Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Hybrid

Cyswllt: Hannah Williams - Uned Busnes y Cyngor  07385401954

Cyfryngau

Eitemau
Rhif eitem

84.

Datgan Buddiant

Derbyn datganiadau o fuddiannau personol gan Aelodau yn unol â'r Cod Ymddygiad.

 

Nodwch:

 

1.     Mae gofyn i Aelodau ddatgan rhif a phwnc yr agendwm mae eu buddiant yn ymwneud ag ef a mynegi natur y buddiant personol hwnnw; a

2.     Lle bo Aelodau'n ymneilltuo o'r cyfarfod o ganlyniad i ddatgelu buddiant sy'n rhagfarnu, rhaid iddyn nhw roi gwybod i'r Cadeirydd pan fyddan nhw'n gadael.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Yn unol â Chod Ymddygiad y Cyngor, ni wnaethpwyd unrhyw ddatganiadau mewn perthynas â'r Agenda.

 

 

85.

Cofnodion pdf icon PDF 165 KB

Derbyn cofnodion o gyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 21 Tachwedd 2022 yn rhai cywir.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNODD y Cabinet gymeradwyo cofnodion y cyfarfod, a gynhaliwyd ar 21 Tachwedd 2022, yn rhai cywir.

 

 

86.

Cynllun Dirprwyo'r Arweinydd

Derbyn Cynllun Dirprwyo'r Arweinydd er gwybodaeth.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNODD y Cabinet nodi'r Cynllun Dirprwyo wedi'i ddiweddaru.

 

87.

Gofal Preswyl i Bobl Hŷn pdf icon PDF 399 KB

Derbyn adroddiad Cyfarwyddwr Cyfadran y Gwasanaethau Cymuned a Gwasanaethau i Blant, sy'n rhoi'r opsiynau a ffefrir i'r Cabinet ar ddarpariaeth llety i bobl h?n yn y dyfodol ym mhob un o naw cartref gofal preswyl y Cyngor. Mae'r adroddiad yn ceisio cymeradwyaeth i ymgynghori, lle bo'n berthnasol, â'r preswylwyr presennol a’u teuluoedd, staff a rhanddeiliaid eraill, a hynny i alluogi’r Cabinet i ddod i benderfyniadau gwybodus ar yr opsiynau a ffefrir ar gyfer pob cartref.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

1.    Trafod yr wybodaeth yn yr adroddiad a'r sylwadau a'r adborth sy'n codi o'r gwaith cyn y cam craffu a gynhaliwyd gan y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu mewn perthynas â'r adroddiad drafft;

 

2.    Yr opsiynau a ffefrir, fel sydd wedi'i nodi yn Adran 6, sef cadw’r ddarpariaeth gwasanaeth bresennol yn y pum cartref gofal preswyl isod (sy'n cael eu cynnal gan y Cyngor):

 

·       Cwrt Clydach (Trealaw)

·       T? Pentre (Pentre)

·       Tegfan (Trecynon)

·       Cae Glas (Y Ddraenen Wen)

·       Parc Newydd (Tonysguboriau)

 

3.    Cychwyn ymgynghoriad cyhoeddus gyda'r unigolion a gafodd eu symud o Gartref Gofal Ystrad Fechan ym mis Awst eleni, yn ogystal â'u teuluoedd a'r staff, a rhanddeiliaid perthnasol eraill mewn perthynas â'r opsiwn a ffefrir sef datgomisiynu Cartref Gofal Ystrad Fechan yn barhaol a pharhau i archwilio'r posibilrwydd o ddatblygu'r tir ger y cartref gofal presennol gyda Linc Cymru a'r Bwrdd Iechyd a hynny er mwyn darparu llety newydd â darpariaeth gofal. Bydd hyn yn cynnwys 40 fflat gofal ychwanegol ac 20 gwely preswyl ar gyfer gofal dementia, ynghyd ag opsiynau llety iechyd a gofal cymdeithasol eraill gan ddibynnu ar y safle datblygu a'r angen, fel sydd wedi'i nodi yn Adran 6 o'r adroddiad yma. Mae cartref gofal Ystrad Fechan ar gau dros dro ar hyn o bryd ac nid oes unrhyw breswylwyr yn byw yno;

 

4.    Cychwyn ymgynghoriad cyhoeddus gyda'r preswylwyr presennol, eu teuluoedd, staff a rhanddeiliaid eraill mewn perthynas â'r opsiwn a ffefrir sef gweithio gyda Linc Cymru i archwilio'r posibilrwydd o ddatblygu'r tir ger cartref gofal T? Glynrhedynog a hynny er mwyn darparu llety newydd â darpariaeth gofal. Bydd hyn yn cynnwys 20 fflat gofal ychwanegol a 10 gwely preswyl ar gyfer gofal dementia, a datgomisiynu cartref gofal T? Glynrhedynog pan fydd y llety amgen arfaethedig wedi'i ddatblygu, fel sydd wedi'i nodi yn Adran 6 o'r adroddiad;

 

5.    Cychwyn ymgynghoriad cyhoeddus gyda'r preswylwyr presennol, eu teuluoedd, staff a rhanddeiliaid eraill mewn perthynas â'r opsiwn a ffefrir sef gweithio gyda Linc Cymru i archwilio'r posibilrwydd o ddatblygu'r tir ger cartref gofal Troed-y-rhiw a hynny er mwyn darparu llety newydd â darpariaeth gofal. Bydd hyn yn cynnwys 25 fflat gofal ychwanegol ac 15 gwely preswyl ar gyfer gofal dementia, a datgomisiynu cartref gofal Troed-y-rhiw pan fydd y llety amgen arfaethedig wedi'i ddatblygu, fel sydd wedi'i nodi yn Adran 6 o'r adroddiad;

                                

6.    Cychwyn ymgynghoriad cyhoeddus gyda'r preswylwyr presennol, eu teuluoedd, staff a rhanddeiliaid eraill mewn perthynas â'r opsiwn a ffefrir, sef datblygu cartref gofal Garth Olwg a hynny er mwyn darparu llety newydd â darpariaeth gofal i gefnogi oedolion ag anableddau dysgu a datgomisiynu cartref gofal Garth Olwg ar gyfer pobl h?n pan fydd lleoliadau amgen wedi'u sefydlu ar gyfer y preswylwyr presennol, a hynny mewn cartref o'u dewis sy'n bodloni'u hanghenion wedi'u hasesu.

 

7.    Derbyn adroddiad pellach ar ôl i'r ymgynghoriad arfaethedig ddod i ben, gan gynnwys Asesiad o'r Effaith ar Gydraddoldeb wedi'i ddiweddaru cyn i unrhyw benderfyniad terfynol gael ei wneud mewn perthynas â'r opsiynau a ffefrir ar gyfer dyfodol darpariaeth llety i bobl h?n  ...  view the full Cofnodion text for item 87.

88.

Trafod cadarnhau'r cynnig isod yn benderfyniad

“Bod y cyfarfod hwn yn cadw aelodau o'r wasg ac aelodau o'r cyhoedd allan o ystafell y cyfarfod, dan Adran 100A(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol (fel y'i diwygiwyd), yn ystod trafod yr eitem nesaf, ar y sail y byddai'n debygol o olygu datgelu gwybodaeth eithriedig yn ôl diffiniad paragraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf.”

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYDbod y cyfarfod hwn yn cadw aelodau o'r wasg ac aelodau o'r cyhoedd allan o ystafell y cyfarfod, dan Adran 100A(4) o'r Ddeddf Llywodraeth Leol (fel y'i diwygiwyd), yn ystod trafod yr agendwm nesaf, ar y sail y byddai'n debygol o olygu datgelu gwybodaeth eithriedig yn ôl diffiniad paragraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A o'r Ddeddf.

 

 

89.

Dileu dyledion nad oes modd eu casglu

Derbyn adroddiad Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cyllid a Digidol sy'n rhannu datganiad sefyllfa ar ddyledion nad oes modd eu casglu, ac sy'n pennu'r gofyniad i ddileu symiau penodol yn unol â meini prawf adolygu llym.

 

 

Cofnodion:

Yn dilyn trafodaeth am adroddiad y Cyfarwyddwr Cyllid a Gwasanaethau Digidol sy'n cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffinnir ym Mharagraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol, 1972 (fel y'i diwygiwyd), sef gwybodaeth sy'n ymwneud â materion ariannol unrhyw rai penodol (gan gynnwys yr awdurdod sy'n dal yr wybodaeth honno), PENDERFYNODD y Cabinet:

 

1.     Dileu'r cyfrifon sydd wedi'u nodi yn yr atodlen sydd wedi'i hatodi i'r Ddarpariaeth o Ddyledion sydd wedi'i chynnwys yng nghyfrifon y Cyngor (gan geisio taliad os daw rhagor o wybodaeth am unrhyw ddyled i'r amlwg).