn y Cadeirydd, y byddai adroddiadau mewn perthynas â data cyflawniad a chynnydd y Gwasanaeth Magu yn cael eu cyflwyno i'r Bwrdd Rhianta Corfforaethol yn y dyfodol.

 

PENDERFYNODDy Bwrdd Rhianta Corfforaethol:

1.    Nodi'r wybodaeth oedd wedi ei chynnwys yn yr adroddiad;

2.    Y dylai Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf lofnodi’r Siarter ar gyfer Rhieni sy'n Derbyn Gofal ac sy'n Gadael Gofal; a

3.    Bydd adroddiadau mewn perthynas â data cyflawniad a chynnydd y Gwasanaeth Magu yn cael eu cyflwyno i'r Bwrdd Rhianta Corfforaethol yn y dyfodol.

 

 

9.

Tros Gynnal Plant (TGP) Cymru pdf icon PDF 116 KB

Derbyn adroddiad cynnydd chwarterol Tros Gynnal Plant Cymru.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhannodd Tros Gynnal Plant Cymru fanylion am y cynnydd y mae'r gwasanaeth wedi'i wneud rhwng Ionawr a Mehefin 2022 â'r Bwrdd Rhianta Corfforaethol.

 

Clywodd yr Aelodau fod 48 o bobl ifainc wedi manteisio ar y Gwasanaeth yn Seiliedig ar Faterion yn ystod y chwarter (Ebrill-Mehefin 2022), gan gyflwyno 61 o faterion; a chafodd 19 o bobl ifainc eraill eu hatgyfeirio ar gyfer y Cynnig Gweithredol. O ran Plant sy’n Derbyn Gofal, roedd 13 o bobl ifainc yn gymwys a 4 wedi’u hatgyfeirio, gyda phob un ohonynt yn derbyn y cynnig. Dywedodd y swyddog fod 75% wedi cael eu cyflawni cyn pen 5 diwrnod gwaith ar ôl derbyn yr atgyfeiriad, gan esbonio bod oedi gydag un achos oherwydd bod angen trefnu cyfieithydd.

 

Aeth y swyddog ymlaen i siarad am y systemau sydd ar waith i fonitro sut mae'r bobl ifainc yn derbyn y cynnig rhagweithiol. Eglurwyd bod data ar gael i fonitro'r bobl ifainc sy'n derbyn y cynnig gan nodi rhesymau ynghylch pam bod rhai yn dewis gwrthod y cynnig.

 

O ran atgyfeiriadau ar sail materion, roedd 22 o bobl ifainc wedi'u hatgyfeirio gyda 26 o faterion penodol, ynghyd â dau berson ifanc sy'n gadael gofal gyda 3 mater penodol. Cafodd yr Aelodau wybod bod llawer o waith wedi cael ei wneud i wella'r systemau cofnodi er mwyn dysgu rhagor am yr hyn sy'n cael ei ddweud yn y cyfarfodydd.

 

Nododd y swyddog fod yr adroddiad yn cynnwys llawer o wybodaeth am ddata amddiffyn plant ac awgrymodd y byddai adroddiadau llai sy'n mynd i'r afael â Phlant sy'n Derbyn Gofal yn cael eu llunio yn y dyfodol, ac roedd yr Aelodau wedi cytuno â hyn.

 

Diolchodd y Cadeirydd i swyddogion Tros Gynnal Plant Cymru am yr adroddiad llawn gwybodaeth a phwysleisiodd pa mor bwysig yw’r gwasanaeth eiriolaeth i bobl ifanc.

 

PENDERFYNODDy Bwrdd Rhianta Corfforaethol:

1.    Nodi cynnwys yr adroddiad.

 

10.

Grant Amddifadedd Disgyblion pdf icon PDF 1008 KB

Derbyn adroddiad ar y cyd Consortiwm Canolbarth y De a'r Cydlynydd Addysg ar gyfer Plant sy'n Derbyn Gofal, sy'n ceisio rhoi diweddariad i'r Bwrdd Rhianta Corfforaethol mewn perthynas â'r Grant Amddifadedd Disgyblion.

 

Cofnodion:

Rhannodd y Cydlynydd Addysg ar gyfer Plant sy'n Derbyn Gofal a'r Arweinydd Rhanbarthol ar gyfer y Grant Amddifadedd Disgyblion i Blant sy'n Derbyn Gofal ddiweddariad mewn perthynas â phroses werthuso’r model clwstwr ysgolion ar gyfer cyllido'r Grant Amddifadedd Disgyblion (PDG) yn ystod blwyddyn ariannol 2020/21 a 2021/22 yn Rhondda Cynon Taf.

 

Dymunodd y Cadeirydd ddiolch i'r swyddogion am yr adroddiad cynhwysfawr a dywedodd ei fod yn dyst i'r gwaith sydd wedi cael ei wneud ers cyfnod covid er mwyn helpu pobl ifainc i ffynnu.

 

O ran y Model Ysgol Rithwir, nododd un Aelod y cynnydd cadarnhaol sydd yn cael ei wneud a gofynnodd cwestiwn ynghylch sut y rhennir arfer da ymhlith ysgolion, yn enwedig mewn ysgolion cynradd. Dywedodd yr Arweinydd Rhanbarthol, er mai cynllun peilot oedd hwn, bod swyddogion yn gweithio'n agos gyda'i gilydd ac yn frwdfrydig i fonitro ei gynnydd ond dywedodd fod y swyddog oedd yn gweithio ar ran Llywodraeth Cymru, a gyflwynodd y model, wedi gadael ei swydd yn ddiweddar a bod hynny wedi achosi peth oedi. Soniodd yr Arweinydd Rhanbarthol am gynlluniau i weithio mewn dwy ysgol yn y Fwrdeistref Sirol, lle cafodd Covid effaith niweidiol ar waharddiadau. Cafodd yr Aelodau wybod am y bwriad i gynnal y prosiect a gwerthuso'i lwyddiant. Yn ogystal â hyn, soniodd yr Arweinydd Rhanbarthol am weithredu mentrau wedi'u harwain gan gyfoedion a fyddai’n gweld y plant h?n yn gweithio gyda phlant iau trwy’r ddarpariaeth ABCh neu’r cwricwlwm iechyd a lles.

 

Diolchodd y Cadeirydd i'r swyddogion am y diweddariad a gofynnodd i'r swyddogion gyflwyno adroddiad pellach yn ystod cyfarfod yn y dyfodol.

 

PENDERFYNODDy Bwrdd Rhianta Corfforaethol:

1. Trafod yr wybodaeth oedd wedi ei chynnwys yn yr adroddiad;

2. Pwyso a mesur yr wybodaeth a chynnig sylwadau

3. Derbyn adroddiad pellach i werthuso model clwstwr Grant Amddifadedd Disgyblion i Blant sy'n Derbyn Gofal ar gyfer 2022/23.

 

11.

Trafod cadarnhau'r Penderfyniad isod:-

“Bod y cyfarfod hwn yn cadw aelodau o'r wasg ac aelodau o'r cyhoedd allan o ystafell y cyfarfod, dan Adran 100A(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y'i diwygiwyd), yn ystod trafod yr agendwm nesaf, ar y sail y byddai'n debygol o olygu datgelu gwybodaeth eithriedig yn ôl diffiniad paragraff 13 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf.”

 

 

Cofnodion:

PENDERFYNWYDbod y cyfarfod hwn yn cadw aelodau o'r wasg ac aelodau o'r cyhoedd allan o ystafell y cyfarfod, dan Adran 100A(4) o'r Ddeddf Llywodraeth Leol (fel y'i diwygiwyd), yn ystod trafod yr agendwm nesaf, ar y sail y byddai'n debygol o olygu datgelu gwybodaeth eithriedig yn ôl diffiniad paragraff 13 o Ran 4 o Atodlen 12A o'r Ddeddf.

 

 

12.

Gwasanaethau Cymdeithasol – Cwynion a Chanmoliaethau Chwarterol

Derbyn adroddiad Cyfarwyddwr Cyfadran y Gwasanaethau Cymuned a Gwasanaethau i Blant sy'n rhoi crynodeb i'r Bwrdd Rhianta Corfforaethol o'r trefnau gweithredu ac effeithiolrwydd gweithdrefn cwynion y Gwasanaethau Cymdeithasol statudol.

 

 

Cofnodion:

Rhoddodd y Rheolwr Cwynion, Ymgysylltu a Gwella Gwasanaethau grynodeb i'r Bwrdd Rhianta Corfforaethol o'r trefnau gweithredu ac o effeithiolrwydd gweithdrefn cwynion y Gwasanaethau Cymdeithasol statudol rhwng 1 Ionawr 2022 a 30 Mehefin 2022.

 

Roedd yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth am nifer y cwynion a ddaeth i law, natur y cwynion, ac unrhyw wersi a ddysgwyd, yn ogystal â manylu ar ymholiadau gan Gynghorwyr, Aelodau Cynulliad ac Aelodau Seneddol a nifer y cwynion a ddaeth i law.

 

Yn dilyn trafodaeth, PENDERFYNWYD:

1.    Nodi cynnwys yr adroddiad.

 

 

13.

Adroddiad Adolygiad Ansawdd Gofal (Rheoliad 80)

Derbyn adroddiad Cyfarwyddwr Cyfadran y Gwasanaethau Cymuned a Gwasanaethau i Blant sy'n rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am Adolygiad Ansawdd Gofal (Rheoliad 80).

 

 

Cofnodion:

Rhoddodd Rheolwr y Gwasanaethau Preswyl ddiweddariad i’r Bwrdd am y gwaith monitro sydd wedi'i wneud yn unol â Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 a’r sefyllfa bresennol mewn pedwar cartref preswyl i blant yn RhCT.

 

Siaradodd un Aelod am yr adborth cadarnhaol a dderbyniwyd gan y gymuned mewn perthynas â Chartref Bryndâr a gofynnodd a fyddai modd rhannu’r adborth yma â'r cartref.

 

Yn dilyn trafodaeth, PENDERFYNWYD:

1.       Nodi cynnwys yr adroddiad.