Agenda a Chofnodion drafft

Lleoliad: Hybrid (Zoom / 2 Llys Cadwyn, Stryd Taf, Pontypridd, CF37 4TH)

Cyswllt: Emma Wilkins - Uned Busnes y Cyngor  07385 406118

Cyfryngau

Eitemau
Rhif eitem

114.

Croeso

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd y rhai a oedd yn bresennol i gyfarfod y Cabinet.

 

 

115.

Datgan Buddiant

Derbyn datganiadau o fuddiannau personol gan Aelodau, yn unol â'r Cod Ymddygiad.

 

Nodwch:

1.     Mae gofyn i Aelodau ddatgan rhif a phwnc yr agendwm y mae eu buddiant yn ymwneud ag ef a mynegi natur y buddiant personol hwnnw; a

2.     Lle bo Aelodau'n ymneilltuo o'r cyfarfod o ganlyniad i ddatgelu buddiant sy'n rhagfarnu, rhaid iddyn nhw roi gwybod i'r Cadeirydd pan fyddan nhw'n gadael.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Yn unol â Chod Ymddygiad y Cyngor, cafodd y datganiadau o fuddiant canlynol eu gwneud yngl?n â'r agenda:

 

·       Datganodd yr Arweinydd fuddiant personol mewn perthynas ag eitem 10 ar yr agenda – Rhaglen Gyfalaf Arfaethedig y Gyfadran Addysg a Gwasanaethau Cynhwysiant 2024-2025: "Rydw i'n Gadeirydd ar Gorff Llywodraethu rhai ysgolion sydd wedi'u nodi yn yr adroddiad";

·       Datganodd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion yr Hinsawdd a Gwasanaethau Corfforaethol fuddiant personol mewn perthynas ag eitem 10 ar yr agenda - Rhaglen Gyfalaf Arfaethedig y Gyfadran Addysg a Gwasanaethau Cynhwysiant 2024-2025: 'Rydw i'n rhan o Gorff Llywodraethu Ysgol Gynradd Maes-y-Coed, y cyfeirir ati yn yr adroddiad';

·       Datganodd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion Ffyniant a Datblygu fuddiant personol mewn perthynas ag eitem 10 ar yr agenda - Rhaglen Gyfalaf Arfaethedig y Gyfadran Addysg a Gwasanaethau Cynhwysiant 2024-2025: 'Rydw i rhan o Gorff Llywodraethu Ysgol Gynradd Cwm Clydach, y cyfeirir ati yn yr adroddiad';

·       Datganodd Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol K Johnson fuddiant personol mewn perthynas ag eitem 6 ar yr agenda - Adolygiad o Bolisi Cludo Disgyblion o'r Cartref i'r Ysgol y Cyngor: 'Rydw i'n rhan o Gorff Llywodraethu Ysgol Gynradd Maes-y-Bryn sy'n ysgol gyswllt ar gyfer un o'r ysgolion cyfun; rydw i'n rhiant ar ddau o blant a fydd yn teithio i ysgol gyfun yn y dyfodol; ac rydw i hefyd yn gweithio i Drafnidiaeth Cymru"; a

·       Datganodd Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol C Lisles fuddiant personol mewn perthynas ag eitem 6 ar yr agenda - Adolygiad o Bolisi Cludo Disgyblion o'r Cartref i'r Ysgol y Cyngor: 'Rydw i'n rhan o Gorff Llywodraethu Ysgol Gynradd y Ddraenen Wen ac Ysgol Gyfun y Ddraenen Wen, y cyfeirir atyn nhw yn yr adroddiad';

 

 

116.

Cofnodion pdf icon PDF 186 KB

Cadarnhau cofnodion o gyfarfod Pwyllgor y Cabinet a gynhaliwyd ar 21 Chwefror 2024 yn rhai cywir.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNODD y Cabinet gymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 21 Chwefror 2024 yn rhai cywir.

 

 

117.

Cynllun Dirprwyo'r Arweinydd - 3A

Derbyn diweddariad ynghylch Cynllun Dirprwyo'r Arweinydd er gwybodaeth.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNODD y Cabinet nodi'r newidiadau i Gynllun Dirprwyo'r Arweinydd.

 

 

118.

Adborth Rhag-graffu pdf icon PDF 156 KB

Derbyn adroddiad y Cyfarwyddwr Gwasanaeth – Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu sy'n rhoi adborth a sylwadau mewn perthynas â'r eitemau y rhag-graffwyd arnyn nhw gan Bwyllgorau Craffu thematig y Cyngor yn dilyn cyfarfodydd diweddaraf y Pwyllgorau, er gwybodaeth.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth – Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu  adborth a sylwadau i'r Cabinet mewn perthynas â'r eitemau y rhag-graffwyd arnyn nhw gan Bwyllgorau Craffu thematig y Cyngor yn dilyn cyfarfodydd diweddaraf y Pwyllgorau.

 

PENDERFYNODD y Cabinet:

1.   Nodi sylwadau'r Pwyllgorau Craffu yn dilyn rhag-graffu ar yr eitemau a restrir yn adran 5 o'r adroddiad.

 

 

 

119.

Rhaglen Waith y Cabinet pdf icon PDF 134 KB

Derbyn adroddiad y Cyfarwyddwr Gwasanaeth – Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu sy'n rhoi diweddariad o ran y rhestr arfaethedig i'r Cabinet o faterion sydd angen eu hystyried yn ystod gweddill Blwyddyn 2023–24 y Cyngor.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth – Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu adroddiad sy'n rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y rhestr arfaethedig o faterion y mae angen i'r Cabinet eu hystyried yn ystod Blwyddyn 2023-24 y Cyngor, a hynny er mwyn i Aelodau wneud sylwadau mewn perthynas â hyn.

 

PENDERFYNODD y Cabinet:

1.    Cymeradwyo'r Rhaglen Waith ar gyfer Blwyddyn y Cyngor 2023-24 (gan addasu'n briodol yn ôl yr angen) a chael yr wybodaeth ddiweddaraf bob 3 mis.

 

 

 

120.

Adolygiad o Bolisi Cludo Disgyblion o'r Cartref i'r Ysgol y Cyngor pdf icon PDF 127 KB

Derbyn adroddiad y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Priffyrdd, Gofal y Strydoedd a Thrafnidiaeth, yn cynnwys dogfennau perthnasol eraill mewn perthynas â'r Polisi Cludiant o'r Cartref i'r Ysgol newydd arfaethedig, sydd â'r nod o gynorthwyo'r Cabinet gyda'i benderfyniad.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhannodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Priffyrdd, Gofal y Strydoedd a Thrafnidiaeth ganlyniadau'r dasg ymgynghori â'r cyhoedd a gychwynnwyd gan y Cabinet, ynghyd â'r asesiadau o'r effaith ar Gydraddoldeb a'r Gymraeg diweddaraf mewn perthynas â Pholisi Cludo Disgyblion o'r Cartref i'r Ysgol newydd arfaethedig y Cyngor, a hynny i gynorthwyo'r Cabinet wrth iddo benderfynu a yw'n dymuno bwrw ymlaen gyda gweithredu'r Polisi Cludo Disgyblion o'r Cartref i'r Ysgol newydd.

 

Manteisiodd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion yr Amgylchedd a Hamdden ar y cyfle i ddiolch i'r swyddogion am rannu'r ohebiaeth a'r ymatebion i'r ymgynghoriad â'r Cabinet; a hefyd i ddiolch i'r trigolion am eu cyfraniad nhw, sydd wedi'i adlewyrchu yn yr adroddiad gyda 2858 o ymatebion gwerthfawr.

 

Nododd yr Aelod o'r Cabinet fod y Cyngor wedi darparu cludiant dewisol i fwy o ddysgwyr na bron pob un Cyngor arall yng Nghymru ers dros 10 mlynedd; a bod y Cyngor yn gyson wedi mynd y tu hwnt i'w ofynion cyfreithiol, fel y nodwyd gan Lywodraeth Cymru, o ran darparu cludiant am ddim i'w ddisgyblion.

Serch hynny, dywedodd yr Aelod o'r Cabinet, o ganlyniad i danariannu sylweddol gan Lywodraeth y DU a bwlch yn y gyllideb gwerth £85 miliwn dros y tair blynedd nesaf, rhaid i'r Cabinet ystyried cynigion a gyflwynwyd gan Swyddogion sy'n adolygu achosion lle mae ein gwasanaethau'n mynd y tu hwnt i'r gofyniad statudol a sut mae modd gwneud arbedion. Cyn cloi, pwysleisiodd yr Aelod o'r Cabinet fod costau cynyddol yn golygu bod polisi presennol y Cyngor mewn perthynas â Chludo Disgyblion o'r Cartref i'r Ysgol bellach yn anghynaladwy a chydnabu'r rheswm dros gyflwyno'r adroddiad er mwyn i'r Cabinet ei ystyried.

O ran y cynnydd sylweddol yng nghostau Cludo Disgyblion o'r Cartref i'r Ysgol, ychwanegodd yr Arweinydd ei fod wedi cynyddu o £8miliwn yn 2015 i dros £15miliwn yn y blynyddoedd diwethaf.

Ategodd yr Arweinydd sylwadau'r Aelod o'r Cabinet mewn perthynas â'r Cyngor yn mynd y tu hwnt i'r disgwyl o'i gymharu ag Awdurdodau Lleol eraill ac eglurodd pe byddai'r Cabinet yn cytuno â'r argymhellion sydd wedi’u nodi yn adroddiad y swyddogion, byddai'r Cyngor yn dal i ddarparu un o'r polisïau Cludo Disgyblion o'r Cartref i'r Ysgol mwyaf hael yng Nghymru, gyda nifer fawr o unigolion yn elwa o gludiant dewisol. Dywedodd yr Arweinydd fod 18 Awdurdod Lleol arall naill ai wedi gwneud newidiadau sylweddol neu heb ddarparu'r elfen ddewisol ers blynyddoedd.

Pwysleisiodd yr Arweinydd nad oedd hwn yn benderfyniad hawdd i'r Cabinet ei wneud ond roedd yn rhaid ystyried pob opsiwn yn rhan o’r broses o bennu'r gyllideb, a hynny oherwydd yr heriau ariannol eithriadol o ganlyniad i'r cyllid isel sydd wedi'i ddyrannu gan y Llywodraeth Ganolog a’r pwysau parhaus ar y gwasanaethau cymdeithasol.

Manteisiodd y Dirprwy Arweinydd ar y cyfle yn gyntaf i ddiolch i Aelodau'r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu am eu sylwadau gwerthfawr a'u hadborth a nododd y llythyr a luniwyd yn rhan o'r papurau oedd yn cael eu cyflwyno i'r Aelodau.

Cydnabu'r Dirprwy Arweinydd y pryderon a fynegwyd gan drigolion drwy gydol y broses ymgynghori ac adleisiodd  ...  view the full Cofnodion text for item 120.

121.

Gweithio Gyda'n Cymunedau - Drafft o Gynllun Corfforaethol y Cyngor ar gyfer 2024-2030 pdf icon PDF 141 KB

Derbyn adroddiad y Prif Weithredwr, sy'n amlinellu drafft o'r Cynllun Corfforaethol newydd ar gyfer 2024/5 - 2029/30. 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhannodd y Prif Weithredwr fanylion fersiwn drafft o'r Cynllun Corfforaethol newydd ar gyfer 2024/5 - 2029/30. 

 

Manteisiodd yr Arweinydd ar y cyfle i ddiolch i swyddogion am y gwaith a wnaed i ddatblygu'r Cynllun Corfforaethol drafft cynhwysfawr. Pwysleisiodd yr Arweinydd bwysigrwydd y cynllun strategol, sy'n cael ei ddefnyddio i lunio blaenoriaethau, cyllideb a Rhaglen Gyfalaf y Cyngor; a chydnabuwyd y byddai Cynllun 'hawdd ei ddarllen' llai yn cael ei ddatblygu o ganlyniad i hyn.

 

Roedd yr Arweinydd yn fodlon gyda'r Cynllun chwe blynedd newydd ac eglurodd y byddai modd cynnwys ychwanegiadau a newidiadau lle bo angen wrth i'r Cyngor ymateb i sefyllfaoedd penodol.

 

Adleisiodd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion yr Hinsawdd a Gwasanaethau Corfforaethol sylwadau'r Arweinydd ac roedd yn falch o nodi bod blaenoriaethau hinsawdd wedi'u gwreiddio drwy'r Cynllun. Ychwanegodd yr Aelod o'r Cabinet fod uchelgeisiau'r Cyngor yn gorbwyso'r heriau y mae'r Cyngor yn eu hwynebu.

 

PENDERFYNODD y Cabinet:

1.    Adolygu cynnwys y Cynllun Corfforaethol drafft ar gyfer 2024-30;

2.    Nodi a thrafod canlyniadau'r broses ymgynghori ac ymgysylltu;

3.    Trafod y sylwadau a'r adborth a gyflwynwyd yn dilyn gwaith rhag-graffu gan Bwyllgor Trosolwg a Chraffu'r Cyngor; ac

4.    Argymell bod y Cynllun Corfforaethol drafft yn cael ei gyflwyno i’r Cyngor i’w gymeradwyo yn ystod ei gyfarfod ar 24 Ebrill 2024.

 

 

 

122.

Adroddiad Cyflawniad y Cyngor – 31 Rhagfyr 2023 (Chwarter 3) pdf icon PDF 463 KB

Derbyn adroddiad y Dirprwy Brif Weithredwr a Chyfarwyddwr y Gyfadran Cyllid a Gwasanaethau Digidol a Rheng Flaen, sy'n rhoi trosolwg i'r Aelodau o gyflawniad y Cyngor dros naw mis cyntaf y flwyddyn ariannol hon hyd at 31 Rhagfyr 2023, a hynny o safbwynt ariannol a gweithredol fel ei gilydd.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd Cyfarwyddwr y Gyfadran Cyllid a Gwasanaethau Gwella drosolwg o gyflawniad y Cyngor o safbwynt ariannol a gweithredol. Roedd hyn yn seiliedig ar naw mis cyntaf y flwyddyn ariannol yma (hyd at 31 Rhagfyr 2023).

 

Cydnabu'r Aelod o'r Cabinet ar faterion yr Hinsawdd a Gwasanaethau Corfforaethol yr amgylchedd anodd y mae gwasanaethau'n gweithredu ynddo ar hyn o bryd; a'r pwysau ar draws y Cyngor o ran costau, sydd wedi'u heffeithio gan gynnydd yn y galw a lefelau chwyddiant uwch. Fodd bynnag, roedd pryderon yr Aelod o'r Cabinet yn parhau i gael eu tawelu gan y trefniadau rheoli gwasanaeth cadarn a'r gwaith rhagweithiol sy'n cael ei wneud ar draws y gwasanaethau i fynd i'r afael â'r heriau yma. Roedd yr Aelod o'r Cabinet yn arbennig o falch o nodi gwariant sylweddol y Rhaglen Gyfalaf, a oedd yn dangos buddsoddiad parhaus flwyddyn ar ôl blwyddyn ar draws asedau a seilwaith y Cyngor.

 

Soniodd yr Arweinydd am y gorwariant a ragwelwyd o bron i £2.5miliwn, mae hyn yn bennaf yn deillio o orwariant o £2.7miliwn yn y gwasanaethau cymdeithasol. Dywedodd yr Arweinydd fod hwn yn faes sy'n wynebu pwysau aruthrol ym mron pob Awdurdod Lleol ac eglurodd fod yn rhaid cwrdd â'r gofynion statudol, er gwaetha'r pwysau ariannol.

 

PENDERFYNODD y Cabinet:

 

Refeniw

1.    Nodi a chytuno ar sefyllfa alldro Cronfa Gyffredinol y Cyngor fel y mae ar 31 Rhagfyr 2023 (Adran 2 o'r Crynodeb Gweithredol);

2.     Gofyn bod y Cabinet yn cymeradwyo'r trosglwyddiadau sydd wedi eu rhestru yn Adrannau 2a–e o'r Crynodeb Gweithredol, sy'n uwch na'r trothwy o £0.100 miliwn yn unol â Rheolau Gweithdrefn Ariannol y Cyngor;

Cyfalaf

3.     Nodi sefyllfa alldro cyfalaf y Cyngor fel y mae ar 31 Rhagfyr 2023 (Adrannau 3a-e o'r Crynodeb Gweithredol);

4.     Nodi manylion Dangosyddion Materion Darbodusrwydd Cylch Rheoli’r Trysorlys fel y mae ar 31 Rhagfyr 2023 (Adran 3f o'r Crynodeb Gweithredol); a

Blaenoriaethau'r Cynllun Corfforaethol

5.     Nodi diweddariadau cynnydd Chwarter 3 ar gyfer blaenoriaethau Cynllun Corfforaethol y Cyngor (Adrannau 5 a – c o'r Crynodeb Gweithredol) sy'n cynnwys diweddariadau mewn perthynas â gwaith parhaus y Cyngor i gyflawni ei uchelgeisiau o ran Newid yn yr Hinsawdd.

 

 

 

123.

Rhaglen Gyfalaf Atodol 2024-25 ar gyfer y Priffyrdd, Trafnidiaeth a Chynlluniau Strategol pdf icon PDF 283 KB

Derbyn adroddiad y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Priffyrdd, Gofal y Strydoedd a Thrafnidiaeth, sy'n nodi rhaglen gyfalaf fanwl ar gyfer y Priffyrdd, Trafnidiaeth a Chynlluniau Strategol.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhannodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Priffyrdd, Gofal y Strydoedd a Thrafnidiaeth fanylion rhaglen gyfalaf fanwl ar gyfer y Priffyrdd, Trafnidiaeth a Chynlluniau Strategol.

 

Aeth yr Arweinydd ati i ddiolch i'r Cyfarwyddwr a nododd y rhaglen buddsoddi cyfalaf eang y manylwyd arni yn yr adroddiad. Roedd yr Arweinydd yn falch o ddweud bod Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau oddeutu £8miliwn o gyllid priffyrdd ar gyfer prosiectau mwy gan gynnwys teithio llesol a diogelwch y ffyrdd; ynghyd â thua £3.5-4miliwn ar gyfer rheoli perygl llifogydd.  Roedd yr Arweinydd yn hyderus y byddai grantiau pellach yn cael eu hychwanegu at y rhaglen eang drwy gydol y flwyddyn.

 

Siaradodd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion Iechyd a Gofal Cymdeithasol am effaith ddinistriol Storm Dennis yn RhCT pedair blynedd yn ôl, sydd wedi arwain at waith digynsail er mwyn ailadeiladu seilwaith hanfodol y Cyngor.  Roedd yr Aelod o'r Cabinet o'r farn bod y rhestr o waith sydd i'w gweld yn Nhabl 5 yn yr adroddiad yn dystiolaeth o'r buddsoddiad sydd ei angen.

 

Ychwanegodd yr Arweinydd fod pedair blynedd wedi mynd heibio ers cyflwyno’r cyfyngiadau symud cenedlaethol o ganlyniad i bandemig Covid-19 ac aeth ymlaen i ganmol y swyddogion am barhau i weithio ar welliannau ac atgyweiriadau i seilwaith yn dilyn Storm Dennis trwy gyfnod mor anodd. O ganlyniad i'r buddsoddiad a chyllid rheoli perygl llifogydd sylweddol, dywedodd yr Arweinydd y byddai'r Cyngor mewn gwell sefyllfa i wynebu digwyddiad fel Storm Dennis, pe bai'n digwydd eto.

 

PENDERFYNODD y Cabinet:

1.    Nodi a chymeradwyo'r Rhaglen Gyfalaf Atodol ar gyfer y Priffyrdd, Trafnidiaeth a Chynlluniau Strategol yn unol â'r manylion yn yr adroddiad; a

2.    Nodi bod y dyraniadau presennol yn rhan o raglen gyfalaf 3 blynedd sy'n dirprwyo awdurdod i Gyfarwyddwr y Gwasanaethau Priffyrdd, Gofal y Strydoedd a Thrafnidiaeth, mewn ymgynghoriad ag Arweinydd y Cyngor a'r Dirprwy Brif Weithredwr a Chyfarwyddwr y Gyfadran Cyllid, Gwasanaethau Digidol a Gwasanaethau Rheng Flaen, i ymestyn gweithgarwch i gyflawni prosiectau ychwanegol yn ystod y flwyddyn ariannol lle mae capasiti yn bodoli ar gyfer cyflwyno carlam yn unol â phwrpas y rhaglen ehangach, neu atal rhaglenni/prosiectau dros dro ac ailddyrannu cyllid er mwyn gwneud y budd gorau.

 

 

124.

Rhaglen Gyfalaf Arfaethedig Addysg a Gwasanaethau Cynhwysiant 2024-2025 pdf icon PDF 197 KB

Derbyn adroddiad y Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Cynhwysiant, sy'n darparu manylion ynghylch y gwaith cyfalaf i'w gymeradwyo ar gyfer 2024/25, yn rhan o Raglen Gyfalaf dair blynedd y Cyngor.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd Pennaeth Ysgolion yr 21ain Ganrif fanylion i Aelodau'r Cabinet ynghylch gweithiau cyfalaf i'w cymeradwyo ar gyfer 2024/25, yn rhan o Raglen Gyfalaf dair blynedd y Cyngor.

 

Croesawodd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion Addysg, Cyfranogiad Pobl Ifainc a’r Gymraeg yr ymrwymiad o £6.3miliwn yn rhan o’r Rhaglen Gyfalaf a phwysleisiodd mai penderfyniad strategol gan y Cabinet i gefnogi’r ysgolion oedd hwn. Nododd yr Aelod o'r Cabinet fod yr adroddiad yn cyfeirio at 'mân waith' ond pwysleisiodd nad oedd y gwahaniaeth y mae'r gwaith yn ei wneud i'r ysgolion yn fach, mae'n cyfrannu at sicrhau'r amgylchedd dysgu gorau oll i bobl ifainc y Fwrdeistref Sirol. Soniodd yr Aelod o'r Cabinet hefyd am y berthynas gadarnhaol a sefydlwyd rhwng yr Awdurdod Lleol ac arweinwyr yr ysgolion, a oedd yn cael ei werthfawrogi gan ysgolion.

 

PENDERFYNODD y Cabinet:

1.    Cymeradwyo cynlluniau blaenoriaethol y Rhaglen Gyfalaf (Addysg) ar gyfer 2024/25 fel sy'n cael eu hamlinellu yn Atodiadau 1-9 o'r adroddiad ac i gymeradwyo rhoi'r cynllun ar waith.

 

 

125.

Adroddiad Cydraddoldeb Blynyddol 2022-2023 pdf icon PDF 154 KB

Derbyn adroddiad y Cyfarwyddwr Materion Adnoddau Dynol sy'n cyflwyno gwybodaeth yngl?n ag Adroddiad Cydraddoldeb Blynyddol y Cyngor ar gyfer y flwyddyn 2022-2023.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Darparodd y Rheolwr Amrywiaeth a Chynhwysiant wybodaeth am Adroddiad Cydraddoldeb Blynyddol y Cyngor ar gyfer y flwyddyn 2022-2023.

 

Manteisiodd y Dirprwy Arweinydd ar y cyfle i ddiolch i'r garfan am y gwaith sylweddol a gafodd ei wneud er mwyn llunio’r Adroddiad Cydraddoldeb Blynyddol ac roedd yn falch o nodi bod y Cyngor wedi cyflawni'i Ddyletswydd Cydraddoldeb Cyffredinol. Roedd y Dirprwy Arweinydd yn cydnabod bod cydraddoldeb yn cwmpasu maes enfawr ac yn cael effaith ar holl waith y Cyngor.

 

Dymunodd y Dirprwy Arweinydd ddiolch hefyd i'r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu am ei sylwadau a'i adborth, sydd i'w gweld yn Atodiad 2 i'r adroddiad.

 

PENDERFYNODD y Cabinet:

1.    Trafod y sylwadau ac adborth yn dilyn gwaith rhag-graffu gan Bwyllgor Trosolwg a Chraffu'r Cyngor, fel sydd wedi'i nodi yn Atodiad 2 i'r adroddiad; a

2.    Cymeradwyo cynnwys yr Adroddiad Cydraddoldeb Blynyddol a'i gyhoeddi.

 

 

126.

Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2024-2028 pdf icon PDF 171 KB

Derbyn adroddiad y Cyfarwyddwr Materion Adnoddau Dynol sy'n cyflwyno gwybodaeth yngl?n â Chynllun Cydraddoldeb Strategol y Cyngor ar gyfer 2024-2028.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhannodd y Rheolwr Amrywiaeth a Chynhwysiant wybodaeth â'r Cabinet mewn perthynas â Chynllun Cydraddoldeb Strategol y Cyngor (2024-2028).

 

Manteisiodd y Dirprwy Arweinydd ar y cyfle i ddiolch i'r garfan am y gwaith sylweddol sydd ynghlwm â chynhyrchu'r Cynllun Cydraddoldeb Strategol ac i'r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu am ei sylwadau a'i adborth, sydd wedi'i nodi yn Atodiad 2 i'r adroddiad.

 

Nododd y Dirprwy Arweinydd fod y Cynllun yn cynnwys yr holl nodweddion gwarchodedig a manylion o ran sut mae cyflawniad yn cael ei fesur. Ychwanegodd y Dirprwy Arweinydd fod yr Awdurdod Lleol wedi gwneud cynnydd da ond bod lle i wella.

 

PENDERFYNODD y Cabinet:

1.    Trafod y sylwadau ac adborth, yn dilyn gwaith rhag-graffu gan Bwyllgor Trosolwg a Chraffu'r Cyngor; a

2.    Cymeradwyo cynnwys y Cynllun Cydraddoldeb Strategol a'i gyhoeddi.

 

 

127.

Gweithio i greu Rhondda Cynon Taf Oed-gyfeillgar pdf icon PDF 142 KB

Derbyn adroddiad y Cyfarwyddwr Iechyd a Diogelwch y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymuned, sy'n darparu gwybodaeth i Aelodau mewn perthynas ag ymrwymiad parhaus y Cyngor i fod yn Gymuned Oed-gyfeillgar, a'i gais arfaethedig i ddod yn aelod o Rwydwaith Byd-eang Sefydliad Iechyd y Byd o Ddinasoedd a Chymunedau Oed-gyfeillgar.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhannodd Pennaeth y Celfyddydau, Diwylliant a Gwasanaethau Llyfrgelloedd wybodaeth ag Aelodau mewn perthynas ag ymrwymiad parhaus y Cyngor i fod yn Gymuned Oed-gyfeillgar, a'i gais arfaethedig i ddod yn aelod o Rwydwaith Byd-eang Sefydliad Iechyd y Byd o Ddinasoedd a Chymunedau Oed-gyfeillgar.

 

Dymunodd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion Iechyd a Gofal Cymdeithasol ddiolch i'r swyddog am yr adroddiad a dywedodd ei fod yn dystiolaeth o ymrwymiad parhaus y Cyngor i ddod yn gymuned oed-gyfeillgar. Siaradodd yr Aelod o'r Cabinet am weledigaeth y Cyngor, sef sicrhau bod RhCT yn lle gwych i heneiddio a bod trigolion h?n yn teimlo eu bod yn cael eu clywed, eu gwerthfawrogi a’u hysbysu.

 

Roedd yr Aelod o'r Cabinet, ac yntau'n cyflawni rôl Hyrwyddwr Pobl H?n, yn falch o gefnogi’r Cyngor i gyflwyno cais i ddod yn aelod o Rwydwaith Byd-eang Sefydliad Iechyd y Byd o Ddinasoedd a Chymunedau Oed-gyfeillgar.

 

Ategodd y Dirprwy Arweinydd sylwadau'r Aelod o'r Cabinet ac roedd yn falch o gefnogi'r argymhellion yn yr adroddiad.

 

PENDERFYNODD y Cabinet:

1.    Trafod yr wybodaeth sydd wedi'i chynnwys yn yr adroddiad a chymeradwyo cyflwyno cais i ddod yn aelod o Rwydwaith Byd-eang Sefydliad Iechyd y Byd o Ddinasoedd a Chymunedau Oed-gyfeillgar.

 

 

128.

Asesiad o'r Farchnad Dai Leol 2023-2028 pdf icon PDF 136 KB

Derbyn adroddiad y Cyfarwyddwr Materion Ffyniant a Datblygu, sy'n cyflwyno canfyddiadau'r Asesiad o'r Farchnad Dai Leol 2023 – 2028 i'r Cabinet; ac yn ceisio cymeradwyaeth cyn i'r ddogfen gael ei chyflwyno i Lywodraeth Cymru a'i chyhoeddi.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Pennaeth Strategaeth Tai a Buddsoddi Mewn Tai ganfyddiadau'r Asesiad o'r Farchnad Dai Leol 2023 – 2028 i'r Cabinet a gofynnodd am gymeradwyaeth i’w chyflwyno i Lywodraeth Cymru ac yna i hysbysebu'r ddogfen.

 

Canmolodd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion Datblygu a Ffyniant y darn o waith, a oedd wedi'i seilio ar ddeilliannau data lleol sy'n cael ei fwydo i raglen fodelu Llywodraeth Cymru. Pwysleisiodd yr Aelod o'r Cabinet bwysigrwydd y ddogfen strategol, sydd, yn ei thro, yn bwydo i mewn i Strategaeth Dai'r Cyngor a'r strategaeth newydd a ffefrir ar gyfer y Cynllun Datblygu Lleol, sy'n destun ymgynghoriad ar hyn o bryd.

 

PENDERFYNODD y Cabinet:

1.    Cymeradwyo Asesiad o'r Farchnad Dai Leol 2023-2028 yn ffynhonnell allweddol o dystiolaeth i gefnogi gwaith cyflwyno polisïau tai yng Nghynllun Corfforaethol, Cynllun Datblygu Lleol a Chynllun Cyflenwi Tai y Cyngor;

2.    Cymeradwyo Asesiad o'r Farchnad Dai Leol 2023-2028 fel offeryn i negodi darpariaeth tai fforddiadwy ar geisiadau cynllunio ac i nodi sut mae angen tai yn golygu gwahanol feintiau a mathau o dai fforddiadwy (e.e. rhent cymdeithasol a pherchnogaeth tai cost isel); a

3.    Cymeradwyo'r Asesiad o'r Farchnad Dai Leol 2022-2037 i'w ddefnyddio i lywio ceisiadau am gyllid (gan gynnwys Grant Tai Cymdeithasol) ac i ddylanwadu ar ddatblygiadau preswyl yn y Fwrdeistref Sirol.

 

 

129.

Trafod cadarnhau'r cynnig isod yn benderfyniad

“Bod y cyfarfod hwn yn cadw aelodau o'r wasg ac aelodau o'r cyhoedd allan o ystafell y cyfarfod, dan Adran 100A(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol (fel y'i diwygiwyd), yn ystod trafod yr eitem nesaf, ar y sail y byddai'n debygol o olygu datgelu gwybodaeth eithriedig yn ôl diffiniad paragraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf.”

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:“Bod y cyfarfod yma yn cadw aelodau o'r wasg ac aelodau o'r cyhoedd allan o ystafell y cyfarfod, dan Adran 100A(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol (fel y'i diwygiwyd), yn ystod trafod yr agendwm nesaf, ar y sail y byddai'n debygol o olygu datgelu gwybodaeth eithriedig yn ôl diffiniad paragraff xx o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf.”

 

 

130.

Dileu dyledion nad oes modd eu casglu

Derbyn adroddiad y Dirprwy Brif Weithredwr a Chyfarwyddwr y Gyfadran Cyllid a Gwasanaethau Digidol a Rheng Flaen sy'n rhoi datganiad sefyllfa i'r Aelodau ar ddyledion nad oes modd eu casglu, ac sy'n pennu'r gofyniad i ddileu symiau penodol yn unol â meini prawf adolygu llym.  

 

Cofnodion:

Yn dilyn trafodaeth am adroddiad y Dirprwy Brif Weithredwr a Chyfarwyddwr y Gyfadran Cyllid, Gwasanaethau Digidol a Gwasanaethau Rheng Flaen sy'n cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffinnir ym Mharagraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol, 1972 (fel y'i diwygiwyd), sef gwybodaeth sy'n ymwneud â materion ariannol unrhyw rai penodol (gan gynnwys yr awdurdod sy'n dal yr wybodaeth honno), PENDERFYNODD y Cabinet:

 1.   Dileu'r cyfrifon sydd wedi'u nodi yn y Ddarpariaeth o Ddyledion sydd wedi'i chynnwys yng nghyfrifon y Cyngor (gan geisio taliad os daw rhagor o wybodaeth am unrhyw ddyled i'r amlwg).