Lleoliad: Rhithwir
Cyswllt: Hannah Jones - Uned Busnes y Cyngor 07385401954
Rhif | eitem |
---|---|
Datgan Buddiant Derbyn datganiadau o fuddiannau personol gan Aelodau, yn unol â'r Cod Ymddygiad.
Nodwch:
1. Mae gofyn i Aelodau ddatgan rhif a phwnc yr agendwm y mae eu buddiant yn ymwneud ag ef a mynegi natur y buddiant personol hwnnw; a 2. Lle bo Aelodau'n ymneilltuo o'r cyfarfod o ganlyniad i ddatgelu buddiant sy'n rhagfarnu, rhaid iddyn nhw roi gwybod i'r Cadeirydd pan fyddan nhw'n gadael.
Cofnodion: Datganodd y Dirprwy Arweinydd, Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol M Webber y buddiant personol canlynol mewn perthynas ag eitem 4 ar yr agenda - Ymgynghoriad ar y cynigion i ad-drefnu darpariaeth dosbarthiadau cynnal dysgu prif ffrwd - anghenion dysgu ychwanegol yn RhCT: “Rydw i'n Llywodraethwr yn Ysgol Gynradd Heol y Celyn ac yn Llywodraethwr Dros Dro yn Ysgol Gynradd Gymraeg Awel Taf.”
|
|
Derbyn cofnodion o gyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 20 Tachwedd 2023 yn rhai cywir.
Cofnodion: PENDERFYNODD y Cabinet gymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 20 Tachwedd 2023 yn rhai cywir.
|
|
Cynnig i gau Ysgol Gynradd Rhigos a throsglwyddo disgyblion i Ysgol Gynradd Hirwaun PDF 232 KB Derbyn adroddiad y Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Cynhwysiant sy'n rhoi gwybod i'r Aelodau am ganlyniad yr ymgynghoriad diweddar mewn perthynas â'r cynnig i gau Ysgol Gynradd Rhigos a throsglwyddo disgyblion i Ysgol Gynradd Hirwaun erbyn mis Medi 2024.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Cynhwysiant adroddiad sy'n rhoi gwybod i'r Aelodau am ganlyniad yr ymgynghoriad diweddar mewn perthynas â'r cynnig i gau Ysgol Gynradd Rhigos a throsglwyddo disgyblion i Ysgol Gynradd Hirwaun erbyn mis Medi 2024. Manteisiodd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion Addysg, Cyfranogiad Pobl Ifainc a'r Gymraeg ar y cyfle i ddiolch i’r rhai a ymatebodd i’r broses ymgynghori, yn enwedig y bobl ifainc. Eglurodd yr Aelod o'r Cabinet bod yr holl gyflwyniadau wedi'u hadolygu'n fanwl gan y Pwyllgor. Aeth ati i gydnabod bod yr holl ymatebion a dderbyniwyd yn cyfleu angerdd amlwg gan gymuned Rhigos dros ddyfodol ei phobl ifainc. Daeth yr Aelod o'r Cabinet â’i gyflwyniad cychwynnol i ben drwy ddatgan bod y Cabinet yn rhannu’r un angerdd am sicrhau'r canlyniadau addysgol, y rhagolygon a’r cyfleusterau gorau. Nododd yr Aelod o'r Cabinet fod yr adroddiad wedi dangos y byddai’n heriol cyflwyno’r cwricwlwm newydd i Gymru o’r adeilad presennol a gofynnodd i’r Cyfarwyddwr roi rhagor o fanylion am hyn. Dywedodd y Cyfarwyddwr fod Ysgol Gynradd Hirwaun yn un o Ysgolion yr 21ain Ganrif, sy'n golygu bod yr amgylchedd dysgu wedi'i ddatblygu'n addas i fodloni gofynion digidol a thechnoleg o ran Dysgu yn yr 21ain Ganrif. Ychwanegwyd bod gan yr ysgol hefyd nodweddion dylunio penodol, gan gynnwys ardaloedd awyr agored ar gyfer dysgu strwythuredig; a'i fod yn cynnwys gofod mawr y mae modd i staff yr ysgol wneud defnydd amrywiol ohono. Gofynnodd yr Aelod o'r Cabinet am gadarnhad mewn perthynas â statws gwledig yr ysgol. Dywedodd y Cyfarwyddwr wrth y Cabinet fod Cod Trefniadaeth Ysgolion Llywodraeth Cymru 2018 yn cynnwys rhestr o ysgolion gwledig, gan nodi bod Dosbarthiad Gwledig Trefol y Swyddfa Ystadegau Gwladol wedi'i ddefnyddio i ddynodi ysgolion gwledig. Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr nad oedd unrhyw ysgolion yn RhCT ar y rhestr o ysgolion gwledig gan nad oes unrhyw ysgolion sy'n bodloni'r meini prawf penodol. Eglurodd y Cyfarwyddwr, er bod y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn dynodi Hirwaun a Rhigos yn ei dosbarthiad gwledig, nad oedd yr un o'r ddau le'n bodloni'r meini prawf penodedig i'w cynnwys yn y rhestr a grybwyllwyd uchod. Aeth yr Arweinydd ati i gydnabod yr ymatebion gan nodi bod Rhigos yn ysgol dda gyda chanlyniadau cadarnhaol ond siaradodd am y mater sylfaenol, sef y gostyngiad yn nifer y disgyblion, a holodd pa mor drylwyr yw’r data. Gan gyfeirio at ymateb i'r ymgynghoriad, holodd yr Arweinydd a fu gostyngiad yn niferoedd disgyblion yr ysgol ers dechrau'r ymgynghoriad, ac a ellid priodoli hynny i ansicrwydd o ran yr ysgol a'r cynnig sydd gerbron yr Aelodau. Dywedodd y Cyfarwyddwr fod 57 o ddisgyblion yn yr ysgol ar ddechrau'r ymgynghoriad a bod nifer y disgyblion statudol wedi gostwng o 51 i 49 ers hynny. Eglurodd y Cyfarwyddwr fod y newid oherwydd bod disgyblion wedi symud i'r ysgol Gymraeg ym Mhenderyn. O ran sut y rhagamcanir niferoedd, dywedodd y Cyfarwyddwr eu bod nhw wedi'u cyfrifo yn unol â'r canllawiau a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru, a'u bod yn seiliedig ar ddata genedigaethau byw ar gyfer yr ... view the full Cofnodion text for item 85. |
|
Derbyn adroddiad y Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Cynhwysiant sy'n rhoi gwybod i'r Aelodau am ganlyniad cyhoeddi'r Hysbysiadau Statudol yngl?n â'r cynnig i ad-drefnu darpariaeth Dosbarthiadau Cynnal Dysgu yn Rhondda Cynon Taf.
Cofnodion: Cyflwynodd Pennaeth y Gwasanaethau Cynhwysiant yr adroddiad, a roddodd wybod i'r Aelodau am ganlyniad cyhoeddiad yr Hysbysiad Statudol yngl?n â'r cynnig i ad-drefnu darpariaeth Dosbarthiadau Cynnal Dysgu yn Rhondda Cynon Taf.
Manteisiodd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion Addysg, Cyfranogiad Pobl Ifainc a'r Gymraeg ar y cyfle i ddiolch i bawb a gyflwynodd ymateb i'r ymgynghoriad. Dywedodd yr Aelod o'r Cabinet y byddai'r cynnig gerbron yr Aelodau yn helpu'r Awdurdod Lleol i gyflawni ei ddyletswydd statudol o dan ddeddfwriaeth newydd gan Lywodraeth Cymru, a chydnabu ei fod yn faes a oedd wedi gweld cynnydd sylweddol o ran galw a chymhlethdod.
Pwysleisiodd yr Aelod o'r Cabinet na fyddai'r cynigion yn cyfateb i ostyngiad yn y gwasanaeth ond, yn hytrach, byddai tua £424,000 ychwanegol o fuddsoddiad yn y gwasanaeth. Serch hynny, roedd yr Aelod o'r Cabinet yn cydnabod y byddai'r newidiadau yn effeithio ar nifer fach o ddisgyblion pe bydden nhw'n cael eu cymeradwyo.
Lleisiodd yr Aelod o'r Cabinet ei gefnogaeth i’r cynigion a chroesawodd sefydlu’r ddau ddosbarth cymorth dysgu fesul cam Cynradd Cymraeg yn yr Ysgol Gymraeg newydd yn Rhydfelen ar gyfer disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol; a theimlai y byddai hyn yn cynnig rhagor o ddewis i rieni a gwarcheidwaid.
PENDERFYNODDy Cabinet: 1. Ystyried yr wybodaeth yn yr adroddiad a'r Adroddiad Gwrthwynebiad yn Atodiad 1, sy'n cynnwys manylion y gwrthwynebiadau a dderbyniwyd yn ystod cyfnod yr Hysbysiad Statudol, a'r sylwadau a roddwyd mewn ymateb i'r gwrthwynebiadau.
2. Gweithredu'r cynigion fel y maen nhw wedi'u cyhoeddi yn yr Hysbysiadau Statudol, sef:
Cynnig 1: Symud y dosbarth cynnal dysgu Arsylwi ac Asesu yn Ysgol Gynradd Penrhiwceibr i Ysgol Gynradd Gymunedol Abercynon. Daw hyn i rym o 1 Medi 2024.
Cynnig 2: Trosglwyddo’r dosbarth cynnal dysgu ar gyfer disgyblion ym Mlynyddoedd 3-6 ag Anhwylder Sbectrwm Awtistiaeth (ASA) yn Ysgol Gynradd Gymunedol Abercynon i greu darpariaeth pob oed yn y Cyfnod Cynradd yn Ysgol Gynradd Gymuned Perthcelyn, i ddod i rym o fis Medi 2024.
Cynnig 3: Sefydlu un dosbarth cynnal dysgu (Asesu ac Ymyrraeth) y Blynyddoedd Cynnar ar gyfer disgyblion o dan oedran ysgol statudol sy'n dangos anghenion sylweddol Ysgol Gynradd Gymunedol Abercynon i ddod i rym o fis Ebrill 2024.
Cynnig 4: Sefydlu dau ddosbarth cynnal dysgu cyfrwng Cymraeg Cyfnod Cynradd yn yr ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg newydd yn Rhydfelen (YGG Awel Taf) ar gyfer disgyblion ag ADY sylweddol, i ddod i rym o fis Medi 2024.
Cynnig 5: Sefydlu un dosbarth cynnal dysgu ar gyfer disgyblion Blynyddoedd 7-11 ag ASA yn yr ysgol 3-16 oed newydd ar safle Ysgol Gynradd/Uwchradd y Ddraenen Wen (Ysgol Afon Wen), i ddod i rym o fis Medi 2024.
3. Cyhoeddi'r Hysbysiadau Penderfyniad perthnasol mewn perthynas ag unrhyw gynigion a ddatblygir fel sy'n ofynnol gan y Cod Trefniadaeth Ysgolion.
|
|
Rhaglen Waith y Cabinet PDF 134 KB Derbyn adroddiad y Cyfarwyddwr Gwasanaeth – Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu sy'n rhoi rhestr arfaethedig i'r Cabinet o faterion sydd angen eu hystyried yn ystod Blwyddyn 2023–24 y Cyngor.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Derbyn adroddiad y Cyfarwyddwr Gwasanaeth – Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu, sy'n rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau am y rhestr arfaethedig o faterion y mae angen i'r Cabinet eu hystyried yn ystod Blwyddyn y Cyngor 2023-24.
Diolchodd y Dirprwy Arweinydd i'r Cyfarwyddwr am yr adroddiad ac roedd yn fodlon ar gynnwys Rhaglen Waith y Cabinet, gan nodi ei hyblygrwydd.
PENDERFYNODDy Cabinet: 1. Cymeradwyo'r Rhaglen Waith ar gyfer Blwyddyn y Cyngor 2023-24 (gan ei haddasu'n briodol ar ôl yr angen) a chael yr wybodaeth ddiweddaraf bob 3 mis.
|
|
Strategaeth Canol Tref Aberdâr PDF 220 KB Derbyn adroddiad y Cyfarwyddwr Materion Ffyniant a Datblygu sy'n rhoi'r diweddaraf i'r Cabinet am yr ymateb i'r ymgynghoriad ffurfiol a gynhaliwyd ar Strategaeth Canol Tref Aberdâr (ddrafft) fel y cytunwyd gan y Cabinet ar 28 Mehefin 2023 a thynnu sylw at y newidiadau i'r ddogfen o ganlyniad i'r ymatebion a ddaeth i law. Mae'r adroddiad hefyd yn gofyn am gymeradwyaeth y Cabinet er mwyn mabwysiadu'r Strategaeth yn ffurfiol.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth, Materion Ffyniant a Datblygu'r newyddion diweddaraf i'r Cabinet am yr ymateb i'r ymgynghoriad ffurfiol a gynhaliwyd ar Strategaeth Canol Tref Aberdâr fel y cytunwyd gan y Cabinet ar 28 Mehefin 2023, gan dynnu sylw at y newidiadau i'r ddogfen o ganlyniad i'r ymatebion a ddaeth i law. Mae'r adroddiad hefyd yn gofyn am gymeradwyaeth y Cabinet er mwyn mabwysiadu'r Strategaeth yn ffurfiol.
Dywedodd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion Ffyniant a Datblygu fod y broses a ddilynwyd yn enghraifft gadarnhaol o waith cyn-ymgysylltu a diolchodd i'r swyddogion am eu hymrwymiad. Croesawodd yr Aelod o'r Cabinet y cynigion ac roedd yn falch o nodi bod y rhan fwyaf o ymatebwyr o blaid y cynlluniau ar gyfer canol tref Aberdâr.
Roedd y Dirprwy Arweinydd hefyd yn cefnogi’r argymhellion yn yr adroddiad ac yn falch o nodi y byddai’r ddogfen yn cael ei hatgyfnerthu yn dilyn y broses ymgynghori drylwyr.
PENDERFYNODDy Cabinet: 1. Trafod canfyddiadau'r ymarfer ymgynghori ffurfiol a gynhaliwyd mewn perthynas â Strategaeth ddrafft Canol Tref Aberdâr a dogfennau ategol; 2. Adolygu a chymeradwyo'r ystod o ddiwygiadau a wnaed i'r Strategaeth ar ôl cwblhau'r ymgynghoriad ffurfiol; 3. Cymeradwyo Strategaeth derfynol Canol Tref Aberdâr a chefnogi datblygiad prosiectau o dan y 'themâu buddsoddi' sydd wedi'u cynnwys yn y Strategaeth.
|
|
Strategaeth Rheoli Risg PDF 167 KB Derbyn adroddiad y Dirprwy Brif Weithredwr a Chyfarwyddwr y Gyfadran Cyllid, Gwasanaethau Digidol a Gwasanaethau Rheng Flaen sy'n nodi Strategaeth Rheoli Risg ddiweddaraf y Cyngor.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Amlinellodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth Cyllid a Gwasanaethau Gwella Strategaeth Rheoli Risg wedi'i diweddaru'r Cyngor i'w hystyried gan Aelodau'r Cabinet.
Sicrhaodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth y Cabinet bod Strategaeth Rheoli Risg y Cyngor yn cael ei hadolygu'n rheolaidd, gyda'r fersiwn diweddaraf wedi'i gytuno gan Gabinet y Cyngor ym mis Gorffennaf 2022, fel y'i gymeradwywyd gan y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio.
Croesawodd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion yr Hinsawdd a Gwasanaethau Corfforaethol gymeradwyaeth y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio o'r Strategaeth Rheoli Risg.
Roedd yr Aelod o'r Cabinet yn fodlon bod y Strategaeth sydd gerbron yr Aelodau yn sicrhau bod trefniadau rheoli risg y Cyngor yn parhau i fod yn addas i'r diben. Siaradodd yr Aelod o'r Cabinet yn gadarnhaol am y pecyn cymorth, a ddyfeisiwyd i gynorthwyo rheolwyr wrth reoli risg, ac a oedd wedi profi i fod yn ased dda.
PENDERFYNODDy Cabinet: 1. Cymeradwyo'r diweddariad i Strategaeth Rheoli Risg y Cyngor, fel y’i cymeradwywyd gan y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio yn ei gyfarfod ar 12 Hydref 2023.
|
|
Adborth Rhag-graffu Pwyllgorau PDF 143 KB Derbyn adroddiad y Cyfarwyddwr Gwasanaeth – Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu sy'n rhoi adborth a sylwadau mewn perthynas â'r eitemau y rhag-graffwyd arnyn nhw gan Bwyllgorau Craffu thematig y Cyngor yn dilyn cyfarfodydd diweddaraf y Pwyllgorau.
Cofnodion: Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth – Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu adborth a sylwadau mewn perthynas â'r eitemau y rhag-graffwyd arnyn nhw gan Bwyllgorau Craffu thematig y Cyngor yn dilyn cylch cyfarfodydd diweddaraf y Pwyllgorau.
Tynnodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth sylw’r Aelodau at adran 5 o’r adroddiad, a oedd yn amlinellu’r eitemau canlynol a oedd wedi’u rhag-graffu yn unol â Chylch Gorchwyl y Pwyllgorau: · Cynnig i ddatgan Cynllun Trwyddedu Ychwanegol ar gyfer Tai Amlfeddiannaeth yn 2024 – Pwyllgor Craffu - Gwasanaethau Cymuned; a · Gwasanaethau Oriau Dydd i Bobl H?n - Pwyllgor Craffu - Gwasanaethau Cymuned.
Manteisiodd y Dirprwy Arweinydd ar y cyfle i ddiolch i'r Pwyllgor Craffu am y sylwadau a'r adborth, a chroesawodd ymgysylltiad adeiladol Aelodau'r Pwyllgor Craffu mewn perthynas â'r ddwy eitem nesaf o fusnes.
PENDERFYNODDy Cabinet: 1. Nodi sylwadau'r Pwyllgorau Craffu yn dilyn rhag-graffu ar yr eitemau a restrir yn adran 5 o'r adroddiad.
|
|
Gwasanaethau Oriau Dydd i Bobl Hŷn PDF 141 KB Derbyn adroddiad Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol sy'n gwneud argymhellion mewn perthynas â darpariaeth Gwasanaethau Oriau Dydd y Cyngor i bobl h?n yn y dyfodol.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol argymhellion mewn perthynas â darpariaeth Gwasanaethau Oriau Dydd y Cyngor i bobl h?n yn y dyfodol.
Diolchodd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion Iechyd a Gofal Cymdeithasol i'r Cyfarwyddwr am yr adroddiad cynhwysfawr a diolchodd i'r Pwyllgor Craffu - Gwasanaethau Cymuned am ei sylwadau.
Manteisiodd yr Aelod o'r Cabinet ar y cyfle i bwysleisio bod rhesymeg gref y tu ôl i'r newidiadau arfaethedig, a dywedodd y byddai'r cynigion yn dod â buddion cadarnhaol i ddefnyddwyr y gwasanaeth. Nododd yr Aelod o'r Cabinet nad oedd y rhan fwyaf o gleientiaid yn dod o ardaloedd penodol.
Cyn i'r siaradwyr gael eu cyflwyno, manteisiodd y Dirprwy Arweinydd ar y cyfle i siarad am ei hymweliad diweddar hi a’r Arweinydd â chyfleuster Gofal Ychwanegol Cwrt yr Orsaf ym Mhontypridd, yn dilyn pryderon a godwyd. Soniodd y Dirprwy Arweinydd yn gadarnhaol am ei hymweliad a’r nifer helaeth o gyfleusterau modern sydd ar gael i ddefnyddwyr y gwasanaeth, megis bwyty mawr, salon harddwch, ystafell sinema a gardd fawr. At hynny, cyfeiriodd y Dirprwy Arweinydd at y cyfleusterau ehangach, sydd ar gael i ddefnyddwyr ym Mhontypridd, megis Parc Ynysangharad.
Gyda chytundeb yr Arweinydd, rhoddwyd caniatâd i’r Aelod canlynol, sydd ddim yn Aelod o'r Pwyllgor, annerch y Cabinet: ·Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol D. Grehan
Gyda chytundeb yr Arweinydd, rhoddwyd caniatâd i’r cynrychiolydd canlynol ar ran Undeb Llafur annerch y Cabinet: ·Mr C Jones - GMB
Noder: Cyn y cyfarfod, rhannodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth, Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu, ohebiaeth gan GMB i Aelodau'r Cabinet ei hystyried.
Diolchodd yr Arweinydd i'r siaradwyr am eu cyfraniadau. O ran pryderon a godwyd ynghylch y mynediad a rennir i rai o'r cyfleusterau, siaradodd yr Arweinydd yn gadarnhaol am y gofod mawr a dywedodd fod ystafelloedd pwrpasol hefyd ar gael i gleientiaid. O ran y cyfleusterau, cadarnhaodd yr Arweinydd fod y dyluniad yn bodloni'r fanyleb ar gyfer y math yma o gyfleuster, ac eglurodd ei fod wedi'i ddylunio i fod yn gyfleuster defnydd a rennir sy'n darparu cymorth ar gyfer cleientiaid o fewn y cyfleuster a chleientiaid eraill. Cymerodd yr Arweinydd bryderon cynrychiolydd yr Undeb Llafur i ystyriaeth a dywedodd y byddai'n fodlon cwrdd y tu allan i'r cyfarfod i drafod materion ymhellach.
Dywedodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol fod Practice Solutions wedi'i gomisiynu i ddechrau cynnal adolygiad o'r model gwasanaethau oriau dydd a phreswyl, ac argymhellwyd bod model gwasanaeth newydd yn cael ei roi ar waith. Cydnabu’r Cyfarwyddwr fod sylwadau cadarnhaol wedi’u gwneud mewn perthynas â Thonyrefail ond bod yr amgylchiadau wedi newid ers 2019. Siaradodd y Cyfarwyddwr am y pandemig, ond roedd hefyd yn cydnabod bod cyfleusterau wedi'u datblygu yng Nghwrt yr Orsaf ers hynny; ac roedd o'r farn y byddai'n diwallu anghenion defnyddwyr gwasanaeth Tonyrefail.
O ran pryderon ynghylch y lle sydd ar gael, soniodd y Cyfarwyddwr am bwysigrwydd cymdeithasoli ac integreiddio unigolion, a dywedodd y byddai'r cyfleuster yn rhoi cyfle iddynt integreiddio ag unigolion eraill sydd, yn aml, gyda'r un lefel o anghenion.
O ran pryderon a godwyd ynghylch y cyfleusterau ystafell wlyb, dywedodd y ... view the full Cofnodion text for item 91. |
|
Cynnig i ddatgan Cynllun Trwyddedu ychwanegol newydd ar gyfer Tai Amlfeddiannaeth yn 2024 PDF 149 KB Derbyn adroddiad Cyfarwyddwr Iechyd a Diogelwch y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymuned sy'n rhoi gwybod i'r Cabinet am effeithiolrwydd Cynllun Trwyddedu Ychwanegol 2019 ar gyfer Tai Amlfeddiannaeth, a chynnig bod y Cyngor yn datgan Cynllun Trwyddedu Ychwanegol newydd ar gyfer Tai Amlfeddiannaeth o fis Ebrill 2024, yn unol â darpariaethau Deddf Tai 2004.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd Pennaeth Diogelu'r Cyhoedd a Gwasanaethau Rheoleiddio adroddiad sy'n rhoi gwybod i'r Cabinet am effeithiolrwydd Cynllun Trwyddedu Ychwanegol ar gyfer Tai Amlfeddiannaeth 2019, a chynnig bod y Cyngor yn datgan Cynllun Trwyddedu Ychwanegol newydd ar gyfer Tai Amlfeddiannaeth o fis Ebrill 2024, yn unol â darpariaethau Deddf Tai 2004.
Manteisiodd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion Iechyd y Cyhoedd a Chymunedau ar y cyfle i ddiolch i swyddogion am yr adroddiad cynhwysfawr; a nododd weithrediad llwyddiannus dau argymhelliad a wnaed yn ystod yr adolygiad diwethaf i adolygu'r cynllun gweinyddu ac i gyflymu'r broses ymgeisio; mae'r ddau ohonynt yn gweithio i greu system drwyddedu fwy effeithlon.
Roedd yr Aelod o'r Cabinet yn hyderus bod y cynllun trwyddedu ychwanegol yn ogystal â’r cynllun trwyddedu gorfodol wedi gweithio’n rhagweithiol dros y blynyddoedd i reoleiddio Tai Amlfeddiannaeth yn Rhondda Cynon Taf, a’i fod wedi bod yn hanfodol i sicrhau bod preswylwyr yn ddiogel ac i leihau effaith tai a rennir. Nododd yr Aelod o'r Cabinet hefyd fod y Cynlluniau yn caniatáu i'r Cyngor weithio gyda landlordiaid a gweithredu pan fo angen ar gyfer y rhai nad ydynt yn cydymffurfio.
Diolchodd yr Aelod o'r Cabinet i’r Pwyllgor Craffu - Gwasanaethau Cymuned am ei gyfraniad a chytunodd â’i argymhelliad i gynnwys amod diogelwch tân ychwanegol i gyd-fynd â Deddf Diogelwch Adeiladau 2022.
Ategodd y Dirprwy Arweinydd sylwadau'r Aelod o'r Cabinet ac roedd yn gefnogol o'r cynnig. Croesawodd y Dirprwy Arweinydd gyfathrebu pellach gyda'r Brifysgol, i ddiogelu lles y bobl ifanc sy'n defnyddio Tai Amlfeddiannaeth at ddibenion addysgol.
PENDERFYNODDy Cabinet: 1. Nodi canfyddiadau'r Gwerthusiad o Gynllun Trwyddedu Tai Amlfeddiannaeth Ychwanegol 2019 yn Rhondda Cynon Taf a'r adborth gan y Pwyllgor Craffu - Gwasanaethau Cymuned a gynhaliwyd ar 21 Tachwedd 2023; 2. Cymeradwyo datganiad Cynllun Trwyddedu Ychwanegol Newydd ar gyfer Tai Amlfeddiannaeth yn Rhondda Cynon Taf, i ddod i rym pan ddaw'r cynllun presennol i ben ar 31 Mawrth 2024, a chyfarwyddo swyddogion i wneud y trefniadau angenrheidiol yn unol â darpariaethau Deddf Tai 2004; 3. Cymeradwyo parhau i gynnwys pob math o dai amlfeddiannaeth o fewn cwmpas Cynllun newydd 2024; 4. Cymeradwyo’r amodau trwyddedu safonol i’w gosod ar yr holl drwyddedau tai amlfeddiannaeth a roddir gan y Cyngor o dan y Cynllun Trwyddedu Gorfodol, a’r Cynllun Trwyddedu Ychwanegol newydd o fis Ebrill 2024 (yn ogystal ag unrhyw amodau pwrpasol sy’n berthnasol i drwyddedau unigol); a 5. Cymeradwyo'r strwythur ffioedd arfaethedig fel y manylir arno yn Atodiad 4 yr adroddiad.
|
|
Trafod cadarnhau'r cynnig isod yn benderfyniad “Bod y cyfarfod hwn yn cadw aelodau o'r wasg ac aelodau o'r cyhoedd allan o ystafell y cyfarfod, dan Adran 100A(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol (fel y'i diwygiwyd), yn ystod trafod yr eitem nesaf, ar y sail y byddai'n debygol o olygu datgelu gwybodaeth eithriedig yn ôl diffiniad paragraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf.”
Cofnodion: PENDERFYNWYD: “Bod y cyfarfod hwn yn cadw aelodau o'r wasg ac aelodau o'r cyhoedd allan o ystafell y cyfarfod, dan Adran 100A(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol (fel y'i diwygiwyd), yn ystod trafod yr eitem nesaf, ar y sail y byddai'n debygol o olygu datgelu gwybodaeth eithriedig yn ôl diffiniad paragraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf.”
|
|
Gwasanaeth Archwilio Mewnol Derbyn adroddiad y Dirprwy Brif Weithredwr a Chyfarwyddwr y Gyfadran Cyllid, Gwasanaethau Digidol a Gwasanaethau Rheng Flaen sy'n nodi'r opsiynau i'r Cabinet eu hystyried o ran trefniadau darparu gwasanaethau parhaus gyda'r Gwasanaeth Archwilio Mewnol.
Cofnodion: Ar ôl ystyried adroddiad y Dirprwy Brif Weithredwr a’r Cyfarwyddwr Cyfadran, Gwasanaethau Cyllid, Digidol a Rheng Flaen, sy’n cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym Mharagraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i Ddeddf Llywodraeth Leol, 1972 (fel y’i diwygiwyd), sef gwybodaeth yn ymwneud â materion ariannol unrhyw berson penodol (gan gynnwys yr awdurdod sy'n dal y wybodaeth honno), PENDERFYNWYD gweithredu'r ffordd ymlaen arfaethedig ar gyfer trefniadau yn y dyfodol ar gyfer darparu Gwasanaeth Archwilio Mewnol y Cyngor.
|