Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Hybrid

Cyswllt: Hannah Williams - Uned Busnes Y Cyngor  07385401954

Cyfryngau

Eitemau
Rhif eitem

72.

Datgan Buddiant

Derbyn datganiadau o fuddiannau personol gan Aelodau yn unol â'r Cod Ymddygiad.

 

Nodwch:

 

1.     Mae gofyn i Aelodau ddatgan rhif a phwnc yr eitem mae eu buddiant yn ymwneud ag ef a mynegi natur y buddiant personol hwnnw; a

2.     Lle bo Aelodau'n ymneilltuo o'r cyfarfod o ganlyniad i ddatgelu buddiant sy'n rhagfarnu, rhaid iddyn nhw roi gwybod i'r Cadeirydd pan fyddan nhw'n gadael.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Yn unol â Chod Ymddygiad y Cyngor, cafodd y datganiad o fuddiant personol canlynol ei wneud yngl?n â'r Cynllun Rheoli Asedau Corfforaethol:

Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol M Webber – “Mae Ysgol Gynradd Heol-y-Celyn yn fy ward”.

73.

Cofnodion pdf icon PDF 113 KB

Derbyn cofnodion o gyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 7 Tachwedd 2022 yn rhai cywir.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNODD y Cabinet gymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 7 Tachwedd 2022 yn rhai cywir.

74.

Adroddiad Blynyddol y Bwrdd Rhianta Corfforaethol 2021 i 2022 pdf icon PDF 163 KB

 

Derbyn adroddiad y Cyfarwyddwr Gwasanaeth – Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu sy'n cyflwyno Adroddiad Blynyddol y Bwrdd Rhianta Corfforaethol ar gyfer Blwyddyn y Cyngor 2021 i 2022 i'r Cabinet.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Darparodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth – Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu  Adroddiad Blynyddol drafft y Bwrdd Rhianta Corfforaethol ar gyfer Blwyddyn y Cyngor 2021 i 2022 i'r Aelodau. 

 

Dywedodd wrth y Cabinet fod gyda'r Bwrdd Rhianta Corfforaethol, yn rhan o Gynllun Dirprwyo'r Arweinydd, aelodaeth drawsbleidiol ac yn unol â'i gylch gorchwyl mae'n ofynnol i'r Bwrdd Rhianta Corfforaethol lunio Adroddiad Blynyddol sy'n darparu crynodeb o rôl a gwaith y Bwrdd a gyflawnwyd yn ystod Blwyddyn y Cyngor 2021 i 2022, a’i uchelgeisiau i’r dyfodol.

 

Cyfeiriodd Cyfarwyddwr Gwasanaeth – Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu yr Aelodau at yr adran yn yr adroddiad a oedd yn nodi'r meysydd a nodwyd ar gyfer y rhaglen waith yn y dyfodol a fydd yn cael eu datblygu gan gadeirydd presennol y Bwrdd, y Cynghorydd G Caple.

 

Dywedodd yr Aelod o'r Cabinet dros Faterion Newid yn yr Hinsawdd a Gwasanaethau Corfforaethol ei bod wedi bod yn fraint cael cadeirio Bwrdd Rhianta Corfforaethol y Cyngor, gan siarad am ba mor werthfawr oedd cael ymweliadau gan gynhalwyr, a phwysigrwydd gwahodd pobl ifainc i fynychu lle bo modd, a hynny i glywed eu barn yn uniongyrchol.A hithau'n Gadeirydd blaenorol y Bwrdd, dywedodd y Cynghorydd Leyshon wrth yr Aelodau eu bod nhw wedi ystyried llawer o adroddiadau yn ystod y flwyddyn ac roedden nhw o'r farn ei bod yn bwysicach nag erioed yn sgil effeithiau'r pandemig ein bod ni'n cael yr wybodaeth a'r newyddion diweddaraf am ein staff a'n pobl ifainc yn ein gofal. Dywedodd fod y staff wedi bod yn anhygoel yn ystod y pandemig, gan barhau i ddarparu gwasanaethau rhagorol i'n pobl ifainc.

 

Aeth yr Aelod o'r Cabinet ymlaen i ddiolch i Aelodau'r Bwrdd. Dymunodd yn dda i'r Aelod o'r Cabinet newydd dros Faterion Iechyd a Gofal Cymdeithasol, y Cynghorydd Gareth Caple, yn ei rôl yn Gadeirydd yn y dyfodol.

 

Nododd yr Aelod o'r Cabinet dros Faterion Iechyd a Gofal Cymdeithasol fod yr adroddiad yn un cynhwysfawr iawn, gan ychwanegu nad oes gwell fuddsoddiad na chefnogi pobl ifainc a phlant hyd atyn nhw'n dod yn oedolion. Rhoddodd ei ddiolch i ymroddiad ac ymrwymiad y staff ac i'r Cynghorydd Leyshon am ei gwaith yn Gadeirydd y Bwrdd yn ystod Blwyddyn y Cyngor flaenorol.

 

Ar ôl trafod yr adroddiad, PENDERFYNWYD ei nodi.

75.

Adroddiad ar Gyflawniad y Cyngor pdf icon PDF 513 KB

Derbyn adroddiad Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cyllid a Digidol sy'n rhoi crynodeb i'r aelodau am gyflawniad y Cyngor dros chwe mis cyntaf y flwyddyn ariannol hon (hyd at 30 Medi 2022), mewn perthynas â materion ariannol a gweithredol fel ei gilydd.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth – Gwasanaethau Cyllid a Gwella yr adroddiad a oedd yn nodi cyflawniad ariannol a gweithredol y Cyngor yn ystod yr ail chwarter o fis Ebrill hyd at 30 Medi 2022.

 

Yn ôl sefyllfa cyllideb refeniw yr ail chwarter, y rhagolwg yw y bydd gorwariant o £10.277 miliwn. Dydy hyn ddim yn cynnwys goblygiadau cost dyfarniad cyflog 2022 i 2023 ar gyfer gweithwyr y Cyd-gyngor Cenedlaethol ar gyfer Gwasanaethau Llywodraeth Leol y cytunwyd arno ar 1 Tachwedd 2022, na chynnig dyfarniad cyflog athrawon 2022 i 2023 a wnaed gan Lywodraeth Cymru. Mae'r rhain yn cyfateb i gynnydd yn y bil cyflogau o £10.5 miliwn ar gyfer y flwyddyn gyfredol, gan olygu y bydd gorwariant cyffredinol o bron i £21 miliwn yn ôl y rhagolwg.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth – Gwasanaethau Cyllid a Gwella mai'r buddsoddiad cyfalaf ar 30 Medi 2022 oedd £45.485 miliwn. Mae hyn yn cynrychioli buddsoddiad cyfalaf parhaus sylweddol yn asedau a seilwaith y Cyngor ledled y fwrdeistref sirol.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth – Gwasanaethau Cyllid a Gwella mai'r ffactorau allweddol sy'n cyfrannu at y gorwariant yn y rhagolwg yw'r galw mawr am ofal cymdeithasol parhaus a'r costau sydd ynghlwm, pwysau costau chwyddiant a lefelau is parhaus o ddefnyddio gwasanaethau.

 

Cyfeiriodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth yr Aelodau at bob adran unigol o'r adroddiad, gan ychwanegu bod adran ychwanegol wedi'i hymgorffori yn yr adroddiad, sef Adran 7 – 'Mynd i'r Afael â Newid yn yr Hinsawdd'. Mae hyn yn rhoi diweddariad ar gynnydd y gwaith sy'n mynd rhagddo gan wasanaethau i helpu â chyflawni amcanion Strategaeth Mynd i'r Afael â Newid yn yr Hinsawdd y Cyngor, sef 'Hinsawdd Ystyriol RhCT'.

 

Sylwadau Aelodau o'r Cabinet

 

Dywedodd yr Aelod o'r Cabinet dros Faterion Newid yn yr Hinsawdd a Gwasanaethau Corfforaethol fod yr adroddiad yn nodi'n glir lle mae'r pwysau ar y gyllideb, yn enwedig gyda gwasanaethau rheng flaen megis y Gwasanaethau i Blant a Gwasanaethau Cymdeithasol i Oedolion, yn ogystal â darparu cludiant o'r cartref i'r ysgol o ganlyniad i gostau uwch o ran staffio a gweithredu cerbydau. O ran sefyllfa'r Gwasanaethau Hamdden, ychwanegodd yr Aelod o'r Cabinet ei fod yn gadarnhaol nodi bod un o'r meysydd allweddol a oedd yn creu pwysau yn ystod y chwarter cyntaf, sef lefelau incwm, bellach wedi gwella, wrth i ragor o ddefnyddwyr ddychwelyd i'r canolfannau hamdden.

 

Dywedodd yr Aelod o'r Cabinet dros Faterion Newid yn yr Hinsawdd a Gwasanaethau Corfforaethol mai cyfanswm cyllideb buddsoddiad y Rhaglen Gyfalaf ar gyfer eleni yw £172 miliwn. Mae hyn yn cynrychioli rhaglen fuddsoddi hirdymor, wedi'i chefnogi'n rhannol gan gyllid Llywodraeth Cymru, ac yn sicrhau gwelliannau i eiddo’r Cyngor y mae modd eu gweld ledled y fwrdeistref sirol. Nododd yr Aelod o'r Cabinet rai meysydd allweddol megis prosiectau moderneiddio ysgolion, ystod o welliannau i'r priffyrdd, buddsoddiad parhaus i fynd i’r afael ag eiddo gwag, ac adeiladu cyfleuster gofal ychwanegol newydd ym Mhorth.

 

Aeth yr Arweinydd ati i ddiolch i'r Swyddogion am reoli'r cyllid a darparu'r diweddariadau. Ychwanegodd fod yr adroddiad yn nodi'n glir y pwysau ar wasanaethau  ...  view the full Cofnodion text for item 75.

76.

Trafod cadarnhau’r cynnig isod yn benderfyniad:

“Bod y cyfarfod hwn yn cadw aelodau o'r wasg ac aelodau o'r cyhoedd allan o ystafell y cyfarfod, dan Adran 100A(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol (fel y'i diwygiwyd), yn ystod trafod yr eitem nesaf, ar y sail y byddai'n debygol o olygu datgelu gwybodaeth eithriedig yn ôl diffiniad paragraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf.”

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD: Bod y cyfarfod hwn yn cadw aelodau o'r wasg ac aelodau o'r cyhoedd allan o ystafell y cyfarfod, dan Adran 100A(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol (fel y'i diwygiwyd), yn ystod trafod yr agendwm nesaf, ar y sail y byddai'n debygol o olygu datgelu gwybodaeth eithriedig yn ôl diffiniad paragraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf.”

 

77.

Cynllun Rheoli Asedau Corfforaethol – Diweddariad Interim 2018 i 2023

Derbyn adroddiad Cyfarwyddwr Materion Eiddo'r Cyngor sy'n rhoi gwybod i'r Cabinet am y cynnydd yn erbyn themâu allweddol Cynllun Rheoli Asedau Corfforaethol 2018 i 2023.

 

 

Cofnodion:

Rhoddodd y Cyfarwyddwr Materion Eiddo'r Cyngor adroddiad cynnydd i'r Cabinet mewn perthynas â themâu allweddol Cynllun Rheoli Asedau Corfforaethol 2018 i 2023.

 

PENDERFYNWYD: Trafod cynnwys yr adroddiad ac

2. Ystyried cynnwys y Llawlyfr Gwaredu Eiddo

78.

Materion Brys

Trafod unrhyw faterion brys y mae'r Cadeirydd yn eu gweld yn briodol.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim