Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Rhithwir

Cyswllt: Emma Wilkins - Uned Busnes y Cyngor  07385406118

Cyfryngau

Eitemau
Rhif eitem

106.

Datgan Buddiant

Derbyn datganiadau o fuddiannau personol gan Gynghorwyr, yn unol â gofynion Cod Ymddygiad y Cyngor.

 

Nodwch:

 

1.     Mae gofyn i Aelodau ddatgan rhif a phwnc yr agendwm y mae eu buddiant yn ymwneud ag ef a mynegi natur y buddiant personol hwnnw; a

2.     Lle bo Aelodau'n ymneilltuo o'r cyfarfod o ganlyniad i ddatgelu buddiant sy'n rhagfarnu, rhaid iddyn nhw roi gwybod i'r Cadeirydd pan fyddan nhw'n gadael.

 

Cofnodion:

Yn unol â Chod Ymddygiad y Cyngor, doedd dim datganiadau o fuddiant yngl?n â'r agenda.

 

107.

Cofnodion pdf icon PDF 186 KB

Cadarnhau cofnodion o gyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 24 Ionawr 2024 yn rhai cywir.

 

Cofnodion:

PENDERFYNODD y Cabinet gymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 24 Ionawr 2024 yn rhai cywir.

 

108.

Adborth Rhag-graffu pdf icon PDF 149 KB

Derbyn adroddiad y Cyfarwyddwr Gwasanaeth – Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu sy'n rhoi adborth a sylwadau mewn perthynas â'r eitemau y rhag-graffwyd arnyn nhw gan Bwyllgorau Craffu thematig y Cyngor yn dilyn cyfarfodydd diweddaraf y Pwyllgorau.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth – Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu  adborth a sylwadau i'r Cabinet mewn perthynas â'r eitemau y rhag-graffwyd arnyn nhw gan Bwyllgorau Craffu thematig y Cyngor yn dilyn cyfarfodydd diweddaraf y Pwyllgorau.

 

PENDERFYNODDy Cabinet:

1.   Nodi sylwadau'r Pwyllgorau Craffu yn dilyn rhag-graffu ar yr eitemau a restrir yn adran 5 o'r adroddiad.

 

 

109.

Cyllideb Refeniw'r Cyngor ar gyfer 2024–2025 pdf icon PDF 124 KB

Derbyn adroddiad y Dirprwy Brif Weithredwr a Chyfarwyddwr y Gyfadran Cyllid, Gwasanaethau Digidol a Gwasanaethau Rheng Flaen, sy'n rhoi'r cyfle i'r Cabinet drafod y strategaeth gyllideb ddrafft y bydden nhw'n dymuno ei chyflwyno i'r Cyngor, a'i diwygio yn ôl yr angen.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyn adroddiad y Dirprwy Brif Weithredwr a Chyfarwyddwr y Gyfadran Cyllid a Gwasanaethau Digidol a Rheng Flaen, sy'n rhoi'r cyfle i'r Cabinet drafod y strategaeth gyllideb ddrafft y bydden nhw'n dymuno ei chyflwyno i'r Cyngor, a'i diwygio yn ôl yr angen.

 

Diolchodd yr Arweinydd i'r Dirprwy Brif Weithredwr am yr adroddiad.

 

Er bod yr Arweinydd yn croesawu’r £25 miliwn ychwanegol ar gyfer Llywodraethau Lleol yng Nghymru, eglurodd fod angen £1.5 biliwn ychwanegol ar gynghorau yn Lloegr er mwyn mynd i'r afael â phwysau, ond dim ond £600 miliwn a gyhoeddwyd. Dim ond £500 miliwn o'r £600 miliwn yma sy'n arian newydd. O ganlyniad i hyn, dim ond £25 miliwn a roddwyd i Gymru.

 

Cyfaddefodd yr Arweinydd mai hwn oedd y bwlch mwyaf heriol yn y gyllideb iddo ei wynebu yn ystod ei gyfnod wrth y llyw, a hynny oherwydd pwysau cyflog, pwysau gwasanaeth a chwyddiant a'r ffaith nad oes cynnydd yn y cyllid Grant Cynnal Refeniw. Roedd yr Arweinydd o’r farn bod y Gyllideb Refeniw arfaethedig ar gyfer 2024/25 yn mynd i'r afael â hyn yn y ffordd orau bosibl yn ystod cyfnod mor heriol, a nododd ei bod hi'n sefyllfa ffafriol o gymharu ag Awdurdodau Lleol eraill, lle mae cynnydd 7/8%, neu fwy na 10%, yn Nhreth y Cyngor.

 

Nododd yr Arweinydd mai 4.9% oedd y cynnydd arfaethedig yn Nhreth y Cyngor RhCT, ond cynigodd ei fod yn cael ei ddiwygio i 4.99%, gan egluro y byddai'r 0.9% ychwanegol yn helpu gyda phwysau o ran trafnidiaeth gyhoeddus.

 

Cyfeiriodd yr Arweinydd at y cynnydd yn y gyllideb sylfaenol ar gyfer ysgolion, sef 6.4% a chynigiodd fod £500,000 pellach o arian untro ychwanegol yn cael ei ddyrannu i Ysgolion, a fyddai'n helpu gyda'r costau mae ysgolion yn eu hwynebu.

 

Roedd y Dirprwy Arweinydd yn cefnogi gwelliannau'r Arweinydd i'r argymhellion yn yr adroddiad. Canmolodd y Dirprwy Arweinydd drefnau ariannol cadarn y Cyngor, a oedd wedi ein galluogi ni i gynnig un o'r lefelau isaf o gynnydd yn Nhreth y Cyngor ledled Cymru. Gan gyfeirio at yr ymatebion i'r ymgynghoriad, roedd y Dirprwy Arweinydd o'r farn bod sefyllfa ariannol enbyd yr awdurdodau lleol yn cael ei chydnabod ymhlith y cymunedau.

 

Dywedodd y Dirprwy Arweinydd nad oes gan yr Awdurdod Lleol unrhyw gylch gorchwyl dros faterion ariannol y Cynghorau Cymuned, ond dywedodd fod nifer o'r Cynghorau Cymuned wedi cysylltu â'r Cyngor i edrych ar drefniadau cydweithio, a allai fod yn fuddiol yn y dyfodol.

 

Roedd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion Ffyniant a Datblygu yn dymuno cofnodi ei ddiolch i'r Uwch Swyddogion Cyllid am gyflwyno cyllideb arfaethedig gadarnhaol; a chroesawodd y taliad untro ychwanegol ar gyfer ysgolion.

 

Ategodd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion Addysg, Cyfranogiad Pobl Ifainc a'r Gymraeg y sylwadau blaenorol ac roedd o blaid argymhelliad ychwanegol yr Arweinydd mewn perthynas â rhoi cymorth i ysgolion. Dywedodd yr Aelod o'r Cabinet fod holl Aelodau'r Cabinet bob amser yn ceisio diogelu ysgolion yn ariannol, lle bo modd gwneud hynny. Roedd yr Aelod o'r Cabinet o'r farn y byddai hyn yn rhoi cymorth pellach  ...  view the full Cofnodion text for item 109.

110.

Rhaglen Gyfalaf y Cyngor 2024/25 - 2026/27 pdf icon PDF 230 KB

Derbyn adroddiad Dirprwy Brif Weithredwr a Chyfarwyddwr y Gyfadran Cyllid, Gwasanaethau Digidol a Gwasanaethau Rheng Flaen, sy'n cyflwyno i'r Cabinet raglen gyfalaf dair blynedd arfaethedig ar gyfer 2024/25 hyd at 2026/27, a fydd yn cael ei chyflwyno i'r Cyngor i'w chymeradwyo, os yw'n dderbyniol.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyn adroddiad Dirprwy Brif Weithredwr a Chyfarwyddwr y Gyfadran Cyllid a Gwasanaethau Digidol a Rheng Flaen, sy'n cyflwyno rhaglen gyfalaf dair blynedd arfaethedig ar gyfer 2024/25 hyd at 2026/27, a fydd yn cael ei chyflwyno i'r Cyngor i'w chymeradwyo yn dilyn cymeradwyaeth Aelodau'r Cabinet.

 

Diolchodd yr Arweinydd i'r Dirprwy Brif Weithredwr am yr adroddiad.

 

Cyfeiriodd yr Arweinydd at y £19.292 miliwn ychwanegol o gyllid sylweddol a restrwyd yn Adran 6.2 yr adroddiad, ac eglurodd fod y blaenoriaethau buddsoddi yn gysylltiedig â naill ai Cynllun Corfforaethol y Cyngor neu ymrwymiadau maniffesto'r Cabinet. Eglurodd yr Arweinydd fod y ffigur yma ar ben y rhaglen gyfalaf ehangach, sy'n cynnwys miliynau o bunnoedd o fuddsoddiadau ar gyfer adfywio, grantiau tai ac ysgolion ac ati. Ychwanegodd yr Arweinydd y byddai'r bidiau arfaethedig sydd wedi'u cyflwyno i Lywodraeth Cymru yn cael eu hychwanegu at y Rhaglen Gyfalaf pe bai'r Cabinet yn cymeradwyo hyn.

 

Tynnodd yr Arweinydd sylw'r Aelodau at y buddsoddiad yn Fferm Solar Coed-elái, a fyddai’n caniatáu i’r Cyngor gynhyrchu ei ynni adnewyddadwy ei hun a lleihau costau ynni yn y dyfodol. Soniodd hefyd am Gae Hoci'r Ddraenen Wen, sy'n ymrwymiad sydd wedi'i nodi eisoes.

 

Canmolodd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion yr Hinsawdd a Gwasanaethau Corfforaethol ddatblygiad Porth y De ym Mhontypridd, a dywedodd y byddai'n gwneud gwahaniaeth cadarnhaol yng nghanol y dref drwy alluogi ymwelwyr o gyfeiriad y Gogledd a'r De i gefnogi busnesau.

 

Manteisiodd y Dirprwy Arweinydd, yn rhinwedd ei swydd yn Hyrwyddwr y Lluoedd Arfog, ar y cyfle i ddiolch i’r Arweinydd am y gefnogaeth a roddwyd i deuluoedd cyn-filwyr. Soniodd y Dirprwy Arweinydd am gynnwys £100,000 tuag at ddigideiddio cofebion rhyfel, sef y prosiect cenedlaethol cyntaf o’i fath. Byddai ysgolion, grwpiau a chymunedau lleol yn cyfrannu at y gwaith yma. Aeth y Dirprwy Arweinydd ati i gydnabod mai hi oedd un o’r unig Hyrwyddwyr Lluoedd Arfog gyda chyllideb weithredol, gan nodi bod hyn yn cael ei werthfawrogi’n fawr gan gymuned y lluoedd arfog.

 

PENDERFYNODDy Cabinet:

1.    Cynnig y rhaglen gyfalaf tair blynedd sy'n cael ei chynnwys yn Atodiad A o'r adroddiad i'r Cyngor ar 6 Mawrth 2024. Mae'r rhaglen yma'n cynnwys:

-Dyraniad adnoddau arfaethedig fel y manylir ym mharagraff 5 o'r adroddiad sydd ynghlwm;

-       Blaenoriaethau buddsoddi arfaethedig fel sy'n cael eu manylu ym mharagraff 6.2 yr adroddiad sydd ynghlwm;

- Rhaglen gyfalaf graidd y Cyngor;

-       Cyfanswm rhaglen gyfalaf y Cyngor, gan gynnwys cyllid ychwanegol sydd ddim yn gyllid craidd.

 

2.     Awdurdodi'r Dirprwy Brif Weithredwr a Chyfarwyddwr y Gyfadran Cyllid a Gwasanaethau Digidol a Rheng Flaen i ddiwygio lefel Adnoddau'r Cyngor sydd eu hangen i ariannu'r Rhaglen Gyfalaf Tair Blynedd Graidd, fel sydd wedi'i nodi yn Atodiad 2, o ganlyniad i unrhyw newid i lefelau adnoddau cyfalaf y Cyngor a gaiff ei gyhoeddi yn y Setliad Llywodraeth Leol Terfynol.

 

 

111.

Cynlluniau Rhyddhad Ardrethi Annomestig 2024/25 pdf icon PDF 164 KB

Derbyn adroddiad y Dirprwy Brif Weithredwr a Chyfarwyddwr y Gyfadran Cyllid, Gwasanaethau Digidol a Gwasanaethau Rheng Flaen, sy'n darparu manylion Cynllun Ardrethi Annomestig – Rhyddhad Ardrethi Manwerthu, Hamdden a Lletygarwch Llywodraeth Cymru ar gyfer 2024/25; manylion cynllun y Cyngor ar gyfer Lleihau Ardrethi Busnes Lleol; a manylion y Cynllun Rhyddhad Ardrethi Annomestig sydd ar gael i unigolion cymwys sy'n talu Ardrethi Busnes o 1 Ebrill 2024.

 

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Pennaeth Materion Refeniw a Budd-daliadau fanylion Cynllun Ardrethi Annomestig – Rhyddhad Ardrethi Manwerthu, Hamdden a Lletygarwch Llywodraeth Cymru ar gyfer 2024/25; manylion cynllun y Cyngor ar gyfer Lleihau Ardrethi Busnes Lleol; a manylion y Cynllun Rhyddhad Ardrethi Annomestig sydd ar gael i'r sawl cymwys sy'n talu Ardrethi Busnes o 1 Ebrill 2024.

 

Croesawodd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion yr Hinsawdd a Gwasanaethau Corfforaethol yr argymhellion yn yr adroddiad, gan gydnabod yr addewid i fusnesau o fewn Cynllun Corfforaethol y Cyngor. Dywedodd yr Aelod o'r Cabinet y byddai mabwysiadu Cynllun Manwerthu, Hamdden a Lletygarwch Llywodraeth Cymru a'r cynllun dewisol lleol yn darparu cymorth ariannol y mae mawr ei angen i fusnesau ledled RhCT.

 

Roedd yr Arweinydd yn falch o nodi y byddai'r cynllun rhyddhad ardrethi busnes lleol yn parhau i ddarparu cymorth ariannol i'r busnesau llai yng nghanol trefi, ac eglurodd fod RhCT ymhlith nifer fach o Awdurdodau Lleol yng Nghymru sydd wedi rhoi cynllun o'r fath ar waith.

 

PENDERFYNODDy Cabinet:

1.             Nodi manylion Cynllun Manwerthu, Hamdden a Lletygarwch Llywodraeth Cymru a mabwysiadu'r cynllun yn ffurfiol ar gyfer y flwyddyn 2024/25;

2.             Nodi parhad y Cynllun Lleihau Ardrethi Busnes lleol arfaethedig ar gyfer 2024/25; a

3.             Nodi’r rhyddhad Ardrethi Annomestig newydd sydd ar gael i dalwyr ardrethi busnes cymwys o 1 Ebrill 2024.

 

 

112.

Deddf Rheoleiddio Pwerau Ymchwilio (RIPA) 2000 a Deddf Pwerau Ymchwilio 2016 a Defnydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf o Bwerau Ymchwilio yn ystod 2023 pdf icon PDF 239 KB

Derbyn adroddiad Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cyfreithiol a Gwasanaethau Democrataidd a Chyfarwyddwr Iechyd a Diogelwch y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymuned sy'n rhoi cyfle i'r Cabinet adolygu defnydd y Cyngor o Ddeddf Rheoleiddio Pwerau Ymchwilio 2000 (fel y'i diwygiwyd) ar gyfer y cyfnod rhwng 1 Ionawr a 31 Rhagfyr 2023; a defnydd y Cyngor o Gaffael Data Cyfathrebu o dan Ddeddf Pwerau Ymchwilio 2016 ar gyfer yr un cyfnod.

 

 

Cofnodion:

Cyflwynodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cyfreithiol a Gwasanaethau Democrataidd adroddiad sy'n rhoi cyfle i'r Cabinet adolygu defnydd y Cyngor o Ddeddf Rheoleiddio Pwerau Ymchwilio 2000 (fel y'i diwygiwyd) ar gyfer y cyfnod rhwng 1 Ionawr a 31 Rhagfyr 2023; a defnydd y Cyngor o Gaffael Data Cyfathrebu o dan Ddeddf Pwerau Ymchwilio 2016 ar gyfer yr un cyfnod.

 

Nododd y Dirprwy Arweinydd fod Deddf Rheoleiddio Pwerau Ymchwilio 2000 yn berthnasol o ran ystod eang o wasanaethau'r Cyngor, gan gynnwys y drefn drwyddedu. Pwysleisiodd y Dirprwy Arweinydd ei bod hi'n bwysig defnyddio'r pwerau yma mewn modd priodol ac roedd hi o'r farn bod y diweddariad yn cadarnhau bod y Cyngor wedi gwneud hynny.

 

O ran y cynnydd mewn monitro cyfryngau cymdeithasol, teimlai’r Dirprwy Arweinydd fod hyn yn arwydd o sut mae unigolion yn byw eu bywydau.

 

PENDERFYNODDy Cabinet:

1.    Nodi cynnwys yr adroddiad;

2 .Cydnabod bod pwerau ymchwilio mewn perthynas â gwyliadwriaeth gudd a chaffael data cyfathrebu wedi'u defnyddio mewn modd priodol sy'n gyson â pholisïau Deddf Rheoleiddio Pwerau Ymchwilio a Ddeddf Pwerau Ymchwilio y Cyngor yn ystod y cyfnod o  1 Ionawr i 31 Rhagfyr 2023.

 

 

 

113.

Polisi Diogelu Corfforaethol y Cyngor pdf icon PDF 144 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr yr adroddiad, a oedd yn ceisio Cymeradwyaeth y Cabinet o ran y Polisi Diogelu Corfforaethol diwygiedig.

 

Pwysleisiodd yr Arweinydd bwysigrwydd y ddogfen ac roedd yn hapus i gytuno â'r argymhellion yn yr adroddiad.

 

Diolchodd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion Iechyd a Gofal Cymdeithasol i'r Prif Weithredwr am y ddogfen bolisi hollgynhwysol a manteisiodd hefyd ar y cyfle i ddiolch i Bwyllgor Trosolwg a Chraffu'r Cyngor, a fu'n rhag-graffu ar y trefniadau yn ei gyfarfod ar 29 Ionawr 2024.

 

Pwysleisiodd yr Aelod o'r Cabinet bwysigrwydd diogelu plant ac oedolion rhag niwed ac esgeulustod a chroesawodd yr argymhellion oedd gerbron yr Aelodau.

 

PENDERFYNODDy Cabinet:

1.    Nodi'r wybodaeth oedd wedi ei chynnwys yn yr adroddiad;

2.     Nodi’r adborth a ddarparwyd gan y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu yn ei gyfarfod ar 29 Ionawr 2024; a

3.     Cymeradwyo'r Polisi Diogelu Corfforaethol newydd, a gyflwynir yn Atodiad I i'r adroddiad.