Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Hybrid

Cyswllt: Hannah Williams - Council Business Unit  07385401954

Cyfryngau

Eitemau
Rhif eitem

14.

Croeso ac Ymddiheuriadau

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Roedd y Cadeirydd wedi croesawu'r Aelodau a'r Swyddogion i gyfarfod y Cabinet a derbyniwyd ymddiheuriad am absenoldeb gan yr Aelod o'r Cabinet ar faterion Addysg, Cyfranogiad Pobl Ifainc a'r Gymraeg.

 

15.

Datganiadau o Fuddiant

Derbyn datganiadau o fuddiannau personol gan Gynghorwyr, yn unol â gofynion Cod Ymddygiad y Cyngor.

 

Nodwch:

 

1.     Mae gofyn i Aelodau ddatgan rhif a phwnc yr agendwm y mae eu buddiant yn ymwneud ag ef a mynegi natur y buddiant personol hwnnw; a

2.     Lle bo Aelodau'n ymneilltuo o'r cyfarfod o ganlyniad i ddatgelu buddiant sy'n rhagfarnu, rhaid iddyn nhw roi gwybod i'r Cadeirydd pan fyddan nhw'n gadael.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Roedd yr Arweinydd wedi datgan buddiant personol mewn perthynas ag Eitem 10 ar yr agenda - Cynllun Rheoli Asedau Corfforaethol 2018 i 2023: Diweddariad. "Rydw i'n llofnodwr ar gyfer eiddo sydd wedi'i nodi yn yr adroddiad ac sy'n cael ei brydlesu gan y Cyngor”; ac

 

Roedd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion yr Amgylchedd a Hamdden wedi datgan buddiant personol mewn perthynas ag Eitem 10 ar yr agenda - Cynllun Rheoli Asedau Corfforaethol 2018 i 2023: Diweddariad. "Rydw i'n ymddiriedolwr ar gyfer un o'r prosiectau y cyfeirir ato yn yr adroddiad".

 

16.

Cofnodion pdf icon PDF 305 KB

Cadarnhau cofnodion o gyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 15 Mai 2023 yn rhai cywir.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNODD y Cabinet gymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 15 Mai 2023.

 

17.

Cynllun Dirprwyo'r Arweinydd - gwybodaeth

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNODD Aelodau'r Cabinet nodi Cynllun Dirprwyo'r Arweinydd ar gyfer Blwyddyn 2023-2024 y Cyngor.

 

18.

Cymeradwyo argymhellion yr adolygiad o drefniadau’r Bartneriaeth Cymunedau Diogel ar gyfer rhanbarth Cwm Taf Morgannwg pdf icon PDF 170 KB

Derbyn adroddiad y Cyfarwyddwr Iechyd a Diogelwch y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymuned, sy'n ceisio caniatâd er mwyn i Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf (CBSRhCT) symud i Bartneriaeth Cymunedau Diogel newydd rhanbarth Cwm Taf Morgannwg, a fydd yn gwasanaethu ardaloedd Awdurdod Lleol Rhondda Cynon Taf (RhCT), Merthyr Tudful a Phen-y-bont ar Ogwr, a hynny'n dilyn adolygiad o'r trefniadau presennol.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Roedd Cyfarwyddwr Iechyd a Diogelwch y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymuned wedi ceisio cymeradwyaeth y Cabinet mewn perthynas ag argymhellion yr adolygiad o drefniadau'r Bartneriaeth Cymunedau Diogel ar gyfer rhanbarth Cwm Taf Morgannwg, ac yn benodol ceisio cymeradwyaeth y Cabinet er mwyn i Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf symud i Bartneriaeth Cymunedau Diogel newydd ar gyfer Cwm Taf Morgannwg sy'n gwasanaethu ardaloedd Awdurdod Lleol Rhondda Cynon Taf (RhCT), Merthyr Tudful a Phen-y-bont ar Ogwr.

 

Roedd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion Iechyd y Cyhoedd a Chymunedau wedi manteisio ar y cyfle i ddiolch i'r swyddogion am eu gwaith caled wrth lunio'r ddogfen gymhleth. Pwysleisiodd yr Aelod o'r Cabinet bwysigrwydd diogelwch y cyhoedd, gan nodi ei fod yn gobeithio y byddai cynnwys Pen-y-bont ar Ogwr yn arwain at adnoddau ychwanegol er mwyn mynd i'r afael â phroblemau sylweddol yn y gymdeithas.

 

Roedd yr Aelod o'r Cabinet wedi awgrymu bod trefniadau'r Bartneriaeth Cymunedau Diogel yn cael eu hadolygu'n gyson, a nododd y byddai angen cynnal trafodaethau pellach yn y dyfodol mewn perthynas â'r cyllid yma, a fyddai'n cael ei rannu'n deg.  Nododd yr Aelod o'r Cabinet mai pwrpas y bartneriaeth yma yw cryfhau sefydliadau i sicrhau gwerth gwell am arian, a nododd y gwaith sydd eisoes wedi'i gyflawni gan Gyngor RhCT. O ganlyniad i hynny, roedd yr Aelod o'r Cabinet o'r farn y dylai Cadeirydd y gr?p ddod o Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr neu Gyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful.

 

Roedd y Dirprwy Arweinydd o blaid cefnogi'r argymhellion sydd wedi'u nodi yn yr adroddiad, ond roedd hi'n gobeithio y byddai'r cysylltiad â'r cymunedau lleol a'r dulliau cyfathrebu yn cael eu cynnal yn sgil llwyddiant y gr?p yn y gorffennol.

 

Roedd y Dirprwy Arweinydd wedi gofyn bod y Cyfarwyddwr Gwasanaeth - Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu yn rhoi eglurder pellach ynghylch defnyddio Cydbwyllgor Trosolwg a Chraffu Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Cwm Taf Morgannwg er mwyn craffu ar gyflawniad. Roedd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth wedi cadarnhau y bydd cyfle i'r model rhanbarthol newydd graffu ar gyflawniad y Bartneriaeth Cymunedau Diogel newydd, ar ôl i bob Awdurdod Lleol ei chymeradwyo.

 

PENDERFYNODD y Cabinet:

1.    Y bydd CBSRhCT yn gweithio gyda phartneriaid i sefydlu Partneriaeth Cymunedau Diogel Cwm Taf Morgannwg sy'n gwasanaethu ardaloedd Awdurdod Lleol RhCT, Merthyr Tudful a Phen-y-bont ar Ogwr, yn amodol ar dderbyn caniatâd gan Gomisiynydd Heddlu a Throseddu De Cymru a chymeradwyo cynllun gweithredu a phontio addas; a

2.    Cymeradwyo'r argymhellion eraill sy'n codi o'r Adolygiad, fel sydd wedi'u nodi yn Adran 4.12, paragraff I-1X o'r adroddiad.

 

 

19.

Canol Tref Aberdâr - Strategaeth Ddrafft pdf icon PDF 241 KB

Derbyn adroddiad y Cyfarwyddwr Materion Ffyniant a Datblygu, sy'n rhoi diweddariad ar y gwaith sydd wedi'i gynnal hyd yn hyn er mwyn llunio'r Strategaeth Ddrafft sy'n canolbwyntio ar fuddsoddi a chydlynu buddsoddiadau ar gyfer Canol Tref Aberdâr yn y dyfodol a cheisio caniatâd i ddechrau ymgynghoriad cyhoeddus ffurfiol.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhannodd y Cyfarwyddwr Materion Ffyniant a Datblygu'r wybodaeth am y gwaith sydd wedi'i gynnal hyd yn hyn er mwyn llunio Strategaeth Ddrafft a fydd yn cydlynu buddsoddiad ar gyfer Canol Tref Aberdâr yn y dyfodol; a cheisio caniatâd i gychwyn ymgynghoriad ffurfiol â'r cyhoedd mewn perthynas â'r Strategaeth Ddrafft, a derbyn adroddiad pellach sy'n nodi canlyniadau'r ymgynghoriad.

 

Roedd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion Ffyniant a Datblygu o blaid cefnogi'r argymhellion sydd wedi'u nodi yn yr adroddiad, a manteisiodd ar y cyfle i ddiolch i swyddogion am lunio'r cynllun. Roedd yr Aelod o'r Cabinet wedi nodi bod y dull o ran ymgysylltu yn enghraifft dda o sut y dylai'r Cyngor fynd ati i gynnal ymgynghoriadau ynghylch canol trefi, gan nodi bod Aelodau Lleol, grwpiau cymunedol, masnachwyr ac AGB Aberdâr wedi'u cynnwys yn rhan o'r broses cyn yr ymgynghoriad ffurfiol.

 

PENDERFYNODDy Cabinet:

1.      Trafod y Strategaeth Ddrafft ar gyfer Canol Tref Aberdâr, sydd wedi'i llywio gan ddeilliannau’r cam ymgysylltu cynnar. Mae modd gweld deilliannau'r cam yma yn Atodiad 1 o'r Strategaeth Ddrafft;

2.      Cychwyn ymgynghoriad ffurfiol â'r cyhoedd mewn perthynas â'r Strategaeth Ddrafft, a fydd yn cael ei gynnal dros gyfnod o 6 wythnos. Bydd yr ymgynghoriad yn defnyddio dulliau ar-lein ac wyneb yn wyneb er mwyn ceisio barn ystod eang o randdeiliaid mewn perthynas â'r Strategaeth Ddrafft, fel sydd wedi'u nodi yn y cynllun ymgysylltu yn Atodiad 2. 

 

 

20.

Cynnig i Estyn Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus CBS Rhondda Cynon Taf mewn perthynas â Mesurau Rheoli Cŵn pdf icon PDF 223 KB

Derbyn adroddiad ar y cyd sy'n gofyn i'r Cabinet gymeradwyo'r cynnig i estyn cyfnod y ddau Orchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus mewn perthynas â Mesurau Rheoli C?n (sydd ar fin dod i ben) ac awdurdodi swyddogion i hysbysebu'r gorchmynion arfaethedig a chynnal ymgynghoriad yn unol â gofynion Deddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona 2014.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Roedd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cyfreithiol a Gwasanaethau Digidol wedi rhannu gwybodaeth â'r Cabinet mewn perthynas â'r cynnig i estyn Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus CBS Rhondda Cynon Taf mewn perthynas â Mesurau Rheoli C?n. Rhoddodd y Cyfarwyddwr wybod y bydd dau Orchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus mewn perthynas â mesurau rheoli c?n yn Rhondda Cynon Taf yn dod i ben ar 30 Medi 2023, a nododd fod modd i'r Cyngor amrywio neu estyn cyfnod y gorchymyn am gyfnod hyd at dair blynedd ar unrhyw adeg cyn dyddiad dod i ben y gorchymyn, os yw'r Cyngor o'r farn bod angen y gorchymyn er mwyn atal yr ymddygiad rhag digwydd neu ddigwydd eto. 

 

Ceisiodd y Cyfarwyddwr gymeradwyaeth y Cabinet er mwyn estyn y gorchmynion yma mewn egwyddor, yn ogystal â galluogi swyddogion i gyhoeddi'r gorchmynion arfaethedig a chynnal ymgynghoriadau yn unol â Deddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona 2014, yn ôl yr angen.

 

Roedd y Dirprwy Arweinydd o blaid yr argymhellion sydd wedi'u nodi yn yr adroddiad, gan nodi bod angen darparu mecanwaith yn rhan o'r broses ymgynghori er mwyn i'r Pwyllgorau Craffu drafod y llwyddiant hyd yn hyn a'r cynnig i estyn cyfnod y gorchymyn.

 

Nododd y Dirprwy Arweinydd fod gostyngiad sylweddol i’w weld rhwng Ebrill 2019 a Mawrth 2020, ond holodd am y cynnydd yn ystod y cyfnod rhwng Ebrill 2020 a Mawrth 2021. Rhoddodd y Cyfarwyddwr wybod bod hyn yn debygol o fod o ganlyniad i ddulliau gweithredu gwahanol a gafodd eu defnyddio yn ystod y pandemig.  Ychwanegodd yr Arweinydd fod y Swyddogion Gorfodi wedi bod yn helpu gyda gwaith lliniaru llifogydd y Cyngor ym mis Chwefror 2020, ac yna ym mis Mawrth 2020 daeth cyfyngiadau cyntaf Covid-19 i rym.

 

Roedd yr Arweinydd o blaid yr argymhellion a nododd fod nifer fawr o'r Gorchmynion Diogelu Mannau Agored Cyhoeddus sydd wedi'u nodi yn yr adroddiad yn ymwneud â ch?n sydd ar gaeau chwarae. Mae 1027 o ddirwyon wedi'u cyflwyno ers cyflwyno'r Gorchymyn Diogelu Mannau Agored Cyhoeddus. Dywedodd yr Arweinydd fod y caeau yma'n caeau chwaraeon ac ni ddylid eu defnyddio i gerdded c?n. Er bod rhai unigolion yn glanhau ar ôl eu c?n, mae modd i'r hyn sy'n weddill achosi haint.

 

Roedd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion yr Amgylchedd a Hamdden yn gefnogol o'r cynnig, a siaradodd am lwyddiant y Gorchmynion Diogelu Mannau Agored Cyhoeddus sydd ar waith yn RhCT. Cyn i'r Gorchymyn Diogelu Mannau Agored Cyhoeddus gael ei gyflwyno, roedd chwaraewyr ifainc o glybiau chwaraeon yn cerdded o amgylch y caeau yn chwilio am faw c?n cyn dechrau gêm, esboniodd yr Aelod o'r Cabinet.

 

PENDERFYNODDy Cabinet:

1.    Cymeradwyo, mewn egwyddor, y cynnig i estyn ac amrywio'r ddau Orchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus ar fesurau rheoli c?n yn Rhondda Cynon Taf am dair blynedd arall o 1  Hydref 2023, yn y ffurflen a nodir yn Atodiad A1 a A2 o'r adroddiad;

2.    Awdurdodi swyddogion i gyhoeddi'r gorchmynion arfaethedig a chynnal ymgynghoriad yn unol â Deddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona 2014; a

3.    Derbyn  ...  view the full Cofnodion text for item 20.

21.

Yr Wybodaeth Ddiweddaraf am y Cynnig i sefydlu Ysgol Arbennig Newydd yn Rhondda Cynon Taf pdf icon PDF 1 MB

Derbyn adroddiad y Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Cynhwysiant i geisio caniatâd ffurfiol i ddechrau'r broses ymgynghori angenrheidiol a pherthnasol ar gyfer y cynnig i agor ysgol arbennig 3-19 oed yn RhCT, ar gyfer dalgylchoedd Ysgol Arbennig Park Lane, Ysgol Hen Felin ac Ysgol T? Coch.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Cynhwysiant ddiweddariad i'r Cabinet mewn perthynas ag amrywio'r Rhaglen Amlinellol Strategol yn unol â chyllid Cymunedau Dysgu Cynaliadwy Llywodraeth Cymru; a cheisiodd caniatâd ffurfiol i ddechrau'r ymgynghoriad statudol angenrheidiol ar gyfer y cynnig i agor ysgol arbennig 3-19 oed newydd yn RhCT. Bydd y cynnig hefyd yn cynnwys cyflwyno dalgylchoedd ar gyfer yr holl ysgolion arbennig 3 i 19 oed ledled Rhondda Cynon Taf, sef:

·       Ysgol Arbennig Park Lane

·       Ysgol Hen Felin

·       Ysgol T? Coch.

 

Roedd y Dirprwy Arweinydd o blaid yr argymhellion sydd wedi'u nodi yn yr adroddiad, gan esbonio bod y Cabinet wedi gobeithio datblygu ysgol arbennig newydd yn y Fwrdeistref Sirol ers sawl blwyddyn. Dywedodd y Dirprwy Arweinydd fod y cyllid sydd ar gael yn golygu bod modd gwireddu'r dyheadau yma.

 

Roedd y Dirprwy Arweinydd wedi croesawu'r cyfle i geisio barn rhieni a chynhalwyr yn rhan o'r broses ymgynghori statudol. Nodwyd bod pwysau sylweddol o ran yr angen i gynyddu capasiti i gwrdd â'r galw.

 

Nododd yr Arweinydd ein bod ni dim ond yn cychwyn ar y broses yma ar hyn o bryd, ond dyma gynnig hollbwysig a byddai'r Cyngor yn ceisio barn y gymuned yn rhan o'r broses ymgynghori. Nododd yr Arweinydd mai safle Pencadlys y Cyngor yng Nghwm Clydach yw'r opsiwn a ffefrir, o ganlyniad i'w daearyddiaeth, cysylltiadau trafnidiaeth a'i maint.

 

Nododd yr Arweinydd na fyddai gofyn i blant sydd eisoes yn mynychu ysgolion presennol symud ysgol a byddai modd i rieni wneud y dewis hynny. Fodd bynnag, nodwyd ei bod hi'n bosibl y byddai'r dalgylchoedd newydd ar gyfer disgyblion newydd yn golygu y bydd sefyllfaoedd yn codi lle mae brodyr a chwiorydd yn mynd i ysgolion gwahanol. Gofynnodd yr Arweinydd fod swyddogion yn cadw amgylchiadau unigryw'r teuluoedd mewn cof yn rhan o'r ymgynghoriad, ac yn cynnig hyblygrwydd pellach mewn sefyllfaoedd o'r fath, lle bynnag y bo modd.

 

PENDERFYNODDy Cabinet:

1.    Nodi cynnwys yr adroddiad; a

2.    Rhoi caniatâd ffurfiol i gychwyn ymgynghoriad statudol gyda'r rhanddeiliaid perthnasol mewn perthynas â'r cynnig i:

      i.         Adeiladu ysgol arbennig 3-19 oed newydd yn RhCT ar safle newydd.

     ii.         Cyflwyno dalgylchoedd newydd ar gyfer pob ysgol arbennig 3-19 oed ledled RhCT (fel sydd wedi'u nodi yn 1.2), er mwyn cwrdd â'r galw, a rheoli'r galw, ar gyfer lleoedd mewn ysgolion arbennig.

    iii.         Nodi bod modd i blant a phobl ifainc sy'n dymuno aros yn eu hysgol arbennig bresennol yn dilyn y newidiadau i'r dalgylchoedd wneud hynny. Fodd bynnag, bydd pob lleoliad newydd yn cael ei lywio gan y dalgylchoedd diwygiedig unwaith y bydd y newidiadau yn cael eu rhoi ar waith fel bod dysgwyr yn mynychu'r ysgol arbennig leol.

   iv.         Rhoi caniatâd swyddogol i adrodd yn ôl i'r Cabinet fel bod modd trafod adroddiad ymgynghori a phennu p'un a oes angen cyhoeddi'r Adroddiad Ymgynghori neu beidio, a chymeradwyo cyhoeddi'r cynnig ar ffurf Hysbysiad Statudol. 

     v.         Rhoi awdurdod dirprwyedig i'r Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Cynhwysiant i wneud unrhyw fân newidiadau sy'n ofynnol i'r ddogfen ymgynghori ddrafft (sydd ynghlwm yn Atodiad A i'r adroddiad)  ...  view the full Cofnodion text for item 21.

22.

Trafod Cadarnhau'r Cynnig Isod Yn Benderfyniad:

“Bod y cyfarfod hwn yn cadw aelodau o'r wasg ac aelodau o'r cyhoedd allan o ystafell y cyfarfod, dan Adran 100A(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol (fel y'i diwygiwyd), yn ystod trafod yr agendwm nesaf, ar y sail y byddai'n debygol o olygu datgelu gwybodaeth eithriedig yn ôl diffiniad paragraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf.”

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD: Bod y cyfarfod hwn yn cadw aelodau o'r wasg ac aelodau o'r cyhoedd allan o ystafell y cyfarfod, dan Adran 100A(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol (fel y'i diwygiwyd), yn ystod trafod yr agendwm nesaf, ar y sail y byddai'n debygol o olygu datgelu gwybodaeth eithriedig yn ôl diffiniad paragraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf.”

 

 

23.

Cytundeb Cyd-fenter

Derbyn adroddiad y Prif Weithredwr, sy'n cynnwys gwybodaeth eithriedig am y datblygiadau diweddaraf o ran y Cytundeb Cyd-fenter.

 

Cofnodion:

Rhannodd y Pennaeth Caffael yr adroddiad eithriedig â'r Cabinet. Mae'r adroddiad yma'n amlinellu cyd-destun a chefndir y Cyd-fenter sydd ar waith rhwng WSP a Chynghorau Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, Merthyr Tudful a Rhondda Cynon Taf, a cheisio caniatâd i estyn y Cytundeb Cyd-fenter am gyfnod o 12 mis y tu hwnt i'r cytundeb cyfredol, hyd at ddyddiad dod i ben o 31 Awst 2024.

 

Yn dilyn trafodaeth, PENDERFYNODD y Cabinet:

1.      Cymeradwyo'r cais i estyn y Cytundeb Cyd-fenter am gyfnod o 12 mis;

2.      Nodi y bydd y Cytundeb Gwasanaeth yn cael ei estyn am gyfnod o 12 mis (yn amodol ar gymeradwyo'r cynnig i estyn y Cytundeb Cyd-fenter); a

3.      Nodi y bydd y cytundeb dim ond yn cael ei estyn os yw:

·       Pob un o'r 3 Awdurdod Lleol yn cymeradwyo'r cynnig.

·       Bydd unrhyw estyniad pellach yn amodol ar gytundeb WSP (yn ogystal â'r 3 Awdurdod Lleol arall).

 

Nodwch: Rhoddodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu wybod y bydd y Cyngor yn ceisio caniatâd y Llywydd i eithrio'r mater yma o gyfnod galw i mewn y Cyngor gan fod cymal 14.1 o'r Cytundeb Cyd-fenter yn nodi y bydd yn dod i ben ar ddiwedd y cyfnod cychwynnol (15 mlynedd) oni bai bod y 3 Awdurdod Lleol oedd wedi sefydlu'r cyd-fenter yn cytuno i estyn cyfnod y cytundeb o leiaf 60 diwrnod cyn dyddiad dod i ben y cytundeb (h.y. cyn 3 Gorffennaf 2023).

 

24.

Cynllun Rheoli Asedau Corfforaethol 2018/23: Diweddariad

Derbyn adroddiad Cyfarwyddwr Materion Eiddo'r Cyngor sy'n rhoi gwybod i'r Cabinet am y cynnydd sydd wedi'i wneud yn erbyn themâu allweddol Cynllun Rheoli Asedau Corfforaethol 2018 i 2023.

 

Cofnodion:

Rhannodd y Pennaeth Eiddo Strategol, y Gyfraith a Chymorth Materion Busnes yr adroddiad â'r Cabinet, roedd yr adroddiad yn amlinellu'r cynnydd sydd wedi'i wneud yn erbyn themâu allweddol Cynllun Rheoli Asedau Corfforaethol 2018/23. 

 

Yn dilyn trafodaeth, PENDERFYNODD y Cabinet:

1.    Trafod cynnwys yr adroddiad.