Lleoliad: Hybrid
Cyswllt: Hannah Williams - Uned Busnes Y Cyngor 07385401954
Rhif | eitem |
---|---|
Croeso ac Ymddiheuriadau Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Croesawodd yr Arweinydd Aelodau a Swyddogion i gyfarfod y Cabinet a derbyniwyd ymddiheuriad am absenoldeb gan yr Aelod o'r Cabinet ar faterion Ffyniant a Datblygu.
|
|
Datgan Buddiant Derbyn datganiadau o fuddiannau personol gan Aelodau yn unol â'r Cod Ymddygiad.
Nodwch:
1. Mae gofyn i Aelodau ddatgan rhif a phwnc yr agendwm mae eu buddiant yn ymwneud ag ef a mynegi natur y buddiant personol hwnnw; a 2. Lle bo Aelodau'n ymneilltuo o'r cyfarfod o ganlyniad i ddatgelu buddiant sy'n rhagfarnu, mae rhaid iddyn nhw roi gwybod i'r Cadeirydd pan fyddan nhw'n gadael.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Yn unol â Chod Ymddygiad y Cyngor, ni wnaethpwyd unrhyw ddatganiadau mewn perthynas â'r agenda.
|
|
Cadarnhau cofnodion o gyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 26 Medi 2022 yn rhai cywir.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD cymeradwyo cofnodion cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 26 Medi 2022 yn rhai cywir.
|
|
Ymgysylltu mewn perthynas â Chyllideb y Cyngor PDF 155 KB Derbyn adroddiad y Cyfarwyddwr Gwasanaeth – Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu, sy'n rhoi gwybod i'r Cabinet am y dull arfaethedig o ymgysylltu ac ymgynghori â thrigolion yngl?n â chyllideb 2023/24.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth – Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu wybod i'r Cabinet am y dull arfaethedig o ymgysylltu ac ymgynghori â thrigolion yngl?n â phroses pennu cyllideb 2023/24.
Siaradodd y Dirprwy Arweinydd yn gadarnhaol am gynnwys yr adroddiad ac roedd yn falch o nodi bod modd i Aelodau'r Cabinet ac Uwch Swyddogion gynnal sgyrsiau wyneb yn wyneb â thrigolion mewn perthynas â chyllideb y Cyngor, a hynny'n dilyn mesurau atal Covid-19 blaenorol.
Ychwanegodd y Dirprwy Arweinydd y byddai cyllideb eleni yn peri pryder i bob Awdurdod Lleol oherwydd yr argyfwng costau byw a'r cynnydd yn y biliau ynni. Felly, roedd y rhagolygon ar gyfer y dyfodol yn enbyd gyda phenderfyniadau anodd i'w gwneud.
PENDERFYNODD y Cabinet: 1. Cefnogi gwaith pellach i ddatblygu a pharhau â'r dull o ran yr ymgynghoriad ar gyllideb y Cyngor a gafodd ei gyflwyno yn ystod yr ymgynghoriad y llynedd ar gyfer 2023/24, gan ddefnyddio gwefan Dewch i Siarad y Cyngor a threfniadau ymgysylltu wyneb yn wyneb â'r gymuned. Yn rhan o'r dull sydd wedi'i awgrymu, byddwn ni'n parhau i ddarparu ffyrdd eraill o ymgysylltu â'r rheiny heb fynediad i'r rhyngrwyd, neu sy'n ei chael hi'n anodd cysylltu â'r rhyngrwyd, a'r rheiny sy'n hoffi ymgysylltu trwy ddulliau traddodiadol; 2. Cefnogi gofynion statudol y Cyngor parthed ymgynghori ar y Cynllun Gostyngiadau Treth y Cyngor a lefelau Treth y Cyngor, a chaiff y rhain eu bodloni trwy'r dull arfaethedig; 3. Cefnogi proses ymgynghori ar y gyllideb cam 1 sy'n digwydd yn ystod hydref 2022, gyda'r dyddiadau i'w cadarnhau yn dilyn eglurhad o amserlenni setliad cyllideb Llywodraeth Cymru; 4. Awdurdodi'r Cyfarwyddwr Gwasanaeth - Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu i gynllunio'r llinell amser ymgysylltu angenrheidiol unwaith y bydd manylion y Setliad Llywodraeth Leol Dros Dro yn hysbys, a hynny drwy ymgynghori â'r Aelod priodol o'r Cabinet a'r Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cyllid a Digidol.
|
|
Rhag-Graffu: Adroddiad Monitro Blynyddol yr Ardoll Seilwaith Cymunedol PDF 155 KB Derbyn adroddiad y Cyfarwyddwr Gwasanaeth, Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebusy'n rhoi adborth a sylwadau'r Pwyllgor Craffu ar Faterion yr Hinsawdd, Gwasanaethau Rheng Flaen a Ffyniant, i'r Cabinet yn dilyn rhag-graffu ar Adroddiad Monitro Blynyddol yr Ardoll Seilwaith Cymunedol yn ei gyfarfod ar y 29 Medi 2022. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Rhoddodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth – Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu adborth a sylwadau'r Pwyllgor Craffu ar faterion yr Hinsawdd, Gwasanaethau Rheng Flaen a Ffyniant i'r Cabinet yn dilyn rhag-graffu ar Adroddiad Monitro Blynyddol yr Ardoll Seilwaith Cymunedol yn ei gyfarfod ar 29 Medi 2022.
Rhoddodd y Pennaeth Materion Cynllunio wybod i'r Aelodau am fanylion Adroddiad Monitro Blynyddol yr Ardoll Seilwaith Cymunedol a'r newidiadau arfaethedig i'r Rhestr Rheoliad 123.
Manteisiodd y Dirprwy Arweinydd ar y cyfle i ddiolch i'r Pwyllgor Craffu – Gwasanaethau Cymuned a Ffyniant am ei adborth ar yr adroddiad.
PENDERFYNODD y Cabinet: 1. Nodi sylwadau ac arsylwadau'r Pwyllgor Craffu – Materion yr Hinsawdd, Gwasanaethau Rheng Flaen a Ffyniant, fel sydd wedi'i nodi ym mharagraff 5 o'r adroddiad; 2. Cymeradwyo'r argymhellion sydd wedi'u hamlinellu yn Adroddiad Monitro Blynyddol yr Ardoll Seilwaith Cymunedol sydd wedi'i atodi i'r adroddiad yma yn Atodiad A.
|
|
Derbyn adroddiad y Cyfarwyddwr Gwasanaeth, Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu, yn rhoi adborth a sylwadau'r Pwyllgor Craffu - Gwasanaethau Cymuned i'r Cabinet, yn dilyn rhag-graffu ar ddrafft terfynol Adroddiad Blynyddol Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol yn ei gyfarfod ar 5 Hydref 2022. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth – Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu adborth a sylwadau'r Pwyllgor Craffu - Gwasanaethau Cymuned i'r Cabinet, yn dilyn rhag-graffu ar Adroddiad Blynyddol Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol 2021/22 yn ei gyfarfod ar 5 Hydref 2022.
Rhoddodd Cyfarwyddwr Cyfadran y Gwasanaethau Cymuned a Gwasanaethau i Blant fanylion yr adroddiad i'r Cabinet. Mae Adroddiad Blynyddol 2021/22 Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol yn nodi cyflawniad Gwasanaethau Cymdeithasol y Cyngor y llynedd ac yn tynnu sylw at gyfeiriad a blaenoriaethau'r flwyddyn bresennol.
Nododd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion Iechyd a Gofal Cymdeithasol sylwadau'r Pwyllgor Craffu gan wneud sylw am y ffaith bod rhaid cyflymu'r broses integreiddio gofal cymdeithasol a gofal iechyd; dyma fater a gafodd ei drafod yn ystod cyfarfod diweddar Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Cwm Taf Morgannwg.
Nododd yr Aelod o'r Cabinet ymrwymiad a chwmpas gwaith sydd wedi'i gynnal gan staff y gwasanaethau cymdeithasol ac wrth gyfeirio at astudiaethau achos, siaradodd am sut roedd ymyraethau wedi gwella sawl agwedd ar fywydau cleientiaid megis hyder ac annibyniaeth.
Manteisiodd y Dirprwy Arweinydd ar y cyfle i ddiolch i'r Pwyllgor Craffu – Gwasanaethau Cymuned am ei sylwadau ac arsylwadau mewn perthynas â'r adroddiad.
PENDERFYNODD y Cabinet: 1. Nodi sylwadau ac arsylwadau'r Pwyllgor Craffu – Gwasanaethau Cymuned; 2. Cymeradwyo'r argymhellion sydd wedi'u hamlinellu yn Adroddiad Blynyddol 2021/22 Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol sydd wedi'i atodi i'r adroddiad.
|
|
Gweithdrefnau Rhoi Sylwadau, Canmol a Chwyno - Adroddiad Blynyddol PDF 163 KB Derbyn adroddiad Cyfarwyddwr Cyfadran y Gwasanaethau Cymuned a Gwasanaethau i Blant, sy'n rhoi trosolwg i'r Cabinet o drefnau gweithredu ac effeithiolrwydd gweithdrefnau cwyno Gwasanaethau Cymdeithasol Statudol y Cyngor rhwng 1 Ebrill 2021 a 31 Mawrth 2022.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddodd Cyfarwyddwr Cyfadran y Gwasanaethau Cymuned a Gwasanaethau i Blant drosolwg i'r Cabinet o'r trefnau gweithredu ac effeithiolrwydd gweithdrefnau cwyno Gwasanaethau Cymdeithasol Statudol y Cyngor rhwng 1 Ebrill 2021 a 31 Mawrth 2022. Roedd yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth ar gefndir gweithdrefn gwynion statudol y Gwasanaethau Cymdeithasol, gwybodaeth am wersi sy wedi'u dysgu o gwynion a data cyflawniad ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol i Oedolion ac i Blant, ynghyd â chyflawniadau ar gyfer 2021/22 a datblygiadau yn y dyfodol.
Rhoddodd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion Iechyd a Gofal Cymdeithasol ddiolch i'r Cyfarwyddwr am yr adroddiad cynhwysfawr a bwysleisiodd agwedd gadarnhaol y Cyngor tuag at ddelio â chwynion er mwyn cynnal a gwella ei safonau. Siaradodd yr Aelod o'r Cabinet am yr ystod eang o ganmoliaeth yn yr adroddiad, a bwysleisiodd ymrwymiad y staff er gwaethaf cyfnodau heriol.
PENDERFYNODD y Cabinet: 1. Cymeradwyo cynnwys Adroddiad Blynyddol Cwynion Gwasanaethau Cymdeithasol; 2. Nodi'r gwaith sy wedi'i wneud gan Garfan Cwynion y Gwasanaethau Cymdeithasol.
|
|
Strategaeth Chwaraeon a Gweithgarwch Corfforol 2022-27 ar gyfer Rhondda Cynon Taf PDF 171 KB Derbyn adroddiad Cyfarwyddwr Iechyd a Diogelwch y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymuned, sy'n gofyn i'r Cabinet gymeradwyo Strategaeth Chwaraeon a Gweithgarwch Corfforol 2022-2027 ar gyfer Rhondda Cynon Taf a rhoi gwybod i'r Cabinet am adborth yr ymgynghoriad mewn perthynas â'r Strategaeth newydd.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Gofynnodd Cyfarwyddwr Iechyd a Diogelwch y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymuned am gymeradwyaeth y Cabinet ar gyfer Strategaeth Chwaraeon a Gweithgarwch Corfforol 2022-2027 ar gyfer Rhondda Cynon Taf a rhoddodd wybod i'r Cabinet am adborth yr ymgynghoriad mewn perthynas â'r Strategaeth newydd.
Manteisiodd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion yr Amgylchedd a Hamdden ar y cyfle i ddiolch i'r swyddogion am yr adroddiad a'r Strategaeth. Siaradodd yr Aelod o'r Cabinet yn gadarnhaol am y Strategaeth a'i chanolbwynt i ddarparu ystod eang o weithgareddau gan sicrhau bod cyfleusterau chwaraeon yn cael eu cynnal i safon uchel, yn unol â blaenoriaethau'r Cynllun Corfforaethol.
Nododd yr Aelod o'r Cabinet fod y Strategaeth flaenorol wedi canolbwyntio ar fuddsoddi dros bum mlynedd ac ymaelododd dros 10,000 o bobl â chynllun Hamdden am Oes o ganlyniad i hyn. Serch hynny, nodwyd y gallai'r cyfnodau anodd sydd o'n blaenau ni greu rhwystr yn y dyfodol.
Gan gyfeirio at yr ymgynghoriad, nododd yr Aelod o'r Cabinet ei bod yn galonogol nodi bod 93.5% o drigolion o'r farn bod gan RCT weledigaeth o annog trigolion i fyw bywyd iach, a hynny er gwaethaf y ffaith bod ffigurau gwefan 'Dewch i Siarad' yn siomedig. Aeth yr Aelod o'r Cabinet ati i gydnabod gwaith a sylwadau'r hen Bwyllgor Craffu – Materion Iechyd a Lles.
PENDERFYNODD y Cabinet: 1. Cymeradwyo Strategaeth Chwaraeon a Gweithgarwch Corfforol 2022-27 ar gyfer Rhondda Cynon Taf.
|
|
Asesiad o'r Farchnad Dai Leol 2022-2037 PDF 179 KB Derbyn adroddiad Cyfarwyddwr Materion Ffyniant a Datblygu, sy'n rhoi crynodeb i'r Aelodau o'r Asesiad o'r Farchnad Dai Leol 2022-2037 ac yn ceisio cymeradwyaeth y Cabinet i ddefnyddio'r asesiad yn rhan o'r dystiolaeth ar gyfer Cynllun Corfforaethol, Cynllun Datblygu Lleol a Chynllun Darparu Tai y Cyngor.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddodd y Cyfarwyddwr Materion Ffyniant a Datblygu grynodeb i'r Cabinet o'r Asesiad o'r Farchnad Dai Leol 2022-2037 gan ofyn am gymeradwyaeth i ddefnyddio'r asesiad yn rhan o'r dystiolaeth ar gyfer Cynllun Corfforaethol, Cynllun Datblygu Lleol a Chynllun Darparu Tai y Cyngor. Cymerodd y ddogfen yma le canfyddiadau'r Asesiad o'r Farchnad Dai Leol blaenorol a gafodd ei gwblhau yn 2017/18, a'i lunio yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru.
Rhoddodd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion Iechyd y Cyhoedd a Chymunedau ddiolch i'r Cyfarwyddwr am yr adroddiad gan gydnabod y gwaith sydd wedi'i gynnal hyd yn hyn. Roedd yr Aelod o'r Cabinet yn falch o nodi bod y targedau blynyddol eisoes wedi'u bodloni.
PENDERFYNODD y Cabinet: 1. Cymeradwyo Asesiad o'r Farchnad Dai Leol 2022-2037 yn ffynhonnell allweddol o dystiolaeth i gefnogi gwaith cyflwyno polisïau tai yng Nghynllun Corfforaethol, Cynllun Datblygu Lleol a Chynllun Cyflenwi Tai y Cyngor; 2. Cymeradwyo Asesiad o'r Farchnad Dai Leol 2022-2037 fel offeryn i negodi darpariaeth tai fforddiadwy ar geisiadau cynllunio ac i nodi sut mae angen tai yn golygu gwahanol feintiau a mathau o dai fforddiadwy (e.e. rhent cymdeithasol a pherchnogaeth tai cost isel); a 3. Cymeradwyo Asesiad o'r Farchnad Dai Leol 2022-2037 i'w ddefnyddio i lywio ceisiadau am gyllid (gan gynnwys Grant Tai Cymdeithasol) ac i ddylanwadu ar ddatblygiad preswyl yn y Fwrdeistref Sirol.
|
|
Strategaeth Cartrefi Gwag Newydd ar gyfer 2022-2025 PDF 175 KB Derbyn adroddiad Cyfarwyddwr Materion Ffyniant a Datblygu, sy'n rhoi'r diweddaraf i Aelodau am y cynnydd o ran ailddefnyddio cartrefi gwag yn unol â Strategaeth Cartrefi Gwag bresennol RhCT (2018-2022), a cheisio cymeradwyaeth y Cabinet i gytuno ar Strategaeth Cartrefi Gwag newydd y Cyngor ar gyfer 2022-2025.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Rhoddodd y Cyfarwyddwr Materion Ffyniant a Datblygu y diweddaraf i'r Cabinet am y cynnydd o ran ailddefnyddio cartrefi gwag yn unol â Strategaeth Cartrefi Gwag bresennol RhCT (2018-2022), gan ofyn am gymeradwyaeth Aelodau i gytuno ar Strategaeth Cartrefi Gwag newydd y Cyngor ar gyfer 2022-2025.
Siaradodd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion Iechyd y Cyhoedd a Chymunedau am lwyddiant y cynllun hyd yn hyn, oedd wedi arwain at ailddefnyddio 20% o eiddo ac wedi'i gymeradwyo gan Lywodraeth Cymru.
Siaradodd yr Arweinydd am y gwaith a gafodd ei gynnal mewn perthynas â Grantiau Eiddo Gwag a nododd fod Llywodraeth Cymru wedi gofyn i RCT arwain Tasglu'r Cymoedd ar y pryd, ac mae'n dymuno i RCT arwain eto ar waith ailgyflwyno'r cynllun grant.
PENDERFYNODD y Cabinet: 1. Trafod yr wybodaeth sydd wedi'i chynnwys yn yr adroddiad yma a'r cynnydd sydd wedi'i wneud mewn perthynas ag ailddefnyddio cartrefi gwag yn unol â Strategaeth Cartrefi Gwag RhCT bresennol (2018-2022); 2. Cymeradwyo'r Strategaeth Cartrefi Gwag newydd (2022-2025).
|
|
Premiymau Treth y Cyngor – Eiddo Gwag Tymor Hir ac Ail Gartrefi PDF 269 KB Derbyn adroddiad Cyfarwyddwr Cyllid a Gwasanaethau Digidol, Cyfarwyddwr Materion Ffyniant ac Adfywio a Chyfarwyddwr Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymuned, sy'n rhoi gwybodaeth am y pwerau disgresiwn sydd gan y Cyngor i godi symiau uwch o ran Treth y Cyngor (premiwm) ar rai eiddo y darperir ar eu cyfer gan Ddeddf Tai (Cymru) 2014.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cyllid a Digidol wybodaeth i'r Cabinet ynghylch y pwerau dewisol sydd gan y Cyngor i godi symiau uwch o ran Treth y Cyngor (premiwm) ar rai eiddo y darperir ar eu cyfer gan Ddeddf Tai (Cymru) 2014. Gofynnodd i'r Cabinet ystyried cynnal cyfnod ymgynghori ffurfiol ar gynnig i gyflwyno premiwm, a hynny wrth ystyried y pwerau yma.
Nododd y Cyfarwyddwr fod gwall teipio i'w weld ym mharagraff 10 sy'n cyfeirio at 5 mlynedd ac y dylai argymhelliad 2.2 gyfeirio at 'ail gartrefi'; ac y byddai'r man ddiwygiadau yn cael eu gwneud i'r adroddiad gwreiddiol, gyda chymeradwyaeth y Cabinet, fel nad oes unrhyw ddryswch trwy gydol y broses ymgynghori.
Roedd yr Arweinydd yn hapus i gynnwys y diwygiadau uchod a nododd y byddai'r ymgynghoriad wedi'i dargedu at y rheiny sydd wedi'u heffeithio'n uniongyrchol. Ychwanegodd yr Arweinydd fod yr adroddiad yn rhan o awydd y Cyngor i leihau nifer yr eiddo gwag hirdymor yn y Fwrdeistref Sirol. Nododd yr Arweinydd y dylid canolbwyntio ar ailddefnyddio hen eiddo, yn ogystal â chreu cartrefi newydd.
Roedd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion yr Hinsawdd a Gwasanaethau Corfforaethol wedi gobeithio y byddai'r ymgynghoriad pedair wythnos yn amrywiol ac roedd yn falch o nodi y byddai perchennog pob eiddo gwag yn derbyn llythyr gan yr Awdurdod Lleol yn rhoi gwybod am yr ymgynghoriad.
Adleisiodd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion Iechyd y Cyhoedd a Chymunedau sylwadau blaenorol am ailddefnyddio'r eiddo ac roedd o'r farn bod y dull yn bwysig o ran helpu'r Cyngor i fodloni'i anghenion Strategaeth Dai ehangach.
PENDERFYNODD y Cabinet: 1. Nodi manylion y pwerau dewisol sy'n ymwneud â Phremiymau Treth y Cyngor fel sydd wedi'u hamlinellu yn yr adroddiad hwn; 2. Cychwyn ymarfer ymgynghori ar y defnydd arfaethedig o'r pwerau hyn mewn perthynas ag eiddo gwag ac ail gartrefi fel sydd wedi'i nodi yn Adran 10; a 3. Bod adroddiad, gan gynnwys canlyniadau'r ymarfer ymgynghori, yn cael ei gyflwyno i'r Cabinet i'w ystyried a phenderfynu ar y ffordd arfaethedig ymlaen a fyddai'n cael ei argymell i'r Cyngor Llawn.
|
|
Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru - Llythyr ac Adroddiad Blynyddol 2021-2022 PDF 172 KB Derbyn adroddiad Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cyfreithiol, sy'n rhoi gwybod i'r Cabinet am gyhoeddi Adroddiad Blynyddol a Llythyr Blynyddol Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru ('PSOW') i'r Cyngor yma ar gyfer 2021-2022.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Rhoddodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cyfreithiol wybod i'r Cabinet am gyhoeddi Adroddiad Blynyddol a Llythyr Blynyddol Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru ('PSOW') i'r Cyngor yma ar gyfer 2021-2022.
Rhoddodd y Dirprwy Arweinydd ddiolch i'r Cyfarwyddwr am yr adroddiad gan nodi bod RhCT yn ffafriol a'r trydydd isaf allan o 22 Awdurdod Lleol Cymru. Nododd y Dirprwy Arweinydd ei bod hi'n debygol bod y gostyngiad yma yn nifer y cwynion o ganlyniad i'r pandemig ac mae cynnydd i'w weld nawr oherwydd hynny.
PENDERFYNODD y Cabinet: 1. Trafod a nodi Adroddiad Blynyddol a Llythyr Blynyddol Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru i'r Cyngor yma ar gyfer 2021-2022.
|
|
Derbyn adroddiad Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Rheng Flaen, sy'n nodi'r rhaglen gyfalaf atodol ar gyfer y Priffyrdd, Trafnidiaeth a Chynlluniau Strategol, yn dilyn cymeradwyo buddsoddiad 2022/23 ychwanegol gan y Cyngor ar 28 Medi 2022.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Nododd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Rheng Flaen y rhaglen gyfalaf atodol ar gyfer y Priffyrdd, Trafnidiaeth a Chynlluniau Strategol, yn dilyn cymeradwyo buddsoddiad 2022/23 ychwanegol gan y Cyngor ar 28 Medi 2022.
Nododd yr Arweinydd fod y £100,000 wedi'i ddyrannu ar gyfer draenio yn yr adroddiad gan egluro bod yr arian ar gyfer gwaith draenio ar raddfa fach a'i fod ar ben y £1M ar gyfer gwaith perygl llifogydd sydd wedi'i nodi yn ail ran yr adroddiad. Dywedodd yr Arweinydd y byddai hyn yn helpu i lunio achos yr Awdurdod Lleol ar gyfer rhagor o gyllid gan Lywodraeth Cymru y flwyddyn nesaf.
PENDERFYNODD y Cabinet: 1. Nodi a chymeradwyo'r Rhaglen Gyfalaf Atodol ar gyfer y Priffyrdd, Trafnidiaeth a Chynlluniau Strategol fel sydd wedi'i nodi yn yr adroddiad yma; 2. Nodi bod y dyraniadau presennol yn rhan o raglen gyfalaf 3 blynedd a dirprwyo awdurdod i Gyfarwyddwr y Gwasanaethau Rheng Flaen, mewn ymgynghoriad ag Arweinydd y Cyngor a'r Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cyllid a Digidol, ymestyn gweithgarwch i gyflawni prosiectau ychwanegol yn ystod y flwyddyn ariannol lle mae capasiti yn bodoli ar gyfer cyflwyno carlam yn unol â phwrpas y rhaglen ehangach, neu atal rhaglenni/prosiectau dros dro ac ailddyrannu cyllid er mwyn gwneud y budd gorau.
|
|
Newid i Drefn yr Agenda Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Yn unol â chais yr Arweinydd, PENDERFYNODD y Cabinet: 1. Newid trefn yr agenda er mwyn trafod yr eitem 'hwyr' cyn cadw aelodau o'r wasg ac aelodau o'r cyhoedd o ystafell y cyfarfod.
|
|
Protocol Costau Teithio ar y Cyd Dros Dro Cymru Gyfan PDF 91 KB Derbyn adroddiad y Cyfarwyddwr Materion Adnoddau Dynol sy'n rhoi manylion am Brotocol Costau Teithio ar y Cyd Dros Dro Cymru Gyfan, a gafodd ei gymeradwyo'n ddiweddar gan Fwrdd Gweithredol Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (WLGA) ac Undebau Llafur y Cyd-gyngor Cenedlaethol (NJC), sydd wedi'i rannu â phob awdurdod yng Nghymru er mwyn ei drafod yn ffurfiol.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddodd y Cyfarwyddwr Materion Adnoddau Dynol fanylion i'r Cabinet am Brotocol Costau Teithio ar y Cyd Dros Dro Cymru Gyfan, a gafodd ei gymeradwyo'n ddiweddar gan Fwrdd Gweithredol Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (WLGA) ac Undebau Llafur y Cyd-gyngor Cenedlaethol (NJC), sydd wedi'i rannu â phob awdurdod yng Nghymru er mwyn ei drafod yn ffurfiol.
Siaradodd y Dirprwy Arweinydd o blaid yr argymhellion gan nodi bod y dull yn cydnabod anwadalrwydd y farchnad bresennol.
Talodd yr Arweinydd deyrnged i'r Undebau Llafur a oedd wedi gweithio gyda Gweithgor Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru mewn perthynas â'r protocol. Ychwanegodd yr Arweinydd fod Llywodraeth y DU yn cael ei lobïo i gynyddu costau teithio Cyllid a Thollau Ei Fawrhydi o 45c i 50c ac esboniodd fod rhaid talu treth ar y 5c ychwanegol ar hyn o bryd.
PENDERFYNODD y Cabinet: 1. Trafod mabwysiadu'r protocol ar y cyd dros dro yn ffurfiol, fydd yn arwain at gynyddu cyfradd yn ôl y filltir y Cyngor dros dro o 45c i 50c fesul milltir, o 1 Tachwedd 2022.
|
|
Trafod cadarnhau'r cynnig isod yn benderfyniad “Bod y cyfarfod hwn yn cadw aelodau o'r wasg ac aelodau o'r cyhoedd allan o ystafell y cyfarfod, dan Adran 100A(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol (fel y'i diwygiwyd), yn ystod trafod yr agendwm nesaf, ar y sail y byddai'n debygol o olygu datgelu gwybodaeth eithriedig yn ôl diffiniad paragraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf.”
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD: “Bod y cyfarfod hwn yn cadw aelodau o'r wasg ac aelodau o'r cyhoedd allan o ystafell y cyfarfod, dan Adran 100A(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol (fel y'i diwygiwyd), yn ystod trafod yr agendwm nesaf, ar y sail y byddai'n debygol o olygu datgelu gwybodaeth eithriedig yn ôl diffiniad paragraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf.”
|
|
Cynon Valley Waste Disposal Company Limited ac Amgen Rhondda Limited – Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol Derbyn adroddiad Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cyfreithiol, sy'n rhoi cyfle i Aelodau archwilio datganiadau ariannol Cynon Valley Waste Disposal Company Limited ac Amgen Rhondda Limited (y ‘Cwmnïau’) sydd i'w cyflwyno i Gyfarfodydd Cyffredinol Blynyddol rhithwir y Cwmnïau ym mis Tachwedd 2022, a galluogi Aelodau i ofyn i swyddogion sy'n mynd i'r cyfarfodydd ar ran y Cyngor fel unig gyfranddalwyr y Cwmnïau bleidleisio yn unol â chyfarwyddiadau Aelodau.
Cofnodion: Yn dilyn trafod adroddiad Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cyfreithiol, sy'n cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y diffinnir ym Mharagraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A o'r Ddeddf Llywodraeth Leol, 1972 (fel y'i diwygiwyd), sef gwybodaeth yngl?n â materion ariannol neu fusnes unigolyn penodol (gan gynnwys yr awdurdod sy'n dal yr wybodaeth honno), PENDERFYNWYD: 1. Bod y bwriad cyfredol i barhau i weithredu Cynon Valley Waste Disposal Company Limited ac Amgen Rhondda Limited (y 'Cwmnïau') yn gwmnïau dan reolaeth yr Awdurdod Lleol yn y dyfodol wedi'i gadarnhau; 2. Yn amodol ar fodloni'r Cyfarwyddwr Cyllid a Gwasanaethau Digidol nad oes unrhyw afreoleidd-dra yng nghyfrifon y Cwmnïau y dylid derbyn y cyfrifon ar ran y Cyngor; 3. Penodi Azets Audit Services yn archwilwyr i'r Cwmnïau am y flwyddyn sy'n dod i ben ar 31 Mawrth 2023; 4. Bod Cyfarwyddiaethau'r Cyfarwyddwr Gwasanaethau Rheng Flaen a'r Cyfarwyddwr Gwasanaeth – Gwasanaethau Cyllid a Gwella ar y ddau Gwmni yn parhau; 5. Nodi parhad swydd cyfarwyddwr anweithredol ar Fwrdd y Cwmnïau hyd at Gyfarfodydd Cyffredinol Blynyddol 2023; 6. Awdurdodi Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cyfreithiol ac/neu ei enwebai i arfer pleidlais y Cyngor yng Nghyfarfodydd Cyffredinol Blynyddol y Cwmnïau yn unol ag argymhellion 2(ii) i 2(iv) uchod; a 7. Bydd Aelod o'r Cabinet yn cynrychioli'r Cyngor yng Nghyfarfodydd Cyffredinol Blynyddol y Cwmnïau.
|