Lleoliad: Hybrid
Cyswllt: Hannah Williams - Uned Busnes Y Cyngor 07385401954
Rhif | eitem |
---|---|
Datgan Buddiant Derbyn datganiadau o fuddiannau personol gan Aelodau yn unol â'r Cod Ymddygiad.
Nodwch:
1. Mae gofyn i Aelodau ddatgan rhif a phwnc yr agendwm mae eu buddiant yn ymwneud ag ef a mynegi natur y buddiant personol hwnnw; a 2. Lle bo Aelodau'n ymneilltuo o'r cyfarfod o ganlyniad i ddatgelu buddiant sy'n rhagfarnu, mae rhaid iddyn nhw roi gwybod i'r Cadeirydd pan fyddan nhw'n gadael.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Yn unol â Chod Ymddygiad y Cyngor, ni wnaethpwyd unrhyw ddatganiadau mewn perthynas â'r Agenda.
|
|
Cadarnhau cofnodion o gyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 17 Hydref 2022 yn rhai cywir.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNODD y Cabinet gymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 17 Hydref 2022.
|
|
Derbyn adroddiad y Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Cynhwysiant sy'n rhoi diweddariad i'r Cabinet mewn perthynas â'r ddarpariaeth ystafelloedd addysgu ychwanegol yn Ysgol Gyfun Y Pant, yn dilyn yr adroddiad a gafodd ei gyflwyno i'r Cabinet ar 13 Rhagfyr 2021, a oedd yn tynnu sylw at y pwysau cynyddol o ran niferoedd disgyblion yn ne'r Fwrdeistref Sirol.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddodd Cyfarwyddwr Gwasanaeth Ysgolion yr 21ain Ganrif a Materion Trawsnewid yr wybodaeth ddiweddaraf i'r Cabinet am ddarpariaeth ystafelloedd addysgu ychwanegol yn Ysgol Gyfun y Pant, yn dilyn yr adroddiad a gafodd ei gyflwyno i'r Cabinet ar 13 Rhagfyr 2021. Roedd yr adroddiad wedi tynnu sylw at y pwysau cynyddol ar niferoedd disgyblion yn ne'r Fwrdeistref Sirol.
Roedd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth wedi argymell bod y Cabinet yn ystyried cymeradwyo gwaith adeiladu bloc addysgu deulawr yn Ysgol Gyfun y Pant. Yn rhan o'r rhaglen fesul cam, bydd y llawr cyntaf yn cael ei gwblhau yn y lle cyntaf, a'r llawr gwaelod ar ôl hynny yn ôl gofynion capasiti'r ysgol. Byddai'r cynnig yn caniatáu i'r Cyngor barhau i gyflawni ei ddyletswydd statudol i ddarparu'r nifer priodol o leoedd ysgol yn y lleoliadau cywir.
Nododd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion Addysg, Cyfranogiad Pobl Ifainc a'r Gymraeg fod cwmpas y cynllun arfaethedig wedi newid sydd wedi effeithio ar gost y prosiect a'r rhaglen gyflawni.
Dywedodd yr Aelod o'r Cabinet fod Ysgol Gyfun y Pant yn ysgol ddeniadol, ac yn fwy deniadol fyth ers iddi gael gwedd newydd yn dilyn buddsoddiad yn 2018. Nodwyd bod y dalgylch yn ardal lle mae twf sylweddol yn nifer y tai a'r boblogaeth. Rhagwelir cynnydd yn y galw am leoedd ysgol. Daeth yr Aelod o'r Cabinet i gasgliad trwy nodi bod y cynnig gerbron yr Aelodau yn effeithiol o ran cost, yn gynaliadwy ac y byddai'n helpu'r ysgol i fodloni'r galw presennol a'r galw yn y dyfodol am leoedd yn yr ysgol.
Siaradodd yr Arweinydd o blaid y cynigion a phwysigrwydd defnyddio adeiladau dros dro cyn lleied â phosibl pan fo cynnydd tymor byr yn nifer y disgyblion. Roedd yn hapus gyda mesurau diogelu'r ysgolion ar gyfer y dyfodol yn nhermau twf a nododd fod y sefyllfa tymor hwy yn dangos bod tair ysgol gyfun yr ardal bron yn llawn, a hynny yn bennaf yn sgil y twf yn y boblogaeth yn ardal ddeheuol y Sir.
Adleisiodd y Dirprwy Arweinydd sylwadau blaenorol a nododd fod y twf sylweddol yn nifer y tai yn ne'r Fwrdeistref Sirol wedi arwain at alw mawr am leoedd ysgol.
PENDERFYNODD y Cabinet: 1. Nodi'r newidiadau sy'n effeithio ar leoedd ysgol fel y nodir yn yr adroddiad. 2. Cymeradwyo'r newidiadau i gwmpas y prosiect. 3. Cymeradwyo'r cynnydd yn y buddsoddiad cyfalaf i adeiladu bloc addysgu deulawr newydd yn Ysgol Gyfun y Pant.
|
|
Sylfaen Treth y Cyngor 2023-2024 PDF 181 KB Derbyn adroddiad Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cyllid a Digidol, sy'n gosod yn ffurfiol Sylfaen Treth y Cyngor ar gyfer blwyddyn ariannol 2023/24.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd Pennaeth Refeniw a Budd-daliadau yr adroddiad i'r Cabinet, sy'n nodi Sylfaen Treth y Cyngor yn ffurfiol ar gyfer y flwyddyn ariannol 2023/24.
Dywedodd y swyddog mai £80,182.87 oedd y Sylfaen Treth y Cyngor a gyfrifwyd ar gyfer 2023/24 a chynigiodd y dylid amcangyfrif mai 97.25% yw'r gyfradd gasglu, sy'n arwain at Sylfaen Treth y Cyngor net o £77,977.84. Eglurwyd y byddai swm o £77,978 yn cael ei godi i fodloni gofynion cyllideb y Cyngor am bob £1 a gaiff ei godi mewn Treth y Cyngor y flwyddyn nesaf.
Roedd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion yr Hinsawdd a Gwasanaethau Corfforaethol yn falch o gefnogi'r argymhellion yn yr adroddiad.
Nododd y Dirprwy Arweinydd fod yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth bwysig ar gyfer Cynghorau Cymuned wrth iddyn nhw bennu eu cyllidebau.
Rhoddodd yr Arweinydd ddiolch i'r swyddog am yr adroddiad a PHENDERFYNODD y Cabinet: 1. Yn unol â Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyfrifo Sylfaen Treth y Cyngor) (Cymru) 1995 fel y'i diwygiwyd, y swm sydd wedi'i gyfrifo gan y Cyngor fel ei sylfaen dreth net ar gyfer y flwyddyn ariannol 2023/24, fydd £77,977.84; 2. Bydd sylfaen dreth 2023/24 at ddibenion gosod Treth y Cyngor yn cael ei nodi yn Atodiad 1 yr adroddiad, ar gyfer pob cymuned ddiffiniedig yn y Fwrdeistref Sirol.
|
|
Cynllun Dirprwyo'r Arweinydd - 3A Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNODD y Cabinet nodi'r newidiadau i Gynllun Dirprwyo'r Arweinydd.
|