Agenda a Chofnodion

Cyswllt: Yula Kampouropoulou - Uned Busnes y Cyngor - Gwasanaethau Llywodraethol  07747 485569

Eitemau
Rhif eitem

55.

Croeso ac Ymddiheuriadau

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau a Swyddogion i Bwyllgor y Bwrdd Rhianta Corfforaethol.

 

Daeth ymddiheuriadau am absenoldeb oddi wrth Gynghorwyr y Fwrdeistref Sirol L. Hooper ac E. Griffiths.

 

56.

DATGAN BUDDIANT

Derbyn datganiadau o fuddiannau personol gan Aelodau, yn unol â'r Cod Ymddygiad.

 

Nodwch:

 

1.     Mae gofyn i Aelodau ddatgan rhif a phwnc yr agendwm mae eu buddiant yn ymwneud ag ef a mynegi natur y buddiant personol hwnnw; a

 

2.     Lle bo Aelodau'n ymneilltuo o'r cyfarfod o ganlyniad i ddatgelu buddiant sy'n rhagfarnu, rhaid iddyn nhw roi gwybod i'r Cadeirydd pan fyddan nhw'n gadael.

Cofnodion:

Yn unol â Chod Ymddygiad y Cyngor, ni wnaethpwyd unrhyw ddatganiadau mewn perthynas â'r Agenda.

 

57.

Cofnodion pdf icon PDF 348 KB

Cadarnhau cofnodion y cyfarfod diwethaf a gynhaliwyd ar 31 Ionawr 2022 yn rhai cywir.

Cofnodion:

Cadarnhau cofnodion o gyfarfod y Bwrdd Rhianta Corfforaethol a gafodd ei gynnal ar 31 Ionawr 2022 yn rhai cywir.

 

58.

ADRODDIAD CHWARTEROL FFORWM RHCT pdf icon PDF 683 KB

Derbyn adroddiad gan Voices From Care Cymru sy'n rhoi trosolwg i Bwyllgor y Bwrdd Rhianta Corfforaethol o'r gwaith sy’n cael ei wneud i baratoi ar gyfer Diwrnod Gofal 22 ac addasu dulliau i gwrdd â phobl ifainc lle bynnag y maen nhw.

Cofnodion:

 

Cyflwynodd y Swyddog Datblygu adroddiad i Bwyllgor y Bwrdd Rhianta Corfforaethol gan roi crynodeb i'r Aelodau o gyflawniadau VfCC o ran allgymorth i Bobl Ifainc a throsolwg o Ddiwrnod Gofal 2022.

 

Cyflwynodd y Swyddog Datblygu gynrychiolydd pobl ifainc i'r Bwrdd a chyflwynodd ymateb ysgrifenedig gan y cynrychiolydd pobl ifainc yn seiliedig ar thema allweddol Diwrnod Gofal 2022, sef 'Yr hyn sy'n gwneud i chi ffynnu'. Dywedodd y cynrychiolydd pobl ifainc wrth y Bwrdd mai'r hyn sy'n gwneud iddi ffynnu yw gwybod bod nifer o wasanaethau a rhwydweithiau cymorth ar gael i helpu gydag unrhyw ymholiadau neu bryderon sydd gyda hi. Nododd y gwasanaethau cymorth sydd ar gael sy'n gwneud iddi deimlo'n hyderus bob dydd.

 

Rhoddodd y Cadeirydd ddiolch i'r cynrychiolydd pobl ifainc am ei hymateb gan gydnabod y cymorth ac arweiniad mae hi'n eu rhoi i bobl eraill.

 

Rhoddodd y Swyddog Datblygu wybod i Aelodau am bwysigrwydd ymgysylltu yn y gr?p. Nodwyd bod pobl wedi cael eu hannog i ymgysylltu yn ystod y chwarter ar y cyfryngau cymdeithasol trwy gadw mewn cysylltiad rheolaidd ag aelodau'r gr?p a gweithwyr proffesiynol yn yr Awdurdod Lleol, a rhannu gwybodaeth â nhw. Canolbwynt yr ymgysylltu oedd dod ag aelodau'r gr?p at ei gilydd er mwyn dod o hyd i ddulliau arloesol o ymgysylltu â phlant iau 14-22 oed, a hynny trwy gydweithio ag Actif Woods. Cadarnhaodd y Swyddog Datblygu mai'r tro nesaf y bydd VfCC yn cydweithio ag Actif Woods fydd 11 Ebrill. Aeth y Swyddog Datblygu ati i gydnabod y ffigurau isel o ran nifer y cyfranogwyr o ganlyniad i'r pandemig a Storm Franklin. Arweiniodd hyn at ganslo grwpiau, gweithdai a gweithgareddau awyr agored wyneb yn wyneb. Serch hynny, cafodd gwasanaethau eu darparu ar-lein.

 

Rhoddodd y Swyddog Datblygu wybod i Aelodau am Ddiwrnod Gofal 2022. Yn ystod y cyfnod yma, rhoddodd y garfan gymorth i bobl ifainc sydd â phrofiad o dderbyn gofal yn Rhondda Cynon Taf (RhCT) i gysylltu â phobl eraill sydd â'r un profiad ledled Cymru, Yr Alban, Iwerddon, Gogledd Iwerddon a Lloegr. Rhoddodd hyn gyfle i bobl ifainc rannu eu meddyliau a theimladau am y cymorth a roddwyd. Rhoddodd y Swyddog Datblygu wybod i Aelodau am adborth pobl ifainc o ran yr hyn oedd ei angen arnyn nhw, fel plant neu bobl ifainc sydd â phrofiad o dderbyn gofal, i ffynnu.

Roedd yr adborth wedi canolbwyntio ar y canlynol:–

 

-       Rhagor o wasanaethau cwnsela ac iechyd meddwl

-       Cymorth emosiynol pellach (roedd pobl ifainc o'r farn nad oes digon o ddealltwriaeth ynghylch eu teimladau ac ymatebion ymddygiadol/trawma).

-       Eisiau perthynas gyson a chadarnhaol â Gweithwyr Cymdeithasol fyddai'n gallu rhoi gwybod iddyn nhw am eu hawliau.

-       Cymorth parhaus ar gyfer pobl 25 oed ac yn h?n gan yr Awdurdod Lleol trwy fodel allgymorth; a

-       Cymorth parhaus i reoli dyheadau tymor hir e.e. prynu car, yswiriant, cyfleoedd swyddi, ac ati.

 

 

 

Rhoddodd y Swyddog Datblygu wybod i Aelodau am lwyddiant y prosiect o ran rhieni sydd â phrofiad o dderbyn gofal yn RhCT. Nododd y  ...  view the full Cofnodion text for item 58.

59.

ADRODDIAD BLYNYDDOL CYNHALWYR IFAINC 2021-22 pdf icon PDF 309 KB

Derbyn Adroddiad Blynyddol Cynhalwyr Ifainc 2021/2022.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Gwasanaeth – Cynhalwyr, Ymgysylltu a Thaliadau Uniongyrchol adroddiad a roddodd yr wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau am y gwaith gyda chynhalwyr ifainc yn RhCT yn ystod 2021/2022.

Rhoddodd y Rheolwr Gwasanaeth – Cynhalwyr, Ymgysylltu a Thaliadau Uniongyrchol wybod i Aelodau am yr anawsterau a wynebwyd yn ystod y pandemig a arweiniodd at nifer uwch o atgyfeiriadau ar gyfer asesiadau cynhalwyr ifainc. O ganlyniad i newidiadau i gyfyngiadau, darparodd elusen Gweithredu dros Blant wasanaethau cymorth i gynhalwyr ifainc ar ffurf sesiynau unigol a sesiynau i grwpiau llai. Rhoddodd y Rheolwr Gwasanaeth – Cynhalwyr, Ymgysylltu a Thaliadau Uniongyrchol wybod i Aelodau am effaith negyddol y pandemig ar iechyd meddwl a lles cynhalwyr ifainc gan nodi eu bod nhw'n teimlo'n fwy unig a phryderus.

 

O safbwynt y cymorth a roddir i gynhalwyr sy'n frodyr neu'n chwiorydd, nododd y Rheolwr Gwasanaeth – Cynhalwyr, Ymgysylltu a Thaliadau Uniongyrchol y cyllid sydd wedi'i glustnodi gan Lywodraeth Cymru er mwyn darparu cymorth wedi'i deilwra i'r gr?p.

Nododd y Rheolwr Gwasanaeth – Cynhalwyr, Ymgysylltu a Thaliadau Uniongyrchol bwysigrwydd cymorth i frodyr a chwiorydd gan ei fod yn darparu cyfleoedd iddyn nhw dreulio amser gyda rhiant/gwarcheidwad. Dyma rywbeth maen nhw'n ei golli yn aml o ganlyniad i anghenion gofal eu brodyr/chwiorydd. Yn rhan o Grantiau Seibiant i Gynhalwyr a chyllid Grant Gaeaf Llawn Lles ychwanegol, cafodd cynhalwyr sy'n frodyr neu'n chwiorydd a rhieni gyfle i fynd i weithgareddau coginio, Winter Wonderland a Zip World.

Rhoddodd y Rheolwr Gwasanaeth – Cynhalwyr, Ymgysylltu a Thaliadau Uniongyrchol wybod i Aelodau am y Gwasanaeth i Gynhalwyr sy'n Oedolion Ifainc (YAC) ar gyfer y rheiny sy'n 18-25 oed. Aeth y Rheolwr Gwasanaeth – Cynhalwyr, Ymgysylltu a Thaliadau Uniongyrchol ati i gydnabod y cymorth cyfyngedig a ddarparwyd i'r gr?p o ganlyniad i broblemau o ran staffio. Serch hynny, cafodd gweithiwr YAC newydd ei benodi ym mis Ionawr. Yn debyg i gynhalwyr ifainc, cafodd y pandemig effaith ar iechyd meddwl a lles y gr?p.

 

Tynnodd y Rheolwr Gwasanaeth – Cynhalwyr, Ymgysylltu a Thaliadau Uniongyrchol sylw Aelodau at rai o'r gwasanaethau sy'n cael eu darparu i gynhalwyr ifainc. Mae'r rhain yn cynnwys y Cerdyn Adnabod i Gynhalwyr Ifainc, Ffilm i Gynhalwyr am Covid a Gwobr y Cynhalwyr Ifainc i Ysgolion.

Mae'r cerdyn adnabod yn fenter gan Lywodraeth Cymru ar gyfer adnabod y cynhalwyr ifainc mewn ysgolion, lleoliadau iechyd a lleoliadau eraill ar ôl i gynhalwyr ifainc nodi hyn fel angen sawl gwaith. Rhoddodd y Rheolwr Gwasanaeth – Cynhalwyr, Ymgysylltu a Thaliadau Uniongyrchol wybod i Aelodau mai RhCT oedd y cyntaf i fabwysiadu'r cynllun a bod yr adborth wedi bod yn gadarnhaol hyd yn hyn. Yn rhan o welliannau i'r Cerdyn Adnabod i Gynhalwyr, y bwriad yw cynyddu nifer y buddion megis gostyngiadau mewn sinemâu lleol a siopau manwerthu cenedlaethol.

Cafodd Aelodau wybod am y Ffilm i Gynhalwyr am Covid. Mae'r ffilm yn cynnwys cynhalwyr ifanc, cynhalwyr sy'n oedolion ifainc a chynhalwyr sy'n oedolion. Bwriad y ffilm yw tynnu sylw at brofiad cynhalwyr di-dâl o bob oed yn ystod y pandemig.

Rhoddodd y  ...  view the full Cofnodion text for item 59.

60.

TRAFOD CADARNHAU'R PENDERFYNIAD ISOD:-

“Bod y cyfarfod hwn yn cadw aelodau o'r wasg ac aelodau o'r cyhoedd allan o ystafell y cyfarfod, dan Adran 100A(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y'i diwygiwyd), yn ystod trafod yr agendwm nesaf, ar y sail y byddai'n debygol o olygu datgelu gwybodaeth eithriedig yn ôl diffiniad paragraff 13 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf.”

Cofnodion:

PENDERFYNWYDbod y cyfarfod hwn yn cadw aelodau o'r wasg ac aelodau o'r cyhoedd allan o ystafell y cyfarfod, dan Adran 100A(4) o'r Ddeddf Llywodraeth Leol (fel y'i diwygiwyd), yn ystod trafod yr agendwm nesaf, ar y sail y byddai'n debygol o olygu datgelu gwybodaeth eithriedig yn ôl diffiniad paragraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A o'r Ddeddf.

 

61.

ADRODDIADAU RHEOLIAD 73

Derbyn adroddiad Cyfarwyddwr Cyfadran y Gwasanaethau Cymuned a Gwasanaethau i Blant sy'n cynnwys gwybodaeth eithriedig.

Cofnodion:

Rhoddodd Rheolwr y Gwasanaethau Preswyl yr wybodaeth ddiweddaraf i'r Bwrdd am ymweliadau o dan Reoliad 73 wedi eu cynnal yn y tri chartref i blant – Beddau, Carn Ingli a Bryndâr Nant-gwyn.

 

Amlinellodd y Swyddog grynodeb o ganlyniadau'r arolygiad. PENDERFYNWYD:

 

-        Nodi cynnwys yr adroddiad.

 

62.

MATERION BRYS

Trafod unrhyw faterion brys y mae'r Cadeirydd yn eu gweld yn briodol.