Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Hybrid

Cyswllt: Hannah Jones - Uned Busnes y Cyngor  07385086169

Cyfryngau

Eitemau
Rhif eitem

36.

Datgan Buddiant

Derbyn datganiadau o fuddiannau personol gan Gynghorwyr, yn unol â gofynion Cod Ymddygiad y Cyngor.

 

Nodwch:

 

1.     Mae gofyn i Aelodau ddatgan rhif a phwnc yr agendwm y mae eu buddiant yn ymwneud ag ef a mynegi natur y buddiant personol hwnnw; a

2.     Lle bo Aelodau'n ymneilltuo o'r cyfarfod o ganlyniad i ddatgelu buddiant sy'n rhagfarnu, rhaid iddyn nhw roi gwybod i'r Cadeirydd pan fyddan nhw'n gadael.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Yn unol â Chod Ymddygiad y Cyngor, cafodd y datganiadau o fuddiant canlynol eu gwneud:

·       Roedd y Dirprwy Arweinydd wedi datgan buddiant personol mewn perthynas ag Eitem 6 - Cynllun Cymorth Costau Byw Lleol 2023: "Mae gen i aelodau o'r teulu fyddai'n elwa o'r gronfa";

·       Roedd y Dirprwy Arweinydd wedi datgan buddiant personol mewn perthynas ag Eitem 11 - Ymgynghoriad ar y Cynigion i Ad-drefnu Darpariaeth Dosbarthiadau Cynnal Dysgu Prif Ffrwd Anghenion Dysgu Ychwanegol yn Rhondda Cynon Taf: "Rydw i'n Llywodraethwr mewn ysgol sydd wedi'i nodi yn yr adroddiad";

·       Roedd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion yr Hinsawdd a Gwasanaethau Corfforaethol wedi datgan buddiant mewn perthynas ag Eitem 6 - Cynllun Cymorth Costau Byw Lleol 2023: "Mae gen i aelodau o'r teulu fyddai'n elwa o'r gronfa"; a

·       Roedd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion yr Amgylchedd a Hamdden wedi datgan buddiant mewn perthynas ag Eitem 6 - Cynllun Cymorth Costau Byw Lleol 2023: "Mae gen i aelodau o'r teulu fyddai'n elwa o'r gronfa";

 

 

37.

Cofnodion pdf icon PDF 154 KB

Cadarnhau cofnodion o gyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 17 Gorffennaf 2023 yn rhai cywir.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNODD y Cabinet gymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 17 Gorffennaf 2023.

 

 

38.

Cynllun Dirprwyo'r Arweinydd

Nodi, er gwybodaeth, y diweddariad i Gynllun Dirprwyo'r Arweinydd.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNODD y Cabinet nodi'r newidiadau i Gynllun Dirprwyo'r Arweinydd.

 

39.

Newid i Drefn yr Agenda

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

40.

Trefniadaeth Ysgolion - Cynnig i gau Ysgol Gynradd y Rhigos gan drosglwyddo disgyblion i Ysgol Gynradd Hirwaun pdf icon PDF 211 KB

Derbyn adroddiad y Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Cynhwysiant, sy'n ceisio caniatâd i gychwyn yr ymgynghoriad trefniadaeth ysgolion statudol perthnasol ac angenrheidiol mewn perthynas â'r cynnig i gau Ysgol Gynradd y Rhigos, yn unol â gofynion Cod Trefniadaeth Ysgolion (Ail Argraffiad) (011/2018) Llywodraeth Cymru; ac ehangu dalgylch Ysgol Gynradd Hirwaun i gynnwys dalgylch presennol Ysgol Gynradd y Rhigos.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ceisiodd y Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Cynhwysiant ganiatâd ffurfiol i ddechrau'r ymgynghoriad statudol ac angenrheidiol i gau Ysgol Gynradd y Rhigos ac i ymestyn dalgylch Ysgol Gynradd Hirwaun i gynnwys dalgylch presennol Ysgol Gynradd y Rhigos, yn unol â gofynion Cod Trefniadaeth Ysgolion Llywodraeth Cymru (2il Argraffiad) (011/2018).

 

Gyda chytundeb yr Arweinydd, cafodd yr Aelodau canlynol, nad ydyn nhw'n Aelodau o'r Pwyllgor, ganiatâd i annerch y Cabinet:

·       Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol K Morgan

·       Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol A Rogers

Gyda chytundeb yr Arweinydd, cafodd yr aelodau o'r cyhoedd canlynol ganiatâd i annerch y Cabinet:

·       Ms M. Evans

·       Ms S. Oliver

Roedd yr Arweinydd wedi diolch i'r Aelodau nad ydyn nhw'n Aelodau o'r Pwyllgor am eu sylwadau nhw. Gan gyfeirio at adran 4.5 o'r adroddiad, holodd yr Arweinydd pa mor gadarn oedd y rhagamcaniadau a sut ddaeth y swyddogion i'r casgliad yma. Rhoddodd y Cyfarwyddwr wybod bod data genedigaethau byw'r Bwrdd Iechyd Lleol yn cael ei ddefnyddio.

 

Siaradodd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion Addysg, Cyfranogiad Pobl Ifainc a'r Gymraeg am ddyletswydd statudol y Cyngor i fonitro lleoedd dros ben ei ysgolion. Nododd yr Aelod o'r Cabinet yr effaith y byddai'r gostyngiad a ragwelir o 33% yn nifer y disgyblion a fydd yn mynychu'r ysgol yn y pum mlynedd nesaf yn ei chael ar gynaliadwyedd yr ysgol. Roedd yr uchod, ynghyd ag oedran y safle, y gwaith cynnal a chadw y mae angen ei gyflawni a'r ffaith bod y safle ddim yn cydymffurfio â Deddf Cydraddoldeb 2010 wedi arwain at bryderon ymhlith Aelodau'r Cabinet mewn perthynas â hyfywedd yr ysgol yn y dyfodol. Ychwanegodd yr Aelod o'r Cabinet fod cyfleusterau awyr agored gwych yn Ysgol Gynradd Hirwaun a'r ardal gyfagos. O ganlyniad i hynny, roedd yr Aelod o'r Cabinet o blaid dechrau ymgynghoriad i gasglu rhagor o wybodaeth am farn y trigolion.

 

Dymunodd y Dirprwy Arweinydd ddiolch i'r siaradwyr am godi meysydd allweddol er mwyn i'r Cabinet eu trafod. Roedd y Dirprwy Arweinydd o blaid dechrau ymgynghoriad statudol ar sail yr adeiladau sy'n heneiddio a nifer y lleoedd dros ben. Byddai hyn yn galluogi'r Cabinet i bwyso a mesur y sylwadau ac edrych yn fanwl ar yr ymatebion i'r ymgynghoriad yn y dyfodol.

 

PENDERFYNODDy Cabinet:

1.      Nodi cynnwys yr adroddiad;

2.      Rhoi caniatâd ffurfiol i ddechrau ymgynghoriad statudol gyda rhanddeiliaid perthnasol mewn perthynas â'r cynnig i gau Ysgol Gynradd y Rhigos ac ehangu dalgylch Ysgol Gynradd Hirwaun i gynnwys dalgylch presennol Ysgol Gynradd y Rhigos;

3.      Rhoi caniatâd ffurfiol i adrodd yn ôl i'r Cabinet i drafod yr Adroddiad Ymgynghori a phennu a oes angen cyhoeddi Adroddiad Ymgynghori a chymeradwyo cyhoeddi'r cynnig ar ffurf Hysbysiad Statudol; a

4.      Rhoi awdurdod dirprwyedig i'r Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Cynhwysiant i wneud unrhyw fân newidiadau sy'n ofynnol i'r ddogfen ymgynghori ddrafft cyn ei chyhoeddi a dechrau'r ymgynghoriad.

 

41.

Ymgynghoriad ar y Cynigion i Ad-drefnu Darpariaeth Dosbarthiadau Cynnal Dysgu Prif Ffrwd - Anghenion Dysgu Ychwanegol yn Rhondda Cynon Taf pdf icon PDF 434 KB

Derbyn adroddiad y Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Cynhwysiant sy'n rhoi gwybod i'r Aelodau am ganlyniadau'r ymgynghoriad diweddar yngl?n â'r cynnig i ad-drefnu darpariaeth dosbarthiadau cynnal dysgu prif ffrwd yn Rhondda Cynon Taf.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyn adroddiad y Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Cynhwysiant sy'n rhoi gwybod i'r Cabinet am ganlyniadau'r ymgynghoriad diweddar yngl?n â'r cynnig i ad-drefnu darpariaeth dosbarthiadau cynnal dysgu prif ffrwd yn Rhondda Cynon Taf.

 

PENDERFYNODDy Cabinet:

1.     Nodi'r wybodaeth yn yr Adroddiad Ymgynghori, sy'n cynnwys manylion yr ohebiaeth a dderbyniwyd yn ystod y dasg ymgynghori a nodiadau o'r gwahanol gyfarfodydd a gafodd eu cynnal;

2.     Bwrw ymlaen â'r cynigion canlynol i ad-drefnu darpariaeth Dosbarthiadau Cynnal Dysgu'r brif ffrwd yn Rhondda Cynon Taf (RhCT) trwy gyhoeddi'r hysbysiadau statudol priodol.

·       Cynnig 1 (wedi’i ddiwygio): Symud y dosbarth cynnal dysgu Arsylwi ac Asesu yn Ysgol Gynradd Penrhiwceibr i Ysgol Gynradd Gymuned Abercynon. Daw hyn i rym o fis Ebrill 2024. (Diwygiwyd o Ebrill 2024)

·       Cynnig 2 (wedi’i ddiwygio): Trosglwyddo’r dosbarth cynnal dysgu ar gyfer disgyblion ym Mlynyddoedd 3-6 ag Anhwylder y Sbectrwm Awtistig (ASA) yn Ysgol Gynradd Gymunedol Abercynon i greu darpariaeth pob oed yn y Cyfnod Cynradd yn Ysgol Gynradd Gymuned Perthcelyn, i ddod i rym o fis Medi 2024.  (Diwygiwyd o Ebrill 2024)

·       Cynnig 3: Sefydlu un dosbarth cynnal dysgu (Asesu ac Ymyrraeth) y Blynyddoedd Cynnar ar gyfer disgyblion o dan oedran ysgol statudol sy'n dangos anghenion sylweddol Ysgol Gynradd Gymuned Abercynon i ddod i rym o fis Ebrill 2024. 

·       Cynnig 4: Sefydlu dau ddosbarth cynnal dysgu cyfrwng Cymraeg Cyfnod Cynradd yn yr ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg newydd yn Rhydfelen ar gyfer disgyblion ag ADY sylweddol, i ddod i rym o fis Medi 2024.

·       Cynnig 5: Sefydlu un Dosbarth Cynnal Dysgu ar gyfer disgyblion Blynyddoedd 7-11 ag ASA yn yr ysgol 3-16 oed newydd ar safle Ysgol Gynradd/Uwchradd y Ddraenen Wen, i ddod i rym o fis Medi 2024.

 

3.     Nodi cynnwys, sylwadau a/neu argymhellion y Pwyllgor Craffu - Addysg a Chynhwysiant, yn dilyn gwaith rhag-graffu mewn perthynas â'r argymhellion uchod a gynhaliwyd yn ystod y cyfarfod a gynhaliwyd ar 14 Medi 2023.

 

 

42.

Rhag-Graffu: Adolygu'r Strategaeth Toiledau Lleol pdf icon PDF 146 KB

Derbyn adroddiad Cyfarwyddwr Gwasanaeth - Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu, sy'n rhannu adborth a sylwadau'r Pwyllgor Craffu - Gwasanaethau Cymuned yn dilyn ei waith rhag-graffu mewn perthynas â'r Strategaeth Toiledau Lleol yn ystod ei gyfarfod ar 10 Gorffennaf 2023.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth – Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu adborth a sylwadau'r Pwyllgor Craffu - Gwasanaethau Cymuned i'r Cabinet, yn dilyn rhag-graffu ar y Strategaeth Toiledau Lleol yn ystod ei gyfarfod ar 10 Medi 2023.

 

Rhoddodd Pennaeth y Celfyddydau, Diwylliant a Llyfrgelloedd ddiweddariad i'r Cabinet mewn perthynas â'r adolygiad o Strategaeth Toiledau Lleol Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf rhwng 2019-2023 hyd at 2023-2028. Esboniwyd nad yw darparu toiledau lleol ar gyfer y cyhoedd yn ddyletswydd statudol ar gyfer Awdurdodau Lleol yng Nghymru; a bod y strategaeth yma'n ceisio lliniaru'r effaith drwy sicrhau bod modd i'r cyhoedd ddefnyddio'r toiledau hynny sydd ar gael yng nghyfleusterau'r Cyngor a gweithio gyda'r sector preifat i helpu i hyrwyddo'u cyfleusterau, a hynny mewn cyfnod heriol ar gyfer Awdurdodau Lleol.

 

Rhoddodd y Swyddog wybod am y cynnydd sydd wedi'i wneud hyd yn hyn, gan dynnu sylw'r Aelodau at adran 6 o'r adroddiad. Roedd hyn yn cynnwys dau amcan sydd wedi'u datblygu ar y cyd â chamau gweithredu cysylltiedig.

 

Roedd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion Iechyd y Cyhoedd a Chymunedau yn gefnogol o'r argymhellion sydd wedi'u hamlinellu yn yr adroddiad, a manteisiodd ar y cyfle i ddiolch i'r Pwyllgor Craffu - Gwasanaethau Cymuned am ei gyfraniad gwerthfawr.

 

Dymunodd y Dirprwy Arweinydd ddiolch i'r Pwyllgor Craffu hefyd am ei gyfraniad, gan nodi y byddai hyn yn gyfle i ymgysylltu â Chynghorau Cymuned i ychwanegu gwerth i'r ddarpariaeth.

 

PENDERFYNODDy Cabinet:

1.    Nodi sylwadau'r Pwyllgor Craffu - Gwasanaethau Cymuned fel sydd wedi'i nodi yn adran 5 yr adroddiad; a

2.    Chymeradwyo Strategaeth Toiledau Lleol 2023-2028 fel sydd wedi'i hatodi yn Atodiad A.

 

 

43.

Cynnig i Ymestyn Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus CBS RhCT Mewn Perthynas â Mesurau Rheoli Cŵn pdf icon PDF 191 KB

Derbyn adroddiad ar y cyd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cyfreithiol a Gwasanaethau Democrataidd, Cyfarwyddwr Iechyd a Diogelwch y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymuned a Chyfarwyddwr y Gwasanaethau Priffyrdd, Gofal y Strydoedd a Thrafnidiaeth, sy'n ceisio rhannu gwybodaeth â'r Aelodau am ddeilliannau'r ymgynghoriad cyhoeddus a gafodd ei gychwyn gan y Cabinet mewn perthynas â'r Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus - Mesurau Rheoli C?n ac sy'n gofyn am ganiatâd i ymestyn y 2 Orchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus mewn perthynas â mesurau rheoli c?n yn Rhondda Cynon Taf, yn amodol ar unrhyw ddiwygiadau y mae'r Aelodau'n dymuno'u hystyried wrth ymateb i'r ymgynghoriad.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cyfreithiol a Gwasanaethau Democrataidd ddeilliannau'r ymgynghoriad â'r cyhoedd yn ymwneud â'r Gorchmynion Diogelu Mannau Cyhoeddus mewn perthynas â mesurau rheoli c?n ac i geisio caniatâd i ymestyn y Gorchmynion Diogelu Mannau Cyhoeddus mewn perthynas â mesurau rheoli c?n yn Rhondda Cynon Taf, yn amodol ar unrhyw ddiwygiadau y mae'r Aelodau'n dymuno eu gwneud wrth ymateb i'r ymgynghoriad.

 

Tynnwyd sylwadau'r Aelodau at Atodiad 1 yn yr adroddiad, sy'n cynnwys manylion yr ymatebion yn dilyn y cyfnod ymgynghori chwe wythnos.

 

Roedd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion yr Amgylchedd a Hamdden yn gefnogol o'r cynnig i ymestyn y Gorchmynion Diogelu Mannau Cyhoeddus mewn perthynas â Mesurau Rheoli C?n, gan nodi bod baw c?n yn parhau i fod yn bryder i drigolion er gwaethaf ymdrechion y Cyngor, felly byddai ymestyn y Gorchmynion yn werthfawr iawn.

 

Roedd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion Iechyd y Cyhoedd a Chymunedau wedi nodi'r ymateb i'r ymgynghoriad, roedd yr Aelod o'r farn bod hyn yn tynnu sylw at bwysigrwydd y Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus. Siaradodd yr Aelod o'r Cabinet am ôl-effeithiau baw c?n ar gaeau chwaraeon cyn mynegi ei fod ef o blaid yr argymhellion sydd wedi'u nodi yn yr adroddiad.

 

Roedd yr Arweinydd o blaid y cynigion gan bwysleisio bod trigolion RhCT yn ffodus iawn o allu manteisio ar ystod eang o fryniau, mynyddoedd, llwybrau a pharciau er mwyn cerdded eu c?n; gan nodi nad oes gan drigolion hawl i fynd â'u c?n ar gaeau chwaraeon. Siaradodd yr Arweinydd am yr ymgyrch sydd wedi cael ei chynnal ar y cyfryngau cymdeithasol dros y blynyddoedd mewn perthynas â'r Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus a'r arwyddion sydd eisoes wedi'u gosod yn yr ardaloedd yma. Gofynnodd yr Arweinydd fod swyddogion yn cynnal adolygiad o'r arwyddion ac yn ystyried gosod arwyddion syml ychwanegol i sicrhau bod trigolion yn deall y rheolau, lle bo'n briodol.

 

Daeth yr Arweinydd â'i gyfraniad e i ben drwy ganmol y clybiau pêl-droed a rygbi lleol sydd wedi bod yn rhan bwysig o dynnu sylw at y mater yma a sefydlu'r Gorchmynion Diogelu Mannau Cyhoeddus yn 2017.

 

Roedd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion Iechyd a Gofal Cymdeithasol o blaid ymestyn cyfnod y Gorchmynion Diogelu Mannau Cyhoeddus, gan holi sut y bydd modd gorfodi'r gorchymyn. Roedd yr Arweinydd wedi'i siomi i roi gwybod bod nifer o ddirwyon yn cael eu cyhoeddi bob wythnos am beidio â chydymffurfio â'r gorchymyn, gan nodi bod modd uwchgyfeirio'r materion yma i'r heddlu. Ychwanegodd yr Arweinydd y byddai'n ddefnyddiol cael diweddariad pellach yn y dyfodol am nifer y dirwyon sy'n cael eu cyflwyno mewn perthynas â throseddau sy'n ymwneud â ch?n yn ystod y 12 mis diwethaf.

 

PENDERFYNODDy Cabinet:

1.    Nodi cefnogaeth y cyhoedd ar gyfer ymestyn y Gorchmynion Diogelu Mannau Cyhoeddus sy'n ymwneud â mesurau rheoli c?n yn Rhondda Cynon Taf ar gyfer cyfnod pellach o 3 blynedd o 1 Hydref 2023;

2.    Trafod yr ymatebion i'r ymgynghoriad cyhoeddus, fel sydd wedi'i nodi yn Atodiad 1, ynghyd â'r  ...  view the full Cofnodion text for item 43.

44.

Cynllun Cymorth Costau Byw Lleol 2023 pdf icon PDF 138 KB

Derbyn adroddiad y Dirprwy Brif Weithredwr a Chyfarwyddwr y Gyfadran Cyllid, Gwasanaethau Digidol a Gwasanaethau Rheng Flaen, sy'n rhoi manylion am Gynllun Cymorth Costau Byw Lleol (2023).

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Dirprwy Brif Weithredwr a Chyfarwyddwr y Gyfadran Cyllid, Gwasanaethau Digidol a Gwasanaethau Rheng Flaen fanylion Cynllun Cymorth Costau Byw Lleol (2023) i'r Cabinet.

 

Manteisiodd yr Arweinydd ar y cyfle i ddiolch i swyddogion am lunio'r pecyn cyllid sylweddol er mwyn i Aelodau eu trafod, yn dilyn ei gais yn ystod cyfarfod llawn o'r Cyngor. Rhoddodd yr Arweinydd wybod bod y Cyngor wedi darparu Prydau Ysgol am Ddim yn ystod gwyliau'r haf, gan nodi y byddai hyn wedi costio bron £1miliwn, ond mae'r pecyn sy'n cael ei gyflwyno i Aelodau yn cynnwys oddeutu £4.3miliwn. Dyma'r pecyn cyllid mwyaf i gael ei gyhoeddi gan unrhyw Awdurdod Lleol yn Ne Cymru.

 

Aeth yr Arweinydd ymlaen i drafod y Grant Cymorth Ynni Cyfleusterau Cymunedol gwerth £540 fesul sefydliad. Byddai hyn yn cynnig cymorth ariannol i sefydliadau nad ydyn nhw'n gwneud elw, megis eglwysi a chanolfannau cymuned, sy'n cynnal gweithgareddau a banciau bwyd. Esboniodd yr Arweinydd fod y sefydliadau yma'n gymorth enfawr i rai unigolion a byddai'r taliadau yma'n cynnig cymorth yn ystod cyfnod heriol y gaeaf. Roedd yr Arweinydd wedi croesawu'r pecyn cymorth byr dymor lleol yma gan obeithio y byddai cymorth pellach yn cael ei ddarparu gan Lywodraeth Cymru a/neu Llywodraeth y DU.

 

Roedd y Dirprwy Arweinydd o blaid yr argymhellion ac yn falch bod yr Awdurdod Lleol yn ystyried pecyn cymorth ar gyfer cymunedau, er gwaetha'r pwysau ariannol.

 

Roedd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion yr Hinsawdd a Gwasanaethau Corfforaethol wedi adleisio'r sylwadau, gan groesawu'r pecyn cyllid.

 

PENDERFYNODDy Cabinet:

1.    Nodi a chymeradwyo manylion y Cynllun Cymorth Costau Byw Lleol (2023); a

2.    Nodi a chymeradwyo'r trefniadau gweithredu a rhoi awdurdod dirprwyedig i'r Dirprwy Brif Weithredwr a Chyfarwyddwr y Gyfadran Cyllid, Gwasanaethau Digidol a Gwasanaethau Rheng Flaen fel sydd wedi'i nodi yn adran 9.

 

 

45.

Cynllun Ariannol Tymor Canolig 2023-24 hyd at 2026-27 pdf icon PDF 121 KB

Derbyn adroddiad y Dirprwy Brif Weithredwr a Chyfarwyddwr y Gyfadran Cyllid, Gwasanaethau Digidol a Gwasanaethau Rheng Flaen, sy'n rhoi diweddariad i'r Aelodau am y Cynllun Ariannol Tymor Canolig ar gyfer 2023/24 hyd at 2026/27, yn seiliedig ar y tybiaethau modelu presennol, cyn pennu'r cynigion manwl ar gyfer strategaeth cyllideb 2024/25 yn ystod misoedd yr Hydref. 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Gan ddangos cyflwyniad PowerPoint, rhoddodd y Dirprwy Brif Weithredwr a Chyfarwyddwr y Gyfadran Cyllid, Gwasanaethau Digidol a Gwasanaethau Rheng Flaen y newyddion diweddaraf i Aelodau am y Cynllun Ariannol Tymor Canolig ar gyfer 2023/24 hyd at 2026/27, yn seiliedig ar y rhagdybiaethau modelu presennol cyn pennu'r cynigion manwl ar gyfer strategaeth gyllideb 2024/25 yn ystod misoedd yr hydref. 

 

Diolchodd yr Arweinydd i'r Cyfarwyddwr Gwasanaeth am y diweddariad. Ceisiodd yr Arweinydd eglurhad pellach ar ddefnydd y Cyngor o'i gronfeydd wrth gefn, gan esbonio bod y Rhaglen Gyfalaf pedair gwaith yn fwy eleni nag oedd hi ddegawd yn ôl; mae yna fuddsoddiad sylweddol i foderneiddio'r ddarpariaeth gwasanaethau cymdeithasol; mae prosiectau Ysgolion yr 21ain Ganrif a phrosiectau eraill wedi'u cyllido, megis cynlluniau gwrthsefyll llifogydd, yn gofyn am gyllid cyfatebol. Nododd yr Arweinydd y byddai angen rheoli'r gyllideb fesul blwyddyn ar sail y cyllid sydd ar gael; felly defnyddio cronfeydd wrth gefn, lle bo modd, yw’r peth cywir.

 

Roedd yr Arweinydd yn poeni na fyddai'r newidiadau bach i wasanaethau, sydd eisoes wedi'u gwneud gan y Cyngor, yn gynaliadwy yn rhan o gyllideb y flwyddyn nesaf os nad yw Llywodraeth y DU yn rhyddhau cyllid pellach yn yr Hydref.

 

Nododd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion yr Hinsawdd a Gwasanaethau Corfforaethol ei rhwystredigaeth hi yngl?n â'r ffaith bod angen i'r Cyngor gynnal adolygiadau o'r gwasanaethau er mwyn cau'r bwlch yn y gyllideb ond roedd ganddi bob ffydd yng ngharfan gyllid y Cyngor.

 

Adleisiodd y Dirprwy Arweinydd sylwadau cynharach yr Aelodau gan ddiolch i'r swyddogion am eu trefnau ariannol cadarn yn ystod amser ofnadwy.  Roedd y Dirprwy Arweinydd yn cytuno bod mabwysiadu mantra 'buddsoddi er mwyn arbed' yn gywir gan nodi bod Rhaglen Gyfalaf y Cyngor yn ennyn cenfigen.

 

PENDERFYNODDy Cabinet:

1.       Nodi'r sefyllfa bresennol mewn perthynas â 'Chynllun Ariannol Tymor Canolig 2023/24 i 2026/27' a chael diweddariad pellach yn yr hydref yn rhan o'r broses gosod cyllideb flynyddol; a

2.       Nodi y bydd y Cynllun Ariannol Tymor Canolig yn cael ei gyflwyno i'r Cabinet ym mis Medi, ac yn cael ei adolygu gan y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu yn unol â'i gylch gorchwyl ochr yn ochr â'n trefniadau ar gyfer ymgynghori ar y gyllideb.

 

 

46.

Cynllun Corfforaethol y Cyngor - Blaenoriaethau Buddsoddi pdf icon PDF 163 KB

Derbyn adroddiad y Dirprwy Brif Weithredwr a Chyfarwyddwr y Gyfadran Cyllid, Gwasanaethau Digidol a Gwasanaethau Rheng Flaen, sy'n nodi'r sefyllfa o ran cyfle'r Cabinet i gynnig bod y Cyngor yn buddsoddi ymhellach yn ei feysydd â blaenoriaeth, yn unol â'r Cynllun Corfforaethol, "Gwneud Gwahaniaeth" 2020-2024.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

 

Nododd y Dirprwy Brif Weithredwr a Chyfarwyddwr y Gyfadran Cyllid, Gwasanaethau Digidol a Gwasanaethau Rheng Flaen y sefyllfa o ran cyfle'r Cabinet i gynnig bod y Cyngor yn buddsoddi ymhellach yn ei feysydd â blaenoriaeth, yn unol â'r Cynllun Corfforaethol, "Gwneud Gwahaniaeth" 2020-2024.

 

Cyfeiriodd yr Arweinydd at y tabl yn adran 4.1, gan esbonio bod y meysydd wedi'u nodi ar gyfer buddsoddiad yn unol â'r Cynllun Corfforaethol a'r blaenoriaethau ar gyfer trigolion. Nododd yr Arweinydd na fyddai modd i'r Cyngor gyflwyno buddsoddiad ychwanegol gwerth bron i dri chwarter miliwn o bunnoedd ynghyd â'r £4miliwn sydd wedi'i gytuno ar gyfer y Cynllun Cymorth Costau Byw Lleol (cofnod 44) heb y mesurau rheolaeth ariannol cadarn sydd ar waith mewn perthynas â'r gronfa wrth gefn.

 

PENDERFYNODDy Cabinet:

1.    Adolygu a chynnig y blaenoriaethau buddsoddi a'r trefniadau ariannu ychwanegol ar gyfer y Cynllun Corfforaethol fel sydd wedi'u nodi yn Atodiad A yr adroddiad a gafodd ei gyflwyno i'r Cyngor yn ei gyfarfod ar 20 Medi 2023.

 

 

47.

Adroddiad ar Gyflawniad y Cyngor - 30 Mehefin 2023 (Chwarter 1) pdf icon PDF 461 KB

Derbyn adroddiad y Dirprwy Brif Weithredwr a Chyfarwyddwr y Gyfadran Cyllid, Gwasanaethau Digidol a Gwasanaethau Rheng Flaen sy'n rhoi trosolwg i Aelodau o gyflawniad y Cyngor yn ystod tri mis cyntaf y flwyddyn ariannol hon (hyd at 31 Mehefin 2023), yn ariannol a gweithredol fel ei gilydd.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth – Materion Cyflawni a Gwella – grynodeb i'r Aelodau am gyflawniad y Cyngor yn ystod tri mis cyntaf y flwyddyn ariannol hon (hyd at 30 Mehefin 2023), o ran materion ariannol a gweithredol.

 

Dymunodd y Dirprwy Arweinydd ddiolch i'r Cyfarwyddwr Gwasanaeth am rannu'r newyddion diweddaraf, roedd hi'n falch o nodi'r gostyngiad o ran cyfraddau absenoldebau oherwydd salwch. Rhoddodd y Dirprwy Arweinydd wybod ei bod hi a'r Arweinydd yn siarad yn rheolaidd gyda'r Cyfarwyddwr Materion Adnoddau Dynol a chynrychiolwyr yr Undebau Llafur mewn perthynas ag absenoldebau oherwydd salwch a materion eraill sy'n ymwneud â lles staff.

 

Roedd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion yr Hinsawdd a Gwasanaethau Corfforaethol wedi nodi'r sefyllfa ariannol heriol y mae gwasanaethau'r Cyngor yn eu hwynebu wrth iddyn nhw barhau i weithredu. Roedd yr Aelod o'r Cabinet yn falch o'r buddsoddiad a'r cynnydd sydd wedi'i wneud yn ystod chwarter 1 ac roedd yr Aelod yn fodlon cefnogi'r argymhellion sydd wedi'u nodi yn yr adroddiad.

 

Nododd yr Arweinydd fod yr adroddiad yn dangos gorwariant posibl o oddeutu £2.5miliwn, ond pwysleisiodd fod Awdurdodau Lleol ledled y wlad yn wynebu gorwariant sylweddol o ganlyniad i chwyddiant a phwysau ar y gwasanaethau cymdeithasol. Nododd yr Arweinydd fod gan Awdurdod Lleol arall gorwariant rhagamcanol o £23.8miliwn, sydd bron i 10 gwaith yn fwy na gorwariant RhCT.

 

PENDERFYNODDy Cabinet:

 

Refeniw

 

1.    Nodi a chytuno ar sefyllfa refeniw Cronfa Gyffredinol y Cyngor fel y mae ar 30 Medi 2023 (Adran 2 o'r Crynodeb Gweithredol).

 

2.    Gofyn bod y Cabinet yn cymeradwyo'r trosglwyddiadau sydd wedi eu rhestru yn Adrannau 2a–e o'r Crynodeb Gweithredol, sy'n uwch na'r trothwy o £0.100 miliwn yn unol â Rheolau Gweithdrefn Ariannol y Cyngor.

 

Cyfalaf

 

3.    Nodi sefyllfa alldro cyfalaf y Cyngor fel y mae ar 30 Medi 2023 (Adrannau 3a-e o'r Crynodeb Gweithredol).

 

4.    Nodi manylion Dangosyddion Materion Darbodusrwydd Cylch Rheoli’r Trysorlys fel y mae ar 30 Mehefin 2023 (Adran 3f o'r Crynodeb Gweithredol yn yr adroddiad).

 

Blaenoriaethau'r Cynllun Corfforaethol

 

5.    Nodi diweddariadau cynnydd Chwarter 1 mewn perthynas â blaenoriaethau Cynllun Corfforaethol y Cyngor (Adrannau 5a-c o'r Crynodeb Gweithredol). Mae hyn yn cynnwys diweddariad mewn perthynas â gwaith parhaus y Cyngor i gyflawni'i dargedau mewn perthynas â'r hinsawdd.

 

 

48.

Trafod cadarnhau'r cynnig isod yn benderfyniad

“Bod y cyfarfod hwn yn cadw aelodau o'r wasg ac aelodau o'r cyhoedd allan o ystafell y cyfarfod, dan Adran 100A(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol (fel y'i diwygiwyd), yn ystod trafod yr agendwm nesaf, ar y sail y byddai'n debygol o olygu datgelu gwybodaeth eithriedig yn ôl diffiniad paragraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf.”

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:“Bod y cyfarfod yma yn cadw aelodau o'r wasg ac aelodau o'r cyhoedd allan o ystafell y cyfarfod, dan Adran 100A(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol (fel y'i diwygiwyd), yn ystod trafod yr agendwm nesaf, ar y sail y byddai'n debygol o olygu datgelu gwybodaeth eithriedig yn ôl diffiniad paragraff xx o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf.”

 

 

49.

Caffael Tir i'r Dwyrain o Rodfa Cenarth, Cwm-bach, Aberdâr.

Derbyn adroddiad ar y cyd Cyfarwyddwr Eiddo'r Cyngor a’r Cyfarwyddwr Priffyrdd, Gofal y Strydoedd a Thrafnidiaeth, sy'n ceisio awdurdod i gaffael budd rhydd-ddaliadol tir i'r dwyrain o Rodfa Cenarth, Cwm-bach, gan gynnwys y tir gerllaw.  Cyfeirir at y darn yma o dir fel 'Tomen y Twnnel' (Tunnel Tip), Cwm-bach.

 

Cofnodion:

Ceisiodd Cyfarwyddwr Eiddo'r Cyngor ganiatâd i gaffael budd rhydd-ddaliadol tir i'r dwyrain o Rodfa Cenarth, Cwm-bach, Aberdâr, gan gynnwys y tir cyferbyn. Cyfeirir at y tir yma fel 'Tunnel Tip', Cwm-bach, hefyd.

 

Ar ôl trafod yr adroddiad eithriedig, PENDERFYNODD y Cabinet:

1.             Trafod cynnwys yr adroddiad; a

2.             Cymeradwyo prynu budd rhydd-ddaliadol coetir sydd oddeutu 5.22 hectar/12.90 erw ac sydd wedi'i leoli i'r dwyrain o Rodfa Cenarth, Cwm-bach, Aberdâr, CF44 0NH, oddi wrth y cwmni sy'n gwerthu'r tir, Minecom Limited.