Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Hybrid

Cyswllt: Hannah Williams - Uned Busnes y Cyngor  07385401954

Cyfryngau

Eitemau
Rhif eitem

107.

Datgan Buddiant

Derbyn datganiadau o fuddiannau personol gan Gynghorwyr, yn unol â gofynion Cod Ymddygiad y Cyngor.

 

Nodwch:

 

1.     Mae gofyn i Aelodau ddatgan rhif a phwnc yr eitem y mae eu buddiant yn ymwneud ag ef a mynegi natur y buddiant personol hwnnw; a

2.     Lle bo Aelodau'n ymneilltuo o'r cyfarfod o ganlyniad i ddatgelu buddiant sy'n rhagfarnu, rhaid iddyn nhw roi gwybod i'r Cadeirydd pan fyddan nhw'n gadael.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Roedd y Dirprwy Arweinydd wedi datgan y buddiant personol canlynol mewn perthynas ag Eitem 10 ar yr agenda - Y Rhaglen Gyfalaf: "Rydw i'n Aelod o Gorff Llywodraethu Ysgol Gynradd Heol y Celyn sydd wedi'i enwi yn yr adroddiad."

 

 

108.

Cofnodion pdf icon PDF 233 KB

Cadarnhau cofnodion o gyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 23 Ionawr 2023 yn rhai cywir.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNODD y Cabinet gymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 23 Ionawr 2023.

 

109.

Cartrefi Gofal Preswyl i Bobl Hŷn pdf icon PDF 423 KB

Derbyn adroddiad Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol dros dro, sy'n rhoi cyfle i'r Cabinet drafod canlyniadau'r ymgynghoriad mewn perthynas â'r opsiynau a ffefrir ar gyfer dyfodol darpariaeth llety i bobl h?n yng nghartrefi gofal preswyl y Cyngor.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Pennaeth Dros Dro'r Gwasanaethau Cymdeithasol yr adroddiad, sy'n rhoi cyfle i'r Cabinet drafod deilliannau ymgynghoriad sy’n ymwneud â’r opsiynau a ffefrir ar gyfer darpariaeth llety i bobl h?n ym mhob un o gartrefi gofal preswyl y Cyngor yn y dyfodol.

 

Yna rhannodd Cyfarwyddwr Gwasanaeth - Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu adborth y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu 2022-2027, a oedd wedi trafod yr adroddiad yn ystod ei gyfarfod ar 27 Chwefror 2023. Roedd llythyr ffurfiol wedi'i rannu â'r Cabinet cyn y cyfarfod ond manteisiodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth ar y cyfle i grynhoi prif bwyntiau'r llythyr:

  • Roedd nifer o Aelodau wedi cydnabod gwrthwynebiad cryf y cyhoedd i'r cynnig mewn perthynas â Chartref Garth Olwg.
  • Roedd y mwyafrif wedi nodi'r angen am newid;
  • Mae nifer o Aelodau wedi nodi bod angen cyflwyno'r cynigion i fuddsoddi ym mhob cyfleuster cyn gynted ag sy'n bosibl;
  • Cafodd sylw ei wneud gan Aelod mewn perthynas â'r hyn y mae'r adroddiad yn canolbwyntio arno, sef capasiti, yn hytrach na sicrhau bod darpariaeth well ar gael yn lleol ym mhob rhan o'r fwrdeistref sirol;
  • Gofynnodd Aelod am sicrwydd bod y Cyngor yn 'hyderus' bod modd cefnogi pobl i fyw'n annibynnol am gyfnod hirach yn y gymuned wrth fynd ati i leihau'r capasiti;
  • Nododd y mwyafrif bod angen rhagor o gapasiti i ofalu am bobl â dementia yn rhan o'r cynigion yma.

 

Manteisiodd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar y cyfle i ddiolch i'r swyddogion am yr adroddiad cynhwysfawr, a oedd yn nodi rhaglen foderneiddio barhaus y Cyngor ar gyfer cartrefi gofal, er y sefyllfa ariannol ar hyn o bryd. Roedd yr Aelod o'r Cabinet yn gefnogol o'r cynigion a oedd yn ceisio parchu pobl a'u hurddas gan ddarparu cartrefi gofal modern o'r radd flaenaf, gan gynnwys darpariaeth ar gyfer oedolion ag anghenion cymhleth ac anableddau dysgu. Nododd yr Aelod o'r Cabinet, o ran yr ymgynghoriad cyhoeddus a gafodd ei gynnal, bod y sylwadau'n gadarnhaol ar y cyfan a bod trigolion yn croesawu'r buddsoddiad. Siaradodd Aelod o'r Cabinet am y pryderon mewn perthynas â'r cynigion ar gyfer Garth Olwg, gan fanteisio ar y cyfle i ganmol y Cynghorydd G Stacey am dynnu sylw at sawl mater ar ran preswylwyr a staff, a hynny o ran cadw'r cartref gofal yng Ngarth Olwg, a hefyd croesawu cyfleuster newydd ar gyfer oedolion ag anableddau dysgu.

 

Pwysleisiodd yr Arweinydd nad yw nifer o'r cartrefi gofal sy'n gweithredu ar hyn o bryd yn darparu'r safonau modern newydd y disgwylir, er bod staff gwych yn y cartrefi. Rhoddodd yr Arweinydd wybod bod y Cyngor wedi ystyried ailfodelu'r ystafelloedd er mwyn cynnwys ystafell en-suite, ond byddai hyn yn fwy heriol i drigolion o ganlyniad i'r angen i'w symud sawl tro. Cafodd y cynnig yma'i gondemnio gan Gomisiynydd Pobl H?n. 

 

Roedd y Dirprwy Arweinydd wedi diolch i'r Cyfarwyddwr am yr adroddiad gan siarad yn gadarnhaol am y newidiadau i'r cyfleuster yng Nglynrhedynog, a hynny er mwyn cynyddu capasiti, yn dilyn trafod ymatebion i'r ymgynghoriad.  Nododd y Dirprwy Arweinydd ei bod hi'n  ...  view the full Cofnodion text for item 109.

110.

Strategaeth Trawsnewid Gwasanaethau Preswyl y Gwasanaethau i Blant pdf icon PDF 197 KB

Derbyn adroddiad Cyfarwyddwr dros dro Gwasanaethau Cymdeithasol, sy'n darparu'r Cabinet gyda Strategaeth Trawsnewid Gwasanaethau Preswyl Gwasanaethau Plant.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Cyfarwyddwr Dros Dro'r Gwasanaethau Cymdeithasol wybodaeth am gynlluniau'r Gwasanaethau i Blant ar gyfer datblygu gwasanaethau gofal preswyl yn unol â dyletswyddau’r Cyngor, ac yng nghyd-destun uchelgais polisi Llywodraeth Cymru i ddileu elw o’r ddarpariaeth gofal ar gyfer plant sy’n derbyn gofal, a cheisio cytundeb y Cabinet i gymeradwyo a mabwysiadu'r Strategaeth Trawsnewid Gofal Preswyl 2022 i 2027 Arfaethedig: Plant Sy'n Derbyn Gofal

 

Manteisiodd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar y cyfle i ddiolch i swyddogion am yr adroddiad manwl. Roedd e o'r farn bod yr adroddiad yn nodi llwybr clir ar gyfer sicrhau newid ar gyfer y gwasanaethau gofal preswyl i blant. Roedd yr Aelod o'r Cabinet yn gefnogol o'r farchnad 'ddim er elw' gan bwysleisio mai'r bwriad yw darparu gofal ar gyfer plant a phobl ifainc sy'n derbyn gofal, a hynny'n agos i'w cartrefi mewn cartrefi o safon lle mae modd iddyn nhw ffynnu a chael eu cefnogi gan staff dibynadwy, cydnerth a medrus.  Roedd yr Aelod o'r Cabinet wedi cydnabod bod hon yn dasg uchelgeisiol ac mae angen goresgyn rhwystrau sylweddol er mwyn cydymffurfio â'r Rheoliadau erbyn 1 Ebrill 2027. Roedd yr Aelod o'r Cabinet, ac yntau'n Gadeirydd y Bwrdd Rhianta Corfforaethol, wedi nodi bod Aelodau'r Bwrdd yn effro i'r cynnydd o ran galw, ddiffyg argaeledd a bod plant wedi cael eu symud y tu allan i'r sir dros y blynyddoedd.

 

Holodd yr Aelod o'r Cabinet a oedd y penderfyniad wedi cael effaith ar argaeledd lleoedd preswyl ar gyfer plant sy'n derbyn gofal yn ystod y flwyddyn ddiwethaf ac a yw'r penderfyniad wedi cynyddu nifer y lleoliadau sy'n gweithredu heb fod wedi'u cofrestru ac sydd wedi'u cefnogi gan y Gwasanaethau i Blant yn ystod y cyfnod yma, a hynny yn Rhondda Cynon Taf ac Awdurdodau Lleol eraill. Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth fod y Cyngor wedi datblygu lleoliadau sy'n gweithredu heb fod wedi'u cofrestru oherwydd diffyg yn nifer y lleoliadau cofrestredig addas. Nododd y Cyfarwyddwr mai'r strategaeth arfaethedig yw'r cynllun cryfaf o ran gallu symud i ffwrdd o'r trefniadau yma.

 

Nododd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion yr Amgylchedd a Hamdden nad yw'r Cyngor eisiau rhoi plant mewn llety heb ei gofrestru, ond does dim dewis arall, o ganlyniad i'r diffyg o ran llety amgen addas, mae hyn yn her sy'n wynebu Awdurdodau Lleol eraill hefyd. Ceisiodd yr Aelod o'r Cabinet sicrwydd bod y lleoliadau heb eu cofrestru yma'n cynnig amgylchedd diogel a gofal a chefnogaeth sydd wedi'u teilwra i fodloni anghenion penodol y plant unigol wrth i'r Cyngor geisio dod o hyn i lety cofrestredig. Esboniodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth fod pob opsiwn yn cael ei ystyried cyn penderfynu ar leoliad sy'n gweithredu heb fod wedi'i gofrestru, ac mae hyn yn cynnwys cefnogi'r bobl ifainc yn y cartrefi sydd ar gael ar hyn o bryd er mwyn osgoi gwaethygu'r mater; a datblygu darpariaeth therapiwtig a chymorth o ran lleoli plant. Yn ogystal â hyn, esboniwyd bod adnoddau RhCT yn cael eu hystyried cyn dewis lleoliad sy'n gweithredu heb fod wedi'i gofrestru. Os nad  ...  view the full Cofnodion text for item 110.

111.

Rhaglen Waith Y Cabinet pdf icon PDF 105 KB

Derbyn adroddiad y Cyfarwyddwr Gwasanaeth – Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu, sy'n rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am Raglen Waith y Cabinet o ran y rhestr arfaethedig o faterion y mae angen i'r Cabinet eu hystyried yn ystod Blwyddyn 2022-23 y Cyngor.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth – Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu yr wybodaeth ddiweddaraf i'r Cabinet am Raglen Waith y Cabinet, gan gynnwys y rhestr arfaethedig o faterion y mae angen i'r Cabinet eu trafod yn ystod Blwyddyn 2022-23 y Cyngor. 

 

Rhoddodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth wybod i'r Aelodau fod newidiadau wedi'u gwneud i'r rhaglen waith ers ei chyhoeddi, bydd y rhain yn cael eu hadlewyrchu ar wefan y Cyngor. Rhoddodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth wybod y byddai cyfarfod ychwanegol yn cael ei drefnu ar gyfer y Cabinet ym mis Ebrill i sicrhau bod pob mater yn cael ei drafod erbyn diwedd Blwyddyn y Cyngor.

 

PENDERFYNODDy Cabinet:

1.     Cymeradwyo'r Rhaglen Waith ar gyfer Blwyddyn y Cyngor 2022-23 (gan addasu'n briodol ar ôl yr angen) a chael yr wybodaeth ddiweddaraf bob 3 mis.

 

 

112.

Teithio am Ddim ar Fysiau ledled Rhondda Cynon Taf ym mis Mawrth 2023 pdf icon PDF 138 KB

Derbyn adroddiad Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Rheng Flaen sy'n gofyn i'r Cabinet gymeradwyo cynllun i ddarparu teithiau bws am ddim rhwng 1 a 31 Mawrth 2023. Byddai'r cynnig ar waith ar gyfer pob taith sy'n dechrau ac yn gorffen o fewn ffiniau Rhondda Cynon Taf. Byddai hyn yn berthnasol i bob cwmni sy'n darparu gwasanaethau bws ar yr amserlen gyfredol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Rheng Flaen yr adroddiad sy'n gofyn i'r Cabinet gymeradwyo cynllun i ddarparu teithiau bws am ddim rhwng 1 a 31 Mawrth 2023. Byddai'r cynnig ar waith ar gyfer pob taith sy'n dechrau ac yn gorffen o fewn ffiniau Rhondda Cynon Taf. Esboniodd y Cyfarwyddwr fod cais llwyddiannus y Cyngor i sicrhau cyllid yn rhan o Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU yn cyflwyno mentrau a fydd yn helpu i leihau costau byw ar gyfer trigolion a hynny gan weithredu mesurau sy'n gwella effeithlonrwydd ynni ac sy'n mynd i'r afael â thlodi tanwydd a newid yn yr hinsawdd. Mae £500,000 pellach wedi'i ddyrannu ar gyfer blwyddyn ariannol 2022/23, gyda dyraniadau pellach gwerth £1.1miliwn ar gyfer 2023/24 ac £1.2miliwn ar gyfer 2024/25.

 

Os yw'r cynnig yn cael ei gymeradwyo, esboniodd y Cyfarwyddwr y byddai teithiau am ddim yn cael eu cynnig gan bob gweithredwr sy'n gweithredu amserlen ar gyfer bysiau yn y Fwrdeistref Sirol.  Os yw taith yn gorffen y tu allan i ffiniau RhCT, byddai angen talu am y rhan honno o'r daith.

 

Dywedodd yr Arweinydd mai £2.30 yw pris taith bws ar gyfartaledd yn RhCT ac esboniodd fod swyddogion wedi trafod model cychwynnol a oedd yn cynnwys cyfradd safonol o £2 ar gyfer y flwyddyn gyfan, sef cyfanswm o £2miliwn. Nid yw hyn yn fforddiadwy. Pe byddai'r Cyngor wedi dewis y gyfradd safonol o £2 am gyfnod o fis, byddai swm mawr o'r cyllid wedi cael ei ddychwelyd i'r Llywodraeth.

 

Aeth yr Arweinydd ymlaen i drafod Awdurdod Lleol arall, a oedd wedi cynnal cynllun peilot tebyg gan gynnig teithiau am ddim. Roedd cynnydd o 30% yn nifer y bobl oedd yn defnyddio'r gwasanaeth ac er nad oedd unrhyw dystiolaeth hirdymor o gynnydd sylweddol, y bwriad oedd cynyddu nifer y teithwyr yn y dyfodol. Nododd yr Arweinydd y byddai cynnydd yn nifer y bobl sy'n defnyddio gwasanaeth bws yn cefnogi'r Cyngor gyda'i ymrwymiadau o ran yr hinsawdd yn ogystal â helpu trigolion RhCT i arbed oddeutu £500,000 ar gostau teithio yn ystod y mis.

 

Rhoddodd yr Arweinydd wybod y bydd adolygiad o'r cynllun peilot yn cael ei gynnal ar ôl mis Mawrth a hynny er mwyn ennill dealltwriaeth o'r ffordd orau o ddefnyddio'r cyllid ychwanegol gwerth £1.2miliwn yn ystod y flwyddyn ariannol newydd.

 

Gyda chytundeb yr Arweinydd, siaradodd Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol K. Morgan ar yr eitem yma.

 

Dymunodd yr Arweinydd ddiolch i'r Aelod am ei gyfraniad gan esbonio bod Llywodraeth Cymru wedi ymestyn y Cynllun Brys ar gyfer y Sector Bysiau am dri mis pellach, a bod modd ymestyn y cyfnod yma eto yn dilyn hynny.  Ychwanegodd yr Arweinydd y byddai Llywodraeth Leol yn galw ar Lywodraeth y DU i ddarparu cyllid pellach ar gyfer y Cynllun Brys ar gyfer y Sector Bysiau yn dilyn y cyhoeddiad yngl?n â'r gyllideb ar 14 Mawrth 2023. Roedd yr Arweinydd wedi cydnabod bod y cynnydd yng nghostau tanwydd ac ati wedi cael effaith ar y gwasanaethau.

 

Roedd y Dirprwy Arweinydd a'r Aelod o'r Cabinet ar faterion yr Amgylchedd  ...  view the full Cofnodion text for item 112.

113.

Rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy - Enwi Tair Ysgol Newydd yn Ardal Pontypridd pdf icon PDF 190 KB

Derbyn adroddiad y Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Cynhwysiant, sy'n rhoi cyfle i'r Cabinet drafod argymhellion y cyrff llywodraethu dros dro perthnasol mewn perthynas ag enwi'r tair ysgol newydd yn ardal Pontypridd.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNODD y Cabinet symud y drafodaeth yngl?n â'r eitem yma i gyfarfod yn y dyfodol.

 

114.

Y Diweddaraf am y Cynlluniau Rhyddhad Ardrethi Annomestig ac Ailbrisio pdf icon PDF 183 KB

Derbyn adroddiad Dirprwy Brif Weithredwr a Chyfarwyddwr Cyfadran Gwasanaethau Cyllid, Digidol a Rheng Flaen, sy'n rhannu manylion Cynllun Rhyddhad Ardrethi Annomestig Llywodraeth Cymru - Byd Masnach, Hamdden a Lletygarwch ar gyfer 2023/24; manylion cynllun  rhyddhad ardrethi busnes lleol arfaethedig; a manylion y Cynllun Ailbrisio Ardrethi Annomestig sy'n dod i rym ar 1 Ebrill 2023.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Pennaeth Refeniw a Budd-daliadau'r adroddiad i'r Cabinet, sy'n nodi:

a)    Manylion Cynllun Rhyddhad Ardrethi Manwerthu, Hamdden a Lletygarwch Llywodraeth Cymru ar gyfer 2023/24;

b)    Cynllun lleihau ardrethi busnes lleol arfaethedig; a

c)     Manylion y gwaith Ailbrisio Ardrethi Annomestig sy'n dod i rym ar 1 Ebrill 2023.

 

Roedd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion Newid yn yr Hinsawdd a Gwasanaethau Corfforaethol yn falch o nodi bod Llywodraeth Cymru wedi cydnabod yr heriau ariannol sy'n wynebu busnesau ledled Cymru, a chroesawodd y cynnydd yn lefel y rhyddhad ardrethi i 75% yn y sectorau Manwerthu, Hamdden a Lletygarwch. Roedd yr Aelod o'r Cabinet hefyd yn falch o nodi y bydd cynllun lleol y Cyngor hefyd yn cynyddu o £300 i £500 ar gyfer pob eiddo busnes cymwys gan nodi y bydd 600 o fusnesau yn elwa yn y flwyddyn nesaf. Daeth yr Aelod o'r Cabinet i ben drwy nodi y bydd y Cynllun Rhyddhad Trosiannol, ynghyd â chadw'r lluosydd ar gyfradd o 53.5c yn diogelu busnesau rhag effaith y gwaith Ailbrisio Ardrethi Annomestig.

 

Ychwanegodd yr Arweinydd y bydd cynyddu'r cynllun rhyddhad lleol o £300 i £500 yn arwain at gyflawni ymrwymiad y weinyddiaeth i ddarparu cymorth ychwanegol ar ben cynlluniau Llywodraeth Cymru.

 

PENDERFYNODDy Cabinet:

1.     Nodi cynnwys Cynllun Rhyddhad Ardrethi Manwerthu, Hamdden a Lletygarwch Llywodraeth Cymru a mabwysiadu'r cynllun ar gyfer 2023/24;

2.     Cynllun lleihau ardrethi busnes lleol arfaethedig ar gyfer 2023/24; a

3.     Nodi manylion y gwaith ailbrisio Ardrethi Annomestig.

 

Nodwch: Yn dilyn trafodaeth yngl?n â'r mater, roedd yr Arweinydd wedi gadael y cyfarfod a chamodd y Dirprwy Arweinydd i rôl y Cadeirydd.

 

 

115.

Cyllideb Refeniw'r Cyngor ar gyfer 2023-2024 pdf icon PDF 135 KB

Derbyn adroddiad Dirprwy Brif Weithredwr a Chyfarwyddwr Cyfadran Gwasanaethau Cyllid, Digidol a Rheng Flaen, sy'n cyflwyno canlyniadau ail gam yr ymgynghoriad ar y gyllideb a'r Strategaeth Gyllideb ddrafft y bydden nhw'n  ei chyflwyno i'r Cyngor, a'i diwygio yn ôl yr angen.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhannodd y Dirprwy Brif Weithredwr a Chyfarwyddwr Cyfadran - Cyllid, Gwasanaethau Digidol a Gwasanaethau Rheng Flaen y strategaeth gyllideb ddrafft er mwyn i'r Cabinet ei drafod a'i chyflwyno i'r Cyngor er mwyn ei chymeradwyo.

 

Manteisiodd y Dirprwy Arweinydd ar y cyfle i ddiolch i swyddogion am fynd i'r afael â'r gyllideb mewn modd cynaliadwy, yn enwedig o ran defnyddio cyllid trosiannol. Roedd y Dirprwy Arweinydd wedi cydnabod y pwysau parhaus o ran gofal cymdeithasol ac aeth ati i gynnig bod y Cabinet yn diwygio'r strategaeth arfaethedig er mwyn bwrw ymlaen â'r cynnydd o 3.90% yn Nhreth y Cyngor. Roedd y Dirprwy Arweinydd o'r farn y bydd y cynnydd bach yma'n rhoi Cyngor RhCT ymhlith yr Awdurdodau Lleol â'r cyfraddau Treth isaf yng Nghymru.

 

Nododd y Dirprwy Arweinydd fod arbedion wedi dod o feysydd caffael, technoleg, swyddfa gefn ac arbedion effeithlonrwydd; a bod y Cyngor wedi osgoi dileu swyddi'n orfodol. Nododd y Dirprwy Arweinydd fod llai o gyfleoedd nag erioed i sicrhau arbedion mewn meysydd sydd ddim yn rhai rheng flaen. 

 

Yn sgil sylwadau'r Dirprwy Arweinydd, cynigodd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion Newid yn yr Hinsawdd a Gwasanaethau Corfforaethol y dylai'r Cabinet gymeradwyo'r cynigion sydd wedi'u nodi yn yr adroddiad gan gynnig argymhelliad ychwanegol, sef diwygio'r cynnydd arfaethedig yn Nhreth y Cyngor ar gyfer 2023/24 i 3.90%, a phenderfynu bod y lefel yma'n cael ei chynnwys yn rhan o Strategaeth Gyllideb y Cabinet ar 8 Mawrth 2023.

 

PENDERFYNODDy Cabinet:

1.     Adolygu a diwygio'r Strategaeth Gyllideb y mae'r Cabinet yn dymuno'i hargymell i'r Cyngor ar 8 Mawrth 2023;

2.     Diwygio'r cynnydd arfaethedig o ran Treth y Cyngor ar gyfer 2023/24 i 3.90%, er mwyn lliniaru'r pwysau sydd ar y gwasanaethau gofal cymdeithasol, a nodi bod y lefel yma'n rhan o Strategaeth Gyllideb y Cabinet a fydd yn cael ei chyflwyno i'r Cyngor ar 8 Mawrth 2023; ac

3.     Argymell i'r Cyngor ei fod yn awdurdodi'r Dirprwy Brif Weithredwr a Chyfarwyddwr Cyfadran - Cyllid, Gwasanaethau Digidol a Gwasanaethau Rheng Flaen i ddiwygio'r gyllideb ganlyniadol er mwyn cynnwys y Setliad Terfynol fel sydd wedi'i nodi yn Adran 4 o'r adroddiad.

 

 

116.

Rhaglen Gyfalaf pdf icon PDF 283 KB

Derbyn adroddiad Dirprwy Brif Weithredwr a Chyfarwyddwr Cyfadran Gwasanaethau Cyllid, Digidol a Rheng Flaen, sy'n cyflwyno i'r Cabinet raglen gyfalaf dair blynedd arfaethedig ar gyfer 2023/24 hyd at 2025/26, a fydd yn cael ei chyflwyno i'r Cyngor i'w chymeradwyo, os yw'n dderbyniol.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Cyllid a Gwasanaethau Digidol fanylion rhaglen gyfalaf dair blynedd arfaethedig ar gyfer 2023/24 hyd at 2025/26, a fydd yn cael ei chyflwyno i'r Cyngor i'w chymeradwyo, os yw'n dderbyniol.

 

Manteisiodd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion Newid yn yr Hinsawdd a Gwasanaethau Corfforaethol ar y cyfle i ddiolch i'r Cyfarwyddwr am yr adroddiad ac roedd yn falch o nodi bod y rhaglen gyfalaf yn parhau i ddarparu lefel o fuddsoddiad cyfalaf sydd ymhlith yr uchaf gan unrhyw Awdurdod Lleol yng Nghymru, a hynny er gwaetha'r sefyllfa ariannol heriol ar hyn o bryd. Nododd yr Aelod o'r Cabinet fod y buddsoddiad yn cefnogi darparu newidiadau gweladwy yn ein cymunedau ac yn gwella cymunedau ledled RhCT o ganlyniad i hynny.

 

Adleisiodd y Dirprwy Arweinydd sylwadau'r Aelod o'r Cabinet ac roedd hi'n falch o nodi'r rhaglen fuddsoddi uchelgeisiol, er gwaetha'r hinsawdd ariannol gyfredol.

 

PENDERFYNODDy Cabinet:

1.     Adolygu a chynnig y rhaglen gyfalaf tair blynedd sydd wedi'i hatodi i'r Cyngor ar 8 Mawrth 2023 sy'n cynnwys:

·       Cynllun arfaethedig i ddyrannu adnoddau fel sydd wedi'u nodi ym mharagraff 5 o'r adroddiad;

·       Blaenoriaethau buddsoddi arfaethedig fel sy'n cael eu manylu ym mharagraff 6.2 o'r adroddiad;

·       Rhaglen gyfalaf graidd y Cyngor;

·       Cyfanswm rhaglen gyfalaf y Cyngor, gan gynnwys cyllid ychwanegol sydd ddim yn gyllid craidd.

 

2.     Awdurdodi'r Dirprwy Brif Weithredwr a Chyfarwyddwr Cyfadran - Cyllid, Gwasanaethau Digidol a Gwasanaethau Rheng Flaen i ddiwygio lefel Adnoddau'r Cyngor sydd eu hangen i ariannu'r Rhaglen Gyfalaf Tair Blynedd Graidd, fel sydd wedi'i nodi yn Atodiad 2 o ganlyniad i unrhyw newid i lefelau adnoddau cyfalaf y Cyngor a gyhoeddwyd yn y Setliad Llywodraeth Leol Terfynol.