Eitemau
Rhif |
eitem |
43. |
DATGAN BUDDIANT
Derbyn
datganiadau o fuddiannau personol
gan Aelodau, yn
unol â gofynion y Cod Ymddygiad. Nodwch:
1. Mae gofyn
i Aelodau
ddatgan rhif a phwnc
yr agendwm
mae eu
buddiant yn
ymwneud ag ef a mynegi
natur y buddiant personol
hwnnw;
2. Lle
bo Aelodau'n ymneilltuo
o'r cyfarfod o ganlyniad
i ddatgelu
buddiant sy'n rhagfarnu,
rhaid iddyn
nhw roi
gwybod i'r
Cadeirydd pan fyddan nhw'n
gadael.
Cofnodion:
Cafodd
buddiant ei ddatgan gan Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol S. Rees mewn
perthynas ag eitem 3 yr agenda gan ei bod yn gynrychiolydd RhCT fel
Aelod o'r Panel Mabwysiadu.
|
44. |
CROESO
Cofnodion:
Manteisiodd y Cadeirydd ar y cyfle i groesawu Cynghorydd y
Fwrdeistref Sirol G Caple i'r Pwyllgor, a Swyddogion o Voices from
Care Cymru i'r cyfarfod gyda chroeso arbennig i'r cynrychiolydd
pobl ifainc.
|
45. |
Ymddiheuriadau
Cofnodion:
Cafodd ymddiheuriadau am absenoldeb eu derbyn oddi wrth
Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol L Hooper a Mr P Mee, Cyfarwyddwr
Cyfadran y Gwasanaethau Cymuned a Gwasanaethau i Blant.
|
46. |
Cofnodion PDF 460 KB
Cymeradwyo cofnodion y cyfarfod
blaenorol a gynhaliwyd ar 29 Tachwedd 2021.
Cofnodion:
PENDERFYNWYD cadarnhau
cofnodion cyfarfod Pwyllgor y Bwrdd Rhianta Corfforaethol a
gynhaliwyd ar 29 Tachwedd 2021.
|
|
47. |
VOICES FROM CARE CYMRU (VFCC) - DIWEDDARIAD GAN Y CYNRYCHIOLYDD POBL IFAINC
Cofnodion:
Cyflwynodd y Swyddog Datblygu y cynrychiolydd pobl ifainc (AW)
i'r Pwyllgor; rhoddodd AW y diweddaraf i Aelodau'r Pwyllgor am ei
gweithgareddau diweddar yn ystod y 3 mis diwethaf. Tynnodd sylw at
ennill gwobr, sef Cyflawnwr Ifanc y Flwyddyn, trwy raglen Gofal i
Waith. Pwysleisiodd arwyddocâd Gofal i Waith a charfan
Gwasanaethau Cymdeithasol RhCT a roddodd gymorth iddi i geisio
llety parhaol a rheoli biliau. Rhoddodd AW wybod i Aelodau am y
cymorth parhaus a roddwyd gan Voices from Care Cymru i bobl ifainc
drwy gydol y pandemig, er enghraifft trefnu achlysuron ar Zoom,
galwadau ffôn a galwadau fideo i gadw mewn
cysylltiad.
Manteisiodd y Cadeirydd ar y cyfle i longyfarch AW ar ei gwobr
ac roedd yn falch o weld yr holl gynnydd y mae wedi'i wneud yn ei
bywyd personol.
Rhoddodd y Swyddog Datblygu wybod i Aelodau am achlysuron
diweddar a gafodd eu canslo o ganlyniad i'r pandemig. Serch hynny,
roedd modd i sefydliad VfCC addasu ei wasanaethau trwy gynnal
gweithgareddau yn yr awyr agored, achlysuron ar-lein a chymorth un
i un. Wrth i gyfyngiadau gael eu llacio, rhoddodd y Swyddog
Datblygu o VfCC wybod i Aelodau am brosiectau sydd i'w cynnal yn y
dyfodol i ddenu grwpiau ehangach o bobl ifainc yn RhCT. Nododd y
Swyddog waith ar y cyd â Chyfarwyddwr Gwasanaethau i Blant i
sefydlu gweithdy ar gyfer y Siarter Arfer Gorau i rieni sydd wedi
derbyn gofal.
Roedd y Cadeirydd yn hapus gyda'r diweddariad ar lafar ac aeth
ati i gydnabod yr angen i ailddechrau cynnal gwasanaethau wyneb yn
wyneb i ymgysylltu â phobl ifainc yn RhCT.
Yn
dilyn y diweddariad ar lafar, PENDERFYNWYD:
-
Nodi'r diweddariad a gafodd ei roi i'r
Bwrdd
|
|
48. |
ADRODDIAD BLYNYDDOL GWASANAETH MABWYSIADU CYDWEITHREDOL Y FRO, Y CYMOEDD, A CHAERDYDD 2020/21 PDF 216 KB
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Rhoddodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau i Blant drosolwg cryno o
Adroddiad Blynyddol Mabwysiadu Rhanbarthol y Fro, y Cymoedd, a
Chaerdydd. Rhoddwyd gwybod i Aelodau'r Pwyllgor fod y Pwyllgor
Craffu eisoes wedi trafod yr adroddiad ym mis Rhagfyr 2021; cafwyd
sylwadau calonogol am yr adroddiad.
Nododd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau i Blant mai dyma'r
6ed Adroddiad Blynyddol y Cydwasanaeth Mabwysiadu
Rhanbarthol a gafodd ei sefydlu yn seiliedig ar Ddeddf Gwasanaethau
Cymdeithasol a Llesiant 2014. Yn yr adroddiad mae manylion am
adrodd ar gyflawniad mewn perthynas â materion megis recriwtio
mabwysiadwyr, gwneud penderfyniadau er mwyn i blant gael eu
mabwysiadu, chwilio am deuluoedd a chymorth ar ôl
mabwysiadu.
Cafodd Aelodau wybod am y gostyngiad bach yn y galw yn ystod
cyfnod cyntaf y pandemig. Serch hynny, mae'r galw wedi dechrau
cynyddu.
Yn
yr adroddiad tynnwyd sylw at y 26 gorchymyn lleoliad. Serch hynny,
pan ymchwiliwyd i gyflawniad y Gwasanaethau i Blant ddiwethaf,
roedd 33 gorchymyn mabwysiadu wedi cael eu gwneud yn ystod
2020/21. Yn ystod cyfnod adrodd
2020/21, cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Gwasanaethau i Blant y bydd 22 o
blant yn cael eu mabwysiadu erbyn 31 Mawrth 2021. Rhoddwyd gwybod i
Aelodau i nodi effeithiolrwydd yr ymgyrch recriwtio a chynnydd yn
nifer y mabwysiadwyr sydd wedi creu effaith gadarnhaol o ran nifer
is o fabwysiadau nad ydyn nhw'n gysylltiedig ag asiantaeth.
Rhoddodd y Cyfarwyddwr Gwasanaethau i Blant wybod i Aelodau am y
cynnydd yn nifer y ceisiadau am gymorth ar ôl mabwysiadu a
nododd arwyddocâd rhoi cymorth i fabwysiadwyr. Nododd y
Cyfarwyddwr Gwasanaethau i Blant yr angen am adnoddau ychwanegol i
fabwysiadwyr gan fod y galw wedi cynyddu.
Roedd y Cadeirydd yn hapus gyda'r wybodaeth a ddarparwyd a
gofynnodd i Aelodau am unrhyw gwestiynau.
Roedd un Aelod yn hapus gyda'r cyllid a ddarparwyd i gyflogi
gweithiwr cymdeithasol rhan amser i gefnogi rhieni geni. Serch
hynny, gofynnodd yr Aelod am y mecanweithiau atgyfeirio a'r math o
gymorth y mae modd ei ddefnyddio i gefnogi rhieni geni.
Yn
rhan o ddatblygiad gwasanaethau ychwanegol, rhoddodd y Cyfarwyddwr
Gwasanaethau i Blant wybod i Aelodau am gyflwyno gwasanaeth 'Llwybr
Cyn Geni'. Y bwriad yw gwella'r cymorth sydd ar gael i atal plant a
rhieni rhag cael eu gwahanu. Nododd y Cyfarwyddwr Gwasanaethau i
Blant wasanaeth datblygu arbrofol newydd, sef Eiriolaeth Rhieni.
Bydd hyn yn cynnwys cymorth i rieni i fynychu cyfarfodydd megis
Cynadleddau Amddiffyn Plant. Nodwyd canlyniadau gwych gan
Awdurdodau Lleol eraill sy'n rhoi'r gwasanaeth yma ar brawf gan fod
rhieni wedi teimlo eu bod nhw'n cymryd rhan fwy yn y gwasanaethau
cymorth a ddarperir.
O
ran y mecanwaith atgyfeirio, nododd y Cyfarwyddwr Gwasanaethau i
Blant bwysigrwydd cwnsela i'r rhieni geni yn rhan o'r broses
fabwysiadu. Felly, cyn i unigolyn sy'n gwneud penderfyniadau o'r
asiantaeth ystyried mabwysiadu plentyn, mae'n sicrhau bod
atgyfeiriadau wedi'u gwneud at wasanaeth cwnsela i
rieni.
Croesawodd un Aelod roi eiriolaeth rhieni ar waith, gan
gydnabod ei bod yn hanfodol o ran rhoi cyfle i rieni gymryd rhan a
mynegi eu hunain. Gofynnodd yr Aelod am ragor o wybodaeth am
ddyfodol y gwasanaethau ar fuddsoddiadau yn ...
view the full Cofnodion text for item 48.
|
|
49. |
ADRODDIAD BLYNYDDOL ANSAWDD GOFAL Y GWASANAETH MAETHU PDF 180 KB
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Cyflwynodd Rheolwr y Gwasanaeth ei hun i'r Pwyllgor fel y
person enwebedig at ddibenion AGC o ran maethu yn RhCT. Rhoddodd
wybod i Aelodau'r Pwyllgor mai nod yr adroddiad yw rhoi trosolwg o
ansawdd blynyddol gofal o ran y gwasanaeth maethu yn 2020/21.
Cadarnhaodd Rheolwr y Gwasanaeth mai canolbwynt y gwasanaeth yn
ystod 2020/21 oedd sicrhau bod rhieni maeth yn cael y cymorth gorau
posibl. O ganlyniad i ddefnyddio technoleg, cadarnhaodd Rheolwr y
Gwasanaeth fod modd cynnal cysylltiad cyson â rhieni maeth, er
enghraifft dros y ffôn neu drwy alwadau fideo. Hefyd, cafodd y
gwasanaeth ei addasu er mwyn cynnal cyfarfodydd ar-lein, megis y
Panel Maethu.
Yn
ogystal â chymorth cyson parhaus i rieni maeth, rhoddodd
Rheolwr y Gwasanaeth wybod i Aelodau am wasanaeth newydd a gafodd
ei gyflwyno sy'n cynnwys ymgynghori â chynhalwyr sy'n
berthynas a chynhalwyr prif ffrwd. Pwrpas yr ymgynghoriadau oedd
nodi gwelliannau y byddai modd eu gwneud o ran mynychu cyfarfodydd
y panel, prosesau'r panel, arfarniadau ar gyfer Aelodau'r panel, ac
aildrefnu dyddiadau cyfarfodydd y panel i annog gweithwyr
cymdeithasol i fynychu. Aeth Rheolwr y Gwasanaeth ati i gydnabod yr
angen i weithio'n agos gyda rhieni ac o ganlyniad i ymgynghori
â rhieni ar blant sy'n derbyn gofal maeth, mae hyn wedi cael
ei roi ar waith. Mae'r garfan wrthi'n gweithio gyda gwasanaeth y
Swyddogion Adolygu Annibynnol i lunio adroddiadau i rieni er mwyn
rhoi cyfle iddyn nhw fynegi eu barn ar y gofal maeth a
dderbyniwyd.
Yn
ystod y cyfnod clo cyntaf, cadarnhaodd Rheolwr y Gwasanaeth waith
ar y cyd â Rhwydwaith Maethu yn rhan o raglen les. Rhoddwyd
gwybod i Aelodau am lwyddiant y rhaglen les o ran cyflwyno
Arloeswyr. Nodwyd arwyddocâd Arloeswyr o ran cefnogi rhieni
maeth newydd yn RhCT. Cafwyd gwybod am yr heriau y mae'r gwasanaeth
yn eu hwynebu megis recriwtio rhieni maeth ychwanegol sy'n barod i
weithio gyda phobl ifainc sydd ag anghenion cymhleth, a phobl
ifainc yn eu harddegau h?n.
Cyflwynodd Rheolwr y Gwasanaeth Ms Grenter i'r Pwyllgor a
roddodd drosolwg o rôl a phrofiadau Arloeswr yn RhCT. Nododd
yr Arloeswr fanylion y gweithgareddau amrywiol sy'n cael eu cynnal
yn rhan o'r rôl. Roedd y rhain yn cynnwys gweithio ar y cyd
â Maethu Cymru mewn perthynas â lansiad 22 Drws Maethu,
mynd i Baneli Cyflogaeth a thrafod effeithiolrwydd polisïau.
Rhoddodd yr Arloeswr wybod am arwyddocâd y rôl o ran creu
systemau cymorth i rieni maeth ac amgylchedd lle mae cyfathrebu
agored yn cael ei annog er mwyn trafod yr heriau a datrysiadau.
Siaradodd yr Arloeswr am ddatblygiad y rôl, gyda chymorth yn
cael ei roi i rieni maeth ar-lein o ganlyniad i'r pandemig. Serch
hynny, roedd yr Arloeswr yn gobeithio ailddechrau cynnal y
gwasanaeth wyneb yn wyneb wrth i'r cyfyngiadau gael eu
llacio.
Roedd y Cadeirydd yn hapus gyda'r gwaith a'r cymorth a
ddarperir i rieni maeth gan Arloeswyr. Aeth y Cadeirydd ati i
gydnabod pwysigrwydd cyfathrebu rhwng rhieni maeth ac Arloeswyr er
mwyn rhannu profiadau, cyngor a datrysiadau.
PENDERFYNODDy Bwrdd
Rhianta Corfforaethol:
-
Cydnabod ...
view the full Cofnodion text for item 49.
|
|
50. |
'DRWS BLAEN' MAETHU RHANBARTHOL CWM TAF PDF 126 KB
Diweddariad ar ddatblygiadau ac effaith
ymgyrchoedd marchnata
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Rhoddodd Rheolwr Datblygu Rhanbarthol Gwasanaethau Maethu y
diweddaraf am y ddau ddatblygiad sylweddol sydd wedi'u gwneud ers
adrodd i'r Bwrdd yn ystod y flwyddyn flaenorol. Cadarnhawyd bod
Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi ymuno â'r
Drws Blaen Rhanbarthol er mwyn ehangu'n ymhellach ar y gwaith ar y
cyd a rhannu adnoddau ac arfer da. Ar hyn o bryd, cadarnhaodd y
Rheolwr Datblygu Rhanbarthol ymrwymiad y tri Awdurdod Lleol mewn
perthynas â recriwtio rhieni maeth. Rhoddwyd gwybod i Aelodau
am y datblygiad sylweddol arall o ran lansio Maethu Cymru, sef
cydweithrediad cenedlaethol o bob un o'r 22 o Awdurdodau
Lleol. Roedd y Rheolwr Datblygu
Rhanbarthol yn hapus gyda'r buddsoddiadau wedi'u darparu gan
Lywodraeth Cymru.
Cafodd Aelodau wybod am y newidiadau a gafodd eu rhoi ar waith
i wasanaethau megis brandio a gwefan newydd ar draws pob Awdurdod
Lleol. Nodwyd arwyddocâd y gwefannau newydd ar draws pob
Cyngor i hyrwyddo'r neges am Faethu Lleol ac i gynnal y datganiad
cenhadaeth, sef 'Mae plant lleol wrth galon popeth rydyn ni'n ei
wneud'.
Er
gwaethaf llwyddiant y gwasanaeth, aeth Rheolwr Datblygu Rhanbarthol
Gwasanaethau Maethu ati i gydnabod yr heriau o ran recriwtio rhieni
maeth ledled y DU. Cafwyd gwybod am y gostyngiad o 50% yn nifer yr
ymholiadau ac ymweliadau cychwynnol am rolau rhieni maeth. O
ganlyniad i hyn, mae gwaith ymchwilio wedi cael ei gynnal i ddod o
hyd i esboniad. Nodwyd mai'r rheswm dros y gostyngiad oedd arfer ar
ôl y pandemig ac, ar lefel leol, pobl nad oedden nhw'n effro
i'r brandio newydd. Er gwaethaf y gostyngiad yn nifer yr ymholiadau
ac ymweliadau cychwynnol, roedd Rheolwr y Gwasanaeth Rhanbarthol
– Gwasanaethau Maethu yn falch o weld cynnydd yn nifer y bobl
sy'n mynd ymlaen at fuddsoddiad a chymeradwyaeth. Yn ystod y tair
blynedd diwethaf, nodwyd bod cynnydd i'w weld yn nifer y rhieni
maeth bob blwyddyn. Rhoddodd Rheolwr Datblygu Rhanbarthol
Gwasanaethau Maethu wybod i Aelodau am welliannau y mae angen eu
gwneud o ran darpariaeth cadw rhieni maeth a sicrhau bod Awdurdodau
Lleol yn cadw at yr Ymrwymiad Cenedlaethol.
O
ran y dyfodol, bydd cynlluniau'n cael eu rhoi ar waith i hyrwyddo
Maethu Cymru er mwyn denu'r genhedlaeth iau i ddod yn rhieni maeth.
Mae ymgyrchoedd llwyddiannus wedi cael eu lansio, er enghraifft ar
y radio, y teledu, Spotify ac ar y
cyfryngau cymdeithasol er mwyn hyrwyddo Maethu Cymru. Ar lefel
leol, siaradodd Rheolwr Datblygu Rhanbarthol Gwasanaethau Maethu am
lansio ymgyrch sy'n hysbysebu Maethu Cymru ar fysiau ac ar y radio
(Capital FM) ledled Cwm
Taf.
Rhoddodd y Cadeirydd ddiolch i Reolwr Datblygu Rhanbarthol
Gwasanaethau Maethu am ei adroddiad a'r gwaith sydd wedi'i gynnal
yn rhan o'r Bwrdd Rhianta Corfforaethol
dros y tair blynedd. Dymunodd y Cadeirydd bob lwc iddo yn ei
rôl newydd yng Nghyngor Caerdydd.
|
|
51. |
ADRODDIAD CHWARTEROL TROS GYNNAL PDF 217 KB
Derbyn adroddiad cynnydd chwarterol Tros
Gynnal Plant Cymru
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Cafodd y Bwrdd ddiweddariad gan Ms Davies am y cynnydd sydd
wedi'i wneud gan elusen Tros Gynnal Plant Cymru. Dechreuodd Ms
Davies gan ganolbwyntio ar adran Cynnig Rhagweithiol yr adroddiad.
Yn seiliedig ar y Cynnig Rhagweithiol yn Chwarter 3, manteisiodd 32
o bobl ifainc ar y gwasanaeth sy'n seiliedig ar faterion, a chafodd
12 o bobl ifainc eu hatgyfeirio at y
Cynnig Rhagweithiol. Roedd dros hanner y bobl ifainc a fanteisiodd
ar y gwasanaeth sy'n seiliedig ar faterion yn gwneud hynny am y tro
cyntaf. Cafodd Aelodau wybod am y gostyngiadau mewn perthynas ag
Eiriolaeth yn seiliedig ar Faterion (IBA) a'r Cynnig Rhagweithiol
yn Chwarter 3 o'u cymharu â'r Chwarteri blaenorol (2). Yn
ystod Chwarter 3, roedd 86 o bobl ifainc yn gymwys am y Cynnig
Rhagweithiol ac allan o'r 86 yma, roedd 18 yn blant sy'n derbyn
gofal. Cafodd yr Aelodau wybod am 2 berson ifanc a gafodd eu
cynnwys ddwywaith gan eu bod nhw'n bodloni'r meini prawf o ran
Amddiffyn Plant (CP) a Phlant sy'n Derbyn Gofal, felly nifer y bobl
ifainc oedd 84.
Yn
seiliedig ar yr wybodaeth a ddarparwyd gan Awdurdodau Lleol,
gwrthododd 50 o blant a phobl ifainc gyfarfod y Cynnig Rhagweithiol
pan gafodd ei awgrymu gan eu gweithwyr cymdeithasol. Serch hynny,
derbyniodd 11 a chawson nhw eu hatgyfeirio. Gwrthododd 20 o bobl ifainc y Cynnig
Rhagweithiol heb reswm a gwrthododd 30 o bobl ifainc y cynnig i
gwrdd ag eiriolwr. Nododd 12 person ifanc fod gwell gyda nhw siarad
ag aelod o'r teulu.
Tynnodd Ms Davies sylw'r Aelodau at y graffau yn yr adroddiad
a roddodd grynodeb o feini prawf Atgyfeiriadau'r Cynnig
Rhagweithiol, Eiriolaeth yn seiliedig ar Faterion a demograffeg
defnyddwyr y gwasanaeth yn ystod Chwarter 3.
PENDERFYNWYD:
-
Nodi cynnwys yr adroddiad
-
Derbyn diweddariadau ar gynnydd TGP yn y
dyfodol
|
|
52. |
Eithrio'r Wasg a'r Cyhoedd
“Bod y cyfarfod hwn yn cadw aelodau o'r wasg ac aelodau
o'r cyhoedd allan o ystafell y cyfarfod, dan Adran 100A(4) o Ddeddf
Llywodraeth Leol 1972 (fel y'i diwygiwyd), yn ystod trafod yr
agendwm nesaf, ar y sail y byddai'n
debygol o olygu datgelu gwybodaeth eithriedig yn ôl diffiniad
paragraff 13 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf.”
Cofnodion:
PENDERFYNWYDbod y
cyfarfod hwn yn cadw aelodau o'r wasg ac aelodau o'r cyhoedd allan
o ystafell y cyfarfod, dan Adran 100A(4) o'r Ddeddf Llywodraeth
Leol (fel y'i diwygiwyd), yn ystod trafod yr agendwm nesaf, ar y sail y byddai'n debygol o olygu
datgelu gwybodaeth eithriedig yn ôl diffiniad paragraff 14 o
Ran 4 o Atodlen 12A o'r Ddeddf.
|
|
53. |
GWASANAETHAU CYMDEITHASOL - CWYNION A CHANMOLIAETHAU CHWARTEROL
Derbyn adroddiad Cyfarwyddwr Cyfadran y Gwasanaethau Cymuned a
Gwasanaethau i Blant sy'n rhoi crynodeb i'r Bwrdd Rhianta Corfforaethol o'r trefnau gweithredu ac
effeithiolrwydd gweithdrefn cwynion y Gwasanaethau Cymdeithasol
statudol.
Cofnodion:
Rhoddodd yr adroddiad yma drosolwg i'r Bwrdd Rhianta Corfforaethol o'r trefnau gweithredu ac
effeithiolrwydd gweithdrefn cwynion y Gwasanaethau Cymdeithasol
statudol rhwng 1 Hydref 2021 a 31 Rhagfyr
2021.
Roedd yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth am nifer y cwynion a
ddaeth i law, natur y cwynion, ac unrhyw wersi a ddysgwyd, yn
ogystal â manylu ar ymholiadau gan Gynghorwyr, Aelodau o'r
Senedd ac Aelodau Seneddol a nifer y cwynion a ddaeth i
law.
Yn
dilyn trafodaethau mewn perthynas â'r eitem eithriedig,
PENDERFYNWYD:
-
Nodi cynnwys yr adroddiad a'r gwaith sydd wedi ei
gyflawni gan yr Uned Gwynion.
|
|
54. |
DERBYN DIWEDDARIAD GAN Y CYFARWYDDWR - GWASANAETHAU I BLANT
Cofnodion:
Rhoddodd y Cyfarwyddwr Gwasanaethau i Blant ddiweddariad ar
lafar ar y tri phrif weithgaredd sydd wedi digwydd hyd yn hyn.
Cafodd Aelodau wybod am gymeradwyaeth y Cabinet o'r strategaeth
atal ar gyfer Plant sy'n Derbyn Gofal.
Yn
ail, canmolodd y Cyfarwyddwr Gwasanaethau i Blant y gwaith a gafodd
ei gynnal gan Ms Ceri Jones – Pennaeth Materion Mynediad a
Chynhwysiant a Ceri Webster – Dirprwy Flaen Swyddog –
Seicolegydd Addysg o ran arwain proses penodi Pennaeth Plant sy'n
Derbyn Gofal. Rhoddodd y
Cyfarwyddwr Gwasanaethau i Blant wybod i Aelodau am arwyddocâd
y Pennaeth o ran trawsnewid Addysg i Blant sy'n Derbyn Gofal. Yn
olaf, siaradodd y Cyfarwyddwr Gwasanaethau i Blant am brosiect
ymchwil diweddar a gafodd ei gynnal gan CASCADE a nododd angen
sylweddol am gymorth ystyrlon ar gyfer pobl ifainc sy'n dod yn
rhieni. Rhoddodd y Cyfarwyddwr Gwasanaethau i Blant wybod i Aelodau
am weithdy sydd i'w gynnal ar ôl yr etholiad. Bydd y Bwrdd yn
cael gwahoddiad i'r gweithdy lle y bydd darganfyddiadau'r ymchwil
yn cael eu cyflwyno.
Roedd y Cadeirydd yn hapus iawn gyda'r diweddariad ac
edrychodd ymlaen at fynd i'r gweithdy i ddysgu rhagor am yr
ymchwil.
PENDERFYNODDy Bwrdd
Rhianta Corfforaethol:
-
Derbyn adroddiad ar y Strategaeth Plant sy'n Derbyn
Gofal.
|
|