Lleoliad: Hybrid
Cyswllt: Hannah Williams - Uned Busnes y Cyngor 07385401954
Rhif | eitem |
---|---|
Datgan Buddiant Derbyn datganiadau o fuddiannau personol gan Aelodau, yn unol â gofynion y Cod Ymddygiad.
Nodwch: 1. Mae gofyn i Aelodau ddatgan rhif a phwnc yr agendwm y mae eu buddiant yn ymwneud ag ef a mynegi natur y buddiant personol hwnnw; a 2. Lle bo Aelodau'n ymneilltuo o'r cyfarfod o ganlyniad i ddatgelu buddiant sy'n rhagfarnu, rhaid iddyn nhw roi gwybod i'r Cadeirydd pan fyddan nhw'n gadael.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cafodd y datganiadau o fuddiant personol canlynol eu gwneud mewn perthynas ag Eitem 7 – Rhaglen Gyfalaf Arfaethedig Addysg a Gwasanaethau Cynhwysiant 2023-2024: · Y Cynghorydd Morgan OBE – Llywodraethwr yr AALl yn Ysgol Gynradd Glenbói a enwir yn yr adroddiad. · Y Cynghorydd Webber – Llywodraethwr yr AALl yn Ysgol Gynradd Maes-y-coed a enwir yn yr adroddiad. · Y Cynghorydd Leyshon – Llywodraethwr yr AALl yn Ysgol Gynradd Maes-y-coed ac Ysgol Gynradd Trehopcyn a enwir yn yr adroddiad. · Y Cynghorydd Lewis – Llywodraethwr yr AALl yn Ysgol Gynradd Gymraeg Abercynon a enwir yn yr adroddiad. · Y Cynghorydd Caple – Llywodraethwr yr AALl yn Ysgol Gynradd yr Hafod a enwir yn yr adroddiad.
|
|
Cadarnhau cofnodion o gyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 28 Chwefror 2023 yn rhai cywir.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: PENDERFYNWYD cymeradwyo cofnodion cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 28 Chwefror 2023.
|
|
Cynllun Llesiant Cwm Taf Morgannwg 2023-2028 PDF 128 KB Derbyn adroddiad y Prif Weithredwr sy'n rhoi 'Cynllun Llesiant Cwm Taf Morgannwg 2023-2028' Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus i Aelodau yn unol â gofynion Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Prif Weithredwr 'Cynllun Llesiant Cwm Taf Morgannwg 2023-2028' y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus i'r Cabinet yn unol â gofynion Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol.
Nododd yr asesiad llesiant anghydraddoldebau ledled y cymunedau a nododd y cynllun drafft fwriad y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus i gydweithio i leihau'r anghydraddoldebau yma er mwyn gwella llesiant pobl sy'n byw yn y rhanbarth ac anelu at ddyfodol teg. Roedd y cynllun wedi cynnig dau brif amcan: 1. Cymdogaethau lleol iach; 2. Cymdogaethau lleol cynaliadwy a chydnerth
Siaradodd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn gadarnhaol am y Cynllun Llesiant gan nodi y byddai gwaith integreiddio a gwaith ar y cyd yn angenrheidiol ar gyfer gwella llesiant economaidd a diwylliannol cymunedau. Nodwyd bod hyn wedi cael ei drafod am nifer o flynyddoedd ond roedd bellach yn ofyniad brys ar gyfer mesur gwaith gweithredu a chyflawni, a fyddai'n gwella bywydau pobl.
Siaradodd yr Aelod o'r Cabinet am fynychu achlysur dadorchuddio mainc goffa er cof am ddyn ifanc a oedd wedi cyflawni hunanladdiad o ganlyniad i iechyd meddwl a dibyniaeth. Pwysleisiodd yr Aelod o'r Cabinet fod unigolion a theuluoedd sydd angen cymorth gan wasanaethau cyhoeddus yn yr holl ystadegau a data.
Adleisiodd y Dirprwy Arweinydd sylwadau'r Cynghorydd gan nodi mai bwriad y Cynllun Llesiant drafft yw gwella tegwch darpariaeth i bawb sy'n byw ac yn gweithio yn rhanbarth Cwm Taf Morgannwg.
PENDERFYNODD y Cabinet: 1. Nodi a chymeradwyo Cynllun Llesiant Cwm Taf Morgannwg fel sydd wedi'i amlinellu yn Atodiad A yr adroddiad; 2. Argymell mabwysiadu'r Cynllun i'r Cyngor Llawn yn ei gyfarfod ar 29 Mawrth, 2023.
|
|
Derbyn adroddiad Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd a Chyfarwyddwr Iechyd a Diogelwch y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymuned sy'n rhoi cyfle i'r Cabinet adolygu defnydd y Cyngor o Ddeddf Rheoleiddio Pwerau Ymchwilio 2000 (fel y'i diwygiwyd) ar gyfer y cyfnod rhwng 1 Ionawr a 31 Rhagfyr 2022; defnydd y Cyngor o Gaffael Data Cyfathrebu o dan Ddeddf Pwerau Ymchwilio 2016 ar gyfer yr un cyfnod; a'r diwygiad arfaethedig i'r Polisi Corfforaethol a'r Ddogfen Gweithdrefnau ar Ddeddf Rheoleiddio Pwerau Ymchwilio.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd yr adroddiad a roddodd gyfle i Aelodau adolygu defnydd y Cyngor o Ddeddf Rheoleiddio Pwerau Ymchwilio 2000 (fel y'i diwygiwyd) ar gyfer y cyfnod rhwng 1 Ionawr a 31 Rhagfyr 2022; defnydd y Cyngor o Gaffael Data Cyfathrebu o dan Ddeddf Pwerau Ymchwilio 2016 ar gyfer yr un cyfnod; a'r diwygiad arfaethedig i'r Polisi Corfforaethol a'r Ddogfen Gweithdrefnau ar Ddeddf Rheoleiddio Pwerau Ymchwilio.
Rhoddodd y Dirprwy Arweinydd ddiolch i'r Cyfarwyddwr am yr adroddiad ac er nad oedd defnydd o wyliadwriaeth awdurdodedig yn ystod y cyfnod, nododd ei bod yn adnodd defnyddiol iawn i'r Cyngor, os bydd angen. Roedd y Dirprwy Arweinydd yn falch o nodi bod pryniannau prawf ar gyfer gwerthu alcohol a thybaco i bobl dan oed yn ôl ar waith.
PENDERFYNODD y Cabinet: 1. Nodi cynnwys yr adroddiad; 2. Cydnabod bod pwerau ymchwilio mewn perthynas â goruchwylio cudd a chaffael data cyfathrebu wedi cael eu defnyddio mewn modd priodol sy'n gyson â pholisïau RIPA ac IPA y Cyngor yn ystod y cyfnod rhwng 1 Ionawr a 31 Rhagfyr 2022; 3. Cymeradwyo'r diwygiad i Atodiad 1 y Polisi Corfforaethol a'r Ddogfen Gweithdrefnau ar Ddeddf Rheoleiddio Pwerau Ymchwilio.
|
|
Adroddiad Cydraddoldeb Blynyddol 2021-2022 PDF 152 KB Derbyn adroddiad y Cyfarwyddwr Materion Adnoddau Dynol sy'n cyflwyno gwybodaeth yngl?n ag Adroddiad Cydraddoldeb Blynyddol y Cyngor ar gyfer y flwyddyn 2021/22.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddodd y Rheolwr Amrywiaeth a Chynhwysiant wybodaeth i Aelodau'r Cabinet am Adroddiad Cydraddoldeb Blynyddol y Cyngor ar gyfer y flwyddyn 2021-2022.
Rhoddodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth – Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu adborth y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu 2022-2027, a drafododd yr adroddiad yn ei gyfarfod a gynhaliwyd ar 21 Mawrth 2023. Roedd llythyr ffurfiol wedi cael ei anfon at Aelodau'r Cabinet cyn y cyfarfod.
Manteisiodd y Dirprwy Arweinydd ar y cyfle i ddiolch i swyddogion am yr holl waith llunio'r Adroddiad Cydraddoldeb Blynyddol, ac i Aelodau'r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu am eu trafodaethau a sylwadau. Roedd y Dirprwy Arweinydd yn falch o nodi'r gydnabyddiaeth yn yr adroddiad mewn perthynas ag agenda amrywiaeth mewn democratiaeth a dyletswydd gyfartal Aelodau Etholedig mewn perthynas â'r Cynllun Cydraddoldeb Strategol.
Siaradodd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion yr Hinsawdd a Gwasanaethau Corfforaethol yn gadarnhaol am yr adroddiad, gan nodi y byddai camau gweithredu'n cael eu cymryd lle roedd heriau wedi'u nodi.
PENDERFYNODD y Cabinet: 1. Trafod yr wybodaeth oedd wedi ei chynnwys yn yr adroddiad; 2. Nodi sylwadau ac arsylwadau'r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu, a hynny'n dilyn gwaith cyn y cam craffu ar yr Adroddiad Cydraddoldeb Blynyddol ar 21 Mawrth 2023; 3. Cyhoeddi Adroddiad Cydraddoldeb Blynyddol 2021/22.
|
|
Derbyn adroddiad y Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Cynhwysiant, sy'n rhoi'r diweddaraf i Aelodau'r Cabinet am gynllun peilot dau gam ar gyfer dyrannu cyllid i ysgolion uwchradd er mwyn sefydlu darpariaeth cam 4 cwricwlwm amgen yn yr ysgol ar gyfer disgyblion sydd â SEBD sylweddol. Mae'r adroddiad yn rhoi trosolwg o effaith y darpariaethau sydd wedi'u sefydlu hyd yn hyn o ran gwella gallu ysgolion i fodloni anghenion eu disgyblion sydd â SEBD, wrth fabwysiadu dull cynhwysol o atgyfnerthu'r continwwm o ddarpariaeth SEBD yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf. Mae hyn yn unol â'r ethos sydd wrth wraidd deddfwriaeth a chanllawiau statudol Anghenion Dysgu Ychwanegol diweddar Llywodraeth Cymru mewn perthynas â datblygu dull ysgol gyfan tuag at gefnogi lles. Mae'r adroddiad hefyd yn ceisio cymeradwyaeth y Cabinet i ddefnyddio cronfa wrth gefn bresennol a glustnodwyd er mwyn i ysgolion barhau i roi darpariaethau Cam 4 ar waith yn rhan o'u hymateb graddedig i fodloni anghenion y disgyblion sydd â SEBD.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddodd Pennaeth Gwasanaethau Cynhwysiant yr wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau am gynllun peilot dau gam ar gyfer dyrannu cyllid i ysgolion uwchradd er mwyn sefydlu darpariaeth cam 4 cwricwlwm amgen yn yr ysgol ar gyfer disgyblion sydd â SEBD sylweddol.
Rhoddodd yr adroddiad drosolwg o effaith y darpariaethau sydd wedi'u sefydlu hyd yn hyn o ran gwella gallu ysgolion i fodloni anghenion eu disgyblion sydd â SEBD, wrth fabwysiadu dull cynhwysol o atgyfnerthu'r continwwm o ddarpariaeth SEBD yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf. Mae hyn yn unol â'r ethos sydd wrth wraidd deddfwriaeth a chanllawiau statudol Anghenion Dysgu Ychwanegol diweddar Llywodraeth Cymru mewn perthynas â datblygu dull ysgol gyfan tuag at gefnogi lles. Roedd yr adroddiad hefyd yn ceisio cymeradwyaeth i ddefnyddio cronfa wrth gefn bresennol a glustnodwyd er mwyn i ysgolion barhau i roi darpariaethau Cam 4 ar waith yn rhan o'u hymateb graddedig i fodloni anghenion y disgyblion sydd â SEBD.
Pwysleisiodd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion Addysg, Cyfranogiad Pobl Ifainc a'r Gymraeg bwysigrwydd y ddarpariaeth Cam 4 o ran y galw cynyddol i ddarparu ymyraethau addas a chwricwlwm cynhwysol i ddisgyblion sydd ag anawsterau cymdeithasol, emosiynol ac ymddygiadol. Nododd yr Aelod o'r Cabinet fod y ffigurau'n dangos bod pwysau a galw'r maes yma wedi cynyddu; ac aeth ati i gydnabod y dyletswyddau ychwanegol sydd ar yr Awdurdod Lleol o dan ddeddfwriaeth Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg. Roedd yr Aelod o'r Cabinet yn cydnabod bod hyn yn flaenoriaeth allweddol a nododd fod cyllid gwerth £2.645 miliwn wedi'i fuddsoddi mewn darpariaethau Cam 4 ers 2020.
Adleisiodd y Dirprwy Arweinydd sylwadau blaenorol ac roedd yn falch o nodi bod yr adroddiad wedi cydnabod pwysigrwydd llais y disgybl.
PENDERFYNODD y Cabinet: 1. Nodi'r cynnydd hyd yn hyn o ran y cynllun peilot Cam 4 (Cyfran 1 a Chyfran 2); 2. Cymeradwyo'r cynnig i gefnogi ysgolion uwchradd/pob oed i gynnal eu darpariaeth Cam 4 bresennol neu sefydlu darpariaeth Cam 4 newydd fel sydd wedi'i nodi yn yr adroddiad; 3. Nodi bod y cyllid gwerth £500k y flwyddyn o fis Medi 2023 tan fis Awst 2025 eisoes yn ei le i gefnogi'r cynigion newydd yma; 4. Nodi y byddai'r cyllid newydd yma'n ychwanegol at gyllid gwerth £2.645 miliwn sydd eisoes wedi'i fuddsoddi mewn darpariaethau Cam 4 ers 2020.
.
|
|
Rhaglen Gyfalaf Arfaethedig Addysg a Gwasanaethau Cynhwysiant 2023-2024 PDF 227 KB Derbyn adroddiad y Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Cynhwysiant, sy'n rhoi manylion i Aelodau am y gwaith cyfalaf sydd i'w gymeradwyo ar gyfer 2023/24 yn rhan o Raglen Gyfalaf tair blynedd y Cyngor, yn ogystal â gwybodaeth bellach mewn perthynas â Grant Cyllid Cyfalaf ychwanegol wedi'i ddyfarnu gan Lywodraeth Cymru ar gyfer 2022/23.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth – Ysgolion yr 21ain Ganrif a Materion Trawsnewid fanylion i Aelodau mewn perthynas â gwaith cyfalaf sydd i'w gymeradwyo ar gyfer 2023/24 yn rhan o Raglen Gyfalaf tair blynedd y Cyngor, yn ogystal â gwybodaeth bellach mewn perthynas â Grant Cyllid Cyfalaf ychwanegol wedi'i ddyfarnu gan Lywodraeth Cymru ar gyfer 2022/23.
Croesawodd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion Addysg, Cyfranogiad Pobl Ifainc a'r Gymraeg y cyllid ychwanegol a nododd fod gan y Cabinet hanes cadarnhaol o fuddsoddi mewn ysgolion er mwyn sicrhau bod gan ddisgyblion a chymunedau yr amgylchedd dysgu gorau posibl.
Croesawodd yr Arweinydd a'r Dirprwy Arweinydd y cyllid ychwanegol gan Lywodraeth Cymru, oedd yn ychwanegol at ddyraniad cyllid y Cyngor.
PENDERFYNODD y Cabinet: 1. Cymeradwyo cynlluniau blaenoriaeth y Rhaglen Gyfalaf Addysg ar gyfer 2023/24 fel sydd wedi'u hamlinellu yn Atodiadau 1-11 a chymeradwyo cychwyn y cynllun; 2. Nodi derbyn £4.052 miliwn o gyllid cyfalaf gan Lywodraeth Cymru trwy Grant Cyllid Cyfalaf; 3. Cymeradwyo'r prosiectau a amlinellwyd yn yr adroddiad a'u dynodi'n flaenoriaeth ar gyfer 2023/24 fel sydd wedi'i nodi yn Atodiad 12, a chymeradwyo cychwyn y cynllun.
|
|
Derbyn adroddiad Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Rheng Flaen, sy'n nodi'r rhaglen gyfalaf fanwl ar gyfer y Priffyrdd, Trafnidiaeth a Chynlluniau Strategol, yn dilyn cymeradwyo Rhaglen Gyfalaf tair blynedd y Cyngor 2023/24 - 2025/26 ar 8 Mawrth 2023 yng nghyfarfod y Cyngor.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Rheng Flaen y Rhaglen Gyfalaf fanwl ar gyfer y Priffyrdd, Trafnidiaeth a Chynlluniau Strategol i'r Cabinet, a hynny'n dilyn cymeradwyo Rhaglen Gyfalaf tair blynedd y Cyngor 2023/24 - 2025/26 ar 8 Mawrth 2023 yng nghyfarfod y Cyngor.
Roedd yr Arweinydd o blaid y cynigion a oedd gerbron yr Aelodau ac esboniodd fod y rhestr yn un o raglenni cynnal a chadw mwyaf y Cyngor, gydag ychydig dros £10 miliwn o gyllid y Cyngor ar gyfer priffyrdd, strwythurau a gosod wyneb newydd ar ffyrdd; a thua £20 miliwn ar gyfer difrod Storm Dennis dros y flwyddyn nesaf. Rhoddodd yr Arweinydd wybod am gadarnhad Llywodraeth Cymru mewn perthynas â'r cymorth parhaus ar gyfer gwaith atgyweirio pontydd.
Rhoddodd yr Arweinydd wybod i'r Cabinet fod y Cyngor wedi cyflwyno nifer o geisiadau am grantiau Llywodraeth Cymru ar gyfer prosiectau trafnidiaeth mewn perthynas â'r canlynol: • Rhoi menter 20 mya Llywodraeth Cymru ar waith • Refeniw diogelwch y ffyrdd • Llwybrau Diogel yn y Gymuned • Teithio Llesol • Cronfa Trafnidiaeth Leol (gan gynnwys Ffyrdd Cydnerth)
Nododd y Dirprwy Arweinydd ei bod yn hanfodol buddsoddi mewn strwythurau i sicrhau bod y Fwrdeistref Sirol yn barod i'r dyfodol.
Adleisiodd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion Iechyd a Gofal Cymdeithasol sylwadau blaenorol gan nodi bod y lefel uchelgeisiol yma o fuddsoddi yn glod i'r Cyngor, a hynny er gwaethaf pwysau ariannol. Siaradodd yr Aelod o'r Cabinet am y ffordd ger pen pellaf ffordd osgoi Trehafod lle byddai llifogydd yn digwydd yn rheolaidd ac roedd yn falch o nodi y byddai gwaith yn cael ei gynnal i liniaru'r problemau.
PENDERFYNODD y Cabinet: 1. Nodi a chymeradwyo'r Rhaglen Gyfalaf Atodol ar gyfer y Priffyrdd, Trafnidiaeth a Chynlluniau Strategol yn unol â'r manylion yn yr adroddiad; 2. Nodi bod y dyraniadau presennol yn rhan o raglen gyfalaf 3 blynedd a dirprwyo awdurdod i Gyfarwyddwr y Gwasanaethau Rheng Flaen, mewn ymgynghoriad ag Arweinydd y Cyngor, Dirprwy Brif Weithredwr a'r Cyfarwyddwr Cyllid a Gwasanaethau Digidol a Rheng Flaen, ymestyn gweithgarwch i gyflawni prosiectau ychwanegol yn ystod y flwyddyn ariannol lle mae capasiti yn bodoli ar gyfer cyflwyno carlam yn unol â phwrpas y rhaglen ehangach, neu atal rhaglenni/prosiectau dros dro ac ailddyrannu cyllid er mwyn gwneud y budd gorau.
|
|
Adroddiad Cyflawniad y Cyngor – 31 Rhagfyr 2022 (Chwarter 3) PDF 527 KB Derbyn adroddiad y Dirprwy Brif Weithredwr a Chyfarwyddwr y Gyfadran Cyllid a Gwasanaethau Digidol a Rheng Flaen sy'n rhoi trosolwg i Aelodau o gyflawniad y Cyngor dros naw mis cyntaf y flwyddyn ariannol hon hyd at 31 Rhagfyr 2022, yn ariannol a gweithredol fel ei gilydd.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth – Materion Cyllid a Gwella fanylion cyflawniad ariannol a gweithredol y Cyngor adeg 31 Rhagfyr 2022, i'r Cabinet.
Aeth yr Aelod o'r Cabinet ar faterion yr Hinsawdd a Gwasanaethau Corfforaethol ati i gydnabod yr heriau sydd wedi'u nodi yn yr adroddiad, gan gynnwys yr argyfwng costau byw parhaus ac effaith Covid-19, a adlewyrchwyd yn sefyllfa cyllideb refeniw Chwarter 3. Y rhagolwg yw y bydd gorwariant blwyddyn gyfan o £10.469 miliwn. Roedd yr Aelod o'r Cabinet yn falch o nodi'r sefyllfa well o ran y cynnydd yn nifer y bobl sydd ag aelodaeth Hamdden am Oes, sydd wedi dychwelyd i lefelau cyn y pandemig.
Rhoddodd yr Arweinydd ddiolch i swyddogion am y gwaith dros y 12 mis diwethaf o ran nodi arbedion, er gwaethaf y pwysau eithradol, a nododd fod y Cyngor mewn sefyllfa well.
Ailadroddodd y Dirprwy Arweinydd sylwadau'r Arweinydd gan fanteisio ar y cyfle i ddiolch i swyddogion ar draws pob maes am eu cefnogaeth barhaus. Nododd y Dirprwy Arweinydd fod Pobl, Lle a Blaenoriaeth yn parhau i fod yn allweddol ond nododd fod hynny'n dod yn fwy anodd yn ystod yr hinsawdd ariannol. Canmolodd y Dirprwy Arweinydd Is-bwyllgor y Cabinet ar faterion yr Hinsawdd a'i waith, a fyddai'n parhau i fod yn ganolbwynt allweddol.
PENDERFYNODD y Cabinet: I. Nodi cyd-destun gwasanaethau’r Cyngor sydd wrthi'n mynd i'r afael ag effeithiau parhaus cymunedau’n adfer o’r pandemig a’r argyfwng costau byw ledled y DU, sydd ill dau’n cyfrannu at gynnydd o ran y galw am lawer o wasanaethau a phwysau sylweddol ar gostau chwyddiant. Refeniw II. Nodi a chytuno ar sefyllfa alldro refeniw Cronfa Gyffredinol y Cyngor fel y mae ar 31 Rhagfyr 2022 (Adran 2 o'r Crynodeb Gweithredol). Cyfalaf III. Nodi sefyllfa alldro cyfalaf y Cyngor fel y mae ar 31 Rhagfyr 2022 (Adrannau 3a-e o'r Crynodeb Gweithredol). Nodi manylion y Dangosyddion Materion Darbodusrwydd Cylch Rheoli’r Trysorlys fel y mae ar 31 Rhagfyr 2022 (Adran 3f o'r Crynodeb Gweithredol). Blaenoriaethau'r Cynllun Corfforaethol IV. Nodi diweddariadau cynnydd Chwarter 3 ar gyfer blaenoriaethau Cynllun Corfforaethol y Cyngor (Adrannau 5a i 5c o'r Crynodeb Gweithredol). V. Nodi'r diweddariad cynnydd i wella ymateb tymor byr a thymor hir y Cyngor i ddigwyddiadau tywydd eithafol (Adran 6 o'r Crynodeb Gweithredol). VI. Nodi'r diweddariad cynnydd mewn perthynas ag ymateb y Cyngor i fynd i'r afael â Newid yn yr Hinsawdd (Adran 7 o'r Crynodeb Gweithredol).
|
|
Adolygu Cymorth Ariannol ar gyfer Busnesau PDF 175 KB Derbyn adroddiad y Cyfarwyddwr Materion Ffyniant a Datblygu, sy'n ceisio cymeradwyaeth y Cabinet i ddiwygio rhai o'r cynlluniau grant Adfywio presennol sydd ar gael i fusnesau lleol er mwyn gwneud yn fawr o'r cyfleoedd ariannu sydd ar gael trwy Grant Creu Lleoedd Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru a Chronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ceisiodd y Pennaeth Materion Adfywio gymeradwyaeth y Cabinet i ddiwygio rhai o'r cynlluniau grant Adfywio presennol sydd ar gael i fusnesau lleol er mwyn gwneud yn fawr o'r cyfleoedd ariannu sydd ar gael trwy Grant Creu Lleoedd Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru a Chronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU.
Tynnodd y swyddog sylw'r Aelodau at Adran 5 yr adroddiad, lle amlinellwyd cynigion y grant cymorth i fusnesau. Byddai'r cynlluniau wedi'u hamlinellu'n darparu rhaglen fuddsoddi strwythuredig gwerth £4 miliwn ar gyfer busnesau lleol, gan gynnwys cyllid gan Lywodraeth y DU, Llywodraeth Cymru a Rhaglen Gyfalaf y Cyngor.
Siaradodd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion Ffyniant a Datblygu yn gadarnhaol am y cynigion gan nodi y byddai diwygio a chynyddu grantiau yn atal dyblygu ac yn gwella eu heffeithiolrwydd. Croesawodd yr Aelod o'r Cabinet gyfanswm y cymorth, sef tua £4 miliwn, i fusnesau lleol oedd wedi ei chael hi'n anodd yn ddiweddar, yn enwedig gyda'r cynnydd diweddar mewn costau ynni. Hefyd, croesawodd y grantiau graddfa fawr a fyddai'n helpu i adnewyddu eiddo gwag.
Ailadroddodd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion Iechyd y Cyhoedd a Chymunedau sylwadau blaenorol a chroesawodd y cynigion.
Croesawodd yr Arweinydd yr adroddiad ac esboniodd y gallai'r cyfraniadau cyllid cyfatebol sy'n cael eu gwneud gan ymgeisydd y sector preifat ysgogi miliynau o bunnoedd. Ychwanegodd yr Arweinydd fod y Grant Cynnal Canol Trefi wedi cael ei ymestyn a byddai'n helpu busnesau i barhau i fod yn fywiog yng nghanol y trefi.
PENDERFYNODD y Cabinet: 1. Cytuno ar y pecyn o gymorth wedi'i amlinellu ym mharagraffau 5.1 - 5.8 yr adroddiad.
|