Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Rhithwir

Cyswllt: Hannah Jones - Uned Busnes y Cyngor  07385401954

Cyfryngau

Eitemau
Rhif eitem

95.

Croeso ac Ymddiheuriadau

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Croesawodd yr Arweinydd bawb oedd yn bresennol i gyfarfod y Cabinet a derbyniwyd ymddiheuriad am absenoldeb gan yr Aelod o'r Cabinet ar faterion Iechyd a Gofal Cymdeithasol.

 

96.

Datgan Buddiant

Derbyn datganiadau o fuddiannau personol gan Aelodau, yn unol â'r Cod Ymddygiad.

 

Nodwch:

1.    Mae gofyn i Aelodau ddatgan rhif a phwnc yr agendwm y mae eu buddiant yn ymwneud ag ef a mynegi natur y buddiant personol hwnnw; a

2.    Lle bo Aelodau'n ymneilltuo o'r cyfarfod o ganlyniad i ddatgelu buddiant sy'n rhagfarnu, rhaid iddyn nhw roi gwybod i'r Cadeirydd pan fyddan nhw'n gadael.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Yn unol â'r Cod Ymddygiad, cafodd y datganiadau personol canlynol eu gwneud mewn perthynas ag Eitem 8 yr agenda – Adolygu Cronfa Deddf Eglwys Cymru:

·       Yr Arweinydd – "Rydw i'n rhan o nifer o sefydliadau sydd wedi elwa o'r Gronfa";

·       Y Dirprwy Arweinydd – "Rydw i'n cadeirio gr?p sydd wedi derbyn arian oddi wrth y Gronfa";

·       Yr Aelod o'r Cabinet ar faterion yr Amgylchedd a Hamdden – "Rydw i'n rhan o gr?p sy'n derbyn arian oddi wrth y Gronfa";

·       Yr Aelod o'r Cabinet ar faterion Datblygu a Ffyniant – "Rydw i'n rhan o gr?p sy'n derbyn arian oddi wrth y Gronfa"; ac

·       Yr Aelod o'r Cabinet ar faterion Addysg, Cyfranogiad Pobl Ifainc a'r Gymraeg - "Rydw i'n Llywodraethwr yn Ysgol Gynradd Gymraeg Abercynon".

 

97.

Cofnodion pdf icon PDF 180 KB

Derbyn cofnodion o gyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 18 Rhagfyr 2023 yn rhai cywir.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNODD y Cabinet gymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 18 Rhagfyr 2023.

 

98.

Adborth Rhag-graffu Pwyllgorau pdf icon PDF 164 KB

Derbyn adroddiad y Cyfarwyddwr Gwasanaeth – Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu sy'n rhoi adborth a sylwadau mewn perthynas â'r eitemau y rhag-graffwyd arnyn nhw gan Bwyllgorau Craffu thematig y Cyngor yn dilyn cyfarfodydd diweddaraf y Pwyllgorau.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Er gwybodaeth, cyflwynodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu  adborth a sylwadau mewn perthynas â'r eitemau y rhag-graffwyd arnyn nhw gan Bwyllgorau Craffu thematig y Cyngor yn dilyn cyfarfodydd diweddaraf y Pwyllgorau.

 

PENDERFYNODDy Cabinet:

1.   Nodi sylwadau'r Pwyllgorau Craffu yn dilyn rhag-graffu ar yr eitemau a restrir yn adran 5 o'r adroddiad.

 

 

99.

Darpariaeth Clwb Brecwast am Ddim mewn ysgolion cynradd ac arbennig a chyflwyno tâl am yr elfen gofal plant ychwanegol pdf icon PDF 204 KB

Derbyn adroddiad y Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Cynhwysiant sy'n rhoi gwybod i'r Cabinet am ganlyniad yr ymgynghoriad diweddar ynghylch cynnig i gyflwyno tâl ar gyfer yr elfen gofal plant ychwanegol, sydd ar gael cyn i'r ddarpariaeth clwb brecwast am ddim ddechrau mewn ysgolion cynradd ac arbennig yn Rhondda Cynon Taf, gan nodi y byddai disgyblion sy'n cael Prydau Ysgol am Ddim (eFSM) yn cael eu heithrio o unrhyw dâl.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Cynhwysiant wybod i'r Cabinet am ganlyniad yr ymgynghoriad diweddar ynghylch cynnig i gyflwyno tâl ar gyfer yr elfen gofal plant ychwanegol, sydd ar gael cyn i'r ddarpariaeth clwb brecwast am ddim ddechrau mewn ysgolion cynradd ac arbennig yn Rhondda Cynon Taf, gan nodi y byddai disgyblion sy'n cael Prydau Ysgol am Ddim (eFSM) yn cael eu heithrio o unrhyw dâl.

 

Diolchodd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion Addysg, Cyfranogiad Pobl Ifainc a'r Gymraeg i'r swyddogion am yr adroddiad a diolchodd i'r rheiny wnaeth ymateb i'r ymgynghoriad.

 

Roedd yr Aelod o'r Cabinet yn cydnabod bod y Cabinet yn ystyried y cynnig oherwydd yr heriau ariannol sylweddol sy'n wynebu'r Cyngor. Nododd yr Aelod o'r Cabinet y byddai'r cynigion gerbron y Pwyllgor yn cynnal mynediad i frecwast am ddim i bob disgybl; ac y byddai unrhyw incwm ychwanegol yn cael ei neilltuo a'i ail-fuddsoddi yng nghyllidebau ysgolion yn rhan o Strategaeth Cyllideb Refeniw 2024/25 arfaethedig y Cyngor.

Roedd yr Aelod o'r Cabinet yn falch o nodi y byddai disgyblion sydd a'r hawl i brydau ysgol am ddim (eFSM) yn cael eu heithrio o'r tâl arfaethedig a phwysleisiodd y byddai'r rheiny sydd fwyaf agored i niwed yn y gymuned yn cael eu hamddiffyn pe bai'r Cabinet yn derbyn yr argymhellion. Hefyd, croesawodd yr Aelod o'r Cabinet yr argymhelliad mewn ymateb i'r ymgynghoriad i gytuno ar gategori cwnsesiwn ychwanegol a fyddai'n golygu bod rhieni/gwarcheidwaid sydd am ddefnyddio'r ddarpariaeth dim ond yn talu am y ddau blentyn oedran cynradd cyntaf sy'n byw yn yr un cartref.

Mewn perthynas â'r ymatebion i'r ymgynghoriad, nododd yr Aelod o'r Cabinet yr adborth cryf ynghylch amgylchiadau llawer o rieni a gwarcheidwaid. Yr adborth oedd eu bod nhw'n dymuno dewis i gael mynediad i'r elfen gofal plant cyn y diwrnod ysgol am ran o'r wythnos waith yn unig. Holodd yr Aelod o'r Cabinet a fyddai’n ymarferol cyflwyno ail opsiwn yn rhan o’r cynnig, sef ail dâl am hyd at dri diwrnod yn unig. Gofynnodd yr Aelod o'r Cabinet am gyngor gan y Cyfarwyddwr ac os oedd hynny'n ymarferol, dywedodd y byddai'n bwriadu cynnig ychwanegu at argymhelliad 2.2, yn amodol ar sylwadau Aelodau eraill o'r Cabinet. Ategodd y Cyfarwyddwr sylw'r Aelod o'r Cabinet fod hon yn thema a oedd yn dod i'r amlwg o'r ymatebion i'r ymgynghoriad, a dywedodd y gellid ystyried yr awgrym  ymhellach pe bai'r Aelodau'n cytuno ar hynny. 

Manteisiodd y Dirprwy Arweinydd ar y cyfle i ddiolch i'r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu am ei adborth ar y cynigion. O ran yr ymgynghoriad, cydnabu’r Dirprwy Arweinydd y pryderon a fynegwyd gan rieni drwy’r broses ymgynghori, ynghylch y gost ariannol ychwanegol y byddai’r cynnig yn ei chyflwyno. Eglurodd y Dirprwy Arweinydd fod hwn yn faes lle darperir cymorth y tu hwnt i'r hyn a fwriadwyd yn wreiddiol, pan gyflwynwyd brecwast ysgol am ddim, ac yn faes lle mae tâl eisoes yn cael ei godi gan nifer o Awdurdodau Lleol. Nodwyd bod Awdurdodau Lleol eraill, oherwydd y gostyngiad yng nghyllid y Sector Cyhoeddus, hefyd yn ymgynghori  ...  view the full Cofnodion text for item 99.

100.

Cynnig i Ddatblygu Ysgol Arbennig Newydd yn Rhondda Cynon Taf pdf icon PDF 214 KB

Derbyn adroddiad y Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Cynhwysiant, sy'n rhoi gwybod i'r Aelodau am ganlyniad cyhoeddi Hysbysiad Statudol yn ddiweddar mewn perthynas â’r cynnig i agor ysgol arbennig 3 i 19 oed newydd yn Rhondda Cynon Taf (RhCT) a chyflwyno dalgylchoedd ar gyfer pob un o'r ysgolion arbennig 3-19 oed ar draws RhCT.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Cynhwysiant wybod i'r Aelodau am ganlyniad cyhoeddi Hysbysiad Statudol yn ddiweddar mewn perthynas â’r cynnig i agor ysgol arbennig 3 i 19 oed newydd yn Rhondda Cynon Taf (RhCT) a chyflwyno dalgylchoedd ar gyfer pob un o'r ysgolion arbennig 3-19 oed ar draws RhCT.

 

Roedd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion Addysg, Cyfranogiad Pobl Ifainc a'r Gymraeg yn falch o nodi nad oedd gwrthwynebiadau i’r ysgol arbennig 3 i 19 newydd arfaethedig a chyflwyno dalgylchoedd ar gyfer yr holl ysgolion arbennig 3 i 19 oed ar draws RhCT.

 

Cydnabu'r Aelod o'r Cabinet y pwysau difrifol a wynebai'r Awdurdod Lleol o ran lleoliadau ysgol arbennig a chroesawodd y cynigion gerbron yr Aelodau. Gorffennodd yr Aelod o'r Cabinet drwy nodi ei fod yn edrych ymlaen at dderbyn adroddiad Rheoli'r Trysorlys yn y dyfodol i'r Cyngor a chanlyniad y cais am gyllid gan Lywodraeth Cymru.

 

Ategodd y Dirprwy Arweinydd sylwadau’r Aelod o'r Cabinet a chroesawu’r camau nesaf yn y broses.

 

PENDERFYNODDy Cabinet:

1.  Nodi na dderbyniwyd unrhyw wrthwynebiadau, na sylwadau mewn ymateb i gyhoeddiad yr hysbysiad statudol i weithredu'r cynnig yma;

2.     Rhoi'r cynnig ar waith heb unrhyw newidiadau; a

3.     Bod diweddariad i amlen fenthyca'r Cyngor yn cael ei gynnwys mewn adroddiad Rheoli'r Trysorlys i'r Cyngor yn y dyfodol pan fydd y costau'n hysbys a chyllid Llywodraeth Cymru wedi'i sicrhau.

 

 

 

101.

Cynigion Ffïoedd a Thaliadau'r Cyngor 2024-2025 pdf icon PDF 220 KB

Derbyn adroddiad y Dirprwy Brif Weithredwr a Chyfarwyddwr Cyfadran y Gwasanaethau Cyllid, Digidol a Rheng Flaen, sy'n rhoi gwybod i'r Cabinet am newidiadau arfaethedig i lefelau ffioedd a thaliadau'r Cyngor ar gyfer blwyddyn ariannol 2024/25. Bydd ymgynghoriad ar y newidiadau yn rhan o gam 2 y broses o ymgynghori ar gyllideb 2024/25 (gyda'r newidiadau arfaethedig i fod ar waith o 1 Ebrill 2024 neu cyn gynted ag y bo'n ymarferol wedi hynny).

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Amlinellodd Cyfarwyddwr Gwasanaeth y Gwasanaethau Cyllid a Gwella:

·       Ymgynghorir ar y diwygiadau arfaethedig i lefelau ffioedd a thaliadau’r Cyngor ar gyfer blwyddyn ariannol 2024/25 yn rhan o gam 2 o broses ymgynghori cyllideb 2024/25 (gyda’r diwygiadau arfaethedig i fod mewn grym o 1 Ebrill 2024 neu cyn gynted ag y bo’n ymarferol wedi hynny);

·       Manylion penderfyniadau ffioedd a thaliadau a gymeradwywyd yn flaenorol ac i'w cynnwys yn y Strategaeth Gyllideb arfaethedig 2024/25; a 

·       Diweddariad arfaethedig i Gynllun Trwydded Masnach Stryd y Cyngor a threfniadau arfaethedig ynghylch gweithredu newidiadau yn y dyfodol i lefel uchaf y tâl wythnosol am wasanaethau gofal dibreswyl, fel y pennir gan Lywodraeth Cymru.

 

Diolchodd yr Arweinydd i'r Cyfarwyddwr Gwasanaeth am yr adroddiad a dywedodd fod y ffioedd a'r taliadau arfaethedig y manylwyd arnynt gerbron y Pwyllgor yn gymharol deg. Eglurodd yr Arweinydd eu bod wedi ceisio sicrhau nad oedd y gost lawn yn cael ei throsglwyddo mewn rhai meysydd. Fel enghraifft, nododd yr Arweinydd y byddai’r cynnydd cyffredinol o tua 14% mewn costau bwyd yn golygu y dylai cost presennol cinio ysgol gynyddu tua 30-35c, ond y cynnydd arfaethedig yw 15c. Mewn perthynas â chostau meysydd parcio, dywedodd yr Arweinydd fod y cyhoedd wedi lobïo i'r Cyngor gyflwyno taliadau â cherdyn, ond er mwyn mantoli cost y cynnig newydd, roedd cynnydd bach o 10c wedi'i gynnig. Mewn perthynas â'r ffi gadw lle arfaethedig o 25c ar gyfer y Lido, dywedodd yr Arweinydd bod ffi trafodion i'r Cyngor ynghlwm â phob archeb, ond, pan fydd miloedd o unigolion yn cadw lle ond ddim yn dod i'r Lido, roedd y Cyngor yn codi tâl. Dywedodd yr Arweinydd y byddai'r ffi o 25c yn gwrthbwyso'r tâl wrth symud ymlaen.

 

Roedd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion yr Hinsawdd a Gwasanaethau Corfforaethol yn falch o nodi bod 82.3% o'r rhai a ymatebodd i gam un yr ymgynghoriad yn cytuno â dull y Cyngor o gyflwyno ffioedd. Roedd yr Aelod o'r Cabinet yn falch o weld yr agwedd gytbwys tuag at ffioedd a thaliadau, a oedd yn ei barn hi, wedi ystyried sefyllfa ariannol y trigolion. 

 

PENDERFYNODDy Cabinet:

1. Ystyried diwygiadau arfaethedig i ffioedd a thaliadau’r Cyngor ar gyfer blwyddyn ariannol 2024/25 ynghyd â thaliadau arfaethedig newydd;

2.     Ymgynghori ar y cynigion ffioedd a thaliadau (fel y nodir ym mharagraffau 5.3.1 i 5.3.21 yr adroddiad) trwy gam 2 o broses Ymgynghori Cyllideb 2024/25 y Cyngor ac adrodd y canlyniadau yn ôl i'r Cabinet i'w hystyried yn rhan o'r gwaith llunio Strategaeth Cyllideb a argymhellir ar gyfer 2024/25;

3.     Nodi'r penderfyniadau ffioedd a thaliadau sydd eisoes wedi'u cymeradwyo a'u cynnwys yn Strategaeth Gyllideb arfaethedig 2024/25 (paragraff 5.10 / Tabl 2 yr adroddiad);

4.     Nodi'r diweddariad arfaethedig i Gynllun Trwydded Masnach Stryd y Cyngor i'w ystyried gan Bwyllgor Trwyddedu'r Cyngor ar 30 Ionawr 2024 ac, yn amodol ar gymeradwyaeth y Pwyllgor, i'r incwm ychwanegol amcangyfrifedig a gynhyrchir gael ei ymgorffori yn Strategaeth Cyllideb Refeniw 2024/25 arfaethedig y Cyngor; a

5.     Nodi cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru o ran pennu lefel uchaf y tâl wythnosol  ...  view the full Cofnodion text for item 101.

102.

Newid i Drefn yr Agenda

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cytunodd yr Arweinydd i newid trefn yr agenda oherwydd mater technegol.

 

103.

Adolygu Cronfa Deddf Eglwys Cymru pdf icon PDF 184 KB

Derbyn adroddiad y Cyfarwyddwr Materion Ffyniant a Datblygu sy'n ceisio cymeradwyaeth i ddiwygio meini prawf a throthwyon ariannol Cronfa Deddf Eglwys Cymru er mwyn sicrhau effaith mwy cadarnhaol ar gymunedau lleol a manteisio i'r eithaf ar y Gronfa.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ceisiodd Cyfarwyddwr Materion Ffyniant a Datblygu gymeradwyaeth i ddiwygio meini prawf a throthwyon ariannol Cronfa Deddf Eglwys Cymru er mwyn sicrhau effaith mwy cadarnhaol ar gymunedau lleol a manteisio i'r eithaf ar y Gronfa.

 

Siaradodd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion Ffyniant a Datblygu yn gadarnhaol am gynnwys yr adroddiad ac am y cyfle i adolygu’r trothwy presennol. Cydnabu’r Aelod o'r Cabinet fod y gronfa eisoes yn darparu cymorth i lawer o grwpiau cymunedol lleol ac roedd o’r farn y byddai’r cynigion yn adeiladu ar y cymorth hwnnw, drwy ei wneud yn fwy hyblyg.

 

PENDERFYNODDy Cabinet:

1.    I'r meini prawf diwygiedig a amlinellir ym mharagraffau 7.2 – 7.4 yr adroddiad ar gyfer ymgynghoriad ffurfiol gyda Chynghorau Pen-y-bont ar Ogwr a Merthyr; ac,

2.     Yn amodol bod dim gwrthwynebiadau gan Gynghorau Pen-y-bont ar Ogwr a Merthyr yn dod i law, bod y trefniadau newydd yn cael eu rhoi ar waith.

 

 

104.

Cyllideb Refeniw'r Cyngor ar gyfer 2024-2025 pdf icon PDF 118 KB

Derbyn adroddiad y Dirprwy Brif Weithredwr a Chyfarwyddwr Cyfadran y Gwasanaethau Cyllid, Digidol a Rheng Flaen, sy'n rhoi gwybodaeth i'r Cabinet am setliad llywodraeth leol 2024/2025 a chanlyniadau cam 1 o ymgynghoriad y gyllideb, i gynorthwyo gyda'i drafodaethau wrth lunio'r strategaeth cyllideb refeniw ar gyfer blwyddyn ariannol 2024/25, y bydd yn ei hargymell i'r Cyngor i'w chymeradwyo.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Dirprwy Brif Weithredwr a Chyfarwyddwr Cyfadran y Gwasanaethau Cyllid, Digidol a Rheng Flaen, wybodaeth i'r Cabinet am setliad llywodraeth leol 2024/2025 a chanlyniadau cam 1 o ymgynghoriad y gyllideb, i gynorthwyo gyda'i drafodaethau wrth lunio'r strategaeth cyllideb refeniw ar gyfer blwyddyn ariannol 2024/25, y bydd yn ei hargymell i'r Cyngor i'w chymeradwyo.

 

Diolchodd yr Arweinydd i'r Cyfarwyddwr am yr adroddiad a chyfaddefodd mai rownd y gyllideb eleni oedd yr anoddaf ers iddo fod yn Arweinydd y Cyngor o ran pwysau ar wasanaethau, costau cyfleustodau uchel a phwysau costau byw. Teimlai'r Arweinydd fod y gyllideb a gynigiwyd i'r Aelodau yn rhesymol o ystyried yr anawsterau a grybwyllwyd uchod, sy'n wynebu'r Cyngor a chartrefi. Nodwyd bod yr holl wasanaethau statudol wedi'u cynnal, ac mewn llawer o achosion, ymhell uwchlaw'r ddarpariaeth.

 

Tra'n cydnabod nad oedd cynnydd yn nhreth y cyngor yn ddelfrydol, roedd yr Arweinydd o'r farn bod y cynnig yn rhesymol er mwyn cynnal darpariaeth gofal cymdeithasol ac addysg werthfawr yn y Fwrdeistref.

 

Ategodd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion yr Hinsawdd a Gwasanaethau Corfforaethol sylwadau'r Arweinydd a theimlai fod yr ymgynghoriad wedi amlygu bod mwyafrif y cyhoedd yn cydnabod y pwysau ariannol a roddwyd ar y Cyngor.

 

Manteisiodd y Dirprwy Arweinydd ar y cyfle i ddiolch i’r ymatebwyr i’r ymgynghoriad a nododd fod 75.6% yn cytuno i ddiogelu gwasanaethau ar y lefelau presennol gyda chynnydd rhesymol yn nhreth y cyngor. Nododd y Dirprwy Arweinydd hefyd y byddai’r cynnydd arfaethedig yn nhreth y cyngor yn dal i wneud lefelau RhCT yn un o’r rhai isaf yng Nghymru.

 

PENDERFYNODDy Cabinet:

1. Nodi bod y gweithdrefnau sy'n ymwneud ag adeiladu cyllideb refeniw, y broses ymgynghori cyllideb, ac adrodd i'r Cyngor, wedi'u nodi yn "Y Gyllideb a'r Fframwaith Polisi", sy'n cael ei gynnwys yng Nghyfansoddiad y Cyngor;

2.    Nodi ac ystyried canlyniadau proses cam 1 o ymgynghori ar y gyllideb;

3.    Adolygu ac ystyried Strategaeth ddrafft Cyllideb Refeniw 2024/25;

4.    Trafod a phennu lefel y cynnydd yn Nhreth y Cyngor ar gyfer 2024/25 y byddai’n dymuno ei gynnwys yn y strategaeth i ffurfio’r sail ar gyfer cynnal ail gam yr ymgynghoriad;

5.     Yr amserlen ddrafft ar gyfer pennu cyllideb refeniw 2024/2025, sydd wedi'i nodi yn Atodiad A2;

6.     Derbyn adborth o ail gam yr ymgynghoriad cyllideb er mwyn trafod a phenderfynu ar y strategaeth gyllidebol derfynol i'w chyflwyno i'r Cyngor;

7.     Bod y Cyngor yn parhau i gefnogi'r strategaeth ariannol tymor canolig gyda'r nod o sicrhau'r effeithlonrwydd parhaus o ran darparu gwasanaethau, trawsnewid gwasanaethau wedi'u targedu a newidiadau eraill sy'n cynnal uniondeb ariannol y Cyngor wrth barhau i anelu cymaint â phosibl i ddiogelu swyddi a gwasanaethau allweddol.

 

 

105.

Mabwysiadu'r Strategaeth Leol Ddiwygiedig ar gyfer Rheoli Perygl Llifogydd a'r Cynllun Gweithredu pdf icon PDF 149 KB

Derbyn adroddiad Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Rheng Flaen, sy'n cyflwyno'r Strategaeth Leol Ddiwygiedig ar gyfer Rheoli Perygl Llifogydd a'r Cynllun Gweithredu i'r Cabinet. Mae'r gwaith eisoes wedi bod yn destun rhag-graffu, ac unwaith i'r Cabinet ei gymeradwyo, bydd yn cael ei anfon at Weinidogion Llywodraeth Cymru i'w gymeradwyo.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Pennaeth Rheoli Perygl Llifogydd a Phrosiectau Strategol wrth yr Aelodau am ganlyniad yr ymgynghoriad cyhoeddus statudol ar y Strategaeth Leol Ddiwygiedig ar gyfer Rheoli Perygl Llifogydd a'r Cynllun Gweithredu (Cynllun Rheoli Perygl Llifogydd yn flaenorol), fel sy'n ofynnol o dan Adran 10 o Deddf Rheoli Llifogydd a D?r (FWMA) 2010.

 

Cydnabu'r Arweinydd fod llawer iawn o waith wedi'i wneud i ddatblygu'r strategaeth a'r cynllun gweithredu diwygiedig. Canmolodd yr Arweinydd y cynllun manwl a dywedodd y byddai'n rhoi'r Awdurdod Lleol mewn sefyllfa dda wrth symud ymlaen o ran ceisiadau yn y dyfodol a chyllid cyfalaf gan Lywodraeth Cymru. Fodd bynnag, esboniodd yr Arweinydd fod y cynllun yn dangos yn glir mai Rhondda Cynon Taf sydd â'r perygl mwyaf o lifogydd d?r wyneb yng Nghymru ac felly, roedd angen parhau i fuddsoddi mewn gwrthsefyll llifogydd ac i weithio gyda chartrefi a busnesau.

 

Roedd y Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Priffyrdd, Gofal y Strydoedd a Chludiant yn dymuno cofnodi ei ddiolch i'r garfan am y gwaith a wnaed i gynhyrchu'r dogfennau gerbron yr Aelodau. Dywedodd y Cyfarwyddwr ei fod yn teimlo bod y buddsoddiad wedi dechrau talu ar ei ganfed a bod y garfan yn defnyddio dull seiliedig ar risg.

 

Manteisiodd y Dirprwy Arweinydd ar y cyfle i ddiolch i Gyfarwyddwr Gwasanaeth y Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu am y llythyr i'r Cabinet, a amlinellodd sylwadau'r Pwyllgor Craffu - Materion yr Hinsawdd, Gwasanaethau Rheng Flaen a Ffyniant ar ôl ystyried Strategaeth Leol Ddiwygiedig ar gyfer Rheoli Perygl Llifogydd a'r Cynllun Gweithredu yn ei gyfarfod a gynhaliwyd ar 18 Ionawr 2024. Estynnodd y Dirprwy Arweinydd ei diolch hefyd i'r swyddogion am eu gwaith yn rhoi'r strategaeth ddiwygiedig a'r cynllun gweithredu gerbron yr Aelodau.

 

Croesawodd Aelod o'r Cabinet ar faterion yr Amgylchedd a Hamdden yr adroddiad a'r sylwadau a wnaed gan y Pwyllgor Craffu. Cytunodd yr Aelod o'r Cabinet y byddai rhestr termau a thalfyriadau o fudd wrth symud ymlaen.

 

PENDERFYNODDy Cabinet:

1.    Nodi'r canlyniadau a'r adolygiad o'r ymgynghoriad cyhoeddus statudol ar y Strategaeth a'r Cynllun Gweithredu drafft, a gyflwynwyd i'r Pwyllgor Craffu - Materion yr Hinsawdd, Gwasanaethau Rheng Flaen a Ffyniant ar 22 Tachwedd 2023 yn unol â’r rhaglen waith y cytunwyd arni gan y Cabinet ar 15 Mai 2023;

2.     Nodi'r adborth o gyfarfod Pwyllgor Hinsawdd a Gwasanaethau Rheng Flaen ar 18 Ionawr 2024, a ddarperir gan y Cyfarwyddwr Gwasanaeth Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu;

3.     bod yr Awdurdod yn mabwysiadu'r Strategaeth Leol ar gyfer Rheoli Perygl Llifogydd a'r Cynllun Gweithredu;

4.     Bod y Strategaeth Leol ar gyfer Rheoli Perygl Llifogydd, a'r asesiad amgylcheddol cysylltiedig, yn cael eu cyflwyno i Lywodraeth Cymru, i'w cymeradwyo gan y Gweinidog.