Agenda

Lleoliad: Hybrid (Zoom / 2 Llys Cadwyn, Stryd Taf, Pontypridd, CF37 4TH)

Cyswllt: Hannah Jones - Uned Busnes y Cyngor  07385401954

Cyfryngau

Eitemau
Rhif eitem

1.

Datgan Buddiant

Derbyn datganiadau o fuddiannau personol gan Aelodau, yn unol â'r Cod Ymddygiad.

 

Nodwch:

 

1.     Mae gofyn i Aelodau ddatgan rhif a phwnc yr agendwm y mae eu buddiant yn ymwneud ag ef a mynegi natur y buddiant personol hwnnw; a

2.     Lle bo Aelodau'n ymneilltuo o'r cyfarfod o ganlyniad i ddatgelu buddiant sy'n rhagfarnu, rhaid iddyn nhw roi gwybod i'r Cadeirydd pan fyddan nhw'n gadael.

 

Dogfennau ychwanegol:

2.

Cofnodion pdf icon PDF 204 KB

Cadarnhau cofnodion o gyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 20 Mawrth 2024 yn rhai cywir.

 

Dogfennau ychwanegol:

3.

Cynnig i gau Ysgol Gynradd Rhigos a throsglwyddo disgyblion i Ysgol Gynradd Hirwaun pdf icon PDF 226 KB

Derbyn adroddiad y Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Cynhwysiant sy'n rhoi gwybod i'r Cabinet am ganlyniad cyhoeddi Hysbysiad Statudol yn ddiweddar mewn perthynas â'r cynnig i gau Ysgol Gynradd Rhigos a throsglwyddo disgyblion i Ysgol Gynradd Hirwaun erbyn mis Medi 2024.

 

Dogfennau ychwanegol:

4.

Partneriaeth Lleoedd Busnes yn y Gymuned (BITC) a Rhondda Cynon Taf pdf icon PDF 146 KB

Derbyn adroddiad y Prif Weithredwr sy'n gofyn am gymeradwyaeth y Cabinet er mwyn sefydlu Partneriaeth Lleoedd Busnes yn y Gymuned (BITC) a Rhondda Cynon Taf.

 

Dogfennau ychwanegol:

5.

Cydweithfa Ymchwil ar Faterion Iechyd Rhondda Cynon Taf pdf icon PDF 152 KB

Derbyn adroddiad Cyfarwyddwr Iechyd a Diogelwch y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymuned sy'n rhoi'r diweddaraf i'r Cabinet mewn perthynas â chyllid i sefydlu Cydweithfa Ymchwil ar Faterion Iechyd Rhondda Cynon Taf a gofyn am gymeradwyaeth o ran nodau ac amcanion y gydweithfa ar gyfer 2024-2028.

 

Dogfennau ychwanegol:

6.

Strategaeth Ddrafft – Gofal Cymdeithasol i Oedolion pdf icon PDF 130 KB

Derbyn adroddiad Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol sy'n rhoi i'r Cabinet Strategaeth ddrafft – Gofal Cymdeithasol i Oedolion chwe blynedd newydd (2024/30) sy'n nodi'n gweledigaeth a blaenoriaethau hyd at 2030 ac yn gofyn am gymeradwyaeth i gynnal ymgynghoriad wedi'i dargedu.

 

Dogfennau ychwanegol:

7.

Addewid Rhianta Corfforaethol Drafft ar gyfer Rhondda Cynon Taf pdf icon PDF 145 KB

Derbyn adroddiad Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol sy'n rhoi gwybodaeth i'r Cabinet am ddatblygu Addewid Rhianta Corfforaethol drafft ar gyfer Rhondda Cynon Taf sy'n cefnogi gwaith gweithredu Siarter Rhianta Corfforaethol Llywodraeth Cymru – “Addewid Cymru.”

 

Dogfennau ychwanegol:

8.

Adolygiad y Gwasanaethau i Blant o'r Gwasanaeth Gwybodaeth, Cyngor a Chymorth pdf icon PDF 201 KB

Derbyn adroddiad Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol, sy'n rhoi trosolwg i'r Cabinet o'r gwaith trawsnewid sydd wedi'i gynllunio mewn perthynas â'r Gwasanaeth Gwybodaeth, Cyngor a Chymorth a gofyn am gytundeb i gymeradwyo a mabwysiadu'r Strategaeth Adolygu arfaethedig y cyfeirir ati isod, sef Cymorth Cywir, Amser Cywir a Lle Cywir.

 

Dogfennau ychwanegol:

9.

Materion Brys

Trafod unrhyw faterion brys y mae'r Cadeirydd yn eu gweld yn briodol.

 

Dogfennau ychwanegol: