Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Hybrid

Cyswllt: Hannah Williams - Uned Busnes y Cyngor  07385401954

Cyfryngau

Eitemau
Rhif eitem

1.

Datgan Buddiant

Derbyn datganiadau o fuddiannau personol gan Aelodau, yn unol â gofynion y Cod Ymddygiad.

 

Nodwch:

 

1.     Mae gofyn i Aelodau ddatgan rhif a phwnc yr agendwm y mae eu buddiant yn ymwneud ag ef a mynegi natur y buddiant personol hwnnw; a

2.     Lle bo Aelodau'n ymneilltuo o'r cyfarfod o ganlyniad i ddatgelu buddiant sy'n rhagfarnu, rhaid iddyn nhw roi gwybod i'r Cadeirydd pan fyddan nhw'n gadael.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Roedd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion yr Hinsawdd a Gwasanaethau Corfforaethol wedi datgan buddiant personol a buddiant sy'n rhagfarnu mewn perthynas ag Eitem 6 ar yr agenda - Cyfleoedd posibl i greu man cynnal achlysuron ychwanegol ym Mharc Coffa Ynysangharad: "Rydw i'n ymddiriedolwr ar gyfer Parc Coffa Ynysangharad"; ac

 

Roedd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion yr Amgylchedd a Hamdden wedi datgan buddiant personol a buddiant sy'n rhagfarnu mewn perthynas ag Eitem 6 ar yr agenda - Cyfleoedd posibl i greu man cynnal achlysuron ychwanegol ym Mharc Coffa Ynysangharad: "Rydw i'n ymddiriedolwr ar gyfer Parc Coffa Ynysangharad".

 

Nodwch: Pan gafodd trafodaeth a phleidlais eu cynnal yngl?n â'r eitem, gadawodd y ddau Aelod o'r Cabinet y cyfarfod:

 

 

 

2.

Cofnodion pdf icon PDF 233 KB

Cadarnhau cofnodion o gyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 27 Mawrth 2023 yn rhai cywir.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNODD y Cabinet gymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 27 Mawrth 2023 yn rhai cywir.

 

3.

Cynllun Gweithle Strategaeth Swyddfeydd y Cyngor: Addas at y Dyfodol a Model Gweithredu a Pholisi Trefniadau Gweithio Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf pdf icon PDF 280 KB

Derbyn adroddiad y Prif Weithredwr, sy'n ceisio cymeradwyaeth y Cabinet i gytuno ar Gynllun Gweithle Strategaeth Swyddfeydd y Cyngor: Addas at y Dyfodol ar gyfer y cyfnod 2023-2030 a Model Gweithredu a Pholisi Trefniadau Gweithio y Cyngor.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr yr adroddiad, a oedd yn ceisio caniatâd gan y Cabinet i gymeradwyo Cynllun Gweithle a Strategaeth Swyddfeydd y Cyngor: Addas at y Dyfodol, ar gyfer y cyfnod 2023-2030 a Model Gweithredu a Pholisi Trefniadau Gweithio'r Cyngor.

 

Roedd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion yr Hinsawdd a Gwasanaethau Corfforaethol yn falch o nodi bod y Strategaeth Swyddfeydd oedd yn cael ei chyflwyno i'r Aelodau yn cyd-fynd â gwaith ôl troed carbon Is-bwyllgor y Cabinet ar faterion yr Hinsawdd.  Nododd yr Aelod o'r Cabinet fod yr adroddiad yn cydnabod pwysigrwydd dulliau gweithio hybrid ond mae dal angen staff yn y swyddfeydd ar gyfer rhai gwasanaethau. O ganlyniad i hynny, roedd yr Aelod o'r Cabinet wedi nodi bod angen monitro'r trefniadau gweithio a sut mae hyn yn bodloni anghenion y Cyngor a'r staff.

 

Roedd yr Aelod o'r Cabinet wedi lleisio'i chefnogaeth hi gan nodi y byddai adleoli Pencadlys y Cyngor yn dod â rhagor o bobl i ganol tref Pontypridd ac yn rhoi rhagor o gyfleoedd i staff ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, byddai hyn yn cefnogi'r agenda gwyrdd.

 

Roedd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion Datblygu a Ffyniant yn croesawu'r cynigion a'r cyfleoedd i archwilio opsiynau dichonolrwydd ar gyfer rhyddhau safle'r Pafiliynau, Cwm Clydach, a’i datblygu ar gyfer Ysgol Arbennig newydd. Roedd yr Aelod o'r Cabinet wedi siarad am bolisi Llywodraeth Cymru yn rhan o'r Cynllun Trawsnewid Trefi i ddod â phobl a gwasanaethau cyhoeddus i ganol trefi felly byddai hyn yn cyd-fynd â chynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer y dyfodol.

 

Manteisiodd yr Arweinydd ar y cyfle i ddiolch i swyddogion am y gwaith a gafodd ei wneud i sefydlu'r cynigion. Nododd yr Arweinydd nad yw nifer o'r swyddfeydd yn ymwneud â'r cyhoedd gan esbonio bod carfanau eraill, yr Uwch Garfan Reoli ac Aelodau Etholedig yn defnyddio safle Cwm Clydach ar hyn o bryd, yn ogystal â chynnal cyfarfodydd pwyllgor yno. Roedd yr Arweinydd o'r farn y byddai symud o Gwm Clydach i ganol tref Pontypridd yn cynnig lleoliad mwy canolog gyda chysylltiadau gwell â thrafnidiaeth gyhoeddus, nododd y byddai'r mwyafrif o'r newidiadau yn yr adroddiad yn cynnig lleoliad fwy hygyrch i aelodau o staff.

 

O ran arbedion refeniw, nododd yr Arweinydd y byddai'r newid yn sicrhau arbedion gwerth dros £400,000 y flwyddyn yn ogystal ag arbedion cyfalaf gwerth £3miliwn. Byddai hyn yn cael effaith gadarnhaol ar y gyllideb. O ran Llys Cadwyn, eglurodd yr Arweinydd fod yr incwm rhent sy'n gysylltiedig â'r model yn golygu nad oedd unrhyw gost i'r Cyngor. Esboniodd na fyddai'r newidiadau yn cael effaith negyddol ar y Cyngor a hynny o ganlyniad i'r cynnydd yn yr incwm rhent.

 

Roedd yr Arweinydd o blaid yr argymhellion gan nodi eu bod nhw'n cynnig newid cadarnhaol ar gyfer trethdalwyr, staff a'r amgylchedd. Ychwanegodd yr Arweinydd y bydd cyfleoedd pellach yn y dyfodol i ddatblygu'r adeiladau presennol, ac mae'r manylion wedi'u nodi yn yr adroddiad.

 

PENDERFYNODDy Cabinet:

1. Cymeradwyo Strategaeth Swyddfeydd y Cyngor (2023-2030), sy'n cynnwys:

      i.         Adleoli pencadlys y Cyngor i ganol tref Pontypridd, gan ddefnyddio'r swyddfeydd  ...  view the full Cofnodion text for item 3.

4.

Rhaglen Waith y Cabinet pdf icon PDF 104 KB

Derbyn adroddiad y Cyfarwyddwr Gwasanaeth – Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu, sy'n rhoi'r rhestr arfaethedig o faterion y mae angen i'r Cabinet eu hystyried yn ystod Blwyddyn 2023-24 y Cyngor.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyn adroddiad y Cyfarwyddwr Gwasanaeth – Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu, sy'n rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y rhestr arfaethedig o faterion y mae angen i'r Cabinet eu hystyried yn rhan o'i Raglen Waith yn ystod Blwyddyn 2023-24 y Cyngor.

 

Pwysleisiodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth fod y ddogfen sy'n cael ei chyflwyno i'r Aelodau'n ddogfen fyw, byddai modd newid y ddogfen yn unol ag anghenion busnes.

 

Rhoddodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth wybod y byddai Pwyllgor Trosolwg a Chraffu'r Cyngor yn trafod Rhaglen Waith y Cabinet yn ystod ei gyfarfod nesaf, a hynny er mwyn llywio rhaglenni gwaith y Pwyllgorau Craffu eraill.

 

Dymunodd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion yr Amgylchedd a Hamdden ddiolch i'r Cyfarwyddwr Gwasanaeth am rannu'r newyddion diweddaraf gan gydnabod bod cynnwys y rhaglen waith yn hyblyg ac yn dibynnu ar ofynion busnes a gofynion gweithredu'r Cyngor. Pwysleisiodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth pa mor bwysig yw'r gwaith ymgysylltu sy'n cael ei gynnal rhwng Aelodau'r Cabinet a Chadeiryddion y Pwyllgorau Craffu. Mae'r berthynas hon wedi'i datblygu dros y blynyddoedd er mwyn cynnig cyfleoedd craffu gwell.

 

PENDERFYNODDy Cabinet:

1.    Cymeradwyo'r Rhaglen Waith ar gyfer Blwyddyn 2023-2024  y Cyngor (gan addasu'n briodol ar ôl yr angen) a chael yr wybodaeth ddiweddaraf bob 3 mis. 

 

5.

Rhag-Graffu: Arlwy'r Gwasanaethau Oriau Dydd – Anableddau Dysgu pdf icon PDF 149 KB

Derbyn adroddiad y Cyfarwyddwr Gwasanaeth – Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu, sy'n rhoi adborth a sylwadau'r Pwyllgor Craffu - Gwasanaethau Cymuned i'r Cabinet yn dilyn rhag-graffu ar Arlwy’r Gwasanaethau Oriau Dydd – Anableddau Dysgu yn ei gyfarfod ar 24 Ebrill 2023.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhannodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth – Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu adborth a sylwadau'r Pwyllgor Craffu - Gwasanaethau Cymuned â'r Cabinet, yn dilyn rhag-graffu ar Arlwy'r Gwasanaethau Oriau Dydd - Anableddau Dysgu, yn ystod ei gyfarfod ar 24 Ebrill 2023. Tynnodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth sylw'r Aelodau at Adran 5 o'r adroddiad, sy'n nodi sylwadau allweddol y Pwyllgorau Craffu y mae angen eu trafod.

 

Rhoddodd Cyfarwyddwr Dros Dro'r Gwasanaethau Cymdeithasol ddiweddariad am y gwaith ymgysylltu sydd wedi'i gynnal i ddatblygu cynnig drafft ar gyfer Strategaeth a Model Gweithredu'r Gwasanaethau Oriau Dydd ar gyfer Pobl ag Anableddau Dysgu gan geisio caniatâd i gynnal ymgynghoriad wedi'i dargedu mewn perthynas â'r cynigion fel bod modd i'r Cabinet wneud penderfyniadau gwybodus am ddyfodol Gwasanaethau Oriau Dydd Cyngor Rhondda Cynon Taf.

 

Siaradodd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn gadarnhaol am y cynigion i ddiwygio a thrawsnewid Gwasanaethau Oriau Dydd y Cyngor ar gyfer unigolion ag anableddau dysgu, yn unol ag agenda trawsnewid ehangach y Cyngor. Nododd yr Aelod o'r Cabinet y byddai'r ddarpariaeth yn cael ei thrawsnewid o fodel gwasanaethau oriau dydd traddodiadol sydd wedi'i leoli mewn adeiladau i wasanaeth arloesol. Byddai hyn yn cynnig cyfleoedd pellach i unigolion wella'u hannibyniaeth, ac osgoi arwahanu cymdeithasol. Manteisiodd yr Aelod o'r Cabinet ar y cyfle i ddiolch i Aelodau'r Pwyllgor Craffu - Gwasanaethau Cymuned am eu sylwadau.

 

PENDERFYNODDy Cabinet:

1.    Nodi sylwadau a barn y Pwyllgor Craffu - Gwasanaethau Cymuned, fel sydd wedi’u nodi yn Adran 5 o'r adroddiad; 

2.    Cymeradwyo'r argymhellion sydd wedi'u hamlinellu yn Arlwy Gwasanaethau Oriau Dydd - Anableddau Dysgu ac sydd wedi'u cynnwys yn yr atodiad i'r adroddiad (Atodiad A), ac sydd hefyd wedi'u nodi isod:

·  Trafod yr wybodaeth sydd wedi'i darparu yn yr adroddiad, yn benodol o ran yr adborth am y gwaith ymgysylltu a gafodd ei gynnal i ddatblygu Strategaeth Ddrafft y Gwasanaeth Oriau Dydd a'r Model Gweithredu ar gyfer pobl ag anableddau dysgu;

·  Rhoi caniatâd i gynnal ymgynghoriad wedi'i dargedu mewn perthynas â Strategaeth Ddrafft y Gwasanaethau Oriau Dydd ar gyfer pobl ag anableddau dysgu a'r cynnig ar gyfer model gweithredu, fel sydd wedi'i nodi yn Adran 5 o'r adroddiad, a hynny gyda'r bobl sy'n defnyddio'r gwasanaethau oriau dydd, eu teuluoedd, eu cynhalwyr, staff a rhanddeiliaid cysylltiedig eraill.

·  Rhoi caniatâd i gynnal ymgynghoriad wedi'i dargedu gyda defnyddwyr y gwasanaeth, eu teuluoedd a chynhalwyr, staff a rhanddeiliaid cysylltiedig eraill mewn perthynas â'r cynnig i ddatgomisiynu Gwasanaeth Oriau Dydd Trefforest gan barhau i gynnig y ddarpariaeth bresennol i'r bobl oedd yn defnyddio'r Ganolfan cyn iddi gau dros dro ym mis Chwefror 2020, fel sydd wedi'i nodi ym mharagraff 5.7 o'r adroddiad; a

·       Cytuno i dderbyn adroddiad pellach sy'n nodi manylion deilliannau'r ymgynghoriad wedi'i dargedu arfaethedig, gan gynnwys Asesiad o'r Effaith ar Gydraddoldeb wedi'i ddiweddaru cyn gwneud unrhyw benderfyniad terfynol mewn perthynas â dyfodol y gwasanaethau oriau dydd ar gyfer pobl ag anableddau dysgu yn Rhondda Cynon Taf.

 

 

6.

Cyfleoedd posibl i greu man cynnal achlysuron ychwanegol ym Mharc Coffa Ynysangharad pdf icon PDF 273 KB

Derbyn adroddiad y Cyfarwyddwr Materion Ffyniant a Datblygu, sy'n gofyn am gymeradwyaeth y Cabinet i gymryd camau pellach o ran y cyfle ailddatblygu posibl i greu man cynnal achlysuron ym Mharc Coffa Ynysangharad fydd yn cefnogi gwaith cynnal achlysuron mawr a mynd ati i gyflwyno cais ffurfiol am gyllid i Raglen Pethau Pwysig Croeso Cymru.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyn adroddiad y Cyfarwyddwr Materion Ffyniant a Datblygu, sy'n ceisio cymeradwyaeth y Cabinet i gymryd camau pellach o ran y cyfle ailddatblygu posibl i greu man cynnal achlysuron ym Mharc Coffa Ynysangharad fydd yn cefnogi gwaith cynnal achlysuron mawr a mynd ati i gyflwyno cais ffurfiol am gyllid i Raglen Pethau Pwysig Croeso Cymru.

 

Tynnodd y Cyfarwyddwr sylw'r Aelodau at Adran 5 yr adroddiad, lle'r oedd manylion y cynnig wedi'u hamlinellu.

 

Rhoddodd y Cyfarwyddwr wybod i'r Cabinet fod yr adroddiad wedi cael ei drafod gan Is-bwyllgor y Cabinet - Parc Coffa Ynysangharad yn ystod ei gyfarfod ar 11 Mai 2023, lle nododd Ymddiriedolwyr eu cefnogaeth ar gyfer y cynnig.

 

Siaradodd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion Datblygu a Ffyniant o blaid y cynnig gan nodi y byddai'n ychwanegu gwerth i gynnig twristiaeth y parc a chanol tref Pontypridd, gan wneud yr ardal yn fwy deniadol i ymwelwyr.  Cyfeiriodd yr Aelod o'r Cabinet at sylwadau'r Ymddiriedolwyr gan bwysleisio y byddai'r ardal ddatblygu yn dir cyhoeddus a fyddai'n cael ei ddefnyddio at ddibenion hamdden ac i gynnal achlysuron, ni fyddai'r tir yn cael ei ddefnyddio ar gyfer parcio/symud cerbydau.

 

Siaradodd yr Arweinydd am achlysur gwych Parti Ponty a gafodd ei gynnal yn y parc dros y penwythnos gan bwysleisio bod y cynnig sy'n cael ei gyflwyno i'r Aelodau yn cynnwys tirlunio meddal yn unig.

 

PENDERFYNODDy Cabinet:

1.    Trafod cynnig dyluniad y cysyniad a gafodd ei gyflwyno yn yr adroddiad ac awdurdodi swyddogion i gymryd y camau nesaf o ran datblygu a chyflwyno cais ffurfiol am gyllid i Raglen Pethau Pwysig Croeso Cymru.

 

Nodwch: Roedd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion yr Hinsawdd a Gwasanaethau Corfforaethol a'r Aelod o'r Cabinet ar faterion yr Amgylchedd a Hamdden wedi gadael y cyfarfod cyn i'r eitem yma gael ei thrafod a chyn cynnal y bleidlais, a hynny ar ôl iddyn nhw ddatgan buddiant (Cofnod 1). Yn dilyn yr eitem hon, roedd y ddau Aelod o'r Cabinet wedi dychwelyd i'r cyfarfod.

 

 

7.

Cynllun Creu Lleoedd Pontypridd – Y Diweddaraf am Brosiect Porth y De pdf icon PDF 180 KB

Derbyn adroddiad y Cyfarwyddwr Materion Ffyniant a Datblygu, sy'n rhoi'r diweddaraf i Aelodau'r Cabinet am ddatblygiad prosiectau yn ardal Porth y De o Gynllun Creu Lleoedd Pontypridd; a'r camau arfaethedig nesaf.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Cyfarwyddwr Materion Ffyniant a Datblygu ddiweddariad yngl?n â gwaith datblygu prosiectau ardal Porth y De yng Nghynllun Creu Lleoedd Pontypridd; aeth ati i amlinellu'r camau nesaf arfaethedig a cheisio cymeradwyaeth y Cabinet i symud i'r camau datblygu nesaf ar gyfer y prosiectau sydd wedi'u cynnwys yn ardal Porth y De a chynnal gwaith cyhoeddusrwydd gyda'r gymuned a rhanddeiliaid allweddol mewn perthynas â'r camau gweithredu nesaf a gytunwyd arnyn nhw.

 

Amlinellodd y Cyfarwyddwr fanylion y cynigion i ddarparu mynedfa well i'r dref, gan wella'r Ardal Gadwraeth a chynnig llwybr clir o ben y dref, maes parcio Sardis a'r orsaf drenau i ganol y dref.   Byddai'r cynigion hefyd yn agor y dref i'r ardal werdd ar lan yr afon a chynnig mynediad mwy croesawgar i Barc Coffa Ynysangharad a Lido Cenedlaethol Cymru.

 

Nododd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion Datblygu a Ffyniant ei bod hi'n glir o'r ymatebion a dderbyniwyd gan y farchnad breifat na fyddai darparu gwesty mawr yn rhan o'r broses adfywio yn opsiwn dichonadwy ar hyn o bryd, er byddai'r Aelod wedi hoffi gweld hyn yn digwydd. Roedd yr Aelod o'r Cabinet yn hapus gyda'r cynigion diwygiedig, gan nodi y byddan nhw'n agor rhan isaf y dref gan ddenu golau, cynnig mannau eistedd a mannau agored, ac yn gwella mynediad i wasanaethau trafnidiaeth a chyfleusterau i gerddwyr a phobl anabl. O ran y cynnig i agor ochr Marks & Spencer y dref, nododd yr Aelod o'r Cabinet y byddai'r cynnig yma'n creu sgwâr mwy agored a modern gan wella'r gallu i wrthsefyll llifogydd yn yr ardal. Daeth yr Aelod o'r Cabinet â'i gyfraniad i ben drwy nodi y byddai naill ochr y dref yn gartref i gyfleusterau siopa a thwristiaeth o hyn ymlaen.

 

Siaradodd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion yr Hinsawdd a Gwasanaethau Corfforaethol yn gadarnhaol am yr adroddiad gan bwysleisio'r sylwadau sy'n nodi y byddai'r cynigion yn gwella'r mynediad i'r dref, parc a'r Lido Cenedlaethol.

 

O ran y pecyn cyllid, roedd yr Arweinydd yn hyderus na fyddai unrhyw broblemau'n codi wrth sicrhau pecyn cyllid pellach gan ystyried y cyllid sydd eisoes wedi'i gadarnhau a'r trafodaethau sy'n cael eu cynnal gyda Llywodraeth Cymru.

 

PENDERFYNODDy Cabinet:

1.             Nodi'r cynnydd sydd wedi'i wneud ar waith datblygu a chyflawni'r prosiect ar hen safle M&S a Dorothy Perkins/Burtons, hen safle'r Neuadd Bingo;

2.             Cymeradwyo'r opsiynau ailddatblygu a dylunio ar gyfer ardal Porth y De, gan gynnwys hen safle'r Neuadd Bingo ac adeiladau M&S a Dorothy Perkins/Burtons; a

3.             Rhoi caniatâd i swyddogion fwrw ymlaen a gwaith cyflwyno'r opsiynau datblygu sydd wedi'u nodi yn yr adroddiad yma, gan gynnwys cynigion i gynnal gwaith cyhoeddusrwydd gyda'r gymuned a rhanddeiliaid allweddol mewn perthynas â'r camau nesaf.

 

 

8.

Y Diweddaraf am Adolygiad yr Awdurdod o'r Strategaeth Rheoli Perygl Llifogydd Lleol a'r Cynllun Gweithredu pdf icon PDF 173 KB

Derbyn adroddiad Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Rheng Flaen, sy'n rhoi'r diweddaraf i Aelodau'r Cabinet am adolygiad yr Awdurdod o'r Strategaeth Rheoli Perygl Llifogydd Lleol (LFRMS) a'r Cynllun Gweithredu diwygiedig (sef Cynllun Rheoli Perygl Llifogydd yn flaenorol), fel sy'n ofynnol o dan Adran 10 o Ddeddf Rheoli Llifogydd a D?r 2010; a rhoi gwybodaeth bellach i Aelodau am y rhaglen waith ddiwygiedig sydd ei hangen i adolygu'r LFRMS a Chynllun Gweithredu presennol, yn unol ag amserlen statudol ddiweddaraf Llywodraeth Cymru.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth ar gyfer Trafnidiaeth, Gorfodi a Buddsoddi Strategol ddiweddariad am y cynnydd sydd wedi'i wneud mewn perthynas ag adolygiad yr Awdurdod o'r Strategaeth Leol Ar Gyfer Rheoli Perygl Llifogydd a'r Cynllun Gweithredu cysylltiedig (Cynllun Rheoli Perygl Llifogydd gynt), yn unol â gofynion Adran 10 Deddf Rheoli Llifogydd a D?r 2010. Aeth y Cyfarwyddwr Gwasanaeth ymlaen i roi gwybod i'r Aelodau am y rhaglen waith ddiwygiedig sydd ei hangen i gyflawni'r adolygiad o'r Strategaeth Leol Ar Gyfer Rheoli Perygl Llifogydd a'r Cynllun Gweithredu cysylltiedig, yn unol â'r amserlen statudol ddiweddaraf sydd wedi'i phennu gan Lywodraeth Cymru.

 

Manteisiodd yr Arweinydd ar y cyfle i ddiolch i'r swyddogion am eu hadolygiad nhw o'r Strategaeth Leol Ar Gyfer Rheoli Perygl Llifogydd. Rhoddodd yr Arweinydd wybod bod un Aelod wedi gofyn pa gymorth sydd ar gael i fusnesau yn ardal Pontypridd o ran perygl llifogydd a'r posibilrwydd na fydd modd i rai busnesau sicrhau yswiriant ar gyfer eu heiddo. Dywedodd yr Arweinydd fod yr Awdurdod Lleol wedi darparu grantiau i fusnesau ym Mhontypridd ar gyfer mesurau gwrthsefyll llifogydd; a bod swydd wedi cael ei sefydlu i wella'r gallu i wrthsefyll llifogydd ac ymgysylltu â'r gymuned a busnesau ynghylch sut mae modd iddyn nhw fod yn fwy diogel, gan weithio gyda nhw i sicrhau cyllid pellach lle bo modd. Pwysleisiodd yr Arweinydd fod lliniaru'r perygl o lifogydd a sicrhau bod y cyhoedd yn gwybod pwy yw'r awdurdodau rheoli llifogydd yn hanfodol. Dywedodd yr Arweinydd y byddai adroddiad pellach sy'n trafod argymhellion o ran llifogydd yn dilyn Storm Dennis yn cael ei gyflwyno i'r Aelodau yn y dyfodol. Pwysleisiodd nad yw'r perygl o lifogydd mawr wedi diflannu.

 

Nododd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion yr Hinsawdd a Gwasanaethau Corfforaethol faint o waith sydd wedi cael ei gynnal i adolygu'r Strategaeth a'r Cynllun Gweithredu, yn enwedig o ran newid yn yr hinsawdd. Pwysleisiodd yr Aelod o'r Cabinet na fyddai modd dileu'r perygl yn gyfan gwbl ond mae modd lleihau'r perygl.

 

PENDERFYNODDy Cabinet:

1.    Adolygu a nodi canlyniadau'r gwaith ymgysylltu cychwynnol â'r cyhoedd a gafodd ei gynnal mewn perthynas â'r Strategaeth Leol Ar Gyfer Rheoli Perygl Llifogydd a'r Cynllun Gweithredu diwygiedig, a gafodd ei gyflwyno i'r Pwyllgor Craffu – Materion yr Hinsawdd, Gwasanaethau Rheng Flaen a Ffyniant ar 22 Mawrth 2023 yn unol â'r rhaglen waith a gafodd ei chymeradwyo gan y Cabinet ar 29 Tachwedd 2022; a

2.    Nodi'r amserlenni dangosol, camau gweithredu a'r adroddiadau sy'n cael eu cyflwyno i'r Cabinet a'r Pwyllgor Craffu yn Atodiad 1.

 

 

9.

Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif: Enwi'r ysgolion newydd pdf icon PDF 247 KB

Derbyn adroddiad y Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Cynhwysiant, sy'n rhoi'r cyfle i'r Cabinet drafod argymhellion y cyrff llywodraethu dros dro mewn perthynas ag enwau ar gyfer yr ysgolion newydd sy'n cael eu creu yn rhan o gynigion trefniadaeth ysgolion Pontypridd.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth - Ysgolion yr 21ain Ganrif a Thrawsnewid cyfle i'r Cabinet drafod yr argymhellion a gafodd eu gwneud gan y corff llywodraethu mewn perthynas ag enwau'r ysgolion newydd sy'n cael eu sefydlu yn rhan o gynigion trefniadaeth ysgolion ar gyfer ardal Pontypridd.

 

Manteisiodd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion Addysg, Cyfranogiad Pobl Ifainc a'r Gymraeg ar y cyfle i ddiolch i swyddogion am gynnal yr ymgynghoriad anstatudol a gweithio gyda chyrff llywodraethu, athrawon, disgyblion a'r cymunedau ehangach sy'n gysylltiedig â datblygu'r ysgolion newydd. Nododd yr Aelod o'r Cabinet fod yr enwau sydd wedi'u hargymell ar gyfer yr ysgolion wedi'u datblygu gan ystyried barn a sylwadau'r disgyblion ym mhob ysgol.

 

Gyda chytundeb yr Arweinydd, siaradodd Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol C Lisles ar yr eitem yma.

 

Yn rhan o'i ymateb i sylwadau'r Aelod nad yw'n Aelod o'r Pwyllgor, nododd yr Arweinydd y byddai swyddogion yn cadw cofnod o awgrymiadau er mwyn sicrhau bod unrhyw ymgynghoriadau yn y dyfodol yn cael eu hehangu i annog rhagor o bobl i ymgysylltu, ond nododd fod nifer rhesymol wedi cymryd rhan yn yr ymgynghoriad yn yr achos yma.  O ran y sylwadau a gafodd eu gwneud ynghylch pennu ai oedolion neu blant a gyflwynodd y sylwadau, roedd yr Aelodau o'r farn bod y ffigur cyffredinol yn dangos bod pob sylw yn cael ei gofnodi yn yr un modd, waeth pwy ydych chi yn y gymuned.

 

Rhoddodd yr Arweinydd wybod i'r Cabinet ei fod e wedi derbyn e-bost gan Aelod Lleol a oedd yn dymuno cefnogi'r enwau newydd ar gyfer yr ysgol 3-16 oed newydd yng Nghilfynydd a'r Ysgol Cyfrwng Cymraeg newydd yn Rhydfelen, gan fod y mwyafrif o athrawon a disgyblion o blaid y cynnig.

 

Rhoddodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth - Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu wybod i'r Aelodau fod y Cyngor wedi ceisio caniatâd y Llywydd i eithrio'r eitem hon rhag y broses galw i mewn, a hynny o ganlyniad i ohirio'r adroddiad yn ystod cyfarfod Pwyllgor y Cabinet ym mis Chwefror, a'r brys mae hyn wedi'i greu o ran bwrw ymlaen â'r materion hyn cyn diwedd y flwyddyn academaidd ym mis Gorffennaf.

 

PENDERFYNODDy Cabinet:

1.    Cymeradwyo'r enw sydd wedi’i gynnig gan gorff llywodraethu dros dro'r Ysgol 3-16 oed newydd yn Y Ddraenen-wen, y mae disgwyl iddi agor ym mis Medi 2024 - yr enw sydd wedi’i gynnig yw Ysgol Afon Wen;

2.    Cymeradwyo'r enw sydd wedi’i gynnig gan gorff llywodraethu dros dro'r Ysgol 3-16 oed newydd ym Mhontypridd, y mae disgwyl iddi agor ym mis Medi 2024 - yr enw sydd wedi’i gynnig yw Ysgol Bro Taf; a

3.    Cymeradwyo'r enw sydd wedi’i gynnig gan gorff llywodraethu dros dro'r Ysgol Cyfrwng Cymraeg newydd yn Rhydfelen, y mae disgwyl iddi agor ym mis Medi 2024 - yr enw sydd wedi’i gynnig yw Ysgol Awel Taf.

 

 

 

10.

Ymgynghoriad ar y Cynigion i ad-drefnu Darpariaeth Dosbarthiadau Cynnal Dysgu Prif Ffrwd – Anghenion Dysgu Ychwanegol yn Rhondda Cynon Taf pdf icon PDF 457 KB

Derbyn adroddiad y Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Cynhwysiant, sy'n rhoi cyfle i Aelodau'r Cabinet drafod cynigion ar gyfer ad-drefnu darpariaeth Dosbarthiadau Cynnal Dysgu prif ffrwd yn Rhondda Cynon Taf.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyn adroddiad y Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Cynhwysiant ynghyd â rhoi cyfle i'r Aelodau drafod y cynigion ar gyfer ad-drefnu darpariaeth Dosbarthiadau Cynnal Dysgu prif ffrwd yn Rhondda Cynon Taf.

 

Siaradodd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion Addysg, Cyfranogiad Pobl Ifainc a'r Gymraeg o blaid yr argymhellion sydd wedi'u nodi yn yr adroddiad. Nododd yr Aelod o'r Cabinet y byddai'r cynigion yn ategu gwaith y Cyngor i gydymffurfio â deddfwriaeth Llywodraeth Cymru o ran y Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg a chefnogi Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg uchelgeisiol y Cyngor. Pwysleisiodd yr Aelod o'r Cabinet bwysigrwydd gweithredu er lles pennaf y dysgwyr, gan leihau unrhyw aflonyddwch sydd wedi'i achosi gan newid lleoliad a sicrhau bod gan ddisgyblion y cyfleusterau a'r cyfleoedd gorau posibl er mwyn dysgu a datblygu drwy gyfrwng y Gymraeg a Saesneg.

 

Adleisiodd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion Iechyd a Gofal Cymdeithasol y sylwadau blaenorol gan ganmol gwaith y Cyngor wrth fynd ati i adolygu darpariaeth ADY a sicrhau cynhwysiant prif ffrwd fwy effeithiol drwy aildrefnu'r dosbarthiadau cynnal dysgu, a hynny er mwyn bodloni anghenion y cymunedau a'u hargaeledd yn y sector cyfrwng Cymraeg.

 

PENDERFYNODDy Cabinet:

1.    Trafod yr wybodaeth oedd wedi ei chynnwys yn yr adroddiad;

2.    Trafod y cynigion ar gyfer ad-drefnu darpariaethau Dosbarthiadau Cynnal Dysgu prif ffrwd ar gyfer disgyblion ag Anghenion Dysgu Ychwanegol yng nghyd-destun y Cod Trefniadaeth Ysgolion (2018), Rhaglen Moderneiddio Ysgolion yr 21ain Ganrif a Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018.

3.    Cymeradwyo'n ffurfiol ddechrau'r broses ymgynghori o ran y cynigion canlynol:

 

-       Symud y Dosbarth Cynnal Dysgu Arsylwi ac Asesu yn Ysgol Gynradd Penrhiwceibr i Ysgol Gynradd Gymuned Abercynon. Daw hyn i rym o Ebrill 2024.

-       Trosglwyddo’r Dosbarth Cynnal Dysgu ar gyfer disgyblion Blynyddoedd 3-6 ag Anhwylder y Sbectrwm Awtistig (ASA) yn Ysgol Gynradd Gymunedol Abercynon i greu darpariaeth pob oed yn y Cyfnod Cynradd yn Ysgol Gynradd Gymuned Perthcelyn, i ddod i rym o fis Ebrill 2024.

-       Sefydlu un Dosbarth Cynnal Dysgu (Asesu ac Ymyrraeth) y Blynyddoedd Cynnar ar gyfer disgyblion o dan oedran ysgol statudol sy'n dangos anghenion sylweddol Ysgol Gynradd Gymunedol Abercynon.  Bydd y cynnig yn dod i rym o fis Ebrill 2024.

-       Sefydlu dau Ddosbarth Cynnal Dysgu cyfrwng Cymraeg Cyfnod Cynradd yn yr ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg newydd yn Rhydfelen ar gyfer disgyblion ag ADY sylweddol. Bydd y cynnig yn cael ei roi ar waith o fis Medi 2024.

-       Sefydlu un Dosbarth Cynnal Dysgu ar gyfer disgyblion Blynyddoedd 7-11 ag ASA yn yr ysgol 3-16 oed newydd ar safle Ysgol Gynradd/Uwchradd y Ddraenen Wen, i ddod i rym o fis Medi 2024.

 

4.    Derbyn adroddiad pellach yn ystod (blwyddyn academaidd) 2023/24 ar gynigion i sefydlu tri Dosbarth Cynnal Dysgu - Anawsterau Cymdeithasol, Emosiynol ac Ymddygiadol ar gyfer disgyblion ym mlwyddyn 7-11, gan ddefnyddio cyllid sydd eisoes wedi'i neilltuo yn dilyn gohirio'r ymgynghoriad statudol blaenorol a gafodd ei ddechrau cyn y pandemig. Bydd y darpariaethau cyntaf yn weithredol o fis Medi 2024 ar y  ...  view the full Cofnodion text for item 10.

11.

Achrediad Cyflog Byw Gwirioneddol pdf icon PDF 161 KB

Derbyn adroddiad Cyfarwyddwr Materion Adnoddau Dynol, sy'n rhoi'r diweddaraf i'r Cabinet o ran gweithredu'r Cyflog Byw Gwirioneddol a cheisio cymeradwyaeth i gyflwyno cais i ddod yn gyflogwr Cyflog Byw Gwirioneddol achrededig.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Cyfarwyddwr Materion Adnoddau Dynol ddiweddariad i'r Cabinet ar y cynnydd sydd wedi'i wneud o ran cyflwyno'r Cyflog Byw Gwirioneddol gan geisio caniatâd i gyflwyno cais i fod yn gyflogwr Cyflog Byw Gwirioneddol achrededig.

 

Dymunodd yr Arweinydd ddiolch i'r Cyfarwyddwr am yr adroddiad ac esboniodd fod yr Awdurdod Lleol, i bob diben, wedi bod yn gyflogwr cyflog byw ers sawl blwyddyn a hynny cyn i Lywodraeth Cymru ofyn i'r Awdurdodau Lleol wneud y newid yma. O ran yr achrediad, roedd yr Arweinydd yn falch bod yr Awdurdod Lleol bellach mewn sefyllfa i allu cyflwyno cais swyddogol a siaradodd am ymrwymiad y Cyngor i weithio gyda chontractwyr allanol a phartneriaid fel bod modd iddyn nhw wneud cais.

 

PENDERFYNODDy Cabinet:

1.   Nodi cynnwys yr adroddiad;

2.   Rhoi caniatâd i gyflwyno cais i ddod yn gyflogwr Cyflog Byw Gwirioneddol achrededig.

 

 

12.

Trafod cadarnhau'r cynnig isod yn benderfyniad

“Bod y cyfarfod hwn yn cadw aelodau o'r wasg ac aelodau o'r cyhoedd allan o ystafell y cyfarfod, dan Adran 100A(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol (fel y'i diwygiwyd), yn ystod trafod yr eitem nesaf, ar y sail y byddai'n debygol o olygu datgelu gwybodaeth eithriedig yn ôl diffiniad paragraffau 14 ac 18 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf.”

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD: Bod y cyfarfod hwn yn cadw aelodau o'r wasg ac aelodau o'r cyhoedd allan o ystafell y cyfarfod, dan Adran 100A(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol (fel y'i diwygiwyd), yn ystod trafod yr agendwm nesaf, ar y sail y byddai'n debygol o olygu datgelu gwybodaeth eithriedig yn ôl diffiniad paragraff 14 ac 18 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf.”

 

 

13.

Y diweddaraf mewn perthynas â Strategaeth Gofal Preswyl 2022 i 2027: Plant sy'n Derbyn Gofal:

Derbyn adroddiad Cyfarwyddwr Dros Dro y Gwasanaethau Cymdeithasol, sy'n rhoi gwybodaeth i'r Cabinet am gynlluniau'r Gwasanaethau i Blant i leihau nifer y plant sy'n cael eu lleoli mewn lleoliadau 'Gweithredu heb Gofrestru (OWR)' yn rhan o Strategaeth Trawsnewid Gofal Preswyl 2022 i 2027: Plant sy'n Derbyn Gofal.

 

Cofnodion:

Rhannodd Cyfarwyddwr dros dro'r Gwasanaethau Cymdeithasol wybodaeth â'r Cabinet am gynlluniau'r Gwasanaethau i Blant i leihau nifer y plant sy'n byw mewn lleoliadau sy'n Gweithredu heb Gofrestru yn rhan o'r Strategaeth Trawsnewid Gofal Preswyl 2022 i 2027 Arfaethedig: Plant Sy'n Derbyn Gofal

 

Ar ôl trafod yr adroddiad eithriedig, PENDERFYNODD y Cabinet:

1.    Trafod yr wybodaeth oedd wedi ei chynnwys yn yr adroddiad;

2.    Nodi'r camau gweithredu sy'n cael eu cymryd ar hyn o bryd i leihau nifer y bobl ifainc sy'n byw mewn lleoliadau sy'n Gweithredu heb Gofrestru a'r goblygiadau ariannol a chyfreithiol sy'n gysylltiedig â'r rhan yma o'r  Strategaeth Trawsnewid Gofal Preswyl 2022 i 2027 Arfaethedig: Plant Sy'n Derbyn Gofal a gafodd ei chymeradwyo gan y Cabinet ar 28 Chwefror 2023; a

3.    Derbyn adroddiad pellach yn y dyfodol sy'n nodi'r cynnydd sydd wedi'i wneud o ran cyflawni Strategaeth Trawsnewid Gwasanaeth Gofal Preswyl Plant sy'n derbyn Gofal a nifer y plant a phobl ifainc sy’n byw mewn lleoliadau Gweithredu Heb Gofrestru (OWR) hyd nes y bydd dim un lleoliad o'r fath yn bodoli.