Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Hybrid

Cyswllt: Hannah Williams - Uned Busnes Y Cyngor  07385401954

Cyfryngau

Eitemau
Rhif eitem

79.

Croeso ac Ymddiheuriadau

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Croesawodd yr Arweinydd Aelodau a Swyddogion i gyfarfod y Cabinet a derbyniwyd ymddiheuriad am absenoldeb gan yr Aelod o'r Cabinet ar faterion Ffyniant a Datblygu.

 

80.

Datgan Buddiant

Derbyn datganiadau o fuddiannau personol gan Aelodau, yn unol â'r Cod Ymddygiad.

 

Nodwch:

 

1.     Mae gofyn i Aelodau ddatgan rhif a phwnc yr eitem y mae eu buddiant yn ymwneud ag ef a mynegi natur y buddiant personol hwnnw; a

2.     Lle bo Aelodau'n ymneilltuo o'r cyfarfod o ganlyniad i ddatgelu buddiant sy'n rhagfarnu, rhaid iddyn nhw roi gwybod i'r Cadeirydd pan fyddan nhw'n gadael.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Yn unol â Chod Ymddygiad y Cyngor, doedd dim datganiadau o fuddiant yngl?n â'r agenda.

 

81.

Adolygiad Gwasanaeth o'r Gwasanaeth Prydau yn y Gymuned pdf icon PDF 330 KB

Derbyn adroddiad y Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Cynhwysiant sy'n gofyn am ganiatâd y Cabinet i asesu Gwasanaeth Prydau yn y Gymuned y Cyngor, ac i ymgynghori ar ddyfodol y gwasanaeth.   

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Darparodd y Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Cynhwysiant yr adroddiad i'r Cabinet a oedd yn asesu Gwasanaeth Prydau yn y Gymuned y Cyngor ac yn gofyn am ganiatâd i ymgynghori ar ddyfodol y gwasanaeth.

 

Soniodd y Cyfarwyddwr am yr opsiynau gwahanol o ran diwallu anghenion bwyd y trigolion mwyaf agored i niwed yn RhCT, a sut y gallai'r Cyngor barhau i ddarparu'r cymorth priodol ar gyfer y dyfodol. 

 

Argymhellodd y Cyfarwyddwr fod y Cabinet yn cymeradwyo'r trydydd opsiwn, a fyddai'n cynnwys rhoi dewis i ddefnyddwyr y gwasanaeth o gael prydau twym neu brydau wedi'u rhewi. Byddai modd i ddefnyddwyr gwasanaeth archebu'r rhain trwy bwynt cyswllt o fewn y Cyngor.  Byddai'r Cyngor yn prynu prydau wedi'u rhewi gan gyflenwr trydydd parti ac yn eu cadw yn y gegin ganolog.  Byddai rhan o'r opsiwn yma hefyd yn gofyn am gynnydd arfaethedig o 50c fesul pryd i ddefnyddwyr y gwasanaeth, a fyddai'n codi pris y pryd o £4.05 i £4.55. Byddai hyn yn cynhyrchu incwm blwyddyn lawn ychwanegol posibl o £0.063M.

 

Siaradodd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion Addysg, Pobl Ifainc a'r Gymraeg am y sefyllfa ariannol heriol ar draws pob maes gwasanaeth ac roedd yn cefnogi’r ymgynghoriad ar Opsiwn 3. Nododd yr Aelod o'r Cabinet fod Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf yn un o'r ychydig Awdurdodau Lleol yng Nghymru i gynnig gwasanaeth prydau yn y gymuned, a dywedodd y byddai Opsiwn 3 yn caniatáu i'r Cyngor gynnal y gwasanaeth i ddefnyddwyr, yn rhoi mwy o hyblygrwydd i drigolion ac yn gwneud y gwasanaeth yn fwy cynaliadwy. Nododd yr Aelod o'r Cabinet hefyd y byddai staff yn parhau i ddarparu gwiriad lles i ddefnyddwyr y gwasanaeth yn ystod yr wythnos, gan gefnogi'r gwaith o ddarparu gofal cymdeithasol ar gyfer y rhai mwyaf bregus sy'n defnyddio'r gwasanaeth.

 

Cynigiodd yr Aelod o'r Cabinet yr argymhellion gyda’r argymhelliad ychwanegol canlynol yn lle pwynt 2.3 o’r adroddiad: 'Yn amodol ar 2.2 uchod, rydyn ni'n cytuno i dderbyn adroddiad pellach yn crynhoi'r canlyniadau ac adborth o'r broses ymgynghori er mwyn penderfynu a yw'r Cabinet yn dymuno bwrw ymlaen â'r cynnig ai peidio'.

 

Aeth y Dirprwy Arweinydd ati i gydnabod pwysigrwydd y gwasanaeth ond cydnabu fod angen adolygu pob maes gwasanaeth oherwydd y cynnydd sylweddol mewn costau a wynebir gan yr Awdurdod Lleol. Roedd y Dirprwy Arweinydd yn cefnogi Opsiwn 3, sef cadw'r gwasanaeth a chaniatáu i brydau twym barhau i gael eu cynnig i'r rhai mwyaf bregus yn y gymuned. Ychwanegodd y Dirprwy Arweinydd, er gwaethaf y cynnydd arfaethedig mewn prisiau o £0.50, ei fod yn parhau i fod yn gystadleuol o gymharu ag Awdurdodau Lleol cyfagos a darparwyr preifat.

 

Roedd yr Arweinydd hefyd yn cefnogi'r trydydd opsiwn gan y byddai'n cynnal y gwasanaeth gwerthfawr ac yn rhoi opsiwn i gleientiaid gael pryd wedi'i rewi, a allai fod yn fwy addas ar gyfer y rhai sy'n dymuno bwyta'n hwyrach yn y dydd. Siaradodd yr Arweinydd am un Awdurdod Lleol cyfagos sy'n codi £6 ac eglurodd y byddai'r opsiwn a ffefrir yn dod i gyfanswm o £4.55.

 

PENDERFYNODD y  ...  view the full Cofnodion text for item 81.

82.

Cychwyn Adolygiad yr Awdurdod o'r Strategaeth Leol ar gyfer Rheoli Perygl Llifogydd a'r Cynllun Gweithredu pdf icon PDF 196 KB

Derbyn adroddiad Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Rheng Flaen, sy’n hysbysu’r Cabinet am y gofynion o ran adolygu a llunio Strategaeth a Chynllun Gweithredu Lleol ar gyfer Rheoli Perygl Llifogydd (Cynllun Rheoli Perygl Llifogydd yn flaenorol), fel sy’n ofynnol dan Adran 10 Deddf Rheoli Llifogydd a D?r (FWMA) 2010. Bydd yr adroddiad yn rhoi rhagor o wybodaeth i'r Aelodau am y rhaglen waith sydd ei hangen i gyflawni'r adolygiad o'r Cynllun a'r Cynllun Gweithredu, yn unol â'r amserlen statudol a bennwyd gan Lywodraeth Cymru.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniodd y Cabinet adroddiad Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Rheng Flaen, sy’n hysbysu’r Cabinet am y gofynion o ran adolygu a llunio Strategaeth a Chynllun Gweithredu Lleol ar gyfer Rheoli Perygl Llifogydd (Cynllun Rheoli Perygl Llifogydd yn flaenorol), fel sy’n ofynnol dan Adran 10 Deddf Rheoli Llifogydd a D?r (FWMA) 2010. Rhoddodd ragor o wybodaeth i'r Aelodau am y rhaglen waith sydd ei hangen i gyflawni'r adolygiad o'r Cynllun a'r Cynllun Gweithredu, yn unol â'r amserlen statudol a bennwyd gan Lywodraeth Cymru.

 

Croesawodd yr Arweinydd yr adroddiad ac roedd yn cefnogi'r argymhellion, sy'n cyd-fynd â Strategaeth Rheoli Perygl Llifogydd ehangach y Cyngor a disgwyliadau Llywodraeth Cymru. Eglurodd yr Arweinydd fod llawer o adolygiadau ac ymchwiliadau mewnol wedi'u cynnal yn dilyn digwyddiadau tebyg i Storm Dennis. Dywedodd yr Arweinydd mai Rhondda Cynon Taf oedd â'r perygl llifogydd wyneb uchaf ledled Cymru ac y byddai'r adolygiad yn helpu i godi arian yn y dyfodol, sy'n cael ei ddyrannu ledled Cymru ar sail asesiad risg ac angen.

 

Siaradodd y Dirprwy Arweinydd o blaid yr argymhellion a dywedodd er bod y Strategaeth yn statudol, nid oedd unrhyw rwymedigaeth gyfreithiol i gynnal yr ymgynghoriad. Siaradodd y Dirprwy Arweinydd am bwysigrwydd ymgynghori â thrigolion i helpu i ddileu ofn.

 

PENDERFYNODD y Cabinet:

1.    Cychwyn Adolygiad o'r Strategaeth Leol ar gyfer Rheoli Perygl Llifogydd a'r Cynllun Gweithredu

2.    Nodi'r amserlenni dangosol, y camau gweithredu a'r adroddiadau sy'n cael eu cyflwyno i'r Cabinet a'r Pwyllgor Craffu ar Faterion yr Hinsawdd, Gwasanaethau Rheng Flaen a Ffyniant yn Atodiad 1.

 

 

 

83.

Gwasanaethau Gwastraff - Strategaeth Rheoli Gwastraff Ddiwygiedig pdf icon PDF 473 KB

Derbyn adroddiad Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Rheng Flaen sy'n amlinellu cynigion ar gyfer diwygiadau i brosesau rheoli gwastraff gweithredol y Cyngor, gyda golwg ar ystyried trefniadau ar gyfer casglu sbwriel ac ailgylchu a fydd yn helpu trigolion ledled RhCT i ailgylchu rhagor yn y dyfodol. Bydd hyn hefyd yn sicrhau arbedion o ran effeithlonrwydd ariannol; ac yn ceisio cymeradwyaeth y Cabinet i gynnal ymgynghoriad mewn perthynas â'r opsiynau ar gyfer newid fel y'u cyflwynir yn yr adroddiad.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Rheng Flaen adroddiad sy'n amlinellu cynigion ar gyfer diwygiadau i brosesau rheoli gwastraff gweithredol y Cyngor, gyda golwg ar ystyried trefniadau ar gyfer casglu sbwriel ac ailgylchu a fydd yn helpu trigolion ledled RhCT i ailgylchu rhagor yn y dyfodol. Bydd hyn hefyd yn sicrhau arbedion o ran effeithlonrwydd ariannol; ac yn ceisio cymeradwyaeth y Cabinet i gynnal ymgynghoriad mewn perthynas â'r opsiynau ar gyfer newid fel y'u cyflwynir yn yr adroddiad.

 

Gyda chytundeb yr Arweinydd, siaradodd dau Aelod o'r cyhoedd ar yr eitem a chyflwyno eu barn i Aelodau'r Cabinet.

 

Soniodd yr Aelod Cabinet ar faterion Amgylchedd a Hamdden am gyfradd ailgylchu bresennol y Cyngor o 67.48% a’r angen i’w chynyddu i darged Llywodraeth Cymru o 70% erbyn 2025. Siaradodd yr Aelod o'r Cabinet am y chwe Awdurdod Lleol, sydd eisoes â hanes cadarnhaol o gasglu sbwriel bob tair wythnos a theimlai na ddylai fod llawer iawn i’w roi mewn gwastraff bin du, o ystyried bod RhCT yn casglu bwyd, cewynnau ac ailgylchu yn wythnosol. Croesawodd yr Aelod o'r Cabinet y cynigion, a fyddai’n dod â manteision o ran ailgylchu, costau a lleihau’r ôl troed carbon.

 

Manteisiodd yr Arweinydd a'r Aelodau ar y cyfle i ddiolch i'r siaradwyr am eu cyfraniad a phwysleisiwyd y byddai'r cynigion yn destun ymgynghoriad pe byddai'r Cabinet yn cytuno â nhw. Mewn ymateb i'r pwyntiau a wnaed gan y siaradwyr, dywedodd yr Arweinydd fod holl blastig RhCT yn cael ei ailgylchu. Yn ogystal â'r chwe Awdurdod Lleol sy'n casglu sbwriel bob tair wythnos ar hyn o bryd, dywedodd yr Arweinydd ei bod yn debygol y byddai llawer mwy yn ystyried y cam yma'n rhan o'r broses anodd o bennu'r gyllideb.

 

Siaradodd yr Arweinydd am bryderon a godwyd mewn perthynas â'r cynnydd posibl mewn plâu ac eglurodd nad oedd tystiolaeth o hyn, a oedd wedi'i gwirio'n annibynnol; a siaradodd am Gyngor Conwy, sy'n casglu sbwriel bob pedair wythnos, fel enghraifft. Pwysleisiodd yr Arweinydd bwysigrwydd ailgylchu ac eglurodd fod tystiolaeth yn awgrymu, o'i wneud yn gywir, mai dim ond 20% o'r gwastraff wythnosol ddylai fynd yn y bag du.

 

O ran treialu’r bagiau y gellir eu hailddefnyddio, roedd gan yr Arweinydd amheuon ynghylch a fyddai’n her mewn stryd deras nodweddiadol a chroesawodd y cyfle i ymgynghori a threialu.

 

Ategodd y Dirprwy Arweinydd sylwadau'r Arweinydd gan nodi bod y Cyngor wedi prynu 30.2 miliwn o fagiau untro yn ystod 2021/22, ar gost o £877k. Wrth fynd i’r afael â sylwadau’r siaradwyr, pwysleisiodd y Dirprwy Arweinydd fod yr angen am newidiadau i wasanaethau o ganlyniad i’r bwlch yn y gyllideb oherwydd diffyg arian gan lywodraeth ganolog. Dywedodd y Dirprwy Arweinydd mai staff yw ased mwyaf y Cyngor a bod angen blaenoriaethu swyddi.

 

PENDERFYNODD y Cabinet:

1.    Nodi cynnwys yr adroddiad a phenderfynu’n briodol i gychwyn ymgynghoriad cyhoeddus ac ymarfer ymgysylltu ar yr opsiwn ar gyfer newid, sef:

 

(i)          Casglu gwastraff cartref gweddilliol bob 3 wythnos ar gyfer pob casgliad gwastraff domestig.

 

(ii)         Bydd y broses gyflwyno gwastraff bob 3 wythnos fel a ganlyn; bydd  ...  view the full Cofnodion text for item 83.