Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Hybrid

Cyswllt: Hannah Jones - Uned Busnes y Cyngor  07385401954

Cyfryngau

Eitemau
Rhif eitem

50.

Croeso ac Ymddiheuriadau

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod a derbyniwyd ymddiheuriad am absenoldeb gan y Dirprwy Arweinydd, Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol M Webber.

 

51.

Datgan Buddiant

To receive disclosures of personal interest from Members in accordance with the Code of Conduct.

 

Note:

 

1.     Members are requested to identify the item number and subject matter that their interest relates to and signify the nature of the personal interest; and

2.     Where Members withdraw from a meeting as a consequence of the disclosure of a prejudicial interest they must  notify the Chairman when they leave.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Yn unol â Chod Ymddygiad y Cyngor, cafodd y datganiadau o fuddiant canlynol eu gwneud yngl?n â'r agenda:

·Aeth yr Aelod o'r Cabinet ar faterion Iechyd a Gofal Cymdeithasol ati i ddatgan buddiant personol mewn perthynas ag Eitem 3 (Trefniadau Comisiynu'r Dyfodol ar gyfer Gofal yn y Cartref): “Mae fy chwaer iau wedi gweithio mewn gofal cartref hirdymor ers blynyddoedd lawer”;

·Aeth yr Aelod o'r Cabinet ar faterion ati i ddatgan buddiant personol mewn perthynas ag Eitem 12 (Adroddiad Diweddaraf parthed y Strategaeth Tai Gwag): “Rydw i wedi derbyn Grant Eiddo Gwag”;

·Aeth y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Priffyrdd, Gofal y Strydoedd a Thrafnidiaeth ati i ddatgan buddiant personol ac ariannol mewn perthynas ag Eitem 17 (Cynon Valley Waste Disposal Company Limited ac Amgen Rhondda Limited – Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol): “Rydw i’n Gyfarwyddwr ar Amgen a byddaf yn gadael y cyfarfod pan fydd yr eitem destun trafodaeth a phleidlais.”; ac

·Aeth y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cyllid a Gwella ati i ddatgan buddiant personol ac ariannol mewn perthynas ag Eitem 17: “Rydw i’n Gyfarwyddwr ar Amgen a byddaf yn gadael y cyfarfod pan fydd yr eitem destun trafodaeth a phleidlais.”

 

 

52.

Cofnodion pdf icon PDF 166 KB

Cadarnhau cofnodion o gyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 18 Medi 2023 yn rhai cywir.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNODD y Cabinet gymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 18 Medi, 2023 yn rhai cywir.

 

53.

Trefniadau Comisiynu'r Dyfodol ar gyfer Gofal yn y Cartref pdf icon PDF 198 KB

Derbyn adroddiad Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol, sy'n amlinellu argymhellion ynghylch comisiynu  gwasanaethau gofal cartref yn y dyfodol.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol yr adroddiad i'r Cabinet, a oedd yn gwneud argymhellion mewn perthynas â chomisiynu gwasanaethau gofal yn y cartref.

 

Diolchodd yr Arweinydd i'r Cyfarwyddwr am yr adroddiad a dywedodd ei fod wedi cyfarfod â swyddogion sawl gwaith, yn ogystal â'r Undebau Llafur, cyn i'r cynigion gael eu cyflwyno. Bwriad hyn oedd cael gwell dealltwriaeth o'r hyn y byddai TUPE yn ei olygu i staff ac unigolion.

 

Dywedodd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion Iechyd a Gofal Cymdeithasol fod cynigion y swyddogion a oedd gerbron yr Aelodau yn ceisio ymateb i'r galw cynyddol am ofal hirdymor yn y cartref, ac y byddai'n mynd i'r afael â phroblemau o ran capasiti y mae'r holl ddarparwyr yn eu hwynebu ar hyn o bryd. Dywedodd yr Aelod o'r Cabinet mai diben y dull arfaethedig yma yw cyflawni model cynaliadwy sydd ddim yn effeithio ar argaeledd y gwasanaeth ond yn hytrach yn ei wella, trwy alluogi trefniadau comisiynu hirdymor er mwyn gwella profiadau defnyddwyr a gweithwyr gofal yn y cartref.

 

Trwy roi'r dull newydd yma ar waith, byddai'r Cyngor yn parhau i helpu pobl i fod mor annibynnol â phosibl trwy barhau i ddarparu gwasanaeth ail-alluogi a gofal canolraddol ei hun.

 

Nododd yr Aelod o'r Cabinet bod y Cyngor yn darparu rhan fach o ddarpariaeth gofal hir dymor yn y cartref yn Rhondda Cynon Taf, a byddai'r newid dan sylw'n golygu trosglwyddo'r 10% sy'n weddill i ddarparwyr allanol. Ychwanegodd y byddai gwasanaeth 'Cymorth yn y Cartref' y Cyngor yn parhau i ddarparu gwasanaethau gofal ailalluogi a chanolraddol.

 

Roedd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion yr Amgylchedd a Hamdden wedi derbyn cwestiynau gan drigolion ynghylch yr effaith y gallai'r cynigion ei chael ar yr unigolion hynny sydd angen gofal mwy cymhleth. Trafododd yr Aelod o'r Cabinet y pryder na fyddai’r sector annibynnol yn cefnogi unigolion o’r fath a holodd a yw’r sector annibynnol, sy’n darparu’r rhan fwyaf o’r cymorth ar hyn o bryd, yn cynnwys cefnogi’r anghenion gofal mwyaf cymhleth er mwyn sicrhau bod annibyniaeth yr unigolion hynny’n cael ei chynnal yn eu cartrefi eu hunain.

 

Dywedodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol wrth yr Aelod o'r Cabinet fod y rhan fwyaf o'r gwasanaethau gofal cartref hirdymor eisoes yn cael eu darparu gan ddarparwyr presennol yn y sector annibynnol. Aeth y Cyfarwyddwr ati i gydnabod pryderon y trigolion ond pwysleisiodd fod modd i ddarparwyr y sector annibynnol gefnogi llawer o unigolion ag anghenion cymhleth yn llwyddiannus, a'u bod yn gwneud hynny eisoes.

 

Gofynnodd yr Aelod o'r Cabinet hefyd am sicrwydd bod modd i staff y sector annibynnol fanteisio ar yr un lefel o hyfforddiant â staff y Cyngor. Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr fod darparwyr annibynnol yn cael mynediad at yr un cyfleoedd o ran hyfforddiant a datblygiad trwy'r Bartneriaeth Datblygu Gweithlu Rhanbarthol, sy'n cael ei chynnal gan y Cyngor.

 

O ran y pwynt a wnaed am hyfforddiant a datblygiad, gofynnodd yr Arweinydd a oedd y darparwyr annibynnol yma eisoes yn manteisio ar yr hyfforddiant sydd ar gael? Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr fod cyfarfodydd gweithlu rhanbarthol  ...  view the full Cofnodion text for item 53.

54.

Trefniadau Comisiynu'r Dyfodol ar gyfer Gwasanaeth Byw â Chymorth y Cyngor i Bobl ag Anabledd Dysgu pdf icon PDF 135 KB

Derbyn adroddiad Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol, sy'n gwneud argymhellion mewn perthynas â chomisiynu Gwasanaeth Byw â Chymorth y Cyngor i Bobl ag Anabledd Dysgu yn y dyfodol.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol adroddiad sy'n gwneud argymhellion mewn perthynas â chomisiynu Gwasanaeth Byw â Chymorth y Cyngor i Bobl ag Anabledd Dysgu yn y dyfodol.

 

Nododd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion Iechyd a Gofal Cymdeithasol fod gan y Cyngor brofiad sylweddol a hanes da o gomisiynu gwasanaethau Byw â Chymorth gan ddarparwyr allanol. Nodwyd bod y contract 10 mlynedd presennol yn dod i ben eleni felly mae'r broses aildendro eisoes wedi dechrau, a bydd y contract newydd yn dechrau o fis Ebrill 2024.

 

Nododd yr Aelod o'r Cabinet y byddai'r newidiadau sy'n cael eu trafod gan y Cabinet, pe bydden nhw'n cael eu cymeradwyo, yn trosglwyddo'r ganran fach o wasanaethau Byw â Chymorth, sy'n cael eu darparu'n fewnol ar hyn o bryd, i'r farchnad allanol. Mae'r farchnad allanol eisoes yn darparu oddeutu 90% o'r gwasanaethau yma. Nododd yr Aelod o'r Cabinet fod swyddogion yn dweud y byddai'r newidiadau'n sicrhau gwerth gorau a chynaliadwyedd y gwasanaeth ar gyfer y dyfodol, a hynny heb leihau'r gwasanaeth i helpu pobl sy'n dibynnu arno. Pwysleisiodd yr Aelod o'r Cabinet bwysigrwydd hwn yng nghyd-destun y bwlch sylweddol yn y gyllideb, y pwysau cynyddol o ran costau, a'r galw cynyddol o fewn y gwasanaeth.

 

Holodd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion yr Amgylchedd a Hamdden sut y byddai'r Cyngor yn ymgysylltu â'r unigolion yr effeithir arnyn nhw, gan gynnwys defnyddwyr gwasanaeth, eu teuluoedd, a staff.

 

Dywedodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol y byddai'r Cyngor, os cytunir ar y cynnig, yn ymgysylltu ac yn cyfathrebu'n rheolaidd â'r holl unigolion yr effeithir arnyn nhw er mwyn sicrhau eu bod nhw'n cael eu hysbysu'n llawn am y broses a'r amserlenni ar gyfer trosglwyddo'r gwasanaeth. Byddai hyn yn cynnwys rhannu gwybodaeth, gan gynnwys fformat hawdd ei ddarllen, a chynnal cyfarfodydd wedi’u cefnogi gan staff gwaith cymdeithasol ac eiriolwyr, fel Pobl yn Gyntaf Cwm Taf a Chanolfan Byw’n Annibynnol DEWIS ac, yn achos staff, Undebau Llafur. Ychwanegwyd y byddai'r Cyngor, yn dilyn y broses gaffael a dyfarnu'r contract, yn ymgysylltu â'r holl unigolion yr effeithir arnyn nhw i fynd i'r afael ag unrhyw bryder a allai fod gyda nhw ynghylch y newid darparwr. Byddai cyfleoedd hefyd i ddefnyddwyr gwasanaeth gwrdd â'r darparwyr newydd i drafod unrhyw bryderon.

 

Aeth yr Aelod o'r Cabinet ar faterion Iechyd y Cyhoedd a Chymunedau ati i gydnabod y pryder ymhlith y gweithlu ynghylch y cynigion, a holodd a ellid rhoi’r un sicrwydd ag yn eitem olaf yr agenda (Cofnod Rhif 53), mewn perthynas â’r hyn y mae'r trefniadau TUPE yn eu golygu, a'r sicrwydd y mae'n ei roi. Gofynnodd yr Aelod o'r Cabinet hefyd a ellid darparu'r un sicrwydd o ran diogelu swyddi o ganlyniad i'r newidiadau, os cytunir arnynt.

 

Ochr yn ochr ag awgrym yr Aelod o'r Cabinet, gofynnodd yr Arweinydd a ellid rhoi’r un sicrwydd â’r eitem olaf o fusnes (Cofnod Rhif 53) mewn perthynas â dim diswyddiadau gorfodol.

 

Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Materion Adnoddau Dynol y byddai'r un sicrwydd yn cael ei gymhwyso o ran y trefniadau TUPE ac aelodaeth staff o  ...  view the full Cofnodion text for item 54.

55.

Adborth Pwyllgorau (Rhag-graffu) pdf icon PDF 155 KB

Derbyn adroddiad y Cyfarwyddwr Gwasanaeth – Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu sy'n rhoi adborth a sylwadau mewn perthynas â'r eitemau y rhag-graffwyd arnyn nhw gan Bwyllgorau Craffu thematig y Cyngor yn dilyn cyfarfodydd diweddaraf y Pwyllgorau.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth – Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu  adborth a sylwadau mewn perthynas â'r eitemau y rhag-graffwyd arnyn nhw gan Bwyllgorau Craffu thematig y Cyngor yn dilyn cyfarfodydd diweddaraf y Pwyllgorau.

 

Yn ystod y cylch, rhag-graffwyd yr adroddiadau canlynol a nodwyd y sylwadau allweddol yn Adran 5 o’r adroddiad:

·       Cynnig i Ddatblygu Ysgol Arbennig Newydd Yn Rhondda Cynon Taf;

·       Adroddiadau Blynyddol ar Weithdrefnau Rhoi Sylwadau, Canmol a Chwyno 2022/23;

·       Adroddiad Monitro Blynyddol yr Ardoll Seilwaith Cymunedol.

 

Mewn perthynas ag Adroddiad Monitro Blynyddol yr Ardoll Seilwaith Cymunedol a oedd yn destun rhag-graffu gan y Pwyllgor Craffu ar Faterion yr Hinsawdd, Gwasanaethau Rheng Flaen a Ffyniant yn ei gyfarfod ar 18 Hydref 2023, nododd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth fod sylwadau wedi’u dosbarthu i Aelodau’r Cabinet.

 

Manteisiodd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion Addysg, Cyfranogiad Pobl Ifainc a'r Gymraeg ar y cyfle i ddiolch i'r Pwyllgorau Craffu am eu gwaith.

 

PENDERFYNODD y Cabinet:

1.    Nodi sylwadau'r Pwyllgorau Craffu yn dilyn rhag-graffu ar yr eitemau a restrir yn adran 5 o'r adroddiad.

 

 

56.

Adroddiad Blynyddol Bwrdd Diogelu Cwm Taf Morgannwg 2022/2023 pdf icon PDF 124 KB

Derbyn adroddiad Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol, sy’n cyflwyno Adroddiad Blynyddol Bwrdd Diogelu Cwm Taf Morgannwg 2022/23 i’r Cabinet.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol Adroddiad Blynyddol Bwrdd Diogelu Cwm Taf Morgannwg 2022/23 i’r Cabinet.

 

Roedd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn cydnabod pwysigrwydd yr adroddiad, sy'n ceisio sicrhau bod unigolion o bob oed yn cael eu diogelu; ac yn atal niwed a chamdriniaeth. Nododd yr Aelod o'r Cabinet fod gan Fwrdd Diogelu Cwm Taf Morgannwg ddyletswydd statudol i ddarparu adroddiad blynyddol sy’n amlinellu ei flaenoriaethau.

 

Nododd yr Aelod o'r Cabinet y galw cynyddol i wella ymagweddau at bryderon y sector cyhoeddus a dywedodd fod gan yr holl asiantaethau partner eu rhan i’w chwarae.

 

PENDERFYNODD y Cabinet:

1.    Nodi a chadarnhau cynnwys yr Adroddiad Blynyddol Bwrdd Diogelu Cwm Taf Morgannwg 2022/23.

 

 

57.

Adroddiad Blynyddol 2022/23 ar weithdrefnau rhoi sylwadau, canmol a chwyno'r Gwasanaethau Cymdeithasol pdf icon PDF 144 KB

Derbyn adroddiad Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol, sy'n rhoi trosolwg i'r Cabinet o drefnau gweithredu ac effeithiolrwydd gweithdrefnau cwyno Gwasanaethau Cymdeithasol Statudol y Cyngor rhwng 1 Ebrill 2022 a 31 Mawrth 2023. 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol adroddiad sy'n rhoi trosolwg i'r Cabinet o drefnau gweithredu ac effeithiolrwydd gweithdrefnau cwyno Gwasanaethau Cymdeithasol Statudol y Cyngor rhwng 1 Ebrill 2022 a 31 Mawrth 2023. 

 

Diolchodd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion Iechyd a Gofal Cymdeithasol i'r Cyfarwyddwr am yr adroddiad a dywedodd fod cwynion a chanmoliaeth yn adborth gwerthfawr, sy'n llywio'r gwaith o wella a chynllunio'r gwasanaethau. Ychwanegodd yr Aelod o'r Cabinet ei bod hi'n galonogol i staff dderbyn canmoliaeth am eu holl waith caled a'u hymroddiad.

 

PENDERFYNODD y Cabinet:

1 .Nodi cynnwys yr adroddiad yma  ac adroddiad Sylwadau a Chwynion Blynyddol y Gwasanaethau Cymdeithasol ar gyfer 2022/23; a

2.     I nodi'r gwaith a wnaed gan y Garfan Adborth Cwsmeriaid, Ymgysylltu a Chwynion.

 

 

58.

Cynllun Adborth Cwsmeriaid - Rhoi Sylwadau, Canmol a Chwyno - Adroddiad Blynyddol 2022/23 pdf icon PDF 131 KB

Derbyn adroddiad y Dirprwy Brif Weithredwr a Chyfarwyddwr Cyfadran y Gwasanaethau Cyllid, Digidol a Rheng Flaen, sy’n rhoi trosolwg i’r Cabinet o drefnau gweithredu ac effeithiolrwydd Cynllun Adborth Cwsmeriaid (CFS) y Cyngor rhwng1 Ebrill 2022 a 31 Mawrth 2023. 

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau TGCh a Digidol drosolwg i’r Cabinet o drefnau gweithredu ac effeithiolrwydd Cynllun Adborth Cwsmeriaid (CFS) y Cyngor rhwng1 Ebrill 2022 a 31 Mawrth 2023

 

Pwysleisiodd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion yr Hinsawdd a Gwasanaethau Corfforaethol bwysigrwydd adborth cwsmeriaid, ac roedd yn falch o nodi yr ymdriniwyd â 95% o gwynion yng ngham 1. Roedd yr Aelod o'r Cabinet yn cydnabod bod y garfan bob amser yn chwilio am ffyrdd newydd o gasglu gwybodaeth a nododd fod y gwasanaeth 'Dywedoch Chi, Gwnaethon Ni' yn mynd o nerth i nerth.

 

PENDERFYNODD y Cabinet:

1.    Nodi cynnwys yr adroddiad, Adroddiad Blynyddol y Cynllun Adborth Cwsmeriaid ar gyfer 2022/23 a'r gwaith a wnaed gan y Garfan Adborth Cwsmeriaid, Ymgysylltu a Chwynion.

 

 

59.

Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru - Llythyr ac Adroddiad Blynyddol 2022-2023 pdf icon PDF 180 KB

Derbyn adroddiad Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd, sy'n rhoi gwybod i'r Cabinet am gyhoeddi Adroddiad Blynyddol a Llythyr Blynyddol Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru ('PSOW') i'r Cyngor yma ar gyfer 2022-2023.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd wybod i'r Cabinet am gyhoeddi Adroddiad Blynyddol a Llythyr Blynyddol Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru ('PSOW') i'r Cyngor yma ar gyfer 2022-2023.

 

Diolchodd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion Addysg, Cyfranogiad Pobl Ifainc a'r Gymraeg i'r Cyfarwyddwr am yr adroddiad a dywedodd fod yr adroddiad yn caniatáu i Aelodau'r Cabinet adolygu a monitro sut mae'r Cyngor yn rheoli'r adborth y mae'n ei dderbyn. Roedd yr Aelod o'r Cabinet yn falch o nodi, o ystyried maint yr Awdurdod Lleol, bod nifer fach o gwynion wedi'u gwneud a nifer fach wedi'u cyfeirio at yr Ombwdsmon.

 

PENDERFYNODD y Cabinet:

1.    Trafod a nodi Adroddiad Blynyddol a Llythyr Blynyddol Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru i'r Cyngor yma ar gyfer 2022-2023.

 

 

 

60.

Cynigion i ddatblygu Ysgol Arbennig newydd yn RhCT pdf icon PDF 230 KB

Derbyn adroddiad y Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Cynhwysiant, sy’n rhoi gwybod i’r Aelodau am ganlyniad yr ymgynghoriad diweddar mewn perthynas â’r cynnig i agor ysgol arbennig 3 i 19 oed newydd yn Rhondda Cynon Taf (RhCT) a chyflwyno dalgylchoedd ar gyfer pob un o'r ysgolion arbennig 3-19 oed ar draws RhCT.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhannodd y Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Cynhwysiant ganlyniad yr ymgynghoriad diweddar mewn perthynas â’r cynnig i agor ysgol arbennig 3 i 19 oed newydd yn Rhondda Cynon Taf (RhCT) a chyflwyno dalgylchoedd ar gyfer pob un o'r ysgolion arbennig 3-19 oed ar draws RhCT, sef:

·       Ysgol Arbennig Park Lane

·       Ysgol Hen Felin

·       Ysgol T? Coch

 

Tynnwyd sylw'r aelodau at Atodiad A yr adroddiad, a oedd yn manylu ar ganlyniad yr ymgynghoriad.

 

Hysbysodd y Cyfarwyddwr yr Aelodau fod y dogfennau yn nodi bod 38% yn erbyn y cynigion, ond y dylen nhw nodi 37%. Dywedodd y Cyfarwyddwr fod yr ymatebion i'r ymgynghoriad, ar y cyfan, yn gadarnhaol gyda 56.5% o blaid y cynigion, a phwysleisiodd ei bod hi'n ymddangos bod rhai o'r rhieni/cynhalwyr wedi camddeall y cynigion, a ddangoswyd yn Adran 5 y ddogfen ymgynghori. Pwysleisiwyd felly, o ganlyniad i'r cynigion, na fyddai unrhyw ysgolion yn cau ac y byddai'r plant mewn lleoliadau presennol yn aros yn eu hysgolion presennol.

 

Diolchodd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion Addysg, Cyfranogiad Pobl Ifainc a'r Gymraeg i'r swyddogion am gynnal yr ymgynghoriad a diolchodd i unigolion am eu hymatebion. Roedd yr Aelod o'r Cabinet yn fodlon bod swyddogion wedi gallu ateb a mynd i'r afael ag unrhyw bwyntiau a godwyd drwy'r ymgynghoriad, gan gynnwys rhai Estyn.

 

Roedd yr Aelod o'r Cabinet yn fodlon mai'r cynnig i ddatblygu ysgol arbennig newydd oedd y cam cywir ymlaen ac y byddai'n ehangu'r capasiti mewn maes lle mae galw cynyddol. Pwysleisiodd yr Aelod o'r Cabinet na fyddai angen i ddisgyblion sydd eisoes yn mynychu ysgolion arbennig o fewn RhCT symud ysgolion ac, pe byddent yn cael eu cymeradwyo, byddai dalgylchoedd newydd yn cael eu rhoi ar waith ar gyfer trefniadau yn y dyfodol.

 

Roedd yr Arweinydd o blaid y cynigion a dywedodd y byddai'r ysgol arbennig yn fuddsoddiad enfawr, yr oedd dirfawr ei angen.

 

PENDERFYNODD y Cabinet:

1.     Nodi cynnwys yr adroddiad;

2.     Nodi’r wybodaeth sydd yn yr Adroddiad Ymgynghori, sy’n cynnwys crynodeb o’r ohebiaeth a dderbyniwyd yn ystod yr ymgynghoriad, gan gynnwys yr ymateb llawn gan Estyn, adborth a dderbyniwyd o’r arolwg ar-lein, a nodiadau o’r cyfarfodydd a gynhaliwyd;

3.     Symud y cynigion ymlaen i gam nesaf y broses ymgynghori trwy gyhoeddi Hysbysiad Statudol priodol a fydd yn sbarduno dechrau'r Cyfnod Gwrthwynebu.

 

 

61.

Monitro Blynyddol Ardoll Seilwaith Cymunedol 2022/2023 pdf icon PDF 151 KB

Derbyn adroddiad Cyfarwyddwr Gwasanaeth Materion Ffyniant a Datblygu, sy'n ceisio cymeradwyaeth y Cabinet mewn perthynas â chynnwys Adroddiad Monitro Blynyddol yr Ardoll Seilwaith Cymunedol a'r newidiadau arfaethedig i Restr Rheoliad 123. Mae'r adroddiad hefyd yn rhoi gwybod i'r Cabinet am y camau cyn y cam craffu sydd wedi'u cyflawni gan y Pwyllgor Craffu - Newid Hinsawdd, Gwasanaethau Rheng-flaen a Ffyniant. 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ceisiodd Cyfarwyddwr Materion Ffyniant a Datblygu gymeradwyaeth y Cabinet mewn perthynas â chynnwys Adroddiad Monitro Blynyddol yr Ardoll Seilwaith Cymunedol a'r newidiadau arfaethedig i Restr Rheoliad 123. Mae'r adroddiad hefyd yn rhoi gwybod i'r Cabinet am y camau cyn y cam craffu sydd wedi'u cyflawni gan y Pwyllgor Craffu - Cyllid a Chyflawniad mewn perthynas â'r Ardoll Seilwaith Cymunedol. 

 

Roedd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion Ffyniant a Datblygu yn fodlon ar yr argymhellion yn yr adroddiad. Nododd yr Aelod o'r Cabinet ystyriaethau'r Pwyllgor Craffu ac edrychodd ymlaen at dderbyn adborth gan y Cynghorau Cymuned.

 

PENDERFYNODD y Cabinet:

1.    Cymeradwyo'r Adroddiad Monitro Blynyddol ynghylch yr Ardoll Seilwaith Cymunedol;

2.     Cymeradwyo'r Rhestr Rheoliad 123 (Atodiad B) wedi'i diwygio ar gyfer ei chyhoeddi ar wefan y Cyngor am gyfnod o 28 o ddiwrnodau ar gyfer ymgynghori, fel y nodwyd ym mharagraff 5.6 yr adroddiad;

3.     Cymeradwyo mabwysiadu'r Rhestr Rheoliad 123 os nad oes sylwadau yn ei wrthwynebu yn dod i law.

 

Nodwch - Ar ôl i'r eitem hon ddod i ben, mae'r Cabinet yn oedi am egwyl fer.

 

 

62.

Adroddiad Diweddaraf parthed y Strategaeth Tai Gwag pdf icon PDF 200 KB

Derbyn adroddiad Cyfarwyddwr Materion Ffyniant a Datblygu, sy'n rhoi'r diweddaraf i Aelodau am y cynnydd o ran ailddefnyddio cartrefi gwag yn unol â Strategaeth Cartrefi Gwag (2022-2025).

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Cyfarwyddwr Materion Ffyniant a Datblygu adroddiad sy'n rhoi'r diweddaraf i Aelodau am y cynnydd o ran ailddefnyddio cartrefi gwag yn unol â Strategaeth Cartrefi Gwag (2022-2025).

 

Soniodd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion Ffyniant a Datblygu am lwyddiant y rhaglen i gael cartrefi yn ôl ar y farchnad neu eu gwneud nhw'n addas i'w defnyddio eto. Roedd yr Aelod o'r Cabinet yn falch o nodi bod ychydig llai na 700 eiddo wedi cael eu hailddefnyddio hyd yma, ac roedd yn falch o gynnig yr argymhellion yn yr adroddiad.

 

PENDERFYNODD y Cabinet:

1.    Ystyried y wybodaeth sydd wedi'i chynnwys yn yr adroddiad a nodi'r cynnydd cadarnhaol a wnaed hyd yma o ran dod â thai gwag yn ôl i ddefnydd yn unol â Strategaeth Tai Gwag RhCT (2022 – 2025).

 

 

63.

Strategaeth Rhentu'r Sector Preifat 2023-26 pdf icon PDF 171 KB

Derbyn adroddiad y Cyfarwyddwr Materion Ffyniant a Datblygu, sy'n rhoi trosolwg i'r Aelodau o Strategaeth Rhentu'r Sector Preifat 2023 -2026 arfaethedig ac sy'n ceisio cymeradwyaeth i'w gweithredu.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Materion Ffyniant a Datblygu adroddiad sy'n rhoi trosolwg o Strategaeth Rhentu'r Sector Preifat 2023 -2026 arfaethedig ac sy'n ceisio cymeradwyaeth i'w gweithredu.

 

Soniodd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion Ffyniant a Datblygu yn gadarnhaol am y gwaith a wnaed mewn perthynas â’r sector rhentu preifat gyda landlordiaid RhCT; a nododd fod RhCT wedi bod yn rhagweithiol wrth ddarparu cyngor gyda gofynion a chanllawiau deddfwriaeth. Ychwanegodd yr Aelod o'r Cabinet ei ddiolch i swyddogion a dywedodd ei fod wedi derbyn canmoliaeth ar eu rhan.

 

Adleisiodd yr Aelod Aelod o'r Cabinet ar faterion Iechyd y Cyhoedd a Chymunedau y sylwadau ac roedd yn cefnogi’r argymhellion yn yr adroddiad.

 

PENDERFYNODD y Cabinet:

1.    Cymeradwyo Strategaeth arfaethedig Rhentu'r Sector Preifat 2023-26 sy’n cefnogi darparu sector rhentu preifat sy’n  cynnig llety diogel, fforddiadwy, sydd wedi’i reoli’n dda ac o safon dda, gan greu tenantiaethau hygyrch a chynaliadwy.

 

 

 

64.

Ymgysylltu mewn perthynas â Chyllideb y Cyngor - 2024-2025 pdf icon PDF 158 KB

Derbyn adroddiad y Cyfarwyddwr Gwasanaeth – Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu, sy'n rhoi gwybod i'r Cabinet am y dull arfaethedig o ymgysylltu ac ymgynghori â thrigolion yngl?n â phennu cyllideb 2024/25.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth – Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu wybod i'r Cabinet am y dull arfaethedig o ymgysylltu ac ymgynghori â thrigolion yngl?n â phroses pennu cyllideb 2024/25.

 

Dywedodd yr Arweinydd y byddai cyllideb y flwyddyn nesaf yn debygol o fod yr un fwyaf heriol i RhCT ers ei gyfnod fel Arweinydd y Cyngor; a phwysleisiwyd y byddai ymgysylltu â'r cyhoedd yn hollbwysi. Dywedodd yr Arweinydd, oni bai bod Llywodraeth y DU yn cyhoeddi cyllid ychwanegol yn ei gyllideb yn yr Hydref, y byddai'r canlyniadau i Gymru a'i Hawdurdodau Lleol yn anodd iawn. Dywedodd yr Arweinydd, yn dilyn arolwg, ledled Lloegr, y byddai o leiaf 26 Awdurdod Lleol o bosibl yn cyhoeddi 114 o hysbysiadau yn y flwyddyn nesaf; ac er bod RhCT ymhell i ffwrdd o gyhoeddi hysbysiad, byddai rheoli'r gyllideb a'r adnoddau yn ofalus yn fater hollbwysig.

 

Ychwanegodd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion yr Hinsawdd a Gwasanaethau Corfforaethol ei bod hi'n debygol y byddai'n flwyddyn a fyddai'n gofyn am sgwrs onest gyda thrigolion yngl?n â'r her enfawr sy'n wynebu'r Cyngor.

 

PENDERFYNODD y Cabinet:

1.    Cefnogi gwaith pellach i ddatblygu a pharhau â'r dull o ran yr ymgynghoriad ar gyllideb y Cyngor a gafodd ei gyflwyno yn ddiweddar, gan ddefnyddio gwefan Dewch i Siarad y Cyngor a threfniadau ymgysylltu wyneb yn wyneb â'r gymuned. Yn rhan o'r dull sydd wedi'i awgrymu, byddwn ni'n parhau i ddarparu ffyrdd eraill o ymgysylltu â'r rheiny heb fynediad i'r rhyngrwyd, neu sy'n ei chael hi'n anodd cysylltu â'r rhyngrwyd, a'r rheiny sy'n hoffi ymgysylltu trwy ddulliau traddodiadol;

2.     Cefnogi gofynion statudol y Cyngor parthed ymgynghori ar y Cynllun Gostyngiadau Treth y Cyngor a lefelau Treth y Cyngor, a chaiff y rhain eu bodloni trwy'r dull arfaethedig;

3.     Cefnogi lansio ymgynghoriad cyllideb cam 1 yn ystod hydref 2023, cyn amserlenni setliad cyllideb dros dro Llywodraeth Cymru, a ddisgwylir ar hyn o bryd tua chanol mis Rhagfyr;

4.Awdurdodi'r Cyfarwyddwr Gwasanaeth - Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu i gynllunio'n fanwl yr amserlen angenrheidiol ar gyfer ymgysylltu, mewn ymgynghoriad â'r Aelod Cabinet a'r Dirprwy Brif Weithredwr priodol a'r Cyfarwyddwr Cyfadran ar gyfer Gwasanaethau Cyllid, Digidol a Rheng Flaen.

 

 

65.

Trafod cadarnhau'r cynnig isod yn benderfyniad

“Bod y cyfarfod hwn yn cadw aelodau o'r wasg ac aelodau o'r cyhoedd allan o ystafell y cyfarfod, dan Adran 100A(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol (fel y'i diwygiwyd), yn ystod trafod yr agendwm nesaf, ar y sail y byddai'n debygol o olygu datgelu gwybodaeth eithriedig yn ôl diffiniad paragraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf.”

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:“Bod y cyfarfod yma yn cadw aelodau o'r wasg ac aelodau o'r cyhoedd allan o ystafell y cyfarfod, dan Adran 100A(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol (fel y'i diwygiwyd), yn ystod trafod yr agendwm nesaf, ar y sail y byddai'n debygol o olygu datgelu gwybodaeth eithriedig yn ôl diffiniad paragraff xx o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf.”

 

 

66.

Dileu dyledion nad oes modd eu casglu

Derbyn adroddiad y Dirprwy Brif Weithredwr a Chyfarwyddwr Cyfadran y Gwasanaethau Cyllid, Digidol a Rheng Flaen sy'n nodi datganiad sefyllfa ar ddyledion nad oes modd eu casglu, ac sy'n pennu'r gofyniad i ddileu symiau penodol yn unol â meini prawf adolygu llym.  

 

Cofnodion:

Yn dilyn trafodaeth am adroddiad y Dirprwy Brif Weithredwr a'r Cyfarwyddwr Cyllid a Gwasanaethau Digidol sy'n cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffinnir ym Mharagraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol, 1972 (fel y'i diwygiwyd), sef gwybodaeth sy'n ymwneud â materion ariannol unrhyw rai penodol (gan gynnwys yr awdurdod sy'n dal yr wybodaeth honno), PENDERFYNODD y Cabinet:

 

1.    Dileu'r cyfrifon sydd wedi'u nodi yn y Ddarpariaeth o Ddyledion sydd wedi'i chynnwys yng nghyfrifon y Cyngor (gan geisio taliad os daw rhagor o wybodaeth am unrhyw ddyled i'r amlwg). 

 

 

67.

CYNON VALLEY WASTE DISPOSAL COMPANY LIMITED AC AMGEN RHONDDA LIMITED – CYFARFOD CYFFREDINOL BLYNYDDOL

Derbyn adroddiad Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cyfreithiol, sy'n rhoi cyfle i Aelodau archwilio datganiadau ariannol Cynon Valley Waste Disposal Company Limited ac Amgen Rhondda Limited (y ‘Cwmnïau’) sydd i'w cyflwyno i Gyfarfodydd Cyffredinol Blynyddol rhithwir y Cwmnïau ym mis Tachwedd 2023, a galluogi Aelodau i ofyn i swyddogion sy'n mynd i'r cyfarfodydd ar ran y Cyngor fel unig gyfranddalwyr y Cwmnïau bleidleisio yn unol â chyfarwyddiadau Aelodau

Cofnodion:

Yn dilyn trafodaeth am adroddiad y Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd sy'n cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffinnir ym Mharagraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol, 1972 (fel y'i diwygiwyd), sef gwybodaeth sy'n ymwneud â materion ariannol unrhyw rai penodol (gan gynnwys yr awdurdod sy'n dal yr wybodaeth honno), PENDERFYNODD y Cabinet:

1.    Bod y bwriad cyfredol i barhau i weithredu Cynon Valley Waste Disposal Company Limited ac Amgen Rhondda Limited (y 'Cwmnïau') yn gwmnïau dan reolaeth yr Awdurdod Lleol yn y dyfodol wedi'i gadarnhau;

2.     Yn amodol ar fodloni'r Dirprwy Brif Weithredwr a'r Cyfarwyddwr Cyfadran - Gwasanaethau Cyllid, Digidol a Rheng Flaen nad oes unrhyw afreoleidd-dra yng nghyfrifon y Cwmnïau y dylid derbyn y cyfrifon ar ran y Cyngor;

3.     Penodi Azets Audit Services yn archwilwyr i'r Cwmnïau am y flwyddyn sy'n dod i ben ar 31 Mawrth 2024.

4.     Bod Cyfarwyddiaethau'r Cyfarwyddwr Gwasanaethau Priffyrdd, Gofal y Strydoedd a Thrafnidiaeth a'r Cyfarwyddwr Gwasanaeth – Gwasanaethau Cyllid a Gwella ar y ddau Gwmni yn parhau;

5.     Nodi parhad swydd cyfarwyddwr anweithredol ar Fwrdd y Cwmnïau hyd at Gyfarfodydd Cyffredinol Blynyddol 2024;

6.     Awdurdodi Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd ac/neu ei enwebai i arfer pleidlais y Cyngor yng Nghyfarfodydd Cyffredinol Blynyddol y Cwmnïau yn unol ag argymhellion 2(ii) i 2(iv) uchod; a

7.     Bydd Aelod o'r Cabinet yn cynrychioli'r Cyngor yng Nghyfarfodydd Cyffredinol Blynyddol y Cwmnïau.