Lleoliad: Hybrid
Cyswllt: Hannah Williams - Uned Busnes y Cyngor. 07385401954
Rhif | eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau am Absenoldeb Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Daeth ymddiheuriadau am golli'r cyfarfod oddi wrth Gynghorwyr y Fwrdeistref Sirol M Webber a C Leyshon.
|
|
Datgan Buddiant Derbyn datganiadau o fuddiannau personol gan Aelodau, yn unol â'r Cod Ymddygiad. Nodwch: 1. Mae gofyn i Aelodau ddatgan rhif a phwnc yr agendwm mae eu buddiant yn ymwneud ag ef a mynegi natur y buddiant personol hwnnw; a 2. Lle bo Aelodau'n ymneilltuo o'r cyfarfod o ganlyniad i ddatgelu buddiant sy'n rhagfarnu, mae rhaid iddyn nhw roi gwybod i'r Cadeirydd pan fyddan nhw'n gadael.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Datganodd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion Addysg, Cyfranogiad Pobl Ifainc a'r Gymraeg y buddiant sy’n rhagfarnu canlynol mewn perthynas â’r eitem: "Byddai aelod agos o'r teulu yn derbyn y cymorth i staff y Cyngor ar gyflogau is.'' Gadawodd yr Aelod o'r Cabinet y cyfarfod yn ystod y drafodaeth a'r bleidlais ar yr eitem yma.
|
|
Derbyn cofnodion cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 18 Gorffennaf 2022.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNODD y Cabinet gymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 18 Gorffennaf 2022.
|
|
Cymorth Costau Byw Lleol - Cynllun Atodol (Disgresiynol) PDF 153 KB Derbyn adroddiad y Cyfarwyddwr Cyllid a Gwasanaethau Digidol sy'n rhoi manylion i'r Cabinet am Gynllun Cymorth Costau Byw Atodol (Disgresiynol) lleol.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddodd y Cyfarwyddwr Cyllid a Gwasanaethau Digidol fanylion i'r Cabinet am Gynllun Atodol (Disgresiynol) - Cymorth Costau Byw Lleol i'w drafod.
PENDERFYNODDy Cabinet: 1. Nodi a chymeradwyo manylion y Cynllun Atodol (Disgresiynol) - Cymorth Costau Byw Lleol; a 2. Nodi a chymeradwyo'r trefniadau gweithredu a'r trefniadau ar gyfer dirprwyo i'r Cyfarwyddwr Cyllid a Gwasanaethau Digidol fel sydd wedi'i nodi yn adran 10.
|
|
Cynllun Corfforaethol y Cyngor – Blaenoriaethau Buddsoddi PDF 178 KB Derbyn adroddiad y Cyfarwyddwr Cyllid a Gwasanaethau Digidol sy'n nodi'r sefyllfa o ran cyfle'r Cabinet i gynnig bod y Cyngor yn buddsoddi ymhellach yn ei feysydd â blaenoriaeth, yn unol â'r Cynllun Corfforaethol, "Gwneud Gwahaniaeth" 2020-2024.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Nododd y Cyfarwyddwr Cyllid a Gwasanaethau Digidol y sefyllfa o ran cyfle'r Cabinet i gynnig bod y Cyngor yn buddsoddi ymhellach yn ei feysydd â blaenoriaeth, yn unol â'r Cynllun Corfforaethol, "Gwneud Gwahaniaeth" 2020-2024.
PENDERFYNODDy Cabinet: 1. Cynnig y trefniadau buddsoddi ac ariannu ychwanegol fel y'u nodwyd yn Atodiad A yr adroddiad a gafodd ei gyflwyno i'r Cyngor yn ei gyfarfod ar 28 Medi 2022.
|
|
Cyflwyno Grant Paneli Solar newydd ac Ymestyn y Grant Gwresogi PDF 144 KB Derbyn adroddiad y Cyfarwyddwr Ffyniant a Datblygu sy'n cynnig sefydlu cynllun grant paneli solar newydd ar gyfer trigolion RhCT; ac ehangu'r cynllun grant gwresogi presennol tan 2025 ar gyfer trigolion RhCT.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ceisiodd y Cyfarwyddwr Materion Ffyniant a Datblygu gymeradwyaeth y Cabinet i sefydlu cynllun grant paneli solar newydd ar gyfer trigolion RhCT sy'n cefnogi Strategaeth Cynhesrwydd Fforddiadwy 2019-2023 y Cyngor a Chynllun 2022-25 RhCT 'Hinsawdd Ystyriol RhCT' – Gwneud Rhondda Cynon Taf yn Garbon Niwtral erbyn 2030; ac ymestyn y cynllun grant gwresogi domestig presennol tan 2025 ar gyfer trigolion RhCT er mwyn trwsio neu osod system wresogi newydd a mesurau effeithlonrwydd ynni yn unol â Strategaeth Cynhesrwydd Fforddiadwy 2019-2023 y Cyngor a Chynllun 2022-25 RhCT 'Hinsawdd Ystyriol RhCT' – Gwneud Rhondda Cynon Taf yn Garbon Niwtral erbyn 2030.
PENDERFYNODDy Cabinet: 1. Cymeradwyo sefydlu grant paneli solar newydd hyd at 2025; a 2. Nodi'r effaith gadarnhaol y mae'r grant gwresogi domestig wedi'i chael ar drigolion RhCT a chytuno i ymestyn y grant tan 2025.
|
|
Cynllun Pontio i Gerbydau Allyriadau Isel Iawn PDF 219 KB Derbyn adroddiad Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Rheng Flaen sy'n amlinellu cynllun y Cyngor i bontio o gerbydau â motor tanio mewnol i gerbydau allyriadau isel iawn dros y 6 mlynedd nesaf. Mae cwmpas a phrif ganolbwynt yr adroddiad yn cyfeirio at gerbydau nwyddau ysgafn y Cyngor.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Amlinellodd Swyddog y Gwasanaethau Rheng Flaen gynllun y Cyngor i bontio o gerbydau â motor tanio mewnol i gerbydau allyriadau isel iawn dros y 6 mlynedd nesaf. Mae cwmpas a phrif ganolbwynt yr adroddiad yn cyfeirio at gerbydau nwyddau ysgafn y Cyngor.
PENDERFYNODDy Cabinet: 1. Nodi cynnwys yr adroddiad a phenderfynu cefnogi:
a) Caffael cerbydau nwyddau ysgafn trydan, naill ai drwy eu llogi ar brydles neu'u prynu nhw, i gymryd lle cerbydau â motor tanio mewnol yn unol â’r amserlen ddangosol isod mewn ffordd raddol.
b) Datblygu a gosod seilwaith gwefru cerbydau trydan (EVCI) cysylltiedig er mwyn darparu a rhoi'r cynllun pontio i gerbydau allyriadau isel iawn (ULEV) ar waith yn llwyddiannus.
c) Rhoi prawf ar gerbydau â thanwydd amgen, megis Hydrogen ac Olew Llysiau wedi'i drin â hydrogen (HVO), pan a lle bydd ar gael. (Mae un HVO o'r fath wrthi'n cael ei roi ar brawf mewn perthynas â detholiad o gerbydau nwyddau trwm y Cyngor, gyda datblygiadau'n cael eu monitro'n agos am arwyddion o ostyngiadau mewn allyriadau carbon, y byddai modd eu defnyddio i lywio mentrau cerbydau gwyrdd yn y dyfodol).
2. Bod Swyddogion yn parhau i fanteisio ar unrhyw gyfleoedd i sicrhau grantiau i gynorthwyo gydag ariannu, naill ai'n rhannol neu'n llawn, unrhyw agwedd ar gaffael ULEV neu ddatblygu EVCI.
|
|
Cynllun Dirprwyo'r Arweinydd - 3A Derbyn diweddariad ynghylch Cynllun Dirprwyo’r Arweinydd.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNODDy Cabinet nodi'r newidiadau i Gynllun Dirprwyo'r Arweinydd fel y manylwyd gan y Cyfarwyddwr.
|